Wedi'i gweithredu ar 1af Hydref 2009
Cyfarwyddyd y Ddeddf Cwmnïau 2006 |
|||||||||
|
|
Deddf Enllib a Chofrestru Newyddiadur - GPO3 Mai 2010 – Fersiwn 2.1 Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006 Fersiwn PDF y tudalen hwn (418KB) Mae’r canllaw hwn ar gael mewn ffurfiau eraill, gan gynnwys Braille, print mawr a thâp sain. Am fanylion pellach, trowch at ein gwefan neu anfonwch e-bost at ein hadran ymholiadau neu ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0303 1234 500. Cynnwys Cyflwyniad Mae’r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau mynych ac yn cynnig gwybodaeth ar ffeilio’r mathau mwyaf cyffredin o wybodaeth yn y maes hwn. Nid ydym wedi drafftio’r canllaw gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg. Mae’n bosibl y bydd angen gofyn an gyngor proffesiynol arbenigol o dan yr amgylchiadau hynny. Mae’r canllaw hwn yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud i gofrestru papur newydd. Os ydych yn ystyried cofrestru papur newydd, dylech gyfeirio at y ddeddfwriaeth sy’n llywio’r drefn o gofrestru papurau newydd, neu dylech gael cyngor cyfreithiol. Gellwch gael hyd i’r gyfraith berthnasol yn Neddf Enllib a Chofrestru Papurau Newydd 1881. brigPennod 1 - Cofrestru papur newydd 1. Pwy ddylai gofrestru? Rhaid i berchennog/perchnogion papur newydd a gyhoeddir yng Nghymru neu yn Lloegr (neu yng Ngogledd Iwerddon) gofrestru rhai manylion gyd’r Cofrestrydd Cwmnïau yng Nghaerdydd (neu yn Belfast). Fodd bynnag, nid oes angen cofrestru:
2. Beth yw papur newydd? Mae Adran 1 yn diffinio ‘papur newydd’ fel unrhyw bapur sy’n cynnwys newyddion i’r cyhoedd, gwybodaeth, neu ddigwyddiadau, neu unrhyw sylwadau neu arsylwadau yn y papur sy’n cael ei argraffu i’w werthu, ac a gyhoeddir yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon yn gyfnodol, neu mewn rhannau neu rifau yn gyfnodol sy’n llai na 26 diwrnod rhwng cyhoeddi unrhyw ddau bapur, dwy ran neu ddau rif. Hefyd unrhyw bapur a argreffir er mwyn ei ddosbarthu, a’i wneud yn gyhoeddus yn wythnosol neu yn amlach, neu yn gyfnodol sy’n llai na 26 diwrnod ac yn cynnwys hysbysebion yn unig neu’n bennaf. 3. Sut mae cofrestru? Llenwi Ffurflen NLR1 a’i hanfon at y Cofrestrydd Cwmnïau yng Nghaerdydd (neu Belfast) ynghyd â’r tâl cofrestru o 50c (a chyfeirio hefyd at y paragraffau nesaf). Fel arfer rhaid cofrestru enw pob perchennog, ond lle bo’n anghyfleus i gofrestru pob enw, gall yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio awdurdodi cofrestru un neu ddau enw ‘perchennog cynrychioliadol’ yn unig. Gall hyn ddigwydd mewn achos megis lle bo nifer fawr o berchnogion neu nad yw’r perchnogion yn bresennol yng ngwledydd Prydain. Os dymunwch gofrestru papur newydd ar y sail hwn, dylech ysgrifennu at y Cofrestrydd gan nodi’r rhesymau sy’n ei gwneud yn anghyfleus i gofrestru enwau pob perchennog. Hefyd dylech roi gwybodaeth i ddangos bod y cynrychiolwyr a gynigir yn gwbl abl i fodloni unrhyw hawliadau a all godi am enllib neu reswm arall sy’n ymwneud â’r modd y rheolir y papur newydd. Os cofrestrir ar y sail hwn, y tâl cofrestru yw £1. Gellir cael Ffurflen NLR1 oddi wrth y Cofrestrydd yng Nghaerdydd neu Belfast - nodir y cyfeiriadau ym mhennod 2 o dan Gwybodaeth Bellach. 4. Pa ddogfennau eraill y mae’n rhaid eu ffeilio? Dim un wrth gofrestru, ond rhaid llenwi manylion ar Ffurflen NLR1 yn flynyddol bob mis Gorffennaf. Mae tâl ffeilio o 25c yn daladwy gyda’r ffurflen hon, neu 50c os bu newid naill ai yn enw’r perchnogion neu yn enw’r cyhoeddiad. Mae’r Cofrestrydd yn anfon ffurflen wag at bob papur newydd cofrestredig ychydig cyn y dyddiad y mae angen y wybodaeth. Os oes newid yn enw’r perchnogion a gofrestrwyd unrhyw adeg arall o’r flwyddyn, dylid nodi hyn ar Ffurflen NLR2. Gellir cael y ffurflen hon oddi wrth y Cofrestrydd yng Nghaerdydd neu Belfast - nodir y cyfeiriadau ym mhennod 2 o dan Gwybodaeth Bellach. 5. Sut mae talu’r ffioedd? Dylid gwneud sieciau neu Archebion Post yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’ a’u hanfon gyda’r ffurflen(ni) perthnasol i’r cyfeiriad perthnasol a nodir ym mhennod 2. 6. Beth os daw’r papur newydd i ben? Os daw’r papur newydd i ben, neu os daw’n eiddo i gwmni – (gweler cwestiwn 2 uchod) - dylech roi gwybod i’r Cofrestrydd. Nid oes ffi yn daladwy am hyn. 7. A oes raid cyhoeddi unrhyw fanylion eraill? Ar wahân i gofrestru o dan y Ddeddf hon, mae enw’r busnes a ddefnyddir gan y cyhoeddwr nad yw:
yn dod o dan y cyfyngiadau ar enwau a osodir gan Ddeddf Enwau 1985 (gweler ein canllaw ar, 'Enwau Busnes' am ragor o wybodaeth). Hefyd mae’n ofynnol i berchnogion y cyfryw fusnesau ddadlennu eu henwau o dan yr un Ddeddf. Newidiodd y Swyddfa Batentau ei henw i Swyddfa Eiddo Deallusol y DG (UK- IPO) ar yr 2ail o Ebrill 2007 brigPennod 2 - Gwybodaeth bellach 1. Ble ellir cael golwg ar y ffurflenni? Gellir cael golwg ar ffurflenni sy’n dwyn manylion am bapurau newydd sydd ar hyn o bryd wedi’u cofrestru o dan y Ddeddf yn Nhŷ’r Cwmnïau, Hefyd gellir cael golwg arnynt drwy roi deuddydd o rybudd yn Ystafell Chwilio Tŷ’r Cwmnïau yn Llundain, Yr un yw’r trefniadau yng Ngogledd Iwerddon lle dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at y Registrar of Companies, 2. Ble mae cael gafael ar ffurflenni a llyfrynnau canllaw? Un o gyfres o lyfrynnau Tŷ’r Cwmnïau yw hwn sy’n ganllaw syml i’r Ddeddf Cwmnïau. Mae ffurflenni statudol a chanllaw ar gael yn ddi-dâl oddi wrth Tŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf o gael gafael arnynt yw drwy’r wefan hon neu drwy ffonio 0303 1234 500. Hefyd gellir cael ffurflenni oddi wrth lyfrwerthwyr cyfraith cwmnïau, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantau ffurfio cwmnïau – gallwch dod o hyd eu cyfeiriadau mewn llyfrau ffôn busnesau. 3. Sut mae anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd? Gellwch drosglwyddo dogfenni at y Cofrestrydd drwy law (yn bersonol neu drwy gludwr) gan gynnwys ar adegau y tu allan i oriau swyddfa, gwyliau banc a’r penwythnos yng Nghaerdydd, Llundain a Chaeredin. Hefyd gellwch anfon dogfenni drwy’r post neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfenni (DX). Os ydych yn anfon dogfenni, a fyddech gystal â’u cyfeirio at:
Os ydych yn anfon dogfenni drwy’r post, cludwr neu Gwasanaeth Cyfnewid Dogfenni (DX) ac yn dymuno cael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn rhoi cydnabyddiaeth i chi os ydych yn amgáu copi o’ch llythyr eglurhaol ac amlen wag sy’n dwyn eich enw a’ch cyfeiriad a stamp. Byddwn yn barcodio’ch copi o lythyr gyda’r dyddiad derbyn a’i ddychwelyd atoch yn yr amlen a ddarparwyd. Noder os gwellwch yn dda: nid yw cydnabod bod dogfen wedi dod i law yn golygu bod dogfen wedi’i derbyn ar gyfer ei chofestru yn Nhŷ’r Cwmniau. Noder os gwelwch yn dda: Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon nac unrhyw ddogfen statudol arall drwy ffacs. back to top |
||||||||
| Ymwadiad | Datganiad Preifatrwydd | Datganiad Defnydd Derbyniol | Hygyrchedd | Defnyddio cwcis | Hawliau Gwybodaeth | © Hawlfraint y Goron 2003 | |
|
.
|