|
|
Cynllun Masnachu Teg ym Maes GwybodaethCafodd Tŷ’r Cwmnïau achrediad llawn i’r Cynllun Masnachu Teg ym Maes Gwybodaeth (IFTS) ym mis Mawrth 2009. Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus (OPSI) a’i ddiben yw gosod ac asesu safonau ar gyfer cyrff yn y sector cyhoeddus. Mae’n mynnu eu bod yn annog ailddefnyddio gwybodaeth ac yn cyrraedd safon o degwch ac eglurder. Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cael achrediad llawn o dan yr IFTS, sy’n sicrhau y gall ailddefnyddwyr gwybodaeth y sector cyhoeddus fod yn hyderus y cânt eu trin yn rhesymol ac yn deg.
Dilynodd Tŷ’r Cwmnïau broses ddilysu fel rhan o’r gofyniad i gael achrediad o dan yr IFTS. Diben hyn oedd caniatáu i gydweithwyr yn OPSI asesu a oedd Tŷ’r Cwmnïau’n bodloni’r safonau gofynnol a nodir yn y cynllun. Gweld adroddiad achrediad Tŷ’r Cwmnïau o dan yr IFTS yn Saesneg (PDF) Datganiad Gorchwyl Cyhoeddus Tŷ’r Cwmnïau Mae Tŷ’r Cwmnïau’n bodoli i gyflawni swyddogaethau’r Cofrestrydd Cwmnïau fel y’u nodir yn y ddeddfwriaeth, a rhai swyddogaethau dirprwyedig yr Ysgrifennydd Gwladol. Prif swyddogaethau Tŷ’r Cwmnïau yw:
Mae hyn yn cynnwys ond nid yw’n gyfyngedig i, Gwmnïau Cyfyngedig, Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig, Partneriaethau Cyfyngedig, Cwmnïau Atebolrwydd-Cyfyngedig Ewropeaidd, Grwpiadau Buddiannau Economaidd Ewropeaidd a Chwmnïau Tramor. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y datganiad gorchwyl cyhoeddus hwn, cysylltwch â ni. Hawlfraint a hawlfraint y Goron Mae hawlfraint yn perthyn fel arfer i’r person neu’r sefydliad a greodd y gwaith. Yn achos gweithiau hawlfraint a gynhyrchwyd gan weision sifil, i’r Goron y mae’r hawlfraint yn perthyn ac mae’n gymwys i’w diogelu gan hawlfraint y Goron o dan adran 163 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988. Nid oes hawlfraint yn perthyn i adrannau o’r Llywodraeth yn eu hawl eu hunain. Mae’r deunyddiau sy’n cael eu cyhoeddi gan Dŷ’r Cwmnïau yn ymrannu’n fras yn ddau gategori: a) Deunyddiau sydd wedi’u cynhyrchu gan Dŷ’r Cwmnïau Mae deunyddiau o’r math hwn (e.e. llyfrynnau canllaw) yn cael eu diogelu gan hawlfraint y Goron, ac mae Tŷ’r Cwmnïau yn rheoli’r hawlfraint hon o dan Awdurdod sydd wedi’i ddirprwyo gan Reolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi (HMSO). Mae hawlfraint y Goron yn gymwys hefyd ar gyfer hawliau cronfeydd data, logos a delweddau gweledol. Gall unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron ac sydd gan Dŷ’r Cwmnïau (heblaw’r Arfbais Frenhinol a logos adrannau neu asiantaethau) gael ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim ar unrhyw fformat neu mewn unrhyw gyfrwng ar yr amod ei fod yn cael ei atgynhyrchu’n fanwl-gywir ac nad yw’n cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Pan fo unrhyw rai o’r eitemau sy’n cael eu diogelu gan hawlfraint y Goron yn cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo i bobl eraill, mae’n rhaid nodi ffynhonnell y deunyddiau a chydnabod statws yr hawlfraint. Os caiff hawlfraint y Goron ei thorri, mae Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi wedi awdurdodi Tŷ’r Cwmnïau i gymryd unrhyw gamau cyfreithlon y bydd eu hangen i unioni’r sefyllfa. b) Deunyddiau ar y gofrestr gyhoeddus Ac eithrio categori bach o ddeunyddiau sydd wedi’i eithrio o’r gofynion ynghylch datgelu statudol, mae’n ofynnol o dan y gyfraith i’r Cofrestrydd drefnu bod yr wybodaeth yn y dogfennau a anfonir ato ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd. Trefnir bod gwybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus ar gael yn rhinwedd cymeradwyaethau sy’n cael eu rhoi gan y Cofrestrydd yn unol ag adran 47 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 ac Atodlen 1 i’r Rheoliadau Cronfeydd Data (OS 1997/3032). Nid yw Tŷ’r Cwmnïau’n gosod unrhyw reolau na gofynion o ran sut mae’r wybodaeth ar y gofrestr gyhoeddus yn cael ei defnyddio. Polisi Hawlfraint Tŷ’r Cwmnïau Tŷ’r Cwmnïau ac Ailddefnyddio Gwybodaeth Mae Tŷ’r Cwmnïau, fel darparwr gwybodaeth gyhoeddus, yn trefnu bod yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â chwmnïau cyfyngedig ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd. Nid yw’n gosod unrhyw gyfyngiad o ran sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio ar ôl ei phrynu heblaw fel a ganlyn:
Safonau Gwasanaeth |
||