|
|
Newidiadau Arfaethedig i Ddogfennau Cwmni ar Microfiche Mae’r galw am gopïau o gofnodion microfiche wedi gostwng yn ddramatig mewn blynyddoedd diweddar. Rhoesom ni’r gorau i ddiweddaru’r cofnodion microfiche yn 2002 ac yn sgil cyflwyno’r Gwasanaeth Sganio yn ôl y Galw, mae’r galw amdanynt wedi parhau i ostwng. Mae ein hoffer copïo fiche yn dirywio ac mae hi’n amhosibl cael gafael ar ddarnau newydd i’w trwsio, felly rydyn ni wedi bod yn chwilio am ddull arall o ddarparu’r wybodaeth i’n cwsmeriaid. Am hyn, rydyn ni’n bwriadu rhoi’r gorau i gynhyrchu’r cofnodion microfiche ac o ddydd Llun, 6 Rhagfyr ymlaen, byddwn yn darparu cynnwys y cofnodion microfiche ar DVD Rom. Sut mae mynd ati i archebu’r fersiynau DVD Rom o’r wybodaeth archif? Caiff y cyfleusterau archebu sydd ar gael ar gyfer fiche eu trosi er mwyn archebu’r wybodaeth ar ffurf DVD Rom. Caiff hyn ei wneud trwy Wasanaeth Companies House Direct, y Ganolfan Gyswllt a’r Canolfannau Gwybodaeth. Beth fydd cost y gwasanaeth newydd? £20.00 fydd cost y DVD Rom. Fel yn achos holl nwyddau a gwasanaethau Tŷ’r Cwmnïau, cyfrifir y ffi ar sail egwyddorion adfer cost. Er gwybodaeth, petai’r cynnyrch microfiche wedi parhau, byddai wedi cynyddu’n sylweddol ar sail y drefn gostio yma. Beth am ddanfon y wybodaeth? Trwy’r post: Caiff archebion sy’n dod i law cyn 11:00am dydd Llun i ddydd Gwener eu dosbarthu’r diwrnod gwaith nesaf. Caiff archebion sy’n dod i law ar ôl 11:00am, neu unrhyw amser ar ddydd Sadwrn, dydd Sul neu Ŵyl Banc eu dosbarthu cyn pen 2 ddiwrnod gwaith Dylid nodi na ellir gwarantu amserau dosbarthu oherwydd ffactorau allanol. Casglu : Mae Canolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau (Caerdydd, Caeredin, Llundain a Belffast) ar agor rhwng 9.00am a 5.00pm dydd Llun i ddydd Gwener (heblaw am wyliau banc). Cewch ddod i gasglu archebion sy’n dod i law cyn 11:00am dydd Llun i ddydd Gwener cyn pen 2 ddiwrnod gwaith. Pa wybodaeth fydd ar y DVD o ddogfennau archif? Bydd y DVD yn cynnwys delweddau PDF o ddogfennau cwmni a ffeiliwyd cyn 31 Rhagfyr 2002 (oedd ar gael ar microfiche gynt). Bydd y DVD yn rhestru’r delweddau o ddogfennau yn y drefn isod, ac wedyn yn gronolegol, ym mhob un o’r categorïau canlynol:
Pa feddalwedd/caledwedd fydd ei hangen arnaf i weld y wybodaeth ar y DVD o ddogfennau archif? Bydd angen darllenydd DVD ar eich cyfrifiadur a bydd arnoch angen meddalwedd sy’n eich galluogi chi i weld y delweddau o’r dogfennau ar ffurf PDF Ble mae cael rhagor o wybodaeth? Byddwn ni’n diweddaru’r dudalen hon er mwyn ateb unrhyw gwestiynau cyffredin sy’n codi. Tachwedd 2010
|
||