Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cywiro Anffurfiol

Mae'r ddarpariaeth hon yn rhoi i'r cofrestrydd y pŵer i gywiro dogfen sy'n ymddangos yn anghyflawn neu'n anghyson yn fewnol cyn ei chofrestru.

Mae'n rhaid i bobl sydd am fanteisio ar y ddarpariaeth hon gytuno'n gyntaf inni gysylltu â nhw a chytuno i roi i'r cofrestrydd y cyfarwyddiadau hynny sydd angen i gywiro'r ddogfen.

Bydd dogfen anghyflawn â gwybodaeth yn colli ohoni y gall y cofrestrydd ei hychwanegu ar ôl holi'r cwmni a chael eu cyfarwyddiadau neu gyfarwyddiadau'r sawl a gyflwynodd y ddogfen.

Mae dogfen sy'n anghyson yn fewnol yn un lle mae'r wybodaeth a gynnwys yn anghyson ynddi'i hun. Gall y cofrestrydd ofyn i'r sawl sydd ag awdurdod roi'r cyfarwyddiadau priodol.

Rhaid i'r cofrestrydd fod yn fodlon bod y sawl sy'n rhoi cyfarwyddiadau wedi'i awdurdodi i wneud. Bydd hyn yn golygu gwneud cais i'r cofrestrydd am god awdurdodi. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am god awdurdodi ar gael o dan “Sut mae ymuno â threfn cywiro anffurfion”

Unwaith bod y cofrestrydd wedi cywiro'r ddogfen, bydd yn ei thrin fel un a gafodd ei chyflwyno wrth iddo wneud y cywiriad.

Ydy'r cywiro anffurfiol ei gymhwyso at bob rhyw ffeilio?

Nac ydy. Dim ond ar gyfer cofrestru morgeisiau ac arwystlon mae'r cywiro anffurfiol ei weithredu.

Mae'n gymwys i bob cwmni, partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a chwmni tramor sydd wedi cofrestru gyda Thŷ'r Cwmnïau ac sydd â'r awdurdod angenrheidiol i roi cyfarwyddiadau

Am restr lawn o'r dogfennau y mae cywiro anffurfiol yn gymwys iddynt, gweler y tabl isod. 

Rhif y Ddogfen Enw'r Ddogfen Beth y gellir ei gywiro'n anffurfiol ar y ddogfen?
MG01
LLMG01
Manylion morgais neu arwystl Manylion morgais neu arwystl wedi'i greu gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)
  • dyddiad creu
  • disgrifiad
  • swm wedi'i sicrhau
  • morgeisiedig(ion) neu'r sawl sydd â hawl i'r arwystl
  • manylion cryno am yr eiddo sydd dan forgais neu arwystl
MG01s
LLMG01s
OSMG01
Manylion arwystl a grewyd gan gwmni wedi'i gofrestru yn yr Alban Manylion arwystl a grewyd gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) wedi'i chofrestru yn yr Alban Manylion morgais neu arwystl gan gwmni tramor
  • dyddiad creu
  • disgrifiad
  • swm wedi'i sicrhau
  • morgeisiedig(ion) neu'r sawl sydd â hawl i'r arwystl
  • manylion cryno am yr eiddo sydd dan forgais neu arwystl
  • datganiad, yn achos arwystl nofiol, yn sôn am unrhyw gyfyngiadau ar y pŵer i ganiatáu gwarannau pellach ac unrhyw ddarpariaeth o flaenoriaeth
MG06
LLMG06
MG06s
LLMG06s
Manylion arwystl y meddiannwyd eiddo o dano Manylion arwystl y meddiannwyd eiddo o dano gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) Manylion arwystl y meddiannwyd eiddo o dano gan gwmni wedi'i gofrestru yn yr Alban Manylion arwystl y meddiannwyd eiddo o dano gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) wedi'i chofrestru yn yr Alban
  • dyddiad yr offeryn
  • disgrifiad
  • dyddiad meddiannu'r eiddo sy'n ddarostyngedig i'r arwystl
  • swm wedi'i sicrhau
  • morgeisiedig(ion) neu'r sawl sydd â hawl i'r arwystl
  • manylion cryno am yr eiddo sydd dan forgais neu arwystl
MG07
LL MG07
Manylion ar gyfer cofrestru arwystl i sicrhau cyfres o ddyledebau Manylion ar gyfer cofrestru arwystl i sicrhau cyfres o ddyledebau gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)
  • dyddiad y weithred warchodol
  • cyfanswm wedi'i sicrhau gan y gyfres
  • dyddiad y dyroddiad presennol
  • swm y dyroddiad presennol
  • dyddiad y penderfyniad a awdurdododd y dyroddiad
  • enwau'r ymddiriedolwyr
  • disgrifiad cyffredinol yr eiddo sydd dan arwystl
MG07s
LLMG07s
OSMG04
Manylion ar gyfer cofrestru arwystl i sicrhau cyfres o ddyledebau gan gwmni wedi'i gofrestru yn yr Alban Manylion ar gyfer cofrestru arwystl i sicrhau cyfres o ddyledebau gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) wedi'i chofrestru yn yr Alban Manylion ar gyfer cofrestru arwystl i sicrhau cyfres o ddyledebau gan gwmni tramor
  • dyddiad y weithred warchodol
  • cyfanswm wedi'i sicrhau gan y gyfres
  • dyddiad y dyroddiad presennol
  • swm y dyroddiad presennol
  • dyddiad y penderfyniad a awdurdododd y dyroddiad
  • enwau'r ymddiriedolwyr
  • disgrifiad cyffredinol yr eiddo sydd dan arwystl
  • datganiad, yn achos arwystl nofiol, yn sôn am unrhyw gyfyngiadau ar y pŵer i ganiatáu gwarannau pellach ac unrhyw ddarpariaeth o flaenoriaeth
MG09
LLMG09
Tystysgrif cofrestru arwystl yn cynnwys eiddo wedi'i leoli o dan awdurdodaeth arall yn y DU Tystysgrif cofrestru arwystl gan Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) yn cynnwys eiddo wedi'i leoli o dan awdurdodaeth arall yn y DU
  • dyddiad a phartïon yr arwystl
  • dyddiad cyflwyno'r arwystl
  • yr awdurdodaeth y cyflwynwyd yr arwystl o dani

Oes eithriadau?

Oes, hyd yn oed os yw'r ddogfen arwystl yn un sydd wedi'i rhestru uchod, ni fydd cywiro anffurfiol yn gymwys yn yr enghreifftiau canlynol:

  • os yw enw neu rif y cwmni neu'r PAC yn absennol neu'n anghywir ar y ddogfen arwystl;
  • os yw'r ddogfen arwystl heb ei llofnodi; a/neu
  • os yw'r offeryn a gyflwynir gyda'r ffurflen yn anghywir neu'n anghyflawn mewn unrhyw ffordd.

O dan amgylchiadau o'r fath, caiff y ffurflen arwystl a'r offeryn eu dychwelyd ichi drwy'r post.

Pam yw cywiro anffurfiol yn cael ei gymhwyso yng nghyswllt cofrestru morgeisiau ac arwystlon yn unig?

Y rheswm am hyn yw bod cyfyngiadau amser statudol ar gyflwyno morgeisiau ac arwystlon i gael eu cofrestru a'n bod o'r farn mai yng nghyswllt y rhain, i ddechrau, y bydd y pŵer cywiro anffurfiol fwyaf defnyddiol.

Sut mae ymuno â threfn cywiro anffurfiol?

Gallwch lawrlwytho hysbysiad cydsynio (Word 27Kb) ar gyfer Cywiro Anffurfiol. Mae'r hysbysiad cydsynio yn mynnu'ch bod yn rhoi un enw cyswllt, cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost ar gyfer eich cwmni neu gorff.

Sylwer dim ond un hysbysiad cydsynio y gallwch ei gyflwyno ar gyfer eich cwmni neu gorff. 

Unwaith ein bod wedi derbyn eich hysbysiad cydsynio wedi'i lenwi'r gywir, byddwn yn cofrestru'ch manylion cysylltu ac yn rhoi ichi god awdurdodi unigryw. Caiff y cod awdurdodi ei anfon drwy'r post dosbarth cyntaf i'r cyfeiriad cysylltu a nodwch yn eich hysbysiad cydsynio. Pan fyddwch wedi cael y cod awdurdodi gan Dŷ'r Cwmnïau, bydd gennych yr awdurdod i roi cyfarwyddiadau ar gyfer Cywiro Anffurfiol. Gofalwch gynnwys y cod awdurdodi wrth ymateb i unrhyw ymholiad gan y cofrestrydd gyda golwg ar Gywiro Anffurfiol. 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pan fydd y cofrestrydd yn derbyn dogfen sy'n gymwys ar gyfer Cywiro Anffurfiol (sef, ei bod yn un o'r dogfennau sydd wedi'u rhestru yn y tabl uchod a bod gwybodaeth benodol yn ymddangos yn anghyflawn neu'n anghyson), bydd yn anfon e-bost i'r cyfeiriad cysylltu a nodwyd yn eich hysbysiad cydsynio, yn mynnu ichi roi cyfarwyddiadau fel y gall gywiro'r amryfusedd neu'r hepgor.

Sylwer mae angen ichi sicrhau bod y cyfeiriad e-bost a roddwch yn eich hysbysiad cydsynio yn effeithiol ac yn cael ei fonitro'n gyson. Ni fydd Tŷ'r Cwmnïau yn anfon e-byst pellach nac yn cychwyn gohebiaeth bellach os yw cyfeiriad e-bost ar gyfer cysylltu yn aneffeithiol. Eich cyfrifoldeb chi yw cynnal cyfrif e-bost o dan yr enw a roddwch i Dŷ'r Cwmnïau. 

I roi cyfarwyddiadau, bydd angen ichi lawrlwytho a llenwi dogfen profforma o wefan Tŷ'r Cwmnïau. Bydd e-bost y cofrestrydd yn nodi beth sy'n anghyflawn neu'n anghyson yn fewnol a bydd angen ichi roi cyfarwyddiadau penodol ar y profforma fel y gall unioni'r amryfusedd neu'r hepgor.

Rhaid llenwi'r profforma (Word 49Kb) drwy ddefnyddio Microsoft Word neu Microsoft Notepad a rhaid ei atodi wrth eich e-bost at y cofrestrydd. Bydd y cyfeiriad e-bost y dylech anfon eich cyfarwyddiadau iddo yn dibynnu ar ba wlad y cofrestrwyd y cwmni neu'r PAC ynddi.

Gofalwch gyflwyno'r profforma i'r cofrestrydd o fewn y terfyn amser statudol.

Unwaith ein bod wedi cael eich profforma wedi'i gwblhau a'i fod yn bodloni'r ymholiad, byddwn yn cofrestru'r ddogfen arwystl. Sylwer caiff y profforma ei argraffu, ei atodi wrth y ddogfen atodi a'i roi ar y cofnod cyhoeddus.

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ganiatáu i gyflwynwyr gywiro camgymeriadau cymwys trwy eu cywiro'n anffurfiol. Fodd bynnag, ni allwn warantu y byddwn yn gwneud hynny ym mhob achos. Cyfrifoldeb y cyflwynydd o hyd yw sicrhau bod unrhyw gais i gofrestru arwystl yn cydymffurfio ac yn cael ei anfon yn briodol.

A gaiff unrhyw un gwblhau hysbysiad cydsyniad a rhoi cyfarwyddiadau?

Na chaiff, dim ond y cwmni neu'r sawl a gyflwynodd yr arwystl gaiff roi cyfarwyddiadau. 

Oes terfyn amser ar gyfer rhoi'r cyfarwyddiadau?

Oes. Rhaid ichi gyflwyno cyfarwyddiadau cywir i'r cofrestrydd erbyn canol dydd ar y diwrnod gwaith olaf ar gyfer cofrestru'r arwystl. Lle mae'r terfyn amser statudol ar gyfer cofrestru arwystl yn dod i ben ar ddiwrnod nad yw'n ddiwrnod gwaith (e.e. penwythnos neu ŵyl fanc), mae'n RHAID i gyfarwyddiadau ar gyfer Cywiro Anffurfiol gael eu derbyn erbyn canol dydd ar y diwrnod gwaith olaf cyn i'r terfyn amser statudol ddod i ben. Felly, os yw'r terfyn amser statudol yn dod i ben ar ddydd Sadwrn neu ddydd Sul, rhaid i gyfarwyddiadau gael eu derbyn erbyn canol dydd ar y dydd Gwener cyn hynny.   

A fydd Tŷ'r Cwmnïau yn fy ffonio pan fydd y terfyn amser 21 diwrnod yn dynesu?

Na fydd, dim ond i roi gwybod bod yr wybodaeth yn anghyson yn fewnol neu'n anghyflawn y bydd Tŷ'r Cwmnïau yn cysylltu â chi unwaith drwy e-bost. Eich cyfrifoldeb chi yw cyflwyno cyfarwyddiadau cywir o fewn yr amser a ganiateir. Os na fodlonwch y terfyn amser gofynnol, caiff y dogfennau eu dychwelyd ichi drwy'r post.

Beth os nad wyf wedi ymuno â threfn Cywiro Anffurfiol a bod dogfen arwystl a gyflwynaf yn anghyflawn neu'n anghyson?

Bydd eich ffurflen yn cael ei gwrthod. Fodd bynnag, wrth ffeilio yn y dyfodol gallwch lawrlwytho hysbysiad cydsynio (Word 27Kb) ar gyfer cywiriadau anffurfiol. Mae’r hysbysiad cydsyniad yn mynnu eich bod yn rhoi un enw, cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost cyswllt i’ch cwmni neu sefydliad.

Nodwch na allwch gyflwyno ond un hysbysiad cydsyniad ar ran eich cwmni neu sefydliad.

Ar ôl i ni gael eich hysbysiad cydsyniad wedi’i gwblhau’n gywir, byddwn yn cofrestru’ch manylion cyswllt ac yn rhoi cod awdurdodi unigryw i chi. Bydd y cod awdurdodi’n cael ei anfon atoch gyda phost dosbarth cyntaf i’r cyfeiriad cyswllt a nodir ar eich hysbysiad cydsyniad. Ar ôl i chi gael y cod awdurdodi oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau, bydd gennych yr awdurdod i roi cyfarwyddiadau ar gyfer cywiriadau anffurfiol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y cod awdurdodi wrth i chi ymateb i unrhyw ymholiad oddi wrth y cofrestrydd yn ymwneud â chywiriadau anffurfiol.

Beth os bydd fy manylion cysylltu yn newid?

Os bydd eich manylion cysylltu yn newid, dylech lawrlwytho ffurflen newid manylion ar gyfer Cywiro Anffurfiol (Word 27Kb). Bydd angen ichi lenwi'r ffurflen a'i hanfon i Dŷ'r Cwmnïau gyda'ch cod awdurdodi dilys.

Beth os byddaf wedi ymuno â Chywiro Anffurfiol ond na ddymunaf roi cyfarwyddiadau mwyach?

Os dymunwch dynnu'n ôl eich cydsyniad i gyfarwyddiadau gael eu rhoi, dylech lawrlwytho a llenwi hysbysiad tynnu cydsyniad yn ôl (Word 27Kb). Pan fydd yn barod gennych, bydd angen ichi anfon y ffurflen i Dŷ'r Cwmnïau gyda'ch cod awdurdodi dilys.

Brig
Ein polisi ar gwcis