Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cynhyrchion Data

URI (Dynodwyr Adnoddau Unigryw) cwmnïau

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi datblygu gwasanaeth newydd i gyflenwi manylion sylfaenol am gwmnïau, gan ddefnyddio Dynodydd Adnodd Unffurf (URI) syml ar gyfer pob cwmni ar ein cofrestr. Cyfeiriad gwe unigryw sy’n cynrychioli'r cwmni (gan ddefnyddio'r parth 'business.data.gov.uk') yw'r URI; a bydd yn rhoi manylion sylfaenol ar gyfer y cwmni hwnnw. Mae chwe fformat yn cael eu cynnal ar gyfer Dynodwyr Adnodd Unffurf cwmnïau: RDF, JSON, XML, CSV, YAML ac HTML.

Dysgu mwy am URI cwmnïau

Cynnyrch Data Cyhoeddus Am Ddim

Mae’r Cynnyrch Data Cyhoeddus Am Ddim yn giplun data y gellir ei lawrlwytho sy’n cynnwys data cwmni sylfaenol am gwmnïau sy’n weithredol ar y gofrestr. Darperir y ciplun fel ffeiliau sip ac ynddynt ddata ar fformat CSV ac mae wedi’i rannu’n nifer o ffeiliau i’w gwneud yn haws ei lawrlwytho.

Dysgu mwy am Cynnyrch Data Cyhoeddus Am Ddim

Porth XML (XML Gateway)

Mae'r Porth XML yn cynnig mynediad electronig at ystod greiddiol o wybodaeth am gwmnïau o Gronfeydd Data Tŷ'r Cwmnïau. Mae modd i gwsmeriaid Porth XML awdurdodedig gyrchu'r gwasanaeth ar lein dros y rhyngrwyd.

Dysgu mwy am Porth XML (Saesneg yn unig)

Brig
Ein polisi ar gwcis