|
|
Gwasanaethau Electronig Tŷ’r Cwmnïau Tŷ’r Cwmnïau yw un o’r sefydliadau llywodraethol sydd ar flaen y gad o ran yr agenda digidol diofyn. Mae dros 99% o’r holl chwiliadau ar y gofrestr cwmnïau’n electronig ac mae dros 70% o’r holl drafodion yn cael eu ffeilio’n ddigidol naill ai trwy ein gwefan neu drwy feddalwedd trydydd parti. Ein nod yw mynd yn gofrestrfa gwbl ddigidol cyn gynted ag sy’n bosibl a mis Tachwedd diwethaf cyhoeddasom y bwriad i wneud cyflwyno’n electronig yn orfodol ar gyfer y rhan fwyaf o’n gwasanaethau ffeilio erbyn mis Mawrth 2013. Fodd bynnag, o gofio ein llwyddiant wrth ysgogi’r defnydd o’n gwasanaethau electronig ers mis Tachwedd a phenderfyniad diysgog y llywodraeth i beidio ag ychwanegu rheoliadau newydd sy’n effeithio ar fusnesau bach, rydym bellach wedi penderfynu na fyddwn yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth i wneud gwasanaethau electronig yn orfodol erbyn mis Mawrth 2013. Yn lle canolbwyntio yn y tymor byr ar y broses i’w gwneud yn orfodol, byddwn yn neilltuo ein hadnoddau i wella gwasanaethau digidol i’n cwsmeriaid, gan gynnwys gwasanaethau digidol â chymorth i fusnesau sydd angen help wrth ddefnyddio gwasanaethau digidol, a sicrhau y bydd pobl yn eu dewis. Yr her fwyaf yw ysgogi cwmnïau i ffeilio cyfrifon yn electronig. Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio fformat iXBRL i gasglu data cyfrifon, sef yr un dull y mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi’i fabwysiadu. Byddwn yn cydweithio gyda’r diwydiant meddalwedd i adeiladu ar y gwaith sydd wedi cael ei wneud eisoes i fodloni gofynion Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer cyflwyno cyfrifon yn electronig ac wrth wneud hynny gwneud unrhyw newid mor syml ag sy’n bosibl i gwmnïau a’u hasiantau. Bydd hyn yn adeiladu ar lwyddiant y gwasanaeth ffeilio cyfrifon ar y cyd a lansiwyd y llynedd. Rydym yn dal i ganolbwyntio ar ein nod o fod yn gofrestrfa gwbl electronig. Mae gwneud gwasanaethau electronig yn orfodol yn fater y byddwn yn ei ailystyried ar ôl i’r moratoriwm ar reoliadau newydd i fusnesau bach ddod i ben yn 2014.
|
||