|
|
Cwmnïau Tramor wedi'u cofrestru yn y DU - GPO1 Medi 2013 - Fersiwn 2.9 Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006 Fersiwn PDF y tudalen hwn (203KB) A yw'r canllaw hwn ar eich cyfer chi? Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:
Cynnwys Pennod 1 - Pwy sydd angen cofrestru? Mae'r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau mynych ac yn cynnig gwybodaeth ar ffeilio'r mathau mwyaf cyffredin o wybodaeth yn y maes hwn. Nid ydym wedi drafftio'r canllaw gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg. Mae'n bosibl y bydd angen gofyn am gyngor proffesiynol arbenigol o dan yr amgylchiadau hynny. CyflwyniadMae'r canllaw hwn yn esbonio sut mae cofrestru cwmni tramor sy'n agor sefydliad yn y DU. Mae hefyd yn cynnig cyfarwyddyd am y rhwymedigaethau ynghylch datgelu gwybodaeth ar ôl cofrestru fel hyn. Mae'n amlinellu'r dogfennau y mae'n rhaid ichi eu hanfon i Dŷ'r Cwmnïau a rhai o'r rheolau pwysig ar y gofynion ynghylch cyfrifeg, enwau cwmni a datgelu gwybodaeth am fasnachu. Fe welwch chi'r mwyafrif o gyfraith y DU berthnasol yn y mannau canlynol:
Os bydd gennych amheuon ynghylch eich cyfrifoldebau ar ôl ichi ddarllen y canllaw hwn, dylech ystyried gofyn am gyngor proffesiynol. Pennod 1 - Pwy sydd angen cofrestru?1. A oes angen i mi gofrestru fy nghwmni tramor? Nid yw'r ffaith fod cwmni tramor yn cynnal busnes yn y DU yn golygu, o reidrwydd, bod angen iddo gofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau. Dim ond os oes gan gwmni tramor rhyw lefel o bresenoldeb ffisegol yn y DU (fel lle busnes neu gangen) y mae'n cynnal ei fusnes drwyddo y mae angen ei gofrestru. 2. Pa gwmnïau sydd ddim yn gorfod cofrestru? Nid oes angen cofrestru os nad oes gan y cwmni unrhyw bresenoldeb ffisegol yn y DU. Er enghraifft, nid yw asiant annibynnol sy'n cynnal busnes ar ran y cwmni yn sefydliad cwmni tramor yn y DU; nid yw lleoliad achlysurol fel gwesty, lle gall cyfarwyddwr gynnal busnes yn ystod ymweliadau cyfnodol â'r wlad hon yn un o'r rhain ychwaith. Ni all mathau eraill o fentrau masnachol (er enghraifft partneriaethau, partneriaethau cyfyngedig, cyrff heb eu corffori nac asiantaethau'r llywodraeth) gofrestru fel cwmni tramor yn y DU. 3. Beth yw sefydliad DU? Sefydliad DU yw'r ymadrodd y mae'r Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009 yn ei ddefnyddio i gyfeirio at le busnes neu gangen cwmni tramor yn y DU. Mae defnyddio sefydliad DU yn y gyfraith wedi rhoi diwedd ar y trefniadau cofrestru a datgelu gwahanol oedd yn bodoli ar gyfer llefydd busnes a changhennau cyn 1 Hydref 2009. Mae pob lle busnes a changen a gofrestrwyd cyn 1 Hydref 2009 wedi dod yn sefydliadau DU a rhoddwyd y rhagddodiad ‘BR' o flaen eu rhif cofrestru. Os oeddech chi'n gangen neu'n lle busnes cyn 1 Hydref 2009, hwyrach y bydd angen i chi ffeilio Ffurflen Drosiannol (OS TN01) er mwyn sicrhau bod gan Dŷ'r Cwmnïau y wybodaeth gywir ar gyfer eich sefydliad DU. 4. Pa newidiadau eraill a wnaed ers 1 Hydref 2009? Pan ddaeth Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009 i rym ar 1 Hydref 2009, cyflwynwyd awdurdodaeth sengl ar gyfer cwmnïau tramor yn y DU. Nid oes angen mwyach i gwmni Lloegr/Cymru neu'r Alban gofrestru sefydliad DU yng Ngogledd Iwerddon, nac i gwmni Gogledd Iwerddon gofrestru sefydliad DU yn Lloegr a Chymru nac yn yr Alban. Pennod 2 - Pwy sydd angen cofrestru?1. Sut mae cofrestru? O fewn mis ar ôl agor sefydliad yn y DU, mae'n rhaid i gwmni tramor gyflwyno'r wybodaeth ganlynol i Dŷ'r Cwmnïau:
Os yw'r cwmni'n cofrestru ei sefydliad cyntaf yn y DU, mae'n rhaid iddo gyflwyno'r dogfennau canlynol i Dŷ'r Cwmnïau hefyd:
Pan fydd cwmni tramor yn cofrestru sefydliad arall yn y DU, fydd hi ddim yn ofynnol i'r cwmni gyflwyno'r dogfennau hyn eto. Yn hytrach, mae'r cwmni tramor yn cael datgan yn y ffurflen OS IN01 eu bod wedi'u cyflwyno'r dogfennau mewn perthynas â sefydliad arall yn y DU (gan roi rhif cofrestredig y sefydliad hwnnw). Sylwch y caiff y dogfennau eu gwrthod os na fydd y ffi wedi'i chynnwys. Dylai sieciau gael eu gwneud yn daladwy i ‘Tŷ'r Cwmnïau'. Mae rhagor o wybodaeth am ffeilio dogfennau cyfansoddiadol, cyfrifon a gofynion ynghylch cyfrifon i'w gweld yn ‘Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009 / 1801'. 2. Ble dylwn i anfon y dogfennau cofrestru? Cewch anfon eich dogfennau cofrestru i unrhyw un o swyddfeydd Tŷ'r Cwmnïau e.e. Caerdydd, Llundain, Caeredin neu Belfast, ni waeth ble yn y DU y caiff y sefydliad ei leoli. Os oes brys ynglŷn â'r cofrestru, cewch ddefnyddio'n gwasanaeth premiwm ‘yr Un Diwrnod', (ddim ar gael yn Llundain) ar yr amod bod yr holl ddogfennau angenrheidiol yn cael eu cyflwyno i un o'n swyddfeydd cyn 3pm (dydd Llun-dydd Gwener). Y ffi am y gwasanaeth hwn yw £100. Sylwch y gall ceisiadau drwy'r post gael eu gohirio a dim ond ar y diwrnod y mae'r ddogfen yn dod i law y gallwn roi gwasanaeth cofrestru yr un diwrnod. Os anfonwch eich cais drwy'r post neu drwy negesydd, rhaid ichi farcio'r amlen yn glir â'r geiriau "Cais yr Un Diwrnod". 3. Beth yw copïau ardystiedig o ddogfennau a chyfieithiadau ardystiedig? Copi ardystiedig yw copi yr ardystiwyd ei fod yn gywir ac sydd wedi'i ddilysu gan ysgrifenydd(es) neu gyfarwyddwr y cwmni, cynrychiolydd parhaol, gweinyddydd, derbynnydd gweinyddol, rheolwr derbynnydd, derbynnydd neu ddatodwr. Caiff dogfennau cyfansoddiadol a dogfennau cyfrifeg a gyflwynir i Dŷ'r Cwmnïau fod mewn iaith heblaw Saesneg, ond rhaid anfon cyfieithiad Saesneg ardystiedig i gyd-fynd â nhw. Ystyr cyfieithiad ardystiedig yw cyfieithiad yr ardystiwyd ei fod yn gyfieithiad cywir. Rhaid iddo gael ei ddilysu gan y person priodol, e.e cyfarwyddwr neu ysgrifenydd(es) y cwmni; cynrychiolydd parhaol; gweinyddydd; derbynnydd gweinyddol; rheolwr derbynnydd; derbynnydd; datodwr neu rheolwr barnwrol. Rhaid i'r person sy'n ardystio'r cyfieithiad lofnodi ar ddiwedd y ddogfen. 4. Beth am enw'r cwmni? Cewch gofrestru cwmni tramor gan ddefnyddio'i enw corfforaethol (ei enw o dan gyfraith gwlad y corfforiad), neu enw amgen y mae'n bwriadu gwneud busnes odano yn y DU. Os fydd enw amgen o'r fath wedi'i gofrestru, mae'n cael ei drin at ddibenion cyfraith y DU fel enw corfforaethol y cwmni a rhaid ei ddefnyddio ar unrhyw ffurflen sy'n gofyn am ‘enw cwmni'. Mae nifer o reolau a chyfyngiadau yn gymwys wrth ichi ddewis enw. Mae'r rhain wedi'u hesbonio'n fanylach yn ein canllaw ‘Corffori ac Enwau'. Mae'r cyfyngiadau yn cynnwys:
Mae'r ffordd y caiff y cyfyngiadau eu cymhwyso yn dibynnu ar yr amgylchiadau canlynol:
5. Pa reolau sy'n gymwys i enwau cwmnïau AEE? Yn dibynnu p'un rydych chi'n ei gofrestru - enw corfforaethol ynteu enw amgen - mae'r rheolau canlynol yn gymwys:
Dylai cwmnïau tramor sy'n dymuno newid eu henw amgen neu newid eu henw corfforaethol i enw amgen ffeilio ffurflen ‘Cofrestru newid enw cwmni tramor fel y mae wedi'i gofrestru yn y DU' (Ffurflen OS NM01). Sylwch fod ffi o £10 yn daladwy gyda'r ffurflen hon ac y caiff y ddogfen ei gwrthod os na fydd y ffi wedi'i chynnwys gyda'r ddogfen. Mae gwasanaeth ‘Yr Un Diwrnod' ar gael am ffi o £50 (nid yw'r gwasanaeth hon ar gael yn swyddfa Llundain). Os cawn ni'r ffurflen OSNM01 cyn 3pm (o ddydd Llun tan ddydd Gwener) a derbyn yr enw a'r dogfennau, byddwn yn cyhoeddi tystysgrif newid enw ar y diwrnod hwnnw. Wrth gyflwyno eich dogfennau ‘Un Diwrnod' drwy'r post neu gludwr, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi ‘Newid Enw yr Un Diwrnod' yn glir ar yr amlen. 6. Pa reolau sy'n gymwys i enwau cwmnïau tramor a gorfforir y tu allan i'r AEE? Mae amryw o reolau a chyfyngiadau sydd ynghlwn wrth gofrestru enwau corfforaethol neu amgen ar gyfer cwmnïau tramor a gorfforwyd y tu hwnt i'r AEE. Mae'r rhain yn cynnwys gofyn taw dim ond nodau a ganiateir a ddefnyddir yn yr enw; atal cofrestru enw sydd yr un fath ag un ar fynegai Tŷ'r Cwmnïau o enwau cwmnïau; mynnu tystiolaeth o awdurdod priodol i ddefnyddio gair sensitif mewn enw neu i fabwysiadu enw sy'n awgrymu cysylltiad â Llywodraeth Ei Mawrhydi neu â chyrff cyhoeddus penodol eraill; ac atal defnyddio enwau sy'n peri tramgwydd. Os na fydd cais cwmni tramor am gofrestru enw yn bodloni pob un o'r cyfyngiadau, caiff ei wrthod a gofynnir i'r cwmni ddewis enw gwahanol. Dylai cwmnïau tramor sy'n dymuno newid eu henw corfforaethol neu eu henw amgen cofrestredig (gan gynnwys newid o'r enw corfforaethol i enw amgen ac I'r gwrthwyneb) wneud hynny ar ffurflen OS NM01. Sylwch fod ffi o £10 yn daladwy gyda'r ffurflen hon ac y caiff y ddogfen ei gwrthod os na fydd y ffi wedi'i chynnwys gyda'r ddogfen. Mae gwasanaeth ‘Yr Un Diwrnod' ar gael am ffi o £50 (nid yw'r gwasanaeth hon ar gael yn swyddfa Llundain). Os cawn ni'r ffurflen OSNM01 cyn 3pm (o ddydd Llun tan ddydd Gwener) a derbyn yr enw a'r dogfennau, byddwn yn cyhoeddi tystysgrif newid enw ar y diwrnod hwnnw. Wrth gyflwyno eich dogfennau ‘Un Diwrnod' drwy'r post neu gludwr, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi ‘Newid Enw yr Un Diwrnod' yn glir ar yr amlen. 7. Pa reolau sy'n gymwys i enwau sefydliadau yn y DU? Gall cwmni tramor ddewis enw gwahanol ar gyfer ei sefydliad yn y DU. Os yw'n dewis enw arall, rhaid i'r enw hwnnw gydymffurfio â'r rheolau ar gyfer enwau busnes a ddisgrifir yn Rhan 41 o Ddeddf Cwmnïau 2006. Mae'r rhain yn cynnwys gofyn am dystiolaeth o awdurdodiad priodol i ddefnyddio gair sensitif mewn enw neu i fabwysiadu enw sy'n awgrymu cysylltiad â Llywodraeth Ei Mawrhydi neu ambell i gorff cyhoeddus penodedig arall. Os na allwch chi gyfiawnhau enw'r sefydliad, bydd angen i chi ddarparu datganiad ysgrifenedig sy'n nodi na chaiff yr enw ei ddefnyddio ar bapurach, nac wrth hysbysebu ac ati yn y DU. Mae rhagor o wybodaeth am enwau busnesau ar gael yn ein llyfryn canllaw Corffori ac Enwau (GP1). Pennod 3 - Gofynion ynglŷn â chyflwyno dogfennau1. Ar ôl cofrestru, oes angen i gwmnïau tramor anfon dogfennau eraill i Dŷ'r Cwmnïau? Dylai cwmni tramor roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau am unrhyw newidiadau yn yr wybodaeth wreiddiol a gyflwynwyd wrth gofrestru, a hynny wrth i unrhyw newid ddigwydd. Mae hyn yn cynnwys newidiadau yn y canlynol:
Rhaid i gwmni tramor gyflwyno ffurflenni i Dŷ'r Cwmnïau i'w hysbysu am unrhyw newidiadau i fanylion y cwmni neu ei sefydliad yn y DU. Rhaid hysbysu Tŷ'r Cwmnïau am y unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar sefydliad y DU cyn pen 21 diwrnod ar ôl gwneud y diwygiad. Yn achos newid sy'n effeithio ar y cwmni tramor, rhaid i'r ffurflen i roi gwybod gael ei chyflwyno o fewn 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y gallai'r hysbysiad ynghylch yr addasiad fod wedi dod i law yn y DU (os cafodd ei anfon â'r diwydrwydd dyladwy). Gallwch lawrlwytho'r ffurflen briodol oddi ar ein gwefan. 2. Oes angen i gwmnïau tramor anfon dogfennau cyfrifeg i Dŷ'r Cwmnïau ar ôl cofrestru? Yn y mwyafrif o achosion, mae angen i gwmnïau tramor anfon dogfennau cyfrifeg i Dŷ'r Cwmnïau. Mae'r dogfennau cyfrifeg y mae gofyn i gwmni tramor eu cyflwyno yn dibynnu ar yr amgylchiadau canlynol.
Rhaid i bob cwmni tramor â sefydliad ganddo yn y DU ac sy'n cyflwyno dogfennau cyfrifeg i Dŷ'r Cwmnïau dalu ffi o £20. Caiff y ddogfennau cyfrifeg eu dychwelyd os na fydd y ffi cywir wedi'i chynnwys gyda'r ddogfen. 3. Cwmnïau y mae'n ofynnol iddyn nhw baratoi a datgelu cyfrifon o dan y gyfraith gartref Rhaid i gwmni o'r AEE sy'n gorfod paratoi, datgelu a chyflwyno dogfennau cyfrifo o dan y gyfraith gartref,eu cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau cyn pen 3 mis ar ôl y dyddiad y mae gofyn iddo ddatgelu'r dogfennau yn ôl cyfraith ei wlad ei hun. Os oes gofyn i gwmni AEE baratoi a datgelu cyfrifon, ond nad oes angen eu cyflwyno o dan gyfraith eu gwlad, nid oes angen iddo gyflwyno copïau o'r dogfennau cyfrifeg i Dŷ'r Cwmnïau ychwaith Os oes gofyn i gwmni AEE baratoi a datgelu cyfrifon, ond nad oes gofyn iddo drefnu archwiliad o'i gyfrifon o dan gyfraith ei wlad, nid oes angen iddo gyflwyno adroddiad yr archwiliwr i Dŷ'r Cwmnïau i gyd-fynd â'r cyfrifon. Rhaid i gwmni tramor(wedi ‘i gorffori tu allan i'r AEE ) sy'n gorfod paratoi, archwilio a datgelu dogfennau cyfrifeg o dan gyfraith ei wlad ei hun, eu cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau cyn pen 3 mis ar ôl y dyddiad y mae gofyn iddo ddatgelu'r dogfennau yn ôl cyfraith ei wlad ei hun. Mae dogfennau cyfrifeg yn cynnwys cyfrifon y cwmni am gyfnod ariannol; unrhyw adroddiad blynyddol gan y cyfarwyddwyr; unrhyw adroddiad gan archwilwyr ar y cyfrifon ac adroddiad y cyfarwyddwyr. Lle bo cwmnïau tramor yn cyflwyno dogfennau cyfrifeg i Dŷ'r Cwmnïau, rhaid iddynt eu cydategu â ffurflen OS AA01 sy'n cynnwys y wybodaeth ganlynol ;
Mae methu â chyflwyno'r dogfennau cyfrifeg i Dŷ'r Cwmnïau erbyn y dyddiad dyledus yn dramgwydd troseddol sy'n cael ei gyflawni gan bob person a oedd yn gyfarwyddwr cyn diwedd y cyfnod o 3 mis sydd ar gael i'w cyflwyno. 4. Cwmnïau nad yw'n ofynnol iddyn nhw baratoi a datgelu cyfrifon o dan y gyfraith gartref Mae'n bosibl nad yw'n ofynnol i rai cwmnïau tramor baratoi a datgelu dogfennau cyfrifeg o dan y gyfraith gartref. Mae'r fath o gwmni yn dal o dan ddyletswydd i baratoi, llofnodi a chyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau. Mae gofynion manwl ynglŷn â'r cyfrifon hyn yn Rheoliadau Cwmnïau Tramor 2009/1801 ac mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:
Mae pawb oedd yn gyfarwyddwr cyn diwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau yn cyflawni trosedd os na chaiff y cyfrifon eu cyflwyno erbyn y dyddiad dyledus. 5. A oes yna reolau arbennig o ran cyfrifeg ar gyfer sefydliadau credyd neu ariannol? Mae'r gofynion ffeilio ar gyfer sefydliadau credyd neu ariannol yn codi o gyfraith wahanol i'r gyfraith ar gyfer cwmnïau tramor a chanddynt sefydliad yn y DU, ond yn ymarferol mae'r gofynion yn debyg. Rhaid i sefydliadau credyd neu ariannol baratoi copïau o'u cyfrifon a'u cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau. Mae gofynion gwahanol yn berthnasol dim ots a oes gofyn bod sefydliad yn paratoi cyfrifon o dan gyfraith ei wlad ai peidio. Os oes gofyn iddo wneud hynny, does dim ots a gafodd y sefydliad ei gorffori neu ei ffurfio yn un o wladwriaethau'r AEE ai peidio. Mae'r gofynion o ran sefydliadau credyd neu ariannol y tu hwnt i gwmpas y llyfryn hwn, ond maent i'w gweld yn Rhan 6 o Reoliadau Cwmnïau Tramor 2009/1801. 6. Beth yw sefydliad credyd? Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn diffinio ‘sefydliad credyd' trwy groesgyfeirio at y Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar hawlio ac ymlid busnes sefydliadau credyd (2006/46/EC) ac fel menter sydd naill ai,
Gall fod yn gwmni ond gall fod yn endid o fath arall hefyd. 7. Beth yw sefydliad ariannol? Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn diffinio ‘Sefydliad ariannol' trwy groesgyfeirio at Erthygl 1 o'r Gyfarwyddeb Canghennau Banc (89/117/EEC). Nid diffiniad parod mo hwn, yn hytrach mae'n dibynnu ar ddiffiniad Cyfarwyddeb 2000/12/EC o sefydliad ariannol mewn perthynas â hawlio ac ymlid busnes sefydliadau credyd. Dyma ein dehongliad ni o beth yw sefydliad ariannol,
8 Oes angen i gwmnïau tramor gofrestru arwystlon? O ran morgeisi neu arwystlon a grëwyd gan gwmnïau tramor mewn perthynas ag eiddo'r cwmni a leolir yn y DU ar 1 Hydref 2011 neu ar ôl hynny, nid oes unrhyw ofyniad i gofrestru'r arwystlon gyda'r Cofrestrydd Cwmnïau. Nid yw Rheoliad 10 o Reoliadau Cwmnïau Tramor (Cyflawni Dogfennau a Chofrestru Arwystlon) 2009 yn berthnasol i arwystlon a grëwyd ar 1 Hydref 2011 neu ar ôl hynny. Caiff unrhyw arwystlon o'r fath a gyflwynir i'r cofrestrydd a chanddynt ddyddiad creu o 1 Hydref 2011 neu'n ddiweddarach eu gwrthod, a dychwelir y ffi ffeilio. Rhaid i gwmnïau tramor sydd wedi creu arwystlon penodedig dros eiddo a leolir yn y DU, a chanddynt ddyddiad creu o 30 Medi 2011 neu cyn hynny, barhau i gofrestru'r arwystlon hyn yn unol â Rheoliad 10 o'r Rheoliadau Cwmnïau Tramor (Cyflawni Dogfennau a Chofrestru Arwystlon) 2009. Mae hyn yn cynnwys yr achosion hynny lle na chyflwynwyd yr arwystl cyn pen 21 diwrnod ar ôl y dyddiad creu ac estynnwyd y cyfnod a ganiateir ar gyfer cofrestru trwy orchymyn llys. Gall arwystl cael ei gofrestru gan gwmni tramor neu'r person â buddiant yn yr arwystl trwy gyflwyno Ffurflen OS MG01 i Dŷ'r Cwmnïau ynghyd â chopi ardystiedig o'r offeryn (os oes un) a'r ffi cofrestru o £13. Rhaid llenwi Rhan 1 o Ffurflen OS MG01 (manylion cwmni tramor) gan nodi'r manylion canlynol:
Dylid nodi na fyddwn ni'n derbyn enw sefydliad y DU a'r rhif ‘BR' ar y ffurflen OS MG01
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gofrestru arwystlon yn Rheoliadau Cwmnïau Tramor (Cyflawni Dogfennau a Chofrestru Arwystlon) 2009/1917 a Rheoliadau Cwmnïau Tramor (Cyflawni Dogfennau a Chofrestru Arwystlon)(Diwygio) 2011 . Bydd y cofrestrydd yn parhau i dderbyn datganiadau o foddhad ar gyfer unrhyw arwystlon cofrestredig a grëwyd cyn 1 Hydref 2011. Pennod 4 - Gofynion ynglŷn â datgelu gwybodaeth1. Oes rhaid i wybodaeth y cwmni tramor gael ei dangos yn ei fangreoedd busnes? Dylai cwmni tramor sy'n cynnal busnes yn y DU ddangos enw'r cwmni (sef yr enw sydd wedi'i gofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau) a'r wlad lle y mae wedi'i gorffori, a hynny yn barhaol, yn y canlynol:
Rhaid i'r cwmni ddangos enw'r cwmni a'r wlad lle y mae wedi'i gorffori
2. Ar ba ohebiaeth fusnes y mae angen dangos enw'r cwmni tramor? Rhaid i bob cwmni tramor sy'n cynnal busnes yn y DU ddangos enw'r cwmni ar bob math o ohebiaeth a dogfen fusnes sy'n cael eu defnyddio i gynnal gweithgareddau busnes yn y DU, boed ar gopi caled neu'n electronig, gan gynnwys:
3. Pa fanylion y mae'n rhaid i'r cwmni eu dangos ar ohebiaeth fusnes, ffurflenni archeb a gwefannau? Rhaid i gwmni tramor a chanddo sefydliad DU a gofrestrwyd yn Nhŷ'r Cwmnïau nodi'r manylion canlynol ar bob llythyr busnes, ffurflen archebu, a gwefan sy'n cael eu defnyddio wrth gynnal busnes yn y DU:
Rhaid i gwmni tramor sydd heb ei gorffori yn yr AEE nodi'r manylion canlynol ar bob llythyr busnes, ffurflen archeb a gwefan hefyd:
Rhaid i'r holl wybodaeth hon gael ei datgelu mewn cymeriadau a all gael eu darllen â'r llygad noeth. 4. Oes rhaid i gwmnïau tramor ddangos enwau'r cyfarwyddwyr ar lythyrau busnes? Os bydd cwmni'n penderfynu cynnwys enw cyfarwyddwr neu gyfarwyddwyr (heblaw yn y testun neu fel llofnodwr) ar lythyrau busnes, rhaid iddo ddatgelu enwau'r holl gyfarwyddwyr. Yn achos corff corfforaethol neu berson cyfreithiol, rhaid iddo ddatgelu ei enw corfforaethol neu enw'r ffyrm. Rhaid i'r wybodaeth hon gael ei datgelu mewn cymeriadau a all gael eu darllen â'r llygad noeth. Pennod 5 - Ansolfedd, dirwyn i ben a chau1. Beth sy'n digwydd os bydd cwmni tramor yn destun achos ansolfedd? Os oes gan gwmni tramor sefydliad yn y DU a'i fod hefyd yn cael ei ddirwyn i ben o dan gyfreithiau y tu allan i'r DU, rhaid iddo anfon ‘Hysbysiad dirwyn cwmni tramor i ben (Ffurflen OS LQ03) i Dŷ'r Cwmnïau. Os dechreuwyd dirwyn y cwmni i ben cyn iddo agor sefydliad yn y DU, rhaid iddo gyflwyno'r ffurflen heb fod yn fwy nag 1 mis ar ôl i'r cwmni agor y sefydliad am y tro cyntaf. Fel arall mae gan y cwmni 14 diwrnod i gyflwyno'r ffurflen ar ôl y dyddiad y mae'r dirwyn i ben yn dechrau. Yn dibynnu ar natur yr achos dirwyn i ben neu'r achos ansolfedd arall, mae yna ofynion eraill o ran rhoi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau. Mae'r manylion i'w gweld isod. Gall cwmni tramor gael ei ddirwyn i ben o dan ddarpariaethau cyfraith y DU (Deddf Ansolfedd 1986 neu Orchymyn Ansolfedd (Gogledd Iwerddon) 1989), ond mae'r amgylchiadau hynny y tu allan i rychwant y canllaw hwn. 2. Penodi datodwr Rhaid i berson a benodir yn ddatodwr cwmni ffeilio ‘Hysbysiad penodi datodwr cwmni tramor (Ffurflen OS LQ01) gan gynnwys y manylion canlynol:
Os cafodd y datodwr ei benodi cyn bod gan y cwmni sefydliad yn y DU, rhaid i'r ffurflen OS LQ01 hon gael ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau 1 mis ar ôl i'r cwmni agor sefydliad yn y DU am y tro cyntaf. Os oes gan y cwmni sefydliad yn y DU, rhaid i'r datodwr roi gwybod i Dŷ'r Cwmnïau o fewn 14 diwrnod ar ôl cael ei benodi. Pan orffennir dirwyn y cwmni i ben neu pan fydd y cwmni'n rhoi gorau i fod wedi'i gofrestru, sydd o arwyddocâd cyfreithiol, rhaid i'r datodwr ffeilio ‘Hysbysiad bod dirwyn cwmni tramor i ben wedi'i orffen' (Ffurflen OS DS02) yn Nhŷ'r Cwmnïau. Rhaid i'r ffurflen gael ei chyflwyno o fewn 14 diwrnod ar ôl y naill ddigwyddiad neu'r llall. 3. Achosion ansolfedd (heblaw dirwyn i ben) Pan fydd cwmni tramor gyda sefydliad yn y DU yn dod yn destun achos ansolfedd (heblaw ei ddirwyn i ben), rhaid iddo anfon ‘Hysbysiad gan gwmni tramor sy'n dod yn destun achos ynglŷn ag ansolfedd' (Ffurflen OS LQ02) i Dŷ'r Cwmnïau. Os dechreuodd yr achos ansolfedd cyn i'r cwmni agor sefydliad yn y DU, rhaid iddo gyflwyno'r ffurflen heb fod yn hwyrach nag 1 mis ar ôl i'r cwmni agor y sefydliad am y tro cyntaf. Os oes sefydliad DU gan y cwmni, mae ganddo 14 diwrnod ar ôl dyddiad cychwyn yr achos ansolfedd yn ei erbyn i gyflwyno'r ffurflen Pan na fydd cwmni'n destun achos ansolfedd mwyach, rhaid iddo ffeilio ‘Hysbysiad cwmni tramor bod achos ynglŷn ag ansolfedd wedi gorffen' ( ffurflen OS LQ04) gan ddatgan pryd y peidiodd y cwmni â bod yn destun achos. Rhaid iddo gyflwyno'r ffurflen heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae'n peidio â bod yn destun achos. 4. Hysbysiad bod rheolwr barnwrol wedi'i benodi yn yr Alban Os caiff rheolwr barnwrol ei benodi, rhaid iddo ffeilio hysbysiad ‘Penodi rheolwr barnwrol (yr Alban) i gwmni tramor' (ffurflen OS AP06) o fewn 14 diwrnod ar ôl cael ei benodi. Mae'r ffurflen yn gofyn am fanylion penodedig i'w cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau Rhaid iddo roi hysbysiad hefyd am unrhyw newid yn y cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau a hynny drwy ffeilio hysbysiad ‘Newid y cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau i reolwr barnwrol cwmni tramor (yn yr Alban)' (ffurflen OS CH08). Os terfynir penodiad rheolwr barnwrol, rhaid iddo ffeilio hysbysiad ‘Terfynu penodiad rheolwr barnwrol cwmni tramor (yn yr Alban)' ( Ffurflen OS TM04) 5. Beth os bydd y cwmni'n cau sefydliad yn y DU? Os bydd cwmni tramor yn cau sefydliad yn y DU sydd wedi'i gofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau, rhaid iddo ffeilio ‘Hysbysiad bod sefydliad yn y DU wedi'i gau gan gwmni tramor' (Ffurflen OS DS01). Pan fydd y ddogfen hon wedi'i chofrestru gan Dŷ'r Cwmnïau, nid yw'n ofynnol mwyach i'r cwmni gyflwyno dogfennau mewn perthynas â'r sefydliad hwnnw yn y DU. Pennod 6 - Ansawdd dogfennau1. Beth fydd yn digwydd i ddogfennau y byddaf yn eu hanfon i Dŷ'r Cwmnïau? Byddwn yn sganio'r dogfennau a'r ffurflenni y byddwch yn eu cyflwyno i ni er mwyn creu delwedd electronig. Yna, byddwn yn storio'r dogfennau papur gwreiddiol, gan ddefnyddio'r ddelwedd electronig fel y ddogfen waith. Pan fydd cwsmer yn chwilio'r cofnod cyhoeddus, atgynhyrchir y ddelwedd electronig ar-lein. Felly, mae'n bwysig bod y ddogfen wreiddiol yn ddarllenadwy, a'i bod yn gallu creu copi clir hefyd. Mae'r bennod hon yn cynnig rhai canllawiau i'w dilyn wrth baratoi dogfen i'w ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau. 2. Sut ddylai dogfennau gael eu gosod? Dogfennau papur Yn gyffredinol, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i Dŷ'r Cwmnïau nodi enw a rhif cofrestredig y cwmni mewn man amlwg. Ceir rhai eithriadau i'r rheol hon, a nodir yn rheolau cyhoeddedig y cofrestrydd. Dylai dogfennau papur fod ar bapur gwyn plaen A4, â gorffeniad di-sglein. Dylai'r testun fod yn ddu, yn eglur, yn ddarllenadwy a dylai'r dwysedd fod yn unffurf. Rhaid i lythrennau a rhifau fod yn eglur ac yn ddarllenadwy er mwyn sicrhau bod modd i ni baratoi copi derbyniol o'r ddogfen. Gallai'r canllawiau canlynol fod o gymorth: Sylwch: ar hyn o bryd, does dim modd i ffurflenni a dogfennau cwmnïau tramor gael eu ffeilio'n electronig. Pan fyddwch yn llenwi ffurflen, a fyddech cystal â:
Pan fyddwch yn cwblhau dogfennau eraill, cofiwch:
Cyfrifon sglein Bob blwyddyn, mae rhyw 6,000 set o gyfrifon yn cael eu gwrthod am nad ydynt yn ddigon darllenadwy. Dyma'r 3 rheswm pennaf am hyn:
3. Ble mae modd i mi gael gwybod mwy am hyn? Am arweiniad pellach am ein gofynion argraffu, e-bostiwch eich ymholiad neu ffoniwch 0303 1234 500. Pennod 7 - Gwybodaeth Bellach1. Sut ddylwn i gyflwyno gwybodaeth i Dŷ'r Cwmnïau? Am fanylion llawn am yr holl ffyrdd o gyflwyno dogfennau i Dŷ'r Cwmnïau, yn electronig neu ar bapur, a fyddech cystal â throi at reolau'r cofrestrydd sy'n ymddangos ar ein gwefan. I gael rhagor o wybodaeth a manylion sut i gofrestru, edrychwch ar ein gwefan. Os ydych yn anfon dogfennau yn y post, gyda negesydd, gyda'r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu Bost Cyfreithiol (yn yr Alban), ac os hoffech gael derbynneb, bydd Tŷ'r Cwmnïau yn darparu nodyn cydnabod os byddwch yn cynnwys copi o'ch llythyr esboniadol gydag amlen â chyfeiriad a stamp arni er mwyn ei ddychwelyd. Byddwn yn nodi cod bar ar eich copi chi o'ch llythyr, gan nodi'r dyddiad y'i cyflwynwyd, a'i ddychwelyd atoch yn yr amlen a ddarparwyd. Sylwer: nid yw nodyn sy'n cydnabod bod dogfen wedi cyrraedd yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn i'w chofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau. Sylwer: nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfennau statudol trwy ffacs, PDF(ac eithrio copïau ardystiedig o offerynnau arwystl sy'n cael eu ffeilio'n electronig) neu e-bost. 2. A fydd yn rhaid i mi dalu er mwyn ffeilio dogfennau yn Nhŷ'r Cwmnïau? Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi am nifer o'r dogfennau y bydd yn rhaid i chi eu hanfon i Dŷ'r Cwmnïau, ond bydd angen talu ffi ar gyfer rhai.Am fanylion llawn, dylech droi at ein gwefan. 3. A oes modd i mi ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill? Fel arfer, mae'r gyfraith yn mynnu eich bod yn ffeilio dogfennau a anfonir i Dŷ'r Cwmnïau yn Saesneg. Ceir eithriadau i'r rheol hon, fel y nodir isod. Gall cwmnïau gyflwyno'r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os anfonir cyfieithiad Saesneg ardystiedig o'r ddogfen hefyd:
Yn ogystal, gall cwmnïau tramor ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol o unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau. Rhaid i'r cyfieithiad gwirfoddol gyfeirio at ddogfen a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2007. Dim ond yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y bydd modd ffeilio cyfieithiadau gwirfoddol, ac mae'n rhaid cyflwyno Ffurflen VT01 gyda nhw. 4. Ble mae modd i mi gael ffurflenni a chanllawiau? Mae hwn yn un llyfryn mewn cyfres o ganllawiau gan Dŷ'r Cwmnïau sy'n cynnig canllaw syml i'r Ddeddf Cwmnïau. Mae modd cael pob canllaw a ffurflen statudol, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ'r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf o'u cael yw trwy droi at ein gwefan neu ffonio 0303 1234 500. Yn ogystal, gallwch gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfraith cwmnïau, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau. |
||