|
|
Cynnal Busnes yn y Gymraeg - GPO5Awst 2013 - Fersiwn 3.5 Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006 Fersiwn PDF y tudalen hwn (217KB) CynnwysCyflwyniad Mae'r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau cyffredin ac yn cynnig gwybodaeth am sut i fynd ati i gwblhau rhai o'r dogfennau ffeilio mwyaf cyffredin yn y maes yma. Ni chafodd ei ddrafftio gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg. Mae'n bosibl y bydd angen gofyn am gyngor proffesiynol arbenigol mewn achosion o'r fath. CyflwyniadMae'r canllaw hwn yn cynnig gwybodaeth am ddefnyddio'r Gymraeg wrth gynnal busnes gyda Thŷ'r Cwmnïau ar gyfer cwmnïau neu bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC) sydd wedi datgan bod eu swyddfa gofrestredig (neu swyddfa gofrestredig arfaethedig) yng Nghymru (yn hytrach na Lloegr a Chymru). Gall cwmnïau a PACau sydd wedi penderfynu ymsefydlu yn y modd hwn gyflwyno dogfennau i Dŷ'r Cwmnïau yn Gymraeg. Er hwylustod, yn y canllaw hwn, byddwn yn cyfeirio at y cwmnïau a'r PACau hyn fel rhai 'Cymreig' sef y diffiniad a roddir yn adran 88(1) o Ddeddf Cwmnïau 2006. Mae'r canllaw hwn yn rhestru'r ffurflenni dwyieithog sydd ar gael trwy ein Gwasanaeth WebFiling ac ar bapur hefyd. Os oes unrhyw ymholiadau gennych am ddefnyddio'r Gymraeg wrth gynnal busnes gyda Thŷ'r Cwmnïau, e-bostiwch enquiries@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch 0303 1234 500 a gofyn am gael siarad â rhywun yn Gymraeg. Cewch eich trosglwyddo i siaradwr Cymraeg yn unol â gofynion ein Cynllun Iaith Gymraeg. Mae copi o'n Cynllun Iaith Gymraeg ar gael ar ein gwefan. Pennod 1 - Cwmnïau a PACau Cymreig1. Beth yw'r gofynion ffeilio ar gyfer Cwmnïau a PACau 'Cymreig'? Yr un yw'r gofynion ffeilio ar gyfer cwmnïau 'Cymreig' ag ar gyfer cwmnïau a PACau eraill sydd wedi'u corffori yn y Deyrnas Unedig. Gall cwmnïau gyflwyno rhai dogfennau yn Gymraeg trwy ein Gwasanaeth WebFiling, sy'n ddull mwy cyflym, hwylus, diogel a rhad o gyflwyno dogfennau na chyflwyno ffurflenni papur (gweler Atodiad A). Rydyn ni wedi rhagnodi'r ffurflenni papur mwyaf cyffredin ar gyfer cwmnïau a PACau yn ddwyieithog hefyd, ac maent ar gael ar wefan Tŷ'r Cwmnïau neu trwy ffonio 0303 1234 500 (gweler Atodiad B). Mae canllawiau Cymraeg a gwybodaeth berthnasol arall am ofynion Tŷ'r Cwmnïau ar gael ar ein gwefan yn ogystal. Cofiwch: Mae methu â chyflwyno dogfennau statudol ar amser yn drosedd y gellir dwyn achos cyfreithiol yn erbyn swyddogion cwmnïau ac aelodau dynodedig o PACau amdani. Hefyd bydd methu â chyflwyno cyfrifon ar amser yn golygu y byddwch yn awtomatig yn cael cosb sifil. Gweler ein canllaw ar 'Cosbau Ffeilio Hwyr' neu 'Gweinyddu a Rheoli Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig' am fwy o wybodaeth ar gosbau ffeilio hwyr. 2. A ellir corffori cwmnïau a PACau drwy ddefnyddio'r Gymraeg? Gellir cwmnïau a PACau gorffori cwmnïau a PACau trwy gyfrwng y Gymraeg ar yr amod eu bod yn datgan bod lleoliad eu swyddfa gofrestredig yng Nghymru. (o'i gyferbynnu â 'Lloegr a Chymru'). Nid oes raid i chi anfon cyfieithiad Saesneg o'r dogfennau hyn gan y bydd Tŷ'r Cwmnïau yn cael cyfieithiad ar gyfer cofnod cyhoeddus y cwmni. Bydd Tŷ'r Cwmnïau yn cyhoeddi cyfieithiad o'r dystysgrif corffori yn Gymraeg hefyd os byddwch yn gofyn am hynny. Gallwch ddefnyddio'r Gwasanaeth Corffori ar y We i gofrestru dogfennau corffori ar gyfer cwmni yn Gymraeg a Saesneg hefyd, cyhyd ag y bo'r cwmni sy'n cael ei gorffori yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i gyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni fod yng Nghymru hefyd. Bydd y sgriniau WebFiling yn eich tywys chi drwy'r broses. Nid oes yna wasanaeth yr un diwrnod, ac ar hyn o bryd dim ond cwmnïau preifat wedi eu cyfyngu drwy gyfrannau sy'n mabwysiadu'r erthyglau enghreifftiol yn eu cyfanrwydd ac sydd ag enw arfaethedig nad yw'n un sensitif a gaiff ddefnyddio'r gwasanaeth hwn. Codir ffi o £15. Mae'r ffurflen gorffori ddwyieithog ar gael ar ein gwefan. Y ffi ar gyfer corffori cwmni neu PAC â dogfennau cyfansoddiadol yn Gymraeg yw £20. Am ragor o wybodaeth am sut i fynd ati i gorffori cwmni, gweler ein canllaw ar 'Corffori ac Enwau'. Am wybodaeth ar sut i gorffori PAC, gweler ein canllaw ar 'Corffori ac Enwau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig'. 3. A all cwmni neu PAC bresennol newid lleoliad ei swyddfa gofrestredig i 'Gymru'? Gall. Os oes cwmni sy'n bodoli eisoes wedi datgan y lleolir ei swyddfa gofrestredig yn 'Lloegr a Chymru', gall fabwysiadu penderfyniad i wneud cais i ddiwygio'r gofrestr fel ei bod yn datgan y lleolir ei swyddfa gofrestredig yng Nghymru. Wedyn rhaid cyflwyno hysbysiad am y newid i'r cofrestrydd gan ddefnyddio ffurflen AD05c neu AD05. Y cyfan sydd rhaid i PAC ei wneud yw hysbysu'r cofrestrydd am y newid gan ddefnyddio ffurflen LL AD05c neu LL AD05. Mae gan y cwmni neu'r PAC yr opsiwn i newid terfyniad ei enw i derfyniad Cymraeg h.y. "cyfyngedig", "cwmni cyfyngedig cyhoeddus" neu "Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig" yn hytrach na "limited", "public limited company" neu"limited liability partnership". Ar ôl diwygio'r gofrestr, gall y cwmni neu'r PAC ffeilio dogfennau yn Gymraeg. Cyhoeddir tystysgrif corffori newydd ar gyfer y cwmni neu'r PAC i adlewyrchu'r newid hwn Am ragor o wybodaeth am benderfyniadau, gweler ein canllaw 'Bywyd Cwmni - Ffeilio yn sgil Digwyddiadau 4. Beth am ohebiaeth a galwadau ffôn? Croeso i chi ysgrifennu at Dŷ'r Cwmnïau yn Gymraeg, ac os oes angen i ni ysgrifennu nôl atoch, bydd ein hymateb yn Gymraeg. Bydd angen i gwmnïau a PACau sydd am dderbyn llythyrau a gynhyrchir gan gyfrifiadur yn ddwyieithog gofrestru ar gyfer ein Gwasanaeth Cymraeg. I gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, dylech anfon llythyr neu neges e-bost i'r cyfeiriad isod gan ddatgan enw a rhif y cwmni, ynghyd â'ch enw llawn ac yn rhinwedd pa swydd yr ydych chi'n gweithredu ar ran y cwmni. Yr Ymgynghorydd ar Wasanaethau a Pholisi Cymraeg adavies1@companieshouse.gov.uk Cewch siarad â staff Tŷ'r Cwmnïau yn Gymraeg drwy ffonio 0303 1234 500 a gofyn am gael siarad â rhywun yn Gymraeg. Cewch eich trosglwyddo i siaradwr Cymraeg yn unol â'n Cynllun Iaith Gymraeg Pennod 2 - Cyfieithiadau a Gwybodaeth Ddwyieithog1. Pa ddogfennau ellir eu cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau yn yr iaith Gymraeg? Mae Deddf Cwmnïau 2006 yn caniatáu i bob dogfen sy'n ymwneud â chwmnïau neu PACau Cymreig gael eu llunio a'u cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau yn Gymraeg ar yr amod bod lleoliad y swyddfa gofrestredig yng Nghymru (yn hytrach na Lloegr a Chymru). Rhaid eu cyflwyno gyda chyfieithiad ardystiedig i'r Saesneg. Mae rhai eithriadau i'r gofyniad hwn, ac mae'r eithriadau hynny wedi'u rhestru yn y paragraff dilynol. 2. Pa ddogfennau allaf eu cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau heb gyfieithiad ardystiedig i'r Saesneg? Gall cwmnïau neu PACau Cymreig gyflwyno'r dogfennau canlynol i Dŷ'r Cwmnïau yn Gymraeg heb fod â chyfieithiad ardystiedig i'r Saesneg.
Noder: Rhaid defnyddio ffurflenni statudol nad ydynt yn benodedig ddwyieithog lle bo amgylchiadau'n gofyn am hynny. Rhaid i ddogfennau eraill ar 'ffurf rhydd' y mae gofyn eu cyflwyno i Dŷ'r Cwmnïau, megis Gorchmynion Llys, gael eu cyflwyno ar y cyd â chyfieithiad ardystiedig i'r Saesneg. Mae hynny hefyd yn wir am gyfrifon cwmnïau masnachedig. Gall cwmnïau neu PACau Cymreig gyflwyno cyfieithiad ardystiedig i'r Gymraeg o unrhyw ddogfen yn Saesneg sydd wedi'i wneud neu yn cael ei gyflwyno i'r cofrestrydd. 3. Pwy all 'ardystio' cyfieithiad i'r Saesneg? Mae'r cofrestrydd wedi pennu rheolau ynglŷn â phwy all ardystio cyfieithiadau i'r Saesneg o ddogfennau a luniwyd yn wreiddiol ac a ffeiliwyd yn Gymraeg. Rhaid i'r ardystio fod ar y cyfieithiad Saesneg o'r ddogfen a'i ddilysu gan y person sy'n rhoi'r ardystiad. Rhaid i destun yr ardystio a'r dilysu fod mewn inc neu deipysgrif du gyda'r dilysu wedi'i gynnwys ar ddiwedd yr ardystiad. Y personau all ardystio dogfen sydd wedi'i chyfieithu yw'r canlynol. Cyfarwyddwr, ysgrifennydd, aelod o PAC, aelod dynodedig, gweinyddwr, derbynnydd gweinyddol, rheolwr dderbynnydd, derbynnydd, diddymwr, goruchwyliwr barnwrol neu lofnodydd awdurdodedig; lle bo hynny'n gymwys, Rheolwr Cwmni Buddiannau Cymunedol (a benodwyd o dan adran 47 o Ddeddf CAICE 2004), derbynnydd a rheolwr (a benodwyd o dan adran 18 o Ddeddf Elusennau 1993). Am ragor o wybodaeth am reolau'r cofrestrydd gweler ein canllaw 'Rheolau a Phwerau'r Cofrestrydd' sydd ar gael ar ein gwefan. 4. Pa ddogfennau statudol sydd ar gael yn ddwyieithog? Ceir rhestr o'r dogfennau dwyieithog y gellir eu cyflwyno trwy Wasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau yn Atodiad A. Mae ffeilio ar-lein yn fwy hwylus, cyflym, diogel a rhad na ffeilio ar bapur. Mae hawl gan gwmni Cymreig (sef cwmni sydd wedi datgan bod lleoliad ei swyddfa gofrestredig yng Nghymru yn hytrach na Lloegr a Chymru) i gyflwyno ffurflenni dwyieithog. Cewch godi'r ffurflenni papur dwyieithog a restrir yn Atodiad B o'n gwefan hefyd. Pennod 3 - Ansawdd dogfennau1. Beth sy'n digwydd i'r dogfennau a anfonaf i Dŷ'r Cwmnïau? Cynhyrchir delwedd electronig o'r data neu'r dogfennau a gyflwynir i Dŷ'r Cwmnïau. Pan fo cwsmer yn chwilio cofnod y cwmni neu'r PAC, bydd yn gweld y ddelwedd electronig wedi ei hatgynhyrchu ar-lein. Mae'r bennod hon yn nodi rhai canllawiau i'w dilyn wrth baratoi dogfen i'w ffeilio yn Nhŷ'r Cwmnïau. 2. Sut ddylai dogfennau gael eu gosod? Dogfennau a ffeilir yn electronig Rhaid i ddogfennau sy'n cael eu ffeilio yn electronig gydymffurfio â'r manylebau a bennir gan y cofrestrydd yn ei reolau ar ffeilio electronig. Gellwch gael rhagor o wybodaeth am y rheolau drwy ymweld â'n gwefan. Mae Gwasanaeth WebFiling Tŷ'r Cwmnïau yn cynnwys archwiliadau pwrpasol er mwyn sicrhau bod y dogfennau wedi eu gosod yn y modd cywir. Dogfennau papur Fel rheol, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i Dŷ'r Cwmnïau nodi enw a rhif cofrestredig y cwmni mewn man amlwg. Mae rhai eithriadau i'r rheol hon, a nodir yn rheolau'r cofrestrydd a gyhoeddwyd, y gellir gweld copi ohonynt ar ein gwefan. Dylai dogfennau papur fod ar bapur plaen gwyn â gorffeniad di-sglein maint A4. Dylai'r testun fod mewn inc du, yn glir, yn ddarllenadwy ac o'r un trwch. Rhaid i lythrennau a rhifau fod yn glir ac yn ddarllenadwy fel y gallwn wneud copi derbyniol o'r ddogfen. Gall y canllawiau canlynol fod o gymorth: Pan fyddwch yn llenwi ffurflen cofiwch:
Pan fyddwch yn llenwi dogfennau eraill, cofier y canlynol os gwelwch yn dda:
4. Ymhle allaf gael gwybod rhagor am hyn? Am ragor o gyfarwyddyd ar ofynion print, gweler ein gwefan neu ffonier 0303 1234 500 Pennod 4 - Gwybodaeth Bellach1. Sut mae anfon gwybodaeth i Dŷ'r Cwmnïau ? Am fanylion llawn yr holl ddulliau o gyflwyno dogfennau i Dŷ'r Cwmnïau, yn electronig neu ar bapur, cyfeiriwch at reolau'r cofrestrydd sydd ar gael ar ein gwefan. Ein gwasanaethau ffeilio ar-lein yw'r cyfrwng mwyaf diogel i gyflwyno gwybodaeth statudol i Dŷ'r Cwmnïau. Wrth ffeilio dogfennau yn electronig, cewch neges e-bost i gydnabod eu bod wedi cyrraedd yn awtomatig. Mae rhagor o wybodaeth a'r manylion cofrestru ar gael ar ein gwefan. Cewch gyflwyno dogfennau papur â llaw (yn bersonol neu trwy law cwmni cludo) neu trwy'r Gyfnewidfa Ddogfennau i Dŷ'r Cwmnïau, Caerdydd ar unrhyw adeg, gan gynnwys y tu allan oriau swyddfa, ar wyliau banc ac ar benwythnosau. Os hoffech chi gael neges i gydnabod bod eich dogfennau wedi cyrraedd, dylech nodi hynny mewn llythyr eglurhaol a darparu amlen â'ch cyfeiriad a stamp arni. Byddwn ni'n rhoi label â chod bar 'dyddiad derbyn' ar eich llythyr ac yn ei ddychwelyd i chi. Os ydych yn anfon dogfennau drwy'r post, dylech eu cyfeirio at: neu DX33050 Caerdydd 1 Noder os gwelwch yn dda: nid yw cydnabod dod i law yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn ar gyfer cofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau. Noder os gwelwch yn dda: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfennau statudol drwy ffacs, PDF (ac eithrio copïau ardystiedig o offerynnau arwystl sy'n cael eu ffeilio'n electronig) na thrwy'r e-bost. 2. A oes raid i mi dalu am ffeilio dogfennau yn Nhŷ'r Cwmnïau? Nid oes raid i chi dalu ffi am ffeilio sawl un o'r dogfennau y mae'n rhaid i chi eu hanfon i Dŷ'r Cwmnïau, ond mae gofyn talu ffi am ffeilio rhai dogfennau, ac ni fyddwn yn eu derbyn i'w cofrestru heb y ffi. Am fanylion llawn, dylech gyfeirio at ein rhestr prisau. Atodiad ADogfennau y gellir eu cyflwyno yn Gymraeg trwy ein gwasanaeth WebFiling
Sylwer: Mae'r ffurflenni hyn ar gael ar wefan Tŷ’r Cwmnïau Atodiad BDogfennau y gellir eu cyflwyno'n ddwyieithog ar bapur
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||