|
Digwyddiadau
Bob blwyddyn, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn trefnu neu’n mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau i gefnogi a chynghori busnesau. Mae hyn yn cynnwys mynychu arddangosfeydd yn canolbwyntio ar fusnes ledled y DU a threfnu seminarau i gynnal breichiau cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion newydd.
Byddwn hefyd yn teithio drwy’r DU i gyd:
- yn hybu gwasanaethau Tŷ’r Cwmnïau
- yn cynghori busnesau ar sut i gwrdd â’u rhwymedigaethau o dan y Ddeddf Cwmnïau
- i roi cyfle i gwrdd â’n staff a thrafod materion â nhw
Seminarau Am Ddim Er mwyn helpu cwmnïau i gadw o fewn y gyfraith, rydyn ni’n cynnal nifer o seminarau i drafod cyfrifoldebau cyfreithiol cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion cwmnïau o dan ddeddfwriaeth Deddf Cwmnïau 2006, a hynny drwy gydol y flwyddyn.
Seminarau Ar Gyfer Cyfarwyddwyr Newydd eu PenodiEr mwyn helpu cwmnïau i gadw o fewn y gyfraith, rydyn ni’n cynnal nifer o seminarau i drafod cyfrifoldebau cyfreithiol cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion cwmnïau o dan ddeddfwriaeth Deddf Cwmnïau 2006, a hynny drwy gydol y flwyddyn.
ArddangosfeyddMynychwn a chefnogwn amrywiaeth o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn
Grwpiau FfocwsYmdrechwn yn gyson i wella’r gwasanaethau a gynigiwn i’n cwsmeriaid. I wneud hyn yn effeithiol, mae’n bwysig i’n sefydliad fod â dealltwriaeth fras o anghenion ei gwsmeriaid. Un o’r ffyrdd y byddwn yn ennill ac yn gwella’n gwybodaeth yw drwy gyfrwng ein grwpiau ffocws rhanbarthol.
.
|