Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Rheoliadau Drafft Rhan 25 o’r Ddeddf Cwmnïau

Rhoesom wybod i’n cwsmeriaid am newidiadau arfaethedig i Ran 25 o’r Ddeddf Cwmnïau y llynedd.

 Mae’r Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS) bellach wedi cwblhau rheoliadau drafft ac mae’r adran eisiau rhoi cyfle olaf i chi ystyried testun y rheoliadau drafft sy’n diwygio Rhan 25 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (cofrestru arwystlon cwmni) cyn iddynt gael eu gosod gerbron dau Dŷ’r Senedd yn yr Hydref. Hefyd, i’ch galluogi i wneud unrhyw baratoadau yr ydych yn eu hystyried yn angenrheidiol, i fod yn barod ar yr adeg y daw’r newidiadau arfaethedig i rym, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd.

Os oes gennych unrhyw bryderon am unrhyw ganlyniadau arwyddocaol, bwriadol neu anfwriadol, y bydd y newidiadau hyn o bosibl yn eu cael, yr ydych eisiau eu codi gyda’r Adran, anfonwch ateb at y cyfeiriad e-bost canlynol cyn 5yp ar 7fed Medi 2012:

part25companiesact2006@bis.gsi.gov.uk

Gellir gweld y rheoliadau drafft i gwmnïau a Phartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig yn ogystal â nodyn esboniadol yn rhoi’r sail resymegol dros ein diwygiadau arfaethedig ar wefan BIS .

Gallwch hefyd weld yr ymgynghoriad blaenorol ac ymateb y Llywodraeth ar y dudalen hon.

Brig
Ein polisi ar gwcis