Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Grŵp Data Cyhoeddus

Mae’r Grŵp Data Cyhoeddus (PDG) yn cynnwys pedair o gronfeydd masnachu’r Llywodraeth:

  • Tŷ’r Cwmnïau
  • Y Gofrestrfa Tir
  • Y Swyddfa Dywydd
  • Yr Arolwg Ordnans

Mae aelodau’r Grŵp yn cynhyrchu gwahanol fathau o ddata ac yn darparu gwahanol wasanaethau data. Nod y Grŵp yw cynyddu, cymaint ag sy’n bosibl, werth y data mae pob Cronfa Fasnachu’n ei gadw a’r gallu i gyrchu’r data hwnnw, er budd economaidd a chymdeithasol hirdymor.

Mae’r Grŵp yn parhau i ganfod a chyflawni arbedion effeithlonrwydd a synergeddau er mwyn lleihau cost data i ddefnyddwyr data a darparu cyllid ychwanegol ar gyfer sicrhau bod data ar gael yn rhwydd.

Mae pob un o sefydliadau’r Grŵp yn mynd ati i weithio gyda defnyddwyr ac arbenigwyr i greu darlun gwell o effaith economaidd eu data a’u gwasanaethau, heddiw ac yn y dyfodol.

 

 

 

Brig
Ein polisi ar gwcis