Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Ymddatod ac Ansolfedd - GPO8

Mehefin 2012 – Fersiwn 3.5

Fel yr addaswyd gan Ddeddf Cwmnïau 2006

Fersiwn PDF y tudalen hwn (252KB)

A yw’r canllaw hwn ar eich cyfer chi?

Bydd y canllaw hwn yn berthnasol i chi:

  • os ydych yn gyfarwyddwr neu’n ysgrifennydd cwmni
  • os ydych yn gweithredu’n ymgynghorydd i gwmni

Cynnwys

Pennod 1 - Gwybodaeth gyffredinol
Pennod 2 - Trefniadau gwirfoddol corfforaethol (TGC), gan gynnwys moratoria TGC
Pennod 3 - ‘Yn nwylo gweinyddwr’ a ‘gorchmynion gweinyddu’
- Achosion yn dechrau ar neu wedi 15 Medi 2003: Yn nwylo gweinyddwr

Pennod 4 - Derbynwyr
Pennod 5 - Ymddatod gwirfoddol
Pennod 6 - Ymddatod gorfodol
Pennod 7 - Gweithrediadau ansolfedd trawsffiniol Ewropeaidd
Pennod 8 - Cwestiynau mynych
Pennod 9 - Ansawdd dogfennau
Pennod 10 - Gwybodaeth bellach

Mae’r canllaw hwn yn ateb llawer o gwestiynau cyffredin ac yn cynnig gwybodaeth am sut i fynd ati i gwblhau rhai o’r dogfennau ffeilio mwyaf cyffredin yn y maes yma. Ni chafodd ei ddrafftio gyda thrafodion anarferol na chymhleth mewn golwg. Mae’n bosibl y bydd angen gofyn am gyngor proffesiynol arbenigol mewn achosion o’r fath.

Cyflwyniad

Mae’r canllaw hwn yn cynnig gorolwg sylfaenol o’r drefn ansolfedd ac ymddatod a gwybodaeth fanylach am y dogfennau y mae angen eu cyflwyno i’r Cofrestrydd Cwmnïau. Mae’n crynhoi rhai o’r rheolau sy’n berthnasol i drefniadau gwirfoddol corfforaethol, moratoria, gorchmynion gweinyddu, derbynwyr, ymddatod gwirfoddol, ymddatod gorfodol a rheoliadau’r Gymuned Ewropeaidd.
 
Gall Tŷ’r Cwmnïau helpu gydag ymholiadau am gyflwyno dogfennau i’r Cofrestrydd. Dylid cyfeirio ymholiadau eraill at y Gwasanaeth Ansolfedd yn y lle cyntaf. Mae gweithrediadau ansolfedd yn arwain at achosion llys yn aml,  ac am hynny, mae’n bosibl y bydd angen i ymarferwyr drefnu cyfarfodydd a pharatoi adroddiadau statudol. Mae’n bwysig nodi nad oes angen anfon yr holl wybodaeth yma at y Cofrestrydd.
 
Mae’r gofynion yn gymhleth, ac ni chewch yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddirwyn cwmni anhydal i ben yn y canllaw hwn. Rydyn ni’n eich cynghori chi i ofyn am gyngor proffesiynol annibynnol os ydych chi’n amau bod eich cwmni’n anhydal, neu os yw hynny’n debygol o ddigwydd.
 
Ar ôl cychwyn gweithrediadau ansolfedd, caiff ymarferydd ansolfedd awdurdodedig neu berson proffesiynol arall ei benodi i reoli materion y cwmni fel rheol.

Gallwch ddarllen y ddeddfwriaeth berthnasol yn:

  • Neddf Cwmnïau 2006;
  • Deddf Ansolfedd 1986 (fel y’i diwygiwyd);
  • Rheolau Ansolfedd 1986 (fel y’i diwygiwyd);
  • Rheoliad Cyngor (y GE) Rhif 1346/2000;
  • Deddf Menter 2002 a

Mae’r trefniadau dirwyn i ben, ymddatod, ansolfedd, atal taliadau a threfniadau tebyg sy’n gymwys i CCC hefyd yn gymwys i gwmni Ewropeaidd, ‘Societas Europaea’ (SE), sydd wedi ei gofrestru ym Mhrydain Fawr. Am wybodaeth gyffredinol ynghylch cwmnïau SE, gweler ein canllaw ‘The European Company: Societas Europaea (SE)’.

Cofiwch, os yw'ch cwmni'n ystyried ymddatod neu unrhyw gamau eraill i ddelio ag ansolfedd, dylech chi geisio cyngor proffesiynol priodol neu ymgynghori ag ymarferydd ansolfedd awdurdodedig. Dim ond ymholiadau ynglŷn â ffeilio dogfennau statudol gyda’r Cofrestrydd Cwmnïau y gallwn ni eu trin.

Pennod 1 - Gwybodaeth gyffredinol

1. Beth yw gweithrediadau ansolfedd?

Dyma'r camau ffurfiol a gymerir i ddelio â dyled cwmni. Ceir llawer math gwahanol o weithrediadau ansolfedd ar gyfer cwmnïau. Ymdrinnir â phob un ohonyn nhw yn y llyfryn hwn.

Sylwer: Rhaid defnyddio Ffurflen SE WU01 i roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am gychwyn neu derfynu trefniadau ansolfedd sy’n effeithio ar gwmni Ewropeaidd (SE), neu am unrhyw benderfyniad i barhau i weithredu’r SE. Mae hyn yn ogystal â’r gofynion eraill a drafodir yn y canllaw hwn. Mae rhagor o wybodaeth am gwmnïau SE yn ein canllaw ‘The European Company: Societas Europaea (SE)’.  

2. A yw gweithrediadau ansolfedd yn gymwys i bob math o gwmni?

Mae'r rhannau o'r canllaw hwn sy'n ymwneud â dirwyn i ben yn orfodol a derbynwyr (gan gynnwys derbynwyr gweinyddol) yn gymwys i gwmnïau wedi eu cofrestru a heb eu cofrestru (gan gynnwys cwmnïau tramor).

Nid yw'r rhannau o'r canllaw hwn sy'n ymwneud â dirwyn i ben yn wirfoddol a gorchmynion gweinyddu yn gymwys i gwmnïau heb eu cofrestru, na ellir mo'u dirwyn i ben drwy'r dulliau hyn.

Os dechreuodd yr ymddatod neu'r dderbynyddiaeth cyn 29 Rhagfyr 1986, yna bydd y gyfraith a oedd mewn grym ar y pryd yn dal yn gymwys.

Cofiwch: Nid yw pob cwmni sydd wedi ymddatod yn ansolfent.

3. Oes rhaid i bob cwmni ddilyn gweithrediadau ansolfedd cyn cael ei ddiddymu?

Nac oes. Os oes gan y Cofrestrydd le i gredu nad yw cwmni'n cynnal busnes nac yn gweithredu, gall ddileu ei enw o'r gofrestr a'i ddiddymu heb fynd drwy'r drefn ymddatod. Caiff cwmni preifat nad yw'n gweithredu wneud cais i'r Cofrestrydd am i'w enw gael ei ddileu o'r gofrestr. Nid yw'r drefn hon yn ddewis arall yn lle gweithrediadau ansolfedd ffurfiol.

Mae rhagor o wybodaeth am ddileu enwau a diddymu cwmnïau i'w chael yn ein canllaw 'Dileu o'r Gofrestr, Diddymu ac Adfer'.    

4. A gaiff unrhyw un oruchwylio gweithrediadau ansolfedd?

Rhaid i bob datodydd, gweinyddwr, derbynnydd gweinyddol a goruchwylydd sydd mewn swydd ers 29 Rhagfyr 1986 neu wedyn fod yn ymarferydd ansolfedd awdurdodedig.

Does dim rhaid i reolwyr derbyn, derbynwyr y Ddeddf Cyfraith Eiddo nac enwebedigion a gaiff eu penodi i reoli moratoriwm drwy drefniadau gwirfoddol corfforaethol, fod wedi eu hawdurdodi.

Gall ymarferwyr ansolfedd gael eu hawdurdodi gan:

  • Gymdeithas Siartredig y Cyfrifwyr Ardystiedig;
  • Cymdeithas yr Ymarferwyr Ansolfedd;
  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr;
  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Iwerddon;
  • Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban;
  • Cymdeithas y Gyfraith;
  • Cymdeithas Cyfraith yr Alban; neu
  • Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Menter a Diwygio Rheoleiddio

5. Beth sy'n digwydd i gyfarwyddwyr cwmni ansolfent?

Mae gan y datodydd, y derbynnydd gweinyddol, y gweinyddwr neu'r Derbynnydd Swyddogol ddyletswydd i gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau adroddiad ar ymddygiad pob cyfarwyddwr a oedd mewn swydd yn ystod y 3 blynedd olaf y buodd y cwmni'n masnachu. Rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol benderfynu a yw er lles y cyhoedd i geisio gorchymyn gwahardd yn erbyn cyfarwyddwr.

Mae'r mathau o ymddygiad y cyflwynir adroddiad arnyn nhw fynychaf yn cynnwys:

  • bod y cwmni'n parhau i fasnachu er bod yn ansolfent;
  • methu â chadw cofnodion cyfrifeg priodol;
  • methu â pharatoi a ffeilio cyfrifon neu ddychwelyd ffurflenni i Dŷ'r Cwmnïau; a
  • methu â chyflwyno ffurflenni i'r Goron neu dalu i'r Goron unrhyw dreth sy'n ddyledus.

Pennod 2 - Trefniadau gwirfoddol corfforaethol (TGC), gan gynnwys moratoria TGC

1. Beth yw trefniadau gwirfoddol corfforaethol?

Trefniadau gwirfoddol corfforaethol yw lle bo cwmni'n gwneud cytundeb â'i gredydwyr drwy gynnig 'cyfrandalu i fodloni ei ddyled' neu 'gynllun i drefnu ei faterion'. Mae hyn yn golygu trefniadau, wedi eu cymeradwyo gan y llys, lle bo'r cwmni wedi cytuno'n ffurfiol â'i gredydwyr ar delerau i glirio'i ddyledion.

2. Pwy gaiff gynnig trefniadau gwirfoddol corfforaethol?

Gall trefniadau gwirfoddol corfforaethol gael eu cynnig gan:

  • y gweinyddwr, os oes gorchymyn gweinyddu;
  • y datodydd, os yw'r cwmni'n cael ei ddirwyn i ben; neu
  • y cyfarwyddwyr, o dan amgylchiadau eraill.

3. Pwy sy'n ystyried y cynnig?

Wrth i'r cyfarwyddwyr gynnig y trefniadau, bydd y sawl a enwebwyd i oruchwylio eu gweithredu yn cyflwyno adroddiad i'r llys, cyn pen 28 diwrnod, yn nodi a ddylid, yn ei farn ef/barn hi, alw cyfarfodydd o'r cwmni a'i gredydwyr.

4. Sut y cymeradwyir trefniadau gwirfoddol corfforaethol unwaith y cân nhw eu cynnig?

Bydd y cyfarfodydd a elwir gan y person a enwebwyd yn penderfynu p'un a ddylid cymeradwyo'r trefniadau y gellir, o dan rai cyfyngiadau, eu derbyn wedi eu haddasu neu heb eu haddasu. Byddan nhw wedyn yn cyfrwymo pob credydydd a gawsai rybudd o'r cyfarfod ac a oedd â hawl i bleidleisio. Bydd yr holl gredydwyr a gafodd rybudd o'r cyfarfod wedi eu cyfrwymo gan delerau'r trefniadau.

5. Beth sy'n digwydd pan gymeradwyir y trefniadau gwirfoddol corfforaethol?

Os bydd cyfarfodydd yr aelodau a'r credydwyr yn cymeradwyo’r trefniadau, yna daw'r sawl a enwebwyd, neu rywun yn ei (l)le, yn oruchwylydd y trefniadau.

6. Beth sydd angen ei anfon i Dŷ'r Cwmnïau?

Rhaid i'r goruchwylydd gyflwyno copi o adroddiad cadeirydd y cyfarfod.
 
O leiaf unwaith bob 12 mis, rhaid i'r goruchwylydd anfon adroddiad ar gynnydd y trefniadau gwirfoddol a’r rhagolygon ar gyfer eu cyflawni’n llwyr, at bob buddiolwr, gan gynnwys y Cofrestrydd. Rhaid i'r goruchwylydd hysbysu'r Cofrestrydd o fewn 28 diwrnod ar ôl cwblhau’r trefniadau gwirfoddol yn derfynol.

Yn sgil gweithredu Rheolau Ansolfedd (Diwygio) 2010, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2010, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn pennu’r ffurflenni ansolfedd canlynol o fewn Rheolau’r Cofrestrydd am y tro cyntaf. Rhaid ffeilio’r ffurflenni isod gyda’r Cofrestrydd, ar gyfer yr holl drefniadau gwirfoddol corfforaethol. Rhaid defnyddio’r ffurflenni hyn gyda’r diwygiadau priodol (os yw’n briodol) ar gyfer unrhyw drefniadau a ddechreuodd ar 5 Ebrill 2010 neu cyn hynny:

Teitl y ffurflen Rhif
Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau i roi grym i drefniadau gwirfoddol

1.1

Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau i ddileu neu atal trefniadau gwirfoddol

1.2

Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau am adroddiad y goruchwylydd ar gynnydd

1.3

Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau am gwblhau neu derfynu trefniadau gwirfoddol

1.4

Sylwer: Nid yw’r ffurflenni hyn ar gael i’w dadlwytho o wefan Tŷ’r Cwmnïau ond gallwch weld delweddau o’r dogfennau hyn yn Rheolau’r Cofrestrydd. Mae copïau ar gael gan ddogfenwyr y gyfraith cwmnïau.

7. Moratoriwm drwy drefniadau gwirfoddol corfforaethol.

Cyflwynodd Deddf Ansolfedd 2000 opsiwn y moratoriwm i’r drefn wirfoddol gorfforaethol bresennol.

Y llysoedd fydd yn penderfynu a yw cwmni’n gymwys i ddilyn trefn y moratoriwm. Fel arfer, bydd y moratoriwm yn para am gyfnod o 28 diwrnod ac fe gaiff ei reoli gan rywun enwebedig, a all fod yn ymarferydd ansolfedd cofrestredig neu beidio.

Ar ddiwedd cyfnod moratoriwm, gall cwmni fwrw ymlaen i fabwysiadu trefniadau gwirfoddol corfforaethol (neu beidio).

Yn sgil gweithredu Rheolau Ansolfedd (Diwygio) 2010, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2010, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn pennu’r ffurflenni ansolfedd canlynol o fewn Rheolau’r Cofrestrydd am y tro cyntaf ar gyfer pob moratoriwm ar drefniadau gwirfoddol corfforaethol. Rhaid defnyddio’r ffurflenni hyn gyda’r diwygiadau priodol (os yw’n briodol) ar gyfer unrhyw drefniadau a ddechreuodd ar 5 Ebrill 2010 neu cyn hynny:

Teitl y ffurflen Rhif
Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau am ddechrau moratoriwm 1.11
Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau am ymestyn, adnewyddu neu barhau â moratoriwm 1.12
Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau am derfynu moratoriwm 1.14
Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau i dynnu’n ôl gydsyniad y person a enwebwyd i weithredu 1.16
Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau i benodi enwebai arall 1.18

Sylwer: Nid yw’r ffurflenni hyn ar gael i’w dadlwytho o wefan Tŷ’r Cwmnïau ond gallwch weld delweddau o’r dogfennau hyn yn Rheolau’r Cofrestrydd. Mae copïau ar gael gan ddogfenwyr y gyfraith cwmnïau.

Pennod 3 - ‘Yn nwylo gweinyddwr’ a ‘gorchmynion gweinyddu’

Cafodd y gyfraith bresennol gyda golwg ar weinyddu ei chyflwyno ar 15 Medi 2003. O dan y drefn newydd hon, fe gaiff cwmni ei ddisgrifio’n arferol fel ei fod ‘yn nwylo gweinyddwr’ – o dan yr hen drefn, fe ddywedid bod y cwmni yn ddarostyngedig i ‘orchymyn gweinyddu’.

Mae’r hyn sy’n dilyn yn amlinelliad cryno o’r broses weinyddu: nid yw’n ddatganiad llawn o’r gyfraith.

1. Beth yw ‘yn nwylo gweinyddwr’?

Gweinyddu yw pan gaiff rhywun, ‘y gweinyddwr’, ei benodi/phenodi i reoli materion, busnes ac eiddo’r cwmni er lles y credydwyr. Rhaid i’r sawl a benodir fod yn ymarferydd ansolfedd a’i statws fydd swyddog llys (p’un a gaiff ei benodi/phenodi gan y llys neu beidio).

Diben y gweinyddu fydd:

(a) arbed y cwmni fel busnes gweithredol;
(b) sicrhau gwell pris am asedion y cwmni neu, fel arall, sylweddu eu gwerth yn fwy ffafriol i’r credydwyr at ei gilydd na thrwy ddirwyn i ben (heb fynd i ddwylo gweinyddwr yn gyntaf); neu
(c) o dan rai amgylchiadau, sylweddu gwerth yr eiddo er mwyn trosglwyddo’r elw i un neu ragor o flaen-gredydwyr.

2. Sut mae cwmni’n mynd i ddwylo gweinyddwr?

Bydd cwmni’n mynd i ddwylo gweinyddwr wrth i benodiad gweinyddwr ddod i rym. Gellir penodi gweinyddwr:

(a) drwy orchymyn gweinyddu wedi ei wneud gan y llys;
(b) gan ddeiliad arwystl nofiol; neu
(c) gan y cwmni neu ei gyfarwyddwyr

Rhaid i’r gweinyddwr gyflawni ei swyddogaethau mor fuan ac effeithlon ag sy’n rhesymol ymarferol.

3. Beth yw effaith bod yn nwylo gweinyddwr ar y cwmni?

Pan fydd cwmni’n mynd i ddwylo gweinyddwr:

  • bydd unrhyw ddeisebau dirwyn i ben sy’n disgwyl penderfyniad yn cael eu gwrthod neu eu hatal;
  • bydd moratoriwm ar unrhyw drefniadau ansolfedd neu drefniadau cyfreithiol eraill;
  • os penodwyd derbynnydd gweinyddol, rhaid iddo/iddi roi heibio i’w swydd;
  • os penodwyd derbynnydd ar gyfer rhan o eiddo’r cwmni, rhaid iddo/iddi roi heibio i’w swydd (lle bo’r gweinyddwr yn mynnu felly).

4. I bwy y mae'n rhaid rhoi gwybod bod y cwmni yn nwylo gweinyddwr?

Mor fuan ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol, mae’n rhaid i weinyddwr roi gwybod am ei benodiad/phenodiad i’r cwmni ac i bob un o’i gredydwyr, gan gyhoeddi hysbysiad am y penodiad yn y Gazette ac mewn papur newydd yn yr ardal sy'n cynnwys prif le busnes y cwmni.

Beth yw'r Gazette?
Newyddiadur cofnodion swyddogol yw’r Gazette ac mae'n cynnwys amrywiol rybuddion a hysbysiadau statudol. Fe’i cyhoeddir bob dydd. Wrth sôn am y Gazette, y London Gazette a olygir yn achos cwmnïau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr.

Caiff rhybuddion a drefnir gan y Cofrestrydd Cwmnïau ar gyfer Cymru a Lloegr eu cynnwys yn yr Atodiad i'r London Gazette sy'n rhestru Hysbysiadau Swyddogol ym maes y Gyfraith Gwmnïau ac a gyhoeddir ar ffurf microfiche. Fe welwch gopïau yn stafelloedd chwilio Tŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd a Llundain. Mae copïau hefyd gan rai o'r llyfrgelloedd cyhoeddus mwyaf. Ymwelwch â’r Gazette am ragor o wybodaeth.

Rhaid i’r gweinyddwr anfon hysbysiad am ei benodiad/phenodiad at y Cofrestrydd ar Ffurflen 2.12B.

Tra bo cwmni yn nwylo gweinyddwr, bydd yn rhaid i bob dogfen fusnes a gyhoeddir gan neu ar ran y cwmni neu’r gweinyddwr ddatgan enw’r gweinyddwr a’r ffaith ei fod/bod yn rheoli materion, busnes ac eiddo’r cwmni.

5. Beth yw cynnwys y broses weinyddu?

Bydd y gweinyddwr yn gofyn am gopi o ddatganiad o faterion y cwmni gan y bobl berthnasol (e.e. swyddog neu weithiwr i’r cwmni).
Heb fod yn hwyrach nag 8 wythnos ar ôl i’r cwmni fynd i ddwylo’r gweinyddwr, bydd rhaid i’r gweinyddwr lunio datganiad yn gosod cynigion ar gyfer cyflawni diben y gweinyddu neu’n egluro pam nad oes modd ei gyflawni. Gall y cynigion gynnwys trefniadau gwirfoddol neu gyfaddawd neu drefniadau â’r credydwyr neu’r aelodau.

Rhaid anfon y datganiad sy’n nodi’r cynigion i:

  • Dŷ’r Cwmnïau;
  • at bob un o gredydwyr y cwmni gyda gwahoddiad i ddod i gyfarfod cychwynnol o’r credydwyr os cynhelir un; ac
  • at bob aelod o’r cwmni, oni bai bod y gweinyddydd yn ymrwymo i roi copi’n rhad ac am ddim i unrhyw aelod o’r cwmni sy’n gwneud cais ysgrifenedig am un.

Busnes cyfarfod cychwynnol y credydwyr fydd cymeradwyo (gyda neu heb addasiadau) y datganiad cynigion. Yn sgil y cyfarfod cychwynnol;

  • gall y gweinyddydd gynnal cyfarfodydd pellach o’r credydwyr,
  • ffurfio pwyllgor credydwyr, neu
  • ddelio â materion drwy ohebiaeth â’r credydwyr. 

Yn yr un modd, rhaid rhoi gwybod i’r aelodau am bob rhyw ddiwygio ar y cynigion ar ôl cyfarfod o’r credydwyr.

Rhaid rhoi gwybod am benderfyniadau a gaiff eu cymryd mewn cyfarfodydd i’r credydwyr i Dŷ’r Cwmnïau ar Ffurflen 2.23B ac i’r llys.

6. Pryd daw’r gweinyddu i ben?

Mae sawl fford y gall y gweinyddu ddod i ben.

Gall y gweinyddu ddod i ben yn awtomatig wrth i gyfnod gwasanaethu’r gweinyddwr ddod i ben. Mae penodiad gweinyddwr yn terfynu ar ôl blwyddyn. Ond fe ellir estyn hyn drwy gydsyniad y credydwyr neu’r llys. Rhaid rhoi gwybod i’r Cofrestrydd am unrhyw estyniad ar Ffurflen 2.31B

Gall gweinyddwr a benodir o dan orchymyn llys wneud cais i’r llys am derfynu’r gweinyddiad os cred nad oes modd cyflawni diben y gweinyddu neu na ddylai’r cwmni fod wedi mynd i ddwylo gweinyddwr, neu os bydd cyfarfod o’r credydwyr yn mynnu cais o’r fath. Bydd y llys yn gollwng y gorchymyn gweinyddu a bydd rhaid i’r gweinyddwr roi gwybod i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.33B.

Gall gweinyddwr a benodir gan ddeiliaid arwystl nofiol neu gan y cwmni neu ei gyfarwyddwyr derfynu’r gweinyddiad pan fydd diben y gweinyddu wedi ei gyflawni’n ddigonol. Rhaid i’r gweinyddwr hysbysu’r llys â’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.32B.

Gall y gweinyddu ddod i ben yn unol â chais credydwr i’r llys, yn honni cymhelliad amhriodol ar ran y sawl a benododd y gweinyddwr neu a wnaeth gais i’r llys am orchymyn gweinyddu. Rhaid i’r gweinyddwr anfon copi o’r gorchymyn, gyda Ffurflen 2.33B, at y Cofrestrydd o fewn 14 diwrnod i gyflwyno’r gorchymyn.

Gall y gweinyddu ddod i ben wrth i’r cwmni symud ymlaen i drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr. Gall hyn ddigwydd lle bo’r gweinyddwr o’r farn bod pob credydwr gwarantedig yn debyg o gael ei dalu ac y bydd dosbarthiad ymhlith y credydwyr anwarantedig os oes rhai. Rhaid i’r gweinyddwr roi gwybod i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.34B, gan anfon copïau at y llys a phob credydwr. Wedyn, fe gaiff y cwmni ei ddirwyn i ben fel pe bai penderfyniad dirwyn i ben yn wirfoddol wedi ei fabwysiadu ar y diwrnod y cofrestrir rhybudd gyda’r Cofrestrydd.

Gall y gweinyddu ddod i ben wrth i’r cwmni symud ymlaen i ymddatod. Gall hyn ddigwydd lle bo’r gweinyddwr o’r farn nad oes gan y cwmni eiddo y gellid ei ddosbarthu ymhlith ei gredydwyr. Rhaid i’r gweinyddwr roi gwybod i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 2.35B, gan anfon copïau at y llys a phob credydwr.

Dri mis ar ôl dyddiad cofrestru’r ffurflen gyda’r Cofrestrydd, fe gaiff y cwmni ei ddatod, oni wneir gorchymyn, drwy gais i’r llys, i estyn neu ohirio’r cyfnod neu atal yr ymddatod. Rhaid rhoi gwybod i’r Cofrestrydd am y gorchymyn ar Ffurflen 2.36B.

7 . Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?

Yn sgil gweithredu Rheolau Ansolfedd (Diwygio) 2010, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2010, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn pennu’r ffurflenni ansolfedd canlynol o fewn Rheolau’r Cofrestrydd am y tro cyntaf. Rhaid ffeilio’r ffurflenni isod gyda’r Cofrestrydd ar gyfer pob cwmni sydd yn nwylo’r gweinyddwr. Rhaid defnyddio’r ffurflenni hyn gyda’r diwygiadau priodol (os yw’n berthnasol) ar gyfer unrhyw gwmnïau a aeth i ddwylo’r gweinyddwr ar 5 Ebrill 2010 neu cyn hynny:

Teitl y ffurflen Rhif
Hysbysiad am benodi gweinyddwr 2.12B(CH)
Hysbysiad am ddatganiad o faterion 2.16B
Hysbysiad am estyn cyfnod 2.18B(CH)
Hysbysiad am gymeradwyaeth dybiedig i gynigion F2.18
Datganiad o gynigion diwygiedig y gweinyddwr 2.22B(CH)
Hysbysiad am ganlyniad cyfarfod o’r credydwyr 2.23B(CH)
Adroddiad y gweinyddwr ar gynnydd 2.24B
Tystysgrif [ddiwygiedig] am gyfansoddiad pwyllgor o gredydwyr 2.26B(CH)
Hysbysiad am derfynu gweinyddiad yn awtomatig 2.30B(CH)
Hysbysiad am estyn cyfnod gweinyddu 2.31B
Hysbysiad am derfynu gweinyddiad 2.32B(CH)
Hysbysiad am orchymyn llys yn terfynu gweinyddiad 2.33B
Hysbysiad am symud o weinyddu i ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr 2.34B
Hysbysiad am symud o weinyddu i ymddatod 2.35B
Hysbysiad i’r cofrestrydd cwmnïau mewn perthynas â dyddiad ymddatod 2.36B
Hysbysiad am fwriad gweinyddwr i ymddiswyddo 2.37B
Hysbysiad am ymddiswyddiad gweinyddwr 2.38B(CH)
Hysbysiad bod gweinyddwr wedi gadael ei swydd 2.39B
Hysbysiad am benodiad gweinyddwr newydd/ychwanegol 2.40B

Sylwer: Nid yw’r ffurflenni hyn ar gael i’w dadlwytho o wefan Tŷ’r Cwmnïau ond gallwch weld delweddau o’r dogfennau hyn yn Rheolau’r Cofrestrydd. Mae copïau ar gael gan ddogfenwyr y gyfraith cwmnïau.

Pennod 4 - Derbynwyr

1. Beth yw derbynnydd?

Ceir llawer gwahanol fath o dderbynwyr a bydd eu pwerau'n amrywio yn ôl amodau eu penodiad.

Mae derbynnydd gweinyddol yn un sy'n derbyn neu'n rheoli'r cyfan, neu o ran sylwedd y cyfan, o eiddo'r cwmni ac a benodir gan neu ar ran deiliaid unrhyw rai o ddyledebion y cwmni, wedi eu gwarantu drwy arwystl nofiol. Bydd â'r pŵer i werthu (neu sylweddu mewn ffordd arall) yr asedion a rychwentir gan yr arwystl nofiol ac i sianelu'r elw i'r ddyled sy'n daladwy i ddeiliad yr arwystl.
Gall derbynwyr sydd heb fod yn rhai gweinyddol gael eu penodi o dan amgylchiadau eraill. Er enghraifft, o dan bwerau a gynhwysir mewn offeryn neu ddogfen sy'n creu arwystl dros eiddo'r cwmni, gellir penodi derbynnydd neu reolwr nes i'r ddyled gael ei bodloni. Gellir penodi derbynwyr hefyd o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.

2. Pwy sy'n rhoi rhybudd o benodi derbynnydd?

Y person a benoda'r derbynnydd gweinyddol, y derbynnydd neu'r rheolwr, neu a drefna'r penodiad o dan bwerau offeryn, fydd yn gyfrifol am roi gwybod i'r Cofrestrydd o fewn 7 diwrnod i'r penodi. Mae angen Ffurflen LQ01 am bob arwystl ar wahân a gofrestrir yn Nhŷ’r Cwmnïau ac y penodir y derbynnydd drosto, p’un a wnelo’r penodiad â rhan o’r eiddo neu holl asedion y cwmni. Rhaid hefyd i dderbynnydd gweinyddol gyhoeddi hysbysiad o'i benodiad/phenodiad yn y Gazette ac mewn papur newydd priodol.

Wrth i'r derbynnydd gweinyddol, y derbynnydd neu'r rheolwr roi heibio i weithredu, rhaid rhoi gwybod i'r Cofrestrydd.

Sylwer: Rhaid ffeilio ffurflenni LQ01 ac LQ02 ar wahân ar gyfer pob arwystl unigol a gofrestrir yn Nhŷ’r Cwmnïau y penodir derbynnydd ar ei gyfer ac/neu y mae derbynnydd yn peidio â gweithredu drosto, dim ots a yw’r penodiad yn ymwneud â rhan o eiddo’r cwmni neu ei holl asedau.

3. Beth mae'n rhaid i'r derbynnydd ei anfon i Dŷ'r Cwmnïau?

O fewn 3 mis i'w benodiad/phenodiad, rhaid i dderbynnydd gweinyddol gyflwyno adroddiad i'r canlynol:

  • y Cofrestrydd;
  • credydwyr y cwmni;
  • deiliaid arwystl nofiol; ac
  • unrhyw ymddiriedolwyr ar ran credydwyr gwarantedig y cwmni.

Rhaid i'r adroddiad egluro amgylchiadau'r penodiad a'r camau y mae'r derbynnydd gweinyddol yn eu cymryd.

Rhaid i'r adroddiad gynnwys hefyd grynodeb o unrhyw 'ddatganiad amgylchiadau' a baratowyd i'r derbynnydd gan swyddogion neu weithwyr y cwmni.

Datganiad amgylchiadau

Dyma grynodeb o asedion, rhwymedigaethau a chredydwyr y cwmni. Bydd y derbynnydd gweinyddol yn penderfynu a oes

Rhaid i bob derbynnydd anfon at y Cofrestrydd gyfrif o'r derbyniadau a'r taliadau ar gyfer 12 mis cynta'r dderbynyddiaeth, ac:

  • yn achos derbynwyr gweinyddol, bob 12 mis wedyn;
  • yn achos derbynwyr a rheolwyr, bob 6 mis wedyn.

4. Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?

Yn sgil gweithredu Rheolau Ansolfedd (Diwygio) 2010, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2010, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn pennu’r ffurflenni ansolfedd canlynol o fewn Rheolau’r Cofrestrydd, a rhai ohonynt am y tro cyntaf. Rhaid ffeilio’r ffurflenni isod gyda’r Cofrestrydd ar gyfer pob achos o dderbynyddiaeth

Teitl y ffurflen Rhif
Hysbysiad am benodi derbynnydd neu reolwr LQ01
Hysbysiad am roi’r gorau i weithredu fel derbynnydd neu reolwr LQ02
Datganiad o faterion mewn derbynyddiaeth weinyddol yn sgil adroddiad i’r credydwyr 3.3
Tystysgrif cyfansoddiad (tystysgrif ddiwygiedig) pwyllgor y credydwyr 3.4
Adroddiad y derbynnydd gweinyddol am newid yn aelodaeth pwyllgor y credydwyr 3.5
Crynodeb y derbynnydd neu’r rheolwr neu’r derbynnydd gweinyddol o dderbyniadau a thaliadau 3.6
Hysbysiad am farwolaeth derbynnydd gweinyddol 3.7
Hysbysiad am orchymyn i waredu eiddo 3.8
Adroddiad y derbynnydd gweinyddol 3.10

Sylwer:Ac eithrio Ffurflenni LQ01 ac LQ02, nid yw’r ffurflenni hyn ar gael i’w dadlwytho o wefan Tŷ’r Cwmnïau ond gallwch weld delweddau o’r dogfennau hyn yn Rheolau’r Cofrestrydd. Mae copïau ar gael gan ddogfenwyr y gyfraith cwmnïau.

Pennod 5 - Ymddatod gwirfoddol

Ceir dau fath o ymddatod gwirfoddol:

  • ymddatod gwirfoddol gan yr aelodau (YGA) – sy'n golygu bod y cyfarwyddwyr wedi gwneud datganiad hydaledd ffurfiol;
  • ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr (YGC) – sy'n golygu nad yw'r cyfarwyddwyr wedi gwneud datganiad o'r fath.

1. Pryd gall y cwmni drefnu YGA?

Gall hyn ddigwydd lle bo cyfarwyddwyr y cwmni'n credu bod y cwmni'n hydal.

Rhaid i fwyafrif cyfarwyddwyr y cwmni wneud datganiad hydaledd statudol yn ystod y 5 wythnos cyn mabwysiadu penderfyniad i ddirwyn y cwmni i ben.

2. Beth sydd yn y datganiad?

Bydd y datganiad statudol yn dweud bod y cyfarwyddwyr wedi ymchwilio'n llawn i faterion y cwmni a'u bod o'r farn, wedi gwneud hynny, y bydd modd i'r cwmni dalu ei ddyledion yn llwyr o fewn 12 mis i ddechrau'r dirwyn i ben. Bydd y datganiad yn cynnwys rhestr o asedion a rhwymedigaethau'r cwmni fel yr oedden nhw ar y dyddiad ymarferol olaf cyn gwneud y datganiad.

3. Pryd y dechreua'r ymddatod mewn difrif?

Bydd yr ymddatod yn dechrau pan fo'r aelodau, mewn cyfarfod cyffredinol, yn mabwysiadu penderfyniad (Deddf Cwmnïau 2006) (fel arfer yn benderfyniad arbennig) i ddirwyn y cwmni i ben yn wirfoddol.

4. Oes rhaid rhoi gwybod i rywun am yr ymddatod gwirfoddol?

Oes. Rhaid i hysbysiad o'r penderfyniad arbennig i ddirwyn y cwmni i ben yn wirfoddol gael ei gyhoeddi yn yGazette o fewn 14 diwrnod i'r cyfarfod cyffredinol.

Rhaid hefyd i'r cwmni anfon copi o'r datganiad a'r penderfyniad arbennig at y Cofrestrydd o fewn 15 diwrnod i'r cyfarfod cyffredinol.

5. Pryd gall YGC fod yn briodol?

Gall cwmni drefnu YGC pan na all dalu ei ddyledion.

6. Beth sydd rhaid i'r cwmni ei wneud?

Bydd y cwmni'n mabwysiadu penderfyniad arbennig (Deddf Cwmnïau  2006) i ddweud na all barhau mewn busnes oherwydd ei rwymedigaethau ac mai'r peth doethaf fyddai dirwyn i ben.

Rhaid i'r penderfyniad:

  • cyhoeddi’r penderfyniad yn y Gazette cyn pen 14 diwrnod; a
  • chael ei anfon at y Cofrestrydd cyn pen 15 diwrnod.

Rhaid cynnal cyfarfod o'r credydwyr yn ystod y 14 diwrnod nesaf wedi mabwysiadu'r penderfyniad. Rhaid anfon rhybudd o'r cyfarfod at y credydwyr o leiaf 7 diwrnod cyn y cyfarfod. Hefyd, rhaid i'r cyfarwyddwyr baratoi datganiad amgylchiadau i'w ystyried yn y cyfarfod, gan benodi un o'u plith i fod yn bresennol a llywyddu'r cyfarfod.

Wrth benodi'r diddymydd, rhaid i'r cyfarwyddwyr roi iddo/iddi ddatganiad o'r amgylchiadau a chydweithredu ag ef/â hi mewn ffyrdd eraill.

7. Oes rhaid i'r cwmni gyhoeddi rhybudd o'r cyfarfod?

Oes. Rhaid cyhoeddi rhybudd o'r cyfarfod yn y Gazette a dau bapur newydd yn yr ardal sy'n cynnwys prif le busnes y cwmni.

8. Beth yw prif ddyletswyddau datodydd?

Penodir y datodydd i ddirwyn materion y cwmni i ben. Fe wneir hyn gan y datodydd drwy grynhoi holl asedion y cwmni a'u dosbarthu ymhlith ei gredydwyr. Os bydd rhywbeth ar ôl, bydd y datodydd yn ei ddosbarthu ymhlith aelodau'r cwmni.

9. Oes angen i ddatodydd roi gwybod i rywun am ei benodiad/phenodiad?

Oes. O fewn 14 diwrnod i gael ei benodi/phenodi, rhaid i ddatodydd gyhoeddi hysbysiad o'r penodiad yn y Gazette a rhoi gwybod i'r Cofrestrydd. Os yw'r ymddatod yn wirfoddol, mae’n bosibl y bydd y datodydd hefyd yn cyhoeddi hysbysiad yn y fath fodd arall ag y gwêl yn dda.

10. Beth mae'n rhaid i'r datodydd ei anfon i Dŷ'r Cwmnïau?

Rhaid i'r datodydd anfon datganiad amgylchiadau a Ffurflen 4.20 at y Cofrestrydd o fewn 7 diwrnod i gyfarfod y credydwyr.

Os dechreuodd yr ymddatod gwirfoddol ar 5 Ebrill 2010 neu cyn hynny, rhaid i'r datodydd anfon datganiad o'r derbyniadau a'r taliadau ar gyfer 12 mis cyntaf yr ymddatod hefyd. Wedi hynny, rhaid anfon datganiadau bob 6 mis nes cwblhau'r broses dirwyn i ben.

Os dechreuodd yr ymddatod gwirfoddol ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, rhaid i’r datodydd anfon adroddiad y datodydd ar gyfer 12 mis cyntaf yr ymddatod. Wedi hynny, rhaid anfon datganiadau bob 12 mis nes cwblhau’r broses dirwyn i ben.

11. Oes modd troi YGA yn YGC?

Oes. Os penderfyna'r datodydd na fydd y cwmni'n gallu talu ei ddyledion yn llawn yn ystod y cyfnod a nodir yn natganiad hydaledd statudol y cyfarwyddwyr, rhaid iddo/iddi alw cyfarfod o'r credydwyr y bydd yn rhaid ei gynnal cyn pen 28 diwrnod. Daw'r ymddatod yn YGC o ddyddiad y cyfarfod ymlaen.

12. Beth yw'r gofynion ar gyfer rhoi rhybudd mewn achos o'r fath?

Rhaid i'r datodydd:

  • bostio rhybudd o'r cyfarfod at bob credydydd o leiaf 7 diwrnod cyn dyddiad y cyfarfod;
  • cyhoeddi dyddiad y cyfarfod yn y Gazette a 2 bapur newydd yn yr ardal sy'n cynnwys prif le busnes y cwmni; a
  • pharatoi datganiad amgylchiadau i'w ystyried yn y cyfarfod. Rhaid anfon copi o'r datganiad at y Cofrestrydd o fewn 7 diwrnod i'r cyfarfod.  

13. Beth sy'n digwydd pan gaiff materion y cwmni eu dirwyn i ben yn llawn?

Ar gyfer achosion o ymddatod gwirfoddol a ddechreuodd ar 5 Ebrill 2010 neu cyn hynny, bydd y datodydd yn cyflwyno cyfrif i gyfarfod terfynol y credydwyr ac aelodau'r cwmni. Rhaid iddo roi cyhoeddusrwydd i’r cyfarfod yn y Gazette o leiaf fis ymlaen llaw.

Cyn pen wythnos ar ôl y cyfarfod, rhaid i'r datodydd anfon y cyfrif at y Cofrestrydd ar ffurf adroddiad ar y cyfarfod terfynol.

Ar gyfer achosion ymddatod gwirfoddol a ddechreuodd ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, bydd y datodydd yn cyflwyno adroddiad llawn i gyfarfod terfynol o gredydwyr ac aelodau’r cwmni. Rhaid iddo roi cyhoeddusrwydd i’r cyfarfod yn y Gazette o leiaf fis ymlaen llaw.

Cyn pen wythnos ar ôl cynnal y cyfarfod, rhaid i’r datodydd anfon yr adroddiad terfynol ar gynnydd at y Cofrestrydd ynghyd â ffurflen adroddiad ar gyfarfod terfynol.

Oni wna'r llys orchymyn i ohirio diddymu'r cwmni, caiff ei ddiddymu 3 mis wedi cofrestru'r adroddiad a'r cyfrif yn Nhŷ'r Cwmnïau.

14. Pa ffurflenni y dylid eu defnyddio?

Yn sgil gweithredu Rheolau Ansolfedd (Diwygio) 2010, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2010, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn pennu’r ffurflenni ansolfedd canlynol o fewn Rheolau’r Cofrestrydd, a rhai ohonynt am y tro cyntaf. Rhaid ffeilio’r ffurflenni isod gyda’r Cofrestrydd ym mhob achos o ymddatod gwirfoddol. Rhaid defnyddio’r ffurflenni hyn gyda’r diwygiadau priodol (os yw’n berthnasol) ar gyfer unrhyw ymddatod gwirfoddol a ddechreuodd ar 5 Ebrill 2010 neu cyn hynny:

Teitl y ffurflen Rhif
Hysbysiad am benodi datodydd o dan drefn dirwyn i ben yn wirfoddol (aelodau neu gredydwyr) 600
Datganiad o amgylchiadau wrth drosi o drefn ymddatod gwirfoddol gan yr aelodau i ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr 4.18 a 4.20
Datganiad o amgylchiadau o dan y drefn ymddatod gwirfoddol gan y credydwyr 4.19 a 4.20
Hysbysiad am ymddiswyddiad datodydd gwirfoddol o dan a171(5) o Ddeddf Ansolfedd 1986 4.33
Gorchymyn Llys yn rhoi caniatâd i ddatodydd gwirfoddol ymddiswyddo 4.35
Tystysgrif diswyddo datodydd gwirfoddol 4.38
Hysbysiad am roi’r gorau i weithredu fel datodydd gwirfoddol 4.40
Hysbysiad am farwolaeth datodydd gwirfoddol 4.44
Hysbysiad am ddatodydd gwirfoddol yn gadael ei swydd 4.46
Hysbysiad am gyfansoddiad pwyllgor ymddatod 4.48
Tystysgrif i dystio bod y credydwyr wedi cael eu talu’n llawn 4.51
Datganiad y datodydd o dderbyniadau a thaliadau 4.68
Datganiad o hydaledd o dan y drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau sy’n ymgorffori datganiad o’r asedau a’r rhwymedigaethau 4.70
Adroddiad ar y cyfarfod terfynol o dan y drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau 4.71
Adroddiad ar y cyfarfod terfynol o dan y drefn dirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr 4.72

Sylwer: Ac eithrio Ffurflen 600, nid yw’r ffurflenni hyn ar gael i’w dadlwytho o wefan Tŷ’r Cwmnïau ond gallwch weld delweddau o’r dogfennau hyn yn Rheolau’r Cofrestrydd. Mae copïau ar gael gan ddogfenwyr y gyfraith cwmnïau.

Pennod 6 - Ymddatod gorfodol

1. Beth yw 'ymddatod gorfodol'?

Ystyr datod cwmni'n orfodol yw lle gorchmynnir ei ddirwyn i ben gan y llys.

2. Pa lysoedd all orchymyn ymddatod gorfodol?

Gall yr Uchel Lys, neu lys sirol sydd â'r awdurdodaeth briodol, orchymyn i gwmni gael ei ddirwyn i ben. Gall hyn fod, er enghraifft, yn unol â deiseb credydwr neu gredydwyr ar y sail nad oes modd i'r cwmni dalu ei ddyledion.

Ystyrir bod cwmni heb allu talu ei ddyledion os bydd, er enghraifft:

  • ar y cwmni fwy na £750 i gredydydd;
  • credydydd yn cyflwyno i'r cwmni gais ysgrifenedig ar y ffurf benodedig (a elwir yn hawliad statudol (Ffurflen 4.1)); a
  • bod y cwmni'n methu â thalu, gwarantu na chytuno i fodloni'r ddyled i foddhad rhesymol y credydydd.

Ceir amgylchiadau eraill lle'r ystyrir na all y cwmni dalu ei ddyledion. Darllenwch y ddeddfwriaeth berthnasol.

Gall y llys hefyd orchymyn i'r cwmni gael ei ddirwyn i ben yn unol â deiseb:

  • y cwmni ei hun;
  • cyfarwyddwyr neu un neu ragor o aelodau'r cwmni;
  • r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau
  • yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (gynt, y Bwrdd Gwarannoedd a Buddsoddi); neu
  • y Derbynnydd Swyddogol.  

Yn achos cwmni Ewropeaidd (SE) sydd wedi ei gofrestru ym Mhrydain Fawr, gall yr Ysgrifennydd Gwladol ddeisebu’r Llys am orchymyn dirwyn i ben ar y sail ei bod yn ymddangos nad yw’r SE â’i brif swyddfa a’i swyddfa gofrestredig, ill dwy, ym Mhrydain Fawr. Am wybodaeth bellach ynghylch cwmnïau SE, gweler ein canllaw ‘The European Company: Societas Europaea (SE)’.

3. Oes rhaid cyhoeddi'r ddeiseb?

Oni chyfarwyddir trefniadau eraill gan y llys, rhaid i'r ddeiseb gael ei chyhoeddi yn y Gazette.

4. Beth sy'n ymddangos ar gofnod y cwmni yn Nhŷ'r Cwmnïau?

Os bydd y ddeiseb yn llwyddiannus, bydd y derbynnydd swyddogol yn anfon copi o’r gorchymyn at y Cofrestrydd, a chaiff ei roi ar gofnod cyhoeddus y cwmni.

Ni chyflwynir y ddeiseb ei hun i'r Cofrestrydd, ac ni fydd yn ymddangos ar y cofnod cyhoeddus.

5. Pwy sy'n gweithredu'n ddatodydd pan wneir gorchymyn i ddirwyn y cwmni i ben?

Daw'r Derbynnydd Swyddogol yn ddatodydd pan wneir gorchymyn dirwyn-i-ben yn erbyn y cwmni, oni orchmynna'r llys fel arall.

6. Beth yw dyletswyddau'r Derbynnydd Swyddogol fel datodydd?

Mae gan y Derbynnydd Swyddogol ddyletswydd i archwilio materion y cwmni ac achosion ei fethiant.

Bydd hefyd yn penderfynu a ddylid galw cyfarfodydd o'r credydwyr a'r cyfranwyr (sef, y bobl hynny sy'n atebol i gyfrannu at asedau'r cwmni os caiff ei ddirwyn i ben) at ddibenion penodi datodydd yn ei le.

Os yw’n penderfynu peidio â galw cyfarfodydd, rhaid iddo roi gwybod i'r credydwyr, y cyfranwyr a'r llys am ei benderfyniad.

Ar y llaw arall, os yw’n penderfynu galw cyfarfodydd, gellir penodi datodydd yn lle'r Derbynnydd Swyddogol. Rhaid i'r datodydd roi gwybod i'r Cofrestrydd am ei benodiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol bosibl

Os daw swydd y datodydd yn wag unrhyw bryd, fe ddaw'r Derbynnydd Swyddogol yn ddatodydd nes y gellir llenwi’r swydd.

7. Beth sy'n digwydd pan gwblheir y dirwyn i ben?

Wrth i'r Cofrestrydd gael hysbysiad gan y datodydd o gyfarfod terfynol y credydwyr, neu hysbysiad gan y Derbynnydd Swyddogol fod y dirwyn i ben wedi ei gwblhau, bydd yn ei gofrestru ac yn cyhoeddi iddo gael ei dderbyn yn y Gazette.

Oni chyfarwydda'r Ysgrifennydd Gwladol fel arall, caiff y cwmni ei ddiddymu 3 mis wedi cofrestru'r hysbysiad yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Os bydd y Derbynnydd Swyddogol, gan weithredu'n ddatodydd, yn fodlon na fydd asedion sylweddadwy'r cwmni (sef, asedion y gellid ei gwerthu neu gael gwared â nhw i godi arian) yn diwallu treuliau'r dirwyn i ben ac nad oes angen ymchwilio ymhellach i faterion y cwmni, gall wneud cais i'r Cofrestrydd am i'r cwmni gael ei ddiddymu'n gynnar. Fe ddiddymir y cwmni 3 mis wedi cofrestru'r cais yn Nhŷ'r Cwmnïau.

Pennod 7 - Gweithrediadau ansolfedd trawsffiniol Ewropeaidd

Daeth Rheoliad Cyngor (y GE) Rhif 1346/2000 i rym ar 31 Mai 2002. Mae’r Rheoliad yn uniongyrchol gymwys ac yn rhan hanfodol o gyfraith pob gwladwriaeth aelodol (ac eithrio Denmarc lle bydd deddfwriaeth gyfochrog yn gymwys). I weithredu’r Rheoliad yn y DU, bu angen gwneud rhai newidiadau cyfyngedig i Ddeddf Ansolfedd 1986 ac i’r Rheoliadau Ansolfedd.

1. Beth yw effaith y Rheoliad?

Mae’r Rheoliad yn cyfyngu’r man lle gellir cychwyn achos ansolfedd i’r wlad lle lleolir “canolfan prif fuddiannau” y dyledydd. Mae’n mynnu bod gweithrediadau ansolfedd a gychwynnir o dan y Rheoliad yn cael eu cydnabod, ac i ddatodwyr allu arfer eu pwerau, ymhob gwladwriaeth aelodol.

Y gweithrediadau ansolfedd cwmnïau perthnasol a gwmpesir gan y Rheoliad yn y DU yw –

  • Dirwyn i ben o dan oruchwyliaeth y llys, neu’n ddarostyngedig iddi
  • Dirwyn i ben yn wirfoddol gan y credydwyr (gyda chadarnhad y llys)
  • Gweinyddu
  • Trefniadau gwirfoddol corfforaethol o dan y ddeddfwriaeth ansolfedd

Nid yw’r Rheoliad yn gymwys i amgylchiadau lle’r eir i ddwylo derbynnydd – gweinyddol neu fel arall – nac i ddirwyn i ben yn wirfoddol gan yr aelodau nac i orchmynion dirwyn i ben.

O ganlyniad i’r rheoliadau, cafodd nifer o ffurflenni statudol (yn ymwneud yn bennaf â chychwyn achos ansolfedd) eu diwygio ac fe gyflwynwyd un ffurflen newydd (Ffurflen 7.20 Cadarnhad y Llys o Drefniadau Dirwyn i Ben yn Wirfoddol gan y Credydwyr).

2. Cwmnïau wedi eu corffori ym Mhrydain Fawr

Bydd gweithrediadau ansolfedd a gychwynnir yn y wlad hon yn parhau fel arfer. Ond gall gweithrediadau ansolfedd gael eu cychwyn mewn gwlad arall sy’n perthyn i’r GE os yw canolfan prif fuddiannau’r cwmni yno. Bydd cofnodion cyhoeddus cwmnïau a gofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr yn dangos gweithrediadau ansolfedd wedi eu cychwyn yn un o wladwriaethau aelodol eraill y GE. Dyma fydd yr unig arwydd bod gweithrediadau ansolfedd yn bwrw ymlaen dramor – ni fydd y cyfeirydd ‘L’ (am “liquidation”) yn ymddangos wrth ochr enw’r cwmni ar fynegai’r Cofrestrydd o enwau cwmnïau.

3. Cwmnïau wedi eu corffori mewn gwledydd eraill sy’n perthyn i’r GE

Gall gweithrediadau ansolfedd gael eu cychwyn yn y DU a’u llywio gan gyfraith y DU os yma y mae canolfan prif fuddiannau’r cwmni. Fel arall, gall gweithrediadau ansolfedd gael eu cychwyn mewn Gwladwriaeth Aelodol arall.

Bydd cofnodion cyhoeddus cwmnïau’r GE sydd wedi cofrestru man busnes neu gangen yng Nghymru a Lloegr yn dangos bod gweithrediadau ansolfedd wedi eu cychwyn yn un o wledydd eraill y GE. Dyma fydd yr unig arwydd bod gweithrediadau ansolfedd yn bwrw ymlaen dramor – ni fydd y cyfeirydd ‘L’ (am “liquidation”) yn ymddangos wrth ochr enw’r cwmni ar fynegai’r Cofrestrydd o enwau cwmnïau.

Gall cwmnïau’r GE sydd heb gofrestru man busnes neu gangen yng Nghymru a Lloegr gyflwyno manylion gweithrediadau ansolfedd a gychwynnwyd yn un o wledydd eraill y GE. Gellir chwilio’r dogfennau hyn ar Gofrestr Gorchmynion Ansolfedd y GE drwy gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau ar 0303 123 4500.

4. Ble galla i gael copïau o’r ddeddfwriaeth berthnasol ynghyd â gwybodaeth bellach?

Mae copïau o Reoliad y Cyngor ac Offerynnau Statudol perthnasol y DU ar gael ar wefan y Gwasanaeth Ansolfed d.
Dylid cyflwyno ymholiadau am y Rheoliad i Uned Bolisi’r Gwasanaeth Ansolfedd neu ffonio 020 7291 6740.

Pennod 8 - Cwestiynau Mynych

Gall trefniadau ymddatod a threfniadau ansolfedd eraill fod yn faith a chymhleth. Ni all y canllaw  hwn ateb pob ymholiad ond dyma rai o’r cwestiynau a ofynnir fynychaf.

1. Oes angen imi anfon y Gorchymyn Llys sy’n penodi datodydd dros dro i Dŷ’r Cwmnïau?

Rhaid hysbysu’r cofrestrydd cwmnïau am benodiad datodydd dros dro trwy anfon y gorchymyn llys a ffurflen 4.15A ato.

2.  A gaf i gofrestru hysbysiad yn terfynu penodiad datodydd dros dro?

Cewch. Oni bai bod y terfyniad yn digwydd yn sgil gorchymyn diddymu neu yn ôl cyfarwyddiadau eraill y llys, rhaid anfon hysbysiad am derfynu penodiad y datodydd dros dro at y cofrestrydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, a hynny gan ddefnyddio Ffurflen F4.39. Nid yw’r ffurflen hon ar gael i’w dadlwytho o wefan Tŷ’r Cwmnïau ond gellir gweld copïau yn Rheolau’r Cofrestrydd. Gellir cael copïau gan Ddogfenwyr Cyfreithiol

3. Sut mae mynd ati i ohirio dyddiad diddymu cwmni oedd yn destun achos ymddatod?

Pan ddaw dogfennaeth derfynol y datodydd o dan adrannau 201 a 205 o Ddeddf Ansolfedd 1986 i law’r Cofrestrydd, rhaid ei chofrestru’n syth. Ymhen cyfnod o ryw dri mis, caiff y cwmni ei ddiddymu. Fodd bynnag, efallai y bydd modd gohirio’r dyddiad y daw’r diddymu i rym.

Er mwyn gwneud hyn, rhaid i’r Cofrestrydd dderbyn naill ai cyfarwyddyd gohirio gan yr Ysgrifennydd Gwladol (mewn achosion datod gorfodol – ad.205) neu orchymyn llys i ohirio (mewn achosion gwirfoddol – ad.201). Dylech wneud cais am b’un bynnag sy’n briodol yn syth. Er y gall fod yn bosibl estyn y cyfnod gohirio drwy wneud cais pellach, dylech ddeall nad oes modd ei gwtogi. Felly dylech ddewis cyfnod y gohirio’n ofalus.

Rhaid i ni dderbyn y ddogfen mewn pryd i allu ei harchwilio a’i chofrestru cyn diddymu’r cwmni.

3. Oes angen i gyfarwyddwyr sy’n ddarostyngedig i ddatodiad ffeilio cyfrifon blynyddol a ffurflen flynyddol (Ffurflen AR01)?

Unwaith bod cwmni’n ymddatod a bod y dogfennau ymddatod statudol wedi eu cofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau, does dim angen ffeilio cyfrifon blynyddol na ffurflen flynyddol. Ond nes bod Tŷ’r Cwmnïau wedi derbyn hysbysiad bod yr ymddatod wedi dechrau, fe ystyrir bod y cyfrifon blynyddol a’r ffurflen flynyddol yn ddyledus o hyd.

Os bydd cwmni’n gwrthdroi’r ymddatod, a hynny drwy orchymyn llys i atal (gweler isod), ac yn cael ei adfer i’r Gofrestr Cwmnïau Byw, yna fe ddylid ffeilio’r cyfrifon blynyddol a’r ffurflenni blynyddol diweddaraf. Gallai methiant i gydymffurfio olygu bod enw’r cwmni’n cael ei ddileu o’r gofrestr.

Dylai unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â ffeilio cyfrifon blynyddol a ffurflenni blynyddol gael eu cyfeirio at yr Adran Gydymffurfio yn Nhŷ’r Cwmnïau drwy gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau ar 0303 123 4500.

4. A fydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn hysbysiad bod cyfarwyddwr wedi ymddiswyddo (Ffurflen TM01) unwaith bod cwmni wedi ymddatod?

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn ffurflenni TM01 wedi eu cwblhau’n gywir gyda golwg ar ymddiswyddiad cyfarwyddwyr hyd yn oed os yw’r cwmni wedi ymddatod.

Dylai unrhyw ymholiadau eraill ynglŷn â ffeilio ffurflenni TM01 gael eu cyfeirio at yr Adran Cefnogi Archwiliad Dogfennau yn Nhŷ’r Cwmnïau drwy gysylltu â Tŷ’r Cwmnïau ar 0303 1234 500.

5. Beth sy’n digwydd wrth imi ffeilio Gorchymyn i atal datodiad?

Gall y Llys wneud Gorchymyn i atal neu roi heibio i weithrediadau dirwyn i ben, naill ai’n llwyr neu am gyfnod cyfyngedig, yn unol ag Adran 112 ac Adran 147 o Ddeddf Ansolfedd 1986.

Rhaid anfon y Gorchymyn yn ddi-oed at y Cofrestrydd i’w gynnwys yng nghofnodion y cwmni. Bydd y Cofrestrydd yn ymgorffori’r Gorchymyn i’r cofnodion cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol:

  • Caiff y Gorchymyn ei hun ei roi ar gofnod cyhoeddus y cwmni. Fe’i nodir fel dogfen ‘amrywiol’ ar restr y dogfennau a ddaeth i law’r Cofrestrydd.
  • Caiff yr arwydd Ymddatod ei ddileu o gofnod cyhoeddus y cwmni. Bydd chwiliwr o hyd yn gallu cael copi o’r gorchymyn dirwyn i ben. Yn ogystal, bydd modd sicrhau manylion yr ansolfedd o dan adran ansolfedd y cynhyrchion chwilio electronig.
  • Unwaith bod y gorchymyn atal wedi ei gofnodi, rhaid i unrhyw gyfrifon a ffurflenni blynyddol sy’n ddyledus gael eu ffeilio, fel ar gyfer unrhyw gwmni byw a gweithredol arall. Gallai methiant i gydymffurfio olygu bod enw’r cwmni’n cael ei ddileu o’r gofrestr.

6. Mae fy ngwres canolog yn colli dŵr. Mae’r cwmni dan sylw wedi ymddatod bellach. Ydy fy ngwarant yn dal yn ddilys?

Ni all Tŷ’r Cwmnïau ateb y cwestiwn hwn. Cysylltwch â’r datodydd.

7. Sut galla i ddysgu enw datodydd cwmni unigol?

Darperir yr wybodaeth hon yn rhad ac am ddim ar wefan Tŷ’r Cwmnïau neu ffoniwch 0303 1234 500.

Pennod 9 - Ansawdd dogfennau

1. Beth sy’n digwydd i’r dogfennau a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau?

Caiff y dogfennau a’r ffurflenni a gyflwynwch i Dŷ’r Cwmnïau eu sganio i roi delwedd electronig. Wedyn, fe gaiff y dogfennau gwreiddiol eu rhoi i gadw ac fe ddefnyddir y ddelwedd electronig fel dogfen waith.

Wrth i’ch contactau busnes chwilio cofnod y cwmni, fe welan nhw’r ddelwedd electronig wedi ei hatgynhyrchu ar-lein. Felly, mae’n bwysig nid yn unig bod y wreiddiol yn ddarllenadwy ond hefyd y gall roi copi clir.

Pennod 10 - Gwybodaeth bellach

1. Ble galla i fynd i gael cymorth?

Bydd staff Tŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd yn gallu'ch cynghori ar faterion sy’n union gysylltiedig â ffeilio dogfennau ansolfedd gyda’r cofrestrydd. Ond os ydych chi'n ystyried rhyw fath o ansolfedd, dylech geisio cyngor ymarferydd ansolfedd yn gyntaf.

Dylech gyfeirio cwynion ynglŷn ag ymddygiad ymarferydd ansolfedd trwyddedig, yn ysgrifenedig, i:

The Insolvency Service
The Insolvency Practitioners' Section / Policy Unit
Floor 4
4 Abbey Orchard Street
Westminster
London
SW1P 2HT

Wedyn, byddan nhw'n anfon y gŵyn ymlaen i gorff awdurdodi’r ymarferydd.

2. Ble galla i gael ffurflenni a chanllaw?

Mae hwn yn un o gyfres o lyfrynnau gan Dŷ'r Cwmnïau sy'n rhoi arweiniad syml i'r Ddeddf Cwmnïau.

Mae'r ffurflenni canlynol (y soniwyd amdanyn nhw yn y canllaw hwn) ar gael i’w dadlwytho o wefan Tŷ'r Cwmnïau :

  • LQ01 hysbysiad penodi derbynnydd neu reolwr;
  • LQ02 hysbysiad rhoi heibio i weithredu'n dderbynnydd neu'n rheolwr;
  • 600 hysbysiad penodi datodydd o dan drefn dirwyn i ben yn wirfoddol (aelodau neu gredydwyr); ac
  • SE WU01 hysbysiad cychwyn neu derfynu dirwyn i ben, ymddatod, ansolfedd, rhoi heibio i drefniadau talu, a phenderfyniad i barhau i weithredu Societas Europaea (SE).

Rhestr o ffurflenni Tŷ’r Cwmnïau sydd ar gael i’w dadlwytho

Gellir cael copi o bob ffurflen arall a enwyd yn y canllaw hwn gan ddogfenwyr y gyfraith cwmnïau, neu gellir gweld copïau yn Rheolau’r Cofrestrydd. Ceir rhestr o ddogfenwyr y gyfraith cwmnïau yn yr ‘Yellow Pages’.

Mae ffurflenni statudol a chanllaw ar gael, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf i’w sicrhau yw drwy’r wefan hon neu drwy ffonio 0303 123 4500.

3. Sut dylwn i anfon gwybodaeth at y Cofrestrydd?

  • Dylai dogfennau, gan gynnwys gorchmynion llys, ddangos enw cywir a rhif cofrestru’r cwmni lle bo hynny’n briodol.
  • Dim ond os darparwch chi amlen stampiedig yn dangos eich cyfeiriad dychwelyd y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn cydnabod derbyn.
  • Dylech chi ddarparu dogfennau ar ddiwyg portread (sef, â’r ymyl byrraf ar draws y brig).

Gallwch chi gyflwyno dogfennau â llaw (yn bersonol neu drwy negesydd), gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa, dros wyliau banc a thros y penwythnos i Gaerdydd neu Lundain. Gallwch chi hefyd gyflwyno dogfennau drwy’r post neu drwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau.)

Os anfonwch chi ddogfennau ansolfedd drwy'r post, byddwch cystal â’u cyfeirio at:

Yr Adran Ymddatod
Tŷ'r Cwmnïau
Ffordd y Goron
Caerdydd CF14 3UZ
neu
DX33050 Caerdydd 1

Sylwer: Nid yw Tŷ'r Cwmnïau yn derbyn cyfrifon na dogfennau statudol eraill dros beiriant ffacs.

Brig
Ein polisi ar gwcis