Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Bywyd Cwmni – Ffeilio yn sgil Digwyddiadau - GP3

Rhagfyr 2012 – Fersiwn 2.8

Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006

Fersiwn PDF y tudalen hwn (265KB)

Mae’r canllaw hwn ar gael mewn fformatiau gwahanol, gan gynnwys Braille, print bras a thâp sain. I gael rhagor o fanylion gweler ein gwefan - neu anfonwch neges e-bost at ein hadran ymholiadau enquiries@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0303 1234 500.

A yw’r canllaw hwn ar eich cyfer chi?

Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:

  • os ydych yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd cwmni;
  • os ydych yn gweithredu fel cynghorydd i gwmni

Trosolwg

Bydd y canllaw hwn yn dangos pa wybodaeth y mae’n rhaid ichi ei chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau pan fydd newidiadau penodol yn digwydd yn eich cwmni.  Rydyn ni’n cyfeirio yn y llyfryn hwn at ffeilio dogfennau "yn sgil digwyddiadau" am eu bod nhw’n cael eu ffeilio o ganlyniad i newid yn y cwmni. Gallai’r newid fod yn benodi cyfarwyddwr, yn newid yn eich cyfalaf cyfrannau, neu amryw byd o newidiadau eraill. Rhaid ichi ddweud wrth Dŷ’r Cwmnïau am y newidiadau hyn er mwyn iddyn nhw ddiweddaru’r cofnod cyhoeddus ynglŷn â’ch cwmni. Fel hyn, bydd chwilwyr bob amser yn gallu cael darlun cyfoes o’ch cwmni.

Cynnwys

Cyflwyniad
Pennod 1 - Cyfarwyddwyr ac Ysgrifenyddion
Pennod 2 - Newid y Swyddfa Gofrestredig
Pennod 3 - Cofnodion y Cwmni
Pennod 4 - Penderfyniadau
Pennod 5 - Newid Enw’r Cwmni
Pennod 6 - Newid y Cyfansoddiad
Pennod 7 - Cyfalaf Cyfrannau
Pennod 8 - Ailgofrestru Cwmni
Pennod 9 - Arwystlon a Morgeisiau (Lloegr a Chymru, Gogledd Iwerddon)
Pennod 10 - Arwystlon a Morgeisiau (yr Alban)
Pennod 11 - Ansawdd Dogfennau
Pennod 12 - Gwybodaeth Bellach

Mae’r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau mynych ac yn cynnig gwybodaeth ar ffeilio’r mathau mwyaf cyffredin o wybodaeth yn y maes hwn.  Nid ydym wedi drafftio’r canllaw gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg.  Mae’n bosibl y bydd angen gofyn am gyngor proffesiynol arbenigol o dan yr amgylchiadau hynny

  • Deddf Cwmnïau 2006

Cyflwyniad

Mae’r canllaw hwn yn esbonio:

Fydd y canllaw hwn ddim yn sôn am bob digwyddiad a fydd yn codi yn ystod bywyd cwmni. Er hynny, fe fydd yn rhoi syniad da ichi am eich cyfrifoldebau yn y meysydd penodol sy’n cael eu trafod ac yn esbonio’r gofynion ynghylch ffeilio dogfennau yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Os bydd gennych chi amheuon ynglŷn â'ch cyfrifoldebau ar ôl darllen y canllaw hwn, dylech ystyried gofyn am gyngor proffesiynol gan gyfreithiwr neu gyfrifydd.

Pennod 1 - Cyfarwyddwyr ac Ysgrifenyddion

1. Pa gyfrifoldebau sydd gan y cyfarwyddwyr tuag at Dŷ’r Cwmnïau?

Mae’r cyfarwyddwyr o dan gyfrifoldeb i baratoi dogfennau a’u cyflwyno, ar ran y cwmni, i Dŷ’r Cwmnïau yn unol â gofynion y Ddeddf Cwmnïau. Mae’r rhain yn cynnwys, yn benodol:

  • y ffurflen flynyddol (gweler ein canllaw ar Ffeilio Blynyddol);
  • y cyfrifon blynyddol; (gweler ein canllaw ar Ffeilio Blynyddol)
  • rhoi gwybod am unrhyw newid yn swyddogion y cwmni neu yn eu manylion personol;
  • rhoi gwybod am newid yn swyddfa gofrestredig y cwmni;
  • clustnodi cyfrannau; a
  • chofrestru arwystlon.

2. Beth sy’n digwydd pan fydd yna newid o ran cyfarwyddwyr neu ysgrifennydd y cwmni?

Rhaid i’r cwmni gadw cofrestrau sy’n cynnwys manylion ei swyddogion, sef:

  • y gofrestr cyfarwyddwyr. Bydd hon yn cynnwys y rhan fwyaf o fanylion holl gyfarwyddwyr y cwmni p’un a yw’r rheiny’n unigolion neu’n gorff corfforaethol neu’n ffyrm sydd â phersonoliaeth gyfreithiol ond heb gynnwys cyfeiriad preswyl unigolyn (oni bai mai dyna gyfeiriad yr unigolyn ar gyfer cyflwyno dogfennau hefyd);
  • y gofrestr o gyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr; a’r
  • gofrestr o ysgrifenyddion, os yw’n briodol.

Pryd bynnag y bydd yna newid ym manylion swyddog, neu pryd bynnag y bydd cwmni’n penodi swyddog neu’n terfynu penodiad swyddog, mae’n rhaid i’r cwmni ddiweddaru’r cofrestrau hyn.

Wedyn rhaid i’r cwmni ffeilio’r ffurflen briodol yn Nhŷ’r Cwmnïau o fewn 14 diwrnod ar ôl y newid. Dyma’r ffurflenni priodol:

Penodi cyfarwyddwr – AP01c
Penodi cyfarwyddwr corfforaethol – AP02c
Penodi ysgrifennydd – AP03c
Penodi ysgrifennydd corfforaethol – AP04c
Newid manylion cyfarwyddwr – CH01c
Newid manylion cyfarwyddwr corfforaethol – CH02c
Newid manylion ysgrifennydd – CH03c
Newid manylion ysgrifennydd corfforaethol – CH04c
Terfynu penodiad cyfarwyddwr – TM01c
Terfynu penodiad ysgrifennydd – TM02c

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwrthod eich dogfen os na fydd yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol.  Er hynny, os yw’r wybodaeth wedi’i llenwi ond nad yw’n cyd-fynd â’n cofnodion, fe allwn ddewis derbyn y ddogfen ond ei marcio fel un sy’n anghyson â’r gofrestr gyhoeddus.  I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllaw ynghylch ‘Rheolau a Phwerau’r Cofrestrydd’.

Cewch roi gwybod am unrhyw un o’r newidiadau hyn i Dŷ’r Cwmnïau ar-lein drwy ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling neu wasanaeth Software Filing, neu drwy anfon dogfennau papur aton ni drwy’r post.

I weld yr isafswm cyfarwyddwyr y mae’n rhaid i gwmni eu cael a’r cyfyngiadau ar fod yn gyfarwyddwr, edrychwch ar y canllaw ‘Corffori ac Enwau’.

3. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau a’r cyfeiriad preswyl arferol?

Mae’r cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn un y gall cyfarwyddwr ei ddefnyddio i dderbyn gohebiaeth gan drydydd partïon mewn perthynas â’r cwmni. Gall y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau fod yr un fath â chyfeiriad preswyl y person neu gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni, neu gall fod yn rhywle arall.

Y cyfeiriad preswyl arferol yw cyfeiriad cartref arferol y cyfarwyddwr o dan sylw. Mae angen ei ffeilio gyda’r Cofrestrydd o hyd, ond ni fydd ar gael ar y cofnod cyhoeddus i bawb ei weld. Caiff ei gadw ar gofrestr breifat a dim ond sefydliadau a bennir ymlaen llaw gaiff weld y gofrestr hon.

4. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y gofrestr cyfarwyddwyr a’r gofrestr o gyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr?

Ar gyfer pob cyfarwyddwr sy’n unigolyn, mae’r gofrestr cyfarwyddwyr yn cynnwys:

  • ei enw ac unrhyw gyn-enw;
  • cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau (y gellir cyfeirio ato fel "swyddfa gofrestredig y cwmni");
  • y wlad neu’r wladwriaeth neu’r rhan o’r Deyrnas Unedig y mae fel arfer yn preswylio ynddi;
  • cenedl, galwedigaeth busnes (os oes un) a dyddiad geni.

Ar gyfer cyfarwyddwyr sy’n gwmnïau neu’n ffyrmiau, bydd y gofrestr cyfarwyddwyr yn cynnwys:

  • yr enw corfforaethol neu enw’r ffyrm;
  • y swyddfa gofrestredig neu’r brif swyddfa;
  • yn achos cwmni o’r AEE, ble y mae wedi’i gofrestru a’i rif cofrestru; fel arall ffurf gyfreithiol y cwmni ac o dan ba gyfraith y mae’n cael ei lywodraethu ac, os yw’n gymwys, ble y mae wedi’i gofrestru a’i rif cofrestru.

Mae’r gofrestr o gyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr yn cynnwys cyfeiriad preswyl arferol pob cyfarwyddwr sy’n unigolyn. (Ar yr amod nad swyddfa gofrestredig y cwmni yw’r cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau i’r cyfarwyddwr, yna caiff y cofnod ddweud rhywbeth i’r perwyl bod y cyfeiriad preswyl arferol yr un fath â’r cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau.)

Rhaid i’r gofrestr cyfarwyddwyr gael ei chadw ar gael i’w harchwilio; rhaid peidio â datgelu’r wybodaeth ar y gofrestr o gyfeiriadau preswyl y cyfarwyddwyr. Dim ond i gyfathrebu â’r cyfarwyddwr ac i gyflwyno gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau i ddiweddaru’r cofnodion sy’n cael eu cadw yno y caiff y cwmni ddefnyddio’r wybodaeth yn y gofrestr hon. Chaiff y cwmni ddim defnyddio’r wybodaeth hon at yr un diben arall oni bai naill ai bod y cyfarwyddwr wedi rhoi ei gydsyniad neu fod y llys yn gofyn.

5. Beth sy’n digwydd i’r cyfeiriad preswyl sy’n cael ei roi i Dŷ’r Cwmnïau?

Fydd cyfeiriadau preswyl ddim yn ymddangos ar y cofnod cyhoeddus ar yr amod eich bod yn eu darparu yn y rhan gywir o’r ffurflen benodi neu’r ffurflen newid manylion. Yn achos ffurflenni papur, bydd y rhan hon yn dudalen ar wahân, ac wrth ffeilio dogfennau electronig fe fydd meysydd ychwanegol ar gyfer y cyfeiriad. Dim ond i Asiantaethau Cyfeirio Credyd ac Awdurdodau Cyhoeddus Penodedig y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi gwybodaeth am gyfeiriadau preswyl. Gweler y canllaw ar ‘Cyfyngu datgeliad eich cyfeiriad’.

6. Beth yw rôl ysgrifennydd cwmni?

Does dim rhaid i gwmnïau preifat benodi ysgrifennydd oni bai bod eu herthyglau cymdeithasiad yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw wneud hynny, er eu bod yn cael dewis ei gwneud beth bynnag. Rhaid i Gwmni Cyfyngedig Cyhoeddus (CCC) gael o leiaf un ysgrifennydd. Mae rhagor o fanylion am benodi ysgrifennydd i CCC ar gael yn y canllaw ‘Corffori ac Enwau’.

Dydy’r ddeddfwriaeth ddim yn nodi rôl ysgrifennydd cwmni; mae hyn yn cael ei gynnwys fel rheol yn ei gontract cyflogaeth. Er hynny, fel rheol, fe allai ysgrifennydd cwmni ymgymryd â’r canlynol:

  • cadw’r cofrestrau statudol;
  • sicrhau bod y cwmni yn ffeilio gwybodaeth statudol yn brydlon;
  • rhoi gwybod am gyfarfodydd i’r aelodau a’r cyfarwyddwyr;
  • rhoi penderfyniadau ysgrifenedig arfaethedig i’r aelodau a rhoi unrhyw benderfyniadau sydd wedi’u pasio i’r archwilwyr;
  • cyflwyno copïau o benderfyniadau a chytundebau i Dŷ’r Cwmnïau;
  • rhoi copi o’r cyfrifon i bob aelod o’r cwmni, pob dyledebwr a phawb sydd â hawl i gael gwybod am gyfarfodydd cyffredinol;
  • cadw, neu drefnu cadw, copïau o bob penderfyniad gan yr aelodau (sy’n cael eu pasio heblaw mewn cyfarfodydd cyffredinol), a chofnodion yr holl drafodion a’r holl gyfarfodydd;
  • sicrhau bod y bobl sydd â hawl i wneud hynny yn cael archwilio cofnodion y cwmni;
  • cadw a defnyddio sêl y cwmni (os yw’r cwmni’n dewis cael sêl);
  • cyd-lofnodi er mwyn i ddogfen gael ei gweithredu gan gwmni; a
  • dilysu ffurflenni i’w cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau (chaiff ysgrifennydd cwmni ddim dilysu cyfrifon blynyddol y cwmni).

Mae’r ysgrifennydd yn swyddog i’r cwmni a gall fod yn atebol yn droseddol am ddiffygion y cwmni.

7. Pa hawliau sydd gan ysgrifennydd cwmni?

Mae’n dibynnu ar delerau ei gontract ac mae’n fater mewnol i’r cwmni, rhwng yr ysgrifennydd a’r cwmni.

I weld y cymwysterau y mae ar ysgrifennydd cwmni cyhoeddus eu hangen, edrychwch ar y canllaw ‘Corffori ac Enwau’.

Ystyr Proof yw Cynllun PROOF (PROtected On-line Filing) y Cofrestrydd.  Mae’r cynllun hwn yn cynnig diogelwch ychwanegol wrth ddarparu manylion ynghylch cyfarwyddwyr a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig ar gyfer dogfennau a gyflwynir ar ffurf electronig:

Mae cyfarwyddwyr cwmni yn cyflawni rôl bwysig mewn cwmni.  Mae ganddynt y grym i brynu ac i ymrwymo i gytundebau credyd ar ran y cwmni. Yn yr un modd, mae cyfeiriad y swyddfa gofrestredig yn bwysig gan mai dyma’r cyfeiriad yr anfonir yr holl ohebiaeth swyddogol iddo. 

Weithiau, defnyddir cofnodion a gedwir yn Nhŷ’r Cwmnïau er mwyn archwilio cyfreithlondeb cwmni a’i gyfarwyddwyr cyn y rhoddir credyd neu fenthyciadau iddo.  Felly, mae’n bwysig bod y cofnodion yn gywir.  Mae cwmnïau yn agored i dwyll os bydd y bobl anghywir yn cofnodi eu bod yn gyfarwyddwyr cwmni neu os bydd cyfeiriad swyddfa gofrestredig ffug yn cael ei ffeilio.

Er mwyn trechu twyllwyr sy’n dynwared cyfarwyddwyr go iawn, mae Tŷ’r Cwmnïau yn cynnig system hollol electronig a diogel i gwmnïau, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, er mwyn eu galluogi i hysbysu unrhyw newidiadau o ran y cyfarwyddwyr a newidiadau i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig.  Os byddwch yn dewis hysbysu’r newidiadau hyn ar ffurf electronig yn unig, byddant yn cael eu diogelu gan godau electronig ac ni fyddwn yn derbyn hysbysiadau a gyflwynir gan eich cwmni mewn unrhyw ffurf arall.

Gallwch ymuno â’r cynllun yn electronig, gan ddefnyddio cod dilysu’r cwmni i gyrchu’r tudalennau gwe priodol ar ein gwasanaeth WebFiling. Cyn ymuno, mae’n rhaid ichi gytuno hefyd ag amodau a thelerau’r cynllun er mwyn sicrhau mai dim ond newidiadau i fanylion cyfarwyddwyr neu newidiadau i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig a gyflwynir trwy gyfrwng y dull electronig diogel a fydd yn cael eu derbyn gan Dŷ’r Cwmnïau, ac nid rhai a gyflwynir ar bapur.  Mae’r telerau a’r amodau ar gael oddi ar ein gwefan neu drwy ffonio 0303 123 4500.  Mae’r gwasanaeth hwn yn wasanaeth gwirfoddol; gallwch roi’r gorau iddo ar unrhyw adeg, a bydd Tŷ’r Cwmnïau yn mynd yn ôl i drefniant derbyn hysbysiadau gan eich cwmni a gyflwynir ar ffurf electronig neu ar ffurflenni papur unwaith eto.

Pennod 2 - Swyddfa Gofrestredig

Sut mae modd i mi newid fy swyddfa gofrestredig?

Os bydd eich cwmni’n dymuno newid cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, a hynny ar ôl ei chofrestru, mae’n rhad ichi roi gwybod am y cyfeiriad newydd i Dŷ’r Cwmnïau. Sylwch na fydd eich swyddfa gofrestredig newydd yn dod i rym nes inni ei nodi yn ein cronfa ddata.

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn defnyddio cronfa ddata cyfeiriadau Swyddfa’r Post i ddilysu cyfeiriadau. I osgoi oedi, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r cyfeiriad cywir gan gynnwys y cod post llawn ar bob ffurflen a dogfen sy’n cael eu hanfon i’w cofrestru.  Cofiwch fod rhaid i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig fod yn lleoliad ffisegol yn yr un rhan o’r Deyrnas Unedig (DU) ag y cafodd y cwmni ei gorffori ynddi.

Cewch roi gwybod am unrhyw un o’r newidiadau hyn i Dŷ’r Cwmnïau ar-lein drwy ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling neu wasanaeth Software Filing, neu drwy anfon dogfen bapur aton ni drwy’r post.

Pennod 3 - Cofnodion y Cwmni

1. Pa gofnodion cwmni y mae angen imi drefnu eu bod ar gael i’w harchwilio?

Yn dibynnu ar y math o gwmni, mae’n bosibl y bydd gan y cwmni rai neu’r cyfan o’r cofnodion canlynol:

  • cofrestr aelodau;
  • cofrestr cyfarwyddwyr;
  • contractau gwasanaeth y cyfarwyddwyr;
  • indemniadau’r cyfarwyddwyr;
  • cofrestr ysgrifenyddion;
  • cofnodion o benderfyniadau a chofnodion cyfarfodydd cyffredinol;
  • contractau neu femoranda sy’n ymwneud â phrynu cyfrannau’r cwmni ei hun;
  • dogfennau sy’n ymwneud ag adennill neu brynu ei gyfrannau ei hun allan o gyfalaf gan gwmni preifat;
  • cofrestr dyledebwyr;
  • adroddiad i’r aelodau ar ganlyniad archwiliad gan gwmni cyhoeddus i’r diddordeb yn ei gyfrannau;
  • cofrestr o’r diddordeb mewn cyfrannau a ddatgelwyd i gwmni cyhoeddus; neu
  • offerynnau sy’n creu arwystlon a chofrestr o arwystlon.

Mae angen ichi gadw’r cofnodion cwmni hyn ar gael i’w harchwilio.

2. Ble ca i gadw’r cofnodion hyn?

Cewch gadw’r cyfan neu unrhyw rai o’r cofnodion hyn yn swyddfa gofrestredig y cwmni.  Caiff y cwmni ddewis lle arall i drefnu bod y cofnodion hyn ar gael i’w harchwilio. Dim ond un lleoliad arall heblaw’r swyddfa gofrestredig a all fod gan y cwmni ar unrhyw adeg benodedig. Rhaid i’r lleoliad hwn fod yn yr un rhan o’r DU â’r swyddfa gofrestredig, er enghraifft gall cwmni sydd wedi’i gofrestru yn Lloegr a Chymru gael lleoliad arall ar gyfer archwilio’r cofnodion yn Lloegr a Chymru, ond nid yn yr Alban na Gogledd Iwerddon. Gall y cwmni ddewis cadw rhai cofnodion yn ei swyddfa gofrestredig a rhai yn ei leoliad archwilio arall ar yr amod bod yr holl gofnodion o’r un math yn cael eu cadw gyda’i gilydd. 

3. Beth mae angen imi ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau?

Os na fyddwch yn cadw’r cyfan o’ch cofnodion yn swyddfa gofrestredig y cwmni, yna mae angen ichi ddweud wrthon ni beth yw cyfeiriad eich lleoliad arall ar gyfer archwilio cofnodion a pha gofnodion sydd gennych chi yno, a hynny ar ffurflen AD02c, ac am unrhyw newid yn y cyfeiriad hwnnw ar ffurflen AD03c. Mae angen ichi ddweud wrthon ni hefyd pan fyddwch yn dychwelyd unrhyw gofnodion i’r swyddfa gofrestredig, a hynny ar ffurflen AD04c.

Cewch roi gwybod am unrhyw un o’r newidiadau hyn i Dŷ’r Cwmnïau ar-lein drwy gyfrwng WebFiling; drwy ddefnyddio pecyn Software Filing addas, neu drwy anfon dogfennau papur aton ni drwy’r post.

Pennod 4 - Penderfyniadau

1. Beth yw penderfyniad?

Mae penderfyniad yn gytundeb neu'n ddyfarniad sy’n cael ei wneud gan aelodau cwmni, gan ddosbarth o aelodau cwmni, neu gan gyfarwyddwyr cwmni, i gyflawni newidiadau penodol. Gallai hynny gynnwys newid enw’r cwmni, newid ei gyfalaf cyfrannau neu newid ei erthyglau.

2. Sut mae cwmnïau’n pasio penderfyniadau?

Bydd aelodau’r cwmni’n pleidleisio a ddylid pasio ynteu gwrthod dull gweithredu arfaethedig. Fel arfer bydd pŵer pleidleisio pob aelod yn dibynnu ar faint o gyfrannau sy’n perthyn iddo. Ran amlaf, bydd gan aelod sydd ag un gyfran un bleidlais.  Mae’r penderfyniad yn cael ei basio pan fydd y mwyafrif sydd wedi’i bennu ymlaen llaw er mwyn pasio’r penderfyniad yn cael ei gyrraedd (er enghraifft 75% o’r aelodau ar gyfer penderfyniad arbennig i newid enw’r cwmni). Os na chaiff y mwyafrif angenrheidiol ei sicrhau, yna mae’r penderfyniad arfaethedig yn methu.

3. Pwy sy’n cael pleidleisio?

Mae’n bosibl y bydd erthyglau cymdeithasiad y cwmni’n datgan yr amodau ynglŷn â hawliau pleidleisio’r aelodau, ond yn gyffredinol bydd gan aelod un bleidlais am bob un gyfran sydd ganddo ar benderfyniad ysgrifenedig neu un bleidlais wrth godi dwylo mewn cyfarfod cyffredinol oni bai bod pôl yn cael ei alw. Os bydd rhywun yn galw’n ddilys am bôl mewn cyfarfod cyffredinol, yna bydd gan bob aelod un bleidlais am bob cyfran sydd ganddo.

Os na all aelod fod yn bresennol yn y cyfarfod, caiff benodi dirprwy i bleidleisio drosto. Yn achos cyd-ddeiliaid cyfrannau, pleidlais y deiliad sydd wedi’i enwi gyntaf yn y gofrestr aelodau a gaiff ei chyfrif, oni bai bod erthyglau’r cwmni’n dweud rhywbeth gwahanol.

4. Pwy sy’n gorfod cael copïau o’r penderfyniad cyn iddo gael ei gymeradwyo ac wedyn?

Rhaid i’r cwmni gylchredeg hysbysiad o’r bwriad i gynnig penderfyniad i’w aelodau. Os oes gan gwmni archwilwyr, rhaid iddo anfon copïau atyn nhw neu fel arall roi gwybod iddyn nhw am gynnwys pob penderfyniad arfaethedig. Mae’r Ddeddf Cwmnïau’n ei gwneud yn ofynnol ichi gyflwyno penderfyniad penodol (er enghraifft unrhyw benderfyniad arbennig) i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod ar ôl ei basio.

5. Cwmnïau preifat a phasio penderfyniadau

Caiff cwmnïau preifat basio penderfyniadau:

  • drwy benderfyniad ysgrifenedig, y mae’n rhaid iddyn nhw ei gylchredeg i bob aelod cymwys yn electronig neu ar ffurf copi caled, neu
  • drwy gymryd pleidlais mewn cyfarfod o’r aelodau.

Un o effeithiau’r Ddeddf Cwmnïau yw nad yw mwyach yn ofynnol i gwmnïau preifat gynnal Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol (CCB). Mae darpariaethau newydd ynghylch penderfyniadau ysgrifenedig yn galluogi cwmnïau preifat i hepgor cyfarfodydd cyffredinol yn gyfan gwbl, ac eithrio at ddau ddiben cyfyngedig (gweler cwestiwn 6isod).

6. Penderfyniadau ysgrifenedig a chwmnïau preifat

Caiff cwmnïau preifat basio bron pob penderfyniad ar ffurf penderfyniad ysgrifenedig, er enghraifft, un sydd wedi’i gylchredeg, naill ai ar bapur neu’n electronig, i’r aelodau heb fod angen cyfarfod.

Eithriadau i hyn yw:

  • penderfyniad i ddiswyddo cyfarwyddwr; a
  • phenderfyniad i ddiswyddo archwilydd.

Mae angen i’r penderfyniadau hyn gael eu pasio mewn cyfarfod cyffredinol.

7. Cwmnïau cyhoeddus a phasio penderfyniadau

Mae cwmnïau cyhoeddus yn gorfod cynnal CCB o fewn 6 mis ar ôl diwedd eu blwyddyn ariannol yn ychwanegol at unrhyw gyfarfodydd eraill sy’n cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwnnw. Dim ond drwy gymryd pleidlais mewn cyfarfod o’r aelodau, sef y CCB o bosibl, y caiff cwmni cyhoeddus basio penderfyniad. Nid yw’n cael pasio penderfyniad ysgrifenedig.

8. Pa gofnodion o benderfyniadau a chyfarfodydd y mae’n rhaid i’r cwmni eu cadw?

Rhaid i’r cwmni gadw cofnodion o’r holl drafodion mewn cyfarfodydd cyffredinol neu benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan yr unig aelod. Rhaid hefyd iddyn nhw gadw copïau o bob penderfyniad gan aelodau sy’n cael eu pasio heblaw mewn cyfarfodydd cyffredinol. Rhaid iddyn nhw gadw’r cofnodion hyn am 10 mlynedd a threfnu eu bod ar gael i’w harchwilio gan yr aelodau os gwnân nhw gais.

9. Penderfyniadau a chyfarfodydd

Drwy godi llaw y mae’r bleidlais yn cael ei chynnal ar benderfyniad mewn cyfarfod cyffredinol, oni bai bod yr aelodau’n galw am bôl. Mae pôl yn bleidlais sydd wedi’i seilio ar nifer y cyfrannau sydd gan bobl yn hytrach nag ar godi llaw. Y cyfan y mae ei eisiau er mwyn i benderfyniad gael ei basio yw datganiad gan y cadeirydd bod y penderfyniad wedi llwyddo drwy godi llaw, ond dydy hyn ddim yn gymwys os bydd yr aelodau’n galw am bôl. Does dim angen ichi gyfrif nifer y pleidleisiau o blaid neu yn erbyn o dan y drefn codi llaw.

Rhaid i gwmni preifat roi o leiaf 14 diwrnod o hysbysiad o gyfarfod cyffredinol. Rhaid i gwmni cyhoeddus roi 21 diwrnod o leiaf o hysbysiad o’i CCB, oni bai bod erthyglau’r cwmni’n pennu cyfnod hysbysu hirach. Caiff cwmni alw cyfarfod cyffredinol ar rybudd byrrach, gyda mwyafrif o 90% o’r hawliau pleidleisio yn achos cwmni preifat a 95% yn achos cwmni cyhoeddus.  Dydy hyn ddim yn gymwys yn achos CCB cwmni cyhoeddus, lle mae’n rhaid i bob aelod gytuno. Rhaid i rybuddion sy’n rhoi gwybod am CCB cwmnïau cyhoeddus ddatgan mai CCB yw’r cyfarfod.

Caiff cwmnïau roi hysbysiad o gyfarfod:

  • ar ffurf electronig;
  • ar ffurf copi caled;
  • drwy gyfrwng gwefan; neu
  • drwy gyfuniad o unrhyw rai o’r uchod.

Rhaid i’r hysbysiad ddatgan amser, dyddiad a lleoliad y cyfarfod ac unrhyw benderfyniadau sydd i’w cytuno.

10. Rhagor o wybodaeth am benderfyniadau

Mae rhagor o wybodaeth am benderfyniadau a chyfarfodydd ar gael yn Neddf Cwmnïau 2006 Rhan 13.

Pennod 5 - Newid enw’r cwmni

1. Beth yw newid enw?

Bydd newid enw yn digwydd pan fydd cwmni’n cofrestru enw sy'n wahanol i'w enw cofrestredig blaenorol. Er enghraifft, cwmni'n newid ei enw o J Smith Cyfyngedig i John Smith Cyfyngedig.  Does dim newid enw os bydd J Smith Cyfyngedig yn dechrau masnachu fel John Smith: os felly, “John Smith” yw enw’r busnes.

Os yw’r enw newydd a’r dogfennau newydd yn dderbyniol byddwn yn eu prosesu ac yn rhoi tystysgrif corffori wrth newid enw.  Dim ond ar ôl inni gofrestru’r holl ddogfennau angenrheidiol a rhoi’r dystysgrif y mae’r newid enw yn dod i rym. Os oes modd, er mwyn cyflymu’ch cais, dylech gyflwyno’r dogfennau priodol i gyd gyda’i gilydd.

Does dim angen ichi osod yr enw newydd ar eich erthyglau a/neu’ch memorandwm.

2. Sut mae newid enw fy nghwmni?

Electronig

Os nad yw eich cais am newid enw yr ‘un math’ ag enw sydd eisioes yn bod ar y mynegai, yn cynnwys unrhyw eiriau sensitif ac yn

  • newid enw drwy benderfyniad arbennig heb amodau; neu
  • newid enw drwy ddull y darperir ar ei gyfer gan erthyglau’r cwmni;

yna mae’n croeso i chi ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau gan ddefnyddio ein gwasanaeth Software filing.

Os yw’ch cais am newid enw drwy benderfyniad arbennig (heb amodau) cewch ffeilio’ch cais hefyd drwy ddefnyddio’n gwasaeth WebFiling.

Gweler paragraff 8 i gael gwybodaeth am amserlenni’r gwaith prosesu a’r ffioedd. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau electronig ar gael ym Mhennod 11, paragraff 2. At ei gilydd, bydd ceisiadau electronig yn cael eu prosesu’n gynt na cheisiadau sy’n cael eu ffeilio ar bapur. Sylwch nad ydych yn cael defnyddio’n gwasanaethau electronig ar hyn o bryd i ffeilio cais am newid enw yn Gymraeg.

Mae rhagor o wybodaeth am enwau sydd ‘yr un fath’ ac enwau sensitif ar gael yn ein canllaw ar ‘Ymgorffori ac Enwau (GP1)’.

Papur

Fel dewis arall mae cwmni’n cael newid ei enw drwy gyfrwng un o’r sefyllfaoedd canlynol:

  • pederfyniad arbennig (gall y penderfyniad arbennig fod yn amodol ar ryw ddigwyddiad penodol)
  • dull arall y darperir ar ei gyfer gan erthyglau’r cwmni;

Mae gweithdrefnau gwahanol yn gymwys ym mhob amgylchiadau eithriadol pan fo’n ofynnol i gwmni newid ei enw.

Ar gyfer pob dau ddull hyn mae angen hysbysiad(au) penodol a/neu ddogfennau ychwanegol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r hysbysiad cywir. Os na fyddwch yn cyflwyno’r ffi briodol gyda’r hysbysiad, byddwn yn gwrthod yr hysbysiad.

Gweler paragraff 8 i gael gwybodaeth am amserlenni’r gwaith prosesu a’r ffioedd.

3. Newid enw drwy benderfyniad arbennig heb amodau

Caiff cwmni newid ei enw drwy basio penderfyniad arbennig mewn cyfarfod, neu caiff yr aelodau (yn cynrychioli nid llai na 75% o gyfanswm hawliau pleidleisio’r cyfrannau cymwys) gytuno i newid yr enw drwy benderfyniad ysgrifenedig. Yn y naill achos a’r llall, rhaid i’r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau drwy gyflwyno hysbysiad newid enw, ffurflen NM01c gyda’r ffi briodol a chopi o’r penderfyniad.

Gellir cyflwyno’r hysbysiad (ynghyd â’r ffi briodol a chopi o’r penderfyniad) i Dŷ’r Cwmnïau gan ddefnyddio ein gwasanaeth WebFiling neu wasanaeth Software filing.

Fel arall, gellir cyflwyno copi papur o’r Ffurflen NM01c (ynghyd â’r ffi briodol a chopi o’r penderfyniad).

Ni fyddwn ni’n newid yr enw nes i ni dderbyn yr hysbysiad, y ffi briodol, copi o’r penderfyniad ac os yw'r enw a gynigir yn dderbyniol.

4. Newid enw drwy benderfyniad arbennig yn amodol ar ryw ddigwyddiad

Lle mae’r newid enw’n dibynnu ar fodloni amod, caiff y cwmni basio penderfyniad arbennig neu ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw. Rhaid i’r cwmni roi gwybod i’r cofrestrydd drwy gyflwyno hysbysiad newid enw drwy benderfyniad amodol, ffurflen NM02.

Os yw’r amod wedi’i fodloni pan gafodd y penderfyniad ei basio gennych, rhaid i’r cwmni ddweud hynny ar yr hysbysiad, y mae’r cwmni’n gorfod ei gyflwyno gyda’r ffi a chopi o’r penderfyniad amodol. Dim ond ar ôl cael yr hysbysiad gyda’r ffi a’r penderfyniad y byddwn yn newid yr enw.

Os nad yw’r amod wedi’i fodloni pan gaiff y penderfyniad ei basio gennych, rhaid i’r cwmni ddweud hynny ar yr hysbysiad a does dim angen ffi ar yr adeg hon.  Pan fydd yr amod wedi cael ei fodloni mae’n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad i gadarnhau bod yr amod ynglŷn â’r penderfyniad wedi’i fodloni a hynny ar y ffurflen newid enw NM03 a chopi o’r penderfyniad ynghyd â’r ffi briodol.  Dim ond ar ôl inni gael naill ai ffurflen NM01c neu NM02 ac, os oes ei hangen, yr NM03 gyda’r ffi a’r copi o’r penderfyniad y byddwn yn newid yr enw.

5. Newid enw drwy ddull y darperir ar ei gyfer yn gan erthyglau’r cwmni

Mae cwmni hefyd yn cael newid ei enw drwy unrhyw ddull arall y darperir ar ei gyfer yn yr erthyglau. Mae hyn yn ffordd newydd i ganiatáu i’r cwmni newid ei enw.  Rhaid i’r erthyglau gynnwys darpariaeth sy’n pennu ym mha ffordd y caiff y cwmni newid ei enw.

Gellir cyflwyno’r hysbysiad (ynghyd â’r ffi briodol) i Dŷ’r Cwmnïau gan ddefnyddio ein gwasanaeth Software filing. Nid yw hwn yn bosibl drwy ddefnyddio’n gwasanaeth WebFiling ar hyn o bryd.

Fel arall, gellir cyflwyno copi papur o’r Ffurflen NM04 (ynghyd â’r ffi briodol).

Rhaid i’r cwmnïau presennol sy’n dymuno newid eu henw drwy’r dull hwn ddiwygio’u herthyglau er mwyn cynnwys darpariaeth addas cyn ffeilio’r dogfennau newid enw.

6. Newid enw drwy benderfyniad gan y cyfarwyddwyr

Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo cwmni i newid ei enw er mwyn adfer “cyfyngedig” neu “limited” i enw’r cwmni am nad yw’r cwmni’n esempt mwyach.  O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i’r cwmni gyflwyno hysbysiad newid enw drwy benderfyniad cyfarwyddwyr i Dŷ’r cwmnïau ar Ffurflen NM05. Does dim ffi i’w thalu; neu

Os caiff cwmni ei adfer i’r gofrestr o dan ei rif cofrestredig am nad yw’r enw a oedd ganddo o’r blaen ar gael mwyach, yna rhaid i’r cwmni newid ei enw o fewn 14 diwrnod.  Gellir newid yr enw drwy benderfyniad gan y cyfarwyddwyr ac, o dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i’r cwmni gyflwyno hysbysiad newid enw drwy benderfyniad cyfarwyddwyr i Dŷ’r Cwmnïau ar Ffurflen NM05 ynghyd â’r ffi briodol.

7. Newid enw drwy’r Tribiwnlys Enwau Cwmni neu’r Uchel Lys

Mae’r Tribiwnlys Enwau Cwmni (sydd hefyd yn cael ei adnabod fel "y Dyfarnwr") yn ystyried cwynion gan unrhyw berson neu gwmni am gofrestru oportiwnistaidd. Gallai cwyn o’r fath godi os oes gan gwmni enw sydd yr un fath ag enw sy’n gysylltiedig â’r achwynydd a bod gan yr achwynydd ewyllys da yn ei sgil neu os yw mor debyg nes y byddai’n debyg o gamarwain drwy awgrymu cysylltiad rhwng y cwmni a’r achwynydd.

Sylwch: all Tŷ’r Cwmnïau ddim ymdrin ag unrhyw gwynion am gofrestru oportiwnistaidd. Rhaid i chi gyflwyno gwrthwynebiadau ac ymholiadau i’r Dyfarnwr, sydd wedi’i leoli yn Swyddfa Eiddo Deallusol y DU. Mae rhagor o wybodaeth a’r pwyntiau cysylltu ar gael yn www.ipo.gov.uk/cna

8. Pa mor hir y mae’n ei gymryd i gofrestru newid enw?

Electronig

Os yw’r holl ddogfennau’n gywir, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn prosesu cais safonol i newid enw a gyflwynir yn electronig cyn pen 24 awr fel rheol. Codir ffi o £8 am y gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, gallwch chi fanteisio ar ein gwasanaeth electronig ‘Yr Un Diwrnod’ , a chodir ffi o £30 am hyn. Os daw’r cais i law cyn 3pm (dydd Llun-Gwener) ac os yw’r dogfennau a’r enw yn dderbyniol, byddwn ni’n newid enw’r cwmni ac yn rhoi tystysgrif newid enw y diwrnod hwnnw.

Papur

Os yw’r dogfennau i gyd yn gywir, bydd Tŷ’r Cwmnïau fel rheol yn prosesu cais safonol am newid enw a gyflwynir ar ffurflen bapur o fewn pum diwrnod gwaith ar ôl iddo ddod i law. £10 yw’r ffi am hwn.

Rydych hefyd yn cael manteisio ar ein gwasanaeth ‘Undydd’, a’r ffi am hyn yw (£50). Os cawn y dogfennau cyn 3 pm (dydd Llun i ddydd Gwener) a derbyn yr enw a’r dogfennau, byddwn yn rhoi tystysgrif newid enw y diwrnod hwnnw. Mae’r gwasanaeth ar gael gan unrhyw un o swyddfeydd Tŷ’r Cwmnïau.

Os byddwch yn cyflwyno’ch dogfennau ‘Undydd’ drwy’r post neu drwy negesydd gwnewch yn siŵr eich bod yn marcio ‘Newid Enw Undydd’ yn glir ar y tu allan i’r amlen ac ‘ar gyfer yr adran Cwmnïau Newydd’.

9. Ga i gofrestru newid enw ac ailgofrestru gyda’i gilydd?

Cewch ond ddim yn electronig. Cewch gyfuno penderfyniad i newid enw ac ailgofrestru, er enghraifft penderfynu newid yr enw o ABC Cyfyngedig i XYZ CCC.

Pryd bynnag y bo modd, dylech gyflwyno’r ffurflenni papur i gyd gyda’i gilydd.  Fydd y newid enw ddim yn dod i rym nes bod Tŷ’r Cwmnïau wedi cofrestru’r holl ddogfennau angenrheidiol ynghyd â’r ffi newid enw (£10) a’r ffi ailgofrestru (£20). Y ffi gyfun am gais ‘Undydd’ yw £100.

Mae rhagor o wybodaeth am ailgofrestru ar gael ym mhennod 8 o’r llyfryn hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am Enwau Cwmni, megis rheolau ar enwau y mae angen eu cyfiawnhau neu sy’n annerbyniol i Dŷ’r Cwmnïau, gweler y canllaw - Corffori ac Enwau.

10. Ble mae cael rhagor o wybodaeth am ddewis enw ar gyfer cwmni?

I gael rhagor o wybodaeth am Enwau Cwmni, megis rheolau ar enwau y mae angen eu cyfiawnhau neu sy’n annerbyniol i Dŷ’r Cwmnïau, gweler y canllaw - Corffori ac Enwau.

Pennod 6 - Newid y Cyfansoddiad

1. Sut mae modd i mi newid amcanion fy nghwmni?

Mae gan gwmnïau sydd wedi’u cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 amcanion digyfyngiad.   Er hynny, maen nhw’n cael dewis eu cyfyngu yn eu herthyglau drwy basio penderfyniad arbennig a llenwi’r "datganiad amcanion" ar ffurflen CC04. Dydy’r diwygiad i’r amcanion ddim yn dod i rym nes bod y Ffurflen wedi’i chofrestru gan Dŷ’r Cwmnïau. Rhaid hefyd i’r cwmni ffeilio copi o’r erthyglau diwygiedig o fewn 15 diwrnod ar ôl dyddiad pasio neu wneud y penderfyniad.

Mae cwmnïau sydd wedi’u cofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 1985 neu Ddeddfau Cwmnïau cyn hynny hefyd yn cael diwygio’u herthyglau er mwyn manteisio ar y darpariaethau hyn.  Er bod eu hamcanion wedi’u rhestru yn eu memorandwm, bernir bod y rhain yn ffurfio rhan o’r erthyglau ac mae’n ofynnol iddyn nhw anfon copi o’r penderfyniad a chopi o’r erthyglau diwygiedig (o fewn 15 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud neu gymeradwyo’r penderfyniad) neu o’r memorandwm os yw’r cwmni wedi diwygio’i femorandwm.Rhaid i gwmnïau sy’n diwygio eu herthyglau er mwyn ychwanegu, dileu neu amrywio manylion gyflwyno Ffurflen CC04. Ni ddaw’r diwygiadau i rym nes bod Tŷ’r Cwmnïau wedi cofrestru’r ffurflen.

2.  Pryd mae angen i mi ddefnyddio’r ffurflen "newid cyfansoddiad drwy ddeddfiad" (Ffurflen CC05)?

Gall deddfwriaeth newid cyfansoddiad cwmni. Gall hyn fod yn ddeddfwriaeth gyffredinol, er enghraifft darpariaeth newydd yn y Ddeddf Cwmnïau sy’n diddymu darpariaethau penodol yn erthyglau pob cwmni. Gall Deddf Seneddol breifat hefyd newid y cyfansoddiad drwy ddiwygio erthyglau cwmni a gafodd ei sefydlu gan Ddeddf flaenorol.

Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid i’r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau a ffeilio’r ffurflen "newid cyfansoddiad drwy ddeddfiad" CC05. Os deddfiad arbennig sy’n peri’r newid, mae’n rhaid i chi anfon copi o’r deddfiad gyda’r ffurflen CC05.

Rhaid i’r cwmni ffeilio copi o’r ddogfen ddiwygiedig neu’r dogfennau diwygiedig o fewn 15 diwrnod ar ôl i’r deddfiad ddod i rym dim ond pan fydd erthyglau, penderfyniadau a chytundebau’r cwmni sy’n effeithio ar y cyfansoddiad yn cael eu diwygio o ganlyniad i’r deddfiad hwn. 

3. Pryd mae angen i mi ddefnyddio’r ffurflen "newid cyfansoddiad drwy orchymyn llys neu awdurdod arall" (ffurflen CC06)?

Caiff y Comisiwn Elusennau, er enghraifft, newid cyfansoddiad cwmni drwy orchymyn.  Rhaid i gwmnïau roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau a ffeilio ffurflen "newid cyfansoddiad drwy orchymyn llys neu awdurdod arall" (ffurflen CC06), ynghyd â chopi o’r gorchymyn.  Rhaid i’r cwmni anfon copi o’r dogfennau diwygiedig dim ond pan fydd y gorchymyn yn newid erthyglau’r cwmni neu benderfyniad neu gytundeb sy’n effeithio ar gyfansoddiad y cwmni.

Cewch weld rhagor o wybodaeth am gyfansoddiad cwmni yn Rhan 3 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Pennod 7 - Cyfalaf Cyfrannau

1. Beth yw cyfalaf cyfrannau?

Pan fydd pobl yn ffurfio cwmni, maen nhw’n penderfynu a ddylai atebolrwydd yr aelodau gael ei gyfyngu drwy gyfrannau.

Pan fydd cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau’n cael ei gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau, mae’n rhaid i’r cyfranddeiliaid gytuno i gymryd rhywfaint, neu’r cyfan, o’r cyfrannau. Rhaid i’r datganiad o’r cyfalaf a’r cyfranddaliadau cychwynnol ddangos enwau a chyfeiriadau’r bobl sydd wedi cytuno i gymryd cyfrannau a faint o gyfrannau y bydd pob un yn eu cymryd. Yr enw ar y bobl hyn yw’r tanysgrifwyr.

 2. Beth yw cyfalaf dosbarthedig?

Cyfalaf dosbarthedig yw gwerth y cyfrannau sydd wedi’u dosbarthu i’r cyfranddeiliaid. Mae hyn yn golygu gwerth enwol y cyfrannau yn hytrach na’u gwerth gwirioneddol.

Caiff cwmni gynyddu ei gyfalaf dosbarthedig drwy glustnodi rhagor o gyfrannau; rhaid iddo glustnodi o dan awdurdod priodol (gweler cwestiwn 7)

  • Fel rheol, dim ond i’w aelodau, ei staff a'u teuluoedd, i ddyledebwyr neu i bobl eraill drwy drefniant preifat, y caiff cwmni preifat ddosbarthu cyfrannau;
  • Caiff CCC gynnig cyfrannau i’r cyhoedd yn gyffredinol mewn prosbectws neu drwy fanylion rhestru.

3. Mathau o gyfrannau

Caiff cwmni fod â chynifer o wahanol fathau o gyfrannau ag y mae’n dymuno, a phob math o dan wahanol delerau. At ei gilydd, mae cyfrannau’n perthyn i'r categorïau canlynol:

  • Cyffredin: Dyma gyfrannau cyffredin y cwmni heb hawliau na chyfyngiadau arbennig. Caiff y cwmni eu rhannu'n ddosbarthiadau o werthoedd gwahanol.
  • Blaengyfrannau: Mae’r cyfrannau hyn yn dod â hawl i gael taliad gan y cwmni o unrhyw fuddrannau blynyddol sydd ar gael i'w dosbarthu ar y cyfrannau hyn cyn unrhyw ddosbarthiadau eraill.
  • Blaengyfrannau cronnol: Mae’r cyfrannau hyn fel rheol yn dod â hawl i gael cario’r fuddran ymlaen i’r blynyddoedd dilynol, os na all y cwmni ei thalu mewn blwyddyn.
  • Adenilladwy: Mae'r cyfrannau hyn yn cael eu dosbarthu gan y cwmni gyda chytundeb y bydd y cwmni'n eu prynu’n ôl, a hynny yn ôl dewis naill ai’r cwmni neu'r cyfranddeiliad ar ôl cyfnod penodol, neu ar ddyddiad penodedig. Ni chaiff cwmni fod â chyfrannau adenilladwy yn unig.

4. CCC a’r ‘isafswm awdurdodedig’

Ni chaiff CCC gynnal busnes nac arfer pwerau benthyca hyd nes ei fod wedi sicrhau tystysgrif fasnachu gan Dŷ’r Cwmnïau, a fydd Tŷ’r Cwmnïau ddim yn rhoi tystysgrif fasnachu oni bai ei fod wedi’i fodloni bod y cwmni yn bodloni’r gofyniad ynghylch ‘isafswm awdurdodedig’ ar gyfer cyfalaf cyfrannau. Er mwyn bodloni’r gofyniad a sicrhau tystysgrif fasnachu, mae’n rhaid i werth enwol cyfalaf cyfrannau clustnodedig y cwmni fod yn £50,000 neu €57,100 o leiaf. Ni all y cwmni fodloni’r gofyniad drwy gyfuniad o gyfrannau ewro a chyfrannau sterling na thrwy gyfrannau mewn unrhyw arian treigl arall. I wneud cais am dystysgrif fasnachu, rhaid i’r cwmni gyflwyno ffurflen SH50 i Dŷ’r Cwmnïau.

Does dim rhaid i gwmni sy’n ailgofrestru o fod yn gwmni preifat i fod yn CCC wneud cais am dystysgrif fasnachu. Er hynny, er mwyn ailgofrestru, rhaid i werth enwol cyfalaf cyfrannau clustnodedig y cwmni beidio â bod yn llai na’r isafswm awdurdodedig a rhaid bodloni’r gofyniad ynghylch isafswm awdurdodedig naill ai mewn cyfrannau sterling i gyd neu mewn cyfrannau ewro i gyd.

Sylwch:  Wrth wneud cais am dystysgrif fasnachu (neu am ailgofrestru), os gallai’r cwmni fodloni’r isafswm awdurdodedig mewn naill ai sterling neu mewn ewros bydd angen ichi ddatgan yn eich cais ai mewn sterling ynteu mewn ewros rydych chi’n bodloni’r gofyniad ynglŷn â’r isafswm awdurdodedig. 

5. Datganiad Cyfalaf

Drwy’r canllaw hwn i gyd fe welwch gyfeiriadau at y datganiad cyfalaf. Cafodd hyn ei gyflwyno gan Ddeddf Cwmnïau 2006 a hynny ar gyfer pob cwmni gyda chyfalaf cyfrannau.

Mae’r datganiad cyfalaf yn cynnig cipolwg ar gyfalaf cyfrannau cwmni cyfyngedig ar adeg benodedig.

Rhaid i gwmnïau sy’n corffori gyda chyfalaf cyfranau ar neu ar ôl 1 Hydref 2009 gwblhau datganiad o gyfalaf a chyfranddaliadau cychwynnol fel rhan o’r cais am gorffori.

Rhaid i bob cwmni gyda chyfalaf cyfrannau gwblhau datganiad cyfalaf fel rhan o unrhyw ffurflen flynyddol sy’n cael ei ffeilio hyd at ddyddiad ar neu ar ôl 1 Hydref 2009.

Rhaid i gwmnïau gwblhau datganiad cyfalaf gyda ffurflenni penodol sy’n rhoi gwybod am newidiadau cyfalaf, sef:

O dan bob un o’r amgylchiadau uchod, bydd y datganiad cyfalaf yn rhan annatod o’r ffurflen briodol.

Fe fydd adegau pan fydd angen i gwmni cyfyngedig ffeilio datganiad cyfalaf ‘ar ei ben ei hun’, er enghraifft i gyd-fynd â gostyngiad yn y cyfalaf cyfrannau a gymeradwywyd gan y llys neu (yn achos cwmni preifat) gostyngiad a ategir â datganiad solfedd ac (mewn rhai achosion) wrth ailgofrestru o fod yn gwmni digyfyngiad i fod yn gwmni cyfyngedig.

Rhaid i’r datganiad cyfalaf ddangos y manylion canlynol ynglŷn â’r cyfalaf:

(a) cyfanswm cyfrannau’r cwmni;

(b) cyfanswm gwerth enwol y cyfrannau hynny; 

(c) ar gyfer pob dosbarth o gyfrannau -
(i) manylion rhagnodedig ynglŷn â’r hawliau sydd ynghlwm wrth y cyfrannau
(ii) cyfanswm nifer y cyfrannau yn y dosbarth hwnnw, a
(iii cyfanswm gwerth enwol y cyfrannau yn y dosbarth hwnnw; a

(d) faint sydd wedi’i dalu a faint (os oes rhywfaint) sydd heb ei dalu ar bob cyfran (naill ai oherwydd gwerth enwol y gyfran neu ar ffurf premiwm).

6. Clustnodi cyfrannau

Caiff cwmni gynyddu ei gyfalaf cyfrannau drwy glustnodi rhagor o gyfrannau. Mae cyfrannau yn cael eu "dosbarthu" pan gaiff person ei gofrestru fel aelod yng nghofrestr aelodau’r cwmni.

7. Awdurdod i glustnodi

'Clustnodi’ yw’r broses lle bydd person yn sicrhau hawl ddiamod i gael cyfrannau. Bydd cyfarwyddwyr yn clustnodi cyfrannau ar ran y cwmni, ond mae angen i naill ai erthyglau’r cwmni neu benderfyniad gan y cwmni eu hawdurdodi i wneud hynny.

(Un eithriad i hyn yw nad oes ar gwmni preifat a gorfforwyd o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 ac y bydd ganddo un dosbarth o gyfrannau yn unig ar ôl y clustnodi angen awdurdod ymlaen llaw gan y cwmni i glustnodi cyfrannau oni bai bod yna gyfyngiad penodol yn yr erthyglau. Bydd angen i gwmnïau preifat a gorfforwyd cyn y dyddiad hwnnw basio penderfyniad cyffredin er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr esemptiad hwn, ar yr amod nad oes cyfyngiad penodol yn eu herthyglau).

8. Talu am gyfrannau

Gellir talu am gyfrannau mewn amryw o ffyrdd mewn cwmni preifat, gan gynnwys arian parod, nwyddau, gwasanaethau, eiddo, ewyllys da, gwybodaeth arbenigol neu hyd yn oed cyfrannau mewn cwmni arall.

Yn gyffredinol, caiff pobl dalu am gyfrannau mewn cwmni preifat:

  • yn gyfan gwbl ag arian parod;
  • yn rhannol ag arian parod ac yn rhannol â thaliad heblaw arian parod; neu
  • yn gyfan gwbl â thaliad heblaw arian parod.

Ran amlaf, mae’n rhaid talu am gyfrannau mewn cwmni cyhoeddus ag arian parod. Er hynny, os caiff cyfrannau mewn cwmni cyhoeddus eu clustnodi am gydnabyddiaeth heblaw arian parod, rhaid i’r gydnabyddiaeth am y cyfrannau gael ei phrisio’n annibynnol ran amlaf.  Rhaid ichi anfon copi o’r adroddiad prisio unigol at y sawl y bwriedir clustnodi’r gyfran neu’r cyfrannau iddo ac i Dŷ’r Cwmnïau wrth gofrestru’r Ffurflen SH01c.

9. Hysbysu clustnodiad

O fewn mis ar ôl clustnodi cyfrannau, mae’n rhaid i gwmni cyfyngedig gyflwyno ffurflen glustnodi, ar ffurflen SH01c, i Dŷ’r Cwmnïau. Rhaid i chi lenwi datganiad cyfalaf fel rhan o’r ffurflen hon.

Os ydych yn gwmni cyfyngedig a bod y person yn talu am y cyfrannau ag arian parod, rhaid ichi gynnwys manylion yr union swm sydd wedi’i dalu neu sydd heb ei dalu yn y ffurflen.

Os bydd y cwmni’n clustnodi cyfrannau yn llawn neu’n rhannol am elfen heblaw arian parod, mae’n rhaid i chi ddangos i ba raddau y mae’r cwmni wedi trin y cyfrannau fel pe baen nhw wedi’u talu ar y ffurflen SH01c ac mae’n rhaid hefyd i chi gynnwys disgrifiad byr o’r taliad heblaw arian parod a roddwyd am y cyfrannau.

Cewch roi gwybod am gyfres o glustnodiadau ar yr un ffurflen SH01c, ond mae’n rhaid i chi anfon y ffurflen at Dŷ’r Cwmnïau heb fod yn hwyrach na mis ar ôl dyddiad y clustnodiad cyntaf. Os gwnewch chi hyn, dylai’r datganiad cyfalaf adlewyrchu sefyllfa’r cwmni ar ôl y clustnodiad ‘olaf’.

Rhaid i’r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau bod cyfrannau bonws wedi’u clustnodi ar ffurflen SH0Ic. Dylai ddangos y swm a dalwyd am bob cyfran fel ‘dim’ neu ‘0.00’ a dangos bod y cyfrannau wedi’u talu ‘mewn modd heblaw arian parod’.

Dim ond os yw’n clustnodi dosbarth newydd o gyfrannau (h.y, dosbarth o gyfrannau sydd â hawliau sy’n wahanol mewn unrhyw fodd i unrhyw gyfrannau a glustnodwyd o’r blaen) y mae angen i gwmni digyfyngiad roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau.  Rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen SH09.

10. Ailddynodi gwerth cyfalaf cyfrannau

O dan Ddeddf Cwmnïau 2006 caiff unrhyw gwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau (os nad oes gwaharddiad neu gyfyngiad yn ei erthyglau) ailddynodi gwerth ei gyfalaf cyfrannau, neu unrhyw ddosbarth o’i gyfalaf cyfrannau i mewn i arian treigl arall drwy basio penderfyniad.

Rhaid i’r cwmni ddefnyddio cyfradd gyfnewid benodol briodol ar gyfer yr ailddynodi - a rhaid defnyddio naill ai cyfradd sydd ar gael ar ddiwrnod penodol a bennir yn y penderfyniad neu’r gyfradd ar gyfartaledd wedi’i chymryd o bob diwrnod o’r bron mewn cyfnod a bennir yn y penderfyniad (a rhaid i’r diwrnod neu’r cyfnod a ddewisir fod o fewn y cyfnod o 28 diwrnod yn diweddu ar y diwrnod cyn i’r penderfyniad gael ei basio).

Dylech gymryd tri cham, ar gyfer pob dosbarth o gyfrannau, i gyfrifo gwerth enwol newydd pob cyfran yn y dosbarth:

  • cymryd cyfanred (cyfanswm) hen werthoedd enwol yr holl gyfrannau yn y dosbarth hwnnw;
  • troi’r swm hwnnw i’r arian treigl newydd yn ôl y gyfradd gyfnewid sydd wedi’i phennu yn y penderfyniad;
  • rhannu’r swm hwnnw â nifer y cyfrannau yn y dosbarth.

O fewn mis ar ôl ailddynodi’r gwerth, rhaid i chi gyflwyno SH14 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf) i Dŷ’r Cwmnïau, yn ogystal â chopi o’r penderfyniad.

11. Isrannu a chyfuno cyfrannau

Oni bai bod ei erthyglau cymdeithasiad yn gwahardd hynny neu’n cyfyngu ar hynny, caiff cwmni basio penderfyniad cyffredin i wneud y canlynol:

  • isrannu ei gyfrannau, neu unrhyw rai ohonyn nhw, yn gyfrannau o symiau llai, er enghraifft, caiff rannu cyfran £1 yn 10 cyfran o 10c yr un;
  • cyfuno a rhannu ei gyfalaf cyfrannau'n gyfrannau o symiau mwy na'i gyfrannau presennol, er enghraifft, caiff gyfuno 200 o gyfrannau o £1 yr un a’u rhannu’n 100 cyfran o £2 yr un;
  • ail-drosi unrhyw stoc yn gyfrannau wedi’u talu o unrhyw werth enwol. 

Yn yr achosion uchod, mae cyfanswm y cyfalaf cyfrannau’n parhau yn ddigyfnewid. Rhaid i’r cwmni roi hysbysiad ynglŷn â’r newid i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen SH02 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf) o fewn mis ar ôl y newid.

12. Amrywio hawliau dosbarth

Yn nodweddiadol, mae’r hawliau sydd ynghlwm wrth ddosbarth o gyfrannau ("hawliau dosbarth") yn ymwneud â materion fel hawliau pleidleisio, hawliau i gael buddrannau a hawliau i gael cyfalaf yn ôl pan gaiff cwmni ei ddirwyn i ben.

Gall yr erthyglau cymdeithasiad nodi hawliau dosbarth a chynnwys darpariaethau ar gyfer newid ("amrywio") yr hawliau hynny.

Os nad yw’r erthyglau’n cynnwys darpariaethau i amrywio’r hawliau, caiff y cwmni eu hamrywio naill ai drwy sicrhau cydsyniad deiliaid o leiaf tri chwarter y cyfrannau yn y dosbarth hwnnw yn ôl eu gwerth enwol (heb gynnwys cyfrannau’r drysorfa), neu drwy gael aelodau’r dosbarth hwnnw i basio penderfyniad arbennig mewn cyfarfod cyffredinol ar wahân.

Rhaid i chi gyflwyno copi o’r penderfyniad arbennig i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod. Rhaid hefyd ichi gyflwyno SH10 (hysbysiad manylion amrywiad hawliau) i Dŷ’r Cwmnïau o fewn mis ar ôl dyddiad yr amrywiad.

Mae gan ddeiliaid nid llai na 15% o gyfanswm y cyfrannau wedi’u dosbarthu yn y dosbarth o dan sylw, gan anwybyddu unrhyw gyfrannau trysorfa yn y dosbarth, hawl (os na roesant eu cydsyniad i’r amrywiad) i wneud cais i’r llys am ddileu’r amrywiad.
haid iddyn nhw wneud y cais heb fod yn hwyrach nag 21 diwrnod ar ôl i’r cydsyniad gael ei roi neu ar ôl i’r penderfyniad gael ei basio.

Caiff y llys gadarnhau neu ddileu’r amrywiad a rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o orchymyn y llys i Dŷ’r Cwmnïau heb fod yn fwy na 15 diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud.

13. Enw neu ddynodiad newydd ar ddosbarth o gyfrannau

Caiff cwmni roi enw neu ddynodiad i ddosbarth o gyfrannau (neu enw neu ddynodiad newydd). Rhaid i chi gyflwyno ffurflen SH08 i Dŷ’r Cwmnïau i roi gwybod am y newid hwn.

14. Gostwng cyfalaf

Yn gyffredinol, chaiff cwmni ddim gostwng ei gyfalaf cyfrannau heblaw fel a ganiateir gan y statud ac fel a gadarnheir gan y llys. Er hynny, o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, fe gaiff cwmni ostwng ei gyfalaf cyfrannau o dan yr amgylchiadau canlynol:

Gostwng y cyfalaf yn sgil ailddynodi gwerth

Caiff cwmni ostwng ei gyfalaf ar ôl ailddynodi gwerth ei gyfalaf cyfrannau o dan y weithdrefn newydd yn y Ddeddf (gweler uchod), ond dim ond er mwyn sicrhau gwerthoedd enwol mwy addas ar gyfer y cyfrannau yr ailddynodwyd eu gwerth y caniateir gwneud hyn, er enghraifft os yw ailddynodi gwerth y cyfrannau’n arwain at werthoedd enwol nad ydyn nhw’n unedau cyfan yn yr arian newydd.

Rhaid i’r cwmni basio penderfyniad arbennig (o fewn 3 mis ar ôl pasio’r penderfyniad i ailddynodi gwerth y cyfrannau) a, o fewn 15 diwrnod, chyflwyno copi ohono, yn ogystal â ffurflen SH15 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf) i Dŷ’r Cwmnïau.

Rhaid hefyd i chi gyflwyno datganiad cyfarwyddwyr sy’n cadarnhau nad yw’r gostyngiad yn fwy na 10% o werth enwol y cyfrannau clustnodedig yn union ar ôl y gostyngiad.

Gostyngiad a ategir â datganiad solfedd

Caiff cwmni cyfyngedig preifat ostwng ei gyfalaf drwy benderfyniad arbennig a ategir â datganiad solfedd (cyhyd ag na fydd y gostyngiad yn arwain at ddal cyfrannau adenilladwy yn unig). Rhaid i chi gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau:

  • copi o benderfyniad arbennig sy’n awdurdodi’r gostyngiad yn y cyfalaf;
  • copi o’r datganiad solfedd sydd wedi’i wneud yn unol ag adrannau 642(1)(a) a 643 o Ddeddf Cwmnïau 2006;
  • datganiad cyfalaf;
  • datganiad cydymffurfio gan y cyfarwyddwyr;
  • ffi o £10 am y gwasanaeth safonol neu £50 am y gwasanaeth yr un diwrnod.

Rhaid i bob un o gyfarwyddwyr y cwmni lofnodi’r datganiad solfedd.

Mae datganiad cydymffurfio gan y cyfarwyddwyr yn cadarnhau bod y cwmni wedi trefnu bod copi o’r datganiad solfedd ar gael i bob un o’r aelodau cymwys yn unol â’r gofynion ac na wnaeth y cyfarwyddwyr y datganiad solfedd mwy na 15 diwrnod cyn i aelodau’r cwmni basio’r penderfyniad. Rhaid i bob un o’r cyfarwyddwyr lofnodi’r datganiad cydymffurfio hwn.

Rhaid i’r holl ddogfennau hyn cael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod ar ôl i’r penderfyniad gael ei basio.  Pryd bynnag y bo modd, dylech gyflwyno’r ffurflenni i gyd gyda’i gilydd. Fydd y gostyngiad yn y cyfalaf ddim yn dod i rym nes bod Tŷ’r Cwmnïau wedi cofrestru copi o’r datganiad solfedd, y penderfyniad a’r datganiad cyfalaf.

Gostyngiad a gadarnheir gan orchymyn llys

Caiff cwmni ostwng ei gyfalaf drwy basio penderfyniad arbennig a sicrhau cadarnhad i’r gostyngiad gan y llys.  Rhaid ichi baratoi datganiad cyfalaf hefyd a chael y llys i gymeradwyo hwnnw. 

Rhaid wedyn i chi gyflwyno’r copi gwreiddiol a chopi o’r gorchymyn llys i Dŷ’r Cwmnïau, ynghyd â’r datganiad cyfalaf a fi o £10 am y gwasanaeth safonol neu £50 am y gwasanaeth yr un diwrnod. Mewn y mwyaf achos, fydd y gostyngiad ddim yn dod i rym nes bod Tŷ’r Cwmnïau wedi cofrestru’r copi o’r gorchymyn llys a’r datganiad cyfalaf.

Er hynny, mae’r gofyniad ar yr “isafswm awdurdodedig” yn cyfyngu ar gwmnïau cyhoeddus. Os bydd gostyngiad cyfalaf yn dod â gwerth enwol cyfalaf clustnodedig CCC o dan yr isafswm awdurdodedig, yn gyffredinol bydd angen iddo ailgofrestru fel cwmni preifat. Serch hynny, at y diben hwn mae cwmni cyhoeddus yn cael bodloni’r gofyniad ynglŷn â’r isafswm awdurdodedig drwy gyfrwng cyfrannau y mae eu gwerthoedd wedi’u dynodi mewn mwy nag un math o arian treigl.

15. Dileu cyfrannau gan CCC ar ôl eu fforffedu neu eu hildio

Os oes cyfrannau mewn ccc wedi’u fforffedu, wedi'u hildio neu wedi’u sicrhau o dan amrywiol amgylchiadau a ddisgrifir yn adran 662 o Ddeddf Cwmnïau 2006, mae’r cwmni yn gorfod (os na cheir gwared ar y cyfrannau neu ar fuddiant y cwmni ynddyn nhw mewn rhyw fodd arall) ddileu’r cyfrannau hyn, o fewn tair blynedd yn gyffredinol (mewn rhai achosion o fewn blwyddyn), a gostwng ei gyfalaf yn unol â gwerth enwol y cyfrannau sydd wedi’u dileu.  Caiff y cyfarwyddwyr ostwng cyfalaf y cwmni heb benderfyniad arbennig a gymeradwywyd gan y llys. O fewn mis ar ôl eu dileu, mae’n rhaid i chi gyflwyno SH07> (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf) i Dŷ’r Cwmnïau. Os yw’r gostyngiad yn y cyfalaf yn golygu bod gwerth enwol y cyfalaf cyfrannau sydd wedi’i ddosbarthu gan y cwmni’n syrthio o dan yr isafswm awdurdodedig, mae’n rhaid i’r cwmni ailgofrestru fel cwmni preifat.  (Mae’r terfyn amser ar gyfer ailgofrestru yr un fath ag ar gyfer dileu’r cyfrannau).

16. Adennill cyfrannau

Os yw cwmni preifat neu CCC wedi dosbarthu cyfrannau adenilladwy, caiff adennill y cyfrannau yn unol â’r telerau adennill. Os ydyn nhw wedi’u hawdurdodi gan erthyglau’r cwmni neu gan benderfyniad, caiff y cyfarwyddwyr bennu’r telerau adennill. Fel arall, rhaid i’r telerau gael eu datgan yn erthyglau’r cwmni. Pan fydd cwmni’n adennill cyfrannau mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen SH02 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf) i Dŷ’r Cwmnïau o fewn mis ar ôl iddyn nhw gael eu hadennill.

17. Prynu cyfrannau ei hun

Yn amodol ar unrhyw gyfyngiad neu waharddiad yn yr erthyglau a chymeradwyaeth ei gyfranddalwyr, caiff cwmni brynu ei gyfrannau. Ond nid yw’n cael gwneud hynny os byddai’n golygu mai dim ond cyfrannau adenilladwy a fyddai wedi’u dosbarthu.

Rhaid i chi roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am brynu cyfrannau ar Ffurflen SH03 o fewn 28 diwrnod.

Pan fydd cwmni’n prynu ei gyfrannau ei hun, mae’n dileu’r cyfrannau wrth iddyn nhw ddychwelyd. Os bydd yn dileu’r cyfrannau ar unwaith (a fydd yn wir yn achos pob cwmni preifat a’r rhan fwyaf o CCC), rhaid iddo gyflwyno Ffurflen SH06 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf) i Dŷ’r Cwmnïau.

Er hynny, caiff cwmni cyhoeddus sydd â chyfrannau cymwys naill ai dileu’r cyfrannau hynny ar unwaith neu eu cadw ‘yn y drysorfa’ i’w hailwerthu neu i’w trosglwyddo i gynllun cyfrannau gweithwyr yn nes ymlaen (neu caiff eu dileu yn nes ymlaen).

Rhaid i chi roi gwybod bod cyfrannau ‘trysorfa’ wedi’u prynu yn y lle cyntaf i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen SH03 ac os ydych yn dileu’r cyfrannau trysorfa hynny ar unwaith rhaid i chi ffeilio ffurflen SH06.

Os byddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo’r cyfrannau o’r drysorfa, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen SH04 ac os byddwch chi wedyn yn dileu’r cyfrannau hynny, mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen SH05 (sy’n cynnwys datganiad cyfalaf).

Gall fod rhaid talu toll stamp wrth brynu cyfrannau’r cwmni ei hun. Os yw’r gydnabyddiaeth am y cyfrannau’n fwy na £1000, mae’n rhaid i’r ffurflen SH03 gael ei stampio gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) cyn iddo gael ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau.

Os yw’r gydnabyddiaeth yn £1000 neu lai, does dim angen ichi anfon y ffurflen i gael ei stampio, ond mae’n rhaid i chi lofnodi’r ardystiad arni.

Cewch ddefnyddio un ffurflen SH03 i roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau bod cyfrannau wedi’u prynu ar ddyddiadau gwahanol ac o dan gontractau gwahanol.

18. Adennill neu brynu cyfrannau allan o gyfalaf

Yn amodol ar unrhyw gyfyngiad neu waharddiad yn yr erthyglau, caiff cwmni preifat basio penderfyniad arbennig i gyllido prynu neu adennill cyfrannau allan o gyfalaf. Os bydd cwmni preifat yn cyllido prynu drwy daliad allan o’i gyfalaf, rhaid i’r cyfarwyddwyr wneud datganiad hefyd am solfedd y cwmni ar unwaith ar ôl y prynu ac yn y flwyddyn ganlynol. Rhaid i bob un o gyfarwyddwyr y cwmni lofnodi’r datganiad solfedd.

Rhaid i chi drefnu bod copi o’r datganiad ac o adroddiad yr archwilydd sy’n cadarnhau barn y cyfarwyddwyr ar gael i’r aelodau wrth gyflwyno’r penderfyniad iddyn nhw neu cyn hynny yn achos penderfyniad ysgrifenedig. Neu, os yw’r penderfyniad i gael ei basio mewn cyfarfod, drwy drefnu bod copi o ddatganiad y cyfarwyddwyr  a chopi o adroddiad yr archwilwyr ar gael i’w harchwilio yn y cyfarfod hwnnw.

Rhaid hefyd i chi gyflwyno copi o ddatganiad y cyfarwyddwyr ac adroddiad yr archwilydd i Dŷ’r Cwmnïau heb fod yn hwyrach na’r diwrnod cyntaf y byddwch yn cyhoeddi neu yn rhoi hysbysiad o’r taliad arfaethedig allan o gyfalaf, (mae’r gofynion ynglŷn â chyhoeddi a rhoi’r hysbysiad yn cael eu trafod yn adran 719 o Ddeddf Cwmnïau 2006).

Mae unrhyw aelod o’r cwmni na roddodd ei gydsyniad na phleidleisio o blaid y penderfyniad neu unrhyw gredydwr sydd gan y cwmni yn cael gwneud cais i’r llys am ddileu’r penderfyniad, o fewn pum wythnos ar ôl i’r penderfyniad gael ei basio.

Rhaid i’r ymgeiswyr i’r llys lenwi a chyflwyno ffurflen SH16 i Dŷ’r Cwmnïau ar unwaith.

Pan gaiff cwmni hysbysiad ynglŷn â’r cais i’r llys, rhaid iddo roi gwybod ar unwaith i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen SH17 ac, o fewn 15 diwrnod ar ôl i orchymyn llys gael ei wneud, rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o’r gorchymyn i Dŷ’r Cwmnïau.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfalaf cyfrannau a sut i’w gynnal, gweler Rhannau 17 a 18 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Pennod 8 - Ailgofrestru

Caiff cwmni newid ei statws ac ailgofrestru mewn nifer o ffyrdd;

  • o gwmni preifat (wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau neu ddigyfyngiad) i gwmni cyhoeddus;
  • o gwmni cyhoeddus i gwmni preifat wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau;
  • o gwmni preifat cyfyngedig i gwmni digyfyngiad;
  • o gwmni preifat digyfyngiad i gwmni cyfyngedig;
  • o gwmni cyhoeddus i gwmni preifat digyfyngiad.

Wrth i gwmni ailgofrestru, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi tystysgrif gorffori ddiwygiedig i’r cwmni. Bydd y dystysgrif yn cynnwys y newid yn enw a statws y cwmni ynghyd â dyddiad yr ailgofrestru.

1. Ailgofrestru o Gwmni Preifat i Gwmni Cyhoeddus

Caiff cwmni preifat sydd â chyfalaf cyfrannau ailgofrestru fel cwmni cyhoeddus drwy basio penderfyniad arbennig i wneud hynny.

Rhaid i chi gyflwyno’r cais am ailgofrestru fel cwmni cyhoeddus i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen RR01, ynghyd â’r canlynol;

  • copi o’r penderfyniad arbennig;
  • copi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig;
  • copi o’r fantolen berthnasol;
  • copi o ddatganiad ysgrifenedig yr archwilydd;
  • copi o adroddiad diamod yr archwilydd.

Os nad oes gan y cwmni sy’n ailgofrestru ysgrifennydd, dylai’r cais am ailgofrestru gynnwys datganiad ynglŷn â’r ysgrifennydd arfaethedig. Hefyd rhaid iddo gynnwys copi o’r adroddiad prisio os oes cyfrannau wedi’u clustnodi’n ddiweddar am gydnabyddiaeth ar ffurf heblaw arian parod. 

2.  Ailgofrestru o Gwmni Cyhoeddus i Gwmni Preifat

Mae yna bedair ffordd i gwmni cyhoeddus ailgofrestru fel cwmni preifat;

  • drwy basio penderfyniad arbennig i wneud hynny ac yna gwneud cais yn unol ag adran 100 o Ddeddf Cwmnïau 2006;
  • yn sgil gorchymyn llys i ostwng y cyfalaf;
  • yn sgil dileu cyfrannau;
  • yn sgil gostyngiad cyfalaf am fod y gwerth y cyfrannau wedi’i ailddynodi.

3. Ailgofrestru o Gwmni Cyhoeddus i Gwmni Preifat yn unol ag adran 100 o Ddeddf Cwmnïau 2006

Caiff cwmni cyhoeddus ailgofrestru fel cwmni preifat drwy basio penderfyniad arbennig i wneud hynny. Rhaid i chi gyflwyno’r cais am ailgofrestru i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen RR02. I gyd-fynd â honno dylid cael copi o’r penderfyniad arbennig a chopi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig.

Os bydd digon o aelodau’r cwmni’n gwrthwynebu pasio’r penderfyniad, maen nhw’n cael gwneud cais i’r llys am ddileu’r penderfyniad o fewn 28 diwrnod ar ôl iddo gael ei basio. O godi gwrthwynebiad o’r fath, mae’n rhaid iddyn nhw rhoi gwybod amdano i’r cwmni. Yn ei dro, mae’n rhaid i’r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am y cais i’r llys ar ffurflen RR03. Caiff y llys naill ai dileu neu gadarnhau’r penderfyniad ar ôl gwrando cais o’r fath. Rhaid i’r cwmni gyflwyno copi o orchymyn y llys i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 15 diwrnod ar ôl iddo gael ei wneud.

4. Ailgofrestru o gwmni cyhoeddus i gwmni preifat ar ôl gorchymyn llys i ostwng y cyfalaf

Caiff cwmni cyhoeddus ailgofrestru fel cwmni preifat os bydd y llys yn ei gyfarwyddo i  wneud hynny.  Pan fo cwmni wedi gwneud cais i’r llys am ostwng ei gyfalaf cyfrannau (yn unol â’r disgrifiad ym mhennod 7) a bod hynny’n golygu bod gwerth enwol ei gyfalaf cyfrannau clustnodedig yn gostwng o dan yr isafswm awdurdodedig i gwmni cyhoeddus, caiff y llys awdurdodi’r cwmni i ailgofrestru fel cwmni preifat heb fod angen pasio penderfyniad.

Rhaid i chi gyflwyno’r cais am ailgofrestru i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen RR08 ynghyd â chopi o’r gorchymyn llys a chopi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig.

5. Ailgofrestru o gwmni cyhoeddus i gwmni preifat ar ôl dileu cyfrannau

Rhaid i gwmni cyhoeddus ailgofrestru fel cwmni preifat ar ôl i gyfrannau yn y cwmni gael eu dileu o dan amgylchiadau penodol. Os bydd dileu’r cyfrannau (yn unol â’r disgrifiad ym mhennod 7) yn golygu bod y cyfalaf cyfrannau clustnodedig yn gostwng o dan yr isafswm awdurdodedig i gwmni cyhoeddus, caiff y cyfarwyddwyrbasio penderfyniad i ailgofrestru fel cwmni preifat.

Rhaid i chi gyflwyno’r cais am ailgofrestru i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen RR09 ynghyd â chopi o benderfyniad y cyfarwyddwyr a chopi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig.

6. Ailgofrestru o Gwmni Cyfyngedig Preifat i Gwmni Digyfyngiad

Caiff cwmni cyfyngedig preifat ailgofrestru fel cwmni digyfyngiad drwy gyflwyno ffurflen RR05 i Dŷ’r Cwmnïau, ynghyd â ffurflen gydsynio ragnodedig a chopi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig.

Bwriad y ffurflen gydsynio yw dangos bod yr holl aelodau wedi cytuno i ailgofrestru, ac felly mae’n rhaid iddi gael ei dilysu gan neu ar ran y cyfan o aelodau’r cwmni ac mae wedi’i rhagnodi yn y rheoliadau.

7. Ailgofrestru o Gwmni Digyfyngaid i Gwmni Preifat

Caiff cwmni digyfyngiad ailgofrestru fel cwmni preifat wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau neu drwy warant, a hynny drwy basio penderfyniad arbennig. Rhaid i chi gyflwyno’r cais am ailgofrestru fel cwmni preifat i Dŷ’r Cwmnïau ar ffurflen RR06 ynghyd â chopi o’r penderfyniad arbennig a chopi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig.

O dan amgylchiadau penodol, pan fo’r cwmni’n ailgofrestru fel cwmni preifat wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau, rhaid cael datganiad cyfalaf i gyd-fynd â’r cais.  Os yw’r cwmni’n ailgofrestru fel cwmni preifat wedi’i gyfyngu drwy warant, mae’n rhaid i chi lenwi’r datganiad o warant ar ffurflen RR06.

8. Ailgofrestru o gwmni cyhoeddus i gwmni digyfyngiad preifat

Caiff cwmni cyhoeddus ailgofrestru fel cwmni digyfyngiad drwy gyflwyno ffurflen RR07 i Dŷ’r Cwmnïau ynghyd â ffurflen gydsynio ragnodedig a chopi printiedig o’r erthyglau cymdeithasiad diwygiedig.

Mae’r ffurflen gydsynio wedi’i rhagnodi yn y rheoliadau a’i bwriad yw dangos bod yr holl aelodau wedi cytuno i ailgofrestru, ac felly mae’n rhaid iddi gael ei dilysu gan y cyfan o aelodau’r cwmni.  

Mae rhagor o wybodaeth am ailgofrestru i’w gweld yn Rhan 7 o Ddeddf Cwmnïau2006.

Pennod 9 - Arwystlon a Morgeisiau (Lloegr a Chymru, a Gogledd Iwerddon)

Y warant y bydd cwmni’n ei rhoi ar gyfer benthyciad yw arwystl (neu forgais). Rhaid i’r mwyafrif o arwystlon gael eu cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. Does dim rhaid i’r gwaith cofrestru gael ei wneud gan y cwmni ei hun: y benthyciwr neu asiant y benthyciwr sy’n ei gofrestru ran amlaf. I gofrestru arwystl, rhaid i fanylion yr arwystl ynghyd â’r ddogfen wreiddiol sy’n creu’r arwystl neu sy’n rhoi tystiolaeth ohono gael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau o fewn y terfyn amser penodedig.

Rhaid i chi gyflwyno’ch cais am gofrestru arwystl o fewn 21 diwrnod ar ôl i’r arwystl gael ei greu er mwyn sicrhau ei fod wedi’i warantu os bydd y cwmni’n ymddatod. Bydd arnoch angen gorchymyn llys er mwyn ei gofrestru y tu allan i’r terfyn o 21 diwrnod.

Cofrestru Arwystlon

1. Arwystlon y mae’n rhaid i chi eu cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Yn achos cwmnïau sydd wedi’u corffori yng Nghymru, Cymru a Lloegr, a Gogledd Iwerddon, yr arwystlon y mae’n rhaid eu cofrestru yw:

  • Arwystl ar dir neu unrhyw fuddiant mewn tir, heblaw arwystl ar gyfer unrhyw rent neu swm cyfnodol arall sy’n deillio o dir;
  • Arwystl sy’n cael ei greu neu y ceir tystiolaeth ohono mewn offeryn a fyddai, o’i weithredu gan unigolyn, yn golygu bod rhaid ei gofrestru fel bil gwerthiant;
  • Arwystl at ddibenion sicrhau unrhyw ddyledebau a ddosberthir;
  • Arwystl ar gyfalaf y cwmni ar ffurf cyfrannau heb eu galw;
  • Arwystl ar alwadau sydd wedi’u gwneud ond sydd heb eu talu;
  • Arwystl ar ddyledion llyfr y cwmni;
  • Arwystl ansefydlog ar eiddo neu ymgymeriad y cwmni;
  • Arwystl ar long neu awyren, neu unrhyw gyfran mewn llong;
  • Arwystl ar ewyllys da neu ar unrhyw eiddo deallusol; 

2. Pa ffurflen y dylwn ei defnyddio?

Diben a Rhif y Ffurflen

Manylion Arwystl - MG01

Manylion ar gyfer cofrestru arwystl i sicrhau cyfres o ddyledebau - MG07     

Manylion dosbarthiad dyledebau gwarantedig mewn cyfres - MG08

Tystysgrif cofrestru arwystl sy’n cynnwys eiddo mewn awdurdodaeth arall yn y DU - MG09

Manylion arwystl y mae eiddo wedi’i gaffael yn ddarostyngedig iddo - MG06

Datganiad bod morgais neu arwystl wedi’u bodloni yn llawn neu’n rhannol - MG02

Datganiad yr arwystlwyd rhan o’r eiddo [neu’r cyfan ohono] - MG04

(a) wedi’u rhyddhau o’r arwystl;
(b) heb fod yn rhan o eiddo’r cwmni mwyach

Hysbysiad penodi derbynnydd gweinyddol, derbynnydd neu reolwr - LQ01

Hysbysiad o roi’r gorau i weithredu fel derbynnydd gweinyddol, derbynnydd neu reolwr - LQ02

3. Pethau i’w cofio wrth ffeilio ffurflen MG01

Y ffurflen MG01 yw’r ffurflen arwystl sy’n cael ei ffeilio’n fwyaf cyffredin yn Nhŷ’r Cwmnïau.  Rhaid i chi gyflwyno manylion rhagnodedig yr arwystl, ynghyd â’r offeryn gwreiddiol (os oes un) sy’n creu’r arwystl neu sy’n rhoi tystiolaeth ohono, i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 21 diwrnod ar ôl dyddiad creu’r arwystl. Mae’n bwysig gweithredu cyn gynted ag y gellir ac, wrth gyflwyno’r ffurflen i Dŷ’r Cwmnïau, cofiwch wneud y canlynol:

(i)  llenwi’r ffurflen gywir a’i chyflwyno i’r swyddfa gofrestru gywir a dilyn unrhyw nodiadau perthnasol ar y ffurflen yn gywir hefyd;
(ii)  cyflwyno’r offeryn gwreiddiol (os oes un) sy’n creu’r arwystl neu sy’n rhoi tystiolaeth o’r arwystl gyda’r ffurflen;
(iii) gwirio bod y manylion ar y ffurflen yn gywir ac yn cyfateb i’r wybodaeth sydd wedi’i rhoi yn yr offeryn; a
(iv) amgáu’r ffi gofrestru gywir.

4. Beth os na fydda i’n cofrestru arwystl o fewn yr 21 diwrnod ar gyfer ffeilio?

Os na fyddwch yn cofrestru’r arwystl mewn pryd, yna os bydd y cwmni’n ansolfent bydd yr arwystl yn ddi-rym yn erbyn y datodwr neu’r gweinyddydd ac unrhyw gredydwr sydd gan y cwmni. . Mae hynny’n golygu y bydd y ddyled y rhoddwyd yr arwystl ar ei chyfer yn parhau’n daladwy, ond y bydd heb ei gwarantu. Dim ond y llys a gaiff ganiatáu estyniad amser i gofrestru arwystl na chyrhaeddodd Dŷ’r Cwmnïau mewn pryd.

Os na fydd arwystl cofrestradwy yn cael ei gofrestru mewn pryd, yna mae’r cwmni a greodd yr arwystl a phob un o swyddogion y cwmni sydd wedi methu â’i gofrestru yn agored i gael eu dirwyo.

5. Caffael eiddo sydd eisoes o dan arwystl.

Os cewch chi eiddo sydd eisoes o dan arwystl, a bod yr arwystl o fath y byddai’r cwmni wedi gorfod ei gofrestru pe bai wedi creu’r arwystl ei hun, mae’n rhaid i chi gofrestru’r arwystl. Rhaid i’r cwmni lenwi a chyflwyno ffurflen MG06 i Dŷ’r Cwmnïau, ynghyd â chopi ardystiedig o unrhyw offeryn sy’n creu’r arwystl neu sy’n rhoi tystiolaeth ohono.

Rhaid i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod ar ôl i’r cwmni gael yr eiddo yn derfynol.

6.  Pa hawliau sydd gan y pridiannai?

Os na fydd y cwmni’n cyflwyno arwystl i’w gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau, caiff y pridiannai (sef y person y mae’r eiddo o dan arwystl iddo) gofrestru’r dogfennau angenrheidiol.  O dan amgylchiadau penodol, caiff y pridiannai benodi derbynnydd gweinyddol, derbynnydd neu reolwr (neu ofyn i’r llys benodi un) dros yr eiddo sydd o dan yr arwystl.  Caiff unrhyw berson sydd â buddiant yn yr arwystl roi gwybod am y penodiad i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 7 diwrnod, gan ddefnyddio ffurflen LQ01.

Wrth roi’r gorau i weithredu, rhaid i’r derbynnydd neu’r rheolwr roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau gan ddefnyddio ffurflen LQ02.

Bodloni arwystlon

7. Beth dylwn i ei wneud pan fydd y cwmni’n talu’r arwystl?

Does dim rhaid i’r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau ei fod wedi talu’r arwystl yn llawn neu’n rhannol. Er hynny, mae er lles i’r cwmni bod buddsoddwyr a benthycwyr posibl yn gwybod bod y cwmni wedi talu y cyfan neu ran o’r ddyled. Dylech gyflwyno ffurflen MG02 i Dŷ’r Cwmnïau fel hysbysiad bod y cwmni wedi talu arwystl yn llawn neu’n rhannol.

8. Beth os bydd yr eiddo o dan yr arwystl yn peidio â bod o dan yr arwystl neu’n peidio â pherthyn i’r cwmni?

Fel yn achos arwystlon sydd wedi’u talu’n rhannol neu’n llawn, nid yw’n ofynnol i gwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau fod ei eiddo wedi’i ryddhau o’r arwystl neu nad yw’r eiddo’n perthyn i’r cwmni mwyach.  Er hynny, mae er lles y cwmni bod buddsoddwyr a benthycwyr posibl yn gwybod hyn.  Dylech gyflwyno ffurflen MG04 i Dŷ’r Cwmnïau i’n hysbysu pan fydd yr eiddo o dan arwystl yn peidio â bod o dan arwystl neu’n peidio â pherthyn i’r cwmni.

Mae rhagor o wybodaeth am Gofrestru Arwystlon ar gael yn Rhan 25 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Pennod 10 - Arwystlon a Morgeisiau (Yr Alban)

Y warant y bydd cwmni’n ei rhoi ar gyfer benthyciad yw arwystl (neu forgais). Rhaid i’r mwyafrif o arwystlon gael eu cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. Does dim rhaid i’r gwaith cofrestru gael ei wneud gan y cwmni ei hun: y benthyciwr neu asiant y benthyciwr sy’n ei gofrestru ran amlaf. I gofrestru arwystl, rhaid i fanylion yr arwystl ynghyd â’r ddogfen wreiddiol sy’n creu’r arwystl neu sy’n rhoi tystiolaeth ohono gael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau o fewn y terfyn amser penodedig.

Rhaid i chi gyflwyno’ch cais am gofrestru arwystl o fewn 21 diwrnod ar ôl i’r arwystl gael ei greu er mwyn sicrhau ei fod wedi’i warantu os bydd y cwmni’n ymddatod. Bydd arnoch angen gorchymyn llys er mwyn ei gofrestru y tu allan i’r terfyn o 21 diwrnod.

Cofrestru Arwystlon

1. Arwystlon sydd i’w cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau, yr Alban.

Yn achos cwmnïau sydd wedi’u corffori yn yr Alban, yr arwystlon y mae’n rhaid eu cofrestru yw:

  • Arwystl ar dir neu unrhyw fuddiant yn y tir hwnnw, heblaw arwystl am unrhyw rent neu swm cyfnodol arall sy’n daladwy mewn perthynas â’r tir;
  • Gwarant dros eiddo symudadwy anghorfforol yn unrhyw un o’r categorïau canlynol;
    (i) ewyllys da;
    (ii) patent neu drwydded o dan batent;  
    (iii) nod masnach;
    (iv) hawlfraint neu drwydded o dan hawlfraint;
    (v) dyluniad cofrestredig neu drwydded mewn perthynas â dyluniad o’r fath;
    (vi) hawl dyluniad neu drwydded o dan hawl dyluniad;
    (vii) y dyledion llyfr (sef dyledion llyfr y cwmni neu rai sydd wedi’u haseinio iddo), ac
    (viii) cyfalaf cyfrannau heb ei alw sydd gan y cwmni neu alwadau sydd wedi’u gwneud ond heb eu talu;
    - Gwarant dros long neu awyren neu unrhyw gyfran mewn llong;
    - Arwystl ansefydlog.

2. Pa ffurflen y dylwn ei defnyddio?

Diben a Rhif y Ffurflen

Manylion arwystl a grëwyd gan gwmni wedi’i gofrestru yn yr Alban - MG01s

Manylion i gofrestru arwystl i warantu cyfres o ddyledebau gan gwmni wedi'i gofrestru yn yr Alban - MG07s
 
Manylion dosbarthiad dyledebau gwarantedig mewn cyfres gan gwmni wedi’i gofrestru yn yr Alban - MG08s

Manylion arwystl y mae eiddo wedi’i gaffael yn ddarostyngedig iddo gan gwmni wedi’i gofrestru yn yr Alban - MG06s

Datganiad bod arwystl sefydlog wedi’i fodloni yn llawn neu’n rhannol gan gwmni wedi’i gofrestru yn yr Alban - MG02s

Datganiad bod arwystl ansefydlog wedi’i fodloni yn llawn neu’n rhannol gan gwmni wedi’i gofrestru yn yr Alban - MG03s

Datganiad yr arwystlwyd rhan o’r eiddo [neu’r cyfan ohono] - MG04s

(a) wedi’u rhyddhau o’r arwystl sefydlog;
(b) heb fod yn rhan o eiddo’r cwmni mwyach

Datganiad yr arwystlwyd rhan o’r eiddo [neu’r cyfan ohono] - MG05s

(a) wedi’u rhyddhau o’r arwystl ansefydlog;
(b) heb fod yn rhan o eiddo’r cwmni mwyach.

Manylion offeryn i newid arwystl ansefydlog - 466

3. Manylion Arwystl a Phethau i’w Cofio

Y ffurflen MG01s yw’r ffurflen arwystl sy’n cael ei ffeilio’n fwyaf cyffredin yn Nhŷ’r Cwmnïau yn yr Alban.  Rhaid i chi gyflwyno manylion rhagnodedig yr arwystl, ynghyd â chopi ardystiedig o’r offeryn (os oes un) sy’n creu’r arwystl neu sy’n rhoi tystiolaeth ohono, i Dŷ’r Cwmnïau o fewn 21 diwrnod ar ôl dyddiad creu’r arwystl. Mae’n bwysig gweithredu cyn gynted ag y gellir ac, wrth gyflwyno’r ffurflen i Dŷ’r Cwmnïau, cofiwch wneud y canlynol:

(i) llenwi’r ffurflen gywir a’i chyflwyno i’r swyddfa gofrestru gywir a dilyn unrhyw nodiadau perthnasol ar y ffurflen yn gywir hefyd;
(ii) cyflwyno copi ardystiedig o’r offeryn (os oes un) sy’n creu’r arwystl neu sy’n rhoi tystiolaeth o’r arwystl gyda’r ffurflen;
(iii) gwirio bod y manylion ar y ffurflen yn gywir ac yn cyfateb i’r wybodaeth sydd wedi’i rhoi yn yr offeryn; a
(iv) amgáu’r ffi gofrestru gywir.

4.  Beth os na fydda i’n cofrestru arwystl o fewn yr 21 diwrnod ar gyfer ffeilio?

Os na fyddwch yn cofrestru’r arwystl mewn pryd, yna os bydd y cwmni’n ansolfent bydd yr arwystl yn ddi-rym yn erbyn y datodwr neu’r gweinyddydd ac unrhyw gredydwr sydd gan y cwmni. . Mae hynny’n golygu y bydd y ddyled y rhoddwyd yr arwystl ar ei chyfer yn parhau’n daladwy, ond y bydd heb ei gwarantu. Dim ond y llys a gaiff ganiatáu estyniad amser i gofrestru arwystl na chyrhaeddodd Dŷ’r Cwmnïau mewn pryd.

Os na fydd arwystl cofrestradwy yn cael ei gofrestru mewn pryd, yna mae’r cwmni a greodd yr arwystl a phob un o swyddogion y cwmni sydd wedi methu â’i gofrestru yn agored i gael eu dirwyo.

5. Caffael eiddo sydd eisoes o dan arwystl.

Os cewch chi eiddo sydd eisoes o dan arwystl, a bod yr arwystl o fath y byddai’r cwmni wedi gorfod ei gofrestru pe bai wedi creu’r arwystl ei hun, mae’n rhaid iddo hysbysu’r ffaith ei bod wedi caffael yr eiddo hwn.. Rhaid i’r cwmni lenwi a chyflwyno ffurflen MG06s i Dŷ’r Cwmnïau, ynghyd â chopi ardystiedig o unrhyw offeryn sy’n creu’r arwystl neu sy’n rhoi tystiolaeth ohono.

Rhaid i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod ar ôl i’r cwmni gael yr eiddo yn derfynol.

Bodloni Arwystlon

6. Beth dylwn i ei wneud pan fydd y cwmni’n talu’r arwystl?

Does dim rhaid i’r cwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau ei fod wedi talu’r arwystl yn llawn neu’n rhannol. Er hynny, mae er lles i’r cwmni bod buddsoddwyr a benthycwyr posibl yn gwybod bod y cwmni wedi talu y cyfan neu ran o’r ddyled. Dylech gyflwyno ffurflen MG02s neu MG03s (yn dibynnu ai arwystl sefydlog ynteu arwystl ansefydlog sydd wedi’i dalu) i Dŷ’r Cwmnïau fel hysbysiad bod y cwmni wedi talu arwystl yn llawn neu’n rhannol.

7. Beth os bydd yr eiddo o dan yr arwystl yn peidio â bod o dan yr arwystl neu’n peidio â pherthyn i’r cwmni?

Fel yn achos arwystlon sydd wedi’u talu’n rhannol neu’n llawn, nid yw’n ofynnol i gwmni roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau fod ei eiddo wedi’i ryddhau o’r arwystl neu nad yw’r eiddo’n perthyn i’r cwmni mwyach.  Er hynny, mae er lles y cwmni bod buddsoddwyr a benthycwyr posibl yn gwybod hyn.  Dylech gyflwyno ffurflen MG04s neu MG05s (yn dibynnu ai arwystl sefydlog ynteu arwystl ansefydlog sydd wedi’i dalu) i Dŷ’r Cwmnïau i’n hysbysu pan fydd yr eiddo o dan arwystl yn peidio â bod o dan arwystl neu’n peidio â pherthyn i’r cwmni.

Mae rhagor o wybodaeth am Gofrestru Arwystlon ar gael yn Rhan 25 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Pennod 11 - Ansawdd dogfennau

1. Beth fydd yn digwydd i ddogfennau y byddaf yn eu hanfon i Dŷ'r Cwmnïau?

Byddwn yn sganio’r dogfennau a’r ffurflenni papur y byddwch yn eu cyflwyno i ni er mwyn creu delwedd electronig.  Yna, byddwn yn storio’r dogfennau papur gwreiddiol, gan ddefnyddio’r ddelwedd electronig fel y ddogfen waith. 

Pan fydd cwsmer yn chwilio cofnod y cwmni, atgynhyrchir y ddelwedd electronig ar-lein.  Felly, mae’n bwysig bod y ddogfen wreiddiol yn ddarllenadwy, a’i bod yn gallu creu copi clir hefyd.

Pan fyddwch yn cyflwyno dogfen yn electronig, byddwn yn creu delwedd electronig o’r data a ddarparwyd gennych yn awtomatig.

Mae’r bennod hon yn cynnig rhai canllawiau i’w dilyn wrth baratoi dogfen i’w ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau.              

2. Sut ddylai dogfennau gael eu gosod?

Dogfennau sy’n cael eu ffeilio’n electronig

Mae dogfennau sy’n cael eu ffeilio drwy WebFiling yn cael eu fformadu yn unol â’r manylebau a bennwyd gan y cofrestrydd yn ei reolau ar ffeilio electronig fel y maen nhw wedi’u cyhoeddi ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. Mae’n rhaid hefyd i gyflenwyr meddalwedd sy’n cynnig cyfleusterau ffeilio electronig sicrhau bod dogfennau a gyflwynir ar eu meddalwedd nhw yn cael eu fformadu yn unol â rheolau’r cofrestrydd. Mae rhestr o’r cyflenwyr meddalwedd cyfredol ar gael ar y wefan.

Dogfennau papur

Yn gyffredinol, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau nodi enw a rhif cofrestru y cwmni mewn man amlwg.  Ceir rhai eithriadau i’r rheol hon, a nodir yn rheolau cyhoeddedig y cofrestrydd. Dylai dogfennau papur fod ar bapur gwyn plaen A4, â gorffeniad di-sglein.  Dylai’r testun fod yn ddu, yn eglur, yn ddarllenadwy a dylai’r dwysedd fod yn unffurf.  Rhaid i lythrennau a rhifau fod yn eglur ac yn ddarllenadwy er mwyn sicrhau bod modd i ni baratoi copi derbyniol o’r ddogfen.  Gallai’r canllawiau canlynol fod o gymorth:

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen papur, a fyddech cystal â:

  • defnyddio inc du neudeip du;
  • defnyddio llythrennau trwm (bydd rhai pennau ysgrifennu ac wynebau teip tenau a chain yn creu copïau o ansawdd gwael);
  • ni ddylech anfon copi carbon;
  • ni ddylech ddefnyddio matrics-argraffydd; a
  • chofiwch – gallllungopïau roi arlliw llwyd na fydd yn sganio’n dda.
  • y pwyntiau a wnaethpwyd eisoes am lenwi ffurflenni;
  • y dylech ddefnyddio papur A4 gydag ymyl hael;
  • eu darparu ar ffurf portread (hynny yw, yr ymyl byrraf ar draws ybrig);  a
  • chynnwys rhif ac enw’r cwmni.
Cyfrifon sglein

Os ydych chi’n cynhyrchu cyfrifon wedi eu hargraffu mewn lliw gyda lluniau ar bapur sglein, cadwch y rhain ar gyfer eich cyfranddeiliaid a phobl eraill a fydd yn eu gwerthfawrogi. Mae arnom angen y cyfrifon mewn print du ar gefndir gwyn â gorffeniad matt. Byddai fersiwn o broflen yr argraffydd wedi ei deipio ond heb ei rwymo yn ddelfrydol, ar yr amod bod y llofnodion angenrheidiol arni.

Bob blwyddyn, mae rhyw 6,000 set o gyfrifon yn cael eu gwrthod am nad ydynt yn ddigon darllenadwy. Dyma’r 3 rheswm pennaf am hyn:

  • Bod y cyfrifon ar bapur sglein;
  • Am fod graddliwio dros y ffigurau e.e. i wahaniaethu rhwng y flwyddyn ariannol o dan sylw a’r flwyddyn flaenorol;
  • Print o ansawdd gwael.

3. Ble mae modd i mi gael gwybod mwy am hyn?

Am arweiniad pellach am ein gofynion argraffu, anfon eich ymholiad drwy e-bost neu ffoniwch 0303 1234 500.

Pennod 12 - Gwybodaeth Bellach

1. Sut ddylwn i gyflwyno gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau?

Am fanylion llawn am yr holl ffyrdd o gyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau, yn electronig neu ar bapur, a fyddech cystal â throi at reolau’r cofrestrydd sy’n ymddangos ar ein gwefan. Y ffordd fwyaf diogel o gyflwyno gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw trwy ddefnyddio ein gwasanaethau ffeilio ar-lein. Ein nod yw prosesu dogfennau electronig cyn pen 24awr ar ôl iddynt ddod i law. Am ragor o wybodaeth a manylion cofrestru, a fyddech cystal â throi at ein gwefan.

Os ydych yn anfon dogfennau papur yn y post, gyda negesydd, gyda’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu Bost Cyfreithiol (yn yr Alban), ac os hoffech gael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu nodyn cydnabod os byddwch yn cynnwys copi o’ch llythyr esboniadol gydag amlen â chyfeiriad a stamp arni er mwyn ei ddychwelyd.  Byddwn yn nodi cod bar ar eich copi chi o’ch llythyr, gan nodi’r dyddiad y’i cyflwynwyd, a’i ddychwelyd atoch yn yr amlen a ddarparwyd.

Sylwer: nid yw nodyn sy’n cydnabod bod dogfen wedi cyrraedd, yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Sylwer: nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfennau statudol trwy gyfrwng neges ffacs, PDF neu e-bost.

2. A fydd yn rhaid i mi dalu er mwyn ffeilio dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau?

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi am nifer o’r dogfennau y bydd yn rhaid i chi eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau, ond bydd angen talu ffi ar gyfer rhai ac ni fyddwn yn eu derbyn er mwyn eu cofrestru heb y ffi hon.  Am fanylion llawn, dylech droi at ein gwefan.

3. A oes modd i mi ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill?

Fel arfer, mae’r gyfraith yn mynnu eich bod yn ffeilio dogfennau a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau yn Saesneg.  Ceir eithriadau i’r rheol hon, fel y nodir isod.  Gall cwmnïau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os anfonir cyfieithiad Saesneg ardystiedig o’r ddogfen hefyd:     

  • Penderfyniadau a chytundebau sy’n effeithio ar gyfansoddiad cwmni;
  • Ar gyfer cwmnïau a gynhwysir yng nghyfrifon grwpiau AEE (Ardal Economaidd Ewropeaidd), cyfrifon y grŵp ac adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad;
  • Ar gyfer cwmnïau a gynhwysir yng nghyfrifon grwpiau mwy nad ydynt yn dod o’r AEE, cyfrifon y grŵp a, lle bo’n briodol, yr adroddiad blynyddol cyfun;
  • Offerynnau arwystlon (neu gopïau o offerynnau arwystlon);
  • Adroddiad prisio y mae’n ofynnol ei gyflwyno i’r cofrestrydd o dan adran 94(2)(d) o’r Ddeddf;
  • Erthyglau cymdeithasiad;
  • Memorandwm cymdeithasiad; a
  • Gorchmynion Llys.

Yn ogystal, gall cwmnïau ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol unrhyw ddogfen sy’n rhwym i ofynion datgelu’r Gyfarwyddeb Gyntaf ar y Gyfraith Gwmnïau. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • Dogfennau cyfansoddiadol megis y memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad;
  • Penodiadau cyfarwyddwyr, newidiadau yn y manylion neu derfyniadau; Cyfrifon, adroddiadau a ffurflenni blynyddol; Hysbysu unrhyw newid yn swyddfa gofrestredig cwmni; Dogfennau dirwyn i ben; Dogfennau cyfalaf cyfrannau (cwmnïau cyhoeddus yn unig); Dogfennau ynglŷn ag uno a rhannu cwmnïau (cwmnïau cyhoeddus yn unig); a Dogfennau mewn perthynas â chwmnïau tramor

Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol ymwneud â dogfen a gyflwynwyd i Dŷ’r Cwmnïau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2007.  Dim ond yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y bydd modd ffeilio cyfieithiadau gwirfoddol, ac mae’n rhaid cyflwyno Ffurflen VT01 gyda nhw, a fydd yn cysylltu’r cyfieithiad gyda’r ddogfen wreiddiol.

Mae yna eithriadau gwahanol ar gyfer cwmnïau Cymreig (sef y rhai sy’n cydymffurfio ag adran 88 o’r Ddeddf) sydd â hawl i lunio a chyflwyno dogfennau penodol yn Gymraeg heb fod angen cyfieithiad Saesneg ardystiedig i gyd-fynd â nhw.  Mae rhestr lawn o’r dogfennau sydd wedi’u heithrio i’w gweld yn ein canllawiau o dan y teitl ‘Cynnal busnes yn Gymraeg (GP05)’ sydd ar gael ar ein gwefan.

4. Ble mae modd i mi gael ffurflenni a chanllawiau?

Mae hwn yn un mewn cyfres o gyhoeddiadau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n cynnig canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau.

Mae modd cael pob ffurflen statudol papur a chanllaw, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf o’u cael yw trwy droi at ein gwefan neu ffonio 0303 1234 500.

Yn ogystal, gallwch gael ffurflenni papur gan ddogfenwyr cyfraith cwmnïau, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau.

Brig
Ein polisi ar gwcis