|
|
Tystysgrifau anfodolaeth, copi ychwanegol o dystysgrif morgais a thystysgrifau Grwpiad Buddiannau Economaidd Ewropeaidd (EEIG) Mae wedi dod i’n sylw bod Tŷ’r Cwmnïau, o bosibl, wedi gwerthu’r tystysgrifau canlynol heb fod â ffi statudol am wneud hynny:
O’r herwydd, rydym yn rhoi gwybod i’n cwsmeriaid er mwyn i’r rheiny sydd â hawl i gael ad-daliad wneud cais amdano. C. Oes gan bob cwsmer a brynodd y cynnyrch hwn yn uniongyrchol oddi wrth Dŷ’r Cwmnïau hawl i gael ad-daliad? Oes. C. Â phwy ddylwn i gysylltu i gael ad-daliad? Dylid gwneud cais am bob ad-daliad yn ysgrifenedig, gan ei anfon, ynghyd â phrawf pryniant, at: Marie Flowers C. Â phwy ddylwn i gysylltu os oes gen i ymholiad? Anfonwch neges e-bost at enquiries@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch Ganolfan Gysylltu Tŷ’r Cwmnïau ar 0303 1234 500.
|
||