Amdanon ni | Ffurflenni | Gyrfaoedd | Cysylltu â ni | Desg y Wasg | Ymwadiad | English
 

Amdanon Ni


Gareth Jones - Cofrestrydd Cwmnïau Cymru a Lloegr, a Phrif Weithredwr Ty’r Cwmnïau

Gareth Jones

Ymunodd Gareth â Thŷ’r Cwmnïau fis Ebrill 2007 fel Prif Weithredwr a Chofrestrydd.

Cyn hynny Gareth oedd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad yn Llywodraeth Cynulliad Cymru. Hefyd treuliodd bedair blynedd yn Bennaeth Is-adran Rheoli Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) Cynulliad Cymru ac yn gyfrifol am reoli a thalu pob cymhorthdal i ffermydd, a gweithredu fel pennaeth yr Asiantaeth Dalu yng Nghymru. Yn ystod y cyfnod hwn bu Gareth yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yng Nghymru yn ystod yr argyfwng Traed a’r Genau yn 2001, gan arwain ar bob agwedd o faterion gweithredu ac adnoddau yn ogystal â materion rheoli rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Mae wedi dal sawl swydd yn y Gwasanaeth Sifil gan gynnwys Ysgrifennydd Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fasnach a Diwydiant, ac Ysgrifennydd Preifat i’r Gweinidog Diwydiant a Menter. Anrhydeddwyd Gareth â’r OBE am ei wasanaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2003.

Fel Prif Weithredwr, Gareth yw Swyddog Cyfrifyddu Tŷ’r Cwmnïau ac yn gyfrifol am reoli materion gweithredu a materion ariannol a sicrhau bod Tŷ’r Cwmnïau yn cyrraedd y targedau a bennir gan weinidogion.



Yn ôl i'r brigYn ôl i'r brig


Tim Moss – Cyfarwyddwr Strategaeth Gorfforaethol

Tim Moss – Cyfarwyddwr Strategaeth Gorfforaethol

Ymunodd Tim â Thŷ’r Cwmnïau ym mis Medi 2002 i reoli’ r adran weithrediadau, yn prosesu dros 7miliwn o ddogfennau bob blwyddyn. Cyn iddo ymuno  â Thŷ’r Cwmnïau, treuliodd Tim 12 mlynedd mewn swyddi uwch reoli gweithredol mewn diwydiant, yn cynhyrchu amrywiaeth o gynhyrchion o wifrennau copr i allwthiadau alwminiwm a cheblau opteg ffibr.  Fel Cyfarwyddwr Strategaeth Gorfforaethol, mae Tim yn arwain portffolio gwaith eang gan gynnwys; strategaeth busnes a chynllunio, polisi a deddfwriaeth, rheolaeth marchnata a rhanddeiliad, effeithlonrwydd, rheoliad gwell, twyll a chyfathrebuebu corfforaethol. Mae gan Tim radd yn y Gwyddorau Naturiol a chymhwyster rheolaeth i raddedigion o Gaergrawnt ac MBA o Brifysgol Abertawe.



Yn ôl i'r brigYn ôl i'r brig

Tom Smith – Cyfarwyddwr Gwireddu Gwasanaeth Cwsmeriaid

Tom Smith - Cyfarwyddwr Gwireddu Gwasanaeth Cwsmeriaid

Mae Tom yn ymuno â ni o bencadlys y DTI, lle’r oedd yn bennaeth yr Uned Strategaeth Polisi Masnach, gan gynhyrchu Papur Gwyn ar Fasnach a Buddsoddi Rhyngwladol. Treuliodd 14 blynedd mewn amrywiaeth o swyddi polisi gyda’r DTI, gan gynnwys trefnu tîm mesurau, Ysgrifennydd Preifat i’r Ysgrifennydd Parhaol, gwaith hybu allforio a chyfnod ym Mrwsel yng nghynrychiolaeth y DU yn yr Undeb Ewropeaidd. Bu’n gweithio hefyd i IBM mewn rôl cefnogaeth dechnegol. Mae gan Tom radd hanes o Gaer-grawnt.




Yn ôl i'r brigYn ôl i'r brig

Tim Knighton– Cyfarwyddwr Dosbarthiad Datrysiad Busnes

Tim Knighton

Mae Tim yn gyfrifol am Dechnoleg Gwybodaeth a Gwasanaethau Rheolaeth Newid. Mae hyn yn cynnwys datblygu/gweithredu systemau newydd, cynnal systemau presennol, a sicrhau fod rhwydwaith technegol mewnol ar gyfer systemau Tŷ’r Cwmnïau yn gryf, yn ogystal â goruchwyliaeth prosiectau/rhaglenni mawr.

Cyn ymuno â Thŷ’r Cwmnïau yn Ionawr 2007, treuliodd Tim 10 mlynedd gyda Tesco Plc mewn amrywiaeth o swyddogaethau cyllid, yn fwyaf diweddar fel Pennaeth eu Canolfan Gwasanaethau ar y Cyd. Cyn hynny, bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol gyda Goldman Sachs yn eu Hadran Marchnad Gyfalaf.





Yn ôl i'r brigYn ôl i'r brig

Phil Bushby– Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol

Phil Busby

Ymunodd Phil â Thŷ'r Cwmnïau fis Ebrill 2007. Mae'n Aelod Siartredig o'r Sefydliad Personnel a Datblygu, ac mae ganddo radd BSc mewn Daearyddiaeth.

Yn y sector preifat y cafodd ei brofiad blaenorol mewn Adnoddau Dynol lle bu'n gweithio'n bennaf yn y sector logisteg. Ymhlith ei gyflogwyr blaenorol mae DHL, Exel a WH Smith. Yn fwyaf diweddar ef oedd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Adnoddau Dynol ar sector o DHL oedd yn rheoli gofynion logisteg adwerthwyr mawr megis B&Q, Mothercare, BHS, Currys a Comet. S

Mae Phil yn gyfrifol am yr agenda pobl o fewn Tŷ'r Cwmnïau sy'n cynnwys Dysgu a Datblygu, Cysylltiadau â'r Gweithwyr, y Gyflogres a Iechyd a Diogelwch. Hefyd mae ganddo rôl sylweddol mewn rheoli'r newid sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r Ddeddf Cwmnïau a CHIPS.




Yn ôl i'r brigYn ôl i'r brig

Gwyneth Edwards - Pennaeth Cyfreithiol

Gwyneth Edwards

Ymunodd Gwyneth â Thŷ'r Cwmnïau ym mis Tachwedd, 1999.  Mae hi’n arwain y Tîm Cyfreithiol ac yn cynghori Tŷ’r Cwmnïau ar ddehongliad a defnydd ymarferol Deddf Cwmnïau, ynghyd â darpariaethau eraill.  Yn ogystal â hyn, mae hi’n cynghori ar berfformiad o ddyletswyddau statudol y Cofrestrydd ac unrhyw faterion cyfreithiol sy'n effeithio ar waith y sefydliad.




Yn ôl i'r brigYn ôl i'r brig
Mike Nash - Cyfarwyddwr Cyllid

Gwyneth Edwards

Ymunodd Mike â Thŷ'r Cwmnïau fel y Prif Gyfrifydd ym mis Ebrill 2000 ac mae'n Gyfarwyddwr Cyllid ers mis Gorffennaf 2008.

Mae'n gyfrifol am gynnig arweiniad ar berfformiad a chynllunio ariannol, ac am reoli risg ariannol.

Cyn hynny, bu'n gweithio yn y diwydiant fferyllol yn Rheolwr Ariannol cwmni Parke-Davies ym Mhont-y-pŵl. Mae Mike yn Gymrodor yng Nghymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig ac mae ganddo radd mewn cyfrifeg gan Brifysgol Cymru, Caerdydd.




Yn ôl i'r brigYn ôl i'r brig

Cliciwch yma am Siart Trefniadol Tŷ’r Cwmnïau (PDF 82K)

mynd

proceed arrow
 

mynd

proceed arrow
 

Yn ôlBrigArgraffu'r tudalenTudalen e-bostMap o'r wefan
Telephone icon    Canolfan Cysylltu: +44 (0)303 1234 500 Minicom - 02920381245  ar gael 08:30 hyd 18:00 (amser y DU) *Lun-Gwen     Ebost: enquiries@companies-house.gov.uk
Ymwadiad  |  Datganiad Preifatrwydd  |  Datganiad Defnydd Derbyniol  |  Hygyrchedd  |  Defnyddio cwcis  |  Hawliau Gwybodaeth  |  © Hawlfraint y Goron 2003
This site has been Bobby A approved.    This site conforms to W3C level 'A', priority 1.    This site is W3C compliant.    This site uses valid CSS. . http://www.berr.gov.uk/    http://www.businesslink.gov.uk/    http://www.direct.gov.uk    Community Interest Companies