Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Ein harolygon

Bob blwyddyn rydym yn cynnal gwahanol arolygon ymysg ein cwsmeriaid. Maent yn amrywio o arolygon chwarterol cynhwysfawr fel ein Harolwg o Foddhad Cwsmeriaid i arolygon llai rheolaidd lle rydym yn ceisio cael eich barn am gynhyrchion neu wasanaethau penodol, er enghraifft yr arolwg adborth ar y Wefan.

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a rowch i ni mewn dwy ffordd. Yn gyntaf mae’n caniatáu i ni asesu pa mor dda, neu beidio, yr ydym yn cyflenwi ein gwasanaethau, ac yn ail mae’n rhoi dirnadaeth i ni o’r newidiadau yr hoffech iddynt gael eu gwneud i’r cynhyrchion a’r gwasanaethau presennol a pha gynhyrchion a gwasanaethau newydd y byddai gennych ddiddordeb ynddynt.

Preifatrwydd
Caiff yr holl wybodaeth a rowch wrth lenwi’r arolwg ei thrin yn gwbl gyfrinachol.
Ein Datganiad Preifatrwydd.

Yr Arolygon

Canlyniadau Arolwg

Canlyniadau ymchwil

Brig
Ein polisi ar gwcis