|
|
05/02/2008 Hysbysiad Pwysig ynglŷn â Swyddogaethau Prosesu Tŷ’r Cwmnïau ac Ataliad Gwasanaethau Dros Dro Rydym bellach yn tynnu at weithrediad project Systemau Prosesu Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau. System newydd i gymryd lle ein hen brif gyfrifiadur yw hon a fydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd inni er mwyn datblygu ein gwasanaethau yn y dyfodol. Mae hwn yn newid enfawr inni. Ein bwriad yw lleihau amhariaeth ar ein gwasanaethau gymaint ag a ellir. Fodd bynnag bydd angen ymgymryd â gwaith hanfodol rhwng dydd Gwener 22 a dydd Llun 25 Chwefror 2008, cynwysedig. O ganlyniad, fe effeithir ar y gwasanaethau canlynol yn ystod y cyfnod: Noder - Yr ydym yn argymell bod cwsmeriaid yn bwrw golwg ar y ddalen hon yn gyson i weld a oes unrhyw newidiadau i’r swyddogaethau a’r gwasanaethau. Gwasanaethau Ar-lein
* Sylwer mai dyddiad eu derbyn fydd yn cael ei briodoli i ddogfennau, ni waeth pa bryd y byddant yn cael eu prosesu ac yn ymddangos ar y gwasanaethau allbwn. Ailgydir yn y Gwasanaethau ar-lein am 9.00am ar ddydd Mawrth 26 Chwefror 2008. Bydd Canolfannau Gwybodaeth Tŷ’r Cwmnïau ar agor fel arfer ond effeithir ar y gwasanaethau canlynol
* Ailgydir yn y gwasanaethau Prosesu Corfforiad ar Bapur yr Un Diwrnod, Newid Enw, Cofrestru a Chopïau Ardystiedig ar ddydd Mawrth 26 Chwefror 2008. Canolfan Cysylltu Tŷ’r Cwmnïau Bydd y Canolfan Cysylltu ar agor fel arfer ar ddydd Gwener 22 a dydd Llun 25. Fodd bynnag, fe effeithir ar y gwasanaethau canlynol:
* Software Filing Service
* Bydd pob prosesu’n dod i ben am 3.00pm ar ddydd Iau 21 Chwefror 2008. Pob cyflwyniad sy’n dal i ddod i law yn cael ei gydnabod a’i roi i gadw. Bydd y prosesu’n ailddechrau ar ddydd Mawrth 26 Chwefror 2008. Fe lwyr werthfawrogwn na fydd croeso, hwyrach, i unrhyw darfu ar ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwn. Gobeithiwn y byddwch yn deall bod angen inni wneud hyn er mwyn sicrhau gweithrediad llwyddiannus i’r drefn newydd. Carem ddiolch ichi ymlaen llaw am eich cydweithrediad cyson, ac ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a gaiff ei achosi i chi neu’ch cleientydd. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, peidiwch â phetruso rhag cysylltu â ni. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||