|
|
Newidiadau i Rif Ffôn Canolfan Gysylltu Tŷ’r Cwmnïau – Diweddariad Rydym wedi parhau i ddiwygio gohebiaeth cwsmeriaid i adlewyrchu rhif teleffon newydd ein Canolfan Cysylltu (0303 1234 500), sydd wedi golygu bod dros 75% o alwadau’n cael eu derbyn drwy’r rhif hwn. Bydd nifer mawr o newidiadau i ohebiaeth yn digwydd fel rhan o weithrediad Deddf Cwmnïau 2006. Hyd hynny, yn hwyrach eleni, bydd rhywfaint o ohebiaeth yn parhau i ddangos yr hen rif 0870. Mae nifer fach o gwsmeriaid wedi rhoi gwybod inni am broblemau cwmpas mewn rhai ardaloedd lle cyflëir y neges nad yw’r rhif newydd ar gael. Anogwn gwsmeriaid i roi gwybod hefyd i’w darparwyr teleffoni eu hunain am broblemau argaeledd y rhif 0303. Byddwn yn cyfleu’r pryderon hyn i OFCOM ac ymddiheurwn i gwsmeriaid yr effeithir arnynt am unrhyw anghyfleustra a achoswyd drwy hyn. Rhown wybod ichi’n gyson am fanylion diweddara’r cynnydd a wneir. Mawrth 2009 |
||