Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 
Ein prif swyddogaethau Ac Hanes
Bwrdd a Rheolwyr Tŷ'r Cwmnïau
Cyflenwi Tŷ'r Cwmnïau
Llyfrgell


Swyddogaeth Dyfarnwyr Annibynnol Tŷ'r Cwmnïau yw ymchwilio i gwynion am oedi, anghwrteisi a chamgymeriadau a'r modd y bydd Tŷ'r Cwmnïau wedi ymdrin â'r cwynion hyn.

Bydd y Beirniaid hefyd yn adolygu apeliadau ysgrifenedig yn erbyn codi cosbau ffeilio hwyr, er bod y cyfle i ddefnyddio disgresiwn yn gyfyngedig iawn gan fod y Senedd wedi pennu beth yn union y caiff ac na chaiff y Cofrestrydd Cwmnïau ei wneud. Mae'r proses cosbau ffeilio hwyr wedi ei nodi'n ddiamwys yng nghanllawiau Tŷ'r Cwmnïau ar Gosbau Ffeilio Hwyr – Apeliadau; byddwch cystal â darllen yr wybodaeth hon cyn ysgrifennu at y Fonesig Elizabeth ynglŷn â chosb ffeilio hwyr.

Y Fonesig Elizabeth Neville, DBE QPM DL, MA Oxon, PhD London– ymddeolodd fel Prif Gwnstabl Heddlu Wiltshire yn 2004. Roedd hi'n Asesydd Cwynion Annibynnol dros asiantaethau'r Adran Drafnidiaeth hyd Ebrill 2010. Mae'r Fonesig Elizabeth yn Gyfarwyddwr Anweithredol y Swyddfa Twyll Difrifol, yn aelod o'r Awdurdod Heddlu Niwclear Sifil ac aelod o  Banel Penderfyniadau'r Rheolydd Pensiwn. Roedd hi'n Uchel Siryf Wiltshire am 2010/2011.

Jessica Pacey, LLM (Cyfraith Eglwysig), MBA – mae hi'n farnwr Tribiwnlys, yn gwrando apeliadau yn Nhribiwnlys haen gyntaf y siambr Hawl Cymdeithasol. Mae Jessica yn Farnwr Mewnfudo yn y Tribiwnlys Mewnfudo Lloches, gan wrando a phenderfynu ar apeliadau gwrandawiad cyntaf ar geisiadau hawliau dynol, lloches a mewnfudo. Roedd Jessica yn uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Nottingham hyd Ionawr 2011.

Leslie Cuthbert, LLB, LLM – graddiodd gydag LLB o Brifysgol Brunel ac LLM mewn Ymgyfreitha Troseddol o Ysgol Gyfraith Inns Court. Bu Leslie yn eistedd fel Cofiadur Llys y Goron, yn Dyfarnwr Codi Ffi ar Ddefnyddwyr Ffyrdd gan wrando apeliadau yn erbyn tâl atal tagfeydd Llundain, a gweithredodd fel Barnwr Tribiwnlys ar gyfer y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl. Bydd Leslie yn cynnal hyfforddiant yn rheolaidd ar Arferion Ymchwiliol Uwch mewn ymchwiliadau troseddol, cyflogaeth a rheoleiddio, gan gynnwys ymdrin â chwynion, yn y Deyrnas Unedig a thramor. Ymhlith ei benodiadau eraill y mae'n eistedd ar fwrdd golygyddol 'Tribunals Journal'. Mae Leslie yn aelod o Sefydliad Siartredig y Cymrodeddwyr a Chymrawd y Gymdeithas Frenhinol er hybu'r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach.

Ni all y Beirniaid ddelio â'r canlynol:

Cwestiynau ynghylch y Gyfraith Gwmnïau

Defnyddio disgresiwn gan yr Ysgrifennydd Gwladol

Cwynion sydd dan ystyriaeth gan Ombwdsman y Senedd a'r Gwasanaeth Iechyd

Unrhyw achos lle ceir gweithrediadau troseddol

Cwynion henach na chwe mis.

Mae angen i Dŷ'r Cwmnïau gael cyfle i ddatrys unrhyw anghydfod, felly cyn cael ei hatgyfeirio i sylw'r Beirniaid, mae'n rhaid bod cwyn wedi mynd drwy holl drefn fewnol Tŷ'r Cwmnïau a chan hynny bod wedi cael ei hystyried gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethu Cwsmeriaid.

PEIDIWCH AG YSGRIFENNU OS NA DDILYNWYD Y DREFN HON.

Os byddwch yn dal yn anfodlon ar ôl cael dyfarniad, gallwch gysylltu â'ch Aelod Seneddol a gofyn am i'r gŵyn gael ei hatgyfeirio i sylw Ombwdsman y Senedd a'r Gwasanaeth Iechyd.

Os ydych yn anhapus hefyd ynglŷn â chanlyniad dyfarniad mewn perthynas â chosb ffeilio hwyr, gallwch ysgrifennu a gofyn i Gofrestrydd Cwmnïau Lloegr a Chymru (neu  Gofrestrydd Cwmnïau ar gyfer Cwmnïau Albanaidd) i edrych ar eich achos.

Manylion cysylltu:

Beirniaid Annibynnol Tŷ'r Cwmnïau
c/o Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

Brig
Ein polisi ar gwcis