Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Ydych chi'n barod i fod yn gyfarwyddwr?

P'un a ydych chi newydd eich penodi'n gyfarwyddwr, neu'n meddwl bod yn gyfarwyddwr, bydd angen i chi gofio bod gan gyfarwyddwyr lawer o rwymedigaethau a chyfrifoldebau cyfreithiol:

  • Rydych chi'n gyfrifol yn gyfreithiol am ffeilio cyfrifon blynyddol a ffurflen flynyddol y cwmni'n brydlon.
  • Mae'n rhaid i chi sicrhau bod manylion eich cwmni'n gyfredol.
  • Bydd y wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno’n cael ei gosod ar gofrestr gyhoeddus a bydd ar gael i’r cyhoedd ei gweld gan gynnwys gwybodaeth bersonol yr ydych yn ei chyflwyno fel rhan o’ch penodiad.

Mae cwmnïau sy'n cyflwyno'u cyfrifon yn hwyr yn cael cosb ffeilio hwyr. Hefyd, gan ein bod ni'n dangos dyddiadau ffeilio ar y cofnod cyhoeddus, gall ffeilio'n hwyr wneud niwed i enw da'ch cwmni.

I'ch helpu i fodloni'r gofynion statudol, gall Tŷ'r Cwmnïau gynnig amrywiaeth o wasanaethau i chi:

  • WebFiling i wirio dyddiadau terfynau amser ar gyfer ffeilio a sicrhau bod data'ch cwmni'n gyfredol. Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling i gyflawni'ch rhwymedigaethau ffeilio i ni gyda chyn lleied o amser ac egni ag sy'n bosibl.
  • eReminders sef y ffordd ddi-dâl, hwylus ac effeithiol o gofio pryd mae'n rhaid ffeilio'ch cyfrifon a'ch ffurflenni blynyddol.
  • PROOF (neu Protected Online Filing) sy'n caniatáu i chi amddiffyn eich cwmni rhag ffeilio twyllodrus.

Gwnewch yn siŵr fod y manylion rydym yn eu cadw am eich cwmni'n gyfredol. Yn bwysicaf oll, rhowch wybod i ni ar unwaith pan fo cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig yn newid.

Gwylio arddangosiad
fideo am ffeilio
Cyfrifon Segur

(Saesneg yn unig)

Cwestiynau ac Atebion

Sut ydw i'n cofrestru cwmni newydd?
Mae Tŷ'r Cwmnïau'n darparu Gwasanaeth Corffori ar y We, neu efallai y byddwch eisiau defnyddio asiant ffurfio cwmnïau.

Oes yn rhaid i'r cwmni gyflwyno'r cyfrifon bob blwyddyn?
Oes, ni waeth a yw wedi masnachu neu beidioyn ystod y cyfnod.

Sut ydw i'n newid manylion cyfarwyddwyr neu ysgrifennydd fy nghwmni?
Y ffordd gyflymaf a hawsaf o hysbysu Tŷ'r Cwmnïau am newid yw ar lein trwy WebFiling, neu drwy ddefnyddio pecyn Ffeilio Meddalwedd addas.

Sut ydw i'n cofrestru ar gyfer WebFiling?
Cofrestrwch eich manylion i gael cyfrinair a chod dilysu.

Pryd mae'n rhaid ffeilio fy nghyfrifon neu fy ffurflen flynyddol?
Gallwch fynd at ein gwasanaeth WebFiling i wirio manylion eich cwmni a chadarnhau'ch dyddiadau ffeilio.

Brig
Ein polisi ar gwcis