Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Tŷ’r Cwmnïau, Caeredin, yn Symud

Gan fod trefniadau’n prydles flaenorol wedi dod i ben, bydd ein swyddfa yng Nghaeredin yn symud i eiddo newydd, a hynny ar Ddydd Mawrth 26ain Mai 2009. Bydd y symud yn mynd â ni i un o ddatblygiadau busnes diweddara’r ardal: safle 'Edinburgh Quay 2'.

Erys llawer o waith i’w wneud yn y cyfamser i baratoi at y symud angenrheidiol hwn ond mae Tŷ’r Cwmnïau yn gweld hyn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn ac yn un y bydd ein hymwelwyr yn ei werthfawrogi. Mae cynlluniau’r symud ar y gweill ers cryn dipyn ond erbyn hyn, wrth i’r trefniadau ymarferol fagu nerth, byddwn yn cysylltu â’n budd-ddeiliaid yn uniongyrchol i gyfleu’r manylion perthnasol.

Ni ragwelwn unrhyw aflonyddu sylweddol ar ein gwasanaethau papur ac ni fydd unrhyw newid o gwbl yn dod i sylw’n Cwsmeriaid Electronig cynyddol yn sgil y symud hwn, gan y bydd y gwasanaethau hyn yn aros yn ddigyfnewid. Dylai pawb o’n cwsmeriaid barhau i ffeilio’n arferol.

Am wybodaeth bellach cysylltwch â:

Desg y Wasg
Tŷ’r Cwmnïau
029 20380161

Brig
Ein polisi ar gwcis