Tÿ'r  Cwmnïau - Hafan

Tÿ'r Cwmnïau

 
 

9 Mehefin 2010; 4.00 pm – Effaith toriadau’r Llywodraeth ar Dŷ’r Cwmnïau

Yn yr un modd â gweddill yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau, mae angen i Dŷ’r Cwmnïau ddod o hyd i 11% o doriadau eleni. Mae pethau wedi symud yn gyflym dros yr wythnosau a’r dyddiau diwethaf. Mae ein Cyfarwyddwyr wedi bod yn gweithio’n galed i wneud cynlluniau a threfniadau effeithiol i gyflawni’r toriadau, a hynny heb beryglu’r gwasanaethau rhagorol rydyn ni’n eu darparu ar gyfer ein cwsmeriaid.

Caiff y manylion cynnar eu cyhoeddi i staff ein holl swyddfeydd yn y DU yr un pryd; gan gynnwys ein pencadlys yng Nghaerdydd. Mae hi’n briodol mai’r staff fydd y cyntaf i glywed y manylion hyn, ac ni fyddwn ni’n cyhoeddi unrhyw sylwadau pellach tan ar ôl y ‘Cyfarfod i’r Holl Staff’ ddydd Iau. Mae gennym ni grŵp o staff ymroddgar, medrus a brwdfrydig dros ben yn Nhŷ’r Cwmnïau ac mae’r rheolwyr yn rhannu eu pryderon am y dyfodol. Mae hi’n amser ar gyfer cynllunio gofalus heb gyffroi, ac mae’r ‘Cyfarfod’ yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i gyfathrebu â’n staff. Rydyn ni’n cynnal trafodaethau hefyd gyda chynrychiolwyr undebau llafur y busnes a byddwn ni’n cydweithio â nhw dros yr ychydig fisoedd nesaf i rannu gwybodaeth ac i drafod datblygiadau posibl. 

Rhan annatod o feddylfryd y llywodraeth yw y dylai gwasanaethau effeithiol i gwsmeriaid barhau i ganolbwyntio eu hymdrechion ar ddarparu gwasanaethau’r rheng flaen. Mae Tŷ’r Cwmnïau wedi meithrin enw rhagorol iddo’i hyn yn hyn o beth. Mae hyn wedi ei gyflawni dros nifer o flynyddoedd, ac weithiau o dan amgylchiadau anodd. Mae ein rôl o fewn y llywodraeth yn hanfodol i gynnal datblygiad busnesau Prydain, ac am hynny, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth osod y sylfeini gorau posibl ar gyfer adferiad economaidd.

Neil White
Rheolwr Cysylltiadau Mewnol a’r Wasg
Tŷ’r Cwmnïau
029 20380161

Brig
Ein polisi ar gwcis