Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Am y Cyhoeddiadau a wnaed i Staff Tŷ’r Cwmnïau ar 4 Mawrth

Mae gan Dŷ’r Cwmnïau weledigaeth i fod yn gofrestrfa hollol electronig. Mae hyn yn wir am ein gwasanaethau mewn perthynas â sawl math o ddogfennau arwyddocaol eisoes ac mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu defnyddio’n dda gan ein cwsmeriaid. Rydyn ni’n disgwyl i’r rhan fwyaf o’r dogfennau allweddol eraill fod yn barod ar gyfer trafodion digidol erbyn Mawrth 2013. Bydd hyn gyfystyr â rhyw 92% o’r holl drafodion yn ôl nifer ac yn cwmpasu 98% o’r cwmnïau. Wrth wneud hyn, byddwn ni’n cynnig gwasanaethau mwy effeithlon, mwy diogel ac mwy cywir am gost sylweddol is o’u cymharu â’r trafodion papur traddodiadol. Rydyn ni’n chwilio hefyd am ffyrdd o resymoli ein gwasanaethau yn gyffredinol ac am ffyrdd o wella ein heffeithlonrwydd.

Cawsom gyfarfodydd gyda’n staff ar 4 Mawrth i esbonio’n fanylach sut rydym yn bwriadu gwireddu’r newidiadau hyn ac i amlinellu rhai o’r sialensiau cyffrous sydd o’n blaenau, yn ogystal â’r dewisiadau anodd y byddwn yn eu hwynebu dros y ddwy flynedd nesaf. Un o’r agweddau pwysig ar y newidiadau a ragwelwn fydd gostyngiad o ryw 200-250 yn nifer ein staff, a hynny o ffigur cyfunol cyfredol o 985. Rydyn ni’n disgwyl gweld gostyngiad o ryw 85 aelod o staff i gychwyn, a chaiff hyn ei gyflawni erbyn Mawrth 2012. Bydd y gweddill yn gadael ar sail cynllunio gofalus wrth i ni ailddatblygu ein gwasanaethau.

Rydyn ni’n ymwybodol y bod hyn yn golygu bod ein staff yn wynebu blwyddyn anodd a byddwn ni’n gwneud popeth yn ein gallu i weithio gyda nhw a’r Undeb Llafur yn ystod y cyfnod hwn er mwyn cynnig cymorth ac arweiniad effeithiol. Byddwn ni’n cynnig amrywiaeth o gynlluniau ymadael a fydd yn galluogi staff yn y grwpiau oedran priodol gyrchu dewisiadau diswyddo ac ymddeol cynnar. Rydyn ni’n disgwyl y bydd modd gwireddu’r gostyngiadau hyn ar sail hollol wirfoddol, ac y byddwn yn gwneud hynny. O ran y rhai a fydd yn ymadael, a’r rhai a fydd yn aros, fe wnawn ein gorau glas i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r holl ddatblygiadau trwy gydol y cyfnod hwn o newid.

Rhagor o wybodaeth am y datblygiadau yn ein gwasanaethau

Dyma grynodeb o fanylion ein cyhoeddiad heddiw:

  • Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi bod yn symud o fod yn sefydliad prosesu ar bapur, i fod yn gofrestrfa electronig, wrth i fwy o gwmnïau ffeilio gwybodaeth ar-lein.
  • Bydd newid i wasanaethau ar-lein yn cynnig manteision sylweddol i’r cwsmeriaid, fel amserau prosesu cyflymach, gwell ansawdd, costau is a gwasanaethau mwy diogel.
  • Dros y 4 blynedd diwethaf, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi gweld gostyngiad o 150 yn nifer ei staff cyfartal ag amser llawn. Byddwn yn parhau i gwtogi dros y 3 blynedd nesaf wrth i ragor o gwmnïau ffeilio ar-lein ac wrth i Dŷ’r Cwmnïau gyflawni rhesymoli pellach.
  • Yn rhan o agenda digidol ehangach y llywodraeth, mae Tŷ’r Cwmnïau yn bwriadu symud i wasanaethau ffeilio hollol electronig ar gyfer y mwyafrif o’r dogfennau safonol sy’n cael eu ffeilio, a hynny erbyn Mawrth 2013. Bydd y newid hwn, ynghyd â’r mesurau effeithlonrwydd eraill a’r gwaith i rannu gwasanaethau, yn golygu y bydd angen tua 200-250 yn llai o swyddi erbyn 2013.
  • Yn y rhan gyntaf yma o’r broses o newid, rydyn ni’n bwriadu cwtogi rhyw 80-100 o swyddi yn 2011/12 a byddwn yn anelu at gyflawni hyn trwy ddiswyddiadau gwirfoddol.
  • Er mwyn cyflawni’r gostyngiad hwn, byddwn yn lansio cynllun o ymadawiadau gwirfoddol heddiw.
  • Cafwyd cysylltiadau llawn â’r Undeb Llafur yn lleol.
Brig
Ein polisi ar gwcis