|
|
Ein prif swyddogaethau Prif swyddogaethau Tŷ’r Cwmnïau yw:
Y Cofrestrydd Cwmnïau Cofrestrydd Cwmnïau Lloegr a Chymru, a Phrif Weithredwr Tŷ’r Cwmnïau, yw Tim Moss. Mae ei swyddfa yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd. Cofrestrydd Cwmnïau’r Alban yw Dorothy Blair ac mae ei swyddfa yng Nghaeredin. Cofrestrydd Cwmnïau Gogledd Iwerddon yw Helen Shilliday ac mae ei swyddfa ym Melfast. Mae Canolfan Gwybodaeth yn Llundain hefyd. Ble i Ddod o Hyd Inni a Phwy i Gysylltu â nhw Hanes Mae gan y Deyrnas Unedig gyfundrefn corffori cwmnïau ers 1844. Erbyn heddiw, mae materion corffori cwmnïau wedi eu cwmpasu gan y gyfraith, sef gan Ddeddf Cwmnïau 2006. Caiff pob cwmni cyfyngedig yn Lloegr, Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban ei gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau, Asiantaeth Weithredol o dan Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (BIS). Mae mwy na 3 miliwn o gwmnïau cyfyngedig wedi eu cofrestru yn y DU, a chaiff mwy na 400,000 o gwmnïau newydd eu corffori bob blwyddyn. Cyfrifon ac Adroddiad Blynyddol Tŷ’r Cwmnïau 2012/13Cael gwybod mwy (yn Saesneg) |
||