Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Eu Dileu o’r Gofrestr, eu Diddymu a’u Hadfer - GPLLP3

Tachwedd 2012 - Fersiwn 2.6

Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006

Fersiwn PDF y tudalen hwn (305KB)

A yw’r canllaw hwn ar eich cyfer chi?

Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:

  • os ydych yn ystyried neu’n dymuno diddymu partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; neu
  • os ydych yn dymuno adfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i’r gofrestr

Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:

  • os ydych yn aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; neu
  • os ydych yn gweithredu fel cynghorydd i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Cynnwys

Cyflwyniad
Pennod 1. Dileu PAC o’r gofrestr a’u diddymu’n wirfoddol
Pennod 2. PACau nad ydyn nhw’n gwneud busnes neu’n gweithredu mwyach
Pennod 3. Adfer PAC drwy Orchymyn Llys
Pennod 4. Adfer PAC yn weinyddol
Pennod 5. Ansawdd Dogfennau
Pennod 6. Gwybodaeth Bellach

Mae’r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau cyffredin ac yn cynnig gwybodaeth am sut i fynd ati i gwblhau rhai o’r dogfennau ffeilio mwyaf cyffredin yn y maes yma. Ni chafodd ei ddrafftio gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg. Mae’n bosibl y bydd angen gofyn am gyngor proffesiynol arbenigol mewn achosion o’r fath.

Cyflwyniad

Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut y gall partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) gael ei dileu o’r gofrestr a’i hadfer iddi. Mae’r canllaw hwn yn gymwys i bob PAC sydd wedi’i chofrestru yn y Deyrnas Unedig (DU) sef Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fe welwch chi’r ddeddfwriaeth berthnasol yn Neddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 ac yn Rhan 31 o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel y mae’n cael ei chymhwyso at PAC gan Reoliad 13 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009 OS 2009/1804.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio:

  • Dileu PAC o’r gofrestr a’i diddymu’n wirfoddol -suty gallwch ofyn i’r cofrestrydd ddileu enw’ch PAC o’r gofrestr (Pennod 1).
  • PACau nad ydyn nhw’n gwneud busnes neu’n gweithredu mwyach –sut y gall y cofrestrydd ddileu enw’ch PAC o’r gofrestr os nad yw’n gwneud busnes neu’n gweithredu mwyach (Pennod 2).
  • Adfer PAC i’r gofrestr drwy Orchymyn Llys – sut y gall y llys adfer y PAC i’r gofrestr (Pennod 3).
  • Adfer PAC yn Weinyddol– sut y gall cyn-aelod wneud cais i’r cofrestrydd am adfer y PAC (Pennod 4).

Os bydd gennych chi amheuon ynglŷn â'ch cyfrifoldebau ar ôl darllen y canllaw hwn, dylech ystyried gofyn am gyngor proffesiynol gan gyfreithiwr neu gyfrifydd.     

Pennod 1

Dileu PAC o’r gofrestr a’u diddymu’n wirfoddol

1. O dan ba amgylchiadau y caiff PAC wneud cais am gael ei dileu o’r gofrestr?

Caiff PAC  wneud cais i’r cofrestrydd am gael ei dileu o'r gofrestr a’i diddymu. Gall y PAC wneud hyn os nad oes ei hangen mwyach. Er.enghraifft,  efallai yr hoffai’r aelodau ymddeol ac nad oes neb i gymryd eu lle; neu os bydd nifer yr aelodau wedi gostwng o dan y gofyniad statudol bod rhaid cael 2 am fwy na 6 mis, gan ddatgelu’r aelod sydd ar ôl i atebolrwydd personol am ddyledion y PAC; neu os yw'n is-bartneriaeth nad oes angen ei henw mwyach; neu os cafodd ei sefydlu i fanteisio ar syniad nad oedd yn ymarferol yn y pen draw. Mae rhai PACau sy’n segur neu’n ddi-fasnach yn dewis gwneud cais i gael eu dileu o’r Gofrestr. Os ydych chi wedi penderfynu nad ydych eisiau cadw’ch PAC mwyach ac eisiau iddo gael ei dileu o’r Gofrestr, fel arfer ni fydd y cofrestrydd yn mynd ar ôl unrhyw gosbau am ffeilio’n hwyr sy’n ddyledus oni fyddwch yn adfer y PAC i’r gofrestr yn ddiweddarach.
Noder: Os yw’r Cofrestrydd eisoes wedi dechrau cymryd camau diddymu o dan adran 1000 (pŵer i ddileu o’r gofrestr gwmni nad yw’n cynnal busnes neu’n gweithredu) ni fyddwn yn derbyn y cais.


Dydy’r weithdrefn hon ddim yn ddewis arall yn lle achos ansolfedd ffurfiol lle bo'n briodol. Hyd yn oed os caiff y PAC ei dileu o’r gofrestr a'i diddymu, fe allai credydwyr ac eraill wneud cais am i’r PAC gael ei hadfer i'r gofrestr. Mae rhagor o wybodaeth am adfer PAC ar gael ym Mhennod 3. Gellir gweld mwy o wybodaeth am adfer ym Mhennod 3. Gellir gweld rhestr o’r personau a all wneud cais i’r llys i PAC gael ei hadfer yng nghwestiwn 1 o bennod 3.

2. Pryd na cha i wneud cais i’r cofrestrydd am ddileu fy PAC o’r gofrestr?

Gall cais am ddileu PAC o’r gofrestr yn wirfoddol gael ei wneud gan fwyafrif o blith yr aelodau. Ond, os nad oes ond 2 aelod, mae’n rhaid i’r cais gael ei wneud gan y ddau ac os nad oes ond 1 aelod ar ôl fe gaiff yr aelod hwnnw wneud cais.

Mae adrannau 1004 a 1005 o Ddeddf Cwmnïau 2006, fel y mae’n cael ei chymhwyso at PAC gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009 yn nodi o dan ba amgylchiadau na chaiff y PAC wneud cais am gael ei dileu o’r gofrestr. Er enghraifft, chaiff y PAC ddim gwneud cais am gael ei dileu o’r gofrestr yn wirfoddol os yw wedi gwneud unrhyw un o’r canlynol yn ystod y 3 mis diwethaf:

  • wedi masnachu neu wedi gwneud busnes mewn modd arall;
  • wedi newid ei henw;
  • am ryw werth, wedi cael gwared ar eiddo neu hawliau a oedd ganddi yn union cyn rhoi’r gorau i fasnachu neu gynnal busnes mewn modd arall i'w gwerthu er mwyn elwa yng nghwrs arferol y masnachu neu’r gwneud busnes mewn modd arall. Er enghraifft, fyddai PAC a oedd mewn busnes er mwyn gwerthu afalau ddim yn cael parhau i werthu afalau yn ystod y cyfnod hwnnw o 3 mis, ond fe allai werthu'r lori yr oedd yn arfer ei defnyddio i gludo'r afalau neu'r warws lle caent eu storio; neu
  • wedi cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch arall ac eithrio gweithgarwch yr oedd ei angen neu a oedd yn gyfleus er mwyn:
    • gwneud cais am ddileu’r PAC o'r gofrestr neu benderfynu a ddylid gwneud hynny. Er enghraifft, caiff PAC geisio cyngor proffesiynol ynglŷn â'r cais a thalu costau cyflwyno’r ffurflen gais LL DS01c;
    • dod â materion y PAC i ben;
    • cydymffurfio ag unrhyw ofyniad statudol

Chaiff PAC ddim gwneud cais am ddileu ei henw o’r gofrestr os yw'n destun y canlynol, neu'n destun arfaethedig y canlynol:

  • unrhyw achos ansolfedd (megis ymddatod, gan gynnwys lle mae deiseb wedi’i chyflwyno ond heb gael ei thrin eto);
  • cynllun o dan adran 895 o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel y mae’n cael ei chymhwyso at PAC (sef cyfaddawd neu drefniant rhwng PAC a'i chredydwyr neu ei haelodau).

Er hynny, mae PAC yn cael gwneud cais am gael ei dileu o’r gofrestr os yw wedi talu dyledion masnachu neu ddyledion busnes yn y 3 mis blaenorol.

Cewch weld rhagor o amgylchiadau lle na chewch wneud cais yn adrannau 1004 a 1005 o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel y mae’n cael ei chymhwyso at PAC gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009.  Sylwch y byddwch yn cyflawni tramgwydd os byddwch yn gwneud cais sydd wedi’i wahardd gan y cyfyngiadau hyn (gweler cwestiwn 12).

3. Beth dylwn i ei wneud cyn gwneud cais?

Mae yna ddulliau diogelu i’r rhai y mae diddymu PAC yn debyg o effeithio arnyn nhw. Os oes gan eich PAC gredydwyr, aelodau etc, rhaid ichi rybuddio pawb sydd wedi’i restru yng nghwestiwn 5 cyn ichi wneud cais, a hynny am fod modd i unrhyw un ohonyn nhw wrthwynebu dileu'r PAC o'r gofrestr. Dylech dacluso unrhyw fanion, megis cau cyfrif banc y PAC, trosglwyddo unrhyw enwau parth cyn ichi wneud eich cais.

Dylech roi gwybod i unrhyw sefydliad neu barti arall a all fod â buddiant ym materion y PAC, neu fel arall fe allen nhw wrthwynebu'r cais yn nes ymlaen. Mae’r enghreifftiau'n cynnwys Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, awdurdodau lleol, yn enwedig os yw’r PAC o dan rwymedigaeth mewn cysylltiad â chaniatâd cynllunio neu faterion iechyd a diogelwch, cynghorau hyfforddiant a menter ac asiantaethau'r llywodraeth.

O ddyddiad y diddymu ymlaen, bydd unrhyw asedau a oedd gan PAC a gafodd ei diddymu yn perthyn i'r Goron. Caiff cyfrif banc y PAC ei rewi a bydd unrhyw gredyd sy’n weddill yn y cyfrif yn cael ei drosglwyddo i’r Goron. Mae rhagor o fanylion am beth sy’n digwydd i’r asedau pan fydd y PAC yn cael ei diddymu i’w gweld ym Mhennod 2 cwestiwn 4.

4. Sut mae gwneud cais?

Rhaid ichi lenwi’r ffurflen gais gan PAC am gael ei dileu – Ffurflen LL DS01c.

Mae hon ar gael ar ein gwefan neu o’r ffynonellau sydd wedi’u rhestru ym Mhennod 6.

Rhaid i’r ffurflen gael ei llofnodi a’i dyddio gan y canlynol:

  • y mwyafrif o’r aelodau;
  • gan y ddau2 aelod, os dau aelod yn unig sydd; neu
  • os un aelod yn unig sydd ar ôl, gan yr aelod hwnnw.

Bydd yn helpu Tŷ’r Cwmnïau os gallwch roi enw, cyfeiriad a rhif ffôn y sawl y dylen ni gysylltu â nhw os bydd gennyn ni unrhyw ymholiadau am y cais. Sylwch y bydd yr wybodaeth hon i’w gweld ar gofnod cyhoeddus y PAC ar ôl inni gofrestru’r ffurflen. Yna, dylech anfon y ffurflen, ynghyd â’r ffi i gofrestrydd y rhan honno o’r Deyrnas Unedig y mae’ch PAC wedi’i chofrestru ynddi. Sylwer: Ni ddylai sieciau fod yn daladwy o gyfrif y cwmni sy’n gwneud cais am ddileu o’r gofrestr. Mae rhagor o wybodaeth am y ffi sy’n daladwy ar gael yng nghwestiwn 13.

5. I bwy mae’n rhaid imi roi gwybod?

O fewn saith diwrnod ar ôl anfon y cais at y cofrestrydd, rhaid i’r aelodau sy’n gwneud y cais anfon copi at y bobl ganlynol: 

  • aelodau y PAC, ac eithrio’r aelodau sy’n gwneud y cais;
  • gweithwyr y PAC;
  • credydwyr y PAC, gan gynnwys yr holl gredydwyr digwyddiadol (presennol) a’r holl ddarpar gredydwyr (rhai tebygol) megis banciau, cyflenwyr, cyn-weithwyr os oes ar y PAC arian iddyn nhw, landlordiaid, tenantiaid (er enghraifft, os oes bond i’w ad-dalu), gwarantwyr a hawlwyr anaf personol. Hefyd, rhaid ichi roi gwybod i swyddfeydd priodol Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), a’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os oes rhwymedigaethau heb eu bodloni, rhwymedigaethau digwyddiadol neu ddarpar rwymedigaethau; a
  • rheolwr neu ymddiriedolwr ar unrhyw gronfa pensiwn gweithwyr sydd gan y PAC.

Rhaid i’r aelodau roi copi o’r cais hefyd i unrhyw berson sydd, ar ôl i’r cais gael ei wneud, yn dod yn aelod, yn weithiwr neu’n gredydwr i’r PAC, neu’n rheolwr neu ymddiriedolwr ar unrhyw gronfa pensiwn gweithwyr sydd gan y PAC, a hynny o fewn 7 diwrnod ar ôl iddynt gael eu penodi. Bydd y rhwymedigaeth yma’n parhau nes i’r PAC gael ei diddymu neu nes i’r cais gael ei dynnu’n ôl.  Mae rhagor o wybodaeth am y tramgwydd o beidio â chylchredeg yr hysbysiad i’r amrywiol l bartïon ar gael yng nghwestiwn 12.

6. Sut dylwn i roi gwybod i’r amrywiol bartïon?

Cewch bostio copi o’r Ffurflen LL DS01c i’r canlynol, neu ei adael yno:

  • y cyfeiriad hysbys diwethaf (yn achos unigolyn);
  • y brif swyddfa / y swyddfa gofrestredig (yn achos PAC neu gorff arall)

Caniateir hefyd ichi roi gwybod am y cais i gredydwr i’r PAC drwy adael neu bostio copi ohono yn y lle busnes y mae’r PAC wedi delio ag ef mewn perthynas â’r dyledion cyfredol (er enghraifft y gangen lle’r archebwyd nwyddau gennych neu a roddodd anfoneb ichi). Er hynny, os oes mwy nag un lle busnes o’r fath, dylech gyflwyno copi o’r cais i bob un o’r lleoedd hyn.  Mae’n ddoeth cadw prawf eich bod wedi’i anfon neu wedi’i bostio.

7. Beth sy’n digwydd ar ôl i Dŷ’r Cwmnïau gael y cais?

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn edrych ar y ffurflen ac, os yw’n dderbyniol, bydd yn ei gosod ar gofnod cyhoeddus y PAC. Anfonwn nodyn cydnabod i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen, gan roi gwybod i'r PAC hefyd yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig, er mwyn iddi wrthwynebu os yw’r cais yn un ffug.

Bydd y cofrestrydd yn cyhoeddi hysbysiad ynghylch y bwriad i ddileu enw’r PAC o’r gofrestr yn y Gazette er mwyn caniatáu i bartïon sydd â buddiant ynddi wrthwynebu.
Caiff copi o’r hysbysiad ei osod ar gofnod cyhoeddus y PAC. Os nad yw’r cofrestrydd yn gweld rheswm dros wneud fel arall, bydd yn dileu enw’r PAC o’r gofrestr heb fod yn llai na 3 mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad. Caiff y PAC ei diddymu pan gaiff hysbysiad arall ei gyhoeddi i ddatgan hynny yn y Gazette perthnasol.

8. Beth yw’r Gazette?

Y Gazette yw’r cofnod papur newydd swyddogol yn y Deyrnas Unedig. Mae 3 ohonyn nhw: y London Gazette, ar gyfer PACau sydd wedi’u corffori yn Lloegr a Chymru; yr Edinburgh Gazette, ar gyfer PACau sydd wedi’u corffori yn yr Alban; a’r Belfast Gazette, ar gyfer PACau sydd wedi’u corffori yng Ngogledd Iwerddon.

Pan fydd y cofrestrydd yn cyhoeddi hysbysiad i ddileu enw PAC o’r gofrestr neu i’w adfer, bydd yr hysbysiad yn ymddangos yn y Gazette ar gyfer y rhan o’r Deyrnas Unedig y cafodd y PAC ei chorffori ynddi.  Mae’r tri Gazette yn cael eu cyhoeddi bob wythnos ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Gazette.

9. Beth os na fydd y PAC yn gymwys mwyach neu os byddaf yn newid fy meddwl ac yn dymuno tynnu’r cais yn ôl?

Rhaid i'r aelodau roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau trwy ddefnyddio’r ffurflen i dynnu cais PAC am ddileu yn ôl – Ffurflen LL DS02c os byddan nhw’n newid eu meddwl neu os na fydd y PAC yn gymwys mwyach i gael ei dileu o’r gofrestr. Gall hyn ddigwydd am fod y PAC, ar ôl gwneud cais am gael ei dileu:

  • yn masnachu neu'n gwneud busnes mewn modd arall;
  • yn newid ei henw;
  • am ryw werth, yn cael gwared ar unrhyw eiddo neu hawliau heblaw’r rhai yr oedd arni eu hangen er mwyn gwneud y cais neu fwrw ymlaen â'r cais (er enghraifft, caiff PAC barhau â'r cais os bydd yn cael gwared ar ffôn yr oedd yn ei gadw i ddelio ag ymholiadau ynglŷn â'i chais);
  • yn dod yn destun achos ansolfedd ffurfiol neu'n gwneud cais o dan adran 899 o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel y mae’n cael ei chymhwyso at PAC (cyfaddawd neu drefniant rhwng PAC a'i chredydwyr); neu
  • yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch arall, onid bai bod y gweithgarwch hwnnw'n angenrheidiol neu’n gyfleus er mwyn:
    • gwneud cais am gael ei dileu o'r gofrestr, neu fwrw ymlaen â’r cais hwnnw;
    • rhoi terfyn ar y materion hynny sydd heb eu bodloni am ei bod yn angenrheidiol neu'n gyfleus gwneud cais neu fwrw ymlaen â chais (megis talu costau rhedeg swyddfa wrth gwblhau ei faterion ac yna cael gwared o'r swyddfa'n derfynol); neu
    • gydymffurfio â gofyniad statudol.

Caiff unrhyw aelod lenwi a llofnodi’r ffurflen i dynnu cais am ddileu yn ôl – LL DS02c  a’i hanfon at y cofrestrydd.

Mae Adran 1009 o Ddeddf Cwmnïau 2006, fel y mae’n cael ei chymhwyso at PAC gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009 yn cynnwys yr amgylchiadau llawn sy’n golygu bod rhaid ichi dynnu cais am ddileu yn ôl ac mae cwestiwn 12 yn cynnwys gwybodaeth am y tramgwyddau am fethu â thynnu cais yn ôl.

10. A gaiff unrhyw un wrthwynebu diddymu PAC?

Caiff unrhyw barti sydd â buddiant wrthwynebu i’r cofrestrydd.

11. Sut cân nhw wrthwynebu a pham?

Rhaid i wrthwynebiadau neu gwynion gael eu gwneud mewn ysgrifen a chael eu hanfon at Dŷ’r Cwmnïau gydag unrhyw dystiolaeth ategol, megis copïau o anfonebau a allai brofi bod y PAC yn dal i fasnachu. Gallai’r rhesymau gynnwys:

  • bod y PAC wedi torri unrhyw un o amodau ei chais, er enghraifft, ei bod wedi masnachu, wedi newid ei henw neu wedi mynd yn destun achos ansolfedd yn ystod y cyfnod o dri mis cyn y cais, neu wedyn;
  • bod yr aelodau heb roi gwybod i bartïon sydd â buddiant;
  • bod unrhyw un o’r datganiadau ar y ffurflen yn ffug;
  • bod rhyw fath o gamau'n cael eu cymryd, neu yn yr arfaeth, i adennill unrhyw arian sy’n ddyledus (megis deiseb dirwyn i ben neu achos mewn llys hawliadau bychain);
  • bod achos cyfreithiol arall ar y gweill yn erbyn y PAC;
  • bod yr aelodau wedi masnachu ar gam neu wedi cyflawni twyll treth neu ryw dramgwydd arall.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adrannau 1004 a 1005 o Ddeddf Cwmnïau 2006, fel y mae’n cael ei chymhwyso gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009.

12. Tramgwyddo a chosbi

Mae’n dramgwydd:

  • gwneud cais pan fo'r PAC yn anghymwys i'w dileu, gweler cwestiwn 2;
  • rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol mewn cais neu i ategu cais;
  • peidio ag anfon copïau o'r cais at bob parti perthnasol o fewn 7 diwrnod;
  • peidio â thynnu'r cais yn ôl os daw'r PAC yn anghymwys.

Mae’r tramgwyddau'n agored i ddirwy o hyd at £5,000 ar gollfarniad diannod (gerbron Llys Ynadon neu Lys Siryf) neu i ddirwy ddigyfyngiad ar dditiad (gerbron rheithgor). Os bydd yr aelodau yn torri’r gofyniad bod rhaid rhoi copi o'r cais i’r partïon perthnasol, gan wneud hynny gan fwriadu cuddio’r cais, gallen nhw fod yn agored nid yn unig i ddirwy ond hefyd i garchar am hyd at saith mlynedd.

Gall unrhyw un sy’n cael ei gollfarnu am y tramgwyddau hyn gael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod am hyd at 15 mlynedd hefyd.

13. Oes angen imi anfon ffi gyda’m cais?

Oes. Mae ffi o £10 yn daladwy i dalu cost darparu’r gwasanaeth. Fyddwn ni ddim yn ad-dalu’r ffi os byddwch yn tynnu'r cais yn ôl wedi inni ei gofrestru. Bydd ffi arall yn daladwy am gais newydd. Gwnewch unrhyw sieciau'n daladwy i ‘Tŷ'r Cwmnïau’, ac ysgrifennu rhif y PAC ar y cefn. . Sylwer: Ni ddylai sieciau fod yn daladwy o gyfrif y cwmni sy’n gwneud cais am ddileu o’r gofrestr.

Pennod 2

PACau nad ydyn nhw’n gwneud busnes neu’n gweithredu mwyach

1. A gaiff y cofrestrydd ddileu enw PAC o'r gofrestr o’i ben a’i bastwn ei hun?

Caiff, os nad yw'n gwneud busnes nac yn gweithredu. Er enghraifft, fe allai’r cofrestrydd fod o'r farn hon:

  • os nad yw wedi cael dogfennau oddi wrth y PAC a ddylai fod wedi cael eu hanfon ato;
  • os bydd eitemau a anfonodd y cofrestrydd drwy'r post i swyddfa gofrestredig y PAC yn cael eu dychwelyd heb eu dosbarthu; neu
  • os nad oes gan y PAC aelodau.

Cyn dileu enw PAC o'r gofrestr, rhaid i’r cofrestrydd ysgrifennu dau lythyr ffurfiol ac anfon hysbysiad i swyddfa gofrestredig y PAC i ofyn a yw'r PAC yn dal i wneud busnes neu i weithredu. Os bydd yn fodlon nad yw, bydd yn cyhoeddi hysbysiad yn y Gazette perthnasol i ddatgan ei fod yn bwriadu dileu enw’r PAC o’r gofrestr oni ddangosir rheswm iddo dros beidio.

Caiff copi o'r hysbysiad ei osod ar gofnod cyhoeddus y PAC. Os na fydd y cofrestrydd yn gweld rheswm dros wneud fel arall, bydd yn dileu enw'r PAC o’r gofrestr heb fod yn llai na thri mis ar ôl dyddiad yr hysbysiad. Caiff y PAC ei diddymu pan gaiff hysbysiad arall ei gyhoeddi i ddatgan hynny yn y Gazette perthnasol. Mae rhagor o wybodaeth am y Gazette ar gael ym Mhennod 1, cwestiwn 8.

Mae rhagor o fanylion y weithdrefn ar gael yn adran 1000 o Ddeddf Cwmnïau 2006, fel y mae’n cael ei chymhwyso at PAC.

2. Sut mae osgoi’r camau hyn?

Os ydych chi am i'ch PAC aros ar y gofrestr, mae'n rhaid ichi ymateb yn brydlon i unrhyw lythyr ymholi ffurfiol oddi wrth y cofrestrydd a chyflwyno unrhyw ddogfennau sydd heb eu cyflwyno o’r blaen. Gall methu â chyflwyno'r dogfennau angenrheidiol arwain hefyd at erlyn yr aelodau.

3. Ga i wrthwynebu?

Bydd y cofrestrydd yn cymryd i ystyriaeth sylwadau'r PAC ac unrhyw bartïon eraill sydd â buddiant, er enghraifft credydwyr. Os bydd rheswm da dros beidio â dileu enw’r PAC o’r gofrestr, caiff y cofrestrydd ohirio’r achos nes i’r gwrthwynebiad gael ei ddatrys.

4. Beth sy'n digwydd i asedau PAC sy’n cael ei diddymu?

O ddyddiad y diddymu ymlaen, bydd unrhyw asedau a oedd gan PAC a gafodd ei diddymu yn “bona vacantia”. Ystyr lythrennol yr ymadrodd hwn yw “nwyddau gwag” a dyma’r enw technegol ar eiddo sy’n cael ei drosglwyddo i’r Goron am nad oes perchennog iddo yn y gyfraith. Caiff cyfrif banc y PAC ei rewi a bydd unrhyw gredyd sy’n weddill yn y cyfrif yn cael ei drosglwyddo i’r Goron.

Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau am eiddo bona vacantia at y canlynol, fel y bo’n briodol:

Os yw’r PAC wedi’i chorffori yng Ngogledd Iwerddon: The Crown Solicitor
Royal Courts of Justice
Chichester Street
Belfast BT1 3JY
Os yw’r PAC wedi’i chorffori yn yr Alban: The Queen's and Lord Treasurer's Remembrancer (Q & LTR)
Remembrancer (QLTR Unit)
Crown Office
Unit 5
14a South St Andrew Street
Edinburgh EH1 2AZ
Os yw swyddfa gofrestredig y PAC yn Sir Gaerhirfryn: The Solicitor to the Duchy of Lancaster
66 Lincoln's Inn Fields
London WC2A 3LH
Os yw swyddfa gofrestredig y PAC yng Nghernyw neu Ynysoedd Scilly:: The Solicitor to the Duke of Cornwall
66 Lincoln's Inn Fields
London WC2A 3LH
Ym mhob achos arall: The Treasury Solicitor (BV)
One Kemble Street
London
WC2B 4TS
Website www.bonavacantia.gov.uk

Pennod 3

Adfer PAC drwy Orchymyn Llys

Oni bai bod PAC yn cael ei hadfer i’r gofrestr yn weinyddol, gweler pennod 4, dim ond os caiff orchymyn llys y mae’r cofrestrydd yn cael adfer PAC. Cynghorir unrhyw un sy’n bwriadu gwneud cais i'r llys am adfer PAC sicrhau cyngor cyfreithiol annibynnol.

Bernir bod unrhyw PAC sy’n cael ei hadfer yn y gofrestr wedi parhau mewn bodolaeth fel pe bai heb gael ei dileu o’r gofrestr a’i diddymu.

1. Pwy gaiff wneud cais i’r Llys am adfer PAC i'r gofrestr?

Yn gyffredinol, caiff unrhyw un o’r canlynol wneud cais am adfer PAC:

  • unrhyw gyn-aelod, credydwr neu ddatodwr;
  • unrhyw berson yr oedd ganddo berthynas â’r PAC mewn contract neu yr oedd ganddo hawliad cyfreithiol posibl yn erbyn y PAC;
  • unrhyw berson yr oedd ganddo fuddiant mewn tir neu eiddo yr oedd gan y PAC fuddiant, hawl neu rwymedigaeth ynddo hefyd;
  • unrhyw reolwr neu ymddiriedolwr ar gronfa pensiwn cyn-weithwyr y PAC;
  • yr Ysgrifennydd Gwladol; neu
  • unrhyw berson arall y mae’n ymddangos i’r Llys fod ganddo fuddiant yn y mater.

2. Faint o amser sydd gen i i wneud cais i’r Llys?

Ac eithrio mewn achosion anaf personol, mae’n rhaid ichi wneud y cais o fewn 6 blynedd ar ôl dyddiad diddymu’r PAC.  Er mwyn dod ag achos i gael iawndal am anaf personol, cewch wneud cais am adfer PAC unrhyw bryd, ond mae’n bosibl na wnaiff y Llys orchymyn i adfer PAC os yw’n ymddangos y byddai’r hawliad yn methu oherwydd cyfyngiadau amser cyfreithiol yn ei gylch. 

3. Ble mae gwneud cais am Orchymyn Llys i adfer PAC?

Adfer PAC yn Lloegr a Chymru

Os ydych yn adfer PAC a oedd wedi’i chofrestru yn Lloegr neu Gymru, rhaid ichi wneud cais i'r Llys drwy lenwi ffurflen hawlio Rhan 8 sef y ffurflen safonol sy'n rhoi cychwyn i achos. Gallwch ei lawrlwytho oddi ar wefan y Llys.

Fel arfer, bydd Cofrestrydd y Llys Cwmnïau yn Llundain yn gwrando achosion adfer yn ei siambrau unwaith yr wythnos a hynny ar brynhawn Gwener. Mae achosion yn cael eu gwrando hefyd yn y Cofrestrfeydd Dosbarth. Fel arall, cewch wneud cais i Lys Sirol sydd â'r awdurdod i ddirwyn y PAC i ben.

Mae canllawiau manylach ar broses adfer PAC yn Lloegr a Chymru ar gael yng nghanllaw Cyfreithiwr y Trysorlys “Guide to Company Restoration and Dissolution Void Applications” sydd ar gael ar wefan Cyfreithiwr y Trysorlys. Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am adfer PAC yng Ngogledd Iwerddon neu yn yr Alban, cysylltwch â’ch cyfreithiwr.

Rhaid ichi roi o leiaf 10 diwrnod o hysbysiad ynghylch y gwrandawiad i’r cofrestrydd i ganiatáu amser iddo ymdrin â’r mater a rhoi cyfarwyddiadau i’r Cyfreithiwr a fydd yn ei gynrychioli.

Adfer PAC yn yr Alban
Os ydych yn adfer PAC a oedd wedi’i chofrestru yn yr Alban, rhaid ichi wneud cais i'r Llys Sesiwn neu i’r Llys Siryf yn y Siryfyddiaeth y mae swyddfa gofrestredig y PAC ynddi.

Cewch wybodaeth a lleoliadau Llysoedd Siryf ar wefan Llysoedd yr Alban.

Mae’n rhaid ichi gyflwyno’r ddeiseb i adfer y PAC i’r cofrestrydd cwmnïau yn yr Alban ac i unrhyw gyrff eraill yn unol â chyfarwyddyd y llys. Does dim angen datganiad tyst ac mae’r cyfnod ar gyfer ymateb yn cael ei bennu gan y Llys, a dim ond wrth i’r ddeiseb gael ei chyflwyno i’r cofrestrydd y bydd y cyfnod hwnnw’n dechrau.

Adfer PAC yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych yn adfer PAC a oedd wedi’i chofrestru yng Ngogledd Iwerddon, dylech gyflwyno’r wŷs gychwynnol i’r ddau canlynol:

The Registrar of Companies
Companies House
Second Floor
The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast
Northern Ireland BT2 8BG
neu
DX 481 N.R. Belfast 1
Royal Courts of Justice
Chichester Street
Belfast
BT1 3JY

Bydd ar y cofrestrydd angen copi hefyd o’r datganiad tyst i ategu’r cais.

4. Sut mae cyflwyno dogfennau?

Dylech gyflwyno’r ffurflen gais a’r dystiolaeth ategol (gweler cwestiwn 6) i’r cofrestrydd cwmnïau priodol a’r cyfreithiwr sy’n ymdrin ag unrhyw asedau bona vacantia, sef:

Yn achos PAC a gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru:

Cyfreithiwr y Trysorlys, oni bai bod swyddfa gofrestredig y PAC yn Sir Gaerhirfryn neu Gernyw, pryd y dylai’r ffurflen gael ei chyflwyno i Gyfreithiwr Dugaeth Caerhirfryn neu Gernyw.

Yn achos PAC a gofrestrwyd yn yr Alban:

Yr Arglwyddi Adfocad.

Yn achos PAC a gofrestrwyd yng Ngogledd Iwerddon:

Cyfreithiwr y Goron yng Ngogledd Iwerddon.

Dyma fanylion y cofrestryddion perthnasol:

Cofrestrydd Cwmnïau Lloegr a Chymru Registrar of Companies for
Scotland
Registrar of Companies for
Northern Ireland
Cymorth Cwsmeriaid Cofrestru
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ

DX: 33050 Caerdydd
Companies House
Fourth Floor
Edinburgh Quay 2
139 Fountainbridge
Edinburgh EH3 9FF
or
LP - 4 Edinburgh 2 (Legal Post)
or

DX ED235 Edinburgh 1
Companies House
Second Floor
The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast
Northern Ireland BT2 8BG
neu
DX 481 N.R. Belfast 1

Gall dogfennau gael eu hanfon drwy’r post ac rydyn ni’n argymell eich bod yn defnyddio dosbarthiad wedi’i gofnodi i fod yn fwy diogel. Bydd y cofrestryddion hefyd yn derbyn dogfennau a gyflwynir â llaw yn ystod oriau swyddfa arferol yn Nhŷ’r Cwmnïau, Caerdydd (ar unrhyw adeg); Tŷ’r Cwmnïau, Abbey Orchard Street, Llundain; Tŷ’r Cwmnïau, Belfast; a Thŷ’r Cwmnïau, Caeredin.

5. Pa dystiolaeth y mae’n rhaid imi ei rhoi?

Bydd ar y Llys angen y canlynol:

  • tystiolaeth bod y ddogfen gychwynnol wedi’i chyflwyno;
  • cadarnhad ysgrifenedig nad oes gan y cyfreithiwr sy'n delio â'r asedau bona vacantia wrthwynebiad i adfer y PAC (dylech atodi copi o lythyr y cyfreithiwr i’r affidafid neu’r datganiad tyst). Nid yw hyn yn gymwys yn yr Alban;
  • pa bryd y cafodd y PAC ei chorffori a natur ei hamcanion (dylech atodi copi o'r dystysgrif gorffori ac o'r ddogfen gorffori);
  • ei haelodaeth;
  • ei gweithgarwch masnachu ac, os yw’n gymwys, pryd y rhoddodd i gorau i fasnachu;
  • esboniad o unrhyw fethiant i gyflwyno cyfrifon, ffurflenni blynyddol neu hysbysiadau i'r cofrestrydd;
  • manylion y penderfyniad i ddileu’r PAC o'r gofrestr a'i diddymu;
  • sylwadau ar solfedd y PAC; ac
  • unrhyw wybodaeth arall sy'n egluro'r rheswm dros y cais.

Yn Lloegr a Chymru ac yng Ngogledd Iwerddon mae’n rhaid i’r wybodaeth uchod gael ei darparu mewn affidafid neu ddatganiad tyst. Yn yr Alban gall yr wybodaeth hon gael ei rhoi yn y ddeiseb i adfer y PAC.

Mae canllawiau manylach ar broses adfer PAC yn Lloegr a Chymru ar gael yng nghanllaw Cyfreithiwr y Trysorlys "Guide to Company Restoration and Dissolution Void Applications" sydd ar gael ar wefan Cyfreithiwr y Trysorlys. Os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth am adfer PAC yng Ngogledd Iwerddon neu yn yr Alban, cysylltwch â’ch cyfreithiwr.

Bydd y cofrestrydd yn darparu gwybodaeth i helpu i wneud cais i'r Llys. Cyn gwrandawiad y Llys, bydd y cofrestrydd fel rheol yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddogfennau statudol y mae eu hangen i ddiweddaru ffeil gyhoeddus y PAC gael eu cyflwyno. Dylech anfon y rhain o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, i ganiatáu digon o amser i’r cofrestrydd eu prosesu neu eu dychwelyd i gael eu diwygio.

6. Pam y byddai PAC yn cael ei hadfer o dan enw gwahanol?

Fel rheol, bydd y cofrestrydd yn adfer PAC i’r gofrestr o dan yr enw a oedd ganddi cyn iddi gael ei dileu o’r gofrestr a’i diddymu. Er hynny, os bydd hen enw’r PAC, pan gaiff ei hadfer, yr un fath ag enw arall ar fynegai’r cofrestrydd o enwau cwmnïau, chaiff y cofrestrydd ddim adfer y PAC o dan ei hen enw. Gallwch edrych ar fynegai’r cofrestrydd o enwau cwmnïau drwy ddefnyddio’r gwasanaeth WebCheck (gwasanaeth Saesneg yn unig) ar ein gwefan.   

Os nad yw’r enw ar gael mwyach, gall y Gorchymyn Llys ddatgan enw arall y mae’r PAC i gael ei hadfer o dano. Wrth ei hadfer, byddwn yn rhoi tystysgrif newid enw fel pe bai’r PAC wedi newid ei henw.

Fel arall, gall y PAC gael ei hadfer i’r gofrestr fel pe bai ei henw yr un fath â’i rhif cofrestredig. Wedyn bydd gan yr aelodau 14 diwrnod ar ôl dyddiad adfer y PAC i gyflwyno’r ffurflen Newid enw PAC – Ffurflen LL NM01c – i Dŷ’r Cwmnïau gyda’r ffi briodol. Os caiff y ddogfen ei derbyn, byddwn yn rhoi tystysgrif newid enw. Mae rhagor o wybodaeth am sut i newid enw PAC ar gael yn ein canllaw Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig - Eu Corffori a’u Henwau.

Mae’n drosedd os nad yw  PAC yn newid ei henw cyn pen 14 diwrnod ar ôl cael ei hadfer, gan gymryd rhif y PAC fel ei henw.

Mae’n dramgwydd i’r PAC beidio â newid ei henw o fewn 14 diwrnod ar ôl cael ei hadfer gyda rhif y PAC yn enw.

7. A oes costau neu gosbau?

Oes. Pan fo eiddo wedi dod yn bona vacantia, caiff y Llys gyfarwyddo i’r ymgeisydd dalu costau cynrychiolydd y Goron wrth ymdrin â’r eiddo yn ystod cyfnod diddymu’r PAC neu mewn cysylltiad â’r achos. Mae’r Llys hefyd yn cael cyfarwyddo bod rhaid i’r ymgeisydd dalu costau’r cofrestrydd mewn cysylltiad â’r achos ynglŷn ag adfer y PAC.

Fel rheol, rhaid i’r PAC dalu unrhyw gosbau statudol am ffeilio cyfrifon yn hwyr i’r cofrestrydd y tu allan i’r cyfnod a ganiateir ar gyfer eu ffeilio. Dyma’r cosbau a all fod yn ddyledus:

  • cosbau sydd heb eu talu o’r blaen mewn cysylltiad â chyfrifon a gyflwynwyd yn hwyr cyn i’r PAC gael ei diddymu;
  • cosbau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chyfrifon a gyflwynwyd adeg adfer y PAC, os oedd y cyfrifon eisoes yn hwyr ar ddyddiad diddymu’r PAC.

Mae’n rhaid talu’r ffi ffeilio briodol hefyd wrth gyflwyno dogfennau sydd heb eu cyflwyno o’r blaen.

Mae lefel unrhyw gosb am ffeilio’n hwyr yn dibynnu pa mor hwyr yw’r cyfrifon pan fyddan nhw’n dod i law. Er enghraifft, mae set o gyfrifon y dylech fod wedi’i chyflwyno dau fis cyn i PAC gael ei diddymu yn cael ei thrin fel rheol fel pe bai dau fis yn hwyr os byddwch yn ei chyflwyno adeg adfer y PAC a bydd rhaid ichi dalu’r gosb berthnasol. Does dim rhaid i’r PAC dalu cosbau ffeilio hwyr am gyfrifon sy’n dod i law adeg adfer y PAC ond a oedd i fod i gael eu cyflwyno tra oedd y PAC wedi’i diddymu.

Mae rhagor o wybodaeth am gosbau ffeilio hwyr ar gael yn ein canllaw Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig – Cosbau Ffeilio Hwyr.

8. Beth sy'n digwydd pan fydd y llys yn gwneud gorchymyn adfer?

Rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno copi o'r gorchymyn llys i'r cofrestrydd i adfer y PAC. Mae PAC yn cael ei hadfer wrth ichi gyflwyno’r gorchymyn. Wrth adfer PAC a oedd wedi’i chofrestru yn yr Alban, bydd ar y cofrestrydd yn yr Alban angen copi o’r gorchymyn wedi’i ardystio gan y llys.

9. Beth sy'n digwydd pan fydd y PAC wedi’i hadfer?

Pan fydd y PAC wedi’i hadfer, yr effaith gyffredinol yw y bernir bod PAC wedi parhau mewn bodolaeth fel pe na bai wedi’i diddymu neu wedi’i dileu o’r gofrestr.  Caiff y llys roi cyfarwyddiadau neu wneud darpariaethau i osod y PAC a’r holl bersonau eraill yn yr un sefyllfa ag yr oedden nhw cyn i’r PAC gael ei diddymu a’i dileu o’r gofrestr. Bydd y cofrestrydd yn gosod hysbysiad yn y Gazette perthnasol hefyd.

Pennod 4- Adfer PAC yn weinyddol

1. Beth yw adfer PAC yn weinyddol?

O dan amodau penodol, os cafodd PAC ei ddiddymu gan y cofrestrydd am ei bod yn ymddangos nad oedd yn gwneud busnes neu yn gweithredu mwyach, caiff cyn-aelod wneud cais i’r cofrestrydd am adfer y PAC. Yr enw ar hyn yw ‘adfer yn weinyddol’. Os bydd y cofrestrydd yn cytuno y dylai’r PAC gael ei hadfer, bernir bod y PAC wedi parhau mewn bodolaeth fel pe na bai wedi’i diddymu ac wedi’i dileu o’r gofrestr. Mae adran 1025  o Ddeddf Cwmnïau 2006, fel y mae’n cael ei chymhwyso at PAC gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009 yn rhoi manylion y gofynion ynglŷn ag adfer cwmni yn weinyddiol.

Mae Adferiad Gweinyddol ar gael os caiff cwmni ei ddiddymu o dan naill ai adran 652 o Ddeddf Cwmnïau 1985 neu adran 1000 a 1001 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (fel y’u cymhwyswyd).

2.Pwy gaiff wneud cais am adfer PAC i’r gofrestr?

Dim ond cyn-aelod o’r PAC sy’n cael gwneud cais.

3. A gaiff unrhyw PAC wneud cais am adfer PAC yn weinyddol?

Na.  I fod yn gymwys i’w hadfer yn weinyddol, rhaid i’r PAC:

  • fod wedi’i dileu o’r gofrestr o dan adrannau 1000 a 1001 o Ddeddf Cwmnïau 2006, fel y mae’n cael ei chymhwyso gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009 neu adran 652 o Ddeddf Cwmnïau 1985 (fel y’i cymhwyswyd gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2001); a
  • bod wedi’i diddymu ers dim mwy na chwe blynedd ar y dyddiad y caiff y cofrestrydd eich cais am adfer y PAC.

Os yw PAC yn bodloni’r meini prawf uchod, gellir gwneud cais am adferiad os yw’n bodloni’r amodau canlynol:

  • rhaid i’r PAC fod wedi bod yn gwneud busnes neu yn gweithredu pan gafodd ei dileu o’r gofrestr;
  • os daw unrhyw eiddo neu hawliau sy’n perthyn i’r PAC yn bona vacantia, rhaid i’r ymgeisydd roi datganiad ysgrifenedig i’r cofrestrydd oddi wrth gynrychiolydd perthnasol y Goron sy’n rhoi cydsyniad i adfer y PAC. Gwelir y datganiad hwn yn ‘llythyr ildio hawl Bona Vacantia’, a rhaid iddo ddod oddi wrth gynrychiolydd perthnasol y Goron. Codir ffi am hyn, gweler pennod 2 cwestiwn 4 am ragor o wybodaeth. a
  • rhaid i’r ymgeisydd fod wedi cyflwyno’r holl ddogfennau angenrheidiol i sicrhau bod cofnodion y PAC yn gyfoes a bod wedi talu unrhyw gosbau ffeilio hwyr a oedd heb eu talu o’r blaen. Mae cwestiwn 5 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y costau a’r cosbau.

4. Sut mae gwneud cais am adfer PAC yn weinyddol?

Rhaid ichi anfon Cais am adfer PAC yn weinyddol i’r Gofrestr – Ffurflen LL RT01 – at y cofrestrydd ynghyd â datganiad cydymffurfio sy’n cadarnhau bod gan yr ymgeisydd hawl gyfreithiol i wneud y cais a bod y PAC yn bodloni’r amodau i gael ei hadfer.

Y ffi am brosesu’r cais hwn yw £100. Gwnewch sieciau’n daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’ ac ysgrifennu rhif y PAC ar y cefn.

5.Beth yw’r costau neu’r cosbau eraill sy’n gysylltiedig â gwneud cais am adfer PAC yn weinyddol?

Rhaid i’r ymgeisydd dalu costau neu dreuliau cynrychiolydd y Goron (os gofynnir amdanyn nhw). Rhaid i’r PAC dalu unrhyw gosbau statudol am ffeilio cyfrifon yn hwyr a gyflwynwyd i’r cofrestrydd y tu allan i’r cyfnod sy’n cael ei ganiatáu i’w ffeilio.  Dyma’r cosbau a all fod yn ddyledus:

  • cosbau sydd heb eu talu o’r blaen mewn cysylltiad â chyfrifon a gyflwynwyd yn hwyr cyn i’r PAC gael ei diddymu; a
  • chosbau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â chyfrifon a gyflwynwyd adeg adfer y PAC, os oedd y cyfrifon eisoes yn hwyr ar ddyddiad diddymu’r PAC.

Mae lefel unrhyw gosb am ffeilio’n hwyr yn dibynnu pa mor hwyr yw’r cyfrifon pan fyddan nhw’n dod i law. Er enghraifft, mae set o gyfrifon y dylech fod wedi’i chyflwyno dau fis cyn i PAC gael ei diddymu yn cael ei thrin fel rheol fel pe bai dau fis yn hwyr os byddwch yn ei chyflwyno adeg adfer y PAC a bydd rhaid ichi dalu’r gosb berthnasol cyn i’r PAC gael ei hadfer.

Does dim rhaid i’r PAC dalu cosbau ffeilio hwyr am gyfrifon sy’n dod i law adeg adfer y PAC ond a oedd i fod i gael eu cyflwyno tra oedd y PAC wedi’i diddymu.

Mae rhagor o wybodaeth am gosbau ffeilio hwyr ar gael yn ein canllaw Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig - Cosbau Ffeilio Hwyr.

6. Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd y cofrestrydd yn rhoi hysbysiad o’i benderfyniad i’r person sydd wedi gwneud cais am adfer y PAC. 

Os bydd y cofrestrydd yn adfer y PAC i’r gofrestr, bydd yr adferiad yn dod i rym o’r dyddiad y bydd y cofrestrydd yn anfon yr hysbysiad. Bydd yr hysbysiad yn cynnwys rhif cofrestredig y PAC ac enw’r PAC. Os caiff y PAC ei hadfer i’r gofrestr o dan enw gwahanol neu ei hadfer â rhif y PAC yn enw, bydd yr enw hwnnw a’r cyn-enw i’w gweld ar yr hysbysiad.

Os na fydd y cofrestrydd yn adfer y PAC i’r gofrestr, mae gan yr ymgeisydd 28 diwrnod ar ôl dyddiad rhoi’r hysbysiad iddo i wneud cais i’r Llys am adfer y PAC. Mae rhagor o wybodaeth am adfer PAC gan y Llys ar gael ym Mhennod 3

7. Pam y byddai PAC yn cael ei hadfer o dan enw gwahanol?

Os bydd hen enw’r PAC, ar y dyddiad y caiff ei hadfer, yr un fath ag enw arall ar fynegai’r cofrestrydd o enwau cwmnïau, bydd angen i’r PAC ddewis enw arall. Caiff y cais am adfer PAC ddatgan enw arall y mae’r PAC i gael ei adfer o dano. Gallwch edrych ar fynegai’r cofrestrydd o enwau cwmnïau drwy ddefnyddio’r gwasanaeth WebCheck (gwasanaeth Saesneg yn unig) ar ein gwefan. Wrth adfer y PAC, byddwn yn rhoi tystysgrif newid enw fel pe bai’r PAC wedi newid ei henw.

Fel arall, gall y PAC gael ei hadfer i’r gofrestr fel pe bai ei henw yr un fath a’i rhif cofrestredig. Wedyn bydd gan yr aelodau 14 diwrnod ar ôl dyddiad adfer y PAC i gyflwyno’r hysbysiad Newid enw PAC – Ffurflen LL NM01c – i Dŷ’r Cwmnïau, ynghyd â’r ffi briodol. Os derbynnir y ddogfen, byddwn yn rhoi tystysgrif newid enw. Mae rhagor o wybodaeth am newid enw’r PAC ar gael yn ein canllaw Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig – Eu Corffori a’u Henwau.

Mae’n drosedd os nad yw  PAC yn newid ei henw cyn pen 14 diwrnod ar ôl cael ei hadfer, gan gymryd  rhif y PAC fel ei henw.

Sylwch: fydd y newid enw ddim yn dod i rym nes inni roi’r dystysgrif.

8. Beth sy'n digwydd pan fydd y PAC wedi’i hadfer?

Pan fydd y PAC wedi’i hadfer, yr effaith gyffredinol yw y bernir bod PAC wedi parhau mewn bodolaeth fel pe na bai wedi’i diddymu neu wedi’i dileu o’r gofrestr.  Gall cais gael ei wneud i’r Llys am gyfarwyddiadau neu ddarpariaethau sy’n angenrheidiol i osod y PAC a’r holl bersonau eraill yn yr un sefyllfa ag yr oedden nhw cyn i’r PAC gael ei diddymu neu ei dileu o’r gofrestr. Rhaid i unrhyw gais o’r fath i’r Llys gael ei wneud o fewn 3 blynedd ar ôl i’r PAC gael ei hadfer

Pennod 5 - Ansawdd dogfennau   

1. Beth fydd yn digwydd i ddogfennau y byddaf yn eu hanfon i Dŷ'r Cwmnïau?

Byddwn yn sganio’r dogfennau a’r ffurflenni y byddwch yn eu cyflwyno i ni er mwyn creu delwedd electronig.  Yna, byddwn yn storio’r dogfennau papur gwreiddiol, gan ddefnyddio’r ddelwedd electronig fel y ddogfen waith. 

Pan fydd cwsmer yn chwilio’r cofnod cyhoeddus, atgynhyrchir y ddelwedd electronig ar-lein.  Felly, mae’n bwysig bod y ddogfen wreiddiol yn ddarllenadwy, a’i bod yn gallu creu copi clir hefyd.

Pan fyddwch yn ffeilio dogfen yn electronig, byddwn yn creu delwedd electronig o’r data a ddarparwyd gennych yn awtomatig.                                                                         
Mae’r bennod hon yn cynnig rhai canllawiau i’w dilyn wrth baratoi dogfen i’w ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau.              

2. Sut ddylai dogfennau gael eu gosod?      

Dogfennau sy’n cael eu ffeilio yn electronig

Rhaid i ddogfennau sy’n cael eu ffeilio yn electronig gydymffurfio gyda’r manylebion a bennwyd gan y cofrestrydd yn ei reolau ynghylch ffeilio electronig.  Cynhwysir y diwyg ar gyfer trefn Software Filing yn y rheolau a gyhoeddir ar y wefan, ac mae’n gwefan yn cynnwys pob diwyg y bydd ei angen arnoch er mwyn ffeilio trwy gyfrwng y dull hwnnw. Dydy’r dull hwn ddim ar gael ar gyfer PAC ar hyn o bryd ond rydyn ni’n gweithio i drefnu y bydd ar gael yn y dyfodol agos.

Dogfennau papur

Yn gyffredinol, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau nodi enw a rhif cofrestredig y PAC mewn man amlwg.  Ceir rhai eithriadau i’r rheol hon, a nodir yn rheolau cyhoeddedig y cofrestrydd.

Dylai dogfennau papur fod ar bapur gwyn plaen A4, â gorffeniad di-sglein.  Dylai’r testun fod yn ddu, yn eglur, yn ddarllenadwy a dylai’r dwysedd fod yn unffurf.  Rhaid i lythrennau a rhifau fod yn eglur ac yn ddarllenadwy er mwyn sicrhau bod modd i ni baratoi copi derbyniol o’r ddogfen.  Gallai’r canllawiau canlynol fod o gymorth:

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen, a fyddech cystal â:

  • defnyddio inc du neu deip du;
  • defnyddio llythrennau trwm (bydd rhai pennau ysgrifennu ac wynebau teip tenau a chain yn creu copïau o ansawdd gwael);
  • ni ddylech anfon copi carbon;
  • ni ddylech ddefnyddio matrics-argraffydd;  a
  • chofiwch – gall llungopïau roi arlliw llwyd na fydd yn sganio’n dda.

Pan fyddwch yn cwblhau dogfennau eraill, cofiwch:

  • y pwyntiau a wnaethpwyd eisoes am lenwi ffurflenni;
  • y dylech ddefnyddio papur A4 gydag ymyl hael;
  • eu darparu ar ffurf diwyg portread (hynny yw, yr ymyl byrraf ar draws y brig); a
  • chynnwys rhif ac enw’r PAC.

3. Ble mae modd i mi gael gwybod mwy am hyn?

Am arweiniad pellach am ein gofynion argraffu, gweler ein gwefan  neu ffoniwch 0303 1234 500.

Pennod 6 - Gwybodaeth Bellach  

1. Sut ddylwn i gyflwyno gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau?

Am fanylion llawn am yr holl ffyrdd o gyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau, yn electronig neu ar bapur, a fyddech cystal â throi at reolau a phwerau'r cofrestrydd sy’n ymddangos ar ein gwefan.  Y ffordd fwyaf diogel o gyflwyno gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw trwy ddefnyddio ein gwasanaethau ffeilio ar-lein.  Dydy’r dull hwn ddim ar gael ar gyfer PAC ar hyn o bryd ond rydyn ni’n gweithio i drefnu y bydd ar gael yn y dyfodol agos.

Os ydych yn anfon dogfennau yn y post, gyda negesydd, gyda’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu Bost Cyfreithiol (yn yr Alban), ac os hoffech gael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu nodyn cydnabod os byddwch yn cynnwys copi o’ch llythyr esboniadol gydag amlen â chyfeiriad a stamp arni er mwyn ei ddychwelyd.  Byddwn yn nodi cod bar ar eich copi chi o’ch llythyr, gan nodi’r dyddiad y’i cyflwynwyd, a’i ddychwelyd atoch yn yr amlen a ddarparwyd.

Sylwer:  nid yw nodyn sy’n cydnabod bod dogfen wedi cyrraedd yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Sylwer:  nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfennau statudol trwy gyfrwng neges ffacs, PDF neu e-bost.

2. A fydd yn rhaid i mi dalu er mwyn ffeilio dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau?

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi am nifer o’r dogfennau y bydd yn rhaid i chi eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau, ond bydd angen talu ffi ar gyfer rhai ac ni fyddwn yn eu derbyn er mwyn eu cofrestru heb y ffi hon.  Am fanylion llawn, dylech droi at ein gwefan.

3. A oes modd i mi ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill?

Fel arfer, mae’r gyfraith yn mynnu eich bod yn ffeilio dogfennau a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau yn Saesneg.  Ceir eithriadau i’r rheol hon, fel y nodir isod.  Gallwch baratoi a chyflwyno dogfennau yn Gymraeg os ydych yn PAC â’i swyddfa gofrestredig yng Nghymru.

Gall PAC gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os anfonir cyfieithiad Saesneg ardystiedig o’r ddogfen hefyd:

  • Ar gyfer PAC a gynhwysir yng nghyfrifon grwpiau mwy o’r AEE (Ardal Economaidd Ewropeaidd) neu grwpiau mwy nad ydynt yn dod o’r AEE, cyfrifon y grŵp a lle bo’n briodol adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad;
  • Offerynnau arwystlon (neu gopïau o offerynnau arwystlon); a
  • Gorchmynion Llys.

Yn ogystal, gall PAC ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen a bennir yn adran 1078 o Ddeddf Cwmnïau 2006 fel y mae’n cael ei chymhwyso at PAC gan Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) 2009.  Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • Dogfennau cyfansoddiadol sef dogfen corffori’r PAC; unrhyw hysbysiad o dan adran 8(4) o Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000 neu hysbysiad o newid enw’r PAC;
  • Hysbysiadau o newid yn aelodaeth y PAC neu newid manylion aelodau;
  • Cyfrifon a ffurflenni blynyddol;
  • Hysbysiad o unrhyw newidiadau i swyddfa gofrestredig PAC;
  • Dogfennau dirwyn i ben;

Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol ymwneud â dogfen a gyflwynwyd i Dŷ’r Cwmnïau ar neu ar ôl 1 Hydref 2009.  Dim ond yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y bydd modd ffeilio cyfieithiadau gwirfoddol, ac mae’n rhaid cyflwyno Ffurflen LL VT01 gyda nhw, a fydd yn cysylltu’r cyfieithiad gyda’r ddogfen wreiddiol.

4. Ble mae modd i mi gael ffurflenni a chanllawiau?

Mae hwn yn un mewn cyfres o gyhoeddiadau gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n cynnig canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth arall sy’n gysylltiedig â hi.

Mae modd cael pob canllaw a ffurflen statudol, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau.  Y ffordd gyflymaf o’u cael yw trwy droi at ein gwefan neu ffonio
0303 1234 500.

Yn ogystal, gallwch gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfreithiol cwmnïau, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau.

Brig
Ein polisi ar gwcis