Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 
 

Gwobrau Rhagoriaeth Cyfarwyddwyr Cyllidol y CBI 2008

Asiantaeth Lywodraeth y Flwyddyn: Tŷ’r Cwmnïau.

Gwefr i gynrychiolwyr Tŷ’r Cwmnïau fu derbyn un o Wobrau Rhagoriaeth Cyfarwyddwyr Cyllidol y CBI eleni – gwobrau o fri wedi’u cyflwyno mewn seremoni fawreddog ar 15 Ebrill. Cyhoeddwyd hyn mewn cinio cyflwyno gwobrau lle’r oedd Yvette Cooper yn cynrychioli’r Llywodraeth ar y lefel Weinidogol gyda Vicky Pryce (Prif Ymgynghorydd Economaidd BERR) hefyd yn bresennol.

Roedd ein Gwobr ni ymhlith y rhai oedd yn gwbl seiliedig ar bleidleisiau Cyfarwyddwyr Cyllidol mewn cwmni sy’n aelodau o’r CBI a chafodd ei derbyn gan Tom Smith, Cyfarwyddwr Diwallu Anghenion Cwsmeriaid Tŷ’r Cwmnïau, oedd yno gyda’i gydswyddogion Val Jasinski (Gwasanaeth Cwsmeriaid a Chydymffurfio), Jack Mansfield (Cydgysylltu â’r Proffesiwn Cyfrifeg) a Jane Walters (Gwasanaethau Cefnogi Cwsmeriaid).

Mewn ymateb, dywedodd Gareth Jones, Prif Swyddog Gweithredol Tŷ’r Cwmnïau, 'Mae hyn yn anrhydedd mawr i Dŷ’r Cwmnïau a BERR ond nid yw’n syndod yn y byd i mi. Rwyf wrth fy modd bod cwsmeriaid mor ddylanwadol wedi cydnabod yn y ffordd hon y gwaith mawr a wnawn iddyn nhw ac i’r cyhoedd yn gyffredinol. Gwelsom adeg o newid a her sylweddol ac mae amseriad y wobr hon yn golygu’n bod ni’n deillio mwy fyth o foddhad o’r cyrhaeddiad. Rydym yn gorff a gaiff ei yrru gan weithlu brwd sydd â gwir awydd am wasanaethu’n cwsmeriaid a dyma fi’n cyfleu fy niolch a’m llongyfarchiadau didwyll i bawb a wnaeth hyn yn bosib’.

Brig
Ein polisi ar gwcis