Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Uno cwmnïau ar draws ffiniau - GPO7

Medi 2013 – Fersiwn 3.6

Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006

Fersiwn PDF y tudalen hwn (166KB)


Mae’r canllaw hwn ar gael mewn fformatiau gwahanol, gan gynnwys Braille, print bras a thâp sain. I gael rhagor o fanylion gweler ein gwefan - www.companieshouse.gov.uk neu anfonwch neges e-bost at enquiries@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 0303 1234 500.

A yw’r canllaw hwn ar eich cyfer chi?

Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:

  • os ydych yn gyfarwyddwr cwmni sy’n uno a’ch bod yn chwilio am ganllawiau sylfaenol ar y gofynion ynglŷn â ffeilio yn y DU

Cynnwys

Cyflwyniad
Pennod 1 - Cefndir
Pennod 2 - Gweithdrefn i gwblhau uno cwmnïau ar draws ffiniau
Pennod 3 - Gwybodaeth Bellach

Mae’r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau mynych ac yn cynnig gwybodaeth ar ffeilio’r mathau mwyaf cyffredin o wybodaeth yn y maes hwn.  Nid ydym wedi drafftio’r canllaw gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg.  Mae’n bosibl y bydd angen gofyn an gyngor proffesiynol arbenigol o dan yr amgylchiadau hynny

Cyflwyniad

Canllaw yn unig yw'r llyfryn hwn a dylid ei ddarllen ar y cyd â'r ddeddfwriaeth berthnasol, sef Rheoliadau Cwmnïau (Uno ar draws Ffiniau) 2007.2974

Dim ond at y gweithdrefnau y mae angen eu cwblhau mewn perthynas â’r Cofrestrydd Cwmnïau yn Nhŷ’r Cwmnïau y mae’r canllaw hwn yn cyfeirio.  Nid yw’n cynnwys gofynion eraill sydd wedi’u nodi yn y ddeddfwriaeth berthnasol (sy’n cynnwys cysylltu â’r llys a rhwymedigaethau mewnol eraill y bydd angen i gwmni eu cyflawni ). Rydyn ni’n argymell y dylech sicrhau cyngor gan gyfreithiwr wrth ystyried uno cwmnïau ar draws ffiniau.

Gellir gweld canllawiau manylach ar y rheoliadau ynghylch uno cwmnïau ar draws ffiniau yn nodyn cyfarwyddyd BIS hwn.

Pennod 1 - Cefndir

1. Beth yw cydsoddi trawsffiniol?

Mae Rheoliadau Cwmnïau (Cydsoddi Trawsffiniol) 2007/2974 yn rhoi grym i’r Gyfeireb Ewropeaidd ar Gydsoddi Cwmnïau Atebolrwydd Cyfyngedig ar draws Ffiniau (Cyfeireb 2005/56/EC). Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i gwmni trosglwyddwr drosglwyddo asedau a rhwymedigaethau i gwmni arall fel trosglwyddai, heb fod angen i’r trosglwyddwr ymddatod. Rhaid i’r cydsoddiad gynnwys o leiaf un cwmni a ffurfiwyd ac a gofrestrwyd yn y DU ac o leiaf un cwmni a ffurfiwyd ac a gofrestrwyd yn un o wladwriaethau’r AEE heblaw’r DU.

Mae’n bosibl hefyd i bartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig (PAC) uno ar draws ffiniau. Rhan 10 o Reoliadau Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cymhwyso Deddf Cwmnïau 2006) yw’r ddeddfwriaeth berthnasol yn hyn o beth. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn berthnasol i rai o’r newidiadau a wnaed i Rheoliadau Cwmnïau (Uniadau Trawsffiniol) 2007 er mwyn cymryd y gwahaniaeth rhwng strwythur PACau a chwmnïau i ystyriaeth. Mae’r wybodaeth yn y llyfryn canllaw hwn yn berthnasol i gwmnïau a PACau.

2. Beth yw cwmni trosglwyddwr a throsglwyddai?

Trosglwyddai – dyma’r cwmni y caiff yr holl asedau a rhwymedigaethau eu trosglwyddo iddo. Dyma’r cwmni fydd yn dal i fod ar ôl cwblhau’r cydsoddiad.

Trosglwyddwr – dyma’r cwmni a fydd yn trosglwyddo’r asedau a’r rhwymedigaethau. Bydd y cwmni hwn yn peidio â bod ar ôl cwblhau’r cydsoddiad.

3. Beth yw’r gwahanol fathau o gydsoddi?

a. Cydsoddi trwy amsugno
Achos yw hwn lle bo un cwmni neu ragor yn trosglwyddo eu holl asedau a rhwymedigaethau i gwmni arall sy’n bodoli eisoes. Caiff pob un o’r cwmnïau sy’n trosglwyddo eu diddymu heb ymddatod.

b. Cydsoddi trwy amsugno is-gwmni sydd wedi ei lwyr feddiannu
Achos yw hwn lle bo cwmni’n trosglwyddo ei holl asedau a’i rwymedigaethau i gwmni arall sy’n dal holl gyfalaf y cwmni ar ffurf cyfrannau neu warannau eraill. Caiff y cwmni sy’n trosglwyddo ei ddiddymu heb ymddatod.

c. Cydsoddi trwy ffurfio cwmni newydd
Achos yw hwn lle bo dau gwmni neu ragor yn trosglwyddo eu holl asedau a rhwymedigaethau i gwmni newydd a ffurfiwyd at ddibenion y cydsoddiad. Caiff y cwmnïau sy’n trosglwyddo i’r cwmni newydd eu diddymu heb fod angen iddynt ymddatod.

 

Pennod 2 - Gweithdrefn i gwblhau cydsoddi trawsffiniol

1. Beth sydd angen ei wneud cyn y gellir cydsoddi cwmnïau?

Dylai cwmni yn y DU sydd am gydsoddi wneud cais i’r llys (yr Uchel Lys neu’r Llys Sesiwn yn y DU) am orchymyn sy’n tystio bod y cwmni wedi cwblhau’r gweithredoedd a’r materion ffurfiol i gwblhau cydsoddiad trawsffiniol, a hynny yn y ffordd briodol. Ar gais credydwr neu aelod o gwmni sy’n cydsoddi yn y DU, gall y llys ofyn bod y cwmni yn gofyn am gymeradwyaeth credydwyr neu aelodau’r cwmni i delerau’r cydsoddiad hefyd. Mae yna rwymedigaeth i hysbysu'r cyflogeion am fanylion y cydsoddiad hefyd.

Gall gofynion eraill fod yn berthnasol hefyd yn dibynnu ar y math o gydsoddiad sydd dan sylw.

2. Beth y mae angen ei gyflwyno i Dŷ’r Cwmïau?

Rhaid i gyfarwyddwyr cwmni yn y Deyrnas Unedig sy’n uno gyflwyno’r canlynol i’r Cofrestrydd:

Rhaid i’r dogfennau hyn gael eu cyflwyno i’r Cofrestrydd o leiaf ddau fis cyn cyfarfod cyntaf yr aelodau (yn achos Lloegr a Chymru, i swyddfa Caerdydd; yn achos yr Alban, i swyddfa Caeredin; yn achos Gogledd Iwerddon, i swyddfa Belfast).

3. Pa wybodaeth y mae ei hangen ar y ffurflen cydsoddi trawsffiniol?

Mae’r ffurflen cydsoddi rawsffiniol yn gofyn am nifer o fanylion y mae’n rhaid eu llenwi ar gyfer pob cwmni sy’n uno, sef:

  • enw llawn y cwmni
  • y rhif cofrestredig
  • cyfeiriad y swyddfa gofrestredig
  • ffurf gyfreithiol y cwmni ac o dan ba gyfraith y mae’n cael ei lywodraethu
  • enw’r aelod-wladwriaeth, ac enw a chyfeiriad y gofrestrfa lle mae dogfennau’r cwmni wedi’u ffeilio

4. Beth sydd angen i mi ei wneud os ydw i am gyhoeddi telerau drafft cydsoddiad ar wefan?

Rhaid bodloni’r amodau canlynol er mwyn cyhoeddi telerau drafft cydsoddiad ar wefan:

  • Rhaid i’r wefan gael ei chynnal gan neu ar ran cwmni yn y DU a rhaid iddi enwi’r cwmni
  • Rhaid sicrhau nad oes angen talu ffi i gyrchu’r telerau drafft ar y wefan
  • Rhaid nodi manylion y wefan lle mae’r telerau drafft ar gael ar y ffurflen CB01
  • Rhaid i’r telerau drafft aros ar y wefan trwy gydol cyfnod sy’n cychwyn mis cyn dyddiad cyfarfod cyntaf yr aelodau, ac yn dod i ben ar ddyddiad y cyfarfod hwnnw.

5. Oes yna ffi am ffeilio’r ffurflen cydsoddi trawsffiniol?

Does dim rhaid talu ffi i gofrestru’r ffurflen hon.

6. Ym mha iaith y mae angen i’r ffurflen gael ei llenwi?

Rhaid i’r ffurflen gael ei llenwi yn Saesneg.

7. Ble mae cael ffurflen cydsoddi trawsffiniol?

Mae’r ffurflen cydsoddi trawsffiniol CB01, UN CB01, neu LL CB01 ar gael i’w dadlwytho o wefan Tŷ’r Cwmnïau.

8. Beth sy’n digwydd i’r dogfennau a anfonir at y Cofrestrydd?

Bydd y Cofrestrydd yn cyhoeddi hysbysiad bod y dogfennau wedi dod i law yn y Gazette Llundain o leiaf mis cyn ddyddiad unrhyw gyfarfod o’r cwmni a elwir at ddibenion cymeradwyo’r cynllun. ac yn trefnu bod y dogfennau ar gael i’r cyhoedd ar y gofrestr cwmnïau.

9. Sut caiff cydsoddiad ei gymeradwyo?

Ar ôl cyhoeddi tystysgrif cyn cydsoddi, dylid gwneud cais ar y cyd i’r ‘awdurdod cymwys’ yn awdurdodaeth y trosglwyddai. Os yw’r cwmni sy’n deillio o’r cydsoddiad yn gwmni yn y DU, yr Uchel Lys neu’r Llys Sesiwn fydd hyn. Lle bo llys yn y DU yn gwneud gorchymyn, rhaid i gwmni’r trosglwyddai yn y DU a phob cwmni sy’n trosglwyddo yn y DU anfon y canlynol i Dŷ’r Cwmnïau:

  • copi o’r gorchymyn llys, dim mwy na 7 diwrnod ar ôl dyddiad ei gyhoeddi
  • manylion y cwmni/cwmnïau sy’n trosglwyddo sydd o’r tu allan i’r DU. Rhaid i’r manylion gynnwys y gofrestr y cofrestrwyd y cwmni ynddi a’r rhif cofrestru yn y gofrestr honno

Os yw’r cwmni sy’n deillio o’r cydsoddiad yn un o wladwriaethau eraill yr AEE, bydd yr awdurdod cymwys perthnasol yn gwneud gorchymyn i gymeradwyo cwblhau’r cydsoddiad. Rhaid i bob cwmni sy’n trosglwyddo sy’n gwmni yn y DU gyflwyno’r canlynol i Dŷ’r Cwmnïau:

  • copi o’r gorchymyn, dim mwy na 14 diwrnod ar ôl dyddiad ei gyhoeddi
  • Rhaid anfon cyfieithiad ardystiedig gydag unrhyw orchymyn sy’n cael ei gyflwyno mewn iaith dramor

10. Beth fydd Tŷ’r Cwmnïau yn ei wneud pan ddaw gorchymyn cymeradwyo cydsoddiad i law?

Pan ddaw gorchymyn llys sy’n cymeradwyo cydsoddiad trawsffiniol i law Tŷ’r Cwmnïau gan yr Uchel Lys neu’r Llys Sesiwn, bydd:

  • yn anfon hysbysiad am y gorchymyn i gofrestr berthnasol pob cwmni sy’n trosglwyddo yng ngwladwriaethau eraill yr AEE
  • yn diddymu unrhyw gwmni sy’n trosglwyddo yn y DU o gofrestr y DU ac yn gosod nodyn ar y gofrestr sy’n nodi bod asedau a rhwymedigaethau’r cwmni wedi cael eu trosglwyddo i gwmni’r trosglwyddai o’r dyddiad pan ddaeth goblygiadau’r cydsoddiad i rym

Pan gaiff Tŷ’r Cwmnïau hysbysiad gan gofrestrfa un o wladwriaethau arall yr AEE am orchymyn sy’n cymeradwyo cwblhau cydsoddiad trawsffiniol, bydd:

  • yn diddymu pob cwmni sy’n trosglwyddo yn y DU o gofrestr y DU ac yn gosod nodyn ar y gofrestr sy’n nodi bod asedau a rhwymedigaethau’r trosglwyddwr wedi cael eu trosglwyddo i gwmni’r trosglwyddai o’r dyddiad pan ddaeth goblygiadau’r cydsoddiad i rym

11. Canllaw ychwanegol

Mae ein staff yn hapus i gynnig cyngor ar faterion cyffredinol megis llenwi ffurflenni statudol. Ni allwn eich cyngorhori o ran pa mor addas yw cydsodiad trawsffiniol ar gyfer eich cwmni chi.

Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw agwedd ar ffurfio uniad ar draws ffiniau, gofynnwch am gyngor proffesiynol cyfreithiwr.

Pennod 3 - Gwybodaeth Bellach

1. Sut mae anfon gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau?

Cewch gyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd â llaw (yn bersonol neu drwy gyfrwng negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, gwyliau banc a phenwythnosau yng Nghaerdydd, Llundain, Belfast a Chaeredin.

Cewch anfon dogfennau hefyd drwy’r post, drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu drwy’r Post Cyfreithiol (LP) yn yr Alban. Os byddwch yn anfon dogfennau, cyfeiriwch nhw at y canlynol:

Lloegr a Chymru: Yr Alban: Gogledd Iwerddon:
Y Cofrestrydd Cwmnïau
Tŷ’r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
neu
DX33050 Cardiff 1
The Registrar of Companies
Companies House
Fourth Floor
Edinburgh Quay 2
139 Fountainbridge
Edinburgh EH3 9FF
neu
DX  ED235 Edinburgh 1
neu
LP – 4 Edinburgh 2
The Registrar of Companies
Companies House
Second Floor
The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast
Northern Ireland BT2 8BG
neu
DX 481 N.R. Belfast 1

Os ydych yn anfon dogfennau yn y post, gyda negesydd, gyda’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) ac os hoffech gael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu nodyn cydnabod os byddwch yn cynnwys copi o’ch llythyr esboniadol gydag amlen â chyfeiriad a stamp arni er mwyn ei ddychwelyd.  Byddwn yn nodi cod bar ar eich copi chi o’ch llythyr, gan nodi’r dyddiad y’i cyflwynwyd, a’i ddychwelyd atoch yn yr amlen a ddarparwyd.

Sylwer: nid yw nodyn sy’n cydnabod bod dogfen wedi cyrraedd, yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau

Sylwer: nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfennau statudol trwy  ffacs PDF(ac eithrio copïau ardystiedig o offerynnau arwystl sy’n cael eu ffeilio’n electronig)  neu e-bost.

Brig
Ein polisi ar gwcis