Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

Tŷ'r cwmnau yn mynd i'r afael thwyll

Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi cyflwyno dau wasanaeth electronig newydd i helpu cwmnïau i osgoi twyll ariannol. Mae nifer fach ond cynyddol o’n cwsmeriaid yn profi risg “herwgipio cwmni”. Dyma sy’n digwydd pan fydd troseddwr yn ffugio dogfen drwy newid cyfeiriad cwmni i gyfeiriad un arall sydd dan ei reolaeth ef. Wedyn, gall ddefnyddio’r cwmni “lladrad” hwn i archebu nwyddau a gwasanaethau, gan fasnachu ar gefn teilyngdod credyd y cwmni.

Cyflwynwyd PROOF (PROtected Online Filing) ar 17 Ionawr i ddarparu diogelwch uwch ar gyfer cwmnïau sy’n ffeilio dogfennau gyda ni. Os penderfyna cwmni ymrestru o dan drefn PROOF, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn ffurflenni statudol penodol ar ddiwyg electronig yn unig, gan wrthod unrhyw gyflwyniadau papur. Mae PROOF ar gael i unrhyw gwsmer sydd wedi ymrestru i ffeilio gwybodaeth gyda ni’n electronig.

Bu inni hefyd wella gwasanaeth Monitor Tŷ’r Cwmnïau, gan drefnu iddo fod ar gael yn electronig i danysgrifwyr Companies House Direct (CHD). Mae Monitor yn caniatáu i gwsmeriaid gadw llygad ar nifer o gwmnïau a ‘monitro’ pa ddogfennau y byddant yn eu ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau. Mae gwasanaeth Monitor o gymorth i fynd i’r afael â thwyll ariannol drwy dynnu sylw cwmnïau at unrhyw newidiadau diawdurdod i’w cofnod cwmni. Gall cwsmeriaid ei ddefnyddio hefyd i sicrhau’r manylion diweddaraf yn gyson am eu cyflenwyr, eu cwsmeriaid neu eu cystadleuwyr.

Dywedodd Tom Smith, Cyfarwyddwr Gwireddu Gwasanaeth Cwsmeriaid:

'Mae’r math hwn o dwyll yn brin, ond yn tyfu. Dyna pam ein bod yn cynnig i’n cwsmeriaid gynllun tri-cham syml i’w diogelu’u hunain. Yn gyntaf, ymrestrwch i anfon eich gwybodaeth atom yn electronig – mae’n gyflymach, yn rhatach ac yn fwy diogel. Yn ail, defnyddiwch PROOF i atal twyllwr rhag anfon atom bapurau wedi’u ffugio. Yn drydydd, defnyddiwch MONITOR i wirio ac ailwirio bod yr wybodaeth sydd gennym amdanoch yn cyfleu’r hyn a ddylai. A dyna chi’n prynu llawer o ddiogelwch am ychydig iawn o arian.'

Nodiadau i olygyddion

  • Tŷ’r Cwmnïau yw asiantaeth y DTI sydd â chyfrifoldeb am gorffori a diddymu cwmnïau, am gofrestru’r wybodaeth a ddarparant o dan y Ddeddf Cwmnïau a deddfwriaeth gysylltiedig, ac am drefnu i’r wybodaeth hon fod ar gael i’r cyhoedd.
  • Y ffurflenni y gellir eu cyflwyno’n electronig o dan y cynllun PROOF newydd yw 288a, 288b, 288c a 287, a 363s (ffurflen ôl-a-blaen flynyddol).
  • Mae gwasanaeth Monitor ar gael am gost o 0.50c am bob cwmni sydd i’w fonitro a bydd pob cais yn para am gyfnod o12 mis. Wedi hyn, gallwch ddewis adnewyddu neu ollwng y monitro. Gallwch hefyd Olygu neu Ddileu cwmni sydd i’w fonitro unrhyw adeg drwy’r cyfleustra ‘hunan-wasanaeth’ newydd. Telir drwy broses anfonebu Companies House Direct lle bydd cwsmeriaid yn derbyn cyfriflen ac anfoneb fisol y mae’n rhaid ei thalu o fewn 30 diwrnod. Gall cwsmeriaid hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i sicrhau’r manylion diweddaraf yn gyson am eu cyflenwyr, eu cwsmeriaid neu eu cystadleuwyr.
  • Mae PROOF ar gael yn ddi-dâl i unrhyw gwsmer sydd wedi ymrestru i ffeilio’n electronig. Bydd ein cwsmeriaid electronig hefyd yn elwa ar wasanaeth uwch – caiff pob gwybodaeth a gyflwynir inni ei gwirio’n awtomatig am gamgymeriadau cyn ei hanfon ymlaen, a byddwn yn ei derbyn a’i chydnabod ar unwaith. Byddant hefyd yn elwa ar brisiau is - £15 yw’r gost am ffeilio’ch Ffurflen Flynyddol yn electronig; mae’n costio £30 am ei ffeilio ar bapur.
Ewch i www.companieshouse.gov.uk am ragor o wybodaeth ynghylch gwasanaethau Tŷ’r Cwmnïau.
Brig
Ein polisi ar gwcis