|
|
Bywyd Cwmni – Rhan 1 Gofynion Blynyddol - GP2 Chwefror 2013 – Fersiwn 3.5 Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006 Fersiwn PDF y tudalen hwn (421KB) A yw’r canllaw hwn ar eich cyfer chi? Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:
ac:
Trosolwg Mae hwn yn ganllaw sy’n ymwneud â’r rheolau ynghylch ffeilio cyfrifon a ffurflenni blynyddol cwmnïau wedi eu cofrestru yn y DU. Cynnwys Cyflwyniad Mae’r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau mynych ac yn cynnig gwybodaeth ar ffeilio’r mathau mwyaf cyffredin o wybodaeth yn y maes hwn. Nid ydym wedi drafftio’r canllaw gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg. Mae’n bosibl y bydd angen gofyn am gyngor proffesiynol arbenigol o dan yr amgylchiadau hynny. Mae’r canllaw hwn yn sôn am y dogfennau y mae’n rhaid i gwmni eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau bob blwyddyn – hyd yn oed oes yw’r cwmni yn gwmni segur – gweler pennod 8. Os na fyddwch yn cydymffurfio, gallai’r canlyniadau fod yn ddifrifol. Gallai’r Cofrestrydd gymryd nad yw’r cwmni’n dilyn busnes nac yn weithredol mwyach, gan fynd ati i’w ddileu o’r gofrestr. Os bydd y Cofrestrydd yn dileu cwmni o’r gofrestr, ni fydd yn bodoli mwyach, a bydd ei asedau yn eiddo i’r Goron. Fodd bynnag, pan fo cwmni yn weithredol, gallai swyddogion y cwmni gael eu herlyn oherwydd eu bod nhw yn gyfrifol, ar lefel bersonol, am sicrhau eu bod yn cyflwyno gwybodaeth am y cwmni mewn pryd. Mae methu gwneud hynny yn cyfateb i drosedd. Yn ogystal, ceir cosb sifil awtomatig am gyflwyno cyfrifon yn hwyr. Mae’r gofyniad i ffeilio dogfennau blynyddol yn berthnasol i bob cwmni, gan gynnwys cwmnïau bach fel cwmnïau rheoli fflatiau. Dylech ddarllen y canllaw hwn ar y cyd â Deddf Cwmnïau 2006 a’r rheoliadau perthnasol, y mae modd eu gweld ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus. Rhai o’r prif reoliadau y bydd angen i chi gyfeirio atynt yw:
Mae’r canllaw yn delio â’r pynciau canlynol: Pennod 1: Ffurflenni Blynyddol. Mae hon yn giplun o wybodaeth gyffredinol am gyfarwyddwyr, ysgrifenyddion, cyfeiriad swyddfa gofrestredig, cyfranddeiliaid a chyfalaf cyfrannau cwmni. Pennod 2: Dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg. Mae gan bob cwmni ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg sy’n pennu diwedd ei flwyddyn ariannol. Yn ogystal, hwn yw’r dyddiad sy’n pennu’r adeg pan fydd angen cyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau. Pennod 3: Cofnodion cyfrifeg. Mae’r rhain yn gofnodion sy’n ddigonol er mwyn dangos ac esbonio trafodion cwmni ac er mwyn datgelu ei sefyllfa ariannol ar unrhyw adeg. Rhaid i’r cofnodion cyfrifeg alluogi’r cyfarwyddwyr i baratoi cyfrifon sy’n cydymffurfio gyda’r Ddeddf Cwmnïau neu Safonau Cyfrifeg Cenedlaethol (IAS). Pennod 4 – 11: Paratoi a ffeilio cyfrifon. Rhaid i bob cwmni baratoi cyfrifon ar gyfer eu haelodau ac er mwyn eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau. Ar gyfer cwmnïau mawr, mae’r ddwy set o gyfrifon yn union yr un fath. Gall cwmnïau bach a chanolig ddewis cydymffurfio gyda gofynion ar wahân ynghylch y cyfrifon y mae’n rhaid i’r cwmni eu paratoi ar gyfer ei aelodau, a’r rhai y bydd yn eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau. Ceir terfyn amser er mwyn cyflwyno cyfrifon derbyniol sy’n cydymffurfio gyda’r holl ofynion cyfreithiol perthnasol i Dŷ’r Cwmnïau. Os na fyddwch yn cyflwyno deunydd erbyn y terfyn amser, byddwn yn rhoi cosb awtomatig. Yn ogystal, efallai y byddwn yn erlyn cyfarwyddwyr cwmni am gyflwyno’u cyfrifon yn hwyr neu am beidio eu cyflwyno o gwbl. Mae’n bwysig eich bod chi, eich cyfrifwyr a’ch archwilwyr yn ymwybodol o’r terfyn amser ar gyfer ffeilio. Nid yw gofynion a therfynau amser ar gyfer ffeilio o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 yr un fath â gofynion a therfynau amser Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu unrhyw gyrff rheoleiddio eraill megis yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Yn ogystal, ceir gofynion ar wahân ar gyfer cwmnïau sy’n elusennau. Mae’r cyfarwyddwyr yn gyfrifol am fod yn ymwybodol o’r gofynion gwahanol. Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar y cyfrifon a’r adroddiadau y mae’n rhaid i gwmnïau bach a chanolig eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Mae cwmnïau mawr yn rhwym i ofynion mwy cymhleth, sydd y tu hwnt i gwmpas y canllaw hwn. Nid yw’r canllaw hwn yn delio gyda chynnwys cyfrifon cwmnïau sy’n cael eu llunio dan Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol. Mae’r gofynion cyhoeddi a ffeilio yr un fath ag y maent ar gyfer cyfrifon cwmnïau nas lluniwyd dan Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol, gydag amrywiad bach ar gyfer cyfrifon cwmnïau bach a gyflwynir i Dŷ’r Cwmnïau – gweler pennod 5, cwestiwn 2. Ni all y canllaw hwn ddweud wrthych sut i baratoi cyfrifon cwmni. Bydd yn dweud wrthych ba ddogfennau a gynhwysir mewn set o gyfrifon, pa eithriadau y byddwch yn gallu manteisio arnynt efallai, ac a oes yn rhaid i chi benodi archwilydd a chyflwyno set o gyfrifon archwiliedig. Os nad ydych yn siŵr, dylech ystyried gofyn am gyngor proffesiynol annibynnol. Pennod 12: Archwilwyr. Mae hon yn rhoi esboniad byr am rôl archwilydd cwmni. Mae’n amlinellu’r amgylchiadau pan na fydd angen i gwmnïau benodi archwilydd. Yn ogystal, mae’n esbonio’r weithdrefn er mwyn penodi a diswyddo archwilwyr, a’r unigolion a’r cwmnïau sy’n gymwys i weithredu fel archwilwyr. Pennod 13 – 14: Ansawdd dogfennau a gwybodaeth bellach. Mae’r penodau hyn yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch sut i gael gafael ar y dogfennau y bydd angen i chi eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau. Yn ogystal, mae’n nodi rhai o’r gofynion cyffredinol ynghylch ansawdd, y bydd yn rhaid i bob dogfen eu bodloni. Mae ffurflen flynyddol yn giplun o wybodaeth gyffredinol am gyfarwyddwyr, ysgrifennydd (os penodwyd un), cyfeiriad swyddfa gofrestredig, cyfranddeiliaid a chyfalaf cyfrannau cwmni. Dylech nodi bod yna ofynion gwahanol ar gyfer ffurflenni blynyddol a chanddynt ddyddiad diwallu o 30/09/2011 neu’n gynharach a ffurflenni blynyddol a chanddynt ddyddiad diwallu o 1/10/2011 neu’n ddiweddarach mewn perthynas â manylion cyfranddeiliaid a phrif weithgareddau busnes (codau SIC). Mae’r canllawiau hyn yn disgrifio’r gofynion newydd o dan y penawdau penodedig lle bo’r rheiny’n berthnasol. Yn y bennod hon, bydd gan y termau a restrir yr ystyron canlynol: Yng nghyswllt ffurflenni blynyddol, ystyr “cyfnod y ffurflen” yw’r cyfnod sy’n cychwyn yn union ar ôl dyddiad diwallu’r ffurflen ddiwethaf (neu, yn achos y ffurflen gyntaf, corffori’r cwmni), ac sy’n dod i ben ar ddyddiad diwallu’r ffurflen gyfredol. Ar gyfer ffurflenni a chanddynt dyddiad diwallu o 30 Medi 2011 neu’n gynharach:
Ar gyfer ffurflenni a chanddynt ddyddiad diwallu o 1af Hydref neu’n ddiweddarach:
"DTR5" yw'r Rheolau o ran Deiliaid Pleidleisiau a Hysbysu Dosbarthwyr a bennir ym Mhennod 5 o lyfr ffynhonnell Rheolau Datgelu a Thryloywder yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.
Llenwi ffurflen flynyddol Sylwer: Y ffordd hawsaf a rhataf o lenwi a ffeilio’ch ffurflen flynyddol yw trwy ddefnyddio ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling. Bellach, gallwch ffeilio dogfennau penodol yn Gymraeg hefyd trwy ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling . 1. Pa gwmnïau fydd yn gorfod anfon ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau? Rhaid i bob cwmni gyflwyno ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau o leiaf unwaith bob 12 mis. Mae cyfarwyddwr(cyfarwyddwyr) ac ysgrifennydd (pan fo hynny’n berthnasol) y cwmni, yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cyflwyno’r ffurflen flynyddol i Dŷ’r Cwmnïau cyn pen 28 diwrnod ar ôl diwedd y flwyddyn gyntaf ers y corfforwyd cwmni neu flwyddyn ar ôl dyddiad diwallu y ffurflen flynyddol ddiwethaf. Os na fyddwch yn cyflwyno ffurflen flynyddol y cwmni, gallai’r Cofrestrydd gymryd nad yw’r cwmni yn dilyn busnes nac yn weithredol mwyach, gan fynd ati i’w ddileu o’r gofrestr. Cofiwch: Mae peidio cyflwyno ffurflen flynyddol y cwmni cyn pen 28 diwrnod i’r dyddiad diwallu yn cyfateb i drosedd, ac fe allai Tŷ’r Cwmnïau erlyn y cwmni a’i swyddogion amdano. 2. Beth yw ffurflen flynyddol? Mae ffurflen flynyddol yn giplun o wybodaeth benodol am gwmni ar y dyddiad diwallu (gweler cwestiwn 3). Mae’n ddogfen ar wahân i gyfrifon blynyddol cwmni. Rhaid i ffurflen flynyddol gynnwys y wybodaeth ganlynol:
Os oes gan y cwmni gyfalaf cyfrannau, rhaid i’r ffurflen flynyddol gynnwys y canlynol hefyd: gwybodaeth sy’n dynodi a oedd y cwmni yn ‘Gwmni a fasnachwyd’ neu os paratowyd y ffurflen at ddyddiad diwallu o 1/10/2011 neu’n ddiweddarach “os yw cyfrannau’r cwmni wedi cael eu derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol” ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y ffurflen; datganiad o gyfalaf; a manylion y cyfranddeiliaid. Hwn yw’r dyddiad pan fydd yn rhaid i’r holl wybodaeth mewn ffurflen flynyddol fod yn gywir. Fel arfer, bydd y dyddiad diwallu yn cyfateb i flwyddyn ar ôl:
4. Ble mae modd i mi gael ffurflen flynyddol? Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn anfon llythyr at swyddfa gofrestredig eich cwmni er mwyn eich atgoffa o’r dyddiad pan fydd eich ffurflen flynyddol yn ddyledus. Mae’n cynnig cyngor ynghylch ffeilio’r ffurflen yn electronig trwy ddefnyddio ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, gan mai hwn yw’r dewis hawsaf a rhataf. Fodd bynnag, os nad oes modd i chi ffeilio ar-lein, gallwch lawrlwytho copi gwag o ffurflen flynyddol AR01c trwy droi at ein gwefan neu archebu copi papur gwag gan ein Canolfan Gyswllt trwy ffonio 0303 1234 500. 5. Llenwi Ffurflen Flynyddol AR01c Yn gyffredinol, dylai’r manylion a nodir yn y ffurflen flynyddol gadarnhau gwybodaeth a gedwir am y cwmni yn barod yng nghofnod cyhoeddus Tŷ’r Cwmnïau ar y dyddiad diwallu. Cewch ddiweddaru prif weithgarwch busnes eich cwmni Ar gyfer ffurflenni a chanddynt ddyddiad diwallu o 30 Medi 2011 neu’n gynharach Rhaid i’r ffurflen gynnwys manylion unrhyw drosglwyddiadau o ran cyfrannau a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn. Ar gyfer ffurflenni a chanddynt ddyddiad diwallu o 1 Hydref 2011 neu’n ddiweddarach Yn achos cwmnïau nad yw eu cyfrannau wedi cael eu masnachu ar farchnad berthnasol, y cyfan y mae’n rhaid i’r ffurflen ei gynnwys yw manylion unrhyw drosglwyddiadau o ran cyfrannau a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn. Er mwyn newid unrhyw wybodaeth arall, rhaid i chi ddarparu’r ddogfen berthnasol gyda’ch ffurflen flynyddol:
Bellach, gallwch wneud hyn trwy gyfrwng ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling neu trwy anfon y ffurflenni papur perthnasol. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwrthod eich ffurflen flynyddol os na fydd yn cynnwys y wybodaeth y gofynnwyd amdani. Fodd bynnag, pan na fydd y wybodaeth a ddarparir yn cyfateb i’r wybodaeth yn ein cofnodion, gallwn ddewis derbyn y ffurflen flynyddol, ond gan nodi nad yw’n cyd-fynd â’r gofrestr gyhoeddus. Am wybodaeth bellach, trowch at ein canllaw ‘Rheolau a Phwerau’r Cofrestrydd’. Mae'r Cynllun PROOF (PROtected On-line Filing) yn cynnig amddiffyniad ychwanegol i gwmni (neu PAC) rhag y bygythiad bod rhywun yn dwyn ei hunaniaeth gorfforaethol. Mae’r cynllun yn sicrhau taw’r unig ffordd y gellir newid cofnod cwmni yw trwy ddulliau diogel ar-lein. Caiff unrhyw un o’r dogfennau canlynol eu gwrthod os cânt eu ffeilio ar bapur ar ran y cwmni (neu’r PAC): 6. Pa wybodaeth y bydd angen i Dŷ’r Cwmnïau ei chael am gyfalaf cyfrannau? Rhaid i bob cwmni sy’n meddu ar gyfalaf cyfrannau lenwi datganiad cyfalaf fel rhan o’r ffurflen flynyddol. Mae hwn yn cynnwys:
Os bydd cwmni wedi trosi cyfrannau’n stoc, rhaid iddo roi’r wybodaeth gyfatebol mewn perthynas â’r stoc hwnnw, gan nodi cyfanswm y stoc yn hytrach na nifer a gwerth nominal y cyfrannau. 7. Pryd ddylwn i restru holl gyfranddeiliaid y cwmni? Rhaid i gwmnïau cyhoeddus anfasnachedig neu gwmnïau preifat y mae ganddynt gyfalaf cyfrannau, ddarparu ‘rhestr lawn’ o’r holl gyfranddeiliaid ar ei ffurflen flynyddol gyntaf ar ôl corffori; ac ar bob trydedd ffurflen flynyddol wedi iddo ddarparu rhestr gyflawn Y cyfan y mae angen adrodd arno yn y ddwy ffurflen flynyddol cyfamserol yw unrhyw newidiadau o ran manylion y cyfranddeiliaid sydd wedi codi yn ystod y flwyddyn honno – hynny yw, unrhyw drosglwyddiadau o ran cyfrannau a manylion unrhyw bobl sydd wedi dod yn gyfranddeiliaid neu sydd wedi peidio bod yn gyfranddeiliaid. Ar gyfer ffurflenni a chanddynt ddyddiad diwallu o 1 Hydref 2011 neu’n ddiweddarach Rhaid i gwmni nad yw ei gyfrannau wedi cael eu derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol ddarparu ‘rhestr gyflawn’ o’r holl gyfranddeiliaid ar ei ffurflen flynyddol gyntaf ar ôl ei gorffori; a phob trydedd ffurflen flynyddol ar ôl iddi ddarparu’r rhestr gyflawn. Dim ond unrhyw newidiadau i’r wybodaeth am gyfranddeiliaid a ddigwyddodd yn ystod y flwyddyn honno y bydd yn rhaid i’r ddwy ffurflen flynyddol yn y canol eu hadrodd – hynny yw, cyfrannau a drosglwyddwyd a manylion pobl sydd bellach yn gyfranddeiliaid neu bobl nad ydynt yn gyfranddeiliaid mwyach. 8. Beth sy’n rhaid ei gynnwys mewn ‘rhestr gyflawn’ o gyfranddeiliaid ar gyfer cwmni preifat neu gwmni cyhoeddus na fasnachwyd neu gwmni nad yw ei gyfrannau wedi cael eu derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol? Ar gyfer ffurflenni a chanddynt ddyddiad diwallu o 30 Medi 2011 neu’n gynharach Rhaid i ‘restr lawn’ o gyfranddeiliaid cwmnïau cyhoeddus anfasnachedig a chwmnïau preifat gynnwys y wybodaeth ganlynol am y cyfranddeiliaid:
Os ydych yn gwmni cyhoeddus anfasnachedig neu’n gwmni preifat sy’n cyflwyno ffurflen flynyddol bapur, dim ond Atodlen A y ffurflen flynyddol y bydd yn rhaid i chi ei llenwi, gan nodi manylion eich cyfranddeiliaid. Ni ddylech nodi cyfeiriadau cyfranddeiliaid, neu bydd y ffurflen yn cael ei dychwelyd atoch. Dylai manylion unrhyw gyd-gyfranddeiliaid gael eu rhestru’n olynol. Rhaid i chi ddarparu’r ddwy Atodlen bob tro. Ar gyfer ffurflenni a chanddynt ddyddiad diwallu o 1 Hydref 2011 neu’n ddiweddarach Rhaid i gwmni nad yw ei gyfrannau wedi cael eu derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol ddarparu’r canlynol:
Os nad yw cyfrannau eich cwmni wedi cael eu derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol, a’ch bod yn cyflwyno ffurflen flynyddol ar bapur, rhaid i chi lenwi Adran G3 o’r ffurflen flynyddol gan roi manylion eich cyfranddeiliaid yn unig. Rhaid i chi beidio â rhoi cyfeiriadau’r cyfranddeiliaid neu caiff y ffurflen ei dychwelyd i chi. Dylid rhestru manylion unrhyw gyd-gyfranddeiliaid yn olynol. Rhaid cyflwyno Adrannau G3 a G4 ill dwy bob tro 9. Beth sy’n rhaid ei gynnwys mewn rhestr o gyfranddeiliaid ar gyfer cwmni cyhoeddus a fasnachwyd neu gwmni y mae ei gyfrannau wedi cael eu masnachu ar farchnad berthnasol? Ar gyfer ffurflenni a chanddynt ddyddiad diwallu o 30 Medi 2011 neu’n gynharach Dim ond rhestr o’r holl gyfranddeiliaid (neu gyd-gyfranddeiliaid) a oedd yn dal o leiaf 5% o’r cyfrannau dosbarthedig mewn unrhyw ddosbarth yn ystod y cyfnod y mae’r ffurflen yn ymwneud ag ef, y mae’n rhaid i gwmni cyhoeddus masnachedig ei darparu. Rhaid i’r rhestr gynnwys yr wybodaeth ganlynol am bob un o’r cyfranddaliadau hyn:
Ar gyfer ffurflenni a chanddynt ddyddiad diwallu o 1 Hydref 2011 neu’n ddiweddarach Rhaid i gwmni y mae ei gyfrannau wedi cael eu derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y mae’r ffurflen yn ei gwmpasu ddarparu: enwau a chyfeiriadau’r cyfranddeiliaid sy’n dal 5% neu ragor o gyfalaf cyfrannau dosbarthedig y cwmni ar ddyddiad diwallu’r ffurflen. Cwmnïau y mae eu cyfrannau wedi cael eu derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol trwy gydol y cyfnod y mae’r ffurflen yn ei gwmpasu ac a oedd yn ddarostyngedig i’r Rheolau o ran Deiliaid Pleidleisiau a Hysbysu Dosbarthwyr a bennir ym Mhennod 5 o lyfr ffynhonnell Rheolau Datgelu a Thryloywder yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (DTR5) trwy gydol cyfnod y ffurflen: Nid oes angen darparu manylion y cyfranddeiliaid, y rheswm am hyn yw bod yr hysbysiadau am y prif gyfranddeiliaid sydd eu hangen o dan y DTR wedi bod ar gael ar lein ar y Mecanwaith Storio Cenedlaethol yn www.hemscott.com/nsm.do ers 1 Medi 2010; mae hyn yn golygu nad oes diddordeb o bwys o du’r cyhoedd mewn cadw gwybodaeth hanesyddol ar ddaliannau prif cyfranddeiliaid cwmnïau sy’n ddarostyngedig i DTR yn Nhŷ’r Cwmnïau mwyach. 10. Beth os oes gan gwmni cyhoeddus neu gwmni y mae ei gyfrannau wedi cael eu derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol ddosbarth o gyfrannau sy’n cael ei fasnachu a dosbarth o gyfrannau nad yw’n cael ei fasnachu? Ar gyfer ffurflenni a chanddynt ddyddiad diwallu o 30 Medi 2011 neu’n gynharach Os masnachir unrhyw gyfrannau mewn marchnad wedi ei rheoleiddio yn ystod y cyfnod y mae’r ffurflen flynyddol yn ymwneud ag ef, rhaid i chi roi tic yn y blwch “yn cael eu masnachu”. Ar ffurflenni blynyddol papur, rhaid i chi lenwi Atodlen B ar gyfer pob dosbarth o gyfrannau, os yw’r dosbarth cyfrannau hwnnw yn cael ei fasnachu neu beidio. Ar gyfer ffurflenni a chanddynt ddyddiad diwallu o 1 Hydref 2011 neu’n ddiweddarach Os cafodd unrhyw rai o gyfrannau’r cwmni eu masnachu ar farchnad berthnasol ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y mae’r ffurflen yn ei gwmpasu, yna rhaid i’r ffurflen flynyddol ddatgan y canlynol ar gyfer pob person oedd yn dal o leiaf 5% o gyfrannau dosbarthedig y cwmni mewn unrhyw ddosbarth ar ddyddiad diwallu’r ffurflen: enw a chyfeiriad y person (fel y maent yn ymddangos yng nghofrestr aelodau’r cwmni); a nifer y cyfrannau y mae’r person yn ei ddal ym mhob dosbarth yr adeg honno. rhaid rhestru’r cofnodion yn ôl enw yn nhrefn yr wyddor; neu rhaid atodi mynegai wrth y ffurflen sy’n ddigonol i alluogi i rywun ddod o hyd i enw’r person dan sylw yn rhwydd. 11. Beth y mae angen i gwmni cyhoeddus a fasnachwyd neu gwmni y mae ei gyfrannau wedi cael eu derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol ei ddangos ar gyfer cyfranddeiliaid sy’n dal llai na 5%? Ar gyfer ffurflenni a chanddynt ddyddiad diwallu o 30 Medi 2011 neu’n gynharach Rhaid i gwmnïau cyhoeddus a fasnachwyd beidio â rhoi unrhyw fanylion am gyfranddeiliaid sy’n dal, neu sy’n parhau i ddal llai na 5% o unrhyw ddosbarth o gyfrannau ar bob adeg yn ystod cyfnod y ffurflen. Ar gyfer ffurflenni a chanddynt ddyddiad diwallu o 1 Hydref 2011 neu’n ddiweddarach Rhaid i gwmnïau y mae eu cyfrannau wedi cael eu derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol beidio â rhoi enwau a chyfeiriadau’r cyfranddeiliaid sy’n dal llai na 5% o gyfalaf cyfrannau dosbarthedig y cwmni ar ddyddiad diwallu’r ffurflen. Nid oes angen i gwmni y mae ei gyfrannau wedi cael ei derbyn i’w masnachu ar farchnad berthnasol trwy gydol y cyfnod y mae’r ffurflen yn ei gwmpasu ac a oedd yn ddarostyngedig i’r Rheolau o ran Deiliaid Pleidleisiau a Hysbysu Dosbarthwyr a bennir ym Mhennod 5 o lyfr ffynhonnell Rheolau Datgelu a Thryloywder yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (DTR5) trwy gydol cyfnod y ffurflen ddarparu unrhyw fanylion am ei gyfranddeiliaid. 12. A oes ffyrdd eraill o ddarparu manylion cyfranddeiliaid? Gall cwmnïau sy’n ffeilio ffurflenni blynyddol papur ddarparu gwybodaeth am gyfranddeiliaid ar CD-ROM os bydd y rhestr yn 50 tudalen o hyd neu fwy. Efallai y bydd yn fwy cyfleus i gwmnïau preifat a chwmnïau cyhoeddus neu gwmnïau nad yw eu cyfrannau wedi cael eu derbyn i'w masnachu ar farchnad berthnasol ond y mae ganddynt nifer fawr o gyfranddeiliaid ddarparu rhestr gyflawn o gyfranddeiliaid gyda phob ffurflen flynyddol - ond rhaid i’r rhestr beidio â chynnwys cyfeiriadau’r cyfranddeiliaid. Os ydych yn dymuno darparu’r rhestr o gyfranddeiliaid y cwmni ar CD-ROM, a fyddech cystal â throi at rheolau’r cofrestrydd ar ein gwefan am wybodaeth bellach. 13. A fydd angen talu ffi am ffeilio’r ffurflen flynyddol? Bydd. Codir ffi flynyddol o £40 am brosesu dogfennau papur neu £13 i’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling, a delir pan fyddwch yn ffeilio’r ffurflen flynyddol. Dylai cwmnïau sy’n ffeilio ffurflen flynyddol bapur wneud y siec yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’, gan ysgrifennu rhif y cwmni ar y cefn. Pennod 2 - Dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg 1. Beth yw blwyddyn ariannol? Fel arfer, mae blwyddyn ariannol yn gyfnod o 12 mis y byddwch yn paratoi cyfrifon yn ei gylch. Rhaid i bob cwmni baratoi cyfrifon sy’n adrodd am berfformiad a gweithgareddau’r cwmni yn ystod y flwyddyn ariannol. Bydd hon yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl i’r flwyddyn ariannol ddiwethaf ddod i ben neu, yn achos cwmni newydd, ar y dyddiad corffori. Pennir blynyddoedd ariannol trwy wneud cyfeiriad at gyfnod cyfeirnod cyfrifeg. Daw’r cyfnod ariannol i ben ar y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg. Gall cwmnïau ddewis rhwng paratoi eu cyfrifon hyd at y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg neu, os yw’n fwy cyfleus, at ddyddiad sydd hyd at saith diwrnod y naill ochr neu’r llall i’r dyddiad hwn heb ffeilio ffurflen AA01c. 2. Sut y pennir y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg? Ar gyfer pob cwmni newydd, mae’r ddeddfwriaeth yn pennu’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyntaf fel diwrnod olaf y mis pan fo’r cwmni’n dathlu ei ben-blwydd cyntaf. Bydd y dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg dilynol yn digwydd ar yr un dyddiad bob blwyddyn yn awtomatig. Er enghraifft, os corfforwyd y cwmni ar 6 Ebrill 2008, ei ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyntaf fyddai 30 Ebrill 2009 a 30 Ebrill bob blwyddyn wedi hynny. 3. A oes modd i mi newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg? Oes, gallwch newid y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg presennol neu’r un yn union o’i flaen i estyn neu fyrhau’r cyfnod. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i chi hysbysu Tŷ’r Cwmnïau o’r ffaith bod y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yn newid ar Ffurflen AA01c. Rhaid i chi gyflwyno dyddiad cyfeirnod cyfrifeg newydd derbyniol cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio’r cyfrifon ar gyfer y cyfnod yr ydych yn dymuno’i newid. Mewn geiriau eraill, os bydd cyfrifon am gyfnod cyfeirnod cyfrifeg yn ddyledus, mae’n rhy hwyr i chi newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg. Gallwch newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg gyfrwng ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling neu trwy anfon y ffurflenni papur perthnasol i Dŷ’r Cwmnïau. Ar ôl diwedd pob cyfnod cyfeirnod cyfrifeg, bydd gan gwmnïau preifat 9 mis a chwmnïau cyhoeddus 6 mis i gyflwyno’u cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau. Mae’r cyfnod a ganiateir er mwyn cyflwyno cyfrifon cyntaf cwmni ac er mwyn newid ei ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg yn wahanol, a byddwn yn esbonio hyn ym mhennod 5. 4. A oes unrhyw gyfyngiadau ynghylch newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg? Mae modd newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg trwy fyrhau cyfnod cyfeirnod cyfrifeg mor aml ag y byddwch yn ei ddymuno, ac am gymaint o fisoedd ag y byddwch yn ei ddymuno. Fodd bynnag, ceir cyfyngiadau ynghylch ymestyn cyfnodau cyfeirnod cyfrifeg:
Mae rhestr o wledydd o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, ar gael ein gwefan. 5. A oes unrhyw gyfyngiadau eraill yn berthnasol ynghylch newid Dyddiad Cyfeirnod Cyfrifeg cyntaf cwmni? Nac oes. Mae’r cyfyngiadau ynghylch newid unrhyw gyfnod yr un fath â’r rhai a ddisgrifiwyd yng nghwestiwn 4 uchod. Pan fyddwch yn ymestyn eich cyfnod cyfrifeg cyntaf i’r uchafswm o 18 mis, dylech nodi bod yn rhaid i chi ystyried y dyddiad corffori fel diwrnod cyntaf y cyfnod. Mae nifer o gwmnïau yn gwneud camgymeriad trwy ychwanegu 6 mis i ddiwedd y cyfnod ac mewn rhai achosion, gall hyn ymestyn y cyfnod y tu hwnt i 18 mis. 1. A oes yn rhaid i bob cwmni gadw cofnodion cyfrifeg? Oes. Rhaid i bob cwmni, os ydynt yn masnachu neu beidio, gadw cofnodion cyfrifeg. 2. Beth ddylai cofnodion cyfrifeg eu cynnwys? Rhaid i gofnodion cyfrifeg gynnwys yr elfennau canlynol yn arbennig:
Yn ogystal, pan fo busnes cwmni yn ymwneud â delio gyda nwyddau, rhaid i’r cofnodion gynnwys:
Rhaid i riant-gwmnïau sicrhau bod unrhyw is-ymgymeriad yn cadw cofnodion cyfrifeg digonol er mwyn sicrhau bod cyfarwyddwyr y rhiant-gwmni yn gallu paratoi cyfrifon sy’n cydymffurfio gyda’r Ddeddf Cwmnïau neu Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol. 3. Ble mae’n rhaid i gwmni gadw ei gofnodion cyfrifeg? Rhaid i gwmni gadw ei gofnodion cyfrifeg yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu mewn man sy’n addas ym marn y cyfarwyddwyr. Rhaid i’r cofnodion fod ar gael i’w harchwilio gan swyddogion y cwmni ar unrhyw adeg. Os bydd y cwmni yn cadw’r cofnodion mewn man y tu allan i’r DU, rhaid iddo anfon cyfrifon a ffurflenni o leiaf bob chwe mis, a’u cadw yn y DU. Rhaid i’r cyfrifon a’r ffurflenni hynny ddatgelu’r sefyllfa ariannol a galluogi’r aelodau i baratoi cyfrifon sy’n cydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf Cwmnïau, gan gynnwys y man lle y caiff y cyfrifon eu paratoi gan ddefnyddio Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol. 4. Am ba mor hir y bydd yn rhaid i gwmni gadw ei gofnodion? Rhaid i gwmnïau preifat gadw cofnodion cyfrifeg am 3 blynedd o’r dyddiad y’u paratowyd. Rhaid i gwmnïau cyhoeddus eu cadw am 6 blynedd. Pennod 4 - Cyfrifon ar gyfer eich aelodau 1. Pwy sy’n gyfrifol am baratoi cyfrifon? Rhaid i gyfarwyddwyr pob cwmni baratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Gelwir y rhain yn gyfrifon unigol. Yn ogystal, rhaid i riant-gwmni baratoi cyfrifon grŵp (ond i riant-gwmnïau a ddiffinnir fel rhai bach, mae hyn yn ddewisol – gweler pennod 6). Gall rhai cwmnïau segur sy’n is-gwmnïau hawlio eithriad rhag paratoi neu ffeilio cyfrifon o dan amgylchiadau penodol hefyd – gweler pennod 8. 2. Beth mae set o gyfrifon yn ei gynnwys? Yn gyffredinol, rhaid i gyfrifon gynnwys:
Ac yn gyffredinol rhaid cyflwyno’r canlynol gyda’r cyfrifon:
3. Pa gyfnod y mae’n rhaid i’r cyfrifon ddelio ag ef? Bydd cyfrifon cyntaf cwmni yn delio â’r cyfnod a gychwynnodd ar y dyddiad corffori, nid y diwrnod masnachu cyntaf. Byddant yn dod i ben ar y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg neu hyd at 7 diwrnod y naill ochr i’r dyddiad hwnnw. Bydd cyfrifon dilynol yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y daeth y cyfrifon blaenorol i ben, ac yn dod i ben ar y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg neu hyd at 7 diwrnod y naill ochr iddo. Am wybodaeth bellach ynghylch newid eich dyddiad cyfeirnod cyfrifeg, trowch at bennod 2. Er enghraifft, os bydd cwmni yn cael ei gorffori ar 6 Ebrill 2009, rhaid i’r cyfrifon ddelio â’r cyfnod cyfan rhwng 6 Ebrill 2009 a 30 Ebrill 2010. Bydd cyfnodau dilynol yn cychwyn ar 1 Mai bob blwyddyn ac yn dod i ben ar 30 Ebrill y flwyddyn ddilynol. 4. Beth os na fydd cwmni yn gallu fforddio talu am gyfrifydd proffesiynol? Ni cheir unrhyw ofyniad i gwmnïau fanteisio ar wasanaeth cyfrifydd proffesiynol i baratoi eu cyfrifon. Fodd bynnag, dylai cyfarwyddwyr fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau cyfreithiol ynghylch cyfrifon ac os na fyddant yn siŵr am y gofynion, efallai y byddant yn ystyried ceisio cyngor proffesiynol. 5. A oes yn rhaid i bob cwmni anfon cyfrifon at aelodau ac ati? Rhaid i bob cwmni anfon copi o’i gyfrifon blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol at -
Ni fydd hyn yn berthnasol i rai is-gwmnïau segur sydd wedi eu heithrio rhag paratoi cyfrifon - am ragor o fanylion, trowch at bennod 8. 6. A oes yn rhaid i gwmni gyflwyno ei gyfrifon gerbron cyfarfod cyffredinol? Rhaid i gwmni cyhoeddus gyflwyno ei gyfrifon gerbron ei aelodau yn ystod cyfarfod cyffredinol blynyddol. Ni cheir gofyniad statudol mwyach i gwmnïau preifat gyflwyno’u cyfrifon gerbron aelodau yn ystod cyfarfod cyffredinol. Os bydd erthyglau cwmni preifat yn nodi bod yn rhaid i’r cwmni gyflwyno cyfrifon gerbron aelodau yn ystod cyfarfod cyffredinol ar hyn o bryd, gall wneud penderfyniad arbennig i waredu’r ddarpariaeth honno. Rhaid i gwmni cyhoeddus gyflwyno ei gyfrifon gerbron ei aelodau yn ystod cyfarfod cyffredinol blynyddol. 7. A gaiff cwmni fabwysiadu penderfyniad i ddefnyddio gwefan fel ffordd o ddangos y cyfrifon i’r aelodau? Caiff. Gall cwmni mabwysiadu penderfyniad neu wneud darpariaeth yn ei erthyglau a fydd yn sicrhau ei fod yn gallu anfon neu ddarparu dogfennau i’r aelodau, gan gynnwys cyfrifon, trwy gyfrwng gwefan. Nid oes yn rhaid i’r aelodau gytuno ar drefniant cyfathrebu o’r fath ac mae ganddynt yr hawl i ofyn am gopi papur. 8. Pwy sy’n gallu cymeradwyo a llofnodi cyfrifon? Rhaid i fwrdd cyfarwyddwyr y cwmni gymeradwyo’r cyfrifon cyn iddynt eu hanfon at aelodau ayyb.
Pan fo’r archwilydd yn gwmni, rhaid i adroddiad yr archwilydd nodi enw’r archwilydd ac enw’r unigolyn a’i llofnododd fel uwch-archwilydd statudol ar ran y cwmni. Am ragor o fanylion, trowch at bennod 12 – Archwilwyr. Pennod 5 - Cyfrifon ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau 1. A yw’r cyfrifon sy’n cael eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau yn wahanol i’r cyfrifon sy’n cael eu paratoi ar gyfer yr aelodau? Gallwch ffeilio copi o’r cyfrifon yr ydych eisoes wedi’u paratoi ar gyfer yr aelodau/cyfranddeiliaid, yn Nhŷ’r Cwmnïau. Fodd bynnag, gall cwmnïau bach a chanolig ffeilio fersiwn cryno o’r cyfrifon hynny, sy’n llai manwl. 2. A oes yn rhaid i bob cwmni ffeilio’u cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau? Rhaid i bob cwmni cyhoeddus a chyfyngedig preifat ffeilio’u cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau. Y bydd angen i gwmnïau anghyfyngedig gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau dim ond os oedd unrhyw rai o’r elfennau canlynol yn berthnasol i’r cwmni yn ystod y cyfnod y mae’r cyfrifon yn delio ag ef:
Hwyrach y gall is-gwmnïau segur hawlio eithriad rhag paratoi neu ffeilio eu cyfrifon o dan rai amgylchiadau penodol – am ragor o fanylion, trowch at bennod 8. 3. A oes modd i mi ffeilio’r un cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM)? Os ydych chi’n ffeilio cyfrifon bach sydd wedi eu heithrio rhag archwilio ariannol, mae’n bosibl y gallwch ffeilio’r cyfrifon drwy ddefnyddio’r opsiwn ffeilio ar y cyd. Mae hwnnw’n caniatáu ichi nodi data’ch cyfrifon unwaith a’i gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ac i CThEM. I ddefnyddio’r opsiwn hwn, bydd arnoch chi angen:
Bydd yr opsiwn ffeilio ar y cyd yn caniatáu ichi naill ai cyflwyno’r cyfrifon statudol llawn sydd wedi eu heithrio rhag archwilio ariannol i’r ddau sefydliad neu dynnu cyfrifon byr i’w ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau yn unig. I gael rhagor o wybodaeth i weld a yw hyn yn addas i’ch cwmni chi, gweler Cwestiynau Cyffredin ffeilio ar y cyd ar ein gwefan. Mae gan Dŷ’r Cwmnïau a CThEM ddyddiadau cau gwahanol ar gyfer ffeilio a chosbau gwahanol am ffeilio’n hwyr. Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw sicrhau eu bod yn gwybod beth yw’r dyddiadau cau. 4. A oes angen i mi ffeilio fy nghyfrifon gyda CThEM neu’r Comisiwn Elusennau, neu 'Office of the Scottish Charity Regulator' o hyd? Oes. Mae’r cyfrifon sy’n cael eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau yn unol â Deddf Cwmnïau 2006. Rhaid i chi ffeilio gyda chyrff rheoleiddio eraill o hyd, yn unol â’u gofynion a’u terfynau amser nhw ar gyfer ffeilio. 5. A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn cynnig cyngor technegol am gyfrifon? Na. Dim ond arweiniad cyffredinol y bydd modd i ni ei roi, nid cyngor technegol ynghylch materion cyfreithiol neu faterion cyfrifeg penodol. Mae’ch cyfrifon yn rhwym i ofynion cyfreithiol ac nid ydym yn gymwys i gynnig cyngor arbenigol. Efallai y byddwch yn dymuno ystyried ymgynghori â chyfrifydd os bydd angen cyngor o’r math hwn rnoch. 6. Faint o amser fydd gennyf i ffeilio cyfrifon cyntaf fy nghwmni? Os ydych yn ffeilio cyfrifon cyntaf eich cwmni a bod y cyfrifon hynny yn delio â chyfnod o dros 12 mis, rhaid i chi eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau:
neu 3 mis o’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg, pa un bynnag yw’r hiraf. Caiff y terfyn amser ar gyfer cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ei gyfrifo i’r union ddiwrnod. Er enghraifft, bydd gan gwmni preifat a gorfforwyd ar 1 Ionawr 2011 ac y mae ganddo ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg o 31 Ionawr, tan ganol nos ar 1 Hydref 2012 (21 mis o’r dyddiad corffori) er mwyn cyflwyno’i gyfrifon, nid 31 Hydref. Os bydd y cyfrifon cyntaf yn delio â chyfnod o 12 mis neu lai, bydd y cyfnodau arferol a ganiateir ar gyfer cyflwyno cyfrifon yn berthnasol (gweler cwestiwn 7 isod). 7. Faint o amser fydd gennyf i ffeilio fy nghyfrifon fel arfer? Oni bai eich bod yn ffeilio cyfrifon cyntaf eich cwmni (gweler cwestiwn 6 uchod), mae’r amser a ganiateir er mwyn cyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau fel arfer:
Dylech fod yn ymwybodol o’r diffiniad ar gyfer cyfnod o fisoedd mewn cysylltiad â ffeilio cyfrifon. 8. Os byddaf yn byrhau fy nyddiad cyfeirnod cyfrifeg, a fydd yn rhaid i mi ffeilio erbyn y terfyn amser gwreiddiol o hyd? Na. Pan fydd cwmni yn byrhau ei gyfnod cyfrifeg, y terfyn amser newydd ar gyfer ffeilio fydd yr hiraf o’r ddau ddewis canlynol;
9. A oes modd i mi wneud cais am amser ychwanegol er mwyn ffeilio? Oes. Os oes rheswm arbennig dros wneud hynny, gallwch wneud cais i ymestyn y cyfnod er mwyn cyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau; er enghraifft, os oes rhywbeth annisgwyl wedi digwydd, a oedd y tu hwnt i reolaeth y cwmni a’i archwilwyr. Dylech baratoi cais ysgrifenedig a’i gyflwyno cyn y terfyn amser arferol ar gyfer ffeilio. Rhaid iddo gynnwys esboniad llawn o’r rhesymau dros ymestyn y cyfnod, a hyd yr estyniad y gofynnir amdano. Gallwch wneud hyn trwy anfon e-bost i’n hadran ymholiadau. neu ysgrifennu at;
10. Beth os byddaf yn cyflwyno’r cyfrifon yn hwyr? Mae methiant i gyflwyno cyfrifon prydlon yn dramgwydd troesddol. Yn ychwanegol mae’r gyfraith yn pennu cosb sifil i’r cwmni am ffeilio cyfrifon yn hwyr. Bydd cyfanswm y gosb yn ddibynnol ar ba mor hwyr y bydd y cyfrifon yn cyrraedd ac a yw’r cwmni yn gwmni preifat neu’n gwmni cyhoeddus ar ddyddiad y fantolen. Mae gwybodaeth bellach am gosbau ffeilio ar gael yn ein canllaw "Cosbau Ffeilio Hwyr" sydd ar gael ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. 11. Beth os bydd y terfyn amser ar gyfer ffeilio yn syrthio ar ddydd Sul neu ar Ŵyl y Banc? Os bydd terfyn amser ar gyfer ffeilio yn syrthio ar ddydd Sul neu ar Ŵyl y Banc, mae’r gyfraith yn mynnu eich bod yn ffeilio’r cyfrifon erbyn y dyddiad hwnnw o hyd. Er mwyn osgoi cael cosb, dylech sicrhau eich bod yn anfon cyfrifon derbyniol mewn da bryd, er mwyn iddynt gyrraedd cyn y terfyn amser. Y dyddiad pwysig yw’r dyddiad pan dderbynnir yn Nhŷ’r Cwmnïau gyfrifon derbyniol sy’n bodloni’r gofynion cyfreithiol perthnasol, ac nid y dyddiad pan fyddwch yn anfon y cyfrifon. Noder: nid yw rhai swyddfeydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn post ar ddydd Sadwrn ac efallai bydd dim blwch post. Ewch i’n gwefan i weld manylion diweddaraf ein horiau agor a’n cyfleusterau ar gyfer cyflwyno dogfennau 12. Beth os na fyddaf yn cyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau o gwbl? Os bydd y cofrestrydd yn credu nad yw cwmni yn weithredol mwyach, gallai ei ddileu o’r gofrestr a’i ddiddymu. Os bydd hyn yn digwydd, bydd holl asedau’r cwmni, gan gynnwys ei gyfrif banc a’i eiddo, yn gyffredinol yn trosglwyddo i berchnogaeth y Goron. Mae methu cyflwyno dogfennau yn dramwydd troseddol. Mae perygl y bydd holl gyfarwyddwyr y cwmni yn cael eu herlyn. O’u collfarnu, gallai cyfarwyddwyr gael cofnod troseddol a dirwy o hyd at £5,000 am bob trosedd. Mae hyn ar wahân i’r gosb sifil a roddir i’r cwmni am ffeilio cyfrifon yn hwyr. 13. A oes modd i mi gyflwyno cyfrifon ar-lein? Oes. Gallwch gyflwyno’r cyfrifon canlynol ar-lein:
Mae WebFiling yn cynnig ffurflenni syml ar y we sy’n eich galluogi i gyflwyno’r canlynol yn rhwydd ac yn gyflym.
Mae WebFiling yn cynnig templedi ar gyfer dogfennau y gellir eu dadlwytho yn rhad ac am ddim am gyfrifon llawn bach sydd wedi eu heithrio rhag archwilio a chyfrifon cryno bach sydd wedi eu heithrio rhag archwilio. Os ydych chi’n ffeilio cyfrifon bach sydd wedi eu heithrio rhag archwilio ariannol, mae’n bosibl y gallwch ffeilio’r cyfrifon drwy ddefnyddio’r opsiwn ffeilio ar y cyd. Mae hwnnw’n caniatáu ichi nodi data’ch cyfrifon unwaith a’i gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ac i CThEM. Mae darparwyr meddalwedd yn cynnig amrywiaeth o becynnau cyfrifeg y gallwch eu defnyddio at ddibenion ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau hefyd. Am ragor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael a manylion cofrestru. trowch at ein gwefan. 14. Pa enwau a llofnodion y dylid eu rhoi ar y cyfrifon i’w ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau? Er mwyn ffeilio, mae’n rhaid i’r copïau o’r cyfrifon fodloni’r gofynion canlynol:
Dylid nodi na fydd llofnod darllenadwy ar fantolen yn bodloni’r gofyniad ychwanegol am enw printiedig. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwrthod unrhyw gyfrifon os nad ydynt yn bodloni’r gofynion uchod. Lle mae’r archwilydd yn ffyrm, rhaid i adroddiad yr archwilydd ddatgan enw’r archwilydd ac enw’r sawl a’i llofnododd fel uwch-archwilydd statudol ar ran y ffyrm. Am ragor o fanylion, gan gynnwys manylion yr amgylchiadau lle gellir hepgor enwau archwilwyr, gweler pennod 12 - Archwilwyr. 15. Ble mae’n rhaid dangod enw a rhif y cwmni? Dylai enw a rhif y cwmni ymddangos ar un o ddogfennau cyfansawdd y cyfrifon fel adroddiad y cyfarwyddwyr neu’r fantolen. Gall yr enw a’r rhif hefyd gael eu dangos ar unrhyw ddalen eglurhaol a anfonir gyda’r cyfrifon. 16. Beth os gwrthodir fy nghyfrifon? Os na fydd eich cyfrifon yn bodloni ein gofynion, byddwn yn eu dychwelyd atoch er mwyn i chi eu cywiro. Mae’n hanfodol eich bod yn anfon eich cyfrifon atom ymhell cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio, oherwydd ni fyddwch yn cael unrhyw amser ychwanegol os byddant yn cael eu gwrthod. 17. A oes modd i mi gyflwyno fy nghyfrifon mewn unrhyw iaith? Os byddwch yn paratoi cyfrifon mewn iaith ac eithrio Saesneg, bydd yn rhaid i chi anfon cyfieithiad Saesneg ardystiedig ohonynt hefyd. Os yw swyddfa gofrestredig y cwmni yng Nghymru, fodd bynnag, dim ond y cyfrifon Cymraeg y bydd yn rhaid i chi eu hanfon os byddwch yn dewis gwneud hynny. Yn ogystal, bydd modd i gwmnïau anfon cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol. Dim ond mewn ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y bydd modd i chi anfon cyfieithiadau gwirfoddol ardystiedig, ac mae’n rhaid i chi eu hanfon gyda Ffurflen VT01 wedi’i llenwi hefyd. 18. A gaf i gyflwyno unrhyw ddarnau o wybodaeth am y cyfrifon ar wahân? Cewch. Gellir atodi gwybodaeth am ymgymeriadau cysylltiedig at ffurflen flynyddol nesaf y cwmni o dan amgylchiadau penodol. Os oes gofyn i’r cwmni gynnwys llawer iawn o wybodaeth am ymgymeriad cysylltiedig a bod y cyfarwyddwyr o’r farn y byddai hynny’n golygu bod y nodiadau’n rhy hir, dyma’r unig bethau y mae angen i’r cyfrifon eu cynnwys:
Os yw cwmni’n manteisio ar hyn, rhaid atodi’r holl wybodaeth yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys y wybodaeth a roddwyd eisoes yn y cyfrifon, at ffurflen flynyddol nesaf y cwmni. Beth yw cwmni bach? Ceir 3 maint o gwmni i’w hystyried wrth i chi baratoi eich cyfrifon; bach, canolig neu fawr. Ceir trothwyon ar gyfer trosiant, cyfanswm mantolen (sy’n golygu cyfanswm yr asedau sefydlog a chyfredol) a nifer cyfartalog y gweithwyr, sy’n pennu a yw’ch cwmni yn gwmni bach neu’n gwmni canolig. Mae unrhyw gwmni nad yw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer cwmnïau bach neu ganolig, yn gwmni mawr, a bydd yn rhaid iddo baratoi a chyflwyno cyfrifon llawn. Gall cwmni bach baratoi a chyflwyno cyfrifon yn unol â darpariaethau arbennig yn Neddf Cwmnïau 2006 a’r rheoliadau perthnasol. Mae hyn yn golygu y gallant ddewis datgelu llai o wybodaeth na chwmnïau canolig a mawr. Ni fydd modd i gwmnïau cyhoeddus a chwmnïau gwasanaethau ariannol penodol fod yn gymwys fel cwmnïau bach. Yn yr un modd, ni all cwmnïau sy’n rhan o grŵp, y mae ei aelodau yn cynnwys cwmnïau cyhoeddus neu gwmnïau gwasanaethau ariannol, fod yn gymwys fel cwmnïau bach, oni bai mewn amgylchiadau penodol – gweler cwestiwn 2 isod. Os ydych yn credu bod eich cwmni chi yn gymwys i gael ei ystyried fel cwmni bach, efallai y byddwch yn dymuno cysylltu gyda chyfrifydd proffesiynol cyn i chi baratoi cyfrifon yn unol â’r darpariaethau sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n destun y gyfundrefn ar gyfer cwmnïau bach. 1. Beth yw’r amodau ar gyfer bod yn gymwys fel cwmni bach? Rhaid i gwmni bach fodloni o leiaf ddau o’r amodau canlynol:
2. A oes unrhyw gwmnïau nad ydynt yn cael paratoi a chyflwyno cyfrifon bach?
Bydd grŵp yn anghymwys os bydd unrhyw un o’i aelodau:
Sylwer:Mae modd i gwmnïau a fyddai’n gymwys fel cwmnïau bach fel arall, ond sydd yn aelodau o grwpiau anghymwys, fanteisio o hyd ar yr eithriad rhag cynnwys adolygiad busnes yn adroddiad y cyfarwyddwyr sy’n cael ei baratoi ar gyfer aelodau, a rhag ffeilio adroddiad y cyfarwyddwyr yn Nhŷ’r Cwmnïau. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cwmnïau gwasanaethau ariannol sy’n cael eu heithrio o’r gyfundrefn ar gyfer cwmnïau bach, a fyddech cystal â chysylltu â’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol trwy droi at ei wefan. 3. A oes modd i gwmni fod yn gymwys fel cwmni bach bob blwyddyn? Yn gyffredinol, bydd cwmni yn gymwys fel cwmni bach yn ystod ei gyfnod cyfrifeg cyntaf os bydd yn bodloni’r amodau yn ystod y cyfnod hwnnw. Mewn unrhyw gyfnodau dilynol, rhaid i gwmni fodloni’r amodau yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn ystod y cyfnod cyn hynny. Fodd bynnag, os na fydd cwmni a oedd yn gymwys fel cwmni bach yn ystod un cyfnod, yn bodloni’r meini prawf mwyach yn ystod y cyfnod nesaf, gall barhau i hawlio’r eithriadau sydd ar gael ar gyfer y cyfnod nesaf. Yna, os bydd y cwmni yn mynd yn ôl i fod yn gwmni bach trwy fodloni’r meini prawf ar gyfer y cyfnod canlynol, bydd yr eithriad yn parhau yn ddi-dor. 4. Beth yw’r amodau er mwyn bod yn gymwys fel grŵp bach? Er mwyn bod yn gymwys fel grŵp bach, rhaid i grŵp o gwmnïau fodloni o leiaf ddau o’r amodau canlynol:
5. Beth mae cyfrifon cwmni bach yn ei gynnwys? Yn gyffredinol, bydd cyfrifon cwmni bach sy’n cael eu paratoi ar gyfer aelodau yn cynnwys:
A dylai’r canlynol gael eu cyflwyno gyda nhw:
Rhaid i’r fantolen gynnwys datganiad mewn lle amlwg uwchben llofnod y cyfarwyddwr sy’n nodi bod y cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â’r darpariaethau arbennig sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n destun y gyfundrefn ar gyfer cwmnïau bach. 6. Beth yw’r eithriadau sydd ar gael ar gyfer cwmnïau bach? Gall cwmnïau bach baratoi a ffeilio cyfrifon symlach a llai manwl na’r rhai y bydd angen i gwmnïau mawr a chanolig eu ffeilio. Yn ogystal, mae Rheoliadau a Deddf Cwmnïau 2006 yn nodi’r hyn y mae’n rhaid i adroddiad cyfarwyddwyr cwmni bach ei gynnwys. Nid oes yn rhaid i adroddiad o’r fath gynnwys adolygiad busnes na datganiad ynghylch y swm yr argymhellir y dylid ei dalu fel buddran yn ôl y cyfarwyddwyr. Os bydd y cwmni wedi manteisio ar yr eithriad i gwmnïau bach rhag paratoi adroddiad y cyfarwyddwyr, rhaid iddo gynnwys datganiad uwchben llofnod ac enw printiedig y cyfarwyddwr neu’r ysgrifennydd sy’n cyfeirio at hynny. 7. Beth fydd yn rhaid i gwmni bach ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau? Gall cwmni bach ffeilio copi o’r cyfrifon y mae wedi eu paratoi ar gyfer ei aelodau, neu fersiwn cryno o’r cyfrifon hynny. Os byddwch yn crynhoi’r cyfrifon, bydd rhaid cyflwyno adroddiad archwilio ariannol arbennig hefyd oni bai bod y cwmni wedi ei eithrio rhag archwilio - gweler cwestiwn 10 o’r bennod hon. Rhaid i’r adroddiad ddatgan bod gan y cwmni'r hawl i gyflwyno cyfrifon cryno ym marn yr archwilwyr, a hynny’n unol ag adran 444(3) Deddf Cwmnïau 2006, a’u bod wedi cael eu paratoi yn gywir yn unol â Rheoliadau Cwmnïau a Grwpiau Bach (Cyfrifon ac Adroddiad y Cyfarwyddwr) 2008. Nid oes yn rhaid i gwmnïau bach gyflwyno copi o adroddiad y cyfarwyddwyr neu’r cyfrif elw a cholled i Dŷ’r Cwmnïau. Gall cwmnïau bach sy’n paratoi cyfrifon dan y Ddeddf Cwmnïau gyflwyno mantolen gryno. Rhaid i gwmnïau bach sy’n paratoi cyfrifon dan Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol gyflwyno mantolen lawn i Dŷ’r Cwmnïau. Os byddwch yn manteisio ar unrhyw un o’r darpariaethau sy’n berthnasol i gwmnïau bach, os ydynt yn rhai cryno neu beidio, rhaid i chi gynnwys datganiad mewn lle amlwg ar y fantolen sy’n nodi bod y cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â’r darpariaethau arbennig sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n rhwym i’r gyfundrefn ar gyfer cwmnïau bach. Gallwch weld cynnwys cyfrifon cryno o dan y Ddeddf Cwmnïau yn Neddf Cwmnïau 2006 ac yn Atodlen 4 o’r Rheoliadau ar gyfer Grwpiau a Chwmnïau Bach (Cyfrifon ac Adroddiad y Cyfarwyddwyr) 2008 . Sylwer: Os byddwch chi’n dewis paratoi cyfrifon cryno ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau, mae gofyn o hyd i chi baratoi cyfrifon llawn ar gyfer eich aelodau – gweler pennod 4. 8. A oes unrhyw reolau arbennig ar gyfer grwpiau bach? Oes, ni fydd yn rhaid i riant-gwmni sy’n gymwys fel cwmni bach, baratoi cyfrifon grŵp na’u cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau os bydd y grŵp yn fach a heb fod yn anghymwys – gweler cwestiwn 4 uchod. Os bydd rhiant-gwmni bach yn penderfynu paratoi cyfrifon grŵp, pennir eu cynnwys gan Ddeddf 2006 a chan Atodlen 6 Rheoliadau Adrodd Grwpiau a Chwmnïau Bach (Cyfrifon a Chyfarwyddwyr) 2008. Os byddwch yn paratoi cyfrifon grŵp, rhaid iddynt gynnwys datganiad uwchben yr enw printiedig a llofnod ar y fantolen, sy’n cadarnhau eu bod yn cael eu paratoi yn unol â’r darpariaethau sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n rhwym i’r gyfundrefn ar gyfer cwmnïau bach. Eithriadau rhag archwilio ariannol ar gyfer cwmnïau bach 9. Pa eithriadau sydd ar gael? Ceir eithriad rhag archwilio ariannol ar gyfer cwmnïau bach penodol, ond dim ond os ydynt yn gymwys ac yn dymuno manteisio arno. 10. Pa gwmnïau bach sy’n gymwys i fanteisio ar eithriad rhag archwilio ariannol? Er mwyn bod yn gymwys i fanteisio ar eithriad rhag archwilio ariannol, rhaid i gwmni
Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar 1 Hydref 2012 neu’n ddiweddarach, y cyfan sydd ei angen i gwmni ei wneud yw bod yn gymwys i fod yn gwmni bach. Hynny yw, rhaid iddo fodloni unrhyw ddau o’r meini prawf canlynol:
11. A all unrhyw un wrthwynebu’r ffaith nad yw’r cwmni’n cael archwiliad? Gall, Hyd yn oed os bydd cwmni bach yn bodloni’r meini prawf hyn, bydd yn rhaid i’w gyfrifon gael eu harchwilio o hyd os bydd aelod neu aelodau sy’n dal o leiaf 10% o werth nominal y cyfalaf cyfrannau dosbarthedig neu sy’n dal 10% o unrhyw ddosbarth o gyfrannau yn mynnu hynny; neu – yn achos cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant – 10% o’i aelodau o ran eu nifer. Dylai’r galw i archwilio cyfrifon fod ar ffurf hysbysiad i’r cwmni, a gaiff ei adneuo yn y swyddfa gofrestredig o leiaf fis cyn diwedd y flwyddyn ariannol dan sylw. Ni ellir rhoi’r hysbysiad cyn y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi. 12. A oes categori ar wahân ar gyfer elusennau sydd wedi’u heithrio rhag archwilio ariannol? Nac oes. Nid oes categori penodol mwyach ar gyfer cwmnïau elusennol sydd wedi’u heithrio rhag archwilio ariannol yn Lloegr a Chymru neu yn yr Alban. Byddant yn gymwys i fanteisio ar eithriad rhag archwilio ariannol dan y gyfraith gwmnïau yn yr un modd ag unrhyw gwmni arall. Yn ogystal, efallai y bydd cwmnïau elusennol yn rhwym i ofynion ar wahân ar gyfer archwilio ariannol neu unrhyw drefniadau eraill i graffu ar eu cyfrifon dan y gyfraith elusen. Am ragor o wybodaeth, trowch at wefan y Comisiwn Elusen . Fodd bynnag, mae gofynion Gorchymyn 1986 yn dal i fod yn berthnasol i gwmnïau elusennol bach yng Ngogledd Iwerddon o ran bod yn gymwys am eithriad rhag archwilio a bydd rhaid i’w cyfrifon adlewyrchu’r datganiadau perthnasol. Hwyrach y byddwch am droi at ein Cwestiynau Cyffredin yn hyn o beth i gael rhagor o wybodaeth. 13. A yw pob cwmni bach yn gymwys i fanteisio ar yr eithriad? Nac ydynt. Rhaid i chi gyflwyno cyfrifon archwiliedig i Dŷ’r Cwmnïau os bydd y cwmni yn perthyn i unrhyw un o’r categorïau canlynol:
Gellir eithrio rhai is-gwmnïau rhag archwilio os ydynt yn bodloni amodau penodedig ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar 1 Hydref 2012 neu’n ddiweddarach. Am ragor o wybodaeth, trowch at Bennod 11. Efallai y bydd yn rhaid i rai cwmnïau rheoli fflatiau a fyddai’n gymwys i fanteisio ar eithriad fel arall, baratoi cyfrifon archwiliedig er mwyn cydymffurfio gydag amodau eu prydles. Os ceir unrhyw amheuaeth, dylech ystyried ceisio cyngor proffesiynol. 14. Beth fydd yn rhaid i gwmni wedi’i eithrio rhag archwilio ariannol ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau? Os bydd cwmni yn gymwys i gael ei eithrio rhag archwilio ariannol ( gweler cwestiynau 10 ac 13 y bennod hon), gall gyflwyno cyfrifon heb eu harchwilio i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurf mantolen gryno a nodiadau neu os bydd yn dewis gwneud hynny, cyfrifon llawn. Yn y naill achos neu’r llall, rhaid i’r fantolen gynnwys y datganiadau canlynol uwchben llofnod ac enw printiedig y cyfarwyddwr: Datganiad Eithriad rhag Archwilio "Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ………………(dd/mm/bbbb), yr oedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio rhag archwilio ariannol o dan adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006 gyda golwg ar gwmnïau bach. Cyfrifoldebau cyfarwyddwyr:
Efallai y bydd cwmnïau bach sy’n cyflwyno mantolen lawn yn dewis peidio cynnwys copi o adroddiad y Cyfarwyddwyr a/neu gopi o’r cyfrif elw a cholled. Yn yr achos hwn, rhaid i’r fantolen gynnwys datganiad ychwanegol hefyd, sy’n nodi bod y cyfrifon wedi cael eu cyflwyno yn unol â’r darpariaethau sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n rhwym i’r gyfundrefn ar gyfer cwmnïau bach. 15.Faint o amser fydd gennyf i gyflwyno cyfrifon wedi’u heithrio rhag archwilio ariannol i Dŷ’r Cwmnïau? Bydd gennych yr un faint o amser i ffeilio cyfrifon archwiliedig a chyfrifon wedi’u heithrio rhag archwilio ariannol, ac mae’r gyfraith yn pennu’r un cosbau â’r rhai a bennir ar gyfer ffeilio’r holl gyfrifon eraill yn hwyr. Gweler pennod 5. 16. A oes yn rhaid i gwmni wedi’i eithrio rhag archwilio ariannol anfon cyfrifon at ei aelodau o hyd? Oes. Yn unol â Deddf Cwmnïau 2006, mae gan aelodau yr hawl i gael neu fynnu copïau o’r cyfrifon. 17. Os na fydd fy nghwmni yn masnachu, a fydd yn rhaid iddo gyflwyno cyfrifon o hyd? Bydd. Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, os ydynt yn masnachu neu beidio, gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau. Fodd bynnag, gall cwmni cyfyngedig hawlio eithriad rhag archwilio ariannol fel ‘cwmni segur’ os nad yw wedi masnachu yn ystod blwyddyn ariannol, ac ar yr amod ei fod yn bodloni meini prawf penodol eraill. Ni fydd angen i gwmnïau segur sy’n gymwys benodi archwilwyr, a bydd modd iddynt gyflwyno cyfrifon blynyddol symlach fyth i Dŷ’r Cwmnïau. Am ragor o wybodaeth am gyfrifon cwmnïau segur, trowch at bennod 8. Pennod 7 - Cyfrifon Cwmni canolig 1. Beth yw cwmni canolig? Yn yr un modd â chwmni bach, pennir cwmni canolig gan ei drosiant, cyfanswm ei fantolen (sy’n golygu cyfanswm yr asedau) a nifer cyfartalog y gweithwyr. Gall cwmni canolig baratoi cyfrifon yn unol â darpariaethau arbennig sy’n berthnasol ar gyfer cwmnïau canolig. Mae hyn yn golygu y gallant ddewis cyflwyno llai o wybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau. Ni fydd modd ystyried bod cwmnïau cyhoeddus a chwmnïau gwasanaethau ariannol penodol yn gwmnïau canolig. Yn yr un modd, ni fydd modd ystyried bod cwmnïau sy’n rhan o grŵp ac sy’n cynnwys aelodau sy’n gwmnïau cyhoeddus neu gwmnïau gwasanaethau ariannol, yn gwmnïau canolig at ddibenion cyfrifeg. Os ydych o’r farn y gallai cwmni fod yn gymwys fel cwmni canolig, dylech ystyried cysylltu â chyfrifydd proffesiynol cyn i chi baratoi cyfrifon. 2. Beth yw’r amodau er mwyn bod yn gymwys fel cwmni canolig? Er mwyn bod yn gwmni canolig, rhaid i chi fodloni o leiaf ddau o’r amodau canlynol:
3. A oes unrhyw gwmnïau yn cael eu heithrio rhag cael eu trin fel cwmnïau canolig? Oes. Ni fydd modd trin cwmni fel cwmni canolig os yw, neu os oedd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol, yn un o’r canlynol;
Bydd grŵp yn anghymwys os bydd unrhyw un o’i aelodau:
4. A oes modd i gwmni fod yn gymwys fel cwmni canolig bob blwyddyn? Yn gyffredinol, bydd cwmni yn gymwys fel cwmni ‘canolig’ yn ystod ei gyfnod cyfrifeg cyntaf os bydd yn bodloni’r amodau yn ystod y cyfnod hwnnw. Mewn unrhyw gyfnod dilynol, rhaid i gwmni fodloni’r amodau yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn ystod y cyfnod cyn hynny. Fodd bynnag, os na fydd cwmni a oedd yn gymwys fel cwmni canolig yn ystod un cyfnod, yn bodloni’r meini prawf mwyach yn ystod y cyfnod nesaf, gall barhau i hawlio’r eithriadau sydd ar gael ar gyfer y cyfnod nesaf. Yna, os bydd y cwmni yn mynd yn ôl i fod yn gwmni canolig trwy fodloni’r meini prawf, bydd yr eithriad yn parhau yn ddi-dor. Os ydych o’r farn y gallai’r cwmni fod yn gymwys fel cwmni canolig, dylech ystyried cysylltu â chyfrifydd proffesiynol cyn i chi baratoi cyfrifon. 5. Beth fydd cyfrifon cwmni canolig yn ei gynnwys? Rhaid i gyfrifon cwmni canolig gynnwys:
A dylai’r canlynol gael eu cyflwyno gyda nhw:
6. Beth yw’r eithriadau sydd ar gael ar gyfer cwmnïau canolig? Gall cwmnïau canolig hepgor gwybodaeth benodol o’r adolygiad busnes yn eu hadroddiad cyfarwyddwyr (hynny yw, dadansoddiad gan ddefnyddio dangosyddion perfformiad allweddol i’r graddau y maent yn ymwneud â gwybodaeth anariannol). Yn ogystal, mae modd i gwmni canolig sy’n rhan o grŵp anghymwys fanteisio o hyd ar yr eithriad rhag datgelu dangosyddion perfformiad allweddol anariannol yn yr adolygiad busnes. Gall cwmnïau canolig sy’n paratoi cyfrifon dan y Ddeddf Cwmnïau hepgor datgelu ynghylch cydymffurfiaeth gyda safonau cyfrifeg a thrafodion parti cysylltiedig o’r cyfrifon y byddant yn eu hanfon at eu haelodau. Gall cwmnïau canolig sy’n paratoi cyfrifon dan y Ddeddf Cwmnïau ddewis ffeilio fersiwn ychydig yn fyrrach o’r cyfrif elw a cholled. (Gweler rheoliad 4 Rheoliadau Grwpiau a Chwmnïau Mawr a Chanolig (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008) Gall rhai is-gwmnïau gael eu heithrio rhag archwiliad ariannol os ydyn nhw’n bodloni amodau penodol ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar 1 Hydref 2012 neu’n ddiweddarach. Am ragor o wybodaeth, trowch at Bennod 11. 7. Beth fydd yn rhaid i gwmni canolig ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau? Rhaid i gyfrifon cryno cwmni canolig gynnwys:
Dylai’r adroddiad archwilio ariannol arbennig nodi bod gan y cwmni, ym marn yr archwilydd, yr hawl i gyflwyno cyfrifon cryno yn unol ag adran 445(3) Deddf Cwmnïau 2006 a’u bod wedi cael eu paratoi yn gywir yn unol â’r rheoliadau a wnaethpwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Rhaid i’r fantolen (a phan fo hynny’n briodol, adroddiad y cyfarwyddwyr) gynnwys datganiad sy’n nodi bod y cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â darpariaethau arbennig adran 445(3) Deddf Cwmnïau 2006, mewn perthynas â chwmnïau canolig. 8. A oes rheolau arbennig ar gyfer grwpiau canolig? Na.Rhaid i riant-gwmni canolig baratoi cyfrifon grŵp a’u cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Pennod 8 - Cyfrifon cwmnïau segur 1. Beth yw cwmni segur? Mae cwmni yn segur os na fydd wedi cael unrhyw ‘drafodion cyfrifeg arwyddocaol’ yn ystod y cyfnod cyfrifeg. Mae trafodion cyfrifeg arwyddocaol yn drafodion y dylai’r cwmni eu nodi yn ei gofnodion cyfrifeg. Wrth bennu a yw cwmni yn segur neu beidio, gallwch ddiystyru’r trafodion canlynol:
2. Beth yw’r amodau y mae’n rhaid i gwmni segur eu bodloni er mwyn cael ei eithrio rhag archwilio ariannol? Bydd cwmni segur yn cael ei eithrio o’r gofyniad i gael archwiliad ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno:
3. Pa eithriadau sydd ar gael? Gall cwmnïau segur hawlio eithriad rhag archwilio, a dim ond nodiadau a mantolen gryno y bydd angen iddynt eu paratoi a’u cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Ni fydd yn rhaid cynnwys cyfrif elw a cholled ac adroddiad y cyfarwyddwyr mewn cyfrifon cwmni segur sy’n cael eu ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau, ond mae’n rhaid darparu adroddiad y cyfarwyddwyr i’r aelodau. Ni chaiff cwmni fanteisio ar yr eithriad rhag archwilio ariannol y gall cwmni segur fanteisio arno, os bydd unrhyw rai o’r canlynol yn berthnasol iddo ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw:
Ni chaiff cwmni fanteisio ar yr eithriad rhag archwilio ariannol y gall cwmni segur fanteisio arno os bydd aelod neu aelodau sy’n dal o leiaf 10% o werth nominal y cyfalaf cyfrannau dosbarthedig neu sy’n dal 10% o unrhyw ddosbarth o gyfrannau yn gofyn am archwiliad; neu – yn achos cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant – 10% o’i aelodau o ran eu nifer. Dylai’r galw i archwilio cyfrifon fod ar ffurf hysbysiad i’r cwmni, a gaiff ei adneuo yn y swyddfa gofrestredig o leiaf fis cyn diwedd y flwyddyn ariannol dan sylw. Ni ellir rhoi’r hysbysiad cyn y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi. Ni fydd gan gwmni yr hawl i fanteisio ar yr eithriad rhag archwilio ar gyfer cwmni segur, oni bai bod ei fantolen yn cynnwys y datganiadau y cyfeirir atynt yng nghwestiwn 5 isod. Gall cwmni segur sy’n is-gwmni hefyd hawlio eithriad rhag paratoi a/neu ffeilio ei gyfrifon o dan amgylchiadau penodol hefyd - am ragor o wybodaeth trowch at gwestiwn 9. 4. Pa wybodaeth y bydd yn rhaid i gyfrifon cwmni segur ei chynnwys? Ni fydd angen i gyfrifon cwmni segur a gyflwynir i Dŷ’r Cwmnïau gynnwys cyfrif elw a cholled nac adroddiad y cyfarwyddwyr. Mae cyfrifon cwmni segur heb eu harchwilio lawer yn haws na chyfrifon cwmni sy’n masnachu, ond mae’n rhaid iddynt gynnwys:
Ni fydd yr hawl i baratoi mantolen cwmni segur i’w ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau yn effeithio ar rwymedigaethau’r cwmni i baratoi cyfrifon llawn ar gyfer ei aelodau –gweler pennod 4. 5. Pa ddatganiadau y bydd angen i mi eu cynnwys yn y fantolen? Os byddwch yn cyflwyno copi papur o’ch cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cynnwys y datganiadau canlynol uwchben enw printiedig a llofnod y cyfarwyddwr: Datganiad Eithriad rhag Archwilio "Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ………………………. (dd/mm/bbbb), yr oedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio rhag archwilio ariannol o dan adran 480 o Ddeddf Cwmnïau 2006 gyda golwg ar gwmnïau segur. Cyfrifoldebau cyfarwyddwyr:
Dylai cwmni preifat sy’n gymwys fel cwmni bach, gynnwys y datganiad canlynol yn y fantolen hefyd: "Paratowyd y cyfrifon hyn yn unol â’r darpariaethau sy’n gymwys i gwmnïau’n perthyn i’r drefn cwmnïau bach". Bydd cyfrifon a fydd yn cael eu cyflwyno ar-lein yn cynnwys camau gwirio mewnol a fydd yn atal camgymeriadau cyffredin a diffygion o ran y datganiadau angenrheidiol. 6. A oes modd i mi gael ffurflen safonol ar gyfer cyfrifon segur gan Dŷ’r Cwmnïau? Oes. Mae WebFiling yn cynnig ffurflen syml ar y we sy’n galluogi cwmnïau sydd erioed wedi masnachu i gyflwyno cyfrifon cwmnïau segur yn rhwydd ac yn gyflym trwy gyfryngau electronig. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer cwmnïau sydd wedi eu cyfyngu drwy gyfrannau a thrwy warant ill dau erbyn hyn. Mae’r rhain yn cynnwys camau gwirio mewnol er mwyn sicrhau nad ydych wedi hepgor unrhyw wybodaeth allweddol. Neu, gallwch lawrlwytho ffurflen bapur AA02, sydd ar gael yn www.companieshouse.gov.uk , ac sydd ar gyfer cwmni segur nad yw wedi masnachu ers iddo gael ei gorffori. Nid yw’r ffurflen AA02 yn addas ar gyfer pob cwmni segur, er enghraifft, ni all is-gwmnïau segur ffeilio ffurflen AA02 am na all y ffurflen ddarparu ar gyfer y manylion penodedig y mae angen i is-gwmnïau segur eu cyflwyno. Nid yw’r ffurflen hon yn addas ar gyfer cwmnïau sydd wedi mynd yn segur ar ôl masnachu. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi baratoi cyfrifon segur fel y’u disgrifir yng nghwestiwn 4 a 5 y bennod hon. 7. Faint o amser fydd gennyf i gyflwyno cyfrifon cwmni segur i Dŷ’r Cwmnïau? Bydd gennych yr un amser ag a ganiateir ar gyfer ffeilio, a rhoddir yr un cosbau am ffeilio hwyr, ag sy’n berthnasol ar gyfer cyfrifon eraill. 8. Beth fydd yn digwydd os bydd fy nghwmni yn dechrau masnachu unwaith eto? Ni fydd y cwmni yn cael ei eithrio rhag archwilio ariannol fel cwmni segur mwyach:
Pe bai un o’r rhain yn digwydd, efallai y byddai’n rhaid i chi gyflwyno cyfrifon llawn ar gyfer y flwyddyn ariannol pan nad oedd modd i’r cwmni gael ei eithrio mwyach, ac efallai y bydd angen i’r cyfarwyddwyr benodi archwilwyr ar gyfer y cwmni. Fodd bynnag, efallai y byddai’r cwmni yn gymwys i fanteisio ar eithriadau fel cwmni canolig neu gwmni bach. Mae pennod 6 y canllaw hwn yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ofynion archwilio cwmnïau ac eithrio rhag archwilio ariannol ar gyfer cwmnïau bach. 9. A all is-gwmni segur hawlio eithriad rhag paratoi a/neu ffeilio ei gyfrifon? Gall, os yw eich is-gwmni yn segur trwy gydol y flwyddyn ariannol a sefydlwyd eich rhiant-ymgymeriad o dan gyfraith un o wladwriaethau AEE, yna mae’n bosibl y gallwch hawlio eithriad rhag paratoi eich cyfrifon o dan adran 394A o’r Ddeddf, neu o’r rhwymedigaeth i gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau o dan adran 448A o’r Ddeddf. Mae hyn yn berthnasol i gyfnodau cyfrifeg sy’n dod i ben ar Hydref 2012 neu’n ddiweddarach. Rhaid paratoi a ffeilio unrhyw gyfrifon sy’n dod i ben cyn y dyddiad hwnnw o hyd. Sylwer: – Mae’r eithriad rhag paratoi (adran 394A) yn cwmpasu’r gofyniad i ffeilio cyfrifon hefyd, ac felly nid oes angen i gwmni sydd wedi hawlio’r eithriad hwn rhag ffeilio hefyd (o dan adran 448A) 10. O dan ba amodau y gall cwmni segur hawlio eithriad rhag paratoi a/neu ffeilio ei gyfrifon? I fanteisio ar unrhyw un o’r eithriadau hyn, rhaid i’r cwmni fod wedi bod yn segur trwy gydol y flwyddyn ariannol a rhaid i’w riant-gwmni fod wedi cael ei sefydlu o dan gyfraith un o wladwriaethau AEE. Bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau canlynol i Dŷ’r Cwmnïau hefyd, a hynny cyn y dyddiad pan fo’ch cyfrifon yn ddyledus:
Sylwer:
11. Pa wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys ar y ffurflen AA06? Rhaid i’r datganiad gynnwys y wybodaeth ganlynol:
12. Beth yw effaith y warant, a phryd daw’r warant i rym? Effaith y warant yw bod y rhiant-ymgymeriad yn gwarantu’r holl rwymedigaethau dyledus y mae’r is-gwmni’n rhwym iddynt ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Daw’r warant i rym pan fydd yn dod i law’r cofrestrydd a bydd yn aros mewn grym nes y caiff yr holl rwymedigaethau eu diwallu. 13. A all pob is-gwmni segur hawlio’r eithriadau hyn? Na all. Nid all is-gwmni segur hawlio eithriad os bu’n unrhyw un o’r canlynol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol o dan sylw:
Pennod 9 - Cyfrifon partneriaeth Mae Rheoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau 2008 yn mynnu bod cwmnïau sy’n aelodau o ‘bartneriaethau cymwys’ yn paratoi ac yn atodi cyfrifon y bartneriaeth wrth eu cyfrifon nhw. 1. Beth yw partneriaeth gymwys? Mae partneriaeth gymwys yn bartneriaeth a sefydlwyd dan gyfraith unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig os bydd pob aelod yn:
Bydd y rheoliadau partneriaeth yn berthnasol i’r rhan fwyaf o bartneriaethau cyfyngedig y mae ganddynt gwmnïau cyfyngedig fel eu partneriaid cyffredinol ac sydd wedi’u cofrestru dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907, gan fod yn rhaid bod prif leoliad busnes y partneriaethau hyn ym Mhrydain Fawr adeg eu cofrestru. Sylwer: 2. Pa gyfrifon y mae’n rhaid i’r bartneriaeth eu paratoi? Rhaid i’r bartneriaeth baratoi cyfrifon archwiliedig fel pe bai’n gwmni. Rhaid i’r cyfrifon gydymffurfio gyda gofynion Deddf Cwmnïau 2006 a’r rheoliadau cysylltiedig. Dan Reoliad 7 Rheoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau 2008, ni fydd yn rhaid i aelodau partneriaeth gymwys baratoi cyfrifon partneriaeth os bydd y bartneriaeth yn cael ei thrin ar sail gyfunol mewn cyfrifon grŵp a baratowyd naill ai gan:
Yn yr achosion hyn, rhaid i’r cyfrifon grŵp gael eu paratoi a’u harchwilio dan gyfraith y wladwriaeth aelodol yn unol â’r Seithfed Gyfarwyddeb ar y Gyfraith Gwmnïau neu Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol. Rhaid i nodyn i’r cyfrifon grŵp ddatgelu y manteisiwyd ar yr eithriad hwn. 3. Am ba gyfnod y mae’n rhaid i mi baratoi’r cyfrifon partneriaeth? Gall y cyfrifon gynnwys unrhyw gyfnod hyd at 18 mis, y mae modd ei nodi yng nghytundeb y bartneriaeth. Os na fydd y cytundeb partneriaeth yn nodi cyfnod, rhaid i chi baratoi’r cyfrifon ar gyfer pob cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth bob blwyddyn. 4. Pryd fydd yn rhaid i mi baratoi’r cyfrifon? Rhaid i chi baratoi’r cyfrifon partneriaeth cyn pen 9 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol. 5. Pryd fydd yn rhaid i mi gyflwyno a chyhoeddi’r cyfrifon? Os ydych yn gwmni cyfyngedig sy’n aelod o bartneriaeth gymwys, rhaid i chi atodi’r cyfrifon partneriaeth wrth y cyfrifon nesaf y byddwch yn eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Yn ogystal, rhaid i chi ddarparu’r canlynol i unrhyw unigolyn os byddant yn gofyn amdanynt:
Pan fydd prif swyddfa partneriaeth gymwys yn y Deyrnas Unedig, a bod pob un o’r partneriaid:
bydd yn rhaid i’r bartneriaeth:
mae’n rhaid i bob aelod o’r bartneriaeth:
6. A oes unrhyw eithriadau i’r rheolau ynghylch cyhoeddi? Dan reoliad 7 Rheoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau 2008, nid oes yn rhaid i aelodau partneriaeth gymwys gyhoeddi cyfrifon partneriaeth os bydd y bartneriaeth yn cael ei thrin ar sail gyfunol mewn cyfrifon grŵp a baratowyd gan:
Yn yr achosion hyn, rhaid iddynt baratoi ac archwilio cyfrifon grŵp dan gyfraith y wladwriaeth aelodol yn unol â’r Seithfed Gyfarwyddeb ar y Gyfraith Gwmnïau neu safonau cyfrifeg rhyngwladol. Rhaid i nodyn i’r cyfrifon grŵp ddatgelu y manteisiwyd ar yr eithriad hwn. 7. A oes unrhyw gosbau am fethu cydymffurfio? Oes. Gallai pob partner mewn partneriaeth gymwys neu bob cyfarwyddwr cwmni sy’n bartner, gael eu herlyn ac fe allent gael dirwy o hyd at £5,000. 8. Beth yw’r gofynion archwilio? Mae Rheoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau 2008 yn cynnwys gofynion sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo archwilwyr, llofnodi adroddiadau archwilwyr a datgelu cydnabyddiaeth archwilwyr, sy’n cyfateb i’r gofynion ar gyfer cwmnïau. Pennod 10 - Cwmnïau Buddiant Cymunedol 1. A oes angen i Gwmnïau Buddiant Cymunedol ffeilio cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau? Oes. Nid yw Cwmnïau Buddiant Cymunedol yn wahanol i gwmnïau eraill o ran y gofynion ynghylch paratoi a ffeilio cyfrifon. 2. A oes unrhyw ofynion ychwanegol ar gyfer Cwmnïau Buddiant Cymunedol? Oes. Rhaid i Gwmnïau Buddiant Cymunedol baratoi a chyflwyno ‘adroddiad cwmni buddiant cymunedol’ i Dŷ’r Cwmnïau, sy’n cyd-fynd â dyddiad y cyfrifon, beth bynnag fo maint y cwmni neu’r eithriadau y mae wedi manteisio arnynt. Mae modd cael yr adroddiad, ffurflen CIC34, ar-lein yn www.bis.gov.uk/cicregulator . Rhaid i chi anfon ffi o £15 gydag adroddiad CIC34. A fyddech cystal â gwneud unrhyw sieciau yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’. Am wybodaeth bellach am y gofyniad hwn, trowch at www.bis.gov.uk/cicregulator neu anfonwch e-bost. at cicregulator@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch: 029 2034 6228. Pennod 11 - Eithriadau rhag archwilio ar gyfer is-gwmnïau 1. A all is-gwmni hawlio eithriad rhag archwilio? Gall is-gwmni hawlio eithriad rhag archwilio o dan amgylchiadau penodol os sefydlwyd ei riant-gwmni o dan gyfraith un o wladwriaethau AEE. Er mwyn manteisio ar yr eithriad hwn, bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau canlynol i’r Cofrestrydd cyn dyddiad dyledus eich cyfrifon:
Sylwer:
2. A all pob is-gwmni hawlio’r eithriad hwn? Na all. Nid all is-gwmni hawlio eithriad os oedd yn unrhyw un o’r canlynol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol o dan sylw:
3. Pa wybodaeth y mae angen ei chynnwys ar y ffurflen AA06? Rhaid i’r datganiad gynnwys y wybodaeth ganlynol:
4. Beth yw effaith y warant, a phryd daw’r warant i rym? Effaith y warant yw bod y rhiant-ymgymeriad yn gwarantu’r holl rwymedigaethau dyledus y mae’r is-gwmni yn rhwym iddynt ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Daw’r warant i rym pan fydd yn dod i law’r cofrestrydd a bydd yn aros mewn grym nes y caiff yr holl rwymedigaethau eu diwallu. 5. Pa ddatganiadau y mae angen i mi eu cynnwys ar gyfrifon is-gwmni? Rhaid i’r is-gwmni gynnwys datganiadau ar fantolen ei gyfrifon unigol ar hyd y trywydd hwn: Datganiad Eithriad rhag Archwilio “Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ………………………. (dd/mm/bbbb), roedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio rhag archwilio ariannol o dan adran 479A o Ddeddf Cwmnïau 2006 gyda golwg ar is-gwmnïau segur. Cyfrifoldebau’r cyfarwyddwyr:
Penodi archwilwyr 1. Beth yw archwilydd? Mae archwilydd yn unigolyn sy’n paratoi adroddiad annibynnol ar gyfer aelodau cwmni, ynghylch a yw’r cwmni wedi paratoi ei ddatganiadau ariannol yn unol â’r Gyfraith Gwmnïau a’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol. Yn ogystal, rhaid i’r adroddiad nodi a yw cyfrifon cwmni yn cynnig golwg wir a theg ar ei sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn. 2. Sut ddylwn i benodi archwilydd? Rhaid penodi archwilydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol, oni bai bod y cyfarwyddwyr yn penderfynu fel arall mewn ffordd resymol, ar y sail nad yw’n debygol y bydd cyfrifon archwiliedig yn angenrheidiol. Mae’r rheolau yn wahanol ar gyfer cwmnïau cyhoeddus a phreifat. Ar gyfer cwmnïau cyhoeddus, bydd y cyfarwyddwyr yn penodi archwilydd cyntaf y cwmni. Yna, bydd yr archwilydd yn cyflawni ei swydd tan ddiwedd cyfarfod cyntaf y cwmni, lle y bydd y cyfarwyddwyr yn cyflwyno’i gyfrifon gerbron yr aelodau. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, gall aelodau’r cwmni ailbenodi’r archwilydd neu benodi archwilydd gwahanol, a fydd yn cyflawni’r swydd o ddiwedd y cyfarfod hwnnw tan ddiwedd y cyfarfod nesaf lle y bydd y cyfarwyddwyr yn cyflwyno cyfrifon. Ar gyfer cwmnïau preifat, bydd y cyfarwyddwyr yn penodi archwilydd cyntaf y cwmni. Yna, gall yr aelodau benodi neu ailbenodi archwilydd bob blwyddyn yn ystod cyfarfod aelodau’r cwmni, neu trwy gyfrwng penderfyniad ysgrifenedig, cyn pen 28 diwrnod i’r adeg pan fydd y cyfarwyddwyr yn anfon y cyfrifon at yr aelodau. Os na fyddant yn gwneud hynny,am flwyddyn penodol, fodd bynnag, bydd yr archwilydd a benodwyd yn parhau i gyflawni’r swydd nes bydd yr aelodau yn gwneud penderfyniad i’w ailbenodi neu i’w ddiswyddo fel archwilydd (gall 5% o’r aelodau, neu lai os yw’r erthyglau yn nodi hynny, orfodi’r cam o ystyried penderfyniad i waredu archwilydd.) Fodd bynnag, nid yw’r ddarpariaeth hon ynghylch parhau i gyflawni’r swydd yn berthnasol os oedd penodiad mwyaf diweddar yr archwilydd wedi cael ei wneud gan y cyfarwyddwyr neu os bydd erthyglau’r cwmni yn gofyn am benodiad blynyddol. 3. Beth mae archwilydd yn ei wneud? Mae’r archwilydd yn cynnal yr archwiliad yn unol â Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol (y DU ac Iwerddon) a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Arferion Archwilio. Mae archwiliad yn cynnwys craffu ar y dystiolaeth sy’n berthnasol ynghylch y symiau a’r datgeliadau yn y datganiadau ariannol. Yn ogystal, mae’n cynnwys asesiad o’r amcangyfrifon a’r dyfarniadau arwyddocaol a wnaethpwyd gan y cyfarwyddwyr wrth baratoi’r datganiadau ariannol. 4. Beth mae adroddiad archwilydd ariannol yn ei gynnwys? Rhaid i adroddiad archwilydd ariannol gynnwys:
Rhaid i adroddiad yr archwilwyr ariannol fod yn ddiamod neu’n amodol, gan gyfeirio at unrhyw faterion y mae’r archwilwyr yn dymuno tynnu sylw atyn nhw o ran pwyslais heb amodi’r adroddiad. Bydd yr archwilwyr yn amodi’r adroddiad lle y bu cyfyngiad o ran cwmpas gwaith yr archwilwyr neu pan geir anghytundeb o sylwedd rhwng y cwmni a’r archwilwyr ynghylch y cyfrifon. 5. Pwy sy’n gyfrifol am lofnodi adroddiad yr archwilwyr ariannol? Rhaid i’r archwilwyr brintio eu henw, llofnodi a dyddio’r adroddiad y byddant yn ei ddarparu i’r cwmni ar ôl cwblhau’r archwiliad. Pan fo’r archwilydd yn gwmni, rhaid i’r uwch-archwilydd statudol lofnodi adroddiad yr archwilwyr ariannol gwreiddiol yn ei enw ef, ar ran y cwmni. Yn ogystal, rhaid iddo ddyddio’r llofnod. Rhaid i’r cwmni nodi enw’r uwch-archwilydd statudol yng nghopïau adroddiad yr archwilwyr ariannol a gyhoeddir ganddo. Rhaid i gopïau o adroddiadau archwilwyr ariannol a gyflwynir i’r cofrestrydd nodi enw’r cwmni archwilio a’r uwch-archwilydd statudol, ond does dim angen eu llofnodi. 6. A oes unrhyw eithriadau rhag nodi enw’r archwilydd ar adroddiad yr archwilwyr ariannol? Oes. Os yw’r cwmni o’r farn bod risg y byddai’r archwilydd neu unrhyw unigolyn arall mewn perygl o ddioddef bygythiad neu drais difrifol pe bai enw’r archwilydd (neu enw’r “uwch-archwilydd statudol” a lofnododd yr adroddiad ar ran y cwmni) yn ymddangos ar gopïau o’r adroddiad a ffeiliwyd neu a gyhoeddwyd, caiff fabwysiadu penderfyniad i hepgor yr enw o’r copïau hynny. Ni ddylech anfon copi o’r penderfyniad i Dŷ’r Cwmnïau, ond dylech anfon hysbysiad yn ei gylch i’r cyfeiriad canlynol, Yr Ysgrifennydd Gwladol Rhaid i’r hysbysiad nodi:
Byddai angen i adroddiad yr archwilwyr allanol a fyddai’n cael ei atodi wrth y cyfrifon, gynnwys y datganiad canlynol: ‘Mae’r cwmni wedi mabwysiadu penderfyniad, yn unol ag adran 506 Deddf Cwmnïau 2006, na ddylid nodi enw’r archwilydd.’ 7. A oes modd i’m cyfrifydd gyflawni rôl archwilydd ar gyfer fy nghwmni? Rhaid i archwilydd fod yn annibynnol ar y cwmni. Felly, ni allwch benodi unigolyn i fod yn archwilydd os ydynt:
Os na fydd eich cyfrifydd yn perthyn i un o’r categorïau uchod, ac os bydd ganddo ef/ganddi hi dystysgrif archwilio ariannol gyfredol a ddyfarnwyd gan gorff goruchwylio cydnabyddedig, gallant weithredu fel archwilwyr y cwmni. COFIWCH: Ni fydd holl aelodau corff goruchwylio cydnabyddedig yn gymwys i weithredu fel archwilydd. Bydd y corff goruchwylio priodol yn gallu dweud wrthych a yw unigolyn neu gwmni penodol yn meddu ar dystysgrif archwilio ariannol gyfredol. 8. Beth a phwy yw cyrff goruchwylio cydnabyddedig? Mae’r Bwrdd Goruchwylio Proffesiynol yn cydnabod bod gan y cyrff hyn reolau a gynlluniwyd i sicrhau bod archwilwyr yn meddu ar y lefelau priodol o ran cymhwystra proffesiynol. Mae gan bob corff cydnabyddedig reoliadau llym a chod disgyblu sy’n llywodraethu gweithredoedd eu harchwilwyr cofrestredig. Mae’r pedwar corff cydnabyddedig fel a ganlyn: 1. Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban 2. Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Lloegr a Chymru 3. Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon 4. Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig 9. Ai dim ond cyfrifon blynyddol y mae archwilwyr yn eu harchwilio? Yn unol â safonau moesegol y Bwrdd Arferion Archwilio, mae dyletswyddau statudol archwilwyr wedi’u cyfyngu i archwilio bod cofnodion a llyfrau digonol yn bodoli, ac i adrodd am y cyfrifon ariannol. O dan y safonau moesol hyn eto, does dim byd sy’n rhwystro cwmni rhag cyflogi archwilydd at ddibenion eraill, megis cadw trefn ar y llyfrau neu lenwi’r ffurflen dreth, ar yr amod nad yw ef (neu hi) yn cymryd rhan yn y gwaith o reoli’r cwmni. Dylech gytuno ar lythyr cyflogi sy’n nodi cwmpas cyflogaeth yr archwilydd, ynghyd â ffurf unrhyw adroddiadau y bydd yr archwilydd yn eu paratoi. Diswyddo archwilwyr ariannol 10. A oes modd i gwmni ddiswyddo archwilydd ariannol? Oes. Gall aelodau cwmni ddiswyddo archwilydd ar unrhyw adeg yn ystod eu cyfnod yn y swydd. Rhaid iddynt neu’r cyfarwyddwyr roi 28 diwrnod o rybudd o’u bwriad i gyflwyno penderfyniad gerbron cyfarfod cyffredinol i ddiswyddo’r archwilydd.. Rhaid i’r cwmni anfon copi o’r hysbysiad ynghylch y penderfyniad arfaethedig at yr archwilydd, a bydd gan yr archwilydd yr hawl i baratoi ymateb ysgrifenedig ac i fynnu bod y cwmni yn ei anfon at aelodau’r cwmni, ac i siarad yn ystod y cyfarfod pan fydd y penderfyniad yn cael ei ystyried. Rhaid i’r cwmni gyflwyno ffurflen AA03 i Dŷ’r Cwmnïau cyn pen 14 diwrnod i’r adeg pan wneir y penderfyniad i ddiswyddo’r archwilydd. Er y gall cwmni ddiswyddo archwilydd ar unrhyw adeg, efallai y bydd gan yr archwilydd yr hawl i gael iawndal neu ddigollediad am y ffaith bod y penodiad wedi cael ei derfynu. Fel arall, gall cwmni benderfynu peidio ag ailbenodi’r archwilydd am dymor pellach. Ar gyfer cwmni preifat, gall ailbenodiad tybiedig yr archwilydd gael ei atal gan yr aelodau drwy benderfyniad cyffredin. Gall hefyd gael ei atal os bydd aelodau sy’n dal o leiaf 5% o hawliau pleidleisio’r cwmni yn rhoi gwybod i’r cwmni i’r perwyl hwnnw. Rhaid i’r hysbysiadau ddod i law cyn diwedd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg o flaen yr ailbenodi tybiedig. 11. Beth fydd yn rhaid i archwilydd ei wneud pan na fydd yn cyflawni’r swydd mwyach? Os na fydd archwilydd yn cyflawni ei swydd mwyach am unrhyw reswm, rhaid iddo adneuo datganiad yn swyddfa gofrestredig y cwmni. Os nad yw’r cwmni wedi’i restru ar gyfnewidfa stoc, dylai’r datganiad nodi unrhyw amgylchiadau sy’n gysylltiedig gyda’r ffaith nad yw’n cyflawni’r swydd mwyach, y dylid dwyn sylw aelodau a chredydwyr y cwmni atynt yn ei farn ef. Os yw’r cwmni wedi’i restru, rhaid iddo nodi’r amgylchiadau, os oes angen dwyn sylw aelodau a chredydwyr y cwmni atynt neu beidio yn ei farn ef.
Hefyd, lle bo’r yr archwilydd yn ymddiswyddo neu’n cael ei ddiswyddo yn ystod ei gyfnod yn y swydd, mae rhwymedigaethau ar yr archwilydd ariannol a’r cwmni hysbysu’r “awdurdod archwilio priodol". Mae canllawiau manylach am y darpariaethau hyn ar y Cyngor Adrodd Ariannol 1. Beth fydd yn digwydd i ddogfennau y byddaf yn eu hanfon i Dŷ'r Cwmnïau? Byddwn yn sganio’r dogfennau a’r ffurflenni y byddwch yn eu cyflwyno i ni er mwyn creu delwedd electronig. Yna, byddwn yn storio’r dogfennau papur gwreiddiol, gan ddefnyddio’r ddelwedd electronig fel y ddogfen waith. Pan fydd cwsmer yn chwilio cofnod y cwmni, atgynhyrchir y ddelwedd electronig ar-lein. Felly, mae’n bwysig bod y ddogfen wreiddiol yn ddarllenadwy, a’i bod yn gallu creu copi clir hefyd. Pan fyddwch yn ffeilio dogfen yn electronig, byddwn yn creu delwedd electronig o’r data a ddarparwyd gennych yn awtomatig Mae’r bennod hon yn cynnig rhai canllawiau i’w dilyn wrth baratoi dogfen i’w ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau. 2. Sut ddylai dogfennau gael eu gosod? Dogfennau sy’n cael eu ffeilio yn electronig Caiff dogfennau sy’n cael eu ffeilio trwy WebFiling eu fformadu yn unol â’r manylebau a bennwyd gan y cofrestrydd yn ei reolau am ffeilio electronig. Cyhoeddwyd y rhain ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. Rhaid i ddarparwyr meddalwedd sy’n cynnig cyfleusterau ffeilio electronig sicrhau bod dogfennau a gyflwynir gan ddefnyddio eu meddalwedd yn cael fformadu yn unol â rheolau’r cofrestrydd hefyd. Mae rhestr o ddarparwyr meddalwedd cyfredol ar gael ar ein gwefan. Dogfennau papur Yn gyffredinol, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau nodi enw a rhif cofrestru y cwmni mewn man amlwg. Ceir rhai eithriadau i’r rheol hon, a nodir yn rheolau cyhoeddedig y cofrestrydd. Dylai dogfennau papur fod ar bapur gwyn plaen A4, a gorffeniad di-sglein. Dylai’r testun fod yn ddu, yn eglur, yn ddarllenadwy a dylai’r dwysedd fod yn unffurf. Rhaid i lythrennau a rhifau fod yn eglur ac yn ddarllenadwy er mwyn sicrhau bod modd i ni baratoi copi derbyniol o’r ddogfen. Gallai’r canllawiau canlynol fod o gymorth. Mae methu â dilyn y canllawiau hyn yn debyg o arwain at wrthod y ddogfen: Pan fyddwch yn llenwi ffurflen, a fyddech cystal â:
Pan fyddwch yn cwblhau dogfennau eraill, cofiwch:
3. Ble mae modd i mi gael gwybod mwy am hyn? Am arweiniad pellach am ein gofynion argraffu gweler ein gwefan neu ffonio 0303 1234 500. Pennod 14 - Gwybodaeth Bellach 1. Sut ddylwn i gyflwyno gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau? Am fanylion llawn am yr holl ffyrdd o gyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau, yn electronig neu ar bapur, a fyddech cystal â throi at reolau’r cofrestrydd sy’n ymddangos ar ein gwefan. Y ffordd fwyaf diogel o gyflwyno gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw trwy ddefnyddio ein gwasanaethau ffeilio ar-lein. Am ragor o wybodaeth a manylion cofrestru, a fyddech cystal â throi at ein gwefan. Os ydych yn anfon dogfennau yn y post, gyda negesydd, gyda’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu Bost Cyfreithiol (yn yr Alban), ac os hoffech gael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu nodyn cydnabod os byddwch yn cynnwys copi o’ch llythyr esboniadol gydag amlen â chyfeiriad a stamp arni er mwyn ei ddychwelyd. Byddwn yn nodi cod bar ar eich copi chi o’ch llythyr, gan nodi’r dyddiad y’i cyflwynwyd, a’i ddychwelyd atoch yn yr amlen a ddarparwyd. Sylwer: nid yw nodyn sy’n cydnabod bod dogfen wedi cyrraedd, yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. Sylwer: nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfennau statudol trwy gyfrwng neges ffacs, PDF neu e-bost. 2. A fydd yn rhaid i mi dalu er mwyn ffeilio dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau? Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi am nifer o’r dogfennau y bydd yn rhaid i chi eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau, ond bydd angen talu ffi ar gyfer rhai ac ni fyddwn yn eu derbyn er mwyn eu cofrestru heb y ffi hon. Am fanylion llawn, dylech droi at ein gwefan. 3. A oes modd i mi ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill? Fel arfer, mae’r gyfraith yn mynnu eich bod yn ffeilio dogfennau a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau yn Saesneg. Ceir eithriadau i’r rheol hon, fel y nodir isod. Gall cwmnïau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os anfonir cyfieithiad Saesneg ardystiedig o’r ddogfen hefyd:
Yn ogystal, gall cwmnïau ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol unrhyw ddogfen sy’n rhwym i ofynion datgelu’r Gyfarwyddeb Gyntaf ar y Gyfraith Gwmnïau. Mae’r rhain fel a ganlyn:
Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol ymwneud â dogfen a gyflwynwyd i Dŷ’r Cwmnïau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2007. Dim ond yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y bydd modd ffeilio cyfieithiadau gwirfoddol, ac mae’n rhaid cyflwyno Ffurflen VT01 gyda nhw, a fydd yn cysylltu’r cyfieithiad gyda’r ddogfen wreiddiol. Mae yna eithriadau gwahanol ar gyfer cwmnïau Cymreig (sef y rhai sy’n cydymffurfio ag adran 88 o’r Ddeddf) sydd â hawl i lunio a chyflwyno dogfennau penodol yn Gymraeg heb fod angen cyfieithiad Saesneg ardystiedig i gyd-fynd â nhw. Mae rhestr lawn o’r dogfennau sydd wedi’u heithrio i’w gweld yn ein canllawiau o dan y teitl ‘Cynnal busnes yn Gymraeg (GP05)’ sydd ar gael ar ein gwefan. 4. Ble mae modd i mi gael ffurflenni a chanllawiau? Mae hwn yn un mewn cyfres o gyhoeddiadau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n cynnig canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau. Mae modd cael pob canllaw a ffurflen statudol, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf o’u cael yw trwy droi at ein gwefan neu ffonio 0303 1234 500. Yn ogystal, gallwch gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfraith cwmnïau, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau. |
||||||||