|
|
Mae busnes ym mhawb. Beth yw’r busnes ynoch chi? Lansiodd y Prif Weinidog ‘Business in You’ (yn Saesneg yn unig) ar 23 Ionawr. Partneriaeth yw hon rhwng mentrau preifat a’r Llywodraeth er mwyn tynnu sylw at fusnesau newydd a busnesau sydd ar dwf, a hyrwyddo ysbryd o fentergarwch yn 2012. Trwy astudiaethau achos o fywyd go iawn, mae’r ymgyrch hon yn tynnu sylw at gwmnïau a lwyddodd i gychwyn neu dyfu er gwaethaf trafferthion economaidd ein dydd. Daw’r cwmnïau hyn o bob math o gefndiroedd, ond mae gan bob un stori wir ac ysbrydoledig i’w hadrodd am sut yr aethant ati i greu bywoliaeth o ddyhead. Mae’r ymgyrch am eich annog chi i fentro eleni trwy gymryd y cam i sefydlu busnes neu beri i un sy’n bodoli eisoes dyfu – trwy ddatblygu eich syniadau, ysgrifennu eich cynllun busnes, cyflogi rhagor o staff neu ddechrau allforio. Bydd yr ymgyrch yn eich helpu chi i wireddu eich syniadau busnes. Does dim ots a ydych chi am bwyso a mesur eich syniadau, neu ddatblygu eich sgiliau ariannol a chynllunio, mae’n cynnig y gefnogaeth a’r ysbrydoliaeth roeddech chi’n chwilio amdani gan ddefnyddio esiamplau llwyddiannus o fywyd go iawn. Mae’n darparu cysylltiadau â’r offer allweddol i gynnal busnes, yn amlygu’r offer arbenigol sydd ar gael gan StartUp Britain a phob math o bartneriaid eraill. Beth yw’r busnes ynoch chi? |
|