Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 


Cofrestru Partneriaeth Gyfyngedig yr un Diwrnod a Chopïau Ardystiedig Partneriaethau Cyfyngedig – Sut i wneud cais am ad-daliad.

Cafodd ffioedd Tŷ’r Cwmnïau eu diwygio yn 2004 a daeth y ffioedd newydd i rym ar 1 Chwefror 2005. O ganlyniad i’r arolwg llawn, fe ddaeth yn amlwg bod gormod o dâl yn cael ei godi am gorffori Partneriaeth Gyfyngedig yr un diwrnod ac am y gwasanaeth copïau ardystiedig Partneriaethau Cyfyngedig. Cyn gynted ag y gwelwyd hyn, rhoes Tŷ’r Cwmnïau heibio i godi’r tâl anghywir. £2 a godir bellach am bob cofrestru.

Os codwyd gormod o dâl arnoch yn y gorffennol am gofrestru Partneriaeth Gyfyngedig yr un diwrnod neu am y gwasanaeth copïau ardystiedig Partneriaethau Cyfyngedig, cyflwynwyd trefniadau gennym fel y gallwn ad-dalu cwsmeriaid

 phwy y dylwn gysylltu?
Dylai cwsmeriaid sydd wedi cofrestru Partneriaeth Gyfyngedig drwy ddefnyddio’r gwasanaeth yr un diwrnod neu sydd wedi cael copïau ardystiedig Partneriaethau Cyfyngedig yng Nghymru a Lloegr gyflwyno cais ysgrifenedig am ad-daliad i:

Marie Connors
Gofal Cwsmeriaid
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

Dylai ymgeiswyr sydd wedi cofrestru Partneriaeth Gyfyngedig Albanaidd drwy ddefnyddio’r gwasanaeth yr un diwrnod neu wedi sicrhau copïau ardystiedig Partneriaethau Cyfyngedig gysylltu â:

Dianne Brooks
Companies House
4th Floor
Edinburgh Quay 2
139 Fountainbridge
Edinburgh EH3 9FF

LP - 4 Edinburgh 2 (Legal Post) neu
DX ED235 Edinburgh 1

Beth sydd angen arnaf i wneud cais am ad-daliad?
Dylai ymgeiswyr ddarparu enw a rhif cofrestru’r Bartneriaeth Gyfyngedig gyda phrawf o’u taliad gwreiddiol am y corffori yr un diwrnod neu’r copi ardystiedig.

Sylwer bod cyfarwyddyd cyfreithiol yn ei gwneud yn glir y dylai hawlwyr gymryd camau, mor bell ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, i uniaethu’u cleientiaid er mwyn trosglwyddo’r ad-daliad . Felly, byddwn yn gofyn i hawlwyr lofnodi copi o lythyr i’r perwyl hwn cyn rhyddhau ad-daliadau.

Gwybodaeth bellach am Bartneriaethau Cyfyngedig - GBO2 Limited Partnership Act.

Brig
Ein polisi ar gwcis