Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Gwybodaeth am Gyfalaf a Cyfranddeiliaid

Rydym yn newid y ffordd y byddwn yn rheoli’r wybodaeth am Gyfalaf a Chyfranddeiliaid a gyflwynir inni ar ffurflenni papur 363 Ffurflen Flynyddol a 88(2) Clustnodi Cyfrannau.

Ni fydd yr wybodaeth am Gyfalaf a Chyfranddeiliaid a gyflwynwch inni ar y ffurflenni hyn yn cael ei diweddaru gennym ni mwyach.

O1 Ebrill 2007 ymlaen, ni fydd y manylion ynglŷn â Chyfalaf a Chyfranddeiliaid yn cael ei rhagargraffu ar eich Ffurflen Flynyddol bapur mwyach. Mae hyn yn golygu, os parhewch i ddefnyddio’r dogfennau papur hyn y bydd angen i chithau gwblhau’r wybodaeth am gyfrannau.

Sylwer, mae'n rhaid ichi gwblhau rhan 3 o'ch ffurflen flynyddol “Cyfalaf Cyfrannau Dosbarthedig” bob blwyddyn cyn ichi anfon y ffurflen atom.

Sylwer y bydd angen ichi roi inni restr lawn o’r cyfranddeiliaid gyda’r Ffurflen Flynyddol gyntaf a phob yn drydedd ffurflen.

Bydd gwybodaeth am Gyfalaf a Chyfranddeiliaid yn parhau i ymddangos ar gofnod y cwmni ar y copïau a’r delweddau o’r dogfennau hynny y trefnwn iddynt fod ar gael i chwilwyr.

Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gwsmeriaid sy’n ffeilio’r ffurflenni dan sylw yn electronig, gan fod eu manylion nhw yn cael eu diweddaru’n awtomatig gan ein systemau cyfrifiadurol.

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut i ffeilio ar-lein, gan gynnwys rhestr o’r eithriadau o ran ffeilio Ffurflen Flynyddol, ewch i www.companieshouse.gov.uk/welsh/

 

Brig
Ein polisi ar gwcis