Canllaw ar gwblhau’ch ffurflen gais i ddileu cwmni o’r Gofrestr yn wirfoddol (ffurflen DS01neu DS01c)
Efallai bod y ffurflen gais (DS01/DS01c) i ddileu cwmni o'r Gofrestr yn wirfoddol yn ymddangos yn syml, ond mae llawer yn cael eu gwrthod ar gyfer ffeilio a’u hanfon yn ôl i’w newid. Rhowch sylw arbennig i’r prif resymau dros wrthod y ffurflen a’r canllawiau ar sut i’w hosgoi:
Enw printiedig y llofnodydd yn eisiau
Rhaid i enw pob llofnodydd gael ei brintio’n glir yn y maes ‘Enw’ sydd yn adran 3 o ffurflen DS01/DS01c.
Dyddiad y llofnod yn eisiau
Gyda phob llofnod rhaid rhoi dyddiad yn y maes ‘Dyddiad y llofnod’ yn adran 3 o ffurflen DS01/DS01c.
Ffurflen heb ei llofnodi gan fwyafrif o’r cyfarwyddwyr
Rhaid i fwyafrif o gyfarwyddwyr y cwmni lofnodi ffurflen DS01/DS01c (adran 3). Er enghraifft, os oes gan y cwmni ddau gyfarwyddwr, rhaid i’r ddau lofnodi’r ffurflen, neu os oes gan y cwmni dri chyfarwyddwr, rhaid i o leiaf ddau ei llofnodi.
Ffi o £10 heb ei hanfon
Rhaid i ffi o £10 (trwy siec neu archeb bost) gael ei hanfon gyda’r ffurflen, wedi’i gwneud yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’. Ni ddylai sieciau fod yn daladwy o gyfrif y cwmni sy’n gwneud cais i gael ei ddileu o’r Gofrestr.
Enw neu rif y cwmni yn anghywir neu yn eisiau
Rhaid i enw a rhif y cwmni gael eu rhoi ar y ffurflen yn llawn. Dylai’r ddau fod yr un peth â’r enw a’r rhif a gedwir yng nghofnodion Tŷ’r Cwmnïau.
Ewch i ffurflen DS01c
I gael mwy o wybodaeth am y broses o wneud cais i ddileu o’r Gofrestr, edrychwch ar ein canllawiau manwl a’r cwestiynau cyffredin trwy ddefnyddio’r dolenni isod:
Canllaw GP4 – Dileu o’r Gofrestr, Diddymu ac Adfer
Cwestiynau cyffredin – Dileu o’r Gofrestr, Diddymu ac Adfer
Cwestiynau cyffredin – Cau / Diddymu cwmni
|