|
Newidiadau i’r Gofynion Cyfrifeg ac Archwilio Ariannol
OS 2004 Rhif 2947 - Rheoliadau Deddf Cwmnïau 1985 (Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol a Diwygiadau Cyfrifeg Eraill).
Bydd newidiadau diweddar i’r gofynion cyfrifeg ac archwilio ariannol o fewn Deddf Cwmnïau 1985 yn effeithio ar bob cwmni mewn rhyw ffordd, o flynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu wedi 1 Ionawr 2005. Dyma grynodeb byr o’r newidiadau hynny. Mae Nodiadau Canllaw sy’n egluro’r newidiadau’n fanylach i’w cael yn http://www.dti.gov.uk/files/file21617.doc.
Bydd pob cwmni, ar wahân i elusennau, yn cael dewis paratoi eu cyfrifon unigol drwy ddilyn Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol (IAS) yn hytrach na UK GAAP, a bydd cwmnïau sydd heb fasnachu’n gyhoeddus, ar wahân i elusennau, hefyd yn cael dewis paratoi eu cyfrifon cyfun drwy ddilyn y drefn IAS.
Bydd pob cwmni sy’n parhau i baratoi eu cyfrifon yn ôl UK GAAP yn cael manteisio ar opsiwn cyfrifeg newydd i ddilyn trefn cyfrifeg gwerth-teg yng nghyswllt offerynnau ariannol, eiddo buddsoddi a/neu blanhigion ac anifeiliaid byw.
I bob cwmni sy’n parhau i baratoi eu cyfrifon yn ôl UK GAAP, mae newidiadau i’r gofynion yn y meysydd hyn:
- sut a ble y caiff buddrannau arfaethedig eu datgelu yn y cyfrifon;
- sut y mae’n rhaid cyflwyno eitemau yn y fantolen a’r cyfrif elw a cholled;
- datgelu gwybodaeth am ddeilliadau.
I gwmnïau sydd â buddiannau tramor, dileir yr estyniad tri-mis awtomatig cyfredol o dan adran 244 o Ddeddf Cwmnïau 1985 ar gyfer gosod a chyflwyno cyfrifon.
I riant-gwmnïau, mae newidiadau i’r gofynion a’r opsiynau o ran cyfuno cyfrifon.
I bob cwmni ar wahân i gwmnïau bach, mae rheidrwydd newydd i ddatgelu gwybodaeth am offerynnau ariannol yn adroddiad y cyfarwyddwyr.
I gwmnïau sy’n trefnu i’w cyfrifon gael eu harchwilio, mae gofynion newydd yng nghyswllt yr adroddiad archwilio.
I gwmnïau sy’n cyhoeddi datganiadau ariannol cryno, gellir bellach adolygu’r rhain yn wirfoddol yn yr un modd â chyfrifon blynyddol ac adroddiadau cyfarwyddwyr.
Yn ychwanegol at newidiadau i Ddeddf Cwmnïau 1985, gwneir newidiadau cyfochrog i Safonau Adrodd Ariannol y DU, a fydd yn effeithio ar bob cwmni sy’n parhau i ddilyn y safonau domestig. Amlinellir y newidiadau hyn yn y Nodiadau Canllaw y cyfeiriwyd atynt uchod.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cliciwch ar y cyswllt canlynol
http://www.dti.gov.uk/bbf/financial-reporting/standards/page21457.html
|