Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Bywyd Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig - GPLLP2

Awst 2013 - Fersiwn 4.2

Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006

Fersiwn PDF y tudalen hwn (371KB)


Mae'r canllaw hwn ar gael mewn ffurfiau eraill, gan gynnwys Braille, print mawr a thâp sain.  Am fanylion pellach, trowch at ein gwefan neu anfonwch e-bost at ein hadran ymholiadau neu ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0303 1234 500.

A yw'r canllaw hwn ar eich cyfer chi?

Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:

  • os ydych yn aelod neu'n aelod dynodedig o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
  • os ydych yn cyflawni rôl ymgynghorydd ar gyfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig

Trosolwg

Bydd y canllaw hwn yn dweud wrthych pa wybodaeth y bydd yn rhaid i chi ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau er mwyn i'ch partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) barhau ar y gofrestr gyhoeddus ar ôl iddi gael ei chorffori. Os hoffech newid enw PAC sy'n bodoli eisoes, trowch at ein canllaw Corffori ac Enwau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig.

Mae'r canllaw hwn yn berthnasol i bob PAC sydd wedi cofrestru yn y Deyrnas Unedig (DU) h.y. Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cynnwys

Cyflwyniad
Pennod 1 - Aelodau ac aelodau dynodedig
Pennod 2 - Swyddfa gofrestredig
Pennod 3 - Cofnodion PAC
Pennod 4 - Ffurflen flynyddol
Pennod 5 - Dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg
Pennod 6 - Cofnodion cyfrifeg
Pennod 7 - Cyfrifon ar gyfer yr aelodau
Pennod 8 - Cyfrifon ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau
Pennod 9 - Cyfrifon PACau bach
Pennod 10 - Cyfrifon PACau canolig
Pennod 11 - Cyfrifon PACau segur
Pennod 12 - Eithriadau rhag archwilio ar gyfer is-gwmnïau
Pennod 13 - Archwilwyr
Pennod 14 - Arwystlon
Pennod 15 - Ansawdd Dogfennau 
Pennod 16 - Gwybodaeth Bellach

Mae'r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau mynych ac yn cynnig gwybodaeth ar ffeilio'r mathau mwyaf cyffredin o wybodaeth yn y maes hwn.  Nid ydym wedi drafftio'r canllaw gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg.  Mae'n bosibl y bydd angen gofyn am gyngor proffesiynol arbenigol o dan yr amgylchiadau hynny.

Mae'r brif ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig fel a ganlyn:

Cyflwyniad

Ni fydd y canllaw hwn yn delio â phob digwyddiad a fydd yn codi yn ystod oes eich PAC.  Fodd bynnag, bydd yn rhoi syniad da i chi o'ch cyfrifoldebau, gan esbonio'r gofynion ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau yn ystod oes eich PAC.  Os na fyddwch yn ffeilio dogfennau blynyddol eich PAC, h.y.  ffurflen flynyddol a chyfrifon, gallai'r cofrestrydd gymryd nad yw'r PAC yn parhau gyda'i busnes mwyach neu nad yw'n weithredol mwyach, gan gymryd camau i'w dileu o'r gofrestr. Os bydd y cofrestrydd yn dileu PAC o'r gofrestr, bydd honno'n peidio â bod ac fe ddaw ei hasedion yn eiddo i'r Goron.

Fodd bynnag, pan fo PAC yn weithredol, gallai'r aelodau dynodedig gael eu herlyn oherwydd eu bod nhw yn gyfrifol, ar lefel bersonol, am sicrhau eu bod yn cyflwyno dogfennau blynyddol y PAC mewn pryd.  Mae methu gwneud hynny yn cyfateb â throsedd.  Yn ogystal, ceir cosb sifil awtomatig am gyflwyno cyfrifon yn hwyr.

Trwy gydymffurfio â'ch gofynion blynyddol a sicrhau bod cofnod cyhoeddus eich PAC yn cynnwys y newidiadau diweddaraf o fewn eich PAC, byddwch yn osgoi unrhyw gamau yn cael eu cymryd yn erbyn PAC neu ei haelodau, a bydd hyn yn cynnig y darlun diweddaraf o'ch PAC i chwilwyr.

Mae Penodau 1 - 3 yn nodi'r wybodaeth y bydd yn rhaid i chi ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau pan fydd newidiadau penodol yn digwydd o fewn eich PAC.

Mae Pennod 4 yn sôn am y gofyniad i gyflwyno ffurflen flynyddol.

Mae Penodau 5 - 12 yn nodi sut y gallwch newid eich dyddiad cyfeirnod cyfrifeg, pa fath o gyfrifon y gall PAC eu paratoi a'r gofynion ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Mae Pennod 13 yn rhoi esboniad byr am rôl archwilydd, gan amlinellu'r amgylchiadau pan na fydd angen i PACau benodi archwilydd.

Mae Pennod 14 yn sôn am gofrestru arwystlon.

Mae Penodau 15 - 16 yn rhoi ychydig wybodaeth ddefnyddiol i chi ynghylch sut i gyflwyno'r dogfennau angenrheidiol i Dŷ'r Cwmnïau, gan nodi rhai o'r gofynion cyffredinol ynghylch ansawdd, y bydd yn rhaid i bob dogfen eu bodloni.

Nid yw'r canllaw hwn yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut i newid enw PAC bresennol o ganlyniad i gyfyngiadau penodol a roddir ar enwau PAC.  Mae modd gweld gwybodaeth bellach am newid enw PAC yn ein canllaw Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig Corffori ac Enwau.

Ar ôl darllen y canllaw hwn, os bydd gennych unrhyw amheuon ynghylch eich cyfrifoldebau, dylech ystyried ceisio cyngor proffesiynol gan gyfreithiwr neu gyfrifydd.

Pennod 1 - Aelodau ac aelodau dynodedig

Trafodir y gwahaniaeth rhwng aelod ac aelod dynodedig, a chyfrifoldebau aelodau PAC, yn ein canllaw Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig Corffori ac Enwau.

1.  Beth fydd yn digwydd pan fydd yr aelodau yn newid?

Rhaid i'r PAC gadw cofrestrau sy'n cynnwys manylion am ei holl aelodau.  Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • y gofrestr aelodau
  • chofrestr cyfeiriadau preswyl aelodau

Cedwir y cofrestrau hyn o ddyddiad corffori eich PAC neu, os corfforwyd eich PAC cyn 1 Hydref 2009, o'r dyddiad hwnnw.  Pryd bynnag y bydd manylion aelod yn newid, neu pan fo'r PAC yn penodi neu'n terfynu penodiad aelod, rhaid iddi ddiweddaru'r cofrestrau hyn.

Yna, bydd yn rhaid i'r PAC cyflwyno'r ffurflen briodol yn Nhŷ'r Cwmnïau cyn pen 14 diwrnod i'r newid.  Mae'r ffurflenni priodol fel a ganlyn:

2. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau a'r cyfeiriad preswyl arferol?

Mae'r cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau yn un y gall aelod ei ddefnyddio i dderbyn gohebiaeth gan drydydd partïon mewn perthynas â'r bartneriaeth. Gall y cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau fod yr un fath â chyfeiriad preswyl yr aelod neu gyfeiriad swyddfa gofrestredig y PAC, neu gall fod yn rhywle arall.

Y cyfeiriad preswyl arferol yw cyfeiriad cartref arferol Aeolod y PAC o dan sylw. Mae angen ei ffeilio gyda'r Cofrestrydd o hyd, ond ni fydd ar gael ar y cofnod cyhoeddus i bawb ei weld. Caiff ei gadw ar gofrestr breifat a dim ond sefydliadau a bennir ymlaen llaw gaiff weld y gofrestr hon.

3. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y gofrestr aelodau a'r gofrestr cyfeiriadau preswyl aelodau?

Mae'r gofrestr aelodau yn cynnwys ar gyfer pob aelod sy'n unigolyn:

  • ei enw ef neu hi, ynghyd ag unrhyw gyn-enw
  • cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau (y gellir datgan ei fod yr un fath â "swyddfa gofrestredig y PAC")
  • y wlad neu wladwriaeth neu'r rhan o'r Deyrnas Unedig lle mae ef/hi fel arfer yn byw
  • p'un ai aelod dynodedig ydyw

Ar gyfer aelodau sy'n aelodau corfforaethol neu'n ffyrmiau, bydd y gofrestr aelodau yn cynnwys:

  • ei enw corfforaethol neu enw'r ffyrm
  • ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa
  • yn achos cwmni AEE, ymhle y cafodd ei gofrestru a'i rif cofrestru; fel arall, ffurf gyfreithiol y cwmni neu'r ffyrm a'r gyfraith sy'n ei llywodraethu a, lle bo hynny'n gymwys, ble y cafodd ei gofrestru a'i rif cofrestru
  • p'un ai aelod dynodedig yw'r aelod

Mae'r gofrestr o gyfeiriadau preswyl yr aelodau yn cynnwys cyfeiriad preswyl arferol pob aelod sy'n unigolyn. (Ar yr amod nad yw cyfeiriad cyflwyno-hysbysiadau'r aelod yr un fath â swyddfa gofrestredig y PAC, yna gall y cofnod fod i'r perwyl bod y cyfeiriad preswyl arferol yr un fath â'r cyfeiriad cyflwyno hysbysiadau).

Rhaid cadw'r gofrestr aelodau ar gael i'w harchwilio; rhaid peidio â datgelu'r wybodaeth sydd ar y gofrestr o gyfeiriadau preswyl yr aelodau. Dim ond i gyfathrebu â'r aelod ac i gyflwyno gwybodaeth i Dŷ'r Cwmnïau er mwyn diweddaru'r cofnodion sy'n cael eu cadw yno y gall y PAC ddefnyddio gwybodaeth y gofrestr hon. Ni all y PAC ddefnyddio'r wybodaeth hon at unrhyw ddiben arall oni bai bod y llys yn mynnu.

4. Beth fydd yn digwydd i'r cyfeiriadau preswyl a roddir i Dŷ'r Cwmnïau?

Ni fydd cyfeiriadau preswyl yn ymddangos yn y cofnod cyhoeddus ar yr amod eich bod yn eu nodi yn rhan gywir y ffurflenni penodi neu newid manylion.  Ar gyfer ffurflenni papur, bydd hon yn dudalen ar wahân; ar gyfer trefniadau ffeilio electronig, (pan ddaw'r drefn hon ar gael i PACau bydd y rhain yn feysydd cyfeiriad ychwanegol.

Dim ond i Asiantaethau Cyfeirio Credyd ac Awdurdodau Cyhoeddus Penodedig y bydd Tŷ'r Cwmnïau yn darparu gwybodaeth am gyfeiriadau preswyl. Mae modd gweld gwybodaeth bellach yn ein canllaw ynghylch Cyfyngu ar datgelu'ch cyfeiriad os ydych mewn perygl difrifol.

5. A oes modd i mi newid y statws sy'n dynodi bod holl aelodau'r PAC yn aelodau dynodedig neu mai aelodau penodedig yn unig sy'n rhai dynodedig?

Gallwch ddiwygio'r sefyllfa ar unrhyw adeg.  Os dewisoch fod yr holl aelodau yn aelodau dynodedig ar gorffori, neu ar ddyddiad wedi hynny, ond eich bod yn dymuno i aelodau penodedig yn unig fod yn aelodau dynodedig erbyn hyn, bydd angen i chi hysbysu Tŷ'r Cwmnïau o'r newid hwn trwy ddefnyddio LL DE01c.

Os dewisoch y byddai aelodau penodedig yn aelodau dynodedig yn unig pan gorfforwyd y PAC, neu ar ddyddiad wedi hynny, ond eich bod yn dymuno i'r holl aelodau fod yn aelodau dynodedig nawr, bydd angen i chi hysbysu Tŷ'r Cwmnïau o'r newid trwy ddefnyddio LL DE01c.  Bydd angen cyflwyno gwybodaeth ynghylch y ffaith bod manylion aelod yn newid gyda hyn, ar LL CH01c neu LL CH02c ar gyfer unrhyw aelod nad yw'n aelod dynodedig eisoes.  Bydd angen i'r aelod hwnnw nodi eu bod yn rhoi eu caniatâd iddynt fod yn aelod dynodedig.

Ni fydd aelod dynodedig nad yw'n aelod mwyach, yn aelod dynodedig mwyach, a bydd hyn yn digwydd yn awtomatig.

Os bydd nifer yr aelodau dynodedig yn gostwng i un, neu ddim un, am ba reswm bynnag, bydd y gyfraith yn barnu bod yr holl aelodau yn aelodau dynodedig.  Fodd bynnag, ni fydd hyn yn gwaredu'ch gofynion ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Mae gan y cofrestrydd Gynllun o'r enw PROOF (PROtected On-line Filing). Mae'r cynllun hwn yn cynnig diogelwch ychwanegol wrth ddarparu manylion ynghylch aelodau a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig ar gyfer dogfennau a gyflwynir ar ffurf electronig:

Mae aelodau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig yn cyflawni rôl bwysig mewn PAC. Mae ganddynt y grym i brynu ac i ymrwymo i gytundebau credyd ar ran y PAC. Yn yr un modd, mae cyfeiriad y swyddfa gofrestredig yn bwysig gan mai dyma'r cyfeiriad yr anfonir yr holl ohebiaeth swyddogol iddo.

Weithiau, defnyddir cofnodion a gedwir yn Nhŷ'r Cwmnïau er mwyn archwilio cyfreithlondeb PAC a'i haelodau cyn y rhoddir credyd neu fenthyciadau iddo. Felly, mae'n bwysig bod y cofnodion yn gywir. Mae PACau yn agored i dwyll os bydd y bobl anghywir yn cofnodi eu bod yn aelodau PAC neu os bydd cyfeiriad swyddfa gofrestredig ffug yn cael ei ffeilio.

Er mwyn trechu twyllwyr sy'n dynwared aelodau go iawn, mae Tŷ'r Cwmnïau yn cynnig system hollol electronig a diogel i PACau, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, er mwyn eu galluogi i hysbysu unrhyw newidiadau o ran yr aelodau a newidiadau i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig. Os byddwch yn dewis hysbysu'r newidiadau hyn ar ffurf electronig yn unig, byddant yn cael eu diogelu gan godau electronig ac ni fyddwn yn derbyn hysbysiadau a gyflwynir gan eich PAC mewn unrhyw ffurf arall.
Gallwch ymuno â'r cynllun yn electronig, gan ddefnyddio cod dilysu'r PAC i gyrchu'r tudalennau gwe priodol ar ein gwasanaeth WebFiling. Cyn ymuno, mae'n rhaid ichi gytuno hefyd ag amodau a thelerau'r cynllun er mwyn sicrhau mai dim ond newidiadau i fanylion aelodau neu newidiadau i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig a gyflwynir trwy gyfrwng y dull electronig diogel a fydd yn cael eu derbyn gan Dŷ'r Cwmnïau, ac nid rhai a gyflwynir ar bapur.

Mae'r telerau a'r amodau ar gael oddi ar ein gwefan neu drwy ffonio 0303 123 4500. Mae'r gwasanaeth hwn yn wasanaeth gwirfoddol; gallwch roi'r gorau iddo ar unrhyw adeg, a bydd Tŷ'r Cwmnïau yn mynd yn ôl i drefniant derbyn hysbysiadau gan eich PAC a gyflwynir ar ffurf electronig neu ar ffurflenni papur unwaith eto.

Pennod 2 - Swyddfa Gofrestredig

1. Sut mae modd i mi newid fy swyddfa gofrestredig?

Os bydd eich PAC yn dymuno newid cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, rhaid i chi hysbysu Tŷ'r Cwmnïau o'r cyfeiriad newydd ar LL AD01cSylwer na fydd cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig newydd yn dod i rym nes i ni ei nodi yn ein cronfa ddata.

Mae Tŷ'r Cwmnïau yn defnyddio cronfa ddata gyfeiriadau Swyddfa'r Post i gadarnhau cyfeiriadau.  Er mwyn osgoi unrhyw oedi, a fyddech cystal â sicrhau eich bod yn defnyddio'r cyfeiriad cywir, gan gynnwys y cod post llawn yn yr holl ffurflenni a dogfennau a anfonir i'w cofrestru.

Cofiwch fod yn rhaid i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig fod yn yr un sefyllfa â'r sefyllfa y corfforwyd y PAC ynddi e.e.  rhaid i swyddfa gofrestredig PAC a gofrestrwyd yn a Lloegr  a Chymru fod yn a Lloegr a Chymru, nid yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.

Pennod 3 - Cofnodion PAC

1.  Pa gofnodion PAC y bydd angen i mi sicrhau eu bod ar gael i'w harchwilio?

Rhaid i PAC gadw a chynnal cofrestr o'i haelodau. Os bydd y PAC yn dosbarthu dyledebau, rhaid iddi gadw cofrestr dyledebwyr ac os bydd yn ymrwymo i arwystl, rhaid iddi gadw cofrestr arwystlon, ynghyd â'r offeryn sy'n creu'r arwystl.

Hefyd, rhaid i'r holl gofrestrau hyn fod ar gael i'w harchwilio.

Yn ogystal, rhaid i PAC gynnal cofrestr o gyfeiriadau preswyl aelodau, ond ni fydd modd i'r cyhoedd archwilio hon.  Rhoddir sylw i hyn ym Mhennod 1, cwestiwn 2.

2.  Ble mae modd i mi gadw'r cofnodion hyn?

Gallwch gadw'r holl gofnodion hyn, neu unrhyw rai ohonynt, yn swyddfa gofrestredig y PAC.  Gall y PAC ddewis lleoliad amgen er mwyn i'r cofnodion hyn fod ar gael i'w harchwilio.  Dim ond un lleoliad amgen i'r swyddfa gofrestredig y bydd modd i'r PAC ei feddu ar unrhyw adeg.  Rhaid i'r lleoliad hwnnw fod yn yr un sefyllfa â'r swyddfa gofrestredig, e.e.  mae modd i PAC wedi'i chofrestru ynLloegr a Chymru fod â lleoliad archwilio amgen yn Lloegr a Chymru, ond nid yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon. Gall y PAC ddewis cadw rhai cofnodion yn ei swyddfa gofrestredig a rhai yn ei lleoliad archwilio amgen unigol, ar yr amod bod yr holl gofnodion sydd o fewn math arbennig yn cael eu cadw gyda'i gilydd.

3.  Beth fydd angen i mi ei gyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau?

Os na fyddwch yn cadw'ch holl gofnodion yn swyddfa gofrestredig y PAC, bydd angen i chi ein hysbysu o gyfeiriad eich lleoliad archwilio amgen, neu unrhyw newid i'r cyfeiriad hwnnw yn LL AD02c.  Yn ogystal, bydd angen i chi nodi pa gofnodion yr ydych yn eu cadw yno, yn LL AD03c a phryd y bydd unrhyw rai o'r cofnodion yn cael eu dychwelyd i'r swyddfa gofrestredig, yn LL AD04c.

Pennod 4 - Ffurflen Flynyddol

1.  Pa PACau y mae'n rhaid iddynt anfon ffurflen flynyddol i Dŷ'r Cwmnïau?

Rhaid i bob PAC gyflwyno ffurflen flynyddol i Dŷ'r Cwmnïau cyn pen 28 diwrnod i'w dyddiad diwallu.  Mae aelodau dynodedig PAC yn gyfrifol am sicrhau:

  • eu bod yn cyflwyno'r ffurflen flynyddol i Dŷ'r Cwmnïau
  • bod yn cynnig darlun cywir o'r PAC ar y dyddiad diwallu

Os na fyddwch yn cyflwyno ffurflen flynyddol, gallai'r cofrestrydd gymryd nad yw'ch PAC yn parhau gyda'i busnes mwyach neu nad yw'n weithredol mwyach, gan gymryd camau i'w dileu o'r gofrestr.

Cofiwch:  Mae peidio cyflwyno'r ffurflen flynyddol cyn pen 28 diwrnod i'r dyddiad diwallu yn cyfateb â throsedd, ac fe allai'r PAC a'r aelodau dynodedig gael eu herlyn am ei chyflawni.

2.  Beth yw ffurflen flynyddol?

Mae ffurflen flynyddol yn cynnig braslun o'r wybodaeth berthnasol ar y dyddiad diwallu.  Mae'n ddogfen ar wahân i gyfrifon blynyddol PAC.  Rhaid i ffurflen flynyddol gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • enw'r PAC
  • ei rhif cofrestru
  • dyddiad diwedd y cyfnod a fodlonir gan y ffurflen flynyddol
  • cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig
  • y cyfeiriad lle y cedwir cofnodion y PAC os nad ydynt yn cael eu cadw yn y swyddfa gofrestredig
  • manylion holl aelodau'r PAC (corfforaethol neu unigolion) a ph'un ai aelodau dynodedig ydynt

3.  Beth yw'r dyddiad diwallu?

Hwn yw'r dyddiad pan fydd yn rhaid i'r holl wybodaeth mewn ffurflen flynyddol fod yn gywir.  Fel arfer, bydd y dyddiad diwallu yn cyfateb â blwyddyn ar ôl:

  • dyddiad corffori y PAC
  • ddyddiad diwallu y ffurflen flynyddol flaenorol a gofrestrwyd yn Nhŷ'r Cwmnïau

4.  A oes modd i mi newid dyddiad diwallu fy ffurflen flynyddol?

Oes, mae modd i chi ei newid i ddyddiad cynharach na'r dyddiad diwallu disgwyliedig, ond nid i ddyddiad hwyrach.  Os byddwch yn dewis dyddiad diwallu cynharach, rhaid i ni ei gael cyn pen 28 diwrnod i'r dyddiad hwnnw.  Gallwch weld dyddiad diwedd y cyfnod y bydd Tŷ'r Cwmnïau yn disgwyl i'ch ffurflen flynyddol ei ddiwallu, trwy ddefnyddio gwasanaeth WebCheck ar ein gwefan. (gwasanaeth Saesneg yn unig)

5.  Llenwi'r ffurflen flynyddol

Rhaid i'r holl fanylion a nodir gennych yn y ffurflen flynyddol gadarnhau'r manylion a gedwir eisoes yng nghofnod cyhoeddus Tŷ'r Cwmnïau ar y dyddiad diwallu.  Ni chewch ddefnyddio'r ffurflen flynyddol i newid unrhyw fanylion yn y cofnod cyhoeddus.  I newid y manylion hyn, bydd yn rhaid i chi gyflwyno'r ffurflen berthnasol (ffurflenni perthnasol) gyda'ch ffurflen flynyddol.

  • newid cyfeiriad swyddfa gofrestredig - LL AD01c
  • penodi aelod PAC - LL AP01c neu LL AP02c
  • newid manylion, er enghraifft, cyfeiriad aelod - LL CH01c neu LL CH02c
  • terfynu penodiad aelod - LL TM01c
  • hysbysu neu newid y cyfeiriad lle y cedwir cofnodion y PAC er mwyn iddynt fod ar gael i'w harchwilio - LL AD02c
  • hysbysiad sy'n nodi y cedwir cofnodion PAC mewn cyfeiriad amgen neu eu bod yn cael eu dychwelyd i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig - LL AD03c neu LL AD04c

Bydd Tŷ'r Cwmnïau yn gwrthod eich ffurflen flynyddol os na fydd yn cynnwys y wybodaeth y gofynnwyd amdani.  Fodd bynnag, pan fo'r wybodaeth yn gyflawn ond nad yw'n cyfateb gyda'r wybodaeth yn ein cofnodion, gallwn ddewis derbyn y ffurflen flynyddol, ond gan nodi nad yw'n cyd-fynd â'r gofrestr gyhoeddus. Am wybodaeth bellach, trowch at ein canllaw am Reolau a Phwerau'r Cofrestrydd.

6. A oes ffi am ffeilio'r ffurflen flynyddol?

Oes.. Codir ffi flynyddol o £13 i'r rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau Software Filing neu WebFiling neu £40 am brosesu dogfennau papur a delir pan fyddwch yn ffeilio'r ffurflen flynyddol.  Dylai PACau sy'n ffeilio ffurflen flynyddol bapur wneud y siec yn daladwy i ‘Tŷ'r Cwmnïau', gan ysgrifennu rhif y PAC ar y cefn.

7.A ellir ffeilio unrhyw wybodaeth arall gyda'r ffurflen flynyddol?

Rhaid i rai PACau gyflwyno gwybodaeth am eu hymgymeriadau cysylltiedig i gyd-fynd â'r ffurflen flynyddol. Mae hyn yn wir mewn achosion lle byddai angen cyflwyno gormod o nodiadau i gyd-fynd â'r cyfrifon er mwyn cyflwyno'r wybodaeth angenrheidiol. Rhaid i gyfrifon ddatgan y caiff y wybodaeth ei chyflwyno'n gyflawn gyda'r ffurflen flynyddol nesaf.

Pennod 5 - Dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg

1.  Beth yw blwyddyn ariannol?

Fel arfer, mae blwyddyn ariannol yn gyfnod o 12 mis y bydd yn rhaid i chi baratoi datganiadau ariannol blynyddol yn ei gylch. Rhaid i bob PAC baratoi cyfrifon blynyddol sy'n adrodd am berfformiad a gweithgareddau'r PAC yn ystod y flwyddyn ariannol. Bydd hyn yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl i'r flwyddyn ariannol flaenorol ddod i ben neu, yn achos PAC newydd, ar y dyddiad corffori.

Pennir blynyddoedd ariannol trwy wneud cyfeiriad at gyfnod cyfeirnod cyfrifeg.  Bydd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg yn dod i ben ar y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg. Gall PACau ddewis rhwng paratoi eu cyfrifon hyd at y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg neu, os yw'n fwy cyfleus, at ddyddiad sydd hyd at saith diwrnod y naill ochr neu'r llall i'r dyddiad hwn heb ffeilio ffurflen LLAA01c.

2.  Sut y pennir y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg?

Yn achos pob PAC newydd, mae'r ddeddfwriaeth yn pennu'r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyntaf fel diwrnod olaf y mis pan fo'r PAC yn  dathlu ei ben-blwydd cyntaf. Bydd y dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg dilynol yn digwydd ar yr un dyddiad bob blwyddyn yn awtomatig.  Er enghraifft, os corfforwyd PAC ar 1 Hydref 2009, ei dyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyntaf fyddai 31 Hydref 2010 a 31 Hydref bob blwyddyn wedi hynny.

3.  A oes modd i mi newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg?

Oes, gallwch newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg presennol neu'r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yn union cyn hynny trwy ymestyn neu fyrhau'r cyfnod.  Er mwyn gwneud hyn, rhaid i chi hysbysu Tŷ'r Cwmnïau o'r ffaith bod y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yn newid yn LL AA01c.  Rhaid i chi gyflwyno dyddiad cyfeirnod cyfrifeg derbyniol cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio'r cyfrifon ar gyfer y cyfnod yr ydych yn dymuno'i newid.  Mewn geiriau eraill, os bydd Tŷ'r Cwmnïau yn disgwyl gweld cyfrifon am gyfnod cyfeirnod cyfrifeg penodol a'u bod yn mynd yn orddyledus, mae'n rhy hwyr i chi ddweud eich bod yn dymuno newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg.

Fel arfer, bydd gan PACau 9 mis i gyflwyno'u cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau ar ôl diwedd pob cyfnod cyfeirnod cyfrifeg.  Mae'r cyfnod a ganiateir er mwyn cyflwyno cyfrifon cyntaf PAC ac er mwyn newid ei dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yn wahanol, a byddwn yn esbonio hyn ym Mhennod 8.

4. A oes unrhyw gyfyngiadau ynghylch newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg?

Mae modd newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg trwy fyrhau cyfnod cyfeirnod cyfrifeg mor aml ag y byddwch yn ei ddymuno, ac am gymaint o fisoedd ag y byddwch yn ei ddymuno.

Fodd bynnag, ceir cyfyngiadau ynghylch ymestyn cyfnodau cyfeirnod cyfrifeg:

  • ni chewch ymestyn cyfnod er mwyn iddo fod dros 18 mis o ddyddiad cychwyn y cyfnod cyfrifeg, oni bai bod y PAC yn mynd i ddwylo gweinyddydd
  • ni chewch ei ymestyn fwy nag unwaith o fewn cyfnod o 5 mlynedd oni bai:
    • bod y PAC yn nwylo gweinyddydd
    • fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cymeradwyo hyn
    • fod y PAC yn cymryd camau i sicrhau bod ei dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yn cyd-fynd â dyddiad cyfeirnod cyfrifeg is-gwmni neu riant-ymgymeriad dan gyfraith y DU neu wladwriaeth arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)

Defnyddiwch y cyswllt hwn i weld rhestr o'r gwledydd o fewn yr AEE.

5.  A oes unrhyw gyfyngiadau ychwanegol sy'n berthnasol wrth newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyntaf PAC?

Nac oes.  Mae'r cyfyngiadau ynghylch newid unrhyw gyfnod yr un fath â'r rhai a ddisgrifiwyd yn y cwestiwn blaenorol.

Pan fyddwch yn ymestyn eich cyfnod cyfrifeg cyntaf i'r uchafswm o 18 mis, dylech nodi bod yn rhaid i chi ystyried y dyddiad corffori fel diwrnod cyntaf y cyfnod.  Mae sawl PAC yn gwneud camgymeriad trwy ychwanegu 6 mis at ddiwedd y cyfnod ac mewn rhai achosion, gall hyn ymestyn y cyfnod y tu hwnt i 18 mis.

Pennod 6 - Cofnodion Cyfrifeg

1.  A oes yn rhaid i bob PAC gadw cofnodion cyfrifeg?

Oes, rhaid i bob PAC gadw cofnodion cyfrifeg sy'n galluogi'r aelodau i baratoi cyfrifon sy'n cydymffurfio â gofynion y ddeddfwriaeth.

2.  Beth y mae'n rhaid i gofnodion cyfrifeg eu cynnwys?

Rhaid i gofnodion cyfrifeg gynnwys yr elfennau canlynol yn arbennig:

  • cofnodion sy'n dangos yr holl arian y mae'r PAC wedi'i dderbyn a'i wario
  • chofnod o'r asedau a'r rhwymedigaethau

Yn ogystal, pan fo busnes y PAC yn ymwneud â delio gyda nwyddau, rhaid i'r cofnodion gynnwys:

  • datganiadau ynghylch y stoc y mae'r PAC yn ei ddal ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol
  • yr holl ddatganiadau derbyniadau stoc yr ydych wedi manteisio arnynt er mwyn cymryd neu baratoi unrhyw ddatganiadau stoc
  • datganiad o'r holl nwyddau a werthwyd ac a brynwyd, ac eithrio trwy gyfrwng masnachu adwerthol arferol.  Dylai hwn restru'r nwyddau, y prynwyr a'r gwerthwyr

Rhaid i riant-PAC gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw is-ymgymeriad yn cadw cofnodion cyfrifeg digonol er mwyn sicrhau bod aelodau'r rhiant-PAC yn gallu paratoi cyfrifon sy'n cydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf Cwmnïau, gan gynnwys pan fo'r cyfrifon yn cael eu paratoi trwy ddefnyddio Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol (IAS)

3. Ble mae'n rhaid i PAC gadw ei chofnodion cyfrifeg?

Rhaid i PAC gadw ei chofnodion cyfrifeg yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu mewn man sy'n addas ym marn yr aelodau.  Rhaid i'r cofnodion fod ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r PAC ar unrhyw adeg.

Os bydd y PAC yn cadw'r cofnodion mewn man y tu allan i'r DU, rhaid iddi anfon cyfrifon a ffurflenni, sy'n cynnwys manylion y busnes y deliwyd ag ef yn y cofnodion cyfrifeg, o leiaf bob chwe mis, a'u cadw yn y DU.  Rhaid i'r cyfrifon a'r ffurflenni hynny ddatgelu'r sefyllfa ariannol a galluogi'r aelodau i baratoi cyfrifon sy'n cydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf Cwmnïau, gan gynnwys lle y caiff y cyfrifon eu paratoi gan ddefnyddio Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol (IAS).

4.  Am ba mor hir y bydd yn rhaid i PAC gadw ei chofnodion?

Rhaid i PAC gadw'i chofnodion cyfrifeg am 3 blynedd o'r dyddiad y'u paratowyd. 

Pennod 7 - Cyfrifon ar gyfer yr aelodau

1.  Pwy sy'n gyfrifol am baratoi cyfrifon?

Rhaid i aelodau pob PAC baratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol.  Gelwir y rhain yn gyfrifon unigol.  Yn ogystal, rhaid i riant-PAC baratoi cyfrifon grŵp (ond i riant-PACau a ddiffinnir fel rhai bach, mae hyn yn ddewisol).  Mae pennod 9 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am PACau bach.

Gall is-gwmnïau segur hawlio eithriad rhag paratoi neu ffeilio eu cyfrifon o dan amgylchiadau penodol - gweler pennod 11

2.  Beth mae set o gyfrifon yn ei gynnwys?

Yn gyffredinol, rhaid i gyfrifon gynnwys:

  • cyfrif elw a cholled
  • mantolen wedi'i llofnodi gan aelod dynodedig ar ran y bwrdd ac enw'r aelod hwnnw wedi ei brintio arni
  • nodiadau i'r cyfrifon
  • chyfrifon grŵp (pan fo hynny'n briodol)

A rhaid anfon adroddiad archwilwyr ariannol sy'n nodi enw llawn yr archwilydd ynghyd â llofnod yr archwilydd wedi ei ddyddio (oni bai bod y PAC wedi cael ei heithrio rhag archwiliad) gyda'r cyfrifon.

3. Pa gyfnod y mae'n rhaid i'r cyfrifon ddelio ag ef?

Bydd cyfrifon cyntaf PAC yn delio â'r cyfnod a gychwynnodd ar y dyddiad corffori, nid y diwrnod masnachu cyntaf.  Byddant yn dod i ben ar y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg neu hyd at 7 diwrnod y naill ochr i'r dyddiad hwnnw.

Bydd cyfrifon dilynol yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y daeth y cyfrifon blaenorol i ben, ac yn dod i ben ar y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg neu hyd at 7 diwrnod y naill ochr iddo.  Byddwn yn cynnig esboniad am ddyddiadau cyfeirnod cyfrifeg a sut i'w newid ym mhennod 5.

4. Pwy y mae'n rhaid iddynt gael copi o'r cyfrifon?

Rhaid i bob PAC anfon copi o'i chyfrifon blynyddol a'i hadroddiad archwilwyr ariannol (pan fo hynny'n berthnasol) ar gyfer pob blwyddyn ariannol at:

  • holl aelodau'r PAC
  • holl ddyledebwyr y PAC

Yn ogystal, rhaid i'r PAC anfon y cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau. Mae Pennod 8 yn cynnwys gwybodaeth bellach am hyn.

Ni fydd hyn yn berthnasol i rai is-gwmnïau segur sydd wedi eu heithrio rhag paratoi cyfrifon - trowch at bennod 11 am ragor o wybodaeth.

5.  A oes modd i PAC gytuno i ddefnyddio gwefan fel ffordd o ddangos y cyfrifon i'r aelodau?

Oes.  Gall aelodau ddod i gytundeb yn fewnol y gall PAC anfon neu ddarparu dogfennau, gan gynnwys cyfrifon, trwy eu cyhoeddi ar ei gwefan. 

6.  Pwy sy'n gallu cymeradwyo a llofnodi cyfrifon?

Rhaid i aelodau'r PAC gymeradwyo'r cyfrifon gan sicrhau bod aelod dynodedig yn eu llofnodi ar eu rhan a rhaid hefyd printio'i enw/henw uwchben y llofnod. Rhaid i'r enw printiedig a'r llofnod fod ar y fantolen, ac mae'n rhaid i unrhyw ddatganiad ynghylch y cyfrifon sy'n cael eu paratoi dan y gyfundrefn ar gyfer PACau bach, ymddangos uwchben y rhai hyn.

Os bydd yn rhaid i'r PAC atodi adroddiad archwilydd ariannol wrth y cyfrifon, rhaid i'r adroddiad nodi enw'r archwilydd.

Pan fo'r archwilydd yn gwmni, rhaid i adroddiad yr archwilydd nodi enw'r archwilydd ac enw'r unigolyn a'i llofnododd fel uwch-archwilydd statudol ar ran y cwmni.

Sylwer:  Ni all Tŷ'r Cwmnïau dderbyn enw wedi'i deipio fel llofnod ar y cyfrifon.

7. A oes unrhyw eithriadau i'r rheol ynghylch nodi enw'r archwilydd ar yr adroddiad archwilydd ariannol neu'r adroddiad archwilydd ariannol arbennig?

Oes. Mae cwestiwn 6 ym Mhennod 13 ynghylch Archwilwyr yn cynnwys rhagor o fanylion.

Pennod 8 - Cyfrifon ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau

1.  A yw'r cyfrifon sy'n cael eu ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau yn wahanol i'r cyfrifon sy'n cael eu paratoi ar gyfer yr aelodau?

Gall yr aelodau dynodedig (sy'n gyfrifol am ffeilio cyfrifon yn Nhŷ'r Cwmnïau), cyflwyno copi o'r cyfrifon sydd eisoes wedi cael eu paratoi ar gyfer yr aelodau. Fodd bynnag, gall PACau bach a chanolig cyflwyno fersiwn cryno o'r cyfrifon hynny, sy'n cynnwys llai o fanylder, trwy gyfuno eitemau penodol. Caiff PACau segur sy'n gymwys gyflwyno cyfrifon blynyddol symlach fyth i Dŷ'r Cwmnïau. Mae gwybodaeth bellach i'w gweld ym Mhennod 11 ar PACau Segur.

2.  A oes yn rhaid i bob PAC ffeilio'u cyfrifon yn Nhŷ'r Cwmnïau?

Rhaid i bob PAC gyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau.

Gall is-gwmni segur hawlio eithriad rhag paratoi neu ffeilio ei gyfrifon o dan rai amgylchiadau - am ragor o fanylion trowch at bennod 11.

3.A oes angen i mi ffeilio fy nghyfrifon gyda HMRC a chyrff rheoleiddio eraill o hyd?

Oes.  Mae'r cyfrifon sy'n cael eu cyflwyno yn Nhŷ'r Cwmnïau yn unol â Deddf Cwmnïau 2006, fel y mae'n berthnasol i PACau.  Rhaid i chi ffeilio gyda chyrff rheoleiddio eraill o hyd, yn unol â'u gofynion a'u terfynau amser nhw ar gyfer ffeilio.

4.  A fydd Tŷ'r Cwmnïau yn cynnig cyngor technegol am gyfrifon?

Na.  Dim ond arweiniad cyffredinol bydd modd i ni ei roi, nid cyngor technegol ynghylch materion cyfreithiol neu faterion cyfrifeg penodol.  Mae'ch cyfrifon yn rhwym i ofynion cyfreithiol ac nid ydym yn gymwys i gynnig cyngor arbenigol.  Efallai y byddwch yn dymuno ystyried ymgynghori â chyfrifydd os bydd angen cyngor o'r math hwn arnoch.

5.  Faint o amser fydd gan yr aelodau dynodedig i ffeilio cyfrifon cyntaf y PAC?

Os ydych yn ffeilio cyfrifon cyntaf y PAC a bod y cyfrifon hynny yn delio â chyfnod o dros 12 mis, rhaid i chi eu cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau:

  • cyn pen 21 mis i'r dyddiad corffori
  • 3 mis i ddiwedd y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg, pa un bynnag yw'r hiraf

Caiff y terfyn amser ar gyfer cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau ei gyfrifo i'r union ddiwrnod.  Er enghraifft, bydd PAC a gorfforwyd ar 1 Ionawr 2011 ac y pennwyd 31 Ionawr yn ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddi, yn cael tan ganol nos ar 1 Hydref 2012 (21 mis o'r dyddiad corffori) er mwyn cyflwyno'i chyfrifon, nid 31 Hydref

Gallwch weld y dyddiad y bydd Tŷ'r Cwmnïau yn disgwyl i'ch cyfrifon gael eu cyflwyno trwy ddefnyddio gwasanaeth WebCheck ar ein gwefan. (gwasanaeth Saesneg yn unig).

Os bydd y cyfrifon cyntaf yn delio â chyfnod o 12 mis neu lai, bydd y cyfnod arferol a ganiateir ar gyfer cyflwyno cyfrifon yn berthnasol.

Yn achos cyfnodau cyfrifeg a ddechreuodd ar 6 Ebrill 2008 neu ers hynny, dylid nod bod y cyfnod ar gyfer ffeilio cyfrifon a ddisgrifir uchod yn berthnasol hefyd i gyfrifon a baratowyd yn unol â Deddf Cwmnïau 1985 neu Orchymyn Gogledd Iwerddon 1986 fel y bo'n berthnasol i PACau.

6.  Faint o amser fydd gennyf i ffeilio fy nghyfrifon fel arfer?

Oni bai eich bod yn ffeilio cyfrifon cyntaf y PAC, yr amser a ganiateir er mwyn cyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau fel arfer, yw 9 mis o'r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg. Yn achos cyfnodau cyfrifeg a ddechreuodd ar 6 Ebrill 2008 neu ers hynny, mae hwn yn berthnasol hefyd i gyfrifon a baratowyd yn unol â Deddf Cwmnïau 1985 neu Orchymyn Gogledd Iwerddon 1986 fel y bo'n berthnasol i PACau.

Dylech fod yn ymwybodol o'r diffiniad ar gyfer cyfnod o fisoedd mewn cysylltiad â ffeilio cyfrifon.

Bydd cyfnod o fisoedd ar ôl dyddiad penodedig yn dod i ben ar y dyddiad cyfatebol yn y mis priodol.  Er enghraifft, bydd PAC y pennwyd 8 Ebrill yn ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddi, yn cael tan ganol nos ar 8 Ionawr y flwyddyn ddilynol i gyflwyno'i chyfrifon, nid 31 Ionawr.

Ni fydd hyn yn berthnasol os mai diwrnod olaf y mis yw'ch dyddiad cyfeirnod cyfrifeg.  Yn yr achos hwn, byddai'r cyfnod a ganiateir er mwyn ffeilio cyfrifon yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis priodol.  Er enghraifft, bydd PAC y pennwyd 30 Ebrill yn ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg iddi, yn cael tan ganol nos ar 31 Ionawr y flwyddyn ddilynol er mwyn cyflwyno'i chyfrifon, nid 30 Ionawr.

7. Os byddaf yn byrhau fy nghyfnod cyfeirnod cyfrifeg, a fydd yn rhaid i mi ffeilio erbyn y terfyn amser gwreiddiol o hyd?

Na.  Pan fydd PAC yn byrhau ei chyfnod cyfrifeg, y terfyn amser newydd ar gyfer ffeilio fydd yr hiraf o'r ddau ddewis canlynol yn awtomatig;

  • 9 mis o'r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg newydd
  • 3 mis o ddyddiad derbyn yr hysbysiadsy'n newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg ar Ffurflen LL AA01c

8. A oes modd i mi wneud cais am amser ychwanegol er mwyn ffeilio?

Oes. Os oes rheswm arbennig dros wneud hynny, gallwch wneud cais am ymestyn y cyfnod er mwyn cyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau; er enghraifft, os oes rhywbeth annisgwyl wedi digwydd, a oedd y tu hwnt i reolaeth y PAC a'i harchwilwyr.

Rhaid i chi wneud y cais a'i gyflwyno cyn y terfyn amser arferol ar gyfer ffeilio.  Rhaid iddo gynnwys esboniad llawn o'r rhesymau dros ymestyn y cyfnod, a hyd yr estyniad y gofynnir amdano. 

Gallwch wneud hyn trwy anfon e-bost atom neu ysgrifennu at:

Ar gyfer PACau wedi'u corffori yn Lloegr a Chymru, ysgrifennwch at: Ar gyfer PACau wedi'u corffori yn yr Alban, ysgrifennwch at: Ar gyfer PACau wedi'u corffori yng Ngogledd Iwerddon, ysgrifennwch at:

Tŷ'r Cwmnïau 
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

DX 33050 Caerdydd 1

The Registrar of Companies
Companies House
Fourth Floor
Edinburgh Quay 2
139 Fountainbridge
Edinburgh EH3 9FF
or
LP - 4 Edinburgh 2 (Legal Post)
or

DX ED235 Edinburgh 1
Companies House
Second Floor
The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast
Northern Ireland BT2 8BG
or
DX 481 N.R. Belfast 1

9.  Beth os bydd y PAC yn cyflwyno'r cyfrifon yn hwyr?

Mae methiant i gyflwyno cyfrifon yn brydlon yn dramgwydd troseddol. Hefyd mae'r gyfraith yn pennu cosb sifil i'r PAC am ffeilio cyfrifon yn hwyr. Bydd y swm yn ddibynnol ar ba mor hwyr y bydd y cyfrifon yn cyrraedd. Mae modd gweld rhagor o wybodaeth yn ein canllaw Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig Cosbau Ffeilio Hwyr.

10.  Beth os bydd y terfyn amser ar gyfer ffeilio yn syrthio ar ddydd Sul neu ar Ŵyl y Banc?

Os bydd terfyn amser ar gyfer ffeilio yn syrthio ar ddydd Sul neu ar Ŵyl y Banc, mae'r gyfraith yn mynnu bod yr aelodau dynodedig yn ffeilio'r cyfrifon erbyn y dyddiad hwnnw o hyd. Er mwyn osgoi cael cosb, dylech sicrhau eich bod yn anfon cyfrifon derbyniol mewn pryd, er mwyn iddynt gyrraedd cyn y terfyn.

Y dyddiad pwysig yw'r dyddiad pan fyddwch yn cyflwyno cyfrifon derbyniol i Dŷ'r Cwmnïau, sy'n bodloni'r gofynion cyfreithiol perthnasol, ac nid y dyddiad pan fyddwch yn anfon y cyfrifon.

Noder: nid yw rhai swyddfeydd Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn post ar ddydd Sadwrn ac nid oes blwch post ganddynt. Ewch i'n gwefan i weld manylion diweddaraf  ein horiau agor a'n cyfleusterau  ar gyfer cyflwyno dogfennau.

11.  Beth os na fyddaf yn cyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau o gwbl?

Os bydd y cofrestrydd yn credu nad yw PAC yn parhau gyda'i busnes mwyach neu nad yw'n weithredol mwyach, gallai ei dileu o'r gofrestr a'i diddymu. Os bydd hyn yn digwydd, bydd holl asedau'r PAC, gan gynnwys ei chyfrif banc a'i heiddo, yn trosglwyddo i berchnogaeth y Goron fel arfer.

Mae methu cyflwyno dogfennau mewn pryd yn drosedd. Mae perygl y bydd aelodau dynodedig PAC yn cael eu herlyn.  O'u collfarnu, gallai aelod dynodedig gael cofnod troseddol a dirwy o hyd at £5,000 am bob trosedd. Mae hyn yn ychwanegol at y gosb sifil a roddir i'r PAC am ffeilio cyfrifon yn hwyr.

12. Pa enwau y dylid eu rhoi ar y cyfrifoner mwyn ffeilio gyda Thŷ'r Cwmnïau?

Er mwyn ffeilio, mae'n rhaid i'r copïau o'r cyfrifon ddatgan y canlynol:

  • Rhaid i'r copi o'r fantolen ddatgan enw'r aelod dynodedig a'i llofnododd ar ran y PAC
  • Rhaid i gopi o'r fantolen cael ei llofnodi gan aelod dynodedig
  • Os oes rhaid i'r PAC atodi adroddiad archwilydd ariannol wrth ycyfrifon, rhaid i'r copi o adroddiad yr archwilydd ddatgan enw'rarchwilydd

Dylid nodi na fydd llofnod darllenadwy ar fantolen yn bodloni'r gofyniad ychwanegol i brintio'r enw. Bydd Tŷ'r Cwmnïau yn gwrthod unrhyw gyfrifon os nad ydynt yn bodloni'r gofynion uchod.

Lle mae'r archwilydd yn ffyrm, rhaid i adroddiad yr archwilydd ddatgan enw'r archwilydd ac enw'r sawl a'i llofnododd fel uwch-archwilydd statudol ar ran y ffyrm.

13. Ble y mae'n rhaid dangos enw a rhif y PAC?

Dylai enw a rhif y PAC ymddangos ar un o ddogfennau cyfansawdd y cyfrifon fel adroddiad yr aelodau neu'r fantolen. Gellir dangos yr enw a'r rhif hefyd ar unrhyw glawr a gyflwynir gyda'r cyfrifon.

Am ragor o fanylion, gan gynnwys manylion yr amgylchiadau lle gellir hepgor enwau archwilwyr, gweler pennod 13 - Archwilwyr Ariannol.

14.  Beth os gwrthodir fy nghyfrifon?

Os na fydd eich cyfrifon yn bodloni ein gofynion, byddwn yn eu dychwelyd atoch er mwyn i chi eu cywiro.  Mae'n hanfodol eich bod yn anfon cyfrifon derbyniol atom cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio, oherwydd ni fyddwch yn cael unrhyw amser ychwanegol os byddant yn cael eu gwrthod.

15.  A oes modd i mi gyflwyno cyfrifon mewn unrhyw iaith?

Os byddwch yn paratoi cyfrifon mewn iaith ac eithrio Saesneg, bydd yn rhaid i chi anfon cyfieithiad Saesneg ardystiedig ohonynt hefyd.  Os yw swyddfa gofrestredig y PAC yng Nghymru, dim ond y cyfrifon Cymraeg y bydd angen i chi eu hanfon os byddwch yn dewis gwneud hynny. Yn ogystal, bydd modd i PACau ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.  Os byddwch yn dewis gwneud hyn, bydd yn rhaid i chi gynnwys Ffurflen LL VT01 wedi'i chwblhau.

16. A gaf i gyflwyno unrhyw ddarnau o wybodaeth am y cyfrifon ar wahân?

Cewch. Gellir atodi gwybodaeth am ymgymeriadau cysylltiedig at ffurflen flynyddol nesaf y PAC o dan amgylchiadau penodol.

Os oes gofyn i'r PAC gynnwys llawer iawn o wybodaeth am ymgymeriad cysylltiedig a bod yr aelodau o'r farn y byddai hynny'n golygu bod y nodiadau'n rhy hir, dyma'r unig bethau y mae angen i'r cyfrifon eu cynnwys:

  • gwybodaeth am yr ymgymeriadau sydd wedi cael yr effaith bennaf ar y ffigurau a welir yng nghyfrifon y PAC
  • yn achos cyfrifon grŵp, gwybodaeth am yr ymgymeriadau na chynhwysir yn y cyfuniad
  • datganiad yn y nodiadau sy'n nodi y cyflwynir gwybodaeth mewn perthynas â'r ymgymeriadau a enwir yn unig

Os yw PAC yn manteisio ar hyn, rhaid atodi'r holl wybodaeth yn ei chyfanrwydd, gan gynnwys y wybodaeth a roddwyd eisoes yn y cyfrifon, at ffurflen flynyddol nesaf y cwmni.

Pennod 9 - Cyfrifon PAC bach

1.  Beth yw PAC fach?

Wrth i chi baratoi eich cyfrifon, bydd angen i chi ystyried bod 3 maint o PAC yn bodoli; bach, canolig neu fawr. Ceir trothwyon ar gyfer trosiant, cyfanswm mantolen (sy'n golygu cyfanswm yr asedau) a nifer cyfartalog y gweithwyr, sy'n pennu a yw'ch PAC yn un fach neu'n un ganolig. Mae unrhyw PAC nad yw'n bodloni'r meini prawf ar gyfer PACau bach neu ganolig, yn PAC fawr, a bydd yn rhaid iddi baratoi a ffeilio cyfrifon llawn.

Gall PAC fach baratoi a ffeilio cyfrifon yn unol â darpariaethau arbennig yn Neddf Cwmnïau 2006, yn unol â'r hyn sy'n berthnasol i PACau, a'r rheoliadau perthnasol.  Mae hyn yn golygu y gallant ddewis datgelu llai o wybodaeth na PACau canolig a mawr.

Ni all PACau y mae eu gwarannoedd yn cael eu derbyn i'w masnachu mewn marchnad wedi ei rheoleiddio yn yr AEE, na PACau gwasanaethau ariannol penodol, fod yn gymwys fel PAC fach.  Yn yr un modd, ni all PACau sy'n rhan o grŵp, y mae ei aelodau yn cynnwys cwmnïau cyhoeddus neu PACau gwasanaethau ariannol, fod yn gymwys fel PACau bach, oni bai mewn amgylchiadau penodol.

Os ydych yn credu bod eich PAC chi yn gymwys i gael ei hystyried fel PAC fach, efallai y byddwch yn dymuno cysylltu gyda chyfrifydd proffesiynol cyn i chi baratoi cyfrifon, yn unol â'r darpariaethau sy'n berthnasol i PACau sy'n destun y gyfundrefn ar gyfer PACau bach.

2.  Beth yw'r amodau ar gyfer bod yn gymwys fel PAC fach?

Rhaid i PAC fach fodloni o leiaf ddau o'r amodau canlynol:

  • ni ddylai'r trosiant blynyddol fod dros £6.5 miliwn
  • ni ddylai cyfanswm y fantolen fod dros £3.26 miliwn
  • ni ddylai nifer cyfartalog y gweithwyr fod dros 50

3. A oes unrhyw PACau nad ydynt yn cael paratoi a chyflwyno cyfrifon bach?

Oes.  Ni all PAC baratoi a chyflwyno cyfrifon PAC fach os yw, neu os oedd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol, yn un o'r canlynol;

  • PAC y mae ei gwarannoedd yn cael eu derbyn i'w masnachu mewn marchnad wedi ei rheoleiddio yn un o Wladwriaethau'r AEE
  • PAC:
    • sy'n PAC yswiriant awdurdodedig, yn PAC bancio, yn ddosbarthydd e-arian, yn gwmni buddsoddi o dan MiFID(h.y. y Gyfarwyddeb Marchnadoedd Offerynnau Cyllid)  neu'n PAC rheoli o dan UCITS, (h.y. Ymgymeriadau ar gyfer Cyd-fuddsoddi mewn Gwarannoedd Trosglwyddadwy)
    • sy'n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant
    • sy'n aelod o grŵp anghymwys

Bydd grŵp yn anghymwys os bydd unrhyw un o'i aelodau:

  • yn gwmni cyhoeddus,
  • yn gorff corfforaethol (ar wahân i gwmni) y mae ei gyfrannau yn cael eu derbyn i'w masnachu mewn marchnad wedi ei rheoleiddio yn un o Wladwriaethau'r AEE
  • yn unigolyn (ar wahân i gwmni bach neu PAC fach) sydd wedi sicrhau caniatâd dan Ran 4 Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i ddilyn gweithgarwch wedi ei reoleiddio
  • yn gwmni bach neu'n PAC fach sy'n gwmni yswiriant awdurdodedig, yn gwmni bancio neu'n PAC bancio, yn ddosbarthydd e-arian, yn gwmni buddsoddi o dan MiFID neu'n gwmni rheoli o dan UCITS, neu'n
  • unigolyn sy'n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch PACau gwasanaethau ariannol sy’n cael eu heithrio o’r gyfundrefn ar gyfer PACau bach, a fyddech cystal â chysylltu â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

4. A oes modd i PAC fod yn gymwys fel PAC fach bob blwyddyn?

Yn gyffredinol, bydd PAC yn gymwys fel PAC ‘fach' yn ystod ei chyfnod cyfrifeg cyntaf os bydd yn bodloni'r amodau yn ystod y flwyddyn honno. Mewn unrhyw gyfnod dilynol, rhaid i PAC fodloni'r amodau yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn ystod y cyfnod cyn hynny.

Fodd bynnag, os na fydd PAC a oedd yn gymwys fel PAC fach yn ystod un cyfnod, yn bodloni'r meini prawf mwyach yn ystod y cyfnod nesaf, gall y PAC barhau i hawlio'r eithriadau sydd ar gael ar gyfer y cyfnod nesaf.  Yna, os bydd y PAC yn mynd yn ôl i fod yn PAC fach trwy fodloni'r meini prawf, bydd yr eithriad yn parhau yn ddi-dor.

5.  Beth yw'r amodau er mwyn bod yn gymwys fel grŵp bach?

Er mwyn bod yn gymwys fel grŵp bach, rhaid i grŵp dan arweinyddiaeth rhiant-PAC fodloni o leiaf ddau o'r amodau canlynol:

  • ni ddylai'r trosiant cyfanred fod yn uwch na £6.5 miliwn net (neu £7.8 miliwn gros)
  • ni ddylai cyfanswm y fantolen gyfanred fod yn uwch na £3.26 miliwn net (neu £3.9 miliwn gros)
  • ni ddylai nifer cyfartalog cyfanred y gweithwyr fod yn uwch na 50

6. Beth fydd cyfrifon PACau bach yn ei gynnwys?

Yn gyffredinol, bydd cyfrifon PACau bach sy'n cael eu paratoi ar gyfer aelodau yn cynnwys:

  • cyfrif elw a cholled
  • mantolen lawn, wedi ei llofnodi gan aelod dynodedig ar ran y bwrdd ac enw'r aelod dynodedig wedi ei brintio arni;
  • nodiadau i'r cyfrifon
  • chyfrifon grŵp (os bydd rhiant-PAC bach yn dewis eu paratoi)

A rhaid anfon adroddiad archwilwyr ariannol oni bai bod y PAC yn gymwys i gael ei heithrio rhag archwilio, gan fanteisio ar yr eithriad hwnnw) gyda'r cyfrifon.

Rhaid i'r fantolen gynnwys datganiad mewn lle amlwg uwchben llofnod ac enw printiedig yr aelod dynodedig sy'n nodi bod y cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â'r darpariaethau arbennig sy'n berthnasol i PACau sy'n destun y gyfundrefn ar gyfer PACau bach.

7.  Beth yw'r eithriadau sydd ar gael ar gyfer PACau bach?

Gall PACau bach baratoi a ffeilio cyfrifon symlach a llai manwl na'r rhai y bydd angen i PACau mawr a chanolig eu ffeilio.

Nodir y gofynion ar gyfer PACau sy'n rhwym i'r gyfundrefn ar gyfer PACau bach yn Rhannau 15 ac 16 Deddf Cwmnïau 2006, fel y maent yn berthnasol i PACau.  Gellir gweld darpariaethau ynghylch cynnwys a diwyg manwl y cyfrifon ar gyfer PACau bach yn Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig Bach (Cyfrifon) 2008.

8.  Beth fydd yn rhaid i PACau bach ei gyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau?

Gall aelodau dynodedig PAC fach ffeilio copi o'r cyfrifon a gafodd eu paratoi i'r aelodau o dan y drefn PACau bach, neu fersiwn cryno o'r cyfrifon hynny. Mae cynnwys cyfrifon cryno o dan y Ddeddf Cwmnïau i'w weld yn Neddf Cwmnïau 2006 fel y caiff honno ei chymhwyso at PACau ac yn rheoliad 5 ac Atodlen 3 i Reoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau Bach Atebolrwydd Cyfyngedig 2008.

Os byddwch yn crynhoi'r cyfrifon, bydd rhaid cyflwyno adroddiad archwilio ariannol arbennig, oni bai bod y PAC wedi cael eithriad rhag archwilio - gweler cwestiwn 10 o'r bennod hon. Rhaid i'r adroddiad ddatgan bod yr archwilydd o'r farn:

  • fod gan y PAC hawl i gyflwyno cyfrifon cryno yn unol ag adran 444(3) o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y cafodd honno ei chymhwyso gan Reoliadau (Cyfrifon ac Archwilio Ariannol) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008; ac yn ogystal
  • eu bod wedi'u paratoi'n briodol yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau Bach Atebolrwydd Cyfyngedig 2008.  Os yw'r PAC wedi'i rhyddhau rhag archwilio ariannol a bod yr aelodau wedi manteisio ar y rhyddhad hwnnw, does dim angen yr adroddiad hwn - gweler cwestiwn 10 ar eithrio PACau bach rhag archwilio

Nid yw'r hawl i baratoi cyfrifon cryno i Dŷ'r Cwmnïau yn effeithio ar rwymedigaethau PACau i baratoi cyfrifon llawn ar gyfer yr aelodau - gweler pennod 7.

Does dim rhaid i PACau bach gyflwyno copi o'r cyfrif elw a cholled i Dŷ'r Cwmnïau.

Caiff PACau bach sy'n paratoi cyfrifon sydd heb fod yn rhai IAS gyflwyno mantolen gryno.

Rhaid i PACau bach sy'n paratoi cyfrifon IAS gyflwyno mantolen lawn i Dŷ'r Cwmnïau.

Os byddwch yn manteisio ar y darpariaethau sy'n berthnasol i PACau bach, p'un ai cyfrifon cryno neu lawn a fôn nhw, mae'n rhaid ichi gynnwys datganiad mewn safle amlwg ar y fantolen ac uwchlaw enw printiedig a llofnod yr aelod dynodedig i'r perwyl bod y cyfrifon wedi'u paratoi yn unol â'r darpariaethau arbennig sy'n gymwys i PACau sy'n dod o dan y drefn PACau bach.

Gallwch weld cynnwys cyfrifon cryno o dan y Ddeddf Cwmnïau fel y bo'n berthnasol i PACau yn Neddf Cwmnïau 2006 a Rheoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2008.

Sylwer: Os byddwch chi'n dewis llunio cyfrifon cryno ar gyfer Tŷ'r Cwmnïau, mae gofyn o hyd i chi baratoi cyfrifon llawn ar gyfer eich aelodau - gweler pennod 4.

9.  A oes unrhyw reolau arbennig ar gyfer grwpiau bach?

Oes, ni fydd yn rhaid i riant-PAC sy'n gymwys fel PAC fach, baratoi cyfrifon grŵp na'u cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau os bydd y grŵp yn fach a heb fod yn anghymwys. Os yw rhiant-PAC bach yn penderfynu paratoi cyfrifon grŵp, yna mae Atodlen 4 o Ran 1 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig Bach (Cyfrifon) 2008 yn pennu eu cynnwys. Os ydych chi'n paratoi cyfrifon grŵp, rhaid iddynt gynnwys datganiad uwchben y llofnod a'r enw printiedig ar y fantolen, sy'n cadarnhau "y paratowyd y cyfrifon yn unol â'r darpariaethau sy'n berthnasol i PACau, yn amodol ar y drefn PACau bach.

10.  Pa eithriad rhag archwilio ariannol sydd ar gael ar gyfer PACau bach?

Ceir eithriad rhag archwilio ariannol ar i rai PACau bach penodol os ydynt yn gymwys ac yn dymuno manteisio arno.

11.  Pa PACau bach sy'n gymwys i fanteisio ar eithriad rhag archwilio ariannol?

Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy'n dod i ben cyn 1 Hydref 2012 rhaid i PAC fodloni'r meini prawf canlynol er mwyn bod yn gymwys i fanteisio ar eithriad rhag archwilio ariannol:

  • fod yn gymwys fel un fach
  • meddu ar drosiant heb fod dros £6.5 miliwn
  • meddu ar fantolen nad yw ei chyfanswm dros £3.26 miliwn

Ar gyfer blynyddoedd ariannol sy'n dod i ben ar 1 Hydref 2012 neu'n ddiweddarach, y cyfan sydd ei angen i PAC ei wneud yw bod yn gymwys i fod yn gwmni bach. Hynny yw, rhaid iddi fodloni unrhyw ddau o'r meini prawf canlynol:

  • ni fydd trosiant blynyddol y PAC y fwy na £6.5 miliwn
  • ni fydd cyfanswm mantolen y PAC yn fwy na £3.26 miliwn
  • ni fydd gan y PAC nifer cyfartalog o staff sy'n fwy na 50

12. A fydd pob math o PACau bach yn gymwys i fanteisio ar yr eithriad?

Na fyddant. Rhaid i'r aelodau dynodedig ffeilio cyfrifon archwiliedig yn Nhŷ'r Cwmnïau os bydd y PAC yn perthyn i unrhyw un o'r categorïau canlynol:

  • PAC y mae ei gwarannoedd yn cael eu derbyn i'w masnachu mewn marchnad wedi ei rheoleiddio yn un o Wladwriaethau'r AEE
  • PAC:
    • sy'n gwmni yswiriant awdurdodedig, yn PAC bancio, yn ddosbarthydd e-arian, yn gwmni buddsoddi o dan MiFID neu'n gwmni rheoli o dan UCITS
    • sy'n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant
  • cymdeithas gyflogwyr yn unol â'r diffiniad yn adran 122 Deddf (Cydgyfnerthu) Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur 1992 neu Erthygl 4 Gorchymyn Cysylltiadau Diwydiannol (Gogledd Iwerddon) 1992
  • rhiant-PAC neu is-ymgymeriad (oni bai ei fod yn segur yn ystod y cyfnod pan oedd yn is-ymgymeriad), ac eithrio:
    • pan fo'r grŵp yn gymwys fel grŵp bach (gan drin holl gyrff corfforaethol y grŵp, yn eu plith cyrff corfforaethol y tu allan i'r DU, fel pe baent yn PACau neu'n gwmnïau) ac nad oedd yn grŵp anghymwys ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn
    • pan na fo'r trosiant ar gyfer y grŵp cyfan yn werth mwy na £6.5 miliwn net (neu £7.8 miliwn gros)
    • phan na fo cyfanswm mantolen gyfunol y grŵp yn werth mwy na £3.26 miliwn net (neu £3.9 miliwn gros)

Gellir eithrio rhai is-gwmnïau rhag archwilio os ydynt yn bodloni amodau penodedig ar gyfer blynyddoedd ariannol sy'n dod i ben ar 1 Hydref 2012 neu'n ddiweddarach. Am ragor o wybodaeth, trowch at Bennod 12.

13.  Beth fydd yn rhaid i PAC wedi'i heithrio rhag archwilio ariannol ei gyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau?

Os bydd PAC fach yn gymwys i fanteisio ar eithriad rhag archwilio ariannol gall gyflwyno cyfrifon heb eu harchwilio i Dŷ'r Cwmnïau ar ffurf mantolen gryno a nodiadau neu os bydd yn dewis gwneud hynny, cyfrifon llawn.  Yn y naill achos neu'r llall, rhaid i'r fantolen gynnwys y datganiadau canlynol uwchben enw printiedig a llofnod yr aelod dynodedig:

Datganiad Eithrio rhag Archwilio

"Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ………………(dd/mm/bbbb), roedd gan y PAC yr hawl i fanteisio ar eithriad rhag archwilio ariannol dan adran 477 Deddf Cwmnïau 2006 (fel y'i cymhwysir gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cyfrifon ac Archwilio)(Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008), sy'n ymwneud â PACau bach.

Mae'r aelodau yn cydnabod eu cyfrifoldebau dros gydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf ynghylch cofnodion cyfrifeg a'r gwaith o baratoi cyfrifon.

Paratowyd y cyfrifon hyn unol â'r darpariaethau sy'n berthnasol i PACau sy'n rhwym i'r gyfundrefn ar gyfer PACau bach."

Gall PACau bach sy'n cyflwyno mantolen lawn ddewis peidio cynnwys copi o'r cyfrif elw a'r colled.  Yn yr achos hwn, rhaid i'r fantolen gynnwys datganiad ychwanegol hefyd, sy'n nodi bod y cyfrifon wedi cael eu cyflwyno yn unol â'r darpariaethau sy'n berthnasol i PACau sy'n rhwym i'r gyfundrefn ar gyfer PACau bach.

14.  Faint o amser fydd gennyf i gyflwyno cyfrifon wedi'u heithrio rhag archwilio ariannol i Dŷ'r Cwmnïau?

Bydd gennych yr un faint o amser i ffeilio cyfrifon archwiliedig a chyfrifon wedi'u heithrio rhag archwilio ariannol, ac mae'r gyfraith yn pennu'r un cosbau â'r rhai a bennir ar gyfer ffeilio'r holl gyfrifon eraill yn hwyr. 

15.  A oes yn rhaid i PAC wedi'i heithrio rhag archwilio ariannol anfon cyfrifon at ei haelodau a'i dyledebwyr o hyd?

Oes.  Mae gan aelodau a dyledebwyr yr hawl i gael neu fynnu copïau o'r cyfrifon ac unrhyw adroddiad cysylltiedig archwilydd ariannol.

Pennod 10 - Cyfrifon PAC canolig

1.  Beth yw PAC ganolig?

Yn yr un modd â PAC fach, pennir PAC ganolig gan ei throsiant, cyfanswm ei mantolen (sy'n golygu cyfanswm yr asedau) a nifer cyfartalog y gweithwyr.

Gall PAC ganolig baratoi cyfrifon yn unol â darpariaethau arbennig sy'n berthnasol ar gyfer PACau canolig.  Mae hyn yn golygu y gallant ddewis cyflwyno llai o wybodaeth i Dŷ'r Cwmnïau.

Ni fydd modd ystyried bod PACau gwasanaethau ariannol penodol, a PACau y mae eu gwarannoedd yn cael eu derbyn i'w masnachu mewn marchnad wedi ei rheoleiddio yn yr AEE, yn gymwys fel PACau canolig.  Yn yr un modd, ni fydd modd ystyried bod PACau sy'n rhan o grŵp ac sy'n cynnwys aelodau sy'n gwmnïau cyhoeddus neu PACau gwasanaethau ariannol penodol, yn gymwys fel rhai canolig at ddibenion cyfrifeg.

2.  Beth yw'r amodau er mwyn bod yn gymwys fel PAC ganolig?

Er mwyn bod yn PAC ganolig, rhaid i chi fodloni o leiaf ddau o'r amodau canlynol:

  • ni ddylai'r trosiant blynyddol fod yn uwch na £25.9 miliwn
  • ni ddylai cyfanswm y fantolen fod yn uwch na £12.9 miliwn
  • ni ddylai nifer cyfartalog y gweithwyr fod yn uwch na 250

Os nad hwn yw cyfnod cyfrifeg cyntaf y PAC, rhaid ei bod wedi cymhwyso fel un ‘ganolig' yn ystod y cyfnod cyn hynny.

3.  A oes unrhyw PACau yn cael eu heithrio rhag cael eu trin fel rhai canolig?

Oes.  Ni fydd modd trin PAC fel PAC ganolig os yw, neu os oedd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol, yn un o'r canlynol;

  • PAC y mae ei gwarannoedd yn cael eu derbyn i'w masnachu mewn marchnad wedi ei rheoleiddio yn un o Wladwriaethau'r AEE
  • PAC
    • sydd wedi sicrhau caniatâd dan Ran 4 Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i ddilyn gweithgarwch wedi ei reoleiddio
    • sy'n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant
  • aelod o grŵp anghymwys

Bydd grŵp yn anghymwys os bydd unrhyw un o'i aelodau:

  • yn gwmni cyhoeddus
  • yn gorff corfforaethol (ar wahân i gwmni) y mae ei gyfrannau yn cael eu derbyn i'w masnachu mewn marchnad wedi ei rheoleiddio
  • yn unigolyn (ar wahân i gwmni bach neu PAC fach) sydd wedi sicrhau caniatâd dan Ran 4 Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i ddilyn gweithgarwch wedi ei reoleiddio
  • yn gwmni bach neu'n PAC fach sy'n gwmni yswiriant awdurdodedig, yn gwmni bancio neu'n PAC bancio, yn ddosbarthydd e-arian, yn gwmni buddsoddi o dan MiFID (h.y. y Gyfarwyddeb Marchnadoedd Offerynnau Cyllid) neu'n PAC rheoli o dan UCITS (h.y. Ymgymeriadau ar gyfer Cyd-fuddsoddi mewn Gwarannoedd Trosglwyddadwy)
  • unigolyn sy'n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant

4.  A oes modd i PAC fod yn gymwys fel PAC ganolig bob blwyddyn?

Yn gyffredinol, bydd PAC yn gymwys fel un ‘ganolig' yn ystod ei chyfnod cyfrifeg cyntaf os bydd yn bodloni'r amodau yn ystod y flwyddyn honno.  Mewn unrhyw gyfnod dilynol, rhaid i PAC fodloni'r amodau yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn ystod y cyfnod cyn hynny.

Fodd bynnag, os na fydd PAC a oedd yn gymwys fel un ganolig yn ystod un cyfnod, yn bodloni'r meini prawf mwyach ar gyfer PAC ganolig yn ystod y cyfnod nesaf, gall barhau i hawlio'r eithriadau sydd ar gael ar gyfer y cyfnod nesaf.  Yna, os bydd y PAC yn mynd yn ôl i fod yn PAC ganolig trwy fodloni'r meini prawf, bydd yr eithriad yn parhau yn ddi-dor.

5.  Beth fydd cyfrifon PAC ganolig yn ei gynnwys?

Rhaid i gyfrifon canolig gynnwys:

  • cyfrif elw a cholled
  • mantolen, yn dangos enw printiedig a llofnod aelod dynodedig
  • nodiadau i'r cyfrifon
  • chyfrifon grŵp (pan fo hynny'n briodol)

a rhaid anfon adroddiad archwilwydd ariannol gyda'r cyfrifon oni bai bod y PAC wedi cael eithriad rhag archwilio.

6.  Beth yw'r eithriadau sydd ar gael ar gyfer PACau canolig?

Gall PACau canolig sy'n paratoi cyfrifon dan y Ddeddf Cwmnïau, fel y'i cymhwysir ar gyfer PACau (ond nid cyfrifon IAS), hepgor datgelu ynghylch cydymffurfiaeth gyda safonau cyfrifeg a thrafodion parti cysylltiedig o'r cyfrifon y byddant yn eu hanfon at ei haelodau.  Yn ogystal, gall PACau canolig sy'n paratoi cyfrifon nad ydynt yn gyfrifon IAS, ddewis ffeilio fersiwn ychydig yn fyrrach o'r cyfrif elw a cholled.  Gellir gweld gwybodaeth bellach yn Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig Mawr a Chanolig (Cyfrifon) 2008.

Gall rhai PACau sy'n is-gwmnïau gael eu heithrio rhag archwiliad os ydyn nhw'n bodloni meini prawf penodedig ar gyfer blynyddoedd ariannol sy'n dod i ben ar 1 Hydref 2012 neu'n ddiweddarach. Trowch at Bennod 12 am ragor o wybodaeth.

7.  Beth fydd yn rhaid i PAC ganolig ei gyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau?

Rhaid i gyfrifon cryno PAC ganolig gynnwys:

  • y cyfrif elw a cholled cryno (rhaid i hwn fod yn llawn os bydd cyfrifon IAS yn cael eu paratoi)
  • y fantolen lawn, yn dangos enw printiedig a llofnod aelod dynodedig
  • nodiadau i'r cyfrifon

a rhaid anfon adroddiad archwilio arbennig gyda'r cyfrifon.

Dylai'r adroddiad archwilio ariannol arbennig nodi bod gan y PAC, ym marn yr archwilydd, yr hawl i gyflwyno cyfrifon cryno yn unol ag adran 445(3) Deddf Cwmnïau 2006 (fel y'i cymhwysir gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cyfrifon ac Archwilio)(Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008) a'u bod wedi cael eu paratoi yn gywir yn unol â rheoliad 4 Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig Mawr a Chanolig (Cyfrifon) 2008).

8.  A oes rheolau arbennig ar gyfer grwpiau canolig?

Na. Rhaid i riant-PAC canolig baratoi cyfrifon grŵp a'u cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau.

Pennod 11 - Cyfrifon PAC segur

1.  Beth yw PAC segur?

Mae PAC yn segur os na fydd wedi cael unrhyw ‘drafodion cyfrifeg arwyddocaol' yn ystod y cyfnod cyfrifeg.  Mae trafodion cyfrifeg arwyddocaol yn drafodion y dylai'r PAC eu nodi yn ei chofnodion cyfrifeg.

Wrth bennu a yw PAC yn segur neu beidio, gallwch ddiystyru'r trafodion canlynol:

  • ffioedd a delir i'r cofrestrydd am newid enw PAC a ffeilio ffurflenni blynyddol
  • thalu cosb sifil am ffeilio cyfrifon yn hwyr

2.   Pa eithriadau sydd ar gael?

Gall PACau segur hawlio eithriad rhag archwilio, a dim ond nodiadau a mantolen gryno y bydd angen iddynt eu paratoi a'u cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau.  Ni fydd yn rhaid i chi gynnwys cyfrif elw a cholled mewn cyfrifon PACau segur sy'n cael eu ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Ni chaiff PAC fanteisio ar yr eithriad rhag archwilio ariannol y gall PAC segur fanteisio arno, os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn berthnasol iddi ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw:

  • roedd yn PAC yswiriant awdurdodedig, yn PAC bancio, yn ddosbarthydd e-arian, yn gwmni buddsoddi o dan MiFID (h.y.  y Gyfarwyddeb Marchnadoedd Offerynnau Cyllid) neu'n PAC rheoli o dan UCITS (h.y.  Ymgymeriadau ar gyfer Cyd-fuddsoddi mewn Gwarannoedd Trosglwyddadwy); neu'n
  • yn dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant.

Ni fydd gan PAC yr hawl i fanteisio ar yr eithriad rhag archwilio ar gyfer PAC segur, oni bai bod ei mantolen yn cynnwys y datganiadau sy'n ofynnol dan y Ddeddf. Mae cwestiwn 5 yn sôn am y datganiadau .

Gall cwmni segur sy'n is-gwmni hefyd hawlio eithriad rhag paratoi a/neu ffeilio ei gyfrifon o dan amgylchiadau penodol hefyd - am ragor o wybodaeth trowch at gwestiwn 9.

3.  Beth yw'r amodau y mae'n rhaid i PAC segur eu bodloni er mwyn cael ei heithrio rhag archwilio ariannol?

Bydd PAC segur yn cael ei heithrio o'r gofyniad i gael archwiliad ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno:

  • os yw wedi bod yn segur ers y'i ffurfiwyd
  • os yw wedi bod yn segur ers diwedd y flwyddyn ariannol flaenorol a'i bod yn bodloni'r amodau canlynol
    • mae ganddi'r hawl i baratoi cyfrifon unigol yn unol â'r gyfundrefn ar gyfer PACau bach
    • nid oes yn rhaid iddi baratoi cyfrifon grŵp ar gyfer y flwyddyn honno

4.  Pa wybodaeth y bydd yn rhaid i gyfrifon PAC segur ei chynnwys?

Ni fydd angen i gyfrifon PAC segur a gyflwynir i Dŷ'r Cwmnïau gynnwys cyfrif elw a cholled.  Mae cyfrifon segur heb eu harchwilio lawer yn symlach na chyfrifon PAC sy'n masnachu, ond mae'n rhaid iddynt gynnwys:

  • mantolen sy'n cynnwys datganiadau uwchben enw printiedig a  llofnod yr aelod dynodedig sy'n nodi bod y PAC wedi bod yn segur trwy gydol y cyfnod cyfrifeg
  • unrhyw ffigurau ar gyfer y flwyddyn flaenorol at ddibenion cymharu - er na cheir eitemau incwm neu wariant ar gyfer y flwyddyn gyfredol
  • nodiadau penodol ar gyfer y fantolen - bydd rhestr lawn o'r eitemau i'w cynnwys yn ymddangos ar ddiwedd y bennod hon

Ni fydd yr hawl i baratoi mantolen segur i'w ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau yn effeithio ar rwymedigaethau'r PAC i baratoi cyfrifon llawn ar gyfer ei haelodau.

5.  Pa ddatganiadau y bydd angen i mi eu cynnwys yn y fantolen?

Dylai'r datganiadau canlynol ymddangos uwchben enw printiedig a  llofnod yr aelod dynodedig:

Datganiad Eithrio rhag Archwilio

"Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ………………………. (dd/mm/bbbb), roedd gan y PAC yr hawl i fanteisio ar eithriad rhag archwilio ariannol dan adran 480 Deddf Cwmnïau 2006 (fel y'i cymhwysir gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cyfrifon ac Archwilio)(Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008), sy'n ymwneud â PACau segur.

Mae'r aelodau yn cydnabod eu cyfrifoldebau dros gydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf ynghylch cofnodion cyfrifeg a'r gwaith o baratoi cyfrifon."

Dylai PAC sy'n gymwys fel PAC fach, gynnwys y datganiad canlynol yn y fantolen hefyd:

"Paratowyd y cyfrifon hyn yn unol â'r darpariaethau sy'n berthnasol i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sy'n rhwym i'r gyfundrefn ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig bach".

6.  Faint o amser fydd gennyf i gyflwyno cyfrifon segur i Dŷ'r Cwmnïau?

Bydd gennych yr un amser ag a ganiateir ar gyfer ffeilio, a rhoddir yr un cosbau am ffeilio hwyr, ag sy'n berthnasol ar gyfer cyfrifon eraill.  Mae modd gweld gwybodaeth bellach yn ein canllaw ynghylch Cosbau Ffeilio Hwyr ar gyfer Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig.

7.  Beth fydd yn digwydd os bydd fy PAC yn dechrau masnachu unwaith eto?

Ni fydd y PAC yn cael ei heithrio rhag archwilio ariannol fel PAC segur mwyach:

  • os bydd yn cychwyn ar weithgareddau masnachu neu fasnachol yn ystod y cyfnod ariannol
  • os na fyddai'n gymwys mwyach am ryw reswm arall e.e. am fod yna drafodion cyfrifeg sylweddol y mae angen eu nodi yn y cofnodion cyfrifeg

Pe bai un o'r rhain yn digwydd, efallai y byddai'n rhaid i chi gyflwyno cyfrifon llawn ar gyfer y flwyddyn ariannol pan nad oedd modd i'r PAC gael ei heithrio mwyach, ac efallai y bydd angen i'r aelodau dynodedig benodi archwilwyr ar gyfer y PAC.  Fodd bynnag, efallai y byddai'r PAC yn gymwys i fanteisio ar eithriadau fel PAC ganolig neu fach.

8.  A oes yna enghraifft o fantolen segur ar gyfer PAC?

Oes. Mae'r mantolenni isod yn cynnig arweiniad i'r holl wybodaeth y mae angen ei chynnwys ar eich mantolen. Bwriad y fformatau hyn yw dangos yr holl asedau a rhwymedigaethau a all fod gan PAC, ond nid oes angen i chi gynnwys pennawd penodedig oni bai bod swm heblaw sero gennych i'w nodi o dan y pennawd hwnnw. 

Enghreifftiau yn unig yw'r mantolenni hyn. Nid ddylid eu llungopïo a'u llenwi. 

Os yw'r PAC wedi masnachu mewn blwyddyn ariannol flaenorol, cofiwch y bydd mantolen y flwyddyn flaenorol yn dangos sefyllfa ariannol y PAC fel yr oedd bryd hynny. Os na chafwyd unrhyw drafodion cyfrifo ers hynny, hwyrach taw'r cyfan y bydd angen i chi ei wneud fydd dwyn y ffigurau ymlaen o'r flwyddyn ddiwethaf.  

Mae dau fformat - wedi eu marcio A a B - a chewch ddilyn y naill neu'r llall. Mae cynnwys y ddau fformat yr un fath yn union; yr unig wahaniaeth yw eu bod yn cyflwyno penawdau'r fantolen mewn trefn wahanol. 

Rhaid i'r fantolen gydbwyso:

  • Yn fformat A, rhaid i swm yr asedau net fod yn gyfartal â swm cyfanred y cyfalaf a'r cronfeydd 
  • Yn fformat B, rhaid i swm yr asedau fod yn gyfartal â swm y rhwymedigaethau (gan gynnwys cyfalaf a chronfeydd fel eitemau mantoli)

Rhaid i bob cofnod fod yn swm mewn ffigurau (nid geiriau) neu '0.00'. Ni fydd Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfen sy'n dangos y gair ‘Dim' neu ‘Sero' lle dylai fod ffigur.

Dylai pob colofn o ffigurau fod dan bennawd y dyddiad pan ddaeth y blynyddoedd ariannol cyfredol a blaenorol i ben.  

Rhestrir yr eitemau y mae angen eu cynnwys yn y nodiadau ar y fantolen ar gyfer y ddau fformat yma

MANTOLEN SEGUR FFORMAT A

Rhif y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig ............................

Enw'r Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig  ..........................................

Y FANTOLEN AR ..../..../.......

  Y FLWYDDYN GYFREDOL Y FLWYDDYN FLAENOROL
B ASEDAU SEFYDLOG
I. Asedau anniriaethol XX XX
II. Asedau diriaethol XX XX
III. Buddsoddiadau XX XX
  __________ __________
  XXX XXX

C ASEDAU CYFREDOL

I. Stociau XX XX
II. Dyledwyr XX XX
III. Buddsoddiadau XX XX
IV. Arian yn y banc ac mewn llaw XX XX
  __________ __________
  XXX XXX
D RHAGDALIADAU AC INCWM A GRONNWYD XX XX
E CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS CYN PEN BLWYDDYN (XX) (XX)
F ASEDAU/RHWYMEDIGAETHAU CYFREDOL NET XXX XXX
G CYFANSWM YR ASEDAU LLAI'R RHWYMEDIGAETHAU CYFREDOL XXX XXX
H CREDYDWYR: SYMIAU SY'N DDYLEDUS YMHEN MWY NA BLWYDDYN (XX) (XX)
I DARPARIAETH AR GYFER RHWYMEDIGAETHAU A CHOSTAU (XX) (XX)

J CRONIADAU AC INCWM GOHIRIEDIG

(XX) (XX)
  __________ __________
  XXX XXX
  __________ __________
K BENTHYCIADAU A DYLEDION ERAILL SY'N DDYLEDUS I'R AELODAU XX XX

L BUDDIANNAU ERAILL YR AELODAU

I. Cyfalaf yr aelodau XX XX
II. Cronfa adbrisio XX XX
III. Cronfeydd eraill XX XX
  __________ __________
  XXX XXX

 

Yn ystod y flwyddyn a ddaeth o ben ar ………………………. (dd/mm/bbbb) roedd gan y PAC hawl i eithriad rhag archwilio o dan adran 480 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y mae'r Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cyfrifon ac Archwilio) (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008 yn eu cymhwyso) mewn perthynas â PAC segur.

Mae'r aelodau yn cydnabod eu cyfrifoldebau dros gydymffurfio â gofynion y Ddeddf  mewn perthynas â chofnodion cyfrifeg a pharatoi cyfrifon.

Dylai PAC sy'n paratoi ei chyfrifon o dan y drefn fach gynnwys y datganiad canlynol ar y fantolen hefyd:

"Paratowyd y cyfrifon hyn yn unol â'r darpariaethau sy'n berthnasol i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sy'n dod o dan y drefn partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig bach."

Wedi eu cymeradwyo gan yr aelodau ar...............(dyddiad)
ac wedi eu llofnodi ar eu rhan gan .....................(AELOD DYNODEDIG)


MANTOLEN SEGUR FFORMAT B

Rhif y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig ............................

Enw'r Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig..........................................

Y FANTOLEN AR ..../..../.......

  Y FLWYDDYN GYFREDOL Y FLWYDDYN FLAENOROL
ASEDAU
B ASEDAU SEFYDLOG
I. Asedau anniriaethol XX XX
II. Asedau diriaethol XX XX
III. Buddsoddiadau XX XX
  __________ __________
  XXX XXX

C ASEDAU CYFREDOL

I. Stociau XX XX
II. Dyledwyr XX XX
III. Buddsoddiadau XX XX
IV. Arian yn y banc ac mewn llaw XX XX
  __________ __________
  XXX XXX

RHWYMEDIGAETHAU

A BENTHYCIADAU A DYLEDION ERAILL SY'N DDYLEDUS I'R AELODAU

XX XX

A BUDDIANNAU ERAILL YR AELODAU

I. Cyfalaf yr aelodau XX XX
II. Cronfa adbrisio XX XX
III. Cronfeydd eraill XX XX
  __________ __________
  XXX XXX
B DARPARIAETH AR GYFER RHWYMEDIGAETHAU A CHOSTAU XX XX
C CREDYDWYR XX XX

D CRONIADAU AC INCWM GOHIRIEDIG

XX XX
  __________ __________
  XXX XXX

Yn ystod y flwyddyn a ddaeth o ben ar ………………………. (dd/mm/bbbb) roedd gan y PAC hawl i eithriad rhag archwilio o dan adran 480 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y mae'r Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cyfrifon ac Archwilio) (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008 yn eu cymhwyso) mewn perthynas â PAC segur.

Mae'r aelodau yn cydnabod eu cyfrifoldebau dros gydymffurfio â gofynion y Ddeddf  mewn perthynas â chofnodion cyfrifeg a pharatoi cyfrifon.

Dylai PAC sy'n paratoi ei chyfrifon o dan y drefn fach gynnwys y datganiad canlynol ar y fantolen hefyd:

"Paratowyd y cyfrifon hyn yn unol â'r darpariaethau sy'n berthnasol i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig sy'n dod o dan y drefn partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig bach."

Wedi eu cymeradwyo gan yr aelodau ar...............(dyddiad)
ac wedi eu llofnodi ar eu rhan gan .....................(AELOD DYNODEDIG)

Nodiadau ar y fantolen ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig segur

Rhaid cynnwys y canlynol yn y nodiadau ar y fantolen:

  • y polisïau cyfrifeg, gan gynnwys ffigurau dibrisiant a'r dirywiad yng ngwerth asedau
  • gwybodaeth am fuddiannau'r aelodau
  • gwybodaeth am asedau sefydlog
  • manylion am ddyledrwydd
  • y sail a ddefnyddiwyd ar gyfer trosi symiau a oedd mewn arian treigl tramor i sterling
  • y symiau cyfatebol ar gyfer y flwyddyn flaenorol mewn perthynas â phob eitem uchod (heblaw'r asedau sefydlog)
  • os yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi gweithredu fel asiant ar gyfer unrhyw berson yn ystod y flwyddyn ariannol o dan sylw, yna rhaid datgelu hynny

Yn ogystal, rhaid nodi'r wybodaeth ganlynol mewn perthynas ag unrhyw is-ymgymeriadau a buddsoddiadau eraill:

  • manylion unrhyw is-ymgymeriadau a chyfrannau a ddelir ynddynt; a pham nad oes angen datgelu cyfrifon y grŵp
  • manylion unrhyw ymgymeriadau y mae gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ‘ddaliannau o bwys' ynddynt
  • enw rhiant gwmni pennaf y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a'r wlad lle cafodd ei gorffori (os yw'n hysbys)
  • enwau rhiant-ymgymeriadau penodedig, a'r gwledydd lle cawsant eu corffori neu (os nad ydynt yn gorfforedig) cyfeiriadau eu prif fannau busnes

9. A all is-gwmni segur hawlio eithriad rhag paratoi a/neu ffeilio ei gyfrifon?

Gall, os yw eich PAC sy'n is-gwmni yn segur trwy gydol y flwyddyn ariannol a sefydlwyd eich rhiant-ymgymeriad o dan gyfraith un o wladwriaethau AEE, yna mae'n bosibl y gallwch hawlio eithriad rhag paratoi eich cyfrifon o dan adran 394A o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir i PACau, neu o'r rhwymedigaeth i gyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau o dan adran 448A o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir i PACau. Mae hyn yn berthnasol i gyfnodau cyfrifeg sy'n dod i ben ar Hydref 2012 neu'n ddiweddarach. Rhaid paratoi a ffeilio unrhyw gyfrifon sy'n dod i ben cyn y dyddiad hwnnw o hyd.

Sylwer - Mae'r eithriad rhag paratoi (adran 394A) yn cwmpasu'r gofyniad i ffeilio cyfrifon hefyd, ac felly nid oes angen i PAC sydd wedi hawlio'r eithriad hwn hawlio eithriad rhag ffeilio hefyd (o dan adran 448A).

10. O dan ba amodau y gall cwmni segur hawlio eithriad rhag paratoi a/neu ffeilio ei gyfrifon?

I fanteisio ar unrhyw un o'r eithriadau hyn, rhaid i'r PAC fod wedi bod yn segur trwy gydol y flwyddyn ariannol a rhaid i'w rhiant gwmni fod wedi cael ei sefydlu o dan gyfraith un o wladwriaethau AEE. Bydd angen i chi gyflwyno'r dogfennau canlynol i Dŷ'r Cwmnïau hefyd, a hynny cyn y dyddiad pan fo'ch cyfrifon yn ddyledus:

  • hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan bod holl aelodau'r PAC yn cydsynio i'r eithriad mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol o dan sylw
  • Ffurflen LL AA06 sydd wedi cael ei llenwi'n gywir - sef datganiad gan y rhiant-ymgymeriad i ddatgan ei fod yn gwarantu'r is-gwmni o dan adran 394C (ar gyfer eithriad rhag paratoi) neu 448C (ar gyfer eithriad rhag ffeilio) o Ddeddf Cwmnïau 2006 mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol o dan sylw
  • copi o gyfrifon cyfunol y rhiant-ymgymeriad gan gynnwys copi o adroddiad yr archwilydd ariannol a'r adroddiad blynyddol ar y cyfrifon hyn

Sylwer:

  • Rhaid cynnwys yr is-gwmni yn y cyfrifon cyfunol ar gyfer y flwyddyn ariannol neu hyd at ddyddiad cynharach yn ystod yr un flwyddyn ariannol. Rhaid i'r rhiant-ymgymeriad ddatgelu bod yr is-gwmni wedi cael ei eithrio o'r gofynion i baratoi cyfrifon unigol o dan adran 349A, neu rhag ffeilio cyfrifon unigol o dan 448A o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn y nodiadau ar y cyfrifon cyfunol
  • Rhaid i'r datganiad cydsynio a chyfrifon cyfunol y rhiant gwmni ddangos enw'r is-gwmni sy'n PAC a'i rif cofrestredig mewn lle amlwg ar y ddogfen
  • Nid yw'r eithriadau hyn ar gael oni bai bod blwyddyn ariannol eich PAC yn dod i ben ar 1 Hydref 2012 neu'n ddiweddarach. Os yw blwyddyn ariannol eich cwmni'n dod i ben cyn hynny, bydd angen i chi baratoi a ffeilio cyfrifon erbyn y dyddiad cau o hyd

11 . Pa wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys ar y ffurflen LL AA06?

Rhaid i'r datganiad gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Enw cofrestredig a rhif yr is-gwmni
  • Blwyddyn ariannol yr is-gwmni y mae'r warant yn ei chwmpasu
  • Dyddiad y datganiad
  • Manylion yr adran o Ddeddf Cwmnïau 2006 y rhoddir y warant odani:
    • Adran 394c - eithriad rhag paratoi cyfrifon ar gyfer is-gwmni segur
    • Adran 448c - eithriad rhag ffeilio cyfrifon ar gyfer is-gwmni segur
    • Adran 479C - eithriad rhag archwilio ar gyfer is-ymgymeriad
  • Naill ai:
    • os cafodd y rhiant-gwmni ei gorffori yn y DU, ei enw cofrestredig a'i rif cofrestredig (os yw'n berthnasol), neu
    • os cafodd y rhiant-gwmni ei gorffori a'i gofrestru (yn yr un wlad) yn un o wladwriaethau eraill yr AEE, ei enw cofrestredig, rhif cofrestru a manylion y gofrestr lle cafodd ei gofrestru.

12. Beth yw effaith y warant, a phryd daw'r warant i rym?

Effaith y warant yw bod y rhiant-ymgymeriad yn gwarantu'r holl rwymedigaethau dyledus y mae'r is-gwmni'n rhwym iddynt ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Daw'r warant i rym pan fydd yn dod i law'r cofrestrydd a bydd yn aros mewn grym nes y caiff yr holl rwymedigaethau eu diwallu.

13. A all pob is-gwmni segur hawlio'r eithriadau hyn?

Na all. Nid all is-gwmni segur hawlio eithriad os bu'n unrhyw un o'r canlynol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol o dan sylw:

  • PAC sydd
    • yn gwmni yswiriant awdurdodedig, cwmni bancio, dosbarthydd e-arian, cwmni buddsoddi, cwmni rheoli UCITS
    • yn cyflawni gweithgarwch ar y farchnad yswiriant
  • yn gymdeithas cyflogwyr yn ôl diffiniad adran 122 o'r Ddeddf honno neu Erthygl 4 o Orchymyn Cysylltiadau Diwydiannol (Gogledd Iwerddon) 1992 (O.S. 1992/807 (NI 5)

Pennod 12 - Eithriadau rhag archwilio ar gyfer is-gwmnïau sy'n PACau

1. A all is-gwmni hawlio eithriad rhag archwilio?

Gall is-gwmni hawlio eithriad rhag archwilio o dan amgylchiadau penodol os sefydlwyd ei riant-gwmni o dan gyfraith un o wladwriaethau AEE. Er mwyn manteisio ar yr eithriad hwn, bydd angen i chi gyflwyno'r dogfennau canlynol i'r Cofrestrydd cyn dyddiad dyledus eich cyfrifon:

  • hysbysiad ysgrifenedig sy'n datgan bod holl aelodau'r PAC yn cydsynio i'r eithriad mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol o dan sylw
  • Ffurflen LL AA06 sydd wedi cael ei llenwi'n gywir - sef datganiad gan y rhiant-ymgymeriad i ddatgan ei fod yn gwarantu'r is-gwmni o dan adran 479C o Ddeddf Cwmnïau 2006 mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol o dan sylw
  • copi o gyfrifon cyfunol y rhiant-ymgymeriad gan gynnwys copi o adroddiad yr archwilydd ariannol a'r adroddiad blynyddol ar y cyfrifon hyn

Sylwer:

  • Rhaid cynnwys yr is-gwmni yn y cyfrifon cyfunol ar gyfer y flwyddyn ariannol neu hyd at ddyddiad cynharach yn ystod yr un flwyddyn ariannol. Rhaid i'r rhiant-ymgymeriad ddatgelu bod yr is-gwmni wedi cael ei eithrio o'r gofynion i baratoi cyfrifon unigol o dan adran 479A o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn y nodiadau ar y cyfrifon cyfunol
  • Rhaid i'r datganiad cydsynio a chyfrifon cyfunol y rhiant gwmni ddangos enw'r is-gwmni sy'n PAC a'i rif cofrestredig mewn lle amlwg ar y ddogfen
  • Nid yw'r eithriadau hyn ar gael oni bai bod blwyddyn ariannol eich cwmni yn dod i ben ar 1 Hydref 2012 neu'n ddiweddarach

2. A all pob is-gwmni hawlio'r eithriad hwn?

Na all. Ni all is-gwmni hawlio eithriad os oedd yn unrhyw un o'r canlynol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol o dan sylw:

  • PAC sydd
    • yn gwmni yswiriant awdurdodedig, PAC bancio, dosbarthydd e-Arian, cwmni buddsoddi MiFID, cwmni rheoli UCITS
    • yn cyflawni gweithgarwch ar y farchnad yswiriant
    • yn gymdeithas cyflogwyr yn ôl diffiniad adran 122 o'r Ddeddf honno neu Erthygl 4 o Orchymyn Cysylltiadau Diwydiannol (Gogledd Iwerddon) 1992 (O.S. 1992/807 (NI 5)

3. Pa wybodaeth y mae angen ei chynnwys ar y ffurflen AA06?

Rhaid i'r datganiad gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Enw cofrestredig a rhif yr is-gwmni
  • Blwyddyn ariannol yr is-gwmni y mae'r warant yn ei chwmpasu
  • Dyddiad y datganiad
  • Manylion yr adran o Ddeddf Cwmnïau 2006 y rhoddir y warant odani:
    • Adran 394c - eithriad rhag paratoi cyfrifon ar gyfer is-gwmni segur
    • Adran 448c - eithriad rhag ffeilio cyfrifon ar gyfer is-gwmni segur
    • Adran 479C - eithriad rhag archwilio ar gyfer is-ymgymeriad
  • Naill ai:
    • os cafodd y rhiant-gwmni ei gorffori yn y DU, ei enw cofrestredig a'i rif cofrestredig (os yw'n berthnasol)
    • os cafodd y rhiant-gwmni ei gorffori a'i gofrestru (yn yr un wlad) yn un o wladwriaethau eraill yr AEE, ei enw cofrestredig, rhif cofrestru a manylion y gofrestr lle cafodd ei gofrestru

4. Beth yw effaith y warant, a phryd daw'r warant i rym?

Effaith y warant yw bod y rhiant-ymgymeriad yn gwarantu'r holl rwymedigaethau dyledus y mae'r is-gwmni yn rhwym iddynt ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Daw'r warant i rym pan fydd yn dod i law'r cofrestrydd a bydd yn aros mewn grym nes y caiff yr holl rwymedigaethau eu diwallu.

5. Pa ddatganiadau y mae angen i mi eu cynnwys ar gyfrifon is-gwmni sy'n PAC?

Rhaid i'r is-gwmni sy'n PAC gynnwys datganiadau ar fantolen ei gyfrifon unigol ar hyd y trywydd hwn:

Datganiad Eithriad rhag Archwilio

"Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ………………………. (dd/mm/bbbb), roedd gan y PAC  hawl i gael ei eithrio rhag archwilio ariannol o dan adran 479A o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel y'i cymhwysir i PACau gyda golwg ar is-gwmnïau segur.

Cyfrifoldebau'r aelodau:

  • mae'r aelodau yn cydnabod eu cyfrifoldebau dros gydymffurfio â gofynion y Ddeddf ynglŷn â chofnodion cyfrifeg a pharatoi cyfrifon".

Pennod 13 - Archwilwyr

1. Beth yw archwilydd?

Mae archwilydd yn unigolyn sy'n paratoi adroddiad annibynnol ar gyfer aelodau PAC, ynghylch a yw'r PAC wedi paratoi ei chyfrifon blynyddol yn unol â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 fel y'i cymhwysir ar gyfer PACau, a'r fframwaith adrodd ariannol perthnasol.  Rhaid i'r adroddiad nodi a yw'r cyfrifon yn cynnig darlun cywir a theg o sefyllfa'r PAC ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a'r elw a'r golled ar gyfer y flwyddyn.

2. Sut ddylwn i benodi archwilydd?

Rhaid penodi archwilydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol, oni bai bod yr aelodau dynodedig yn penderfynu fel arall mewn ffordd resymol, ar y sail nad yw'n debygol y bydd cyfrifon archwiliedig yn angenrheidiol .

Bydd yr aelodau dynodedig yn penodi archwilydd cyntaf PAC.  Yna, gall yr aelodau benodi neu ailbenodi archwilydd bob blwyddyn cyn pen 28 diwrnod i'r adeg pan fydd yr aelodau dynodedig yn anfon y cyfrifon at yr aelodau, neu ar ddiwedd y cyfnod pan ddylent fod wedi cael eu hanfon.  Os na fyddant yn gwneud hynny am flwyddyn arbennig, fodd bynnag, bydd yr archwilydd a benodwyd yn parhau i gyflawni'r swydd nes bydd yr aelodau yn gwneud penderfyniad i'w ailbenodi neu i'w ddiswyddo fel archwilydd, oni bai bod cytundeb y PAC yn mynnu'r ailbenodiad mewn gwirionedd.

3. Beth mae archwilydd yn ei wneud?

Bydd yr archwilydd yn archwilio cyfrifon a chofnodion cyfrifeg y PAC ac yn paratoi adroddiad ar gyfer yr aelodau.

4.  Beth fydd adroddiad yr archwilydd ariannol yn ei gynnwys?

Rhaid i adroddiad yr archwilydd ariannol gynnwys:

  • cyflwyniad sy'n nodi manylion y cyfrifon a oedd yn destun yr archwiliad
  • disgrifiad o gwmpas yr archwiliad gan nodi'r safonau cyfrifeg a'r fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r cyfrifon
  • datganiad ynghylch a yw'r cyfrifon wedi cael eu paratoi, ym marn yr archwilwyr, yn unol â Deddf Cwmnïau 2006, fel y mae'n gymwys ar gyfer PACau a, phan fo hynny'n briodol, yn unol ag Erthygl 4 Rheoliad yr UE ar Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol (Rheoliad (CE) 1606/2002, "Rheoliad IAS")
  • datganiad ynghylch a yw'r cyfrifon yn cynnig darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y PAC neu (yn achos cyfrifon grŵp), sefyllfa ariannol y grŵp
  • os yw'r archwilwyr o'r farn nad yw'r PAC wedi cadw cofnodion cyfrifeg digonol, datganiad sy'n nodi hynny
  • os nad yw'r PAC wedi darparu'r holl wybodaeth i'r archwilwyr y bydd ei hangen arnynt er mwyn cwblhau'r adroddiad, datganiad sy'n nodi hynny

Rhaid i adroddiad yr archwilwyr ariannol fod yn ddiamod neu'n amodol, gan gyfeirio at unrhyw faterion y mae'r archwilwyr yn dymuno tynnu sylw atynt, heb amodi'r adroddiad.  Bydd yr archwilwyr yn amodi'r adroddiad lle y bu cyfyngiad o ran cwmpas gwaith yr archwilwyr neu pan geir anghytundeb o sylwedd rhwng y PAC a'r archwilwyr ynghylch y cyfrifon

5.  Pwy sy'n gyfrifol am lofnodi adroddiad yr archwilwyr ariannol?

Rhaid i'r archwilwyr brintio eu henw, llofnodi a dyddio'r adroddiad y byddant yn ei ddarparu i aelodau PAC ar ôl cwblhau'r archwiliad.

Pan fo'r archwilydd yn gwmni, rhaid i'r uwch-archwilydd statudol lofnodi adroddiad yr archwilwyr ariannol gwreiddiol yn ei enw ef, ar ran y cwmni.  Yn ogystal, rhaid iddo ddyddio'r llofnod.  Rhaid i'r PAC nodi enw'r uwch-archwilydd statudol yng nghopïau adroddiad yr archwilwyr ariannol a gyhoeddir ganddo.  Rhaid i gopïau o adroddiadau'r archwilwyr ariannol a gyflwynir i Dŷ'r Cwmnïau nodi enw'r cwmni archwilio a'r uwch-archwilydd statudol, ond does dim rhaid iddynt gael eu llofnodi.

6. A oes unrhyw eithriadau rhag nodi enw'r archwilydd ar adroddiad yr archwilwyr ariannol?

Oes.  Os yw'r PAC o'r farn bod risg y byddai'r archwilydd neu unrhyw unigolyn arall mewn perygl o ddioddef bygythiad neu drais difrifol pe bai enw'r archwilydd (neu enw'r "uwch-archwilydd statudol" a lofnododd yr adroddiad ar ran y cwmni) yn ymddangos ar gopïau o'r adroddiad a ffeiliwyd neu a gyhoeddwyd, gallant benderfynu peidio cynnwys yr enw yn y copïau hynny.

Ni ddylech anfon copi o'r penderfyniad i Dŷ'r Cwmnïau, ond dylech anfon hysbysiad yn ei gylch i'r cyfeiriad canlynol,

Yr Ysgrifennydd Gwladol
Blwch Post 4082
Caerdydd
CF14 3WE

Rhaid i'r hysbysiad nodi:

  • enw a rhif cofrestru'r PAC
  • blwyddyn ariannol y PAC y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi
  • enw'r archwilydd a (phan fo'r archwilydd yn gwmni), enw'r unigolyn a lofnododd yr adroddiad fel uwch-archwilydd statudol

Byddai angen i adroddiad yr archwilwyr a fyddai'n cael ei atodi wrth y cyfrifon, gynnwys y datganiad canlynol:

"Mae'r PAC wedi penderfynu, yn unol ag adran 506 Deddf Cwmnïau 2006 (fel y'i cymhwysir gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cyfrifon ac Archwilio)(Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2008), na ddylid nodi enw'r archwilydd."

7. A oes modd i'm cyfrifydd gyflawni rôl archwilydd?

Rhaid i archwilydd fod yn annibynnol ar y PAC;  felly, ni allwch benodi unigolyn i fod yn archwilydd os ydynt:

  • yn aelod neu'n weithiwr yn y PAC neu swyddog neu weithiwr mewn ymgymeriad cysylltiedig
  • yn bartner neu'n weithiwr ar gyfer unigolyn o'r fath, neu'n bartneriaeth y mae unigolyn o'r fath yn bartner ynddi

Os na fydd eich cyfrifydd yn perthyn i un o'r categorïau uchod, ac os ydynt yn archwilydd cofrestredig dan oruchwyliaeth corff goruchwylio cydnabyddedig, gallant weithredu fel archwilydd y PAC.

Cofiwch:  Ni fydd holl aelodau corff goruchwylio cydnabyddedig yn gymwys i weithredu fel archwilydd, ond bydd y corff goruchwylio priodol yn gallu dweud wrthych a yw unigolyn neu gwmni penodol yn archwilydd cofrestredig.

8.  Beth a phwy yw cyrff goruchwylio cydnabyddedig?

Mae'r Bwrdd Goruchwylio Proffesiynol dros Gyfrifeg yn cydnabod bod gan y cyrff hyn reolau a gynlluniwyd i sicrhau bod archwilwyr yn meddu ar y lefelau uchaf o ran cymhwystra proffesiynol.  Mae gan bob corff cydnabyddedig reoliadau llym a chod disgyblu sy'n llywodraethu gweithredoedd eu harchwilwyr cofrestredig. 

Mae'r pedwar corff cydnabyddedig fel a ganlyn:

Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban
21 Haymarket Yards
Edinburgh EH2 5BH
Gwefan: www.icas.org.uk

Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Lloegr a Chymru    
Level 1, Metropolitan Court
321 Avebury Boulevard
Milton Keynes MK9 2FZ
Gwefan: www.icaew.com

Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon
The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast BT2 8BQ
Gwefan: www.icai.ie

Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig
29 Lincoln's Inn Fields
London
WC2A 3EE
Gwefan: www.acca.org.uk

9.  Ai dim ond cyfrifon blynyddol y mae archwilwyr yn eu harchwilio fel arfer?

Yn amodol ar safonau moeseg y Bwrdd Arferion Archwilio, mae dyletswyddau statudol yr archwilwyr yn gyfyngedig i sicrhau y cadwyd digon o lyfrau a chofnodion, ac i adrodd ar y cyfrifon blynyddol. Eto'n amodol ar y safonau moesegol hynny, nid oes dim i atal PAC rhag cyflogi archwiliwr at ddibenion eraill, fel cadw llyfrau neu lenwi'r ffurflen dreth, ar yr amod nad yw ef (neu hi) yn chwarae rhan wrth reoli'r PAC.

Dylech gytuno ar lythyr cyflogi sy'n pennu cwmpas gwaith yr archwilydd a ffurf unrhyw adroddiadau a gaiff eu paratoi gan yr archwilydd.

10.  Beth fydd yn rhaid i archwilydd ei wneud pan na fydd yn cyflawni'r swydd mwyach?

Os na fydd archwilydd yn cyflawni ei swydd mwyach am unrhyw reswm, rhaid iddo adneuo hysbysiad yn swyddfa gofrestredig PAC. Dylid cynnwys datganiad gan yr archwilydd sy'n nodi unrhyw amgylchiadau sy'n gysylltiedig gyda'r ffaith nad yw'n cyflawni'r swydd mwyach, y dylid dwyn sylw aelodau a chredydwyr PAC atynt yn ei farn ef.

Os nodir unrhyw amgylchiadau o'r fath, rhaid i'r PAC anfon copi o'r datganiad at holl aelodau'r PAC oni bai ei bod yn gwneud cais llwyddiannus i'r llys er mwyn atal hyn rhag digwydd. Os na fydd yr archwilydd yn cael hysbysiad o gais i'r llys cyn pen 21 diwrnod i adneuo'r datganiad gyda'r PAC, rhaid i'r archwilydd anfon copi o'r datganiad i Dŷ'r Cwmnïau cyn pen 7 diwrnod pellach.

Os na cheir unrhyw amgylchiadau o'r fath, rhaid i'r archwilydd adneuo datganiad gyda'r PAC i'r perwyl hwnnw. Nid oes yn rhaid i'r PAC gylchredeg y datganiad hwn ymhlith yr aelodau, ond mae'n rhaid cyflwyno copi ohono i Dŷ'r Cwmnïau.

Yn ogystal, lle bo'r archwilydd yn ymddiswyddo neu'n cael ei ddiswyddo, mae rhwymedigaeth ar yr archwilydd a'r PAC i hysbysu'r ‘awdurdod archwilio priodol'. Mae canllawiau manylach ar y darpariaethau hyn ar wefan y cyngor Adrodd Ariannol sef www.frc.org.uk

Pennod 14 - Arwystlon

Ernes y mae PAC yn ei roi am fenthyciad yw arwystl. Gall y PAC sy’n creu’r arwystl (neu unrhyw berson â buddiant yn yr arwystl) gyflwyno’r datganiad o fanylion, gyda chopi ardystiedig o offeryn yr arwystl (os oes un) a’r ffi perthnasol, i’r cofrestrydd i’w gofrestru  (dylid nodi bod rhaid i PACau a gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru neu yng Ngogledd Iwerddon gyflwyno’r copi gwreiddiol o’r arwystl yn hytrach na chopi ardystiedig os crëwyd yr arwystl cyn 6 Ebrill 2013).

Os bydd PAC yn creu arwystl ac nad yw’n cyflwyno’r dogfennau angenrheidiol a’r ffi i’r cofrestrydd i’w cofrestru cyn pen y cyfnod a ganiateir, ac os bydd y PAC yn methdalu wedyn, caiff yr arwystl ei ddirymu o safbwynt y datodydd neu’r gweinyddydd ac unrhyw un sy’n gredydwr i’r PAC. Mae hyn yn golygu y bydd y ddyled y rhoddwyd yr arwystl mewn perthynas ag ef yn daladwy o hyd, ond bydd yn ddyled ansicredig. Os na ddaeth arwystl i law Tŷ’r Cwmnïau mewn da bryd, y llys yn unig a gaiff roi estyniad o ran yr amser a ganiateir i’w gofrestru. 

Caniateir cyfnod o 21 diwrnod i gyflwyno arwystlon – mae’r manylion yn y tabl yng nghwestiwn 1b wrth ymyl y disgrifiad o’r ffurflen.

Un drefn sydd yna ledled y DU i gofrestru arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach. Mae hyn yn golygu y bydd yr holl PACau sy’n gofrestredig yn y DU yn cyflwyno’r un ffurflenni i Dŷ’r Cwmnïau. Yr unig ffurflen sy’n dal i fod yn berthnasol yn benodol yn yr Alban ar gyfer arwystlon a gofrestrwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach yw Ffurflen LLP466 - -  Manylion offeryn i ddiwygio arwystl ansefydlog .

Mae gwahanol reolau’n berthnasol yn dibynnu pryd y cafodd yr arwystl ei greu:

  • Os crëwyd yr arwystl ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach, disgrifir y gofynion yng nghwestiynau 1a-e, ‘Cofrestru arwystlon’
  • Os crëwyd yr arwystl cyn 6 Ebrill 2013, trowch at gwestiynau 5a-b, ‘Cofrestru arwystlon’

1 Cofrestru Arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach

1a. Arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach y gellir eu cofrestru

Gellir cofrestru unrhyw arwystlon, oni bai eu bod wedi cael ei heithrio’n benodol. Dyma’r arwystlon sy’n cael eu heithrio;

  • Arwystl er budd landlord ar ernes arian parod a roddwyd fel gwarant wrth brydlesu tir  
  • Arwystl a grëwyd gan aelod o Lloyd’s (yn ystyr Deddf Lloyd’s 1982) i ddiogelu ei rwymedigaethau mewn perthynas â’i fusnes tanysgrifennu yn Lloyd’s
  • Arwystl y mae unrhyw Ddeddf arall yn pennu eithriad penodol rhag ei gofrestru (er enghraifft, Rheoliadau Trefniadau Cyllid a Gwarantau Cyfochrog (Rhif 2) 2003)

1b. Pa ffurflen ddylwn i ei defnyddio?

Arwystlon a grëwyd ar 6 Ebrill 2013 neu’n ddiweddarach
Rhif y Ffurflen Teitl A yw’r terfyn amser o 21 diwrnod i gyflwyno’r ffurflen yn gymwys? (Y/N)
LLMR01* Manylion arwystl a grëwyd gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) Y
LLMR02* Manylion arwystl y mae Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) wedi caffael eiddo neu ymgymeriad mewn cysylltiad ag ef N
LLMR03 Manylion cofrestru arwystl i ddiogelu cyfres o ddyledebau gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) Y
LLMR04* Datganiad bodloni arwystl yn llwyr neu’n rhannol gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) N
LLMR05* Datganiad bod rhan o’r eiddo neu’r eiddo cyfan wedi cael ei ryddhau o’r arwystl neu nad yw’n eiddo i’r Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) mwyach N
LLMR06 Datganiad bod Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) yn gweithredu fel ymddiriedolwr N
LLMR07 Manylion diwygiad i arwystl (manylion gwystl negyddol) ar gyfer Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) N
LLMR08 Manylion arwystl a grëwyd gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) lle nad oes unrhyw offeryn Y
LLMR09 Manylion arwystl y caffaeliwyd eiddo mewn cysylltiad ag ef lle nad oes unrhyw offeryn gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) N
LLMR10 Manylion cofrestru arwystl i ddiogelu cyfres o ddyledebau lle nad oes unrhyw offeryn gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) Y
LLRM01 Hysbysiad am benodi derbynnydd gweinyddol, derbynnydd neu reolwr N
LLRM02 Hysbysiad am roi’r gorau i weithredu fel derbynnydd gweinyddol, derbynnydd neu reolwr N
* Gellir ffeilio’r ffurflenni a ddynodir â seren yn electronig hefyd gan ddefnyddio naill ai WebFiling neu Software filing.

1c. Ffeilio electronig

Gellir cyflwyno’r ffurflenni LLMR01, LLMR02, LLMR04 ac LLMR05 yn electronig gan ddefnyddio  WebFiling neu Software Filing. Dyma’r dull cyflymaf, rhataf a mwyaf hwylus i ffeilio dogfennau. 

WebFiling
Er mwyn ffeilio trwy WebFiling, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer WebFiling (os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny) a (ac eithrio lle bo’r cwmni a greodd yr arwystl yn ffeilio’r ddogfen) gwneud cais am God Dilysu Benthyciwr (LAC). . Bydd Tŷ’r Cwmnïau’n creu LAC, ynghyd â chod adnabod a chod dilysu ar gyfer y cyflwynydd.

(Gall PACau ffeilio arwystlon eu PAC hunain gan ddefnyddio cod dilysu’r PAC ac ni fydd angen LAC yn hynny o beth).

Rhagor o fanylion (yn Saesneg) am ffeilio dogfennau arwystl trwy WebFiling

Software filing
Os ydych chi am ffeilio dogfennau trwy software filing, bydd angen gwneud cais am gyfrif a naill ai defnyddio’ch meddalwedd eich un neu un o’r cyflenwyr meddalwedd canlynol.

1d. Pethau i’w cofio wrth ffeilio Ffurflen MR01

Y Ffurflen MR01 yw’r ffurflen arwystlon sy’n cael ei ffeilio amlaf yn Nhŷ’r Cwmnïau. (Rhaid ffeilio ffurflen MR08 yn hytrach os nad oes offeryn.) Mae’n bwysig gweithredu cyn gynted â phosibl, ac wrth gyflwyno’r dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau, cofiwch: 

  • llenwi’r ffurflen gywir a’i chyflwyno i’r swyddfa gofrestru gywir (wrth ffeilio ar bapur) gan ddilyn unrhyw nodiadau perthnasol ar y ffurflen hefyd
  • cyflwyno’r copi ardystiedig o’r offeryn sy’n creu neu’n tystiolaethu’r arwystl gyda’r ffurflen
  • sicrhau bod y manylion ar y ffurflen yn gywir a’u bod yn gyson â’r wybodaeth a roddir yn yr offeryn
  • cynnwys y ffi cofrestru cywir (£10 yn electronig. £13 ar bapur)

1e. Beth os yw offeryn yr arwystl yn cynnwys gwybodaeth bersonol?

Cewch ddileu rhai manylion personol o’r copi ardystiedig o’r offeryn cyn ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Dyma’r wybodaeth y cewch ei dileu:  

  • gwybodaeth bersonol am unigolyn (ac eithrio enw’r unigolyn)
  • rhif neu fanylion adnabod cyfrif banc neu gyfrif ernesau’r cwmni neu’r unigolyn
  • y llofnod

Chi sy’n dewis sut i fynd ati i ddileu’r wybodaeth hon.

2. Caffael eiddo sydd eisoes yn destun arwystl

Os byddwch chi’n caffael eiddo sydd eisoes yn destun arwystl, ac nad yw’r arwystl yn un sydd wedi ei eithrio o’r gofynion cofrestru, cewch gofrestru’r arwystl hwnnw. Dylai’r PAC (neu unrhyw berson sydd â buddiant yn yr arwystl) lenwi ffurflen LLMR02 a’i chyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau, ynghyd â chopi ardystiedig o’r offeryn sy’n creu neu sy’n tystiolaethu’r arwystl. Rhaid cyflwyno ffurflen LLMR09 os nad oes unrhyw offeryn. 

Bodloni arwystlon

3. Beth ddylwn i ei wneud os yw’r PAC wedi bodloni’r ddyled?

Nid oes angen i’r PAC hysbysu Tŷ’r Cwmnïau ei fod wedi talu’r ddyled yn llwyr neu’n rhannol. Fodd bynnag, er budd y PAC ei hun, mae’n bwysig bod darpar-fuddsoddwyr a benthycwyr yn ymwybodol ei fod wedi  bodloni’r ddyled yn llwyr neu’n rhannol. Os ydych chi’n dymuno hysbysu Tŷ’ Cwmnïau, dylech gyflwyno ffurflen LLMR04.

4. Beth os yw’r eiddo sydd o dan arwystl, yn peidio â bod yn destun arwystl neu’n peidio â bod yn eiddo i’r PAC?

Nid oes unrhyw ofyniad i PAC hysbysu Tŷ’r Cwmnïau bod eiddo wedi cael ei ryddhau o arwystl neu nad yw’n eiddo i’r PAC mwyach. Fodd bynnag, er budd y PAC ei hun, mae’n bwysig bod darpar-fuddsoddwyr a benthycwyr yn ymwybodol o hyn. Os ydych am hysbysu Tŷ’r Cwmnïau, dylech gyflwyno ffurflen LLMR05. 

Gellir cael rhagor o wybodaeth am Gofrestru Arwystlon yn Adran 25 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Ddeddf Cwmnïau 2006 (Diwygio Adran 25) 2013 (fel y’i cymhwysir at PACau gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009).

5. Cofrestru arwystlon a grëwyd cyn 6 Ebrill 2013

5a. Arwystlon a grëwyd cyn 6 Ebrill 2013 y mae’n rhaid eu cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau 

Dyma’r mathau o arwystlon y mae’n rhaid i PACau a gorfforwyd yn Lloegr a Chymru, Cymru a Gogledd Iwerddon, eu cofrestru:

  • Arwystl ar dir neu unrhyw fuddiant mewn tir, ac eithrio arwystl am unrhyw rent neu unrhyw swm cyfnodol arall a delir am ddyrannu tir
  • Arwystl a grëwyd neu a dystiolaethwyd gan offeryn y byddai angen ei gofrestru fel bil gwerthiant pe bai’n cael ei gyflawni gan unigolyn
  • Arwystl at ddibenion diogelu unrhyw ddyledebion a ddosberthir
  • Arwystl ar gyfalaf cyfrannau’r cwmni sydd heb eu herchi
  • Arwystl ar erchiadau a wnaed ond na thalwyd
  • Arwystl ar ddyledion llyfr y PAC
  • Arwystl ansefydlog ar eiddo neu ymgymeriadau’r PAC
  • Arwystl ar long neu awyren, neu unrhyw gyfrannau mewn llong
  • Arwystl ar ewyllys da neu ar unrhyw eiddo deallusol

Yn achos PACau a gorfforwyd yn yr Alban, dyma’r arwystlon y mae’n rhaid eu cofrestru;

  • Arwystl ar dir neu unrhyw fuddiant yn mewn tir o’r fath, ac eithrio arwystl am unrhyw rent neu unrhyw swm cyfnodol arall sy’n daladwy mewn perthynas â’r tir
  • Ernes dros eiddo symudol y gellir ei gorffori yn unrhyw un o’r categorïau canlynol
    • ewyllys da
    • patent neu drwydded o dan batent 
    • nod masnach
    • hawlfraint neu drwydded o dan hawlfraint
    • dyluniad cofrestredig neu drwydded mewn perthynas â dyluniad o’r fath
    • hawl dylunio neu drwydded o dan hawl dylunio
    • y dyledion llyfr (boed yn ddyledion llyfr y PAC neu’n rhai a aseiniwyd iddo)
    • Ernes am long neu awyren neu unrhyw gyfran mewn llong
  • Arwystl ansefydlog

5b. Pa ffurflen ddylwn i ei defnyddio ar gyfer arwystlon a grëwyd cyn 6 Ebrill 2013?

Pennod 15 - Ansawdd dogfennau

1.  Beth fydd yn digwydd i ddogfennau y byddaf yn eu hanfon i Dy'r Cwmnïau?

Byddwn yn sganio'r dogfennau a'r ffurflenni papur y byddwch yn eu cyflwyno i ni er mwyn creu delwedd electronig.  Yna, byddwn yn storio'r dogfennau papur gwreiddiol, gan ddefnyddio'r ddelwedd electronig fel y ddogfen waith. 

Pan fydd cwsmer yn chwilio'r cofnod cyhoeddus, byddant yn gweld y ddelwedd electronig wedi'i hatgynhyrchu ar-lein.  Felly, mae'n bwysig bod y ddogfen wreiddiol yn ddarllenadwy, a'i bod yn gallu creu copi clir hefyd.

Pan fyddwch yn cyflwyno dogfen yn electronig, byddwn yn creu delwedd electronig o'r data a ddarparwyd gennych yn awtomatig.

Mae'r bennod hon yn cynnig rhai canllawiau i'w dilyn wrth baratoi dogfen i'w ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau.

2. Sut ddylai dogfennau gael eu gosod?

Dogfennau sy'n cael eu cyflwyno yn electronig

Rhaid i ddogfennau sy'n cael eu cyflwyno yn electronig gydymffurfio gyda'r manylebion a bennwyd gan y cofrestrydd yn ei reolau ynghylch ffeilio electronig. Cynhwysir y diwyg ar gyfer Software Filing a webfiling yn y rheolau a gyhoeddir ar y wefan, ac mae'n gwefan yn cynnwys yr holl ddiwygiau y bydd eu hangen arnoch er mwyn ffeilio trwy gyfrwng y dull hwnnw. Mae llawer o'r busnesau a enwir ar ein rhestr o ddarparwyr meddalwedd yn darparu gwasanaethau ar y we ac yn dibynnu faint o ddogfennau rydych chi'n disgwyl eu ffeilio, efallai y byddai'n fwy ymarferol i chi ddefnyddio eu gwasanaethau nhw. Caiff ceisiadau electronig eu prosesu'n gynt na'r rhai sy'n cael eu ffeilio ar bapur. Ein nod yw prosesu dogfennau electronig cyn pen 24 awr ar ôl iddynt ddod i law

Dogfennau papur

Yn gyffredinol, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i Dŷ'r Cwmnïau nodi enw a rhif cofrestru y PAC mewn man amlwg.  Ceir rhai eithriadau i'r rheol hon, a nodir yn rheolau cyhoeddedig y cofrestrydd.

Dylai dogfennau papur fod ar bapur gwyn plaen A4, a gorffeniad di-sglein.  Dylai'r testun fod yn ddu, yn eglur, yn ddarllenadwy a dylai'r dwysedd fod yn unffurf.  Rhaid i lythrennau a rhifau fod yn eglur ac yn ddarllenadwy er mwyn sicrhau bod modd i ni baratoi copi derbyniol o'r ddogfen.  Gallai'r canllawiau canlynol fod o gymorth:

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen papur, a fyddech cystal â:

  • defnyddio inc du neu deip du
  • defnyddio llythrennau trwm (bydd rhai pennau ysgrifennu ac wynebau teip tenau a chain yn creu copïau o ansawdd gwael)
  • ni ddylech anfon copi carbon
  • ni ddylech ddefnyddio matrics-argraffydd
  • cofiwch - gall llungopïau roi arlliw llwyd na fydd yn sganio'n dda
  • y dylech ddefnyddio papur A4 gydag ymyl hael
  • eu darparu ar ffurf diwyg portread (hynny yw, yr ymyl byrraf ar draws y brig)
  • chynnwys rhif ac enw'r cwmni

Cyfrifon sglein

Os ydych chi'n cynhyrchu cyfrifon wedi eu hargraffu mewn lliw gyda lluniau ar bapur sglein, cadwch y rhain ar gyfer eich cyfranddeiliaid a phobl eraill a fydd yn eu gwerthfawrogi. Mae arnom angen y cyfrifon mewn print du ar gefndir gwyn â gorffeniad matt. Byddai fersiwn o broflen yr argraffydd wedi ei deipio ond heb ei rwymo yn ddelfrydol, ar yr amod bod y llofnodion angenrheidiol arni.

Bob blwyddyn, mae rhyw 6,000 set o gyfrifon yn cael eu gwrthod am nad ydynt yn ddigon darllenadwy. Dyma'r 3 rheswm pennaf am hyn:

  • Bod y cyfrifon ar bapur sglein
  • Am fod graddliwio dros y ffigurau e.e. i wahaniaethu rhwng y flwyddyn ariannol o dan sylw a'r flwyddyn flaenorol
  • Print o ansawdd gwael

3. Ble mae modd i mi gael gwybod mwy am hyn?

Am arweiniad pellach am ein gofynion argraffu, a fyddech cystal ag anfon eich ymholiad mewn neges e-bost neu ffonio 0303 1234 500.

Pennod 16 - Gwybodaeth Bellach

1.  Sut ddylwn i gyflwyno gwybodaeth i Dŷ'r Cwmnïau?

Am fanylion llawn am yr holl ffyrdd o gyflwyno dogfennau i Dŷ'r Cwmnïau, yn electronig neu ar bapur, a fyddech cystal â throi at reolau'r cofrestrydd sy'n ymddangos ar ein gwefan. Y ffordd fwyaf diogel o gyflwyno gwybodaeth statudol i Dŷ'r Cwmnïau yw trwy ddefnyddio ein gwasanaethau ffeilio ar-lein. Ein nod yw prosesu dogfennau electronig cyn pen 24 awr ar ôl iddynt ddod i law

Am ragor o wybodaeth a manylion cofrestru, trowch at ein gwefan.

Os ydych yn anfon dogfennau papur yn y post, gyda negesydd, gyda'r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu Bost Cyfreithiol (yn yr Alban), ac os hoffech gael derbynneb, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn darparu nodyn cydnabod os byddwch yn cynnwys copi o'ch llythyr esboniadol gydag amlen â chyfeiriad a stamp arni er mwyn ei dychwelyd.  Byddwn yn nodi cod bar ar eich copi o'r llythyr, gan nodi'r dyddiad y'i cyflwynwyd, a'i ddychwelyd atoch yn yr amlen a ddarparwyd.

Sylwer: nid yw nodyn sy'n cydnabod bod dogfen wedi cyrraedd, yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn i'w chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Sylwer: nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfennau statudol trwy gyfrwng neges ffacs, (ac eithrio copïau ardystiedig o offerynnau arwystl sy’n cael eu ffeilio’n electronig) neu e-bost..

2.  A fydd yn rhaid i mi dalu er mwyn ffeilio dogfennau yn Nhŷ'r Cwmnïau?

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi am nifer o'r dogfennau y bydd yn rhaid i chi eu hanfon i Dŷ'r Cwmnïau, ond bydd angen talu ffi ar gyfer rhai ac ni fyddwn yn eu derbyn er mwyn eu cofrestru heb y ffi hon.  Am fanylion llawn, dylech droi at ein gwefan.

3.  A oes modd i mi ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill?

Fel arfer, mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn ffeilio dogfennau a anfonir i Dŷ'r Cwmnïau yn Saesneg.  Ceir eithriadau i'r rheol hon, fel y nodir isod.  Gallwch baratoi a chyflwyno dogfennau yn Gymraeg os lleolir swyddfa gofrestredig eich PAC yng Nghymru.

Gall PACau gyflwyno'r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os anfonir cyfieithiad Saesneg ardystiedig o'r ddogfen hefyd:

  • Ar gyfer PAC a gynhwysir yng nghyfrifon grwpiau mwy o fewn yr AEE (Ardal Economaidd Ewrop) neu grwpiau nad ydynt yn dod o'r AEE, y cyfrifon grŵp ac adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad
  • Offerynnau arwystlon (neu gopïau o offerynnau arwystlon)
  • Gorchmynion Llys.

Yn ychwanegol, caiff PACau ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen sydd wedi'i phennu yn adran 1078 o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel y cafodd honno ei chymhwyso at PACau gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009.

Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • Dogfennau cyfansoddiadol h.y. dogfen gorffori PAC;  unrhyw hysbysiad dan adran 8(4) Deddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 neu hysbysiad newid enw PAC
  • Hysbysiad o unrhyw newidiadau i aelodaeth PAC neu fanylion yr aelodau
  • Cyfrifon, adroddiadau a ffurflenni blynyddol
  • Hysbysiad o unrhyw newidiadau i swyddfa gofrestredig PAC
  • Dogfennau dirwyn i ben

Rhaid i'r cyfieithiad gwirfoddol ymwneud â dogfen a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau ar neu ar ôl 1Hydref 2009.  Dim ond yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y bydd modd ffeilio cyfieithiadau gwirfoddol ynddynt, ac mae'n rhaid cyflwyno Ffurflen LL VT01 gyda nhw, a fydd yn cysylltu'r cyfieithiad gyda'r ddogfen wreiddiol.

4. Ble mae modd i mi gael ffurflenni a chanllawiau?

Mae hon yn un mewn cyfres o gyhoeddiadau gan Dŷ'r Cwmnïau sy'n cynnig canllaw syml i'r Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig.

Mae modd cael pob canllaw a ffurflen papur statudol, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ'r Cwmnïau.  Y ffordd gyflymaf o'u cael yw trwy droi at ein gwefan neu ffonio 0303 1234 500.

Yn ogystal, gallwch gael ffurflenni papur gan ddogfenwyr cyfraith cwmnïau, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau.

Brig
Ein polisi ar gwcis