Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Papur Gwyrdd y Comisiwn Europeaidd

Yn ddiweddar, mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi mabwysiadu Papur Gwyrdd sy'n ystyried cydgysylltiad cofrestrau busnesau. Mae'r papur yn nodi fframwaith presennol y cofrestrau busnesau ar draws UE, gan ystyried ffyrdd o wella'r trefniadau er mwyn troi at wybodaeth am gwmnïau a'r cydweithrediad rhwng cofrestrau busnesau.  Estynnir gwahoddiad i'r rhai y mae ganddynt ddiddordeb yn y maes hwn i wneud sylwadau am y dewisiadau a gynigir yn y papur. Os hoffech ymateb, dylech anfon eich sylwadau yn uniongyrchol i'r Comisiwn erbyn 31 Ionawr 2010.  Byddai o ddefnydd pe bai modd i chi anfon copi o'ch ymateb hefyd i: companiesact2006@bis.gsi.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth am y Papur gwyrdd ac ynghylch sut i ymateb, trowch at wefan y Comisiwn Ewropeaidd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, dylech gysylltu â Helen Fletcher trwy anfon e-bost at hfletcher@companieshouse.gov.uk."

Brig
Ein polisi ar gwcis