|
|
Cyfyngiadau ar ddatgelu’ch cyfeiriad os ydych mewn perygl difrifol - GP7 Rhagfyr 2012– Fersiwn 2.4 Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006 Fersiwn PDF y tudalen hwn (215Kb) A yw’r canllaw hwn ar eich cyfer chi? Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:
Cynnwys Cyflwyniad Mae’r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau mynych ac yn cynnig gwybodaeth ar ffeilio’r mathau mwyaf cyffredin o wybodaeth yn y maes hwn. Nid ydym wedi drafftio’r canllaw gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg. Mae’n bosibl y bydd angen gofyn an gyngor proffesiynol arbenigol o dan yr amgylchiadau hynny. Mae’r canllaw hwn yn gymwys i swyddogion cwmnïau, partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PACau) a chwmnïau tramor sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig (DU), sef Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Fe welwch y ddeddfwriaeth berthnasol yn y canlynol:
O dan Ddeddf Cwmnïau 2006, a deddfwriaeth berthynol arall, rhaid rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am y cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau ac am gyfeiriad preswyl arferol pob cyfarwyddwr, pob aelod o PAC a phob cynrychiolydd parhaol. Mae’r cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn un y gall cyfarwyddwr neu Aelod PAC ei ddefnyddio i dderbyn gohebiaeth gan drydydd partïon mewn perthynas â’r cwmni. Gall y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau fod yr un fath â chyfeiriad preswyl y person neu gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni, neu gall fod yn rhywle arall. Y cyfeiriad preswyl arferol yw cyfeiriad cartref arferol y cyfarwyddwr neu aelod PAC o dan sylw. Mae angen ei ffeilio gyda’r Cofrestrydd o hyd, ond ni fydd ar gael ar y cofnod cyhoeddus i bawb ei weld. Caiff ei gadw ar gofrestr breifat a dim ond sefydliadau a bennir ymlaen llaw gaiff weld y gofrestr hon. Bydd y cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau i’w weld ar y cofnod cyhoeddus. Bydd gwybodaeth am y cyfeiriad preswyl (hyd yn oed os yw yr un fath â’r cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau) yn wybodaeth warchodedig o 1 Hydref 2009 ymlaen. Dim ond i asiantaethau cyfeirio credyd ac awdurdodau cyhoeddus penodedig y caiff gwybodaeth warchodedig ei datgelu. Os ydych mewn perygl difrifol o drais neu fygythiadau oherwydd gweithgareddau: (i) cwmni yr ydych yn gyfarwyddwr iddo; yna cewch wneud cais o dan adran 243 am i’ch gwybodaeth warchodedig beidio â chael ei datgelu yn y dyfodol i asiantaethau cyfeirio credyd. Bydd cyfeiriadau sydd eisoes yn ymddangos yn y cofnod cyhoeddus yn parhau i fod ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio. Os ydych chi mewn perygl difrifol o drais neu fygythiadau oherwydd gweithgareddau cwmni neu PAC yr ydych yn swyddog iddyn nhw, yna cewch wneud cais o dan adran 1088 am drefnu nad yw cyfeiriad sydd ar y cofnod cyhoeddus ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd. Os bydd gennych chi amheuon ynglŷn â'ch cyfrifoldebau ar ôl darllen y canllaw hwn, dylech ystyried gofyn am gyngor proffesiynol gan gyfreithiwr. Pennod 1 - Y sail dros wneud y cais Beth fyddai’r sail dros wneud cais? Gall cwmnïau, PAC a chwmnïau tramor penodol osod eu swyddogion (neu berson sy’n byw gyda nhw) mewn perygl oherwydd eu gweithgareddau. Gallai hyn ddigwydd am eu bod yn ymwneud â sector penodol o fasnach neu ddiwydiant a allai dynnu sylw actifyddion neu eithafwyr. Mae enghreifftiau o adegau pan allai cais fod yn briodol yn cynnwys:
Does dim rhestr gynhwysfawr a bydd pam y gallech wneud cais am gyfyngu ar ddatgelu’r wybodaeth warchodedig neu am drefnu nad yw cyfeiriad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd yn dibynnu ar eich amgylchiadau chi’ch hun. Bydd angen hefyd ichi ddarparu tystiolaeth i ategu’r sail dros eich cais ac ymdrinnir â hyn ym Mhennod 2 cwestiwn 4. Pennod 2 - Cais gan unigolyn am gyfyngu ar ddatgelu ei gyfeiriad 1. Pam byddwn i am i’r cofrestrydd gyfyngu ar ddatgelu’r wybodaeth warchodedig ynghylch fy nghyfeiriad preswyl? Fe allech chi fod o’r farn eich bod chi (neu fod person sy’n byw gyda chi) mewn perygl difrifol o ddioddef trais neu fygythiadau oherwydd gweithgareddau o leiaf un o’r canlynol:
Fe allech chi fod o’r farn eich bod chi (neu fod person sy’n byw gyda chi) mewn perygl difrifol o ddioddef trais neu fygythiadau am eich bod wedi cael eich cyflogi gan sefydliad perthnasol, sef Pencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth, y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cyfrinachol, y Gwasanaeth Diogelwch neu un o’r heddluoedd. 2. Pwy gaiff wneud cais? Mae unigolyn sy’n gyfarwyddwr neu sy’n bwriadu bod yn gyfarwyddwr cwmni yn cael gwneud cais o dan adran 243 o’r Ddeddf a rheoliad 5 o Reoliadau Cwmnïau (Datgelu Cyfeiriad) 2009. Y ffurflen yw "Cais o dan adran 243 gan unigolyn" - SR04. Mae unigolyn sy’n aelod o PAC yn cael gwneud cais o dan adran 243, fel y mae wedi’i chymhwyso gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009, a rheoliad 5 o Reoliadau Cwmnïau (Datgelu Cyfeiriad) 2009. Y ffurflen yw "Cais o dan adran 243 gan aelod unigol o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)" - LL SR03. Caiff unigolyn sy’n gyfarwyddwr neu’n gynrychiolydd parhaol i gwmni tramor wneud cais am ddiogelwch uwch o dan Reoliadau Cwmnïau Tramor 2009. Y ffurflen yw "Cais am ddiogelwch uwch gan gyfarwyddwr neu gynrychiolydd parhaol cwmni tramor am atal datgelu gwybodaeth warchodedig i asiantaeth cyfeirio credyd" – OS SR01. Mae pob un o’r ffurflenni hyn ar gael drwy wneud cais i’n canolfan gyswllt ar 0303 1234 500. 3. Pa wybodaeth y mae’r cais yn gofyn amdani? Mae’r cais yn gofyn am y canlynol:
Bydd yn ofynnol hefyd ichi roi tystiolaeth i ategu’ch cais. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yng nghwestiwn 4. Cofiwch: mae’n dramgwydd rhoi datganiad ffug. Os ydych yn cael eich penodi ar yr un pryd â gwneud y cais hwn, dylech amgáu’r ffurflen neu’r ffurflenni penodi priodol gyda’r cais er mwyn sicrhau bod eich gwybodaeth warchodedig yn aros yn gyfyngedig. 4. Pa dystiolaeth y mae’n rhaid imi ei darparu? Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth sy’n ategu’r datganiad o’r sail dros eich cais. Gallai’r enghreifftiau gynnwys:
Bydd pa dystiolaeth y gallwch ei darparu yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Fe all fod ar ffurf dogfen ysgrifenedig neu ffotograffau os yw’r rheiny’n dangos y perygl yn glir. Os ydych yn gwneud cais ar y sail eich bod yn cael eich cyflogi gan sefydliad perthnasol, sef Pencadlys Cyfathrebu’r Llywodraeth, y Gwasanaeth Cudd-wybodaeth Cyfrinachol, y Gwasanaeth Diogelwch neu un o’r heddluoedd, yna dylech gyflwyno tystiolaeth i gadarnhau hynny. 5. Oes yna ffi am wneud y cais? Oes, mae yna ffi o £100 am wneud y cais. Dylai sieciau fod yn daladwy i Tŷ’r Cwmnïau.Caiff eich ffurflen ei gwrthod os nad anfonwch y ffi gywir gyda hi. 6. Ble dylwn i anfon fy nghais? Rhaid i’ch cais gael ei anfon at Y Cofrestrydd Cwmnïau, Blwch Post 4082, Caerdydd CF14 3WE ynghyd â’r ffi briodol a’r dystiolaeth ategol. Bydd hynny’n sicrhau y caiff ei brosesu gan y tîm priodol. 7. Beth sy’n digwydd ar ôl ichi gael fy nghais? Byddwn yn gwirio’r manylion a rowch ac yn adolygu’r sail dros wneud y cais. Fe allen ni ofyn ichi roi tystiolaeth ychwanegol os byddwn yn teimlo nad ydych wedi rhoi digon o wybodaeth. I’n helpu i wneud penderfyniad byddwn yn gofyn am asesiad gan awdurdod priodol o natur a graddau’r perygl ichi o drais neu fygythiadau. Rydyn ni’n ymdrin â gwybodaeth ar benderfyniad y cofrestrydd a sut y cewch wybod amdano ym Mhennod 8. Pennod 3 - Cais gan gwmni, PAC neu gwmni tramor am gyfyngu ar ddatgelu cyfeiriadau eu swyddogion 1. Pam byddwn i am i’r cofrestrydd gyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth warchodedig y swyddogion ynglŷn â’u cyfeiriadau? O ganlyniad i weithgareddau’ch cwmni, eich PAC neu’ch cwmni tramor fe allech fod o’r farn bod y swyddogion (neu berson sy’n byw gyda nhw) mewn perygl difrifol o ddioddef trais neu fygythiadau. 2. Pwy gaiff wneud cais? Caiff cwmni wneud cais o dan adran 243 a rheoliad 6 o Reoliadau Cwmnïau (Datgelu Cyfeiriad) 2009 ar ran unrhyw rai o’i gyfarwyddwyr sy’n unigolion. Y ffurflen yw "Cais o dan adran 243 gan gwmni" - SR05. Caiff PAC wneud cais ar ran unrhyw rai o’i haelodau sy’n unigolion o dan adran 243, fel y mae wedi’i chymhwyso gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009, a rheoliad 6 o Reoliadau Cwmnïau (Datgelu Cyfeiriad) 2009. Y ffurflen yw "Cais o dan adran 243 gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)" - LL SR04. Caiff cwmni tramor wneud cais am ddiogelwch uwch o dan Reoliadau Cwmnïau Tramor 2009 ar ran unrhyw rai o’i gyfarwyddwyr neu ei gynrychiolwyr parhaol sy’n unigolion. Y ffurflen yw "Cais am ddiogelwch uwch gan gwmni tramor i atal datgelu gwybodaeth warchodedig i asiantaeth cyfeirio credyd" - OS SR02. Mae pob un o’r ffurflenni hyn ar gael drwy wneud cais i’n canolfan gyswllt ar 0303 1234 500. 3. Pa wybodaeth y mae’r cais yn gofyn amdani? Mae’r cais yn gofyn am y canlynol:
Bydd yn ofynnol hefyd ichi roi tystiolaeth i ategu’ch cais. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yng nghwestiwn 4. Cofiwch: mae’n dramgwydd rhoi datganiad ffug. 4. Pa dystiolaeth y mae’n rhaid imi ei darparu? Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth sy’n ategu’r datganiad o’r sail dros eich cais. Gallai’r enghreifftiau gynnwys:
Bydd pa dystiolaeth y gallwch ei darparu yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Fe all fod ar ffurf dogfen ysgrifenedig neu ffotograffau os yw’r rheiny’n dangos y perygl yn glir. 5. Oes yna ffi am wneud y cais? Oes, mae yna ffi o £100 am wneud y cais. Dylai sieciau fod yn daladwy i Tŷ’r Cwmnïau.Caiff eich ffurflen ei gwrthod os nad anfonwch y ffi gywir gyda hi. 6. Ble dylwn i anfon fy nghais? Rhaid i’ch cais gael ei anfon at Y Cofrestrydd Cwmnïau, Blwch Post 4082, Caerdydd CF14 3WE ynghyd â’r ffi briodol a’r dystiolaeth ategol. Bydd hynny’n sicrhau y caiff ei brosesu gan y tîm priodol. 7. Beth sy’n digwydd ar ôl ichi gael fy nghais? Byddwn yn gwirio’r manylion a rowch ac yn adolygu’r sail dros wneud y cais. Fe allen ni ofyn ichi roi tystiolaeth ychwanegol os byddwn yn teimlo nad ydych wedi rhoi digon o wybodaeth. I’n helpu i wneud penderfyniad byddwn yn gofyn am asesiad gan awdurdod priodol o natur a graddau’r perygl ichi o drais neu fygythiadau. Rydyn ni’n ymdrin â gwybodaeth ar benderfyniad y cofrestrydd a sut y cewch wybod amdano ym Mhennod 8. Pennod 4 - Cais gan danysgrifiwr cwmni arfaethedig neu aelod arfaethedig o PAC arfaethedig 1. Pam byddwn i am i’r cofrestrydd gyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth warchodedig y swyddogion arfaethedig ynglŷn â’u cyfeiriadau? Fe allech fod o’r farn bod y swyddogion arfaethedig (neu berson sy’n byw gyda nhw) mewn perygl difrifol o ddioddef trais neu fygythiadau o ganlyniad i weithgareddau arfaethedig eich cwmni arfaethedig neu’ch PAC arfaethedig. 2. Pwy gaiff wneud cais? Caiff tanysgrifiwr i’r memorandwm cymdeithasiad wneud cais o dan adran 243 a rheoliad 7 o Reoliadau Cwmnïau (Datgelu Cyfeiriad) 2009 ar ran unrhyw rai o gyfarwyddwyr arfaethedig cwmni arfaethedig sy’n unigolion. Y ffurflen yw "Cais o dan adran 243 gan danysgrifiwr i femorandwm cymdeithasiad" - SR06. Caiff aelod arfaethedig o PAC arfaethedig wneud cais ar ran unrhyw rai o’i haelodau arfaethedig sy’n unigolion o dan adran 243, fel y mae wedi’i chymhwyso gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009, a rheoliad 7 o Reoliadau Cwmnïau (Datgelu Cyfeiriad) 2009. Y ffurflen yw "Cais o dan adran 243 gan aelod arfaethedig o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) arfaethedig" - LL SR05 Mae’r ddwy ffurflen ar gael drwy wneud cais i’n canolfan gyswllt ar 0303 1234 500. 3. Pa wybodaeth y mae’r cais yn gofyn amdani? Mae’r cais yn gofyn am y canlynol:
Bydd yn ofynnol hefyd ichi roi tystiolaeth i ategu’ch cais. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yng nghwestiwn 4. Cofiwch: mae’n dramgwydd rhoi datganiad ffug. 4. Pa dystiolaeth y mae’n rhaid imi ei darparu? Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth sy’n ategu’r datganiad o’r sail dros eich cais. Gallai’r enghreifftiau gynnwys:
Bydd pa dystiolaeth y gallwch ei darparu yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Fe all fod ar ffurf dogfen ysgrifenedig neu ffotograffau os yw’r rheiny’n dangos y perygl yn glir. 5. Oes yna ffi am wneud y cais? Oes, mae yna ffi o £100 am wneud y cais. Dylai sieciau fod yn daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.Caiff eich ffurflen ei gwrthod os nad anfonwch y ffi gywir gyda hi. 6. Ble dylwn i anfon fy nghais? Rhaid i’ch cais gael ei anfon at Y Cofrestrydd Cwmnïau, Blwch Post 4082, Caerdydd CF14 3WE ynghyd â’r ffi briodol a’r dystiolaeth ategol. Bydd hynny’n sicrhau y caiff ei brosesu gan y tîm priodol. 7. Beth sy’n digwydd ar ôl ichi gael fy nghais? Byddwn yn gwirio’r manylion a rowch ac yn adolygu’r sail dros wneud y cais. Fe allen ni ofyn ichi roi tystiolaeth ychwanegol os byddwn yn teimlo nad ydych wedi rhoi digon o wybodaeth. I’n helpu i wneud penderfyniad byddwn yn gofyn am asesiad gan awdurdod priodol o natur a graddau’r perygl ichi o drais neu fygythiadau. Rydyn ni’n ymdrin â gwybodaeth ar benderfyniad y cofrestrydd a sut y cewch wybod amdano ym Mhennod 8. Pennod 5 - Cais gan unigolyn am drefnu nad yw cyfeiriad ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd 1. Pam byddwn i am i’r cofrestrydd drefnu nad yw cyfeiriad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd? Fe allech fod o’r farn eich bod chi (neu berson sy’n byw gyda chi) mewn perygl difrifol o ddioddef trais neu fygythiadau o ganlyniad i weithgareddau o leiaf un o’r canlynol:
2. Pwy gaiff wneud cais? Gall cais gael ei wneud dan adran 1088 o’r Ddeddf a rheoliad 9 o Reoliadau Cwmnïau (Datgelu Cyfeiriad) 2009 gan unigolyn y cafodd ei gyfeiriad preswyl arferol ei osod ar y gofrestr mewn perthynas â chwmni ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003. Y ffurflen yw "Cais gan unigolyn o dan adran 1088 am drefnu nad yw cyfeiriad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd" - SR01. Caiff unigolyn y cafodd ei gyfeiriad preswyl arferol ei osod ar y gofrestr mewn perthynas â PAC ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003 wneud cais o dan adran 1088, fel y mae wedi’i chymhwyso gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009, a rheoliad 9 o Reoliadau Cwmnïau (Datgelu Cyfeiriad) 2009. Y ffurflen yw "Cais gan aelod unigol o Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) o dan adran 1088 am drefnu nad yw cyfeiriad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd" - LL SR01. Mae’r ddwy ffurflen ar gael drwy wneud cais i’n canolfan gyswllt ar 0303 1234 500. 3. Ym mha ddogfennau y gellir trefnu nad yw’r cyfeiriad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd? Yn achos cwmnïau a chwmnïau tramor, mae hyn yn golygu cyfeiriad preswyl arferol yr unigolyn a gafodd ei osod ar y gofrestr naill ai:
Yn achos PAC mae hyn yn golygu cyfeiriad preswyl arferol yr aelod a gafodd ei osod ar y gofrestr o dan:
4. Pa wybodaeth y mae’r cais yn gofyn amdani? Mae’r cais yn gofyn am y canlynol:
Bydd yn ofynnol hefyd ichi roi tystiolaeth i ategu’ch cais. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yng nghwestiwn 5. Cofiwch: mae’n dramgwydd rhoi datganiad ffug. 5. Pa dystiolaeth y mae’n rhaid imi ei darparu? Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth sy’n ategu’r datganiad o’r sail dros eich cais. Gallai’r enghreifftiau gynnwys:
Bydd pa dystiolaeth y gallwch ei darparu yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Fe all fod ar ffurf dogfen ysgrifenedig neu ffotograffau os yw’r rheiny’n dangos y perygl yn glir. Os ydych yn gwneud cais am eich bod yn cael eich cyflogi gan sefydliad perthnasol, yna dylech gyflwyno tystiolaeth i gadarnhau hynny. Os ydych yn gwneud cais am eich bod yn "fuddiolwr adran 243" yna dylech gyflwyno tystiolaeth i gadarnhau hynny. 6. Oes yna ffi am wneud y cais? Oes, mae yna ffi o £55 am bob dogfen y bwriedir trefnu nad yw’r cyfeiriad i fod ar gael i’w archwilio ynddi. Dylai sieciau fod yn daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.Caiff eich ffurflen ei gwrthod os nad anfonwch y ffi gywir gyda hi. 7. Ble dylwn i anfon fy nghais? Rhaid i’ch cais gael ei anfon at Y Cofrestrydd Cwmnïau, Blwch Post 4082, Caerdydd CF14 3WE ynghyd â’r ffi briodol a’r dystiolaeth ategol. Bydd hynny’n sicrhau y caiff ei brosesu gan y tîm priodol. 8. Beth sy’n digwydd ar ôl ichi gael fy nghais? Byddwn yn gwirio’r manylion a rowch ac yn adolygu’r sail dros wneud y cais. Fe allen ni ofyn ichi roi tystiolaeth ychwanegol os byddwn yn teimlo nad ydych wedi rhoi digon o wybodaeth. I’n helpu i wneud penderfyniad byddwn yn gofyn am asesiad gan awdurdod priodol o natur a graddau’r perygl ichi o drais neu fygythiadau. Rydyn ni’n ymdrin â gwybodaeth ar benderfyniad y cofrestrydd a sut y cewch wybod amdano ym Mhennod 8. Pennod 6 - Cais gan gwmni am drefnu nad yw cyfeiriadau ei aelodau ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd 1. Pam byddwn i am i’r cofrestrydd drefnu nad yw holl gyfeiriadau aelodau neu gyn aelodau’r cwmni ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd? Fe allech fod o’r farn bod aelodau neu gyn aelodau neu danysgrifwyr i femorandwm cymdeithasiad (neu berson sy’n byw yn eu cyfeiriadau) mewn perygl difrifol o ddioddef trais neu fygythiadau o ganlyniad i weithgareddau’r cwmni. 2. Pwy gaiff wneud cais? Gall cais gael ei wneud o dan adran 1088 o’r Ddeddf a rheoliad 10 o Reoliadau Cwmnïau (Datgelu Cyfeiriad) 2009 gan gwmni mewn perthynas â’r canlynol:
Y ffurflen yw "Cais gan gwmni o dan adran 1088 am drefnu nad yw cyfeiriad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd" – SR02. Mae’r ffurflen ar gael drwy wneud cais i’n canolfan gyswllt ar 0303 1234 500. 3. Pa wybodaeth y mae’r cais yn gofyn amdani? Mae’r cais yn gofyn am y canlynol:
Bydd yn ofynnol hefyd ichi roi tystiolaeth i ategu’ch cais. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yng nghwestiwn 4. Cofiwch: mae’n dramgwydd rhoi datganiad ffug. 4. Pa dystiolaeth y mae’n rhaid imi ei darparu? Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth sy’n ategu’r datganiad o’r seiliau dros eich cais. Gallai’r enghreifftiau gynnwys:
Bydd pa dystiolaeth y gallwch ei darparu yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Fe all fod ar ffurf dogfen ysgrifenedig neu ffotograffau os yw’r rheiny’n dangos y perygl yn glir. 5. Oes yna ffi am wneud y cais? Oes, mae yna ffi o £55 am bob dogfen y bwriedir trefnu nad yw’r cyfeiriad i fod ar gael i’w archwilio ynddi. Dylai sieciau fod yn daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.Caiff eich ffurflen ei gwrthod os nad anfonwch y ffi gywir gyda hi. 6. Ble dylwn i anfon fy nghais? Rhaid i’ch cais gael ei anfon at Y Cofrestrydd Cwmnïau, Blwch Post 4082, Caerdydd CF14 3WE ynghyd â’r ffi briodol a’r dystiolaeth ategol. Bydd hynny’n sicrhau y caiff ei brosesu gan y tîm priodol. 7. Beth sy’n digwydd ar ôl ichi gael fy nghais? Byddwn yn gwirio’r manylion a rowch ac yn adolygu’r sail dros wneud y cais. Fe allen ni ofyn ichi roi tystiolaeth ychwanegol os byddwn yn teimlo nad ydych wedi rhoi digon o wybodaeth. I’n helpu i wneud penderfyniad byddwn yn gofyn am asesiad gan awdurdod priodol o natur a graddau’r perygl ichi o drais neu fygythiadau. Rydyn ni’n ymdrin â gwybodaeth ar benderfyniad y cofrestrydd a sut y cewch wybod amdano ym Mhennod 8. Pennod 7 - Cais gan berson sy’n cofrestru arwystl am drefnu nad yw cyfeiriad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd 1. Pam byddwn i am i’r cofrestrydd drefnu nad yw cyfeiriad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd? Fe allech fod o’r farn eich bod chi, eich cyflogeion neu bersonau sy’n byw naill ai gyda chi neu gyda’ch cyflogeion mewn perygl difrifol o ddioddef trais neu fygythiadau o ganlyniad i weithgareddau’r cwmni neu’r PAC sydd neu a fu yn destun yr arwystl. 2. Pwy gaiff wneud cais? Gall cais gael ei wneud gan berson a gofrestrodd arwystl ar neu ar ôl 1 Ionawr 2003 o dan:
Rhaid i’r person fod yn wahanol i’r cwmni a greodd yr arwystl neu a sicrhaodd yr eiddo sy’n destun yr arwystl. Os cwmni yw testun yr arwystl, y ffurflen yw "Cais gan berson sy’n cofrestru arwystl o dan adran 1088 am drefnu nad yw cyfeiriad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd" – SR03. Os PAC yw testun yr arwystl, y ffurflen yw "Cais gan berson sy’n cofrestru arwystl ar ran Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) o dan adran 1088 am drefnu nad yw cyfeiriad ar gael i’w archwilio gan y cyhoedd" – LL SR02. Mae’r ddwy ffurflen ar gael drwy wneud cais i’n canolfan gyswllt ar 0303 1234 500. 3. Pa wybodaeth y mae’r cais yn gofyn amdani? Mae’r cais yn gofyn am y canlynol:
Bydd yn ofynnol hefyd ichi roi tystiolaeth i ategu’ch cais. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yng nghwestiwn 4. Cofiwch: mae’n dramgwydd rhoi datganiad ffug. 4. Pa dystiolaeth y mae’n rhaid imi ei darparu? Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth sy’n ategu’r datganiad o’r seiliau dros eich cais. Gallai’r enghreifftiau gynnwys:
Bydd pa dystiolaeth y gallwch ei darparu yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Fe all fod ar ffurf dogfen ysgrifenedig neu ffotograffau os yw’r rheiny’n dangos y perygl yn glir. 5. Oes yna ffi am wneud y cais? Oes, mae yna ffi o £55 am bob dogfen y bwriedir trefnu nad yw’r cyfeiriad i fod ar gael i’w archwilio ynddi. Dylai sieciau fod yn daladwy i Dŷ’r Cwmnïau.Caiff eich ffurflen ei gwrthod os nad anfonwch y ffi gywir gyda hi. 6. Ble dylwn i anfon fy nghais? Rhaid i’ch cais gael ei anfon at Y Cofrestrydd Cwmnïau, Blwch Post 4082, Caerdydd CF14 3WE ynghyd â’r ffi briodol a’r dystiolaeth ategol. Bydd hynny’n sicrhau y caiff ei brosesu gan y tîm priodol. 7. Beth sy’n digwydd ar ôl ichi gael fy nghais? Byddwn yn gwirio’r manylion a rowch ac yn adolygu’r sail dros wneud y cais. Fe allen ni ofyn ichi roi tystiolaeth ychwanegol os byddwn yn teimlo nad ydych wedi rhoi digon o wybodaeth. I’n helpu i wneud penderfyniad byddwn yn gofyn am asesiad gan awdurdod priodol o natur a graddau’r perygl ichi o drais neu fygythiadau. Rydyn ni’n ymdrin â gwybodaeth ar benderfyniad y cofrestrydd a sut y cewch wybod amdano ym Mhennod 8. Pennod 8 - Penderfyniad y cofrestrydd 1. Faint o amser y mae’n ei gymryd i’r cofrestrydd wneud penderfyniad? Gallwn gyfeirio unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud ag asesu natur a graddfa’r trais neu’r bygythiadau yr ydych yn eu hwynebu at gorff perthnasol. Gall hyn gymryd hyd at bedair wythnos ac all y cofrestrydd ddim gwneud penderfyniad tan i’r wybodaeth hon gael ei rhoi. Os ydych wedi cynnwys unrhyw ddogfennau i’w cofrestru gyda’ch cais "adran 243", byddwn yn cofrestru’r dogfennau gan gyfyngu dros dro ar ddatgelu’ch gwybodaeth warchodedig nes i benderfyniad gael ei wneud. Pan fydd penderfyniad wedi’i wneud byddwn yn rhoi gwybod ichi o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad hwnnw. Caiff yr hysbysiad ei anfon:
2. Beth yw effaith cais "adran 243" neu gais "diogelwch uwch" llwyddiannus? Pan fydd penderfyniad wedi’i wneud o’ch plaid, byddwch yn cael eich adnabod fel "buddiolwr adran 243" neu yn achos cwmni tramor fel swyddog sydd â "diogelwch uwch". Mae hyn yn golygu bod rhaid i unrhyw ffurflen a gyflwynwch i Dŷ’r Cwmnïau ddangos eich bod yn "fuddiolwr adran 243" neu’n swyddog sydd â "diogelwch uwch", yn achos cwmnïau tramor. Ar ffurflenni papur mae angen ichi roi tic yn y blwch ar y tudalen lle byddwch yn rhoi gwybodaeth am eich cyfeiriad preswyl arferol. Yna rhaid anfon y ffurflenni hyn at Y Cofrestrydd Cwmnïau, Blwch Post 4082, Caerdydd CF14 3WE er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu prosesu gan y tîm priodol. Yn achos cwmnïau sy’n ffeilio’n electronig, bydd marciwr tebyg ar y sgrin y mae’n rhaid ichi ei lenwi er mwyn sicrhau y caiff y ffurflen ei throsglwyddo i’r adran briodol. Dydy’r cyfleuster hwn ddim ar gael i PAC a chwmnïau tramor am nad ydyn nhw’n gallu ffeilio’n electronig. Os byddwch yn methu marcio’r dogfennau y byddwch yn eu ffeilio, efallai na fyddwn yn ymwybodol eich bod yn "fuddiolwr adran 243" neu’n swyddog sydd â "diogelwch uwch" a byddwch yn mentro gweld yr wybodaeth warchodedig yn cael ei datgelu i asiantaethau cyfeirio credyd. Dylech roi gwybod am y gofyniad hwn hefyd i unrhyw un sy’n ffeilio ar eich rhan er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i gael eich diogelu. 3. Beth yw effaith cais "adran 1088" llwyddiannus? Pan fydd penderfyniad wedi’i wneud o’ch plaid, bydd Tŷ’r Cwmnïau:
4. Beth os bydd fy nghais yn aflwyddiannus? Os na fydd eich cais yn llwyddo, cewch apelio i’r Uchel Lys - neu yn yr Alban i’r Llys Sesiwn - ar y sail bod y penderfyniad yn anghyfreithlon, yn afresymegol neu’n afresymol, neu ei fod wedi'i wneud ar sail amhriodoldeb neu ei fod fel arall yn torri rheolau cyfiawnder naturiol. Dim ond os cawsoch ganiatâd y llys y cewch apelio. Dylai apêl gael ei gwneud o fewn 21 diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad, neu yn ddiweddarach gyda chaniatâd y llys. Pan ofynnir am ganiatâd o fewn yr 21 diwrnod, byddai angen bodloni’r llys bod rheswm da pam na ellir apelio o fewn y cyfnod hwnnw. Pan ofynnir am ganiatâd y tu allan i’r 21 diwrnod, byddai angen bodloni’r llys bod rheswm da dros fethu gwneud yr apêl mewn pryd a thros oedi wrth wneud cais am ganiatâd. Gall y llys wrthod yr apêl neu ddiddymu’r penderfyniad. Os bydd y llys yn diddymu’r penderfyniad mae’r mater yn cael ei gyfeirio'n ôl at y cofrestrydd. 5. Pa mor hir y mae’r penderfyniad yn para? Mae’r penderfyniad "adran 243" yn ddi-ben-draw oni bai naill ai:
Mae’r penderfyniad "adran 1088" yn parhau tan i’r cofrestrydd wneud penderfyniad i’w ddiddymu. 6. Beth sy’n digwydd pan gaiff y penderfyniad ei ddiddymu? Gall y cofrestrydd ddiddymu penderfyniad ar unrhyw adeg os yw wedi’i fodloni bod y buddiolwr, neu unrhyw berson arall, wedi’i gael yn euog o dramgwydd cyffredinol o ddatganiad ffug o dan adran 1112 o Ddeddf Cwmnïau 2006, a’r ddeddfwriaeth berthynol. Cyn diddymu penderfyniad bydd y cofrestrydd yn anfon hysbysiad at y buddiolwr i ddweud ei fod yn bwriadu diddymu’r penderfyniad. Bydd yr hysbysiad yn eich gwahodd i gyflwyno sylwadau i ddweud pam na ddylai’r penderfyniad gael ei ddiddymu. Cewch 28 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad i ymateb. Os na fyddwch yn ymateb yna caiff penderfyniad ei wneud ar ddiwedd y cyfnod hwnnw a chaiff y cyfeiriad preswyl arferol ei osod ar y ffeil gyhoeddus. Os byddwch yn cyflwyno sylwadau yna fe gân nhw eu cymryd i ystyriaeth wrth bwyso a mesur a ddylai’r penderfyniad gael ei ddiddymu neu beidio. Bydd y cofrestrydd yn rhoi hysbysiad ynghylch ei benderfyniad i’r buddiolwr o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y penderfyniad. 1. Beth fydd yn digwydd i ddogfennau y byddaf yn eu hanfon i Dy'r Cwmnïau? Byddwn yn sganio’r dogfennau a’r ffurflenni y byddwch yn eu cyflwyno i ni er mwyn creu delwedd electronig. Yna, byddwn yn storio’r dogfennau papur gwreiddiol, gan ddefnyddio’r ddelwedd electronig fel y ddogfen waith. Pan fydd cwsmer yn chwilio cofnod y cwmni, atgynhyrchir y ddelwedd electronig ar-lein. Felly, mae’n bwysig bod y ddogfen wreiddiol yn ddarllenadwy, a’i bod yn gallu creu copi clir hefyd. Pan fyddwch yn ffeilio dogfen yn electronig, byddwn yn creu delwedd electronig o’r data a ddarparwyd gennych yn awtomatig. 2. Sut ddylai dogfennau gael eu gosod? Dogfennau sy’n cael eu ffeilio yn electronig Rhaid i ddogfennau sy’n cael eu ffeilio yn electronig gydymffurfio gyda’r manylebion a bennwyd gan y cofrestrydd yn ei reolau ynghylch ffeilio electronig. Cynhwysir y diwyg ar gyfer trefn Software Filing yn y rheolau a gyhoeddir ar y wefan, ac mae’n gwefan yn cynnwys pob diwyg y bydd ei angen arnoch er mwyn ffeilio trwy gyfrwng y dull hwnnw. Dydy’r cyfleuster hwn ddim ar gael ar hyn o bryd i PAC a chwmnïau tramor. Dogfennau papur Yn gyffredinol, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau nodi enw a rhif cofrestru y cwmni, y PAC neu’r cwmni tramor mewn man amlwg. Ceir rhai eithriadau i’r rheol hon, a nodir yn rheolau cyhoeddedig y cofrestrydd. Dylai dogfennau papur fod ar bapur gwyn plaen A4, â gorffeniad di-sglein. Dylai’r testun fod yn ddu, yn eglur, yn ddarllenadwy a dylai’r dwysedd fod yn unffurf. Rhaid i lythrennau a rhifau fod yn eglur ac yn ddarllenadwy er mwyn sicrhau bod modd i ni baratoi copi derbyniol o’r ddogfen. Gallai’r canllawiau canlynol fod o gymorth: Pan fyddwch yn llenwi ffurflen, a fyddech cystal â:
Pan fyddwch yn cwblhau dogfennau eraill, cofiwch:
3. Ble mae modd i mi gael gwybod mwy am hyn? Am arweiniad pellach am ein gofynion argraffu, gweler ein gwefan neu ffoniwch 0303 1234 500. Pennod 10 - Gwybodaeth Bellach 1. Sut ddylwn i gyflwyno gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau? Am fanylion llawn am yr holl ffyrdd o gyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau, yn electronig neu ar bapur, a fyddech cystal â throi at reolau’r cofrestrydd sy’n ymddangos ar ein gwefan. Y ffordd fwyaf diogel o gyflwyno gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw trwy ddefnyddio ein gwasanaethau ffeilio ar-lein. Dydy’r cyfleuster hwn ddim ar gael ar hyn o bryd i PAC a chwmnïau tramor. Os ydych yn anfon dogfennau yn y post, gyda negesydd, gyda’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu Bost Cyfreithiol (yn yr Alban), ac os hoffech gael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu nodyn cydnabod os byddwch yn cynnwys copi o’ch llythyr esboniadol gydag amlen â chyfeiriad a stamp arni er mwyn ei ddychwelyd. Byddwn yn nodi cod bar ar eich copi chi o’ch llythyr, gan nodi’r dyddiad y’i cyflwynwyd, a’i ddychwelyd atoch yn yr amlen a ddarparwyd. Sylwer: nid yw nodyn sy’n cydnabod bod dogfen wedi cyrraedd, yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. Sylwer: nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfennau statudol trwy gyfrwng neges ffacs, PDF neu e-bost. 2. A fydd yn rhaid i mi dalu er mwyn ffeilio dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau? Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi am nifer o’r dogfennau y bydd yn rhaid i chi eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau, ond bydd angen talu ffi ar gyfer rhai ac ni fyddwn yn eu derbyn er mwyn eu cofrestru heb y ffi hon. Am fanylion llawn, dylech droi at ein gwefan. 3. A oes modd i mi ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill? Fel arfer, mae’r gyfraith yn mynnu eich bod yn ffeilio dogfennau a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau yn Saesneg. Ceir eithriadau i’r rheol hon, fel y nodir isod. Gallwch baratoi a chyflwyno dogfennau yn Gymraeg os ydych yn gwmni neu’n PAC sydd â’u swyddfa gofrestredig yng Nghymru. Gall cwmnïau a PACau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os anfonir cyfieithiad Saesneg ardystiedig o’r ddogfen hefyd:
Yn ogystal, gall cwmnïau a PAC ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein canllawiau eraill. 4. Ble mae modd i mi gael ffurflenni a chanllawiau? Mae hwn yn un mewn cyfres o gyhoeddiadau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n cynnig canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth berthynol arall. Mae modd cael pob canllaw a ffurflen statudol, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf o’u cael yw trwy droi at ein gwefan neu ffonio 0303 1234 500. Yn ogystal, gallwch gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau. |
||