|
|
Ailgofrestru o gwmni preifat i gwmni cyhoeddus Mae Tŷ’r Cwmnïau yn cael nifer fawr o alwadau teleffon, o dan y drefn Ffeilio drwy Feddalwedd, ynglŷn â’r datganiad statudol sydd eisiau o dan adran 43(3)(e) o Ddeddf Cwmnïau 1985 [ailgofrestru cwmni preifat fel cwmni cyhoeddus]. Er bod isadran 3A o adran 43 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno datganiad cydymffurfio electronig yn lle’r datganiad statudol, nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn cefnogi eto gyflwyno’r datganiad cydymffurfio hwn drwy’r drefn electronig. O ganlyniad, bydd raid defnyddio’r datganiad statudol ar bapur tan inni allu cefnogi cyflwyniad electronig y datganiad cydymffurfio. |
||