|
|
Ysgafnhau’r Baith ar Gwmnïau Bach Gwasanaethau Ariannol Cyn bo hir, bydd modd i lawer mwy o gwmnïau bach gwasanaethau ariannol fanteisio ar y dewis o beidio â threfnu archwiliad i’w cyfrifon, ac ar drefniadau symleiddio eraill yng nghyswllt cyfrifon ac adroddiadau cwmnïau bach, o ganlyniad i newidiadau i Ddeddf Cwmnïau 1985. Mae Rheoliadau Deddf Cwmnïau 1985 (Cyfrifon a Threfniadau Archwilio Cwmnïau Bach) 2006 yn golygu bod categorïau arbennig o gwmnïau bach gwasanaethau ariannol a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn cael manteisio ar ryddhad rhag gofynion y Ddeddf Cwmnïau o ran cyfrifeg ac archwiliad ariannol cwmnïau bach. Gynt, byddent wedi’u gwahardd rhag manteisio ar y rhyddhad am eu bod yn dilyn gweithgareddau oedd wedi’u rheoleiddio gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Mae’r newidiadau’n gymwys i flynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu wedi 31 Rhagfyr 2006. Mae canllaw i’r newidiadau i’w gael ar y tudalen gwe BERR canlynol: http://www.dti.gov.uk/bbf/financial-reporting/small-companies/page23516.html |
||