Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan
Gwasanaeth Cymraeg
Hafan | Cysylltu â ni | English  
 
Cwestiynau Mwyaf Cyffredin atebion cyflym i'n cwestiynau mwyaf cyffredin

Amdanon Ni

HMRC aThÿ’r Cwmnïau yn cyhoeddi ymagwedd ar y cyd at ffeilio ar-lein

Ar 1 Medi 2009, cyhoeddodd HMRC a Thŷ’r Cwmnïau ddatganiad ar eu hymagwedd ar y cyd at ffeilio cyfrifon cwmnïau ar-lein. Darllenwch gyd-ddatganiad HMRC a Thŷ’r Cwmnïau (PDF 35Kb)

Ers hynny, mae’r gwaith o ddatblygu’r fformatau electronig wedi symud yn ei flaen er mwyn galluogi i’r cyfrifon statudol sy’n cael eu hanfon at HMRC fod yn dderbyniol i Dŷ’r Cwmnïau hefyd. Y bwriad yw sicrhau bod y cyfrifon ar gael fel templed y gellir ei gyrchu o wefan HMRC a gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau. Bydd templed y cyfrifon ar ffurf PDF a bydd modd ei ddadlwytho o’r we a’i gadw ar gyfrifiadur personol. Bydd y templed yn cynnwys offeryn gwirio a dilysu ynghyd â botymau gwybodaeth sy’n cynnig canllawiau pellach drwyddi draw. Bydd archwiliadau cyn cyflwyno yn helpu i sicrhau nad oes dim wedi cael ei hepgor ac nad oes unrhyw gamgymeriadau yn y symiau. Bydd modd argraffu neu e-bostio fersiynau drafft o’r cyfrifon ar unrhyw adeg er mwyn i gydweithwyr neu fwrdd y cyfarwyddwyr eu gweld er gwybodaeth neu at ddibenion dilysu.

Bydd y gwasanaeth ar gyfer cwmnïau bychain yn bennaf. Bydd yn golygu taw dim ond unwaith y bydd angen iddynt fewnbynnu’r data er mwyn cyflwyno cyfrifon sydd wedi eu paratoi o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 i HMRC a Thŷ’r Cwmnïau.

Gwybodaeth fwy manwl a chwestiynau cyffredin ar gyfer Software Filing a WebFiling.

I gael y newyddion diweddaraf ar gynnydd y gwaith o ddatblygu cyfrifon ar y cyd, cofrestrwch i gael gwybodaeth RSS am gyfrifon (Saesneg yn unig).

Newyddion Blaenorol