Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Rhestr Gwyliau Cyhoeddus a Chau Swyddfeydd 2013

Isod mae rhestr o wyliau cyhoeddus sy’n effeithio ar swyddfeydd Tŷ’r Cwmnïau.

Yn ystod y gwyliau bydd ein gwasanaethau ar-lein ar gael ond bydd y Ganolfan Gysylltu a’r Ddesg Gymorth ar gau. Dim ond yn swyddfa Caerdydd bydd staff ar gael i dderbyn dogfennau. Mae cyfleusterau blwch llythyrau ar gael yn Llundain a Chaeredin, ond nid ym Mhelffast.  Rhaid i gyfrifon gael eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ar neu cyn y dyddiad maent yn ddyledus. Ni fydd oedi wrth eu cludo’n cael ei dderbyn fel esgus dros eu cyflwyno’n hwyr. Hyd yn oed os caiff cyfrifon eu cyflwyno diwrnod yn hwyr, caiff cosb ei chodi.

Gellir ffeilio amrywiaeth o ddogfennau’n electronig trwy ein gwasanaethau WebFiling a Software Filing.
(Bydd angen i chi wneud cais am god dilysu i ffeilio’n electronig. Noder bod y codau’n cael eu hanfon trwy’r post i swyddfa gofrestredig y cwmni ac y gallant gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith).

Mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau

Rhestr Gwyliau Cyhoeddus Tŷ’r Cwmnïau 2013
Dyddiad Swyddfeydd mae hyn yn effeithio arnynt
1 Ionawr Calennig Pob swyddfa ar gau
2 Ionawr Gŵyl Banc Swyddfa Caeredin ar gau
18 Mawrth Dydd Gŵyl Padrig Swyddfa Belffast ar gau
29 Mawrth Gwener y Groglith Pob swyddfa ar gau
1 Ebrill Llun y Pasg Pob swyddfa ar gau
6 Mai Gŵyl Banc Calan Mai Pob swyddfa ar gau
20 Mai Gŵyl Fictoria Swyddfa Caeredin ar gau
27 Mai Gŵyl Banc y Gwanwyn Pob swyddfa ar gau
12 & 15 Gorffennaf Gŵyl Banc Swyddfa Belffast ar gau
26 Awst Gŵyl Banc yr Haf Pob swyddfa ar gau
2 Rhagfyr Dydd Gŵyl Andreas Swyddfa Caeredin ar gau
25 Rhagfyr Dydd Nadolig Pob swyddfa ar gau
26 Rhagfyr Dydd Gŵyl San Steffan Pob swyddfa ar gau
Brig
Ein polisi ar gwcis