|
|
Strategaeth Gorfodi Tŷ’r Cwmnïau Nod Tŷ’r Cwmnïau yw darparu gwybodaeth gorfforaethol amserol a dibynadwy i’r cyhoedd a’r gymuned fusnes. Er mwyn cyflawni hyn, mae Tŷ’r Cwmnïau’n defnyddio amrywiaeth o ffyrdd i helpu cwmnïau i gydymffurfio â’r gofynion rheoliadol. Mae hyn yn cynnwys anfon llythyrau a negeseuon e-bost atgoffa at gwmnïau yn electronig ac ar bapur cyn terfyn amser ffeilio; cynnal seminarau gwybodaeth rheolaidd ar draws y wlad; canllawiau gwefan am ddim; defnyddio pobl gyswllt mewn cyrff proffesiynol, a chynnig cymorth a chyngor i’n cwsmeriaid trwy Ganolfan Gysylltu Tŷ’r Cwmnïau. Lle nad yw cymorth a chyngor yn sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion rheoliadol, mae Tŷ’r Cwmnïau’n defnyddio gorfodi teg a chymesur. Mae hyn yn cynnwys, lle bo angen, gorfodi rheoliadau’n llym ac erlyn gweithgarwch troseddol er mwyn cynnal hyder yn y gofrestr corfforaethau; gan sicrhau sefydlogrwydd i fusnesau a mentrau. Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n blaenoriaethu ei adnoddau i ganolbwyntio ar droseddau lle bu diffyg cydymffurfiaeth parhaus a bwriadus, dro ar ôl tro. Lle bo’n briodol, defnyddir gorfodi llai caeth i sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheoliadau. |
||