Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Cwestiynau Cyffredin am Adferiad Gweinyddol

Mae adferiad gweinyddol yn ffordd gyflymach a rhatach o adfer cwmni i'r gofrestr. Fodd bynnag, rydym wedi sylwi bod rhai cwsmeriaid yn dal i gael problemau gydag anfon y wybodaeth gywir i Dŷ'r Cwmnïau. Nod y wybodaeth isod yw eich helpu i'w chael yn iawn y tro cyntaf a dylid ei darllen cyn gwneud eich cais am adferiad gweinyddol.

Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn dilyn y ddolen ar waelod y dudalen "Y 10 Prif Reswm dros Wrthod Cais". Mae hon yn nodi'r 10 prif broblem mae cwsmeriaid wedi'u cael wrth geisio adfer eu cwmni i'r gofrestr fel hyn.

Pwy gaiff wneud cais i adfer cwmni i'r gofrestr?

Dim ond cyn-gyfarwyddwr neu gyn-aelod o'r cwmni, (h.y cyfranddeiliad) oedd yn gyfarwyddwr neu'n aelod o'r cwmni adeg diddymu'r cwmni, gaiff wneud cais.

All unrhyw gwmni gael ei adfer i'r gofrestr yn weinyddol?

Na all. Nid yw'r broses hon yn gymwys lle bo cwmni wedi cael ei ddileu o'r gofrestr ar ei gais ei hun o dan adran 652A o Ddeddf Cwmnïau 1985 neu drwy adran 603A o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986; neu drwy adrannau 1004 a 1005 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Beth yw'r amodau ar gyfer gwneud cais am adferiad gweinyddol?

Mae'r amodau canlynol yn berthnasol:

  • rhaid bod y cwmni wedi cael ei ddileu o'r gofrestr o dan adrannau 1000 neu 1001 o Ddeddf Cwmnïau 2006; neu adran 652 o Ddeddf Cwmnïau 1985 neu adran 603 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986,
  • rhaid bod y cwmni wedi cael ei ddiddymu ers chwe blynedd neu lai ar y dyddiad pan ddaw'ch cais am adferiad i law'r cofrestrydd,
  • ni all neb ond cyn gyfarwyddwr neu aelod o'r cwmni wneud cais.

Beth yw'r gofynion ar gyfer adferiad gweinyddol?

Mae yna dri amod y mae'n rhaid i'r cwmni eu bodloni er mwyn cael ei adfer i'r gofrestr yn weinyddol:

  • Rhaid bod y cwmni'n cynnal busnes neu'n gweithredu ar yr adeg y cafodd ei ddileu o'r gofrestr;
  • Rhaid bod Cynrychiolydd y Goron wedi rhoi ei ganiatâd i'r adferiad;
  • Rhaid bod y cwmni wedi cyflwyno unrhyw ddogfennau nas cyflwynwyd ac y mae eu hangen i ddiweddaru'r cofnod ac wedi talu unrhyw gosbau ffeiliau hwyr oedd yn ddyledus ar adeg ei ddileu o'r gofrestr.

Ydi hyn yn berthnasol i Bartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC)?

Ydi. Gall PAC sy'n bodloni'r gofynion a nodir yn y cwestiwn uchod wneud cais am adferiad gweinyddol i'r gofrestr. Ni all neb ond cyn aelod o'r PAC ar yr adeg y cafodd ei dileu o'r gofrestr wneud cais.

Beth mae angen i mi ei gwblhau i adfer y cwmni i'r gofrestr?

Rhaid i chi lenwi cais am adferiad gweinyddol' (Form RT01 neu Form LL RT01 ar gyfer PAC) a'i hanfon ynghyd ag unrhyw ddogfennau nas cyflwynwyd a ffioedd dyledus i Dŷ'r Cwmnïau.

Mae'r cais am adferiad gweinyddol' yn ffurflen y gellir ei lawrlwytho o wefan Tŷ'r Cwmnïau www.tyrcwmniau.gov.uk.

£100 yw'r ffi am adfer y cwmni i'r gofrestr a rhaid i chi amgáu'r taliad gyda'r Ffurflen RT01/ LLRT01. Os nad ydych yn amgáu'r ffi, byddwn yn dychwelyd y cais atoch chi.

Gwnewch y siec yn daladwy i Tŷ'r Cwmnïau' ac ysgrifennwch rif y cwmni ar y cefn.

Oes angen i mi anfon unrhyw beth arall gyda'r ffurflen gais RT01/ LL RT01?

Oes Y rheswm mwyaf cyffredin dros wrthod ceisiadau yw nad yw'r holl wybodaeth angenrheidiol wedi cael ei hamgáu. Rhaid i chi ddanfon y canlynol:

  • Yr holl Gyfrifon  a Ffurflenni Blynyddol nas cyflwynwyd (gan gynnwys y ffioedd ffeilio perthnasol ar gyfer ffurflenni blynyddol)
  • Yr holl Gosbau Ffeilio Hwyr sy'n ddyledus – (gellir cael y wybodaeth hon trwy anfon neges e-bost at ein hadran ymholiadau ar enquiries@companieshouse.gov.uk.
  • Llythyr Ildio Hawl Bona Vacantia (onid oedd y cwmni heb ddim asedau ar yr adeg y cafodd ei ddileu o'r gofrestr). Gellir cael y llythyr hwn oddi wrth Gynrychiolydd priodol y Goron (gweler y nodyn isod).

Cofiwch anfon pob un o'r uchod at Dŷ'r Cwmnïaumewn un pecyn – bydd hyn yn eich helpu i osgoi oedi dianghenraid a gwrthodiadau wrth adfer eich cwmni i'r gofrestr.

Sut ydw i'n gwybod a oes yna unrhyw ddogfennau nas cyflwynwyd ar gyfer fy nghwmni fel Cyfrifon a/neu Ffurflenni Blynyddol?

Gallwch fynd i wefan Tŷ'r Cwmnïau i weld a oes unrhyw ddogfennau nas cyflwynwyd. Ni chodir ffi am chwilio am y wybodaeth hon ar ein cofnodion. Ewch i  www.tyrcwmniau.gov.uk i wneud hyn neu gallwch anfon neges e-bost at ein hadran ymholiadau ar enquiries@companieshouse.gov.uk i gael y wybodaeth hon.

Beth yw Llythyr Ildio Hawl Bona Vacantia?

Os yw unrhyw eiddo neu hawliau sy'n eiddo i'r cwmni'n dod yn bona vacantia' bydd angen i chi roi i Dŷ'r Cwmnïau ddatganiad mewn ysgrifen oddi wrth Gynrychiolydd perthnasol y Goron yn rhoi caniatâd i adferiad y cwmni. Llythyr ildio hawl bona vacantia' yw'r enw ar y datganiad hwn.

Bydd ffi'n daladwy i Gynrychiolydd perthnasol y Goron am y datganiad hwn.

Gellir cael mwy o wybodaeth am bona vacantia trwy fynd i www.bonavacantia.gov.uk/output/BVC14-Administrative-Restoration.aspx neu drwy ffonio'r rhif ymholiadau sef 0207 210 3236.

Ar gyfer cwmnïau sydd wedi'u cofrestru yn yr Alban gweler gwefan :

The Office of Queen's and Lord Treasurer's Remembrancer

Ar gyfer cwmnïau sydd wedi'u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon cysylltwch â:

The Crown Solicitor
Royal Courts of Justice
Chichester Street
Belfast BT1 3JY

Beth sy'n digwydd nesaf?

Gall gymryd hyd at 10 diwrnod o'r dyddiad y daw'ch cais i law i ni adfer eich cwmni i'r gofrestr (ar yr amod eich bod wedi cynnwys yr holl ddogfennau nas cyflwynwyd a ffioedd gyda'ch cais). Ar ôl iddo gael ei adfer i'r gofrestr, byddwn yn anfon hysbysiad atoch i gadarnhau ein bod wedi adfer eich cwmni i'r gofrestr. Bydd yr adferiad yn dod i rym ar ddyddiad yr hysbysiad.

Ydi Tŷ'r Cwmnïau'n cynnig gwasanaeth yr un diwrnod ar gyfer adfer i'r gofrestr?

Nac ydi. Byddwn yn ymdrin â'ch cais ar sail y dyddiad y daeth i law. Os ydych chi'n dilyn y cyfarwyddiadau a roddir uchod ac os yw'ch dogfennau'n gywir, bydd hyn yn helpu i osgoi unrhyw wrthodiadau neu oedi pellach wrth brosesu'ch cais.

Beth os nad yw fy nghwmni neu fy PAC yn gymwys i gael ei h/adfer i'r gofrestr yn weinyddol? Neu os nad wyf yn gyn gyfarwyddwr/aelod?

Mae Adferiad Gweinyddol yn ddarpariaeth newydd o dan Ddeddf Cwmnïau 2006, y gellir ei defnyddio i ategu pŵer presennol llysoedd i adfer cwmnïau i'r gofrestr. Bydd y pŵer hwn gan lysoedd yn dal i fodoli ar gyfer yr achosion hynny lle na fo adferiad gweinyddol yn gymwys.

I gael mwy o wybodaeth am adferiad gweinyddol neu drwy orchymyn llys, edrychwch ar ein canllaw ar ddileu o'r gofrestr, diddymu ac adfer sydd ar gael ar wefan Tŷ'r Cwmnïau.

COFIWCH... 3 AWGRYM DEFNYDDIOL

1. Sicrhau yr anfonir eich holl ddogfennau mewn un pecyn.

Ni fydd Tŷ'r Cwmnïau'n gweithredu i adfer eich cwmni i'r gofrestr hyd nes i ni gael yr holl ddogfennau nas cyflwynwyd er mwyn diweddaru cofnod eich cwmni. Os dewiswch oedi cyn anfon rhai dogfennau atom, ni fyddwn yn ystyried eich cais i adfer y cwmni i'r gofrestr hyd nes y dônt i law.

2. Sicrhau eich bod wedi cynnwys yr holl ffioedd sy'n daladwy.

Rhaid i'r holl ffioedd am ddogfennau ac unrhyw gosbau ffeilio hwyr gael eu hanfon atom gyda'ch cais i adfer cwmni i'r gofrestr. Ni ellir talu cosbau ffeilio hwyr ar ddyddiad hwyrach (nac mewn rhandaliadau). Ni fyddwn yn ystyried eich cais i adfer cwmni i'r gofrestr hyd nes y daw'r taliad llawn i law.

3. Anfon y llythyr ildio hawl bona vacantia gyda'ch cais.

Fel gydag awgrymiadau 1 a 2 uchod, dylech sicrhau yr anfonir y llythyr ildio hawl bona vacantia ar yr un pryd â'r holl ddogfennau a ffioedd eraill. Os nad ydych wedi cael eich llythyr ildio hawl eto neu os ydych yn y broses o'i gael, ni fydd anfon y dogfennau eraill at Dŷ'r Cwmnïau yn cyflymu'r broses. Os nad yw'ch llythyr ildio hawl wedi'i gynnwys gyda'r dogfennau eraill yn yr un pecyn, ni fyddwn yn ystyried eich cais i adfer cwmni i'r gofrestr hyd nes y daw i law.

Y 10 Prif Reswm dros Wrthod Cais

Brig
Ein polisi ar gwcis