Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Newid i gydnabyddiaethau cael post trwy’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX)

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi bod yn adolygu ei weithdrefnau ar gyfer cydnabod trwy’r post ei fod wedi cael post.

Fel Cronfa Fasnachu, rhaid i Dŷ’r Cwmnïau weithredu ar sail adennill costau. Felly rydym yn parhau i edrych yn feirniadol ar ein prosesau a’n harferion er mwyn sicrhau ein bod ni’n ysgogi arbedion effeithlonrwydd yn y sefydliad yn ddi-baid ac yn cyflawni ein gwelliannau effeithlonrwydd o flwyddyn i flwyddyn.

Rydym yn cael post trwy’r Post Brenhinol a’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) ac yn rheolaidd mae cwsmeriaid yn gofyn am gydnabod cael post wrth ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.

Yn draddodiadol rydym wedi rhoi cod bar ar gardiau cydnabod DX gyda’r dyddiad y daeth y post i law ac wedi dychwelyd y cardiau trwy’r gwasanaeth DX. Fodd bynnag, mae’r costau’n cynyddu’n sylweddol ac o’r herwydd ni all y sefydliad ysgwyddo’r costau hyn mwyach. O ganlyniad byddwn yn rhoi’r gorau i anfon cydnabyddiaeth trwy’r gwasanaeth DX ein bod wedi cael post o 1af Awst 2012 ymlaen.

Wrth gwrs bydd y rhai sy’n cyflwyno dogfennau trwy’r gwasanaeth DX yn gallu parhau i ofyn am gydnabyddiaeth, ond bydd y gwasanaeth yn cael ei gysoni â’r gwasanaeth i’n cwsmeriaid sy’n defnyddio’r Post Brenhinol, fel a ganlyn:

  • Dylai pob cais am gydnabod cael post gael ei nodi’n glir mewn llythyr.
  • Mae’n hanfodol i gopi o’r llythyr ac amlen â chyfeiriad a stamp gael eu hamgáu.

Noder na chaiff unrhyw gydnabyddiaeth ei darparu oni chymerir y camau hyn.

Hoffem hefyd atgoffa ein cwsmeriaid nad yw cydnabyddiaeth ond yn cadarnhau bod Tŷ’r Cwmnïau wedi cael y ddogfen/dogfennau. Nid ydynt wedi cael eu prosesu a’u derbyn neu eu gwrthod eto

Mae cyflwynwyr yn troi fwyfwy at gyflwyno dogfennau trwy ddulliau electronig gan mai buddion defnyddio ein Gwasanaeth WebFiling ar gyfer Ffurflenni Blynyddol, Cyfrifon a thrafodion eraill yw:

  • Mae ffeilio ar lein yn arbed amser i chi – gallwch ffeilio’n syth o’ch cyfrifiadur personol.
  • Mae llai o debygrwydd y caiff dogfennau eu gwrthod oherwydd y gwiriadau sy’n rhan o’r broses a data wedi’u nodi ar ffurflenni ymlaen llaw.
  • Rydych chi’n cael cydnabyddiaeth awtomatig trwy e-bost.
  • Mae’r dogfennau’n cael eu prosesu’n gyflymach, y rhan fwyaf ohonynt cyn pen 24 awr ar ôl eu cyflwyno.
  • Mae’n gryn dipyn yn rhatach i ffeilio eich Ffurflen Flynyddol yn electronig (£14 yn lle £40 ar bapur)

Mae WebFiling hefyd yn darparu ffordd o fanteisio ar:

  • eAtgoffa –  ffordd hwylus, effeithiol a DI-DÂL o wybod pryd mae cyfrifon a ffurflenni blynyddol eich cwmni i fod i gael eu ffeilio.
  • PROOF (PROtected Online Filing) – amddiffyniad DI-DÂL i’ch cwmni neu PAC rhag cael ei herwgipio trwy rwystro ceisiadau i newid cyfeiriad eich swyddfa gofrestredig neu fanylion y cyfarwyddwyr heb yn wybod i chi.

Brig
Ein polisi ar gwcis