Gwybodaeth Digwyddiadau
Mae Tŷ'r Cwmnïau yn mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau ledled y DU i gefnogi a chynghori busnesau
Gweler isod am ragor o wybodaeth ar:
Arddangosfeydd
Mynychwn a chefnogwn amrywiaeth o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn. Mae mynychu arddangosfeydd yn caniatáu inni:
- godi ymwybyddiaeth o Dŷ'r Cwmnïau, ein swyddogaethau a'n gwasanaethau
- cwrdd â'n defnyddwyr presennol a'u helpu, a'n cyflwyno'n hunain i gwsmeriaid newydd
- ateb ymholiadau ynghylch deddfwriaeth gwmnïau, gan gynnwys materion cydymffurfio
- darparu llwyfan ar gyfer cyflwyno a dangos ein gwasanaethau gwybodaeth ar-lein
Diwrnodau Gwybodaeth
Er mwyn helpu cwmnïau i gadw o fewn y gyfraith, rydyn ni’n cynnal nifer o seminarau i drafod cyfrifoldebau cyfreithiol cyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion cwmnïau o dan ddeddfwriaeth Deddf Cwmnïau 2006, a hynny drwy gydol y flwyddyn.
Nod y seminarau hyn yw eich helpu chi:
- i sicrhau bod swyddogion cwmnïau a’u hymgynghorwyr yn gyfarwydd â gofynion ffeilio Deddf Cwmnïau 2006
- i ddarganfod y ffordd orau o ffeilio eich dogfennau ar-lein
- i gynnig cyngor ar y newidiadau diweddar yn y ddeddfwriaeth a’u heffaith bosibl ar gwmnïau a’u swyddogion
- i esbonio datblygiadau at y dyfodol
- i ddarganfod sut y gallwch chi wirio manylion eich cwmni chi ar-lein
Mae ein seminarau’n para rhyw dair awr ac maent am ddim. Cewch ddewis dod i seminar bore neu brynhawn - felly peidiwch â cholli’r cyfle.
Seminar Ar Gyfer Cyfarwyddwyr Newydd eu Penodi
Dyma’r seminar i chi os ydych chi newydd gael eich penodi i Gwmni a’ch bod am ddysgu rhagor am eich rhwymedigaethau o ran Tŷ’r Cwmnïau. Mae’r seminar yn rhad ac am ddim.
Nod y seminar yw:
- esbonio’r broses gorffori
- esbonio’r dulliau rhwydd a diogel o anfon gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau
- rhoi gwybod i chi am faterion cydymffurfiad Tŷ’r Cwmnïau
- rhoi gwybod i chi am y newidiadau i’r Ddeddf Cwmnïau
- dangos i chi sut i chwilio am wybodaeth Tŷ’r Cwmnïau a’i defnyddio
Cewch gyfle hefyd:
- i gwrdd ag aelodau o dîm Tŷ’r Cwmnïau
- i roi cynnig ar ein gwasanaethau ar lein
- i gwrdd â chynrychiolyddo’r Swyddfa Eiddo Deallusol
Ewch i’n Calendr Digwyddiadau i weld a oes digwyddiad yn agos i chi.
|