Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Adferiad Gweinyddol - Y 10 Prif Reswm Dros Wrthod Cais

Sicrhewch eich bod yn darllen y wybodaeth isod cyn gwneud eich cais am adferiad gweinyddol.

1. Nid yw'r llythyr ildio hawl ‘bona vacantia' wedi cael ei gynnwys gyda'ch cais i adfer cwmni i'r gofrestr.

Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i chi gael llythyr ildio hawl bona vacantia a'i amgáu gyda'ch cais. Fodd bynnag, os nad oes gan y cwmni ddim asedau ar yr adeg y caiff ei ddileu o'r gofrestr, nid oes angen i chi gael llythyr ildio hawl. 

Mwy o wybodaeth am lythyr bona vacantia

2. Mae'r taliad am gosbau ffeilio hwyr yn eisiau/anghywir.

Rhaid i chi dalu pob cosb ffeilio hwyr cyn y byddwn yn adfer eich cwmni i'r gofrestr. Cewch wybod a oes gan eich cwmni unrhyw gosbau ffeilio hwyr dyledus trwy anfon neges e-bost at ein hadran ymholiadau ar enquiries@companieshouse.gov.uk

3. Y ffi ffeilio am y Ffurflen RT01 / LL RT01

£100 yw'r ffi am adferiad gweinyddol. Os nad ydych yn ei anfon byddwn yn gwrthod eich cais.

4. Mae'r ffi(oedd) ffeilio am Ffurflen Flynyddol/Ffurflenni Blynyddol yn eisiau neu'n anghywir

Wrth wneud eich cais am adferiad gweinyddol, rhaid i chi ffeilio'r holl ddogfennau nas cyflwynwyd er mwyn diweddaru'ch cofnod. Os oes ffi ffeilio am unrhyw rai o'r dogfennau nas cyflwynwyd (fel Ffurflen Flynyddol) rhaid i chi dalu'r ffi hon. Os nad ydych yn anfon y ffi byddwn yn gwrthod eich cais.

Does dim ffi ffeilio am Ffurflen 363c & LLP 363c: ond ar gyfer ffurflenni blynyddol dyddiedig ar neu ar ôl 1 Hydref 2009 rhaid defnyddio ffurflen AR01c neu LLAR01c. £40 yw’r ffi ffeilio ar bapur am y ffurflenni hyn. Sicrhewch eich bod yn amgáu’r ffi gywir.
Os ydych chi'n gwneud cais i adfer cwmni i'r gofrestr yng Ngogledd Iwerddon, mae'n bosibl y bydd y ffi ffeilio am y Ffurflen Flynyddol yn wahanol.  Os yw'r Ffurflen Flynyddol yn ymdrin â chyfnod hyd at ddyddiad cyn 1 Hydref 2009, rhaid i chi lenwi Ffurflen 371s (neu LL 371s).  £20 yw'r ffi ffeilio am y ffurflen hon. Os yw'r Ffurflen Flynyddol yn ymdrin â chyfnod hyd at ddyddiad ar neu ar ôl 1 Hydref 2009, rhaid i chi lenwi Ffurflen AR01 (neu LL AR01).  £40 yw'r ffi ffeilio am y ffurflen hon.

5. Nid ydych wedi ffeilio'r holl ddogfennau nas cyflwynwyd er mwyn diweddaru cofnod y cwmni.

Wrth wneud eich cais, rhaid i chi anfon yr holl ddogfennau nas cyflwynwyd. Os nad ydych yn eu ffeilio byddwn yn gwrthod eich cais.

Os nad ydych yn siŵr a yw'ch cwmni neu'ch PAC heb gyflwyno unrhyw ddogfennau, gallwch fynd i wefan Tŷ'r Cwmnïau www.tyrcwmniau.gov.uk  i weld neu gallwch anfon neges e-bost at ein hadran ymholiadau ar enquiries@companieshouse.gov.uk

6.  Rydych chi wedi llenwi fersiwn anghywir o'r Ffurflen Flynyddol

Fel rhan o'ch cais, mae'n bosibl y bydd angen i chi lenwi Ffurflen Flynyddol er mwyn diweddaru cofnod eich cwmni. Sicrhewch eich bod yn llenwi'r fersiwn gywir o'r ffurflen. Os ydych chi'n gwneud cais i adfer cwmni i'r gofrestr a bydd y Ffurflen Flynyddol yn ymdrin â chyfnod hyd at ddyddiad cyn 1 Hydref 2009, rhaid i chi lenwi Ffurflen 363cym.

Os yw'n ymdrin â chyfnod hyd at ddyddiad ar neu ar ôl 1 Hydref 2009, rhaid i chi lenwi Ffurflen AR01c  

Os ydych chi'n gwneud cais i adfer PAC i'r gofrestr ac mae'r Ffurflen Flynyddol yn ymdrin â chyfnod hyd at ddyddiad cyn 1 Hydref 2009, rhaid i chi lenwi Ffurflen LL 363cym

Os yw'r Ffurflen Flynyddol yn ymdrin â chyfnod hyd at ddyddiad ar neu ar ôl 1 Hydref 2009, mae angen i chi lenwi Ffurflen LL AR01 .

Os ydych chi'n gwneud cais i adfer cwmni i'r gofrestr yng Ngogledd Iwerddon ac mae'r Ffurflen Flynyddol yn ymdrin â chyfnod hyd at ddyddiad cyn 1 Hydref, rhaid i chi lenwi Ffurflen 371s.

Os yw'n ymdrin â chyfnod hyd at ddyddiad ar neu ar ôl 1 Hydref 2009, rhaid i chi lenwi FfurflenAR01

Os ydych chi'n gwneud cais i adfer PAC i'r gofrestr yng Ngogledd Iwerddon ac mae'r Ffurflen Flynyddol yn ymdrin â chyfnod hyd at ddyddiad cyn 1 Hydref 2009, rhaid i chi lenwi FfurflenLL 371s

Os yw'r Ffurflen Flynyddol yn ymdrin â chyfnod hyd at ddyddiad ar neu ar ôl 1 Hydref 2009, mae angen i chi lenwi Ffurflen LL AR01.

Os nad ydych yn llenwi ac anfon y ffurflen gywir byddwn yn gwrthod eich cais.

7. Nid yw'r Ffurflen RT01 / LL RT01 wedi cael ei llofnodi

Mae Adran 3 o Form RT01 / LL RT01 yn cynnwys datganiad cydymffurfio y mae'n rhaid i'r cyn gyfarwyddwr neu aelod ei lofnodi wrth wneud y cais am adferiad. Os na chaiff ei lofnodi byddwn yn gwrthod eich cais.

8. Datganiadau yn eisiau/anghywir yn y Cyfrifon

Y prif reswm dros wrthod Cyfrifon yw bod y cwmni neu'r PAC wedi cwblhau'r datganiadau anghywir ar y fantolen.  

Ar gyfer cyfrifon lle mae dechrau'r cyfnod cyfrifeg cyn 6 Ebrill 2008 (neu 1 Hydref 2008 i PAC) rhaid i'r cyfrifon gynnwys datganiadau priodol Deddf 1985 neu ddatganiadau priodol Gorchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 i gwmnïau a PAC yng Ngogledd Iwerddon.

Ar gyfer cyfrifon â chyfnod sy'n dechrau ar neu ar ôl 6 Ebrill 2008 (neu 1 Hydref 2008 i PAC) rhaid i'r cyfrifon gynnwys y datganiadau perthnasol a nodir yn Neddf Cwmnïau 2006. 
Mae'r ddolen ganlynol yn darparu mwy o wybodaeth am y math o ddatganiadau y mae angen iddynt ymddangos ar fantolen eich cyfrifon.

/about/pdf/commonAccountsRejections.pdf

9. Enw Llofnodydd neu Lofnod yn eisiau ar y Fantolen

Rhaid i gyfarwyddwr, neu aelod dynodedig o PAC, lofnodi ar waelod y fantolen. Hefyd rhaid i bob mantolen roi enw'r unigolyn a lofnododd ar ran y bwrdd. 

10.  Mae fersiynau anghywir o ffurflenni eraill wedi cael eu llenwi

Fel y nodir ym mhwynt 6 uchod, mae'n bwysig i chi lenwi'r fersiwn gywir o unrhyw ffurflenni nas cyflwynwyd sy'n cyd-fynd â'ch cais am adferiad gweinyddol. Os ydych chi'n llenwi fersiwn anghywir o ffurflen, bydd yn achosi oedi yn y broses adfer i'r gofrestr hyd nes y gallwch gyflwyno'r fersiwn gywir i ni.

Defnyddiwch y ddolen ganlynol i'n gwefan sy'n rhoi canllawiau ar y math cywir o ffurflen y dylech ei llenwi fel rhan o'ch cais i adfer cwmni i'r gofrestr:

/welsh/companiesAct/transitionalProvisions_W.shtml 

Noder: nid yw'r wybodaeth hon yn berthnasol ond os ydych yn gwneud cais i adfer cwmni i'r gofrestr yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban. Os ydych chi'n gwneud cais i adfer cwmni i'r gofrestr yng Ngogledd Iwerddon ac angen ffurflenni a ddefnyddid cyn Deddf Cwmnïau 2006, anfonwch neges e-bost at ein hadran ymholiadau ar enquiries@companieshouse.gov.uk

Gellir cael mwy o wybodaeth am adferiad gweinyddol trwy glicio ar y dolenni canlynol

Brig
Ein polisi ar gwcis