Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig Ymddatod ac Ansolfedd - GPLLP5

Mai 2012 – Fersiwn 3.2

Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006

Fersiwn PDF y tudalen hwn (245KB)


Mae’r canllaw hwn ar gael mewn fformatiau gwahanol, gan gynnwys Braille, print bras a thâp sain. I gael rhagor o fanylion gweler ein gwefan neu anfonwch neges e-bost at ein hadran ymholiadau neu ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0303 1234 500.

A yw’r canllaw hwn ar eich cyfer chi?

Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:

  • os ydych yn aelod o bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
  • os ydych yn cyflawni rôl ymgynghorydd ar gyfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig

Cynnwys

Cyflwyniad
Pennod 1. Gwybodaeth gyffredinol am ansolfedd
Pennod 2. Trefniadau gwirfoddol
Pennod 3. "Yn nwylo Gweinyddydd" a "Gorchmynion gweinyddu"
Pennod 4. Derbynwyr
Pennod 5. Ymddatod gwirfoddol
Pennod 6. Ymddatod gorfodol
Pennod 7. Gwybodaeth bellach

Mae'r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau cyffredin ac yn cynnig gwybodaeth am sut i fynd ati i gwblhau rhai o'r dogfennau ffeilio mwyaf cyffredin yn y maes yma. Ni chafodd ei ddrafftio gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg. Mae'n bosibl y bydd angen gofyn am gyngor proffesiynol arbenigol mewn achosion o'r fath.

Cyflwyniad

Mae’r canllaw hwn yn cynnig gorolwg sylfaenol o’r drefn ansolfedd ac ymddatod a gwybodaeth fanylach am y dogfennau y mae angen eu cyflwyno i’r Cofrestrydd Cwmnïau. Mae’n crynhoi rhai o’r rheolau sy’n berthnasol i drefniadau gwirfoddol corfforaethol, moratoria, gorchmynion gweinyddu, derbynwyr, ymddatod gwirfoddol, ymddatod gorfodol a rheoliadau’r Gymuned Ewropeaidd.
 
Gall Tŷ’r Cwmnïau helpu gydag ymholiadau am gyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd. Dylid cyfeirio ymholiadau eraill at y Gwasanaeth Ansolfedd. Mae gweithrediadau ansolfedd yn arwain at achosion llys yn aml, ac am hynny, mae’n bosibl y bydd angen i ymarferwyr drefnu cyfarfodydd a pharatoi adroddiadau statudol. Mae’n bwysig nodi nad oes angen anfon yr holl wybodaeth yma at y Cofrestrydd.
 
Mae’r gofynion yn gymhleth, ac ni chewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddirwyn partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig anhydal i ben yn y canllaw hwn. Rydyn ni’n eich cynghori chi i ofyn am gyngor proffesiynol annibynnol os ydych chi’n amau bod eich partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn anhydal, neu os yw hynny’n debygol o ddigwydd.
 
Ar ôl cychwyn gweithrediadau ansolfedd, caiff ymarferydd ansolfedd awdurdodedig neu berson proffesiynol arall ei benodi i reoli materion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fel rheol.

Gallwch ddarllen y ddeddfwriaeth berthnasol yn:

  • Neddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000;
  • Deddf Ansolfedd 1986 (fel y’i diwygiwyd);
  • Rheolau Ansolfedd 1986 (fel y’u diwygiwyd);
  • Deddf Menter 2002;
  • Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2009 sy’n cymhwyso rhannau o Ddeddf Cwmnïau 2006 a Deddf Ansolfedd 1986 i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig.

Pennod 1 - Gwybodaeth gyffredinol am ansolfedd

1. Beth yw gweithrediadau ansolfedd?

Dyma’r camau ffurfiol a gymerir i ddelio â dyledion partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig. Ceir llawer math gwahanol o weithrediadau ansolfedd ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig. Ymdrinnir â phob un ohonyn nhw yn y llyfryn hwn.

2. Oes rhaid i bob partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ddilyn gweithrediadau ansolfedd cyn cael ei diddymu?

Nac oes. Os oes gan y Cofrestrydd le i gredu nad yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes nac yn gweithredu, gall enw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig cael ei ddileu o’r gofrestr a’i diddymu heb fynd drwy’r drefn ymddatod. Caiff partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig nad yw’n masnachu wneud cais i Dŷ’r Cwmnïau am i’w henw gael ei ddileu o’r gofrestr. Nid yw’r drefn hon yn ddewis arall yn lle gweithrediadau ansolfedd ffurfiol.

3. A gaiff unrhyw un oruchwylio gweithrediadau ansolfedd?

Rhaid i bob diddymydd, gweinyddydd, derbynnydd gweinyddol a goruchwylydd sydd mewn swydd ar neu wedi 29 Rhagfyr 1986 fod yn ymarferydd ansolfedd awdurdodedig.

Does dim rhaid i reolwyr derbyn wedi eu penodi o dan y Ddeddf Cyfraith Eiddo fod wedi eu hawdurdodi.

Gall ymarferwyr ansolfedd gael eu hawdurdodi gan:

  • Gymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig;
  • Cymdeithas yr Ymarferwyr Ansolfedd;
  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Lloegr a Cyhmru;
  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon;
  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban;
  • Cymdeithas y Gyfraith;
  • Cymdeithas Cyfraith yr Alban; neu
  • yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesedd a Sgiliau.

4. Beth sy’n digwydd i aelodau partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n ansolfent?

Mae gan y diddymydd, y derbynnydd gweinyddol, y gweinyddydd neu’r Derbynnydd Swyddogol ddyletswydd i gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol adroddiad ar ymddygiad pob aelod a oedd mewn swydd yn ystod y tair blynedd olaf y buodd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn masnachu. Rhaid i’r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu a yw er lles y cyhoedd i geisio gorchymyn gwahardd yn erbyn aelod.

Mae’r mathau o ymddygiad y cyflwynir adroddiad arnyn nhw fynychaf yn cynnwys:

  • bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn parhau i fasnachu er bod yn ansolfent;
  • methu â chadw cofnodion cyfrifeg priodol;
  • methu â pharatoi a ffeilio cyfrifon neu ddychwelyd ffurflenni i Dŷ’r Cwmnïau; a
  • methu â chyflwyno ffurflenni i’r Goron neu dalu i’r Goron unrhyw dreth sy’n ddyledus.

Pennod 2 - Trefniadau gwirfoddol

1. Beth yw trefniad gwirfoddol?

Trefniad gwirfoddol yw lle bo partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn gwneud cytundeb â’i chredydwyr drwy gynnig ‘cyfrandalu i fodloni ei dyled’ neu ‘gynllun i drefnu ei materion’. Mae hyn yn golygu trefniad, wedi ei gymeradwyo gan y llys, lle bo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi cytuno’n ffurfiol â’i chredydwyr ar delerau i glirio’i dyledion.

2. Pwy gaiff gynnig trefniad gwirfoddol?

Gall trefniad gwirfoddol gael ei gynnig gan:

  • y gweinyddydd, os oes gorchymyn gweinyddu;
  • y diddymydd, os yw’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cael ei ddirwyn i ben; neu
  • y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei hun, o dan amgylchiadau eraill.

3. Pwy sy’n ystyried y cynnig?

Pan fydd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei hun yn cynnig y trefniad, bydd y sawl a enwebwyd i oruchwylio ei weithredu yn cyflwyno adroddiad i’r llys, cyn pen 28 diwrnod, yn nodi a ddylid, yn ei farn ef/barn hi, alw cyfarfod o’r credydwyr. Pan fydd y gweinyddydd neu’r diddymydd yn cynnig y cytundeb, bydd y sawl a enwebwyd yn cyflwyno adroddiad yn dweud a ddylid galw cyfarfod o’r aelodau a chyfarfod o gredydwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

4. Sut y cymeradwyir trefniad gwirfoddol unwaith y cân nhw ei gynnig?

Bydd y cyfarfod a elwir gan y person a enwebwyd yn penderfynu p’un a ddylid cymeradwyo’r trefniad gwirfoddol y gellir, o dan rai cyfyngiadau, ei dderbyn wedi ei addasu neu heb ei addasu. Rhaid cytuno ar unrhyw addasiadau gyda’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Bydd y trefniadau wedyn yn cyfrwymo pob credydydd a gawsai rybudd o’r cyfarfod ac a oedd â hawl i bleidleisio. Bydd yr holl gredydwyr a gafodd rybudd o’r cyfarfod wedi eu cyfrwymo gan delerau’r trefniad.

5. Beth sy’n digwydd pan gymeradwyir y trefniad?

Os bydd cyfarfod o’r credydwyr yn cymeradwyo trefniad gwirfoddol, yna daw’r sawl a enwebwyd, neu rywun yn ei (l)le, yn oruchwylydd y trefniad.

6. Beth sydd angen ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau?

Rhaid i’r goruchwylydd anfon copi o adroddiad cadeirydd y cyfarfod.

O leiaf unwaith bob 12 mis, rhaid i’r goruchwylydd anfon cyfrif o’r derbyniadau a’r taliadau, ynghyd ag adroddiad cynnydd, at bob buddiolydd, gan gynnwys y Cofrestrydd.

Rhaid i’r goruchwylydd roi gwybod i’r Cofrestrydd cyn pen 28 diwrnod ar ôl cwblhau’r trefniant. Rhaid hysbysu’r Cofrestrydd os caiff y trefniant ei ohirio neu ei ddileu.

Yn sgil gweithredu Rheolau Ansolfedd (Diwygio) 2010, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2010, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn pennu’r ffurflenni ansolfedd canlynol o fewn Rheolau’r Cofrestrydd am y tro cyntaf. Rhaid ffeilio’r ffurflenni isod gyda’r Cofrestrydd, ar gyfer pob trefniant gwirfoddol corfforaethol.

Rhaid defnyddio’r ffurflenni hyn gyda’r diwygiadau priodol (os yw’n berthnasol) ar gyfer unrhyw drefniadau a ddechreuodd ar 5 Ebrill 2010 neu cyn hynny:

Teitl y ffurflen Rhif
Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau i roi grym i drefniadau gwirfoddol 1.1
Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau i ddileu neu atal trefniadau gwirfoddol 1.2
Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau am adroddiad y goruchwylydd ar gynnydd 1.3
Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau am gwblhau neu derfynu trefniadau gwirfoddol 1.4

Sylwer: Nid yw’r ffurflenni hyn ar gael i’w dadlwytho o wefan Tŷ’r Cwmnïau.   Ond gallwch weld delweddau o’r dogfennau hyn yn Rheolau’r Cofrestrydd. Mae copïau ar gael gan ddogfenwyr y gyfraith cwmnïau.

Pennod 3 - "Yn nwylo gweinyddydd" a "gorchmynion gweinyddu"

Daeth y gyfraith bresennol ynglŷn â gweinyddu i rym ar 1 Hydref 2005, yn unol ag Offeryn Statudol 2005 Rhif 1989, Rheoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Diwygiad) 2005. O dan y drefn hon, caiff partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei ddisgrifio fel un sydd ‘yn nwylo’r gweinyddydd’ – o dan yr hen drefn, dywedid bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn ddarostyngedig i ‘orchymyn gweinyddu’.

Mae’r hyn sy’n dilyn yn amlinelliad cryno o’r broses weinyddu: nid yw’n ddatganiad cyflawn o’r gyfraith.

1. Beth yw ‘yn nwylo’r gweinyddydd’?

Ystyr bod yn nwylo gweinyddydd yw pan gaiff rhywun, ‘y gweinyddydd’, ei benodi/phenodi i reoli materion, busnes ac eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig er lles y credydwyr.

Rhaid i’r sawl a benodir fod yn ymarferydd ansolfedd a bydd iddo/iddi statws swyddog llys (p’un a gafodd ei benodi/phenodi gan y llys neu beidio).

Diben y gweinyddu yw:

  • arbed y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fel busnes gweithredol;
  • sicrhau gwell pris am asedion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu, fel arall, sylweddu eu gwerth yn fwy ffafriol i’r credydwyr yn eu crynswth na thrwy ddirwyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben (heb iddi’n gyntaf fod yn nwylo’r gweinyddydd); neu
  • o dan rai amgylchiadau, sylweddu gwerth yr eiddo er mwyn ei drosglwyddo i un neu ragor o gredydwyr rhagorfreiniol .

2. Sut bydd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn mynd i ddwylo’r gweinyddydd?

Aiff y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ddwylo’r gweinyddydd wrth i benodiad y gweinyddydd ddod i rym. Gellir penodi gweinyddydd drwy:

  • orchymyn gweinyddu wedi ei wneud gan y llys;
  • deiliad arwystl nofiol; neu
  • eu haelodau.

Rhaid i’r gweinyddydd gyflawni ei swyddogaethau mor fuan ac effeithiol ag sy’n rhesymol ymarferol.

3. Beth yw’r canlyniadau pan fo partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn nwylo’r gweinyddydd?

Pan aiff y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ddwylo’r gweinyddydd:

  • bydd unrhyw ddeisebau dirwyn i ben sy’n aros dyfarniad yn cael eu gollwng o law neu eu hatal;
  • bydd moratoriwm ansolfedd ac yng nghyswllt gweithrediadau cyfreithiol eraill;
  • os penodwyd derbynnydd gweinyddu, rhaid iddo/iddi roi heibio i’w swydd;
  • os penodwyd derbynnydd ar gyfer rhan o eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, rhaid iddo/iddi roi heibio i’w swydd (os yw’r gweinyddydd yn mynnu).

4. I bwy y mae’n rhaid rhoi gwybod bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn nwylo’r gweinyddydd?

Rhaid i’r gweinyddwr roi gwybod i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei hun ac i bob un o’i chredydwyr am ei benodiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl. Rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad am ei benodiad yn y Gazette ac mewn papur newydd ym mhrif ardal fusnes y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig hefyd.

 Beth yw’r Gazette?

Cyhoeddir y Gazette gan Wasg Ei Mawrhydi ac mae’n cynnwys amrywiol rybuddion a hysbysiadau statudol. Fe’i cyhoeddir bob dydd. Wrth sôn am y Gazette, y London Gazette a olygir yn achos partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig a gofrestrwyd yn Lloegr a Chymru.

Caiff rhybuddion a drefnir gan y Cofrestrydd Cwmnïau ar gyfer Lloegr a Chymru eu cynnwys yn yr Atodiad i’r London Gazette sy’n rhestru Hysbysiadau Swyddogol ym maes y Gyfraith Gwmnïau ac a gyhoeddir ar ffurf microfiche. Fe welwch chi gopïau yn stafelloedd chwilio Tŷ’r Cwmnïau a restrir yng nghefn y llyfryn hwn (ac eithrio rhai’r Alban). Mae copïau hefyd gan rai o’r llyfrgelloedd cyhoeddus mwyaf. Trowch i www.gazettes-online.co.uk  am wybodaeth bellach.

Rhaid i’r gweinyddwr gyflwyno hysbysiad am ei benodiad i’r Cofrestrydd hefyd.

Tra bo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn nwylo’r gweinyddydd, bydd yn rhaid i bob dogfen fusnes a roir gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu ar ei rhan neu gan y gweinyddydd nodi enw’r gweinyddydd a’i fod/bod yn rheoli materion, busnes ac eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

5. Beth mae’r broses weinyddu yn ei olygu?

Bydd y gweinyddydd yn mynnu datganiad o faterion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gan bobl berthnasol (e.e. swyddog neu weithiwr i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig).

Nid hwyrach nag 8 wythnos ar ôl i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fynd i ddwylo’r gweinyddydd, mae’n rhaid i’r gweinyddydd wneud datganiad yn nodi cynigion i wireddu diben y gweinyddu neu’n esbonio pam nad oes modd ei wireddu. Gall y cynigion gynnwys trefniadau gwirfoddol neu gyfaddawd neu drefniadau gyda chredydwyr neu aelodau.

Rhaid anfon y datganiad sy’n nodi’r cynigion i:

  • Dŷ’r Cwmnïau;
  • at bob un o gredydwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gyda gwahoddiad i ddod i gyfarfod cychwynnol o’r credydwyr os cynhelir un; ac
  • at bob aelod o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, oni bai bod y gweinyddydd yn ymrwymo i roi copi’n rhad ac am ddim i unrhyw aelod o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n gwneud cais ysgrifenedig am un.

Busnes cyfarfod cychwynnol y credydwyr fydd cymeradwyo (gyda neu heb addasiadau) y datganiad cynigion. Yn sgil y cyfarfod cychwynnol;

  • gall y gweinyddydd gynnal cyfarfodydd pellach o’r credydwyr,
  • ffurfio pwyllgor credydwyr, neu
  • ddelio â materion drwy ohebiaeth â’r credydwyr. 

Rhaid i’r gweinyddydd rhoi gwybod i’r aelodau am bob rhyw ddiwygio ar y cynigion ar ôl cyfarfod o’r credydwyr.

Rhaid rhoi gwybod i’r Cofrestrydd Cwmnïau a’r llys am unrhyw benderfyniadau a wneir yng nghyfarfodydd y credydwyr.

6. Pryd y daw’r gweinyddu i ben?

Mae sawl ffordd y gall y gweinyddu dod i ben.

Gall y gweinyddu ddod i ben yn awtomatig wrth i gyfnod gwasanaethu’r  gweinyddwr ddod i ben. Daw penodiad y gweinyddwr i ben ar ôl blwyddyn, ond gellir estyn hyn gyda chydsyniad y credydwyr neu’r llys. Rhaid rhoi gwybod i’r Cofrestrydd am unrhyw estyniad.

Gall gweinyddwr a benodwyd o dan orchymyn llys wneud cais i’r llys am derfynu’r gweinyddu os yw’n credu nad oes modd cyflawni diben y gweinyddu neu na ddylai’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fod wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwr, neu os bydd cyfarfod o’r credydwyr yn mynnu ei fod yn gwneud cais o’r fath. Bydd y llys yn rhyddhau’r gorchymyn gweinyddu a rhaid i’r gweinyddwr roi gwybod i’r Cofrestrydd.

Gall gweinyddwr a benodwyd gan ddeiliaid arwystl nofiol neu gan aelodau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig derfynu’r gweinyddu pan fo diben y gweinyddu wedi ei gyflawni’n ddigonol. Rhaid i’r gweinyddwr ffeilio’r hysbysiad gyda’r llys a’r Cofrestrydd.

Gall y gweinyddu ddod i ben os bydd credydwr yn gwneud cais i’r llys gan honni cymhelliad amhriodol ar ran y person a benododd y gweinyddwr neu a wnaeth gais i’r llys am orchymyn gweinyddu. Rhaid i’r gweinyddwr anfon copi o’r gorchymyn at y Cofrestrydd cyn pen 14 diwrnod ar ôl i’r gorchymyn gael ei wneud.

Gall y gweinyddu ddod i ben wrth i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig symud ymlaen i drefn dirwyn i ben yn wirfoddol drwy gais y credydwyr. Gall hyn ddigwydd lle bo’r gweinyddwr o’r farn bod pob credydwr gwarantedig yn debyg o gael ei dalu ac y bydd dosbarthiad ymhlith y credydwyr anwarantedig, os yw hynny’n berthnasol. Rhaid i’r gweinyddwr hysbysu’r Cofrestrydd, gan anfon copïau i’r llys ac at bob credydwr. Yna, caiff y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei dirwyn i ben fel pe bai penderfyniad i ddirwyn i ben yn wirfoddol wedi cael ei fabwysiadu ar y diwrnod y cofrestrwyd yr hysbysiad yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Gall y gweinyddu ddod i ben wrth i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig symud ymlaen i ymddatod. Gall hyn ddigwydd os yw’r gweinyddwr o’r farn nad oes gan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig eiddo i’w ddosbarthu ymhlith ei chredydwyr. Rhaid i’r gweinyddwr hysbysu’r Cofrestrydd, y llys a phob un o’r credydwyr.

Caiff y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei datod dri mis ar ôl dyddiad cofrestru’r ffurflen gyda Thŷ’r Cwmnïau, oni wneir gorchymyn, ar ffurf cais i’r llys, am estyn neu ohirio’r cyfnod neu atal yr ymddatod.

Rhaid hysbysu’r Cofrestrydd am y gorchymyn.

7. Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?

Yn sgil gweithredu Rheolau Ansolfedd (Diwygio) 2010, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2010, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn pennu’r ffurflenni ansolfedd canlynol o fewn Rheolau’r Cofrestrydd am y tro cyntaf. Rhaid ffeilio’r ffurflenni isod gyda’r Cofrestrydd ar gyfer pob achos yn nwylo’r gweinyddwr.

Rhaid defnyddio’r ffurflenni hyn gyda’r diwygiadau priodol (os yw’n berthnasol) ar gyfer unrhyw gwmnïau a aeth i ddwylo’r gweinyddwr ar 5 Ebrill 2010 neu cyn hynny:

Teitl y ffurflen Rhif
Hysbysiad am benodi gweinyddwr 2.12B(CH)
Hysbysiad am ddatganiad o faterion 2.16B
Hysbysiad am estyn cyfnod 2.18B(CH)
Hysbysiad am gymeradwyaeth dybiedig i gynigion F2.18
Datganiad o gynigion diwygiedig y gweinyddwr 2.22B(CH)
Hysbysiad am ganlyniad cyfarfod o’r credydwyr 2.23B(CH)
Adroddiad y gweinyddwr ar gynnydd 2.24B
Tystysgrif [ddiwygiedig] am gyfansoddiad pwyllgor o gredydwyr 2.26B(CH)
Hysbysiad am derfynu gweinyddiad yn awtomatig 2.30B(CH)
Hysbysiad am estyn cyfnod gweinyddu 2.31B
Hysbysiad am derfynu gweinyddiad 2.32B(CH)
Hysbysiad am orchymyn llys yn terfynu gweinyddiad 2.33B
Hysbysiad am symud o weinyddu i ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr 2.34B
Hysbysiad am symud o weinyddu i ymddatod 2.35B
Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau mewn perthynas â dyddiad ymddatod 2.36B
Hysbysiad am fwriad gweinyddwr i ymddiswyddo 2.37B
Hysbysiad am ymddiswyddiad gweinyddwr 2.38B(CH)
Hysbysiad bod gweinyddwr wedi gadael ei swydd 2.39B
Hysbysiad am benodiad gweinyddwr newydd/ychwanegol 2.40B

Sylwer: Nid yw’r ffurflenni hyn ar gael i’w dadlwytho o wefan Tŷ’r Cwmnïau ond gallwch weld delweddau o’r dogfennau hyn yn Rheolau’r Cofrestrydd. Mae copïau ar gael gan ddogfenwyr y gyfraith cwmnïau.  

Pennod 4 - Derbynwyr

1. Beth yw derbynnydd?

Mae dau fath o dderbynwyr a bydd eu pwerau’n amrywio yn ôl amodau eu penodiad.

Mae derbynnydd gweinyddol yn un sy’n derbyn neu’n rheoli’r cyfan, neu o ran sylwedd y cyfan, o eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ac a benodir gan neu ar ran deiliaid unrhyw rai o ddyledebion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wedi eu gwarantu drwy arwystl nofiol. Bydd â’r pŵer i werthu (neu sylweddu mewn ffordd arall) yr asedion a rychwentir gan yr arwystl nofiol ac i sianelu’r elw i’r ddyled sy’n daladwy i ddeiliad yr arwystl.

Gall derbynwyr sydd heb fod yn rhai gweinyddol gael eu penodi o dan amgylchiadau eraill. Er enghraifft, o dan bwerau a gynhwysir mewn offeryn neu ddogfen sy’n creu arwystl dros eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, gellir penodi derbynnydd neu reolwr nes i’r ddyled gael ei bodloni. Gellir penodi derbynwyr hefyd o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.

2. Pwy sy’n rhoi rhybudd am benodi derbynnydd?

Y person sy’n penodi’r derbynnydd gweinyddol, y derbynnydd neu’r rheolwr, neu sy’n trefnu’r penodiad o dan bwerau offeryn, sy’n gyfrifol am roi gwybod i’r Cofrestrydd, a hynny cyn pen saith diwrnod ar ôl ei benodi. Mae angen cyflwyno Ffurflen LL LQ01 am bob arwystl unigol a gofrestrir yn Nhŷ’r Cwmnïau ac y penodir y derbynnydd ar ei gyfer, dim ots a yw’r penodiad yn ymwneud â rhan o eiddo’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu ei holl  asedau. Rhaid i’r dderbynnydd gweinyddol gyhoeddi hysbysiad o’i benodiad yn y Gazette ac mewn papur newydd priodol hefyd.

Pan fydd y derbynnydd gweinyddol, y derbynnydd neu’r rheolwr yn rhoi’r gorau i weithredu, rhaid iddo roi gwybod i’r Cofrestrydd trwy gyflwyno Ffurflen LL LQ02.

Sylwer: Rhaid ffeilio Ffurflenni LL LQ01 ac LL LQ02 ar wahân ar gyfer pob arwystl unigol a gofrestrir yn Nhŷ’r Cwmnïau y penodir derbynnydd ar ei gyfer ac/neu y mae derbynnydd yn peidio â gweithredu drosto, dim ots a yw’r penodiad yn ymwneud â rhan o’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig neu ei holl asedau.

3. Beth mae’n rhaid i’r derbynnydd ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau?

O fewn tri mis i’w b/phenodiad, rhaid i dderbynnydd gweinyddol gyflwyno adroddiad i bawb o’r canlynol:

  • y Cofrestrydd;
  • credydwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;
  • deiliaid arwystl nofiol; ac
  • unrhyw ymddiriedolwyr ar ran credydwyr gwarantedig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Datganiad amgylchiadau
Dyma grynodeb o asedion, rhwymedigaethau a chredydwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Rhaid i’r  derbynnydd gweinyddol hawlio datganiad o’r fath a phenderfynu pwy ddylai ei baratoi.

Rhaid i’r adroddiad egluro amgylchiadau’r penodiad a’r camau y mae’r derbynnydd gweinyddol yn eu cymryd. Rhaid i’r adroddiad gynnwys hefyd grynodeb o unrhyw ‘ddatganiad amgylchiadau’ a baratowyd i’r derbynnydd gan swyddogion neu weithwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Rhaid i bob derbynnydd anfon at y Cofrestrydd gyfrif o’r derbyniadau a’r taliadau ar gyfer 12 mis cynta’r dderbynyddiaeth, ac:

  • yn achos derbynwyr gweinyddol, bob 12 mis wedyn;
  • yn achos derbynwyr a rheolwyr, bob 6 mis wedyn.

4. Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?

Yn sgil gweithredu Rheolau Ansolfedd (Diwygio) 2010, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2010, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn pennu’r ffurflenni ansolfedd canlynol o fewn Rheolau’r Cofrestrydd am y tro cyntaf. Rhaid ffeilio’r ffurflenni isod gyda’r Cofrestrydd ar gyfer pob achos o dderbynyddiaeth.

Teitl y ffurflen Rhif
Hysbysu penodi derbynnydd neu reolwr LL LQ01
Hysbysu rhoi heibio i weithredu’n dderbynnydd neu’n rheolwr LL LQ02
Datganiad o faterion mewn derbynyddiaeth weinyddol yn sgil adroddiad i’r credydwyr 3.3
Tystysgrif cyfansoddiad (tystysgrif ddiwygiedig) pwyllgor y credydwyr 3.4
Adroddiad y derbynnydd gweinyddol am newid yn aelodaeth pwyllgor y credydwyr 3.5
Crynodeb y derbynnydd neu’r rheolwr neu’r derbynnydd gweinyddol o’r derbyniadau a’r taliadau 3.6
Hysbysiad am farwolaeth derbynnydd gweinyddol 3.7
Hysbysiad am orchymyn i waredu eiddo 3.8
Adroddiad y derbynnydd gweinyddol 3.10

Noder: Ac eithrio ffurflenni LL LQ01 a LL LQ02, nid yw’r ffurflenni yma ar gael o Dŷ’r Cwmnïau. Gellir eu cael gan ddogfenwyr cyfraith cwmnïau neu drwy ymweld â gwefan Y Gwasanaeth Ansolfedd ar www.insolvency.gov.uk/

Pennod 5 - Ymddatod gwirfoddol

Ceir dau fath o ymddatod gwirfoddol:

  • ymddatod gwirfoddol gan yr aelodau (YGA) – sy’n golygu bod yr aelodau dynodedig wedi gwneud datganiad hydaledd ffurfiol;ac
  • ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr (YGC) – sy’n golygu nad yw’r aelodau dynodedig wedi gwneud datganiad o’r fath.

1. Pryd gall y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig drefnu YGA?

Gall hyn ddigwydd lle bo’r aelodau dynodedig yn credu bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn hydal.

Rhaid i’r mwyafrif o aelodau dynodedig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig wneud datganiad hydaledd statudol yn ystod y 5 wythnos cyn y dyddiad pan benderfynodd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig y dylai gael ei dirwyn i ben.

2. Beth sydd yn y datganiad?

Bydd y datganiad statudol yn dweud bod yr aelodau dynodedig wedi ymchwilio’n llawn i faterion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a’u bod o’r farn, wedi gwneud hynny, y bydd modd iddi dalu ei dyledion yn llwyr o fewn 12 mis i ddechrau’r dirwyn i ben. Bydd y datganiad yn cynnwys rhestr o asedion a rhwymedigaethau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fel yr oedden nhw ar y dyddiad ymarferol olaf cyn gwneud y datganiad.

3. Pryd y dechreua’r ymddatod mewn difrif?

Bydd yr ymddatod yn dechrau pan fo’r aelodau yn penderfynu dirwyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben. Bydd cytundeb y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fel arfer yn nodi ym mha ffordd y gwneir penderfyniad o’r fath. Os nad oes darpariaeth felly, fe wneir y penderfyniad gan fwyafrif o’r aelodau.

4. Oes rhaid rhoi gwybod i rywun am yr ymddatod gwirfoddol?

Oes. Rhaid i hysbysiad o’r penderfyniad i ddirwyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben yn wirfoddol gael ei gyhoeddi yn y Gazette o fewn 14 diwrnod i wneud y penderfyniad. Rhaid hefyd i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig anfon copi o’r datganiad a’r penderfyniad at y Cofrestrydd  o fewn 15 diwrnod i’r dyddiad y penderfynodd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig y dylai gael ei dirwyn i ben.

5. Pryd gall YGC fod yn briodol?

Gall partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig drefnu YGC pan na all dalu ei dyledion.

6. Beth sydd rhaid i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei wneud?

Bydd ei haelodau’n penderfynu na all y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig barhau mewn busnes oherwydd ei rhwymedigaethau ac mai’r peth doethaf fyddai dirwyn i ben. Bydd cytundeb y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fel arfer yn nodi ym mha ffordd y gwna’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig benderfyniad o’r fath. Os nad oes darpariaeth felly, fe wneir y penderfyniad gan fwyafrif o’r aelodau.

Rhaid i’r penderfyniad:

  • gael ei hysbysu yn y Gazette cyn pen 14 diwrnod; a
  • chael ei anfon at y Cofrestrydd cyn pen 15 diwrnod.

Rhaid cynnal cyfarfod o’r credydwyr yn ystod y 14 diwrnod nesaf wedi mabwysiadu’r penderfyniad i ddirwyn i ben. Rhaid anfon rhybudd o’r cyfarfod at y credydwyr o leiaf saith diwrnod cyn y cyfarfod. Hefyd, rhaid i’r aelodau dynodedig baratoi datganiad amgylchiadau i’w ystyried yn y cyfarfod, gan benodi un o’u plith i fod yn bresennol a llywyddu’r cyfarfod.

Wrth benodi’r diddymydd, rhaid i’r aelodau dynodedig roi iddo/i ddatganiad o’r amgylchiadau a chydweithredu ag ef/â hi mewn ffyrdd eraill.

7. Oes rhaid i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gyhoeddi rhybudd o’r cyfarfod?

Oes. Rhaid cyhoeddi rhybudd o’r cyfarfod yn y Gazette a dau bapur newydd yn yr ardal sy’n cynnwys prif le busnes y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig

8. Beth yw prif ddyletswyddau diddymydd?

Penodir y diddymydd i ddirwyn materion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben. Fe wneir hyn gan y diddymydd drwy grynhoi holl asedion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a’u dosbarthu ymhlith ei chredydwyr. Os bydd rhywbeth ar ôl, bydd y diddymydd yn ei ddosbarthu ymhlith aelodau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

9. Oes angen i ddiddymydd roi gwybod i rywun am ei b/phenodiad?

Oes. O fewn 14 diwrnod i gael ei b/phenodi, rhaid i ddiddymydd gyhoeddi hysbysiad o’r penodiad yn y Gazette a rhoi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau. Os yw’r ymddatod yn wirfoddol, rhaid hefyd i’r diddymydd gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd yn yr ardal sy’n cynnwys prif le busnes y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

10. Beth mae’n rhaid i’r diddymydd ei anfon i Dŷ’r Cwmnïau?

Rhaid i’r datodydd anfon datganiad o amgylchiadau ynghyd â’r ffurflen briodol at y Cofrestrydd cyn pen 5 diwrnod busnes ar ôl cyfarfod y credydwyr.

Os dechreuodd yr ymddatod gwirfoddol ar 5 Ebrill 2010 neu cyn hynny, rhaid i’r datodydd anfon datganiad o’r derbyniadau a’r taliadau ar gyfer 12 mis cyntaf yr ymddatod hefyd. Wedi hynny, rhaid anfon datganiadau bob 6 mis nes cwblhau’r broses dirwyn i ben.

Os dechreuodd yr ymddatod gwirfoddol ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, rhaid i’r datodydd anfon adroddiad y datodydd ar gyfer 12 mis cyntaf yr ymddatod. Wedi hynny, rhaid anfon datganiadau bob 12 mis nes cwblhau’r broses dirwyn i ben.

11. Oes modd troi YGA yn YGC?

Oes. Os penderfyna’r diddymydd na fydd y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn gallu talu ei dyledion yn llawn yn ystod y cyfnod a nodir yn natganiad hydaledd statudol yr aelodau dynodedig, rhaid iddo/i alw cyfarfod o’r credydwyr y bydd yn rhaid ei gynnal cyn pen 28 diwrnod. Daw’r ymddatod yn YGC o ddyddiad y cyfarfod ymlaen.

12. Beth yw’r gofynion ar gyfer rhoi rhybudd mewn achos o’r fath?

Rhaid i’r diddymydd:

  • bostio rhybudd o’r cyfarfod at bob credydydd o leiaf saith diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod;
  • cyhoeddi dyddiad y cyfarfod yn y Gazette a dau bapur newydd yn yr ardal sy’n cynnwys prif le busnes y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; a
  • pharatoi datganiad o amgylchiadau i’w drafod yn y cyfarfod. Rhaid anfon copi o’r datganiad at y Cofrestrydd cyn pen 5 diwrnod gwaith ar ôl cynnal y cyfarfod.

13. Beth sy’n digwydd pan gaiff materion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig eu dirwyn i ben yn llawn?

Mewn achosion o ymddatod gwirfoddol a ddechreuodd ar 5 Ebrill 2010 neu cyn hynny, bydd y datodydd yn cyflwyno cyfrif i gyfarfod terfynol y credydwyr ac aelodau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Rhaid iddo roi cyhoeddusrwydd i’r cyfarfod yn y Gazette o leiaf fis ymlaen llaw.

Cyn pen wythnos ar ôl y cyfarfod, rhaid i’r datodydd anfon y cyfrif at y Cofrestrydd ar ffurf adroddiad ar y cyfarfod terfynol.

Mewn achosion o ymddatod gwirfoddol a ddechreuodd ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, bydd y datodydd yn cyflwyno adroddiad llawn i gyfarfod terfynol o gredydwyr ac aelodau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig. Rhaid iddo roi cyhoeddusrwydd i’r cyfarfod yn y Gazette o leiaf fis ymlaen llaw.

Cyn pen wythnos ar ôl cynnal y cyfarfod, rhaid i’r datodydd anfon yr adroddiad terfynol ar gynnydd at y Cofrestrydd, ynghyd â ffurflen adroddiad ar gyfarfod terfynol.

Oni wna’r llys orchymyn i ohirio diddymu’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, caiff ei diddymu 3 mis wedi cofrestru’r adroddiad a’r cyfrif yn Nhŷ’r Cwmnïau.

14. Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?

Yn sgil gweithredu Rheolau Ansolfedd (Diwygio) 2010, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2010, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn pennu’r ffurflenni ansolfedd canlynol o fewn Rheolau’r Cofrestrydd, a rhai ohonynt am y tro cyntaf. Rhaid ffeilio’r ffurflenni isod gyda’r Cofrestrydd ym mhob achos o ymddatod gwirfoddol.

Rhaid defnyddio’r ffurflenni hyn gyda’r diwygiadau priodol (os yw’n berthnasol) ar gyfer unrhyw achosion o ymddatod gwirfoddol a ddechreuodd ar 5 Ebrill 2010 neu cyn hynny:

Teitl y ffurflen Rhif
Hysbysiad am benodi datodydd o dan drefn dirwyn i ben yn wirfoddol (aelodau neu gredydwyr) 600
Datganiad o amgylchiadau wrth drosi o drefn ymddatod gwirfoddol gan yr aelodau i ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr 4.18 a 4.20
Datganiad o amgylchiadau o dan y drefn ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr 4.19 a 4.20
Hysbysiad am ymddiswyddiad datodydd gwirfoddol o dan a171(5) o Ddeddf Ansolfedd 1986 4.33
Gorchymyn Llys yn rhoi caniatâd i ddatodydd gwirfoddol ymddiswyddo 4.35
Tystysgrif diswyddo datodydd gwirfoddol 4.38
Hysbysiad am roi’r gorau i weithredu fel datodydd gwirfoddol 4.40
Hysbysiad am farwolaeth datodydd gwirfoddol 4.44
Hysbysiad am ddatodydd gwirfoddol yn gadael ei swydd 4.46
Hysbysiad am gyfansoddiad pwyllgor ymddatod 4.48
Tystysgrif i dystio bod y credydwyr wedi cael eu talu’n llawn 4.51
Datganiad y datodydd o dderbyniadau a thaliadau 4.68
Datganiad o hydaledd o dan y drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau sy’n ymgorffori datganiad o’r asedau a’r rhwymedigaethau 4.70
Adroddiad ar y cyfarfod terfynol o dan y drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau 4.71
Adroddiad ar y cyfarfod terfynol o dan y drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr 4.72

Sylwer: Ac eithrio Ffurflen 600, nid yw’r ffurflenni hyn ar gael i’w dadlwytho o wefan Tŷ’r Cwmnïau ond gallwch weld delweddau o’r dogfennau hyn yn Rheolau’r Cofrestrydd. Mae copïau ar gael gan ddogfenwyr y gyfraith cwmnïau.

Pennod 6 - Ymddatod gorfodol

1. Beth yw ‘ymddatod gorfodol’?

Ystyr ymddatod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn orfodol yw lle gorchmynnir ei dirwyn i ben gan y llys.

2. Pa lysoedd all orchymyn ymddatod gorfodol?

Gall yr Uchel Lys, neu lys sirol sydd â’r awdurdodaeth briodol, orchymyn i bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gael ei dirwyn i ben. Gall hyn fod, er enghraifft, yn unol â deiseb credydydd neu gredydwyr ar y sail nad oes modd i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig dalu ei dyledion.

Ystyrir bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig heb allu talu ei dyledion os bydd, er enghraifft:
  • ar y bartneriaeth fwy na £750 i gredydydd;
  • credydydd yn cyflwyno i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gais ysgrifenedig ar y ffurf benodedig (a elwir yn hawliad statudol (Ffurflen 4.1)); a
  • bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn methu â thalu, gwarantu na chytuno i fodloni’r ddyled i foddhad rhesymol y credydydd.
Ceir amgylchiadau eraill lle’r ystyrir na all y bartneriaeth ateblorwydd cyfyngedig dalu ei dyledion. Darllenwch y ddeddfwriaeth berthnasol.

Gall y llys hefyd orchymyn i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gael ei dirwyn i ben yn unol â deiseb:

  • y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei hun;
  • un neu ragor o aelodau’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;
  • yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau;
  • yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (gynt, y Bwrdd Gwarannoedd a Buddsoddi); neu
  • y Derbynnydd Swyddogol.

3. Oes rhaid cyhoeddi’r ddeiseb?

Oni chyfarwyddir trefniadau eraill gan y llys, rhaid i’r ddeiseb gael ei chyhoeddi yn y Gazette.

4. Beth sy’n ymddangos ar gofnod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn Nhŷ’r Cwmnïau?

Os bydd y ddeiseb yn llwyddiannus, rhaid i’r Derbynnydd Swyddogol anfon y gorchymyn dirwyn i ben i Dŷ’r Cwmnïau cyn gynted ag y bo’n ymarferol bosibl. Caiff ei osod ar gofnod cyhoeddus y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.

Ni chyflwynir y ddeiseb ei hun i’r Cofrestrydd, felly ni fydd yn ymddangos ar y cofnodion cyhoeddus.

5. Pwy sy’n gweithredu’n ddiddymydd pan wneir gorchymyn i ddirwyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig i ben?

Daw’r Derbynnydd Swyddogol yn ddiddymydd pan wneir gorchymyn dirwyn-i-ben yn erbyn y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, oni orchmynna’r llys fel arall.

6. Beth yw dyletswyddau’r Derbynnydd Swyddogol fel diddymydd?

Mae gan y Derbynnydd Swyddogol ddyletswydd i archwilio materion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ac achosion ei methiant.

Bydd hefyd yn penderfynu p’un a ddylid galw cyfarfodydd o’r credydwyr a’r cyfranwyr (sef, y bobl hynny sy’n debygol o gyfrannu at asedion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig os caiff ei dirwyn i ben) at ddibenion penodi diddymydd yn ei l(l)e.

Os penderfyna beidio â galw cyfarfod, rhaid iddo/i roi gwybod i’r credydwyr, y cyfranwyr a’r llys am ei b/phenderfyniad.

Ar y llaw arall, os penderfyna alw cyfarfod, gellir wedyn benodi diddymydd yn lle’r Derbynnydd Swyddogol. Rhaid i’r diddymydd roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am ei b/phenodiad yn syth.

Os daw swydd y diddymydd yn wag unrhyw bryd, fe ddaw’r Derbynnydd Swyddogol yn ddiddymydd tra pery’r swydd yn wag.

7. Beth sy’n digwydd pan gwblheir y dirwyn i ben?

Wrth i Dŷ’r Cwmnïau gael hysbysiad gan y diddymydd o gyfarfod terfynol y credydwyr, neu hysbysiad gan y Derbynnydd Swyddogol fod y dirwyn i ben wedi ei gwblhau, bydd yn ei gofrestru ac yn cyhoeddi iddo gael ei dderbyn yn y Gazette.

Oni chyfarwydda’r Ysgrifennydd Gwladol fel arall, caiff y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ei diddymu tri mis wedi cofrestru’r hysbysiad yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Os bydd y Derbynnydd Swyddogol, gan weithredu’n ddiddymydd, yn fodlon na fydd asedion sylweddadwy’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (sef, asedion y gellid eu gwerthu neu gael gwared â nhw i godi arian) yn diwallu treuliau’r dirwyn i ben ac nad oes angen ymchwilio ymhellach i faterion y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, gall wneud cais i’r Cofrestrydd am i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig gael ei diddymu’n gynnar. Fe ddiddymir y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig dri mis wedi cofrestru’r cais yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Pennod 7 - Gwybodaeth bellach

1. Ble galla i fynd i gael cymorth?

Bydd staff Tŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd yn gallu’ch cynghori ar faterion cyffredinol, ond os ydych chi’n ystyried gweithrediadau ymddatod neu ansolfedd, dylech geisio cyngor ymarferydd ansolfedd neu’r Gwasanaeth Ansolfedd (ffôn Ymholiadau Gwasnaeth Anslofedd 0845 602 9848.

Dylai cwynion ynglŷn ag ymddygiad ymarferydd ansolfedd trwyddedig gael eu cyfeirio, yn ysgrifenedig, i:

The Insolvency Practioners’ Section
The Insolvency Service
4 Abbey Orchard Street
Westminster
London
SW1P 2HT

Wedyn, byddan nhw’n anfon y gŵyn ymlaen i’r corff awdurdodi ymarferwyr.

2. Sut dylwn i anfon ffurflenni i Dŷ’r Cwmnïau?

  • Dylai dogfennau, gan gynnwys gorchmynion llys, ddangos enw a rhif cofrestru cywir y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
  • Dylech chi ddarparu dogfennau ar ddiwyg portread (hynny yw, â’r ymyl byrraf ar y brig).

3. Sut dylwn i anfon gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau?

Gallwch chi gyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin.

Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post, drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban. Os anfonwch chi ddogfennau, byddwch cystal â’u cyfeirio at:

Ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig wedi eu corffori yng Nghymru a Lloegr: Ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig wedi eu corffori yn yr Alban: Ar gyfer partneriaethau atebolrwydd cyfyngedig wedi eu  corffori yng Ngogledd Iwerddon:

Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd
CF14 3UZ
DX33050 Caerdydd 1

The Registrar of Companies
Companies House
Fourth Floor
Edinburgh Quay 2
139 Fountainbridge
Edinburgh EH3 9FF
DX ED235 Edinburgh 1
LP – 4 Edinburgh 2

The Registrar of Companies
Companies House
Second Floor
The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast
Northern Ireland BT2 8BG
neu
DX 481 N.R. Belfast 1

Os ydych yn anfon dogfennau drwy’r post, drwy negesydd neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) a’ch bod yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi nodyn cydnabod os amgaewch chi gopi o’ch llythyr eglurhaol gydag amlen stampiedig ac arni eich cyfeiriad dychwelyd. Bydd y côd bar a roddwn ar eich llythyr yn cyfleu’r dyddiad dod i law ac fe ddychwelwn y copi yn yr amlen a ddarparwch chi.

Sylwer: nid yw cydnabyddiaeth dod i law yn golygu bod dogfen wedi ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Sylwer: Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs.

4. Ble galla i gael ffurflenni a chanllaw?

Mae hwn yn un o gyfres o ganllaw gan Dŷ’r Cwmnïau sy’n rhoi canllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau.

Mae ffurflenni statudol a chanllaw  ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w cael yw drwy ein gwefan  neu drwy ffonio 0303 1234 500.

Gellir hefyd gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfraith cwmnïau, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau – cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn ar gyfer busnesau.

Brig
Ein polisi ar gwcis