Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Dileu o'r Gofrestr, Diddymu ac Adfer - GP4

Awst 2013 - Fersiwn 3.1

Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006

Fersiwn PDF y tudalen hwn (220KB)

A yw'r canllaw hwn ar eich cyfer chi?

Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:

  • os ydych yn ystyried neu'n dymuno diddymu cwmni
  • neu os ydych yn dymuno adfer cwmni i'r gofrestr

Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:

  • os ydych yn gyfarwyddwr neu'n ysgrifennydd cwmni
  • neu os ydych yn gweithredu fel cynghorydd i gwmni

Cynnwys

Pennod 1 - Dileu cwmnïau o'r gofrestr a'u diddymu'n wirfoddol 
Pennod 2 - Cwmnïau nad ydyn nhw'n gwneud busnes neu'n gweithredu mwyach 
Pennod 3 - Adfer cwmni drwy Orchymyn Llys
Pennod 4 - Adfer cwmni yn weinyddol
Pennod 5 - Ansawdd dogfennau
Pennod 6 - Gwybodaeth bellach

Mae'r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau mynych ac yn cynnig gwybodaeth ar ffeilio'r mathau mwyaf cyffredin o wybodaeth yn y maes hwn.  Nid ydym wedi drafftio'r canllaw gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg.  Mae'n bosibl y bydd angen gofyn am gyngor proffesiynol arbenigol o dan yr amgylchiadau hynny.

Cyflwyniad

Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut y gallwch ddileu enw'ch cwmni o'r gofrestr o gwmnïau a'i adfer iddi. Fe welwch chi'r gyfraith berthnasol yn Rhan 31 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Mae'r canllaw hwn yn esbonio:

  • Dileu cwmni o'r gofrestr a'r ddiddymu'n wirfoddol  - sut y gallwch ofyn i'r cofrestrydd ddileu enw'ch cwmni o'r gofrestr (Pennod 1)
  • Cwmnïau nad ydyn nhw'n gwneud busnes neu'n gweithredu mwyach - sut y gall y cofrestrydd ddileu enw'ch cwmni o'r gofrestr os nad yw'n gwneud busnes neu'n gweithredu mwyach (Pennod 2)
  • Adfer Cwmni i'r Gofrestr drwy Orchymyn Llys - sut y gall y llys adfer y cwmni i'r gofrestr (Pennod 3)
  • Adfer Cwmni yn Weinyddol - sut y gall cyn-gyfarwyddwr neu aelod wneud cais i'r cofrestrydd am adfer y cwmni (Pennod 4)
  • Ansawdd dogfennau - (Pennod 5)
  • Gwybodaeth bellach - (Pennod 6)

Os bydd gennych chi amheuon ynglŷn â'ch cyfrifoldebau ar ôl darllen y canllaw hwn, dylech ystyried gofyn am gyngor proffesiynol gan gyfreithiwr neu gyfrifydd.

Pennod 1 - Dileu cwmnïau o'r gofrestr a'u diddymu'n wirfoddol

1. Ym mha amgylchiadau caiff cwmni wneud cais am ddileu enw cwmni o'r gofrestr?

Caiff cwmni  wneud cais i'r cofrestrydd am gael ei ddileu o'r gofrestr a'i ddiddymu. Mae'r cwmni'n cael gwneud hyn os nad oes angen y cwmni mwyach. Er enghraifft, efallai y bydd y cyfarwyddwyr am ymddeol ac nad oes neb ar gael i gymryd eu lle; neu os yw'n is-gwmni nad oes angen ei enw mwyach; neu os cafodd ei sefydlu i fanteisio ar syniad nad oedd yn ymarferol yn y pen draw Mae rhai cwmnïau sy'n segur neu'n ddi-fasnach yn dewis gwneud cais i gael eu dileu o'r Gofrestr. Os ydych chi wedi penderfynu nad ydych eisiau cadw'ch cwmni mwyach ac eisiau iddo gael ei ddileu o'r gofrestr, fel arfer ni fydd y cofrestrydd yn mynd ar ôl unrhyw gosbau am ffeilio'n hwyr sy'n ddyledus oni fyddwch yn adfer y cwmni i'r gofrestr yn ddiweddarach.

Dydy'r weithdrefn hon ddim yn ddewis arall yn lle achos ansolfedd ffurfiol lle bo'n briodol. Hyd yn oed os caiff y cwmni ei ddileu o'r gofrestr a'i ddiddymu, fe allai credydwyr ac eraill wneud cais am i'r cwmni gael ei adfer i'r gofrestr. Mae rhagor o wybodaeth am adfer cwmnïau ar gael ym mhennod 3.  Mae rhestr o'r personau sy'n cael gwneud cais i'r llys am adfer cwmni i'w gweld yng nghwestiwn 1 o bennod 3.

2. Pryd na cha i wneud cais am ddileu fy nghwmni o'r gofrestr?

Dim ond gan gwmni y caiff wneud cais am ddileu enw o'r Gofrestr yn wirfoddol, a rhaid i'r cyfarwyddwyr neu fwyafrif ohonyn ei wneud ar ran y cwmni

Mae adrannau 1004 a 1005 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn nodi o dan ba amgylchiadau na chaiff y cwmni wneud cais am gael ei ddileu o'r gofrestr. Er enghraifft, chaiff y cwmni ddim gwneud cais am gael ei ddileu o'r gofrestr yn wirfoddol os yw wedi gwneud unrhyw un o'r canlynol yn ystod y tri mis diwethaf:

  • wedi masnachu neu wedi gwneud busnes mewn modd arall
  • wedi newid ei enw
  • wedi cael gwared ar eiddo neu hawliau a oedd ganddo yn union cyn rhoi'r gorau i fasnachu neu gynnal busnes mewn modd arall i'w gwerthu er mwyn elwa yng nghwrs arferol y masnachu neu'r gwneud busnes mewn modd arall. Er enghraifft, fyddai cwmni a oedd mewn busnes er mwyn gwerthu afalau ddim yn cael parhau i werthu afalau yn ystod y cyfnod hwnnw o dri mis, ond fe allai werthu'r lori yr oedd yn arfer ei defnyddio i gludo'r afalau neu'r warws lle caent eu storio
  • wedi cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch arall ac eithrio gweithgarwch yr oedd ei angen neu a oedd yn gyfleus er mwyn:

Chaiff cwmni ddim gwneud cais am ddileu ei enw o'r gofrestr os yw'n destun y canlynol, neu'n destun arfaethedig y canlynol:

  • unrhyw achos ansolfedd (megis ymddatod, gan gynnwys lle mae deiseb wedi'i chyflwyno ond heb gael ei thrin eto)
  • gynllun adran 895 (sef cyfaddawd neu drefniant rhwng cwmni a'i gredydwyr neu ei aelodau)

Er hynny, mae cwmni yn cael gwneud cais am gael ei ddileu o'r gofrestr os yw wedi talu dyledion masnachu neu ddyledion busnes yn y tri mis blaenorol.

Cewch weld rhagor o amgylchiadau lle na chewch wneud cais yn adrannau 1004 a 1005 o Ddeddf Cwmnïau 2006.  Sylwch y byddwch yn cyflawni tramgwydd os torrwch y cyfyngiadau hyn (gweler cwestiwn 12).

3. Beth dylwn i ei wneud cyn gwneud cais?

Mae yna ddulliau diogelu i'r rhai y mae diddymu cwmni'n debyg o effeithio arnyn nhw. Os oes gan eich cwmni gredydwyr, aelodau etc, dylech rybuddio pawb sydd wedi'i restru yng nghwestiwn 5 cyn ichi wneud cais, a hynny am fod modd i unrhyw un ohonyn nhw wrthwynebu dileu'r cwmni o'r gofrestr. Dylech dacluso unrhyw fanion, megis cau cyfrif banc y cwmni, trosglwyddo enwau parth - cyn ichi wneud eich cais.

Gallwch  roi gwybod i unrhyw sefydliad neu barti arall a all fod â buddiant ym materion y cwmni, neu fel arall fe allen nhw wrthwynebu'r cais yn nes ymlaen. Mae'r enghreifftiau'n cynnwys Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, awdurdodau lleol, yn enwedig os yw'r cwmni o dan rwymedigaeth mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio neu faterion iechyd a diogelwch, cynghorau hyfforddiant a menter ac asiantaethau'r llywodraeth.

O ddyddiad y diddymu ymlaen, bydd unrhyw asedau a oedd gan gwmni a gafodd ei ddiddymu yn perthyn i'r Goron. Caiff cyfrif banc y cwmni ei rewi a bydd unrhyw gredyd sy'n weddill yn y cyfrif yn cael ei drosglwyddo i'r Goron. Gweler pennod 2 cwestiwn 4.

4. Sut mae gwneud cais?

Rhaid ichi lenwi Ffurflen DS01c ‘Cais cwmni am gael ei ddileu o'r Gofrestr'.

Mae rhagor o wybodaeth am lawrlwytho ffurflenni ar gael ym mhennod 6.

Rhaid i'r ffurflen gael ei llofnodi a'i dyddio gan y canlynol:

  • yr unig gyfarwyddwr, os un cyfarwyddwr sydd
  • gan y ddau gyfarwyddwr, os dau sydd
  • gan y cyfan, neu'r mwyafrif o'r cyfarwyddwr, os oes mwy na dau

Bydd yn helpu Tŷ'r Cwmnïau os gallwch roi enw, cyfeiriad a rhif ffôn y sawl y dylen ni gysylltu â nhw os bydd gennyn ni unrhyw ymholiadau am y cais. Sylwch y bydd yr wybodaeth hon i'w gweld ar gofnod cyhoeddus y cwmni ar ôl inni gofrestru'r ffurflen. Yn dibynnu ble mae'r cwmni wedi'i gofrestru, ar ôl ei llenwi dylech anfon y ffurflen, ynghyd â'r ffi o £10, i Dŷ'r Cwmnïau, Caerdydd, Caeredin neu Belfast. Sylwer: Ni ddylai sieciau fod yn daladwy o gyfrif y cwmni sy'n gwneud cais am ddileu o'r gofrestr. Mae rhagor o wybodaeth am y ffi ar gael yng nghwestiwn 13.

5. I bwy mae'n rhaid imi roi gwybod?

O fewn saith diwrnod ar ôl anfon y cais at y cofrestrydd, rhaid i'r cyfarwyddwyr sy'n gwneud y cais anfon copi at y canlynol: 

  • aelodau, sef y cyfranddeiliaid fel arfer
  • credydwyr, gan gynnwys yr holl gredydwyr digwyddiadol (presennol) a'r holl ddarpar gredydwyr (rhai tebygol) megis banciau, cyflenwyr, cyn-weithwyr os oes ar y cwmni arian iddyn nhw, landlordiaid, tenantiaid (er enghraifft, os oes bond i'w ad-dalu), gwarantwyr a hawlwyr anaf personol. Hefyd, rhaid ichi roi gwybod i swyddfeydd priodol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), a'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os oes rhwymedigaethau heb eu bodloni, rhwymedigaethau digwyddiadol neu ddarpar rwymedigaethau
  • gweithwyr
  • rheolwyr neu ymddiriedolwyr unrhyw gronfa pensiwn gweithwyr
  • unrhyw gyfarwyddwyr sydd heb lofnodi'r ffurflen

Rhaid i gyfarwyddwyr y cwmni anfon copi o'r ffurflen hefyd at unrhyw berson sy'n dod yn cyfarwyddwr, aelod, yn gredydwr, neu'n weithiwr y cwmni, neu'n rheolwr neu'n ymddiriedolwr ar unrhyw gronfa pensiwn gweithwyr y cwmni, ar ôl iddyn nhw wneud y cais. Rhaid i hyn gael ei wneud  o fewn 7 diwrnod ar ôl i'r person ddod yn un o'r rhain.  Mae'n rhaid anfon copi o'r cais hefyd at unrhyw berson sy'n dod yn un o'r uchod unrhyw bryd ar ôl y diwrnod y gwnaeth y cwmni y cais am ddileu ei enw o'r gofrestr yn wirfoddol. Mae'r rhwymedigaeth hon yn parhau nes i'r cwmni gael ei ddileu neu nes i'r cais gael ei dynnu'n ôl. Mae rhagor o wybodaeth am y tramgwydd o beidio â chylchredeg yr hysbysiad i'r amrywiol bartïon ar gael yng nghwestiwn 12.

6. Sut dylwn i roi gwybod i'r amrywiol bartïon?

Cewch bostio copi o Ffurflen DS01c, ‘Cais  cwmni am gael ei ddileu o'r gofrestr' neu adael copi at:

  • y cyfeiriad hysbys diwethaf (yn achos unigolyn)
  • y brif swyddfa / y swyddfa gofrestredig (yn achos cwmni neu gorff arall)

Caniateir hefyd ichi roi gwybod am y cais i gredydwr i'r cwmni drwy adael copi ohono yn, neu bostio copi ohono at y lle busnes y mae'r cwmni wedi delio ag ef mewn perthynas â'r dyledion cyfredol, er enghraifft y gangen lle'r archebwyd nwyddau gennych neu a roddodd anfoneb ichi. Er hynny, os oes mwy nag un lle busnes o'r fath, dylech anfon copi o'r cais i bob un o'r lleoedd hyn.  Mae'n ddoeth cadw prawf eich bod wedi'i anfon neu wedi'i bostio.

7. Beth sy'n digwydd ar ôl i Dŷ'r Cwmnïau gael y cais?

Byddwn yn edrych ar y ffurflen ac, os yw'n dderbyniol, byddwn yn cofrestru'r wybodaeth, a'i gosod ar gofnod cyhoeddus y cwmni..Anfonwn nodyn cydnabod i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen, gan roi gwybod i'r cwmni hefyd yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, er mwyn iddo wrthwynebu os yw'r cais yn un ffug.

Bydd y cofrestrydd yn cyhoeddi hysbysiad ynghylch y bwriad i ddileu enw'r cwmni o'r gofrestr yn y Gazette er mwyn caniatáu i bartïon sydd â buddiant ynddo wrthwynebu.

Caiff copi o'r hysbysiad hwn ei osod ar gofnod cyhoeddus y cwmni. Os nad oes rheswm i ohirio, bydd y cofrestrydd yn dileu enw'r cwmni o'r gofrestr heb fod yn llai na thri mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad. Caiff y cwmni ei ddiddymu pan gaiff hysbysiad arall ei gyhoeddi i ddatgan hynny yn y Gazette perthnasol.

8. Beth yw'r Gazette?

Y Gazette yw'r cofnod papur newydd swyddogol yn y Deyrnas Unedig. Mae tri ohonyn nhw: y London Gazette, ar gyfer cwmnïau sydd wedi'u corffori yn Lloegr a Chymru; yr Edinburgh Gazette, ar gyfer cwmnïau sydd wedi'u corffori yn yr Alban; a'r Belfast Gazette, ar gyfer cwmnïau sydd wedi'u corffori yng Ngogledd Iwerddon.

Pan fydd y cofrestrydd yn cyhoeddi hysbysiad i ddileu enw cwmni o'r gofrestr neu i'w adfer, bydd yr hysbysiad yn ymddangos yn y Gazette ar gyfer y rhan o'r Deyrnas Unedig y cafodd y cwmni ei ffurfio ynddi. Mae'r tri Gazette yn cael eu cyhoeddi bob wythnos ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Gazette.

9. Beth os na fydd y cwmni'n gymwys mwyach neu os byddaf yn newid fy meddwl ac yn dymuno tynnu'r cais yn ôl?

Rhaid i'r cyfarwyddwyr dynnu'r cais yn ôl trwy anfon Ffurflen DS02c, ‘Tynnu cais cwmni am ddileu yn ôl' os byddan nhw'n newid eu meddwl neu os na fydd y cwmni'n gymwys mwyach i gael ei ddileu o'r gofrestr. Gall hyn ddigwydd am fod y cwmni ar ôl gwneud cais i gael ei ddileu o'r gofrestr:

  • yn masnachu neu'n gwneud busnes mewn modd arall
  • yn newid ei enw
  • am ryw werth, yn cael gwared ar unrhyw eiddo neu hawliau heblaw'r rhai yr oedd arno eu hangen er mwyn gwneud y cais neu fwrw ymlaen â'r cais (er enghraifft, caiff cwmni barhau â'r cais os bydd yn cael gwared ar ffôn yr oedd yn ei gadw i ddelio ag ymholiadau ynglŷn â'i gais)
  • yn dod yn destun achos ansolfedd ffurfiol neu'n gwneud cais o dan adran 900 (cyfaddawd neu drefniant rhwng cwmni a'i gredydwyr)
  • yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch arall, onid bai bod y gweithgarwch hwnnw'n angenrheidiol er mwyn:
    • gwneud cais am gael ei ddileu o'r gofrestr, neu fwrw ymlaen â'r cais hwnnw
    • rhoi terfyn ar y materion hynny sydd heb eu bodloni am ei bod yn angenrheidiol neu'n gyfleus gwneud cais neu fwrw ymlaen â chais (megis talu costau rhedeg swyddfa wrth gwblhau ei faterion ac yna gwerthu'r swyddfa'n derfynol)
  • cydymffurfio â gofyniad statudol.

Caiff unrhyw gyfarwyddwr y cwmni lenwi a llofnodi'r Ffurflen DS02c, ‘Tynnu'n  ôl gais  am gael ei ddileu o'r Gofrestr' a'i hanfon at y cofrestrydd.

Mae Adran 1009 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn cynnwys yr amgylchiadau llawn sy'n golygu bod rhaid ichi dynnu cais am ddileu yn ôl ac mae cwestiwn 12 yn cynnwys gwybodaeth am y tramgwyddau am fethu â thynnu cais yn ôl.

10. A gaiff unrhyw un wrthwynebu diddymu cwmni?

Caiff unrhyw barti sydd â buddiant wrthwynebu i'r cofrestrydd.

11. Sut cân nhw wrthwynebu a pham?

Rhaid i wrthwynebiadau neu gwynion gael eu gwneud mewn ysgrifen a chael eu hanfon at y cofrestrydd gydag unrhyw dystiolaeth ategol, megis copïau o anfonebau a allai brofi bod y cwmni'n dal i fasnachu. Gallai'r rhesymau gynnwys:

  • bod y cwmni wedi torri unrhyw un o amodau ei gais, er enghraifft, ei fod wedi masnachu, wedi newid ei enw neu wedi mynd yn destun achos ansolfedd yn ystod y cyfnod o dri mis cyn y cais, neu wedyn
  • bod y cyfarwyddwyr heb roi gwybod i bartïon sydd â buddiant
  • bod unrhyw un o'r datganiadau ar y ffurflen yn ffug
  • bod rhyw fath o gamau'n cael eu cymryd, neu yn yr arfaeth, i adennill unrhyw arian sy'n ddyledus (megis deiseb dirwyn i ben neu achos mewn llys hawliadau bychain)
  • bod achos cyfreithiol arall ar y gweill yn erbyn y cwmni
  • bod y cyfarwyddwyr wedi masnachu ar gam neu wedi cyflawni twyll treth neu ryw dramgwydd arall.

Mae rhestr lawn o'r amodau i'w gweld yn adrannau 1004 a 1005 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

12. Tramgwyddo a chosbi

Mae'n dramgwydd:

  • gwneud cais pan fo'r cwmni'n anghymwys i'w ddileu (gweler cwestiwn 2)
  • rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn cais neu i ategu cais
  • peidio ag anfon copïau o'r cais at bob parti perthnasol o fewn saith diwrnod
  • peidio â thynnu'r cais yn ôl os daw'r cwmni'n anghymwys

Bydd y tramgwyddau'n agored i ddirwy o hyd at £5,000 ar gollfarniad diannod (gerbron llys ynadon neu Lys Siryf) neu  ddirwy ddigyfyngiad ar dditiad (gerbron rheithgor). Os bydd y cyfarwyddwyr yn torri'r gofynion bod rhaid rhoi copi o'r cais i'r partïon perthnasol, gan wneud hynny gan fwriadu celu'r cais, fe allen nhw fod yn agored hefyd  nid yn unig i ddirwy ond hefyd i garchar am hyd at saith mlynedd.

Gall unrhyw un sy'n cael ei gollfarnu am y tramgwyddau hyn gael ei anghymhwyso rhag bod yn gyfarwyddwr am hyd at 15 mlynedd hefyd.

13. Oes angen imi anfon ffi gyda'm Ffurflen Gais DS01c?

Oes.  Mae ffi o £10 yn daladwy i dalu cost darparu'r gwasanaeth. Fyddwn ni ddim yn ad-dalu'r ffi os byddwch yn tynnu'r cais yn ôl wedi inni ei gofrestru. Bydd ffi arall yn daladwy am gais newydd. Gwnewch unrhyw sieciau'n daladwy i ‘Tŷ'r Cwmnïau', ac ysgrifennu rhif y cwmni ar y cefn. Ni ddylai sieciau fod yn daladwy o gyfrif y cwmni sy'n gwneud cais am ddileu o'r gofrestr.

Pennod 2 - Cwmnïau nad ydyn nhw'n gwneud busnes neu'n gweithredu mwyach

1. A gaiff y Cofrestrydd ddileu enw cwmni o'r gofrestr ar ei liwt ei hunan?

Caiff, os nad yw'n gwneud busnes nac yn gweithredu. Er enghraifft, fe allai'r cofrestrydd fod o'r farn hon:

  • os nad yw wedi cael dogfennau oddi wrth y cwmni a ddylai fod wedi cael eu hanfon ato
  • os bydd eitemau a anfonodd y cofrestrydd drwy'r post i swyddfa gofrestredig y cwmni yn cael eu dychwelyd heb eu dosbarthu
  • os nad oes gan y cwmni gyfarwyddwyr

Cyn dileu enw cwmni o'r gofrestr, rhaid i'r cofrestrydd ysgrifennu dau lythyr ffurfiol ac anfon hysbysiad i swyddfa gofrestredig y cwmni i ofyn a yw'r cwmni yn dal i wneud busnes neu i weithredu. Os bydd yn fodlon nad yw, bydd yn cyhoeddi hysbysiad yn y Gazette perthnasol i ddatgan ei fod yn bwriadu dileu enw'r cwmni o'r gofrestr oni ddangosir rheswm iddo dros beidio.

Caiff copi o'r hysbysiad ei osod ar gofnod cyhoeddus y cwmni. Os na fydd y cofrestrydd yn gweld rheswm dros wneud fel arall, bydd yn dileu enw'r cwmni o'r gofrestr heb fod yn llai na thri mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad. Caiff y cwmni ei ddiddymu pan gaiff hysbysiad arall ei gyhoeddi i ddatgan hynny yn y Gazette perthnasol. Mae rhagor o wybodaeth am y Gazette ar gael ym mhennod 1, cwestiwn 8.

2. Sut mae osgoi'r camau hyn?

Os ydych chi am i'ch cwmni aros ar y gofrestr, mae'n rhaid ichi ymateb yn brydlon i unrhyw lythyr ymholi ffurfiol oddi wrth y cofrestrydd a chyflwyno unrhyw ddogfennau sydd heb eu cyflwyno o'r blaen. Gall methu â chyflwyno'r dogfennau angenrheidiol arwain hefyd at erlyn y cyfarwyddwyr

3. Ga i wrthwynebu?

Bydd y cofrestrydd yn cymryd i ystyriaeth sylwadau'r cwmni ac unrhyw bartïon eraill sydd â buddiant, er enghraifft credydwyr. Os bydd rheswm da dros beidio â dileu enw'r cwmni o'r gofrestr, caiff y cofrestrydd ohirio'r achos nes i'r gwrthwynebiad gael ei ddatrys.

4. Beth sy'n digwydd i asedau cwmni sy'n cael ei ddiddymu?

O ddyddiad y diddymu ymlaen, bydd unrhyw asedau a oedd gan gwmni a gafodd ei ddiddymu yn “bona vacantia”. Ystyr lythrennol yr ymadrodd hwn yw “nwyddau gwag” a dyma'r enw technegol ar eiddo sy'n cael ei drosglwyddo i'r Goron am nad oes perchennog iddo yn y gyfraith. Caiff cyfrif banc y cwmni ei rewi a bydd unrhyw gredyd sy'n weddill yn y cyfrif yn cael ei drosglwyddo i'r Goron.

Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau am eiddo bona vacantia at y canlynol, fel y bo'n briodol:

Os yw'r cwmni wedi'i gorffori yng Ngogledd Iwerddon The Crown Solicitor
Royal Courts of Justice
Chichester Street
BELFAST
BT1 3JY
Os yw'r cwmni wedi'i gorffori yn yr Alban

The Queen's and Lord Treasurer's Remembrancer (Q & LTR)
Crown Office
Unit 5
14a South St Andrew Street
Edinburgh
EH2 2AZ
www.qltr.gov.uk

Os yw swyddfa gofrestredig y cwmni yn Sir Gaerhirfryn The Solicitor to the Duchy of Lancaster
66 Lincoln's Inn Fields
London WC2A 3LH
Os yw swyddfa gofrestredig y cwmni yng Nghernyw neu Ynysoedd Scilly The Solicitor to the Duke of Cornwall
66 Lincoln's Inn Fields
London WC2A 3LH
Ym mhob achos arall: The Treasury Solicitor (BV)
One Kemble Street
London
WC2B 4TS
www.bonavacantia.gov.uk

Pennod 3 - Adfer cwmni drwy Orchymyn Llys

Dim ond os caiff orchymyn llys y mae'r cofrestrydd yn cael adfer cwmni, oni bai bod cwmni i gael ei adfer yn weinyddol i'r gofrestr (gweler pennod 4).  Cynghorir unrhyw un sy'n bwriadu gwneud cais i'r llys am adfer cwmni sicrhau cyngor cyfreithiol annibynnol.

Bernir bod unrhyw gwmni sy'n cael ei adfer yn y gofrestr wedi parhau mewn bodolaeth fel pe bai heb gael ei ddileu o'r gofrestr a'i ddiddymu.

1. Pwy gaiff wneud cais i'r Llys am adfer cwmni i'r gofrestr?

Yn gyffredinol, caiff unrhyw un o'r canlynol wneud cais am adfer cwmni:

  • unrhyw gyn-gyfarwyddwr, aelod, credydwr neu ddatodwr
  • unrhyw berson yr oedd ganddo berthynas â'r cwmni mewn contract neu yr oedd ganddo hawliad cyfreithiol posibl yn erbyn y cwmni
  • unrhyw berson yr oedd ganddo fuddiant mewn tir neu eiddo yr oedd gan y cwmni fuddiant, hawl neu rwymedigaeth ynddo hefyd
  • unrhyw reolwr neu ymddiriedolwr ar gronfa pensiwn cyn-weithwyr y cwmni
  • unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Llys fod ganddo fuddiant yny ymater

2. Faint o amser sydd gen i i wneud cais i'r Llys?

I gwmnïau a ddiddymwyd o dan Adran 1000 neu 1003 o Ddeddf Cwmnïau 2006 ac adrannau 652 neu 652a o Ddeddf 1985.

Ar y cyfan, os cafodd y cwmni ei diddymu ar 1 Hydref 2009 neu'n ddiweddarach, gellir gwneud cais am orchymyn llys am hyd at chwe blynedd o'r dyddiad diddymu.

Os cafodd y cwmni ei ddiddymu ar 30 Medi 2009 neu cyn hynny, mae yna drefniadau trosiannol i'w adfer i'r gofrestr er mwyn cymryd Deddf Cwmnïau newydd 2006 i ystyriaeth. Ffoniwch y ganolfan gysylltu ar 0303 1234 500 i ofyn am gyngor. 

I gwmnïau a ddiddymwyd o dan Adran 201 a 205 a Pharagraff 84 o Atodlen B1 o'r Ddeddf Ansolfedd ac adran 652 o Ddeddf 1985 neu Adran 1001 o Ddeddf 2006.

Mae hi'n rhy hwyr i gwmnïau a ddiddymwyd ar 30 Medi 2007 neu cyn hynny yn dilyn unrhyw fath o broses ymddatod i adfer y cwmni i'r gofrestr.

Mae gan gwmnïau a ddiddymwyd ar 1 Hydref 2007 neu'n ddiweddarach, yn dilyn unrhyw fath o broses ymddatod, chwe blynedd o'r dyddiad diddymu.

DS.  Nid oes unrhyw gyfyngiad ar amser i hawlio am anafiadau personol o dan unrhyw un o'r amgylchiadau uchod.

3. Ble mae gwneud cais am Orchymyn Llys i adfer cwmni?

Adfer cwmni yn Lloegr a Chymru

Os ydych yn adfer cwmni a oedd wedi'i gofrestru yn Lloegr neu Gymru, rhaid ichi wneud cais i'r Llys drwy lenwi ffurflen hawlio Rhan 8 (dyma'r ffurflen safonol sy'n rhoi cychwyn i achos) sydd ar gael yng nghoeddiad Cyfreithiwr y Trysorlys: 'Guide to Company Restoration'.. Fel arfer, bydd Cofrestrydd y Llys Cwmnïau yn Llundain yn gwrando achosion adfer yn ei siambrau unwaith yr wythnos a hynny ar brynhawn Gwener.

Mae achosion yn cael eu gwrando hefyd yn y Cofrestrfeydd Dosbarth. Fel arall, cewch wneud cais i Lys Sirol sydd â'r awdurdod i ddirwyn y cwmni i ben. I gael canllawiau manylach ynghylch adfer cwmni, gweler cyhoeddiad Cyfreithiwr y Trysorlys: 'Guide to Company Restoration' sydd ar gael ar wefan Cyfreithiwr y Trysorlys neu ffoniwch 020 7210 3000.

Rhaid ichi roi o leiaf 10 diwrnod o hysbysiad ynghylch y gwrandawiad i'r cofrestrydd i ganiatáu amser iddo ymdrin â'r mater a rhoi cyfarwyddiadau i'r cyfreithiwr a fydd yn ei gynrychioli.

Adfer cwmni yn yr Alban
Os ydych yn adfer cwmni a oedd wedi'i gofrestru yn yr Alban, rhaid ichi wneud cais i'r Llys Sesiwn. Fel arall, yn achos cwmni nad yw ei gyfalaf taledig yn fwy na £120,000, cewch wneud cais i'r Llys Siryf yn y siryfyddiaeth y mae swyddfa gofrestredig y cwmni ynddi.

Cewch wybodaeth am Lysoedd Siryf a'u lleoliadau ar wefan Llysoedd yr Alban. Mae'n rhaid ichi gyflwyno'r ddeiseb i adfer y cwmni i'r cofrestrydd cwmnïau yn yr Alban ac i unrhyw gyrff eraill yn unol â chyfarwyddyd y llys. Does dim angen datganiad tyst ac mae'r cyfnod ar gyfer ymateb yn cael ei bennu gan y Llys, a dim ond wrth i'r ddeiseb gael ei chyflwyno i'r cofrestrydd y bydd y cyfnod hwnnw'n dechrau.

Adfer cwmni yng Ngogledd Iwerddon

Os ydych yn adfer cwmni a oedd wedi'i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon, dylech gyflwyno'r wŷs gychwynnol i'r ddau canlynol:

The Registrar of Companies
Companies House
Second Floor
The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast
Northern Ireland BT2 8BG
neu
DX 481 N.R. Belfast 1
Royal Courts of Justice
Chichester Street
Belfast
BT1 3JY

Bydd ar y cofrestrydd angen copi hefyd o'r datganiad tyst i ategu'r cais.

4. Sut mae cyflwyno dogfennau?

Dylech gyflwyno'r ffurflen gais a'r dystiolaeth ategol (gweler cwestiwn 6) i'r cofrestrydd cwmnïau priodol a'r cyfreithiwr sy'n ymdrin ag unrhyw asedau bona vacantia, sef:

Yn achos cwmnïau a gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru

Cyfreithiwr y Trysorlys, oni bai bod swyddfa gofrestredig y cwmni yn Sir Gaerhirfryn neu Gernyw, pryd y dylai'r ffurflen gael ei chyflwyno i Gyfreithiwr Dugaeth Caerhirfryn neu Gernyw

Yn achos cwmnïau a gofrestrwyd yn yr Alban
Yr Arglwyddi Adfocadiaid

Yn achos cwmnïau a gofrestrwyd yng Ngogledd Iwerddon
Cyfreithiwr y Goron yng Ngogledd Iwerddon

Dyma fanylion perthnasol y cofrestryddion:

Cofrestrydd Cwmnïau  Lloegr a Chymru Registrar of Companies
for Scotland
Registrar of Companies for Northern Ireland
Cymorth Cwsmeriaid Cofrestru
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ

Ffacs: 029 2038 0006
DX: 33050 Cardiff 1
Companies House
Fourth Floor
Edinburgh Quay 2
139 Fountainbridge
Edinburgh
EH3 9FF

DX: ED235 Edinburgh 1
LP - 4 Edinburgh 2

The Registrar of Companies Companies House
Second Floor
The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast
Northern Ireland BT2 8BG
neu
DX 481 N.R. Belfast 1

Gall dogfennau gael eu hanfon drwy'r post ac rydyn ni'n argymell eich bod yn defnyddio dosbarthiad wedi'i gofnodi i fod yn fwy diogel. Byddwn hefyd yn derbyn dogfennau a gyflwynir â llaw yn ystod oriau swyddfa arferol yn Nhŷ'r Cwmnïau, Caerdydd (ar unrhyw adeg); Tŷ'r Cwmnïau, Abbey Orchard Street, Llundain; Tŷ'r Cwmnïau, Belfast; a Thŷ'r Cwmnïau, Caeredin.

5. Pa dystiolaeth y mae'n rhaid imi ei rhoi?

Heblaw yn yr Alban, bydd ar y Llys angen y canlynol:

  • tystiolaeth bod y ddogfen gychwynnol wedi'i chyflwyno
  • cadarnhad ysgrifenedig nad oes gan y cyfreithiwr sy'n delio â'r asedau bona vacantia wrthwynebiad i adfer y cwmni (dylech atodi copi o lythyr y cyfreithiwr i'r affidafid neu'r datganiad tyst - nid yw hwn yn gymwys yn yr Alban).
  • pa bryd y cafodd y cwmni ei gorffori, a natur ei amcanion (dylech atodi copi o'r dystysgrif gorffori ac o'r memorandwm cymdeithasiad ac, os yw'n briodol, o'r erthyglau cymdeithasiad)
  • ei aelodaeth a'i swyddogion
  • ei weithgarwch masnachu ac, os yw'n gymwys, pryd y rhoddodd i gorau i fasnachu
  • esboniad o unrhyw fethiant i gyflwyno cyfrifon, ffurflenni blynyddol neu hysbysiadau i'r cofrestrydd
  • manylion y penderfyniad i ddileu'r cwmni o'r gofrestr a'i ddiddymu
  • sylwadau ar solfedd y cwmni
  • unrhyw wybodaeth arall sy'n egluro'r rheswm dros y cais

Yn Lloegr a Chymru ac yng Ngogledd Iwerddon rhaid darparu'r wybodaeth uchod mewn affidafid neu ddatganiad tyst. Yn yr Alban, gallwch ddarparu'r wybodaeth hon yn y ddeiseb adfer.

Mae rhagor o wybodaeth am y gofynion Lloegr a Chymru ar gael yng nghanllaw Cyfreithiwr y Trysorlys ‘Tsol's Guide to Company Restoration'. Os mae eisiau ragor o wybodaeth arnoch ynglŷn ag adfer yng Ngogledd Iwerddon neu'r Alban, cysylltwch â'ch cyfreithiwr.

Bydd y cofrestrydd yn darparu gwybodaeth i helpu i wneud cais i'r Llys. Cyn gwrandawiad y Llys, bydd y cofrestrydd fel rheol yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddogfennau statudol y mae eu hangen i ddiweddaru ffeil gyhoeddus y cwmni gael eu cyflwyno. Dylech anfon y rhain o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, i ganiatáu digon o amser i'r cofrestrydd eu prosesu neu eu dychwelyd i gael eu diwygio.

6. Pam y byddai cwmni'n cael ei adfer o dan enw cwmni gwahanol?

Fel rheol, bydd y cofrestrydd yn adfer cwmni o dan yr enw a oedd ganddo cyn iddo gael ei ddileu o'r gofrestr a'i ddiddymu. Er hynny, os bydd hen enw'r cwmni, pan gaiff ei adfer, yr un fath ag enw cwmni arall ar fynegai'r cofrestrydd o enwau cwmnïau, chaiff y cofrestrydd ddim adfer y cwmni o dan ei hen enw. Gallwch edrych i weld a yw enw'r cwmni yr un fath ag enw cwmni arall ar y gofrestr drwy ddefnyddio'r gwasanaeth WebCheck (yn Saesneg yn unig).

Os nad yw'r enw ar gael mwyach, gall y gorchymyn llys ddatgan enw arall y mae'r cwmni i gael ei adfer o dano. Wrth ei adfer, byddwn yn rhoi tystysgrif newid enw fel pe bai'r cwmni wedi newid ei enw.

Fel arall, gall y cwmni gael ei adfer i'r gofrestr fel pe bai ei enw yr un fath â'i rif cwmni cofrestredig. Wedyn bydd gan y cwmni 14 diwrnod ar ôl dyddiad adfer y cwmni i basio penderfyniad i newid enw'r cwmni. Rhaid ichi gyflwyno copi o'r penderfyniad a ‘hysbysiad bod enw wedi'i newid drwy benderfyniad gan y cyfarwyddwyr' (Ffurflen NM05) i Dŷ'r Cwmnïau gyda'r ffi briodol. Wedyn byddwn ni'n rhoi tystysgrif newid enw.

Mae'n dramgwydd i'r cwmni beidio â newid ei enw o fewn 14 diwrnod ar ôl cael ei adfer gyda'r rhif yn enw.

Sylwch, fydd y newid enw ddim yn dod i rym nes inni roi'r dystysgrif.

7. A oes costau neu gosbau?

Oes. Pan fo eiddo wedi dod yn bona vacantia, caiff y Llys gyfarwyddo i'r ymgeisydd dalu costau cynrychiolydd y Goron wrth ymdrin â'r eiddo yn ystod cyfnod diddymu'r cwmni neu mewn cysylltiad â'r achos. Mae'r Llys hefyd yn cael cyfarwyddo bod rhaid i'r ymgeisydd dalu costau'r cofrestrydd mewn cysylltiad â'r achos ac am adfer y cwmni.

Fel rheol, rhaid i'r cwmni dalu unrhyw gosbau statudol am ffeilio cyfrifon yn hwyr i'r cofrestrydd y tu allan i'r cyfnod a ganiateir ar gyfer eu ffeilio. Dyma'r cosbau a all fod yn ddyledus:

  • cosbau sydd heb eu talu o'r blaen mewn cysylltiad â chyfrifon a gyflwynwyd yn hwyr cyn i'r cwmni gael ei ddiddymu
  • chosbau sy'n ddyledus mewn cysylltiad â chyfrifon a gyflwynwyd adeg adfer y cwmni, os oedd y cyfrifon eisoes yn hwyr ar ddyddiad diddymu'r cwmni

Mae'n rhaid talu'r ffi ffeilio briodol hefyd wrth gyflwyno dogfennau sydd heb eu cyflwyno o'r blaen.

Mae lefel unrhyw gosb am ffeilio'n hwyr yn dibynnu pa mor hwyr yw'r cyfrifon pan fyddan nhw'n dod i law. Er enghraifft, mae set o gyfrifon y dylech fod wedi'i chyflwyno ddau fis cyn i gwmni preifat gael ei ddiddymu yn cael ei thrin fel rheol fel pe bai ddau fis yn hwyr os byddwch yn ei chyflwyno adeg adfer y cwmni a bydd rhaid ichi dalu'r gosb berthnasol. Does dim rhaid i'r cwmni dalu cosbau ffeilio hwyr am gyfrifon sy'n dod i law adeg adfer y cwmni ond a oedd i fod i gael eu cyflwyno tra oedd y cwmni wedi'i ddiddymu. I gael rhagor o wybodaeth am gosbau, gweler ein canllaw ‘Cosbau Ffeilio Hwyr'.

8. Beth sy'n digwydd pan fydd y llys yn gwneud gorchymyn adfer?

Rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno copi o'r gorchymyn llys i'r cofrestrydd i adfer y cwmni. Mae cwmni yn cael ei adfer wrth ichi gyflwyno'r gorchymyn. Wrth adfer cwmni a oedd wedi'i gofrestru yn yr Alban, bydd ar y cofrestrydd yn yr Alban angen copi o'r gorchymyn wedi'i ardystio gan y llys.

9. Beth sy'n digwydd pan fydd y cwmni wedi'i adfer?

Pan fydd y cwmni wedi'i adfer, yr effaith gyffredinol yw y bernir bod cwmni wedi parhau mewn bodolaeth fel pe na bai wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu o'r gofrestr.  Caiff y llys roi cyfarwyddiadau neu wneud darpariaeth i osod y cwmni a'r holl bersonau eraill yn yr un sefyllfa ag yr oedden nhw cyn i'r cwmni gael ei ddiddymu a'i ddileu o'r gofrestr. Bydd hysbysiad yn cael ei osod yn y Gazette perthnasol hefyd.

Pennod 4 - Adfer Cwmni yn Weinyddol

1. Beth yw Adfer Cwmni yn Weinyddol?

O dan amodau penodol, os cafodd cwmni ei ddiddymu am ei bod yn ymddangos nad oedd yn gwneud busnes neu yn gweithredu mwyach, caiff cyn-gyfarwyddwr neu gyn-aelod wneud cais i'r cofrestrydd am adfer y cwmni. Yr enw ar hyn yw ‘adfer yn weinyddol'. Os bydd y cofrestrydd yn adfer y cwmni , bernir bod y cwmni wedi parhau mewn bodolaeth fel pe na bai wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu o'r gofrestr. Mae adran 1025 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn rhoi manylion y gofynion ynglŷn ag adfer cwmni yn weinyddiol.

Mae adfer cwmni yn weinyddol ar gael lle cafodd cwmni ei ddileu o'r gofrestr o dan naill ai adran 652 o Ddeddf Cwmnïau 1985 adran 603 o Orchymyn Cyfuno Cwmnïau (Darpariaethau Canlyniadol) (Gogledd Iwerddon) 1986 (OS 1986/1035 (NI 9) neu adrannau 1000 a 1001 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

2. Pwy gaiff wneud cais am adfer cwmni i'r gofrestr?

Dim ond cyn-gyfarwyddwr neu gyn-aelod o'r cwmni, a oedd yn gyfarwyddwr neu'n aelod pan gafodd y cwmni ei ddiddymu sy'n cael gwneud cais.

3. A all cais am adfer cwmni yn weinyddol gael ei wneud ar gyfer unrhyw gwmni?

Na.  I fod yn gymwys i'w adfer yn weinyddol, rhaid i'r cwmni:

  • fod wedi'i ddileu o'r gofrestr o dan adrannau 1000 a 1001 o Ddeddf Cwmnïau 2006; adran 603 o Orchymyn Cyfuno Cwmnïau (Darpariaethau Canlyniadol) (Gogledd Iwerddon) 1986 (OS 1986/1035 (NI 9) neu adran 652 o Ddeddf Cwmnïau 1985
  • bod wedi'i ddiddymu ers dim mwy na chwe blynedd ar y dyddiad y bydd y cofrestrydd yn derbyn eich cais i'w adfer

Os bydd cwmni'n bodloni'r meini prawf uchod, a'r amodau isod, gallai wneud cais am gael ei adfer:

  • rhaid i'r cwmni fod wedi bod yn gwneud busnes neu yn gweithredu pan gafodd ei ddileu o'r gofrestr.
    • os daw unrhyw eiddo neu hawliau sy'n perthyn i'r cwmni yn bona vacantia, rhaid i'r ymgeisydd roi datganiad ysgrifenedig i'r cofrestrydd oddi wrth Gynrychiolydd perthnasol y Goron sy'n rhoi cydsyniad i adfer y cwmni. Caiff y datganiad hwn ei alw yn ‘Llythyr ildiad hawl Bona Vacantia', a rhaid iddo gael ei ddarganfod o Gynrychiolydd perthnasol y Goron. Bydd ffi yn daladwy. Am ragor o wybodaeth, gweler Pennod 2, cwestiwn 4
  • rhaid i'r cwmni fod wedi cyflwyno'r holl ddogfennau angenrheidiol i sicrhau bod materion y cwmni yn gyfoes a'i fod wedi talu unrhyw gosbau ffeilio hwyr a oedd heb eu talu o'r blaen. Gweler cwestiwn 5

4. Sut mae gwneud cais am adfer cwmni yn weinyddol?

Rhaid ichi anfon ‘Cais am adfer cwmni yn weinyddol' (Ffurflen RT01) at y cofrestrydd sy'n cynnwys datganiad cydymffurfio sy'n cadarnhau bod gan yr ymgeisydd hawl gyfreithiol i wneud y cais (gweler cwestiwn 1) a bod yr amodau adfer wedi cael eu cwrdd. (gweler cwestiwn 2).

Ffi'r cofrestrydd am brosesu'r cais yw £100 Gwnewch sieciau'n daladwy i ‘Tŷ'r Cwmnïau' ac ysgrifennu rhif y cwmni ar y cefn.

5. Beth yw'r costau neu'r cosbau eraill sy'n gysylltiedig â gwneud cais am adfer cwmni yn weinyddol?

Rhaid i'r ymgeisydd dalu costau neu dreuliau cynrychiolydd y Goron (os gofynnir am hynny). Rhaid i'r cwmni dalu unrhyw gosbau statudol am ffeilio cyfrifon yn hwyr a gyflwynwyd i'r cofrestrydd y tu allan i'r cyfnod sy'n cael ei ganiatáu i'w ffeilio.  Dyma'r cosbau a all fod yn ddyledus:

  • cosbau sydd heb eu talu o'r blaen mewn cysylltiad â chyfrifon a gyflwynwyd yn hwyr cyn i'r cwmni gael ei ddiddymu
  • chosbau sy'n ddyledus mewn cysylltiad â chyfrifon a gyflwynwyd adeg adfer y cwmni, os oedd y cyfrifon eisoes yn hwyr ar ddyddiad diddymu'r cwmni

Mae'n rhaid talu'r ffi ffeilio briodol hefyd wrth gyflwyno unrhyw ddogfennau sydd heb eu cyflwyno o'r blaen.

Mae lefel unrhyw gosb am ffeilio'n hwyr yn dibynnu pa mor hwyr yw'r cyfrifon pan fyddan nhw'n dod i law. Yn achos cyfrifon sy'n cael eu cyflwyno wrth i gwmni gael ei adfer, bydd y cofrestrydd fel rheol yn anwybyddu'r cyfnod pan oedd y cwmni wedi'i ddiddymu. Er enghraifft, mae set o gyfrifon y dylech fod wedi'i chyflwyno ddau fis cyn i gwmni preifat gael ei ddiddymu yn cael ei thrin fel rheol fel pe bai ddau fis yn hwyr os byddwch yn ei chyflwyno adeg adfer y cwmni a bydd rhaid ichi dalu'r gosb berthnasol cyn i'r cwmni gael ei adfer.

Does dim rhaid i'r cwmni dalu cosbau ffeilio hwyr am gyfrifon sy'n dod i law adeg adfer y cwmni ond a oedd i fod i gael eu cyflwyno tra oedd y cwmni wedi'i ddiddymu. I gael rhagor o wybodaeth am gosbau, gweler ein canllaw ‘Cosbau Ffeilio Hwyr'.

6. Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y cofrestrydd yn rhoi hysbysiad o'i benderfyniad i'r person sydd wedi gwneud cais am adfer y cwmni. 

Os yw'r cofrestrydd yn penderfynu adfer y cwmni i'r gofrestr, bydd yr adferiad yn dod i rym o'r dyddiad y bydd y cofrestrydd yn anfon yr hysbysiad. Bydd yr hysbysiad yn cynnwys rhif cofrestredig y cwmni ac enw'r cwmni. Os caiff y cwmni ei adfer i'r gofrestr o dan enw gwahanol neu ei adfer â rhif y cwmni yn enw, bydd yr enw hwnnw a'r cyn-enw i'w gweld ar yr hysbysiad.

Os yw'r cofrestrydd yn penderfynu peidio ag adfer y cwmni i'r gofrestr, gall yr ymgeisydd gwneud cais i'r Llys o fewn 28 diwrnod am adfer y cwmni hyd yn oed os bydd cyfnod am adfer wedi dod i ben. cwestiwn 1 yn y bennod hon). 

7. Pam y byddai cwmni'n cael ei adfer o dan enw cwmni gwahanol?

Os bydd hen enw'r cwmni, pan gaiff ei adfer, yr un fath ag enw cwmni arall ar fynegai'r cofrestrydd o enwau cwmnïau, bydd angen i'r cwmni ddewis enw arall. Caiff y cais am adfer cwmni ddatgan enw arall y mae'r cwmni i gael ei adfer o dano. Gallwch edrych i weld a yw enw'r cwmni yr un fath ag enw cwmni arall ar y gofrestr drwy ddefnyddio'r gwasanaeth WebCheck (Saesneg yn unig). Wrth adfer y cwmni, byddwn yn rhoi tystysgrif newid enw fel pe bai'r cwmni wedi newid ei enw.

Fel arall, gallwn adfer y cwmni i'r gofrestr fel pe bai ei enw yr un fath â'i rif cwmni cofrestredig. Wedyn bydd gan y cwmni 14 diwrnod ar ôl dyddiad adfer y cwmni i newid enw'r cwmni. Fel arall, caiff y cyfarwyddwyr basio penderfyniad i newid enw'r cwmni. Rhaid ichi gyflwyno copi o'r penderfyniad a hysbysiad bod yr enw wedi'i newid (Ffurflen NM05) i Dŷ'r Cwmnïau gan gynnwys y ffi briodol. Os derbynnir y dogfennau, byddwn yn rhoi tystysgrif newid enw. I gael rhagor o wybodaeth am newid enw, gweler ein canllaw ‘Bywyd cwmni Rhan 2 - Ffeilio yn sgil Digwyddiadau'.

Mae'n dramgwydd i'r cwmni beidio â newid ei enw o fewn 14 diwrnod ar ôl cael ei adfer gyda'r rhif yn enw.

Sylwch, fydd y newid enw ddim yn dod i rym nes inni roi'r dystysgrif.

8. Beth sy'n digwydd pan fydd y cwmni wedi'i adfer?

Pan fydd y cwmni wedi'i adfer, yr effaith gyffredinol yw y bernir bod cwmni wedi parhau mewn bodolaeth fel pe na bai wedi'i ddiddymu neu wedi'i ddileu o'r gofrestr.  Gall cais gael ei wneud i'r Llys am gyfarwyddiadau neu ddarpariaethau sy'n angenrheidiol i osod y cwmni a'r holl bersonau eraill yn yr un sefyllfa ag yr oedden nhw cyn i'r cwmni gael ei ddiddymu a'i ddileu o'r gofrestr. Rhaid i unrhyw gais o'r fath i'r Llys gael ei wneud o fewn 3 blynedd ar ôl i'r cwmni gael ei adfer

Pennod 5 - Ansawdd dogfennau

1. Beth fydd yn digwydd i ddogfennau y byddaf yn eu hanfon i Dŷ'r Cwmnïau?

Byddwn yn sganio'r dogfennau a'r ffurflenni y byddwch yn eu cyflwyno i ni er mwyn creu delwedd electronig.  Yna, byddwn yn storio'r dogfennau papur gwreiddiol, gan ddefnyddio'r ddelwedd electronig fel y ddogfen waith. 

Pan fydd cwsmer yn chwilio cofnod y cwmni, atgynhyrchir y ddelwedd electronig ar-lein.  Felly, mae'n bwysig bod y ddogfen wreiddiol yn ddarllenadwy, a'i bod yn gallu creu copi clir hefyd.

Pan fyddwch yn ffeilio dogfen yn electronig, byddwn yn creu delwedd electronig o'r data a ddarparwyd gennych yn awtomatig.

Mae'r bennod hon yn cynnig rhai canllawiau i'w dilyn wrth baratoi dogfen i'w ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau.

2. Sut ddylai dogfennau gael eu gosod?      

Dogfennau sy'n cael eu ffeilio yn electronig

Rhaid i ddogfennau sy'n cael eu ffeilio yn electronig gydymffurfio gyda'r manylebion a bennwyd gan y cofrestrydd yn ei reolau ynghylch ffeilio electronig.  Cynhwysir y diwyg ar gyfer trefn software filing yn y rheolau a gyhoeddir ar y wefan, ac mae'n gwefan yn cynnwys pob diwyg y bydd ei angen arnoch er mwyn ffeilio trwy gyfrwng y dull hwnnw.

Dogfennau papur

Yn gyffredinol, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i Dŷ'r Cwmnïau nodi enw a rhif cofrestru y cwmni mewn man amlwg.  Ceir rhai eithriadau i'r rheol hon, a nodir yn rheolau cyhoeddedig y cofrestrydd sydd i'w gweld ar ein gwefan.

Dylai dogfennau papur fod ar bapur gwyn plaen A4, a gorffeniad di-sglein.  Dylai'r testun fod yn ddu, yn eglur, yn ddarllenadwy a dylai'r dwysedd fod yn unffurf.  Rhaid i lythrennau a rhifau fod yn eglur ac yn ddarllenadwy er mwyn sicrhau bod modd i ni baratoi copi derbyniol o'r ddogfen.  Gallai'r canllawiau canlynol fod o gymorth. Mae methu â dilyn y canllawiau hyn yn debyg o arwain at wrthod y ddogfen:

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen, a fyddech cystal â:

  • defnyddio inc du neu deip du
  • defnyddio llythrennau trwm (bydd rhai pennau ysgrifennu ac wynebau teip tenau a chain yn creu copïau o ansawdd gwael)
  • ni ddylech anfon copi carbon
  • ni ddylech ddefnyddio matrics-argraffydd
  • chofiwch - gall llungopïau roi arlliw llwyd na fydd yn sganio'n dda

Pan fyddwch yn cwblhau dogfennau eraill, cofiwch:

  • y pwyntiau a wnaethpwyd eisoes am lenwi ffurflenni
  • y dylech ddefnyddio papur A4 gydag ymyl hael
  • eu darparu ar ffurf diwyg portread (hynny yw, yr ymyl byrraf ar draws y brig)
  • chynnwys rhif ac enw'r cwmni

3. Ble mae modd i mi gael gwybod mwy am hyn?

Am arweiniad pellach am ofynion argraffu, gweler ein gwefan neu ffoniwch 0303 1234 500.

Pennod 6 - Gwybodaeth Bellach

1. Sut ddylwn i gyflwyno gwybodaeth i Dŷ'r Cwmnïau?

Am fanylion llawn am yr holl ffyrdd o gyflwyno dogfennau i Dŷ'r Cwmnïau, yn electronig neu ar bapur, a fyddech cystal â throi at reolau'r cofrestrydd sy'n ymddangos ar ein gwefan. Y ffordd fwyaf diogel o gyflwyno gwybodaeth statudol yw trwy ddefnyddio ein gwasanaethau ffeilio ar-lein.  Am ragor o wybodaeth a manylion cofrestru, a fyddech cystal â throi at ein gwefan.

Os ydych yn anfon dogfennau yn y post, gyda negesydd, gyda'r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu Bost Cyfreithiol (yn yr Alban), ac os hoffech gael derbynneb, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn darparu nodyn cydnabod os byddwch yn cynnwys copi o'ch llythyr esboniadol gydag amlen â chyfeiriad a stamp arni er mwyn ei ddychwelyd.  Byddwn yn nodi cod bar ar eich copi chi o'ch llythyr, gan nodi'r dyddiad y'i cyflwynwyd, a'i ddychwelyd atoch yn yr amlen a ddarparwyd.

Sylwer:  nid yw nodyn sy'n cydnabod bod dogfen wedi cyrraedd, yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn i'w chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Sylwer: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfennau statudol trwy gyfrwng neges ffacs, PDF (ac eithrio copïau ardystiedig o offerynnau arwystl sy'n cael eu ffeilio'n electronig) neu e-bost.

2. A fydd yn rhaid i mi dalu er mwyn ffeilio dogfennau yn Nhŷ'r Cwmnïau?

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi am nifer o'r dogfennau y bydd yn rhaid i chi eu hanfon i Dŷ'r Cwmnïau, ond bydd angen talu ffi ar gyfer rhai ac ni fyddwn yn eu derbyn er mwyn eu cofrestru heb y ffi hon.  Am fanylion llawn, dylech droi at ein gwefan.

3. A oes modd i mi ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill?

Fel arfer, mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn ffeilio dogfennau a anfonir i Dŷ'r Cwmnïau yn Saesneg.  Ceir eithriadau i'r rheol hon, fel y nodir isod.  Gall cwmnïau gyflwyno'r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os anfonir cyfieithiad Saesneg ardystiedig o'r ddogfen hefyd:

  • penderfyniadau a chytundebau sy'n effeithio ar gyfansoddiad cwmni wedi eu cyflwyno o dan Pennod 3, Rhan 3 y Ddeddf
  • ar gyfer cwmnïau a gynhwysir yng nghyfrifon grwpiau mwy AEE (Ardal Economaidd Ewropeaidd), cyfrifon y grŵp ac adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad
  • ar gyfer cwmnïau a gynhwysir yng nghyfrifon grwpiau mwy nad ydynt yn dod o'r AEE, cyfrifon y grŵp a, lle bo'n briodol, yr adroddiad blynyddol cyfun
  • offeryn arwystlon neu gopi o offeryn arwystlon
  • adroddiad prisio y mae'n ofynnol ei gyflwyno i'r cofrestrydd o dan adran 94(2)(d) o'r Ddeddf
  • erthyglau cymdeithasiad; Memorandwn cymdeithasiad
  • gorchmynion llys

Yn ogystal, gall cwmnïau ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol unrhyw ddogfen sy'n rhwym i ofynion datgelu'r Gyfarwyddeb Gyntaf ar y Gyfraith Gwmnïau.  Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • dogfennau cyfansoddiadol megis y memorandwm a'r erthyglau cymdeithasiad
  • penodiadau cyfarwyddwyr, newid manylion neu derfyniadau;  Cyfrifon, adroddiadau a ffurflenni blynyddol; Hysbysiad o unrhyw newidiadau i swyddfa gofrestredig cwmni;  Dogfennau dirwyn i ben;   Dogfennau cyfalaf cyfrannau   (cwmnïau cyhoeddus yn unig); Dogfennau sy'n ymwneud ag uno a rhannu (cwmnïau cyhoeddus yn unig);  a Dogfennau sy'n ymwneud â chwmnïau tramor

Rhaid i'r cyfieithiad gwirfoddol ymwneud â dogfen a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2007.  Dim ond yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y bydd modd ffeilio cyfieithiadau gwirfoddol, ac mae'n rhaid cyflwyno Ffurflen VT01 gyda nhw, a fydd yn cysylltu'r cyfieithiad gyda'r ddogfen wreiddiol.

Mae yna eithriadau gwahanol ar gyfer cwmnïau Cymreig (sef y rhai sy'n cydymffurfio ag adran 88 o'r Ddeddf) sydd â hawl i lunio a chyflwyno dogfennau penodol yn Gymraeg heb fod angen cyfieithiad Saesneg ardystiedig i gyd-fynd â nhw.  Mae rhestr lawn o'r dogfennau sydd wedi'u heithrio i'w gweld yn ein canllawiau o dan y teitl ‘Cynnal busnes yn Gymraeg (GP05)' sydd ar gael ar ein gwefan.

4. Ble mae modd i mi gael ffurflenni a chanllawiau?

Mae hwn yn un mewn cyfres o gyhoeddiadau gan Dŷ'r Cwmnïau sy'n cynnig canllaw syml i'r Ddeddf Cwmnïau.

Mae modd cael pob ffurflen statudol a chanllaw yn rhad ac am ddim, gan Dŷ'r Cwmnïau.  Y ffordd gyflymaf o'u cael yw trwy droi at ein gwefan neu ffonio 0303 1234 500.

Yn ogystal, gallwch gael ffurflenni gan ddogfenwyr deddf cwmnïau, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau.

Brig
Ein polisi ar gwcis