|
|
Talu am ffeilio dogfennau ar bapur â cherdyn credyd Cyflwynwyr yn y Deyrnas Unedig O 1 Tachwedd 2011 ymlaen, ni fydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn taliadau cerdyn credyd gan gyflwynwyr yn y DU sy’n ffeilio dogfennau sy’n dwyn ffi ar bapur, trwy’r post neu trwy Gyfnewidfa Ddogfennau (DX). Dylid atodi taliad ar ffurf siec neu archeb bost wrth ffeilio dogfennau sy’n dwyn ffi ar bapur. (Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn argymell anfon arian parod trwy’r gwasanaethau post). Cyflwynwyr Tramor Byddwn yn parhau i dderbyn taliadau cerdyn credyd gan unrhyw gyflwynydd a leolir y tu allan i’r DU sy’n ffeilio dogfennau ar bapur (am nad oes modd eu ffeilio trwy WebFiling), lle nad oes unrhyw ddulliau eraill o dalu ar gael. Cyflwyno â Llaw Bydd y dewis o dalu gan ddefnyddio’r amrywiaeth o ddulliau talu sydd ar gael yn parhau i gyflwynwyr sy’n cyflwyno dogfennau yn bersonol i unrhyw un o swyddfeydd Tŷ’r Cwmnïau, ac mae hyn yn cynnwys talu â cherdyn credyd. Dylid nodi, fodd bynnag, na chaniateir i gyflwynwyr personol dalu â cherdyn credyd yn achos Cosbau Ffeilio Hwyr. |
||