|
10 Mehefin 2010; 3.00 pm – Effaith toriadau’r Llywodraeth ar Dŷ’r Cwmnïau Yn dilyn cyhoeddiadau’r llywodraeth am sicrhau arbedion ariannol, mae Tŷ’r Cwmnïau wedi bod yn gweithio’n galed i gynllunio ffyrdd o fynd ati i sicrhau gwerth 11% o gynilion ar gyfer y flwyddyn. Mae hyn gyfwerth â £6.4 miliwn. Rydyn ni’n benderfynol o seilio ein penderfyniadau ar yr egwyddor bod rhaid i ni gadw’r effaith ar ein cwsmeriaid i’r lefel isaf bosibl a rheoli unrhyw faterion o ran staff yn unol â’n gwerthoedd. Mae gennym grŵp brwdfrydig ac ymroddgar o staff yn Nhŷ’r Cwmnïau a pherthynas dda â swyddogion yr undebau llafur. Byddwn ni’n cydweithio’n agos â phawb o dan sylw er mwyn cyflawni’r sialensiau. Rydyn ni wedi cyhoeddi arbedion o ran teithio, hyfforddiant, recriwtio, lletygarwch ac eitemau disgresiynol eraill a ddaw i rym ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys gwahardd teithiau dosbarth cyntaf, teithio dim ond pan fo wir angen ac atal recriwtio o’r tu allan. Yn ogystal, byddwn ni’n edrych ar ffyrdd o leihau gwariant adrannau mewnol lle bo modd er mwyn gwneud arbedion darbodus. Yn nhermau ein staff, caiff cyflogau eu hunfannu ar gyfer 2010/11 – a byddwn ni’n trafod y mater hwn ymhellach gyda’r undeb llafur. Ni chaiff unrhyw ddyfarniadau effeithlonrwydd corfforaethol eu talu yn 2010/11 a byddwn ni’n cymryd camau i leihau goramser a lleihau costau ‘ar alwad’ cymaint â phosibl. Er mwyn gwireddu’r targed o 11%, bydd angen i ni leihau nifer y staff. Mae hyn yn cyd-fynd â’n strategaeth tymor hir, ond mae’r her sy’n ein hwynebu nawr yn golygu y bydd angen cyflymu’r broses. Fodd bynnag, rydyn ni wedi rhoi sicrwydd i’r staff y byddwn yn anelu at leihau niferoedd y staff trwy ddileu’r angen am ddefnyddio staff asiantaeth, peidio â llenwi swyddi wrth i bobl adael y sefydliad, a sicrhau gostyngiadau pellach trwy ddulliau gwirfoddol. Mae yna gostau ynghlwm wrth gynnal dau safle yn ardal Caerdydd, ac mae cyfuno’n timau yn ne Cymru ar un safle’n gwneud synnwyr ariannol. Am hynny, rydyn ni wedi cychwyn project i ystyried cau ein swyddfeydd yn Nantgarw yn gynt na’r disgwyl. Yn y tymor hwy, rhaid i ni barhau i fwrw ymlaen â’n gwasanaethau electronig i gwsmeriaid a gwella rhagor ar eu heffeithlonrwydd fel adnoddau. Yr her y mae’r Llywodraeth newydd wedi ei gosod i ni yw lleihau costau a gwella effeithlonrwydd, a hynny wrth barhau i wella gwasanaethau i’n cwsmeriaid. Byddwn ni’n cynllunio ar y sail honno ac yn gweithio’n galed i gyflawni’r nodau hyn. Neil White |
|||